Rhagair
Cynhaliwyd ymchwil arloesol unwaith eto eleni.
Mae ymchwilwyr a thimau cyflawni talentog ledled Cymru wedi cyfrannu at ymchwil o safon fyd-eang ac wedi arwain y gwaith hwnnw – o’r ymdrechion parhaus er mwyn helpu i frwydro yn erbyn COVID-19, i helpu i ganfod triniaethau newydd ar gyfer pobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl a chlefydau prin, yn ogystal â gwella ein dealltwriaeth o faterion iechyd byd-eang, megis ymwrthedd i wrthfiotigau.
Hoffwn ddweud ‘Diolch o galon’ i’r staff hynny a helpodd i gynnal yr astudiaethau hyn, ond hefyd i’r bobl hynny sydd wedi rhoi o’u hamser er mwyn helpu i lywio’r ymchwil hwn a chymryd rhan ynddi – mae’n wych gweld bod cynifer o bobl yn cyfrannu ati.
Drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn buddsoddi yn yr astudiaethau a fydd yn fwyaf perthnasol i bobl yng Nghymru, gan helpu i ddarparu’r dystiolaeth i sicrhau effaith a newid gwirioneddol a darparu’r triniaethau a’r gofal mwyaf effeithiol i gleifion. Mae hyn wedi’i amlygu’n glir gan dderbynwyr y dyfarniadau grant a chyllid eleni, ac mae pob un ohonynt yn berthnasol iawn o ran y cyhoedd, arfer a pholisi.
Mae’r ymchwil a gynhaliwyd dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn rhan annatod o bolisïau allweddol a mentrau cenedlaethol, yn yr un modd â’r weledigaeth uchelgeisiol i drawsnewid y ffordd y caiff ymchwil glinigol ei darparu ledled y DU, ‘Achub a Gwella Bywydau: Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Clinigol yn y DU’. Mae dull Cymru’n Un, sy’n cyflymu’r broses o drefnu a darparu astudiaethau yn fwy effeithlon ac yn fwy arloesol, yn brawf o’r gwaith hwn, yn ogystal â’r ymdrechion cynyddol i wneud cyfranogiad mewn ymchwil mor hawdd â phosibl a grymuso staff iechyd a gofal i wneud ymchwil.
Mae ein hymdrechion a’n blaenoriaethau yn parhau i gyd-fynd â Strategaeth ‘Cymru Iachach’ a’n ‘Rhaglen Lywodraethu’, gyda phwyslais allweddol ar ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol menywod ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Rwy’n falch o weld y cynnydd mewn ymchwil yn y meysydd hyn eisoes, gyda thystiolaeth o astudiaethau i seicosis ôl-enedigol a chartrefi gofal
Rydw i’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’n cymuned ymchwil yn y dyfodol, gan ddod â buddion ymchwil i bawb.
Eluned Morgan
Eluned Morgan AS Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Cyflwyniad
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae pandemig COVID-19 wedi parhau i chwarae rhan fawr ym mywyd pob un ohonom – ac i fod yn ganolbwynt enfawr ar gyfer yr ymdrech ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru. Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi cefnogi 119 o astudiaethau COVID-19 a bod mwy na 60,000 o bobl yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn ymchwil COVID-19. Mae ymchwil wedi helpu mewn cynifer o ffyrdd i wella gofal i gleifion, ac mae Canolfan Tystiolaeth COVID-19 Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i ddarparu cyfuniadau cyflym o’r dystiolaeth er mwyn helpu Llywodraeth Cymru, y GIG a sefydliadau gofal i ddefnyddio’r ymchwil yn effeithiol wrth wneud penderfyniadau.
Wrth inni ddechrau dod allan o gyfnod gwaethaf y pandemig, rydym wedi gweithio’n galed i adfer gweithgarwch ymchwil ym mhob rhan o’r maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gefnogi’r GIG i ailddechrau ymchwil mewn meysydd lle cafodd ei ohirio. Yn ystod y pandemig, rydym wedi gweld sut y gwnaeth ein model ymchwil, Cymru’n Un, wella’r gwaith o gydgysylltu’r broses o ddarparu ymchwil ar draws y GIG yn sylweddol, a dylem geisio gweithio mewn partneriaeth yn y dyfodol i sicrhau cymorth effeithlon a symlach ar gyfer ymchwil.
Gydag effaith ymchwil yn fwy amlwg nag erioed erbyn hyn, mae canolfannau a chyfleusterau ymchwil pwrpasol newydd wedi cael eu datblygu mewn byrddau iechyd ledled Cymru, gan gynnwys ym Myrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Betsi Cadwaladr, Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan. Mae’r canolfannau a’r cyfleusterau ymchwil hyn yn rhoi mwy o gyfleoedd i gleifion gymryd rhan mewn treialon clinigol, sy’n eu galluogi i gael gafael ar y triniaethau a’r therapïau diweddaraf yn gynt.
Rydym wedi parhau i ariannu prosiectau sy’n berthnasol o ran y cyhoedd, arfer a pholisi, wrth gefnogi datblygiad ymchwilwyr unigol ledled Cymru. Arweiniodd galwadau am gyllid rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022 at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ariannu 30 o ddyfarniadau newydd gwerth £6.4 miliwn.
Gan gwmpasu ystod eang o feysydd iechyd o iechyd meddwl a chanser, i eneteg a genomeg, parhaodd ein canolfannau ymchwil i gynnal mwy o ymchwil o safon fyd-eang yng Nghymru sy’n mynd i’r afael ag anghenion a heriau yn y byd go iawn.
Mae’r cyhoedd yng Nghymru yn ganolog i sicrhau perthnasedd ac ansawdd yr ymchwil a ariannwn, a dyna pam ein nod yw ymgysylltu â nhw a’u cynnwys ym mhopeth a wnawn. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi ein galluogi i fanteisio ar ddealltwriaeth gynyddol pobl o bwysigrwydd ymchwil iechyd a gofal, drwy roi cynllun gweithredu blaenllaw Llywodraeth Cymru ar gynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd ar waith, sef ‘Darganfyddwch eich rôl’ a pharhad ein hymgyrch ‘Ble fydden ni heb ymchwil?’
Mae llawer o waith i’w wneud o hyd. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer y tair blynedd nesaf, gan nodi sut y bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gweithio i gyflawni ein diben - sef hyrwyddo, cefnogi a darparu trosolwg ar y cyd o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, er mwyn sicrhau ei fod o’r ansawdd gwyddonol rhyngwladol uchaf, yn berthnasol i anghenion a heriau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac yn gwneud gwahaniaeth i bolisi ac ymarfer mewn ffyrdd sy’n gwella bywydau cleifion, pobl a chymunedau yng Nghymru.
Kieran Walshe
fydden ni heb...
Ein canolfannau ymchwil
Gan ymdrin ag ystod eang o feysydd iechyd o iechyd meddwl, canser a geneteg, i ofal cymdeithasol plant a phoblogaeth ac iechyd y cyhoedd, nod ein canolfannau ac unedau ymchwil yw hybu faint o ymchwil o safon fyd-eang a gynhelir yng Nghymru. Maent yn gweithio gyda phartneriaid y GIG a gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau bod eu portffolios ymchwil yn mynd i’r afael ag anghenion a heriau yn y byd go iawn.
Yn 2021-22, parhaodd ein canolfannau a’n hunedau i ymateb i heriau COVID-19, gan ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r holl ddatblygiadau arloesol a ddatblygwyd yn ystod y pandemig ar yr un pryd i gyflawni astudiaethau nad ydynt yn rhai COVID-19. Eleni, arweiniodd eu gweithgarwch at 175 o ddyfarniadau ymchwil newydd gwerth cyfanswm o £36.8 miliwn. Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos pwysigrwydd ymarferol yr ymchwil sy’n digwydd i faes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae ein Canolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol yn arwain y ffordd yn y DU gyda’i hymchwil i iechyd meddwl mamau. Mae hyn yn cynnwys iselder ôlenedigol, sy’n effeithio ar tua 1 o bob 10 o fenywod, a seicosis ôl-enedigol, sy’n effeithio ar tua 1 o bob 1000 o fenywod yn y DU. Mae astudiaeth ar seicosis ôl-enedigol a’i gysylltiad ag anhwylder deubegynol yn y DU, wedi amlygu’r gwahaniaethau rhwng seicosis ôl-enedigol ac anhwylder deubegynol am y tro cyntaf, a dyma’r astudiaeth enetig fwyaf o seicosis ôl-enedigol hyd yma. Gan nad yw seicosis ôl-enedigol yn cael ei gydnabod gan systemau diagnostig swyddogol, mae’r ymchwil hwn yn hanfodol i godi ymwybyddiaeth a sefydlu’r cyflwr o fewn y sbectrwm anhwylder deubegynol. Cafodd yr ymchwil hwn sylw yn ddiweddar ar ein podlediad ‘Ble fyddech chi heb ymchwil?’.
Mae partner hirsefydlog arall, sef Parc Geneteg Cymru yn cefnogi ymchwil hanfodol i glefydau prin. Mae ymchwil sy’n cael ei wneud gan Grŵp Ymchwil Syndromau Tiwmor Etifeddol fel rhan o Parc Genetig Cymru, yn arwain at well dealltwriaeth o achosion genetig sylfaenol clefydau prin, megis sglerosis twberaidd, gan achosi tiwmorau i ddatblygu mewn gwahanol rannau o’r corff, gan gynnwys yr ymennydd, yr arennau, y galon a’r ysgyfaint. Nod astudiaeth sy’n edrych ar genynnau a’r arennau mewn achosion o sglerosis twberaidd yw darganfod sut yr effeithir ar arennau pobl sy’n dioddef o sglerosis twberaidd wrth iddynt dyfu’n hŷn, a sut y dylai lywio’r defnydd o driniaethau a meddyginiaeth newydd. Darllenwch stori Trystan i ddysgu sut mae ymchwil o fudd i bobl sy’n byw gyda sglerosis twberaidd.
Mae’r defnydd eang o wrthfiotigau ym maes gofal sylfaenol yn cyfrannu at ddatblygiad ymwrthedd gwrthficrobaidd, a ddisgrifir yn eang fel un o fygythiadau mwyaf difrifol ein hoes. Mae Canolfan PRIME Cymru yn gwneud cynnydd rhyfeddol o ran gwella ein dealltwriaeth o fanteision a niwed gwrthfiotigau gwahanol. Mae un astudiaeth yn edrych ar driniaeth wrthfiotig a’r risg o waedu difrifol ymhlith pobl sy’n cymryd meddyginiaeth er mwyn helpu i atal clotiau gwaed (gwrthgeulyddion). Credir bod nifer o wrthfiotigau yn rhyngweithio â gwrthgeulyddion ac yn cynyddu’r tebygolrwydd o waedu difrifol. Mae’r astudiaeth yn helpu i nodi pa wrthfiotigau sy’n ddiogel ac yn helpu i leihau’r risg o waedu. Darllenwch am y meddyg teulu o Gwm Rhondda sy’n gwneud gwahaniaeth gyda’r ymchwil hwn
Mae’r Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth
Ddienw (SAIL) wedi bod yn allweddol wrth helpu Llywodraeth y DU a’r GIG yn yr ymdrech i fynd i’r afael â COVID-19. Gan weithio gyda chydweithwyr o’r grŵp Gwyddor Data Poblogaeth a ledled Cymru, gan gynnwys Ymchwil Data Iechyd y DU, Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, Llwyfan Data Iechyd Meddwl y Glasoed, Y Ganolfan Ymchwil Data Iechyd ar gyfer Iechyd Anadlol, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru; mabwysiadwyd dull Cymru’n Un i nodi bylchau mewn data er mwyn helpu llunwyr polisïau i ddeall COVID-19 a gwneud cynlluniau yn ei sgil. Darllenwch sut roedd dull Cymru’n Un yn gweithio yn ymarferol a gwaith ehangach Banc Data SAIL
Mae ein canolfannau a’n hunedau hefyd yn effeithio ar ofal cymdeithasol yng Nghymru. Arweiniodd Canolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd astudiaeth arloesol i asesu iechyd 20,000 o staff gofal cartref yng Nghymru Dyma’r astudiaeth gyntaf i gyfuno cofnodion iechyd a data cofrestru proffesiynol, a bydd y canlyniadau yn llywio arferion gwaith mwy diogel a chymorth ychwanegol i staff. Mae ein Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia hefyd wedi gwneud cynnydd mewn ymchwil gofal cymdeithasol gyda’i gwaith ar ddementia a’r Iaith Gymraeg. Mae ymchwil mewn cartrefi gofal wedi amlygu pwysigrwydd rhannu iaith er mwyn sicrhau bod preswylwyr yn teimlo’n gartrefol a bod staff yn gallu darparu’r gofal gorau i ddiwallu eu hanghenion.
Dysgwch fwy am bwy sy’n rhan o’n cymuned ymchwil a’r gwaith y mae’n ei wneud sy’n newid bywydau.
Meithrin cymhwysedd ymchwil yng Nghymru
Nod Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil (RCBC) Cymru yw meithrin cymhwysedd a gallu ymchwil ym maes nyrsio, bydwreigiaeth, fferylliaeth a phroffesiynau perthynol i iechyd, a chyfrannu at ddatblygu rolau academaidd clinigol. Mae’n cynnig ystod o ddyfarniadau, o Gymrodoriaethau Cyntaf i Ymchwil, i PhD, i gymorth i’r rhai sy’n dymuno ymgymryd ag astudiaethau ôl-ddoethuriaeth.
Mae RCBC Cymru yn cynnwys chwe adran/ysgol nyrsio prifysgol ac iechyd perthynol yng Nghymru – prifysgolion De Cymru, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Phrifysgol Bangor – ac mae’n ymgysylltu â’r GIG, diwydiant, elusennau a llunwyr polisïau.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cymrodyr wedi dechrau prosiectau sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys dadansoddiad ffenomenolegol deongliadol o bwysigrwydd labelu diagnostig ym maes iechyd meddwl plant a phobl ifanc ac ymchwil i ddylunio rolau swyddi a chadw fferyllwyr yn y gweithlu.
I gael rhagor o wybodaeth a manylion am alwadau ariannu, ewch i wefan RCBC Cymru ac ar Twitter @RCBCWales
Mae rhestr lawn o’r prosiectau a ariennir gennym a rhagor o fanylion am ein derbynwyr arian ar gyfer 2022 ar gael ar ein gwefan
Dyfarniad Cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd
Yn rhoi’r cymorth sydd ei angen ar unigolion talentog i fod yn ymchwilwyr annibynnol wrth ymgymryd â phrosiectau ymchwil o ansawdd uchel sydd o fudd i iechyd yng Nghymru.
Cynllun Ariannu Ymchwil: Grant Gofal Cymdeithasol
Yn cefnogi prosiectau ymchwil o ansawdd uchel sy’n amlwg yn berthnasol i ddefnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol, gofalwyr, a/neu drefnu a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol effeithiol.
Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) Cymru
Yn ariannu ymchwil sy’n ymwneud ag ymarfer y gwasanaeth iechyd o ddydd i ddydd, gyda manteision clir i gleifion a’r cyhoedd.
Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG
Yn ariannu amser sesiynol i staff talentog y GIG gymryd rhan mewn gweithgarwch ymchwil a datblygu.
Dyfarniad Ysgoloriaeth PhD i Iechyd
Gan Gefnogi unigolion i feithrin gallu mewn ymchwil gofal cymdeithasol drwy ariannu prosiectau ymchwil o ansawdd uchel, mae’r ysgoloriaeth yn cynnig cyfle i unigolion ymgymryd ag ymchwil ac astudiaethau sy’n arwain at PhD.
Cymrodoriaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Yn cefnogi unigolion ar eu taith i fod yn arweinwyr ymchwil yn y dyfodol. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ymgymryd â’r broses ariannu a rheoli ceisiadau llwyddiannus i Raglen Cymrodoriaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).
Ymchwil yn y GIG
Mae ymchwil yn un o swyddogaethau craidd GIG Cymru ac mae’n hanfodol ar gyfer triniaeth a gofal gwell i bobl yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae Gwasanaeth Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu cymorth drwy gydol y llwybr ymchwil. Mae’r gwasanaeth, sy’n cynnwys adrannau ymchwil a datblygu lleol mewn byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG ledled Cymru, yn sicrhau bod cleifion a’r cyhoedd yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil ac yn cefnogi diwylliant o ymchwil mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd o fudd i ganlyniadau cleifion.
Yn ystod pandemig COVID-19, gwnaethom drefnu a chyflawni 119 o astudiaethau COVID-19 a oedd wedi galluogi tua 60,000 o bobl yng Nghymru i gymryd rhan mewn ymchwil COVID-19. Roedd hyn yn cynnwys saith treial ar gyfer y brechlyn a gafodd eu trefnu a’u darparu’n llwyddiannus i fodloni gofynion noddwyr mewn cyd-destun sy’n newid yn gyflym o ran canfod brechlyn. Cyflwynwyd astudiaethau triniaeth arloesol COVID-19 hefyd, gan gynnwys RECOVERY a REMAP-CAP – a helpodd i benderfynu pa gyffuriau sy’n effeithiol, ac yn bwysicach oll, pa gyffuriau nad ydynt yn effeithiol i gleifion sy’n mynd i’r ysbyty â COVID-19 – yn ogystal â PRINCIPLE a PANORAMIC – a helpodd i ateb cwestiynau am driniaethau COVID-19 i gleifion y tu allan i’r ysbyty.
Rheoli’r gwaith o adfer ymchwil
Yn ystod pandemig COVID-19, ataliwyd bron i 80% o waith ymchwil ochr yn ochr â’r gwasanaethau hynny lle roeddem yn cynnal yr ymchwil hwnnw. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio’n galed i adfer gweithgarwch ymchwil ym mhob rhan o’r maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gefnogi’r GIG i ailddechrau ymchwil mewn meysydd lle cafodd ei ohirio. Mae hon yn dasg heriol wrth i’r pandemig barhau i effeithio ar adnoddau gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gyda salwch staff a’r ôl-groniadau mewn gofal clinigol yn rhoi pwysau ar le, gwasanaethau cymorth ac amser clinigol. Ar ben hynny, nid yw rhai astudiaethau a ddyluniwyd cyn COVID-19 yn cydfynd â llwybrau gofal newydd. Serch hynny, rydym wedi helpu dros 60% o astudiaethau a oedd wedi’u gohirio i ailgychwyn, yn ogystal â pharhau i gynnwys cyfranogwyr mewn astudiaethau COVID-19 a darparu gwaith dilynol ar gyfer ymchwil COVID-19.
Datblygu ein Dull Cymru’n Un Darparodd yr ymateb cydweithredol, cenedlaethol i COVID-19, gyfle i Wasanaeth Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ddatblygu a gweithredu ystod o ddulliau o ddarparu ymchwil yn llwyddiannus o dan fodel Cymru’n Un. Mae effaith a manteision y rhain yn parhau i gael eu gwella a’u gwireddu. Mae dulliau Cymru’n Un wedi gwella’r gwaith o gydgysylltu’r broses o ddarparu ymchwil ar draws y GIG yn sylweddol, ac mae sefydliadau’n gweithio mewn partneriaeth i sicrhau gwasanaethau effeithlon a symlach. Yn aml, mae un sefydliad yn y GIG yn gweithio fel prif safle ar gyfer Cymru. Y canlyniad yw gwasanaeth ymatebol a rhagweithiol, gan gyflymu’r broses o drefnu a chyflwyno astudiaethau ar draws GIG Cymru. Darllenwch fwy am ein dull Cymru’n Un.
Cefnogi ein timau cyflenwi ymchwil
Er mwyn cefnogi ymchwil fel rhan o fusnes pawb yn y GIG, rydym yn ariannu bron i 550 o staff yn uniongyrchol ledled Cymru i gefnogi darpariaeth ymchwil, gan gynnwys nyrsys ymchwil, bydwragedd a gweithwyr gofal proffesiynol perthynol i iechyd, swyddogion ymchwil clinigol, cydgysylltwyr astudiaethau, gweinyddwyr a gweithwyr gofal iechyd a chymorth. Cafodd llawer o’r staff hyn eu hadleoli yn ystod y pandemig ond maent yn dychwelyd erbyn hyn i gefnogi’r gwaith o adfer ymchwil yng Nghymru.
Mae ein Swyddogion Ymchwil yn cael cynnig y cyfle i ymuno â chofrestr achrededig yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd/NIHR ac rydym wedi bod yn datblygu un llwybr mynediad cyson i Gymru ynghyd â fframwaith cymhwysedd i gefnogi hyn.
Rydym wedi hyrwyddo ac ymgysylltu’n eang â’r Cynllun Prif Ymchwilydd Cyswllt y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) sy’n gyfle hyfforddi chwe mis mewn gwaith, sy’n darparu profiad ymarferol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n dechrau eu gyrfa ymchwil.
Rydym yn cefnogi 31 o Arweinwyr Arbenigedd Clinigol i hwyluso gwaith ymgysylltu â’u cydweithwyr ledled Cymru, ac yn cynrychioli Cymru fel arweinwyr clinigol allweddol ar lefel y DU ar gyfer darparu ymchwil.
Mae ein rhaglen hyfforddi o safon uchel wedi parhau i gynnig amrywiaeth o hyfforddiant ymchwil, gan gynnwys Arfer Clinigol Da, cysyniad dilys ar sail gwybodaeth, a sgiliau cyfathrebu mewn ymchwil.
Datblygu ein cyfleusterau ymchwil
Hefyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, datblygwyd canolfannau a chyfleusterau ymchwil pwrpasol newydd mewn byrddau iechyd ledled Cymru, gan gynnwys ym Myrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Betsi Cadwaladr, Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan.
Mae’r canolfannau a’r cyfleusterau ymchwil hyn yn rhoi mwy o gyfleoedd i gleifion gymryd rhan mewn treialon clinigol sy’n eu galluogi i gael gafael ar y triniaethau a’r therapïau diweddaraf yn gynt. Maent yn cynnwys ystafelloedd clinigol ac ymgynghori pwrpasol i drin a monitro cleifion, a labordai amlswyddogaethol gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf. Mae’r canolfannau a’r cyfleusterau newydd yn ychwanegiad i’w groesawu i’r rhai sydd eisoes wedi’u hen sefydlu ym Myrddau Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bae Abertawe, ac yn parhau i wneud Cymru yn lle mwy deniadol i gynnal ymchwil sy’n newid bywydau. Darllenwch am Ganolfan Ymchwil Glinigol Newydd Ysbyty Glangwili.
Dysgwch fwy am Fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ym maes ymchwil
fydden ni heb...
Cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd
Mae’r cyhoedd yng Nghymru yn ganolog i sicrhau perthnasedd ac ansawdd yr ymchwil a ariannwn a dyna pam mai ein nod yw ymgysylltu â nhw a’u cynnwys ym mhopeth a wnawn.
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi ein galluogi i fanteisio ar ddealltwriaeth gynyddol pobl o bwysigrwydd ymchwil iechyd a gofal, a chynnig cyfanswm o 70 o gyfleoedd i’r cyhoedd fod yn rhan o’r broses ymchwil gyfan o’r cam dylunio, i’w cyflwyno a’i rhannu.
Rhoi ein strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd ar waith
Allbwn allweddol arall o ‘Darganfyddwch eich rôl’ oedd ein strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer 2021-2024 , sy’n nodi cynllun tair blynedd ar sut y byddwn yn ymgysylltu â mwy o bobl ledled Cymru. Fel rhan o’r strategaeth, rydym wedi sefydlu grŵp cynghori rhanddeiliaid, sy’n cynnwys arweinwyr cymunedol, llunwyr polisïau, ymarferwyr ac ymchwilwyr, y mae ganddynt arbenigedd mewn gweithio gyda chymunedau yng Nghymru nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol. Maent yn ein helpu i deilwra ein negeseuon a nodi dulliau o ymgysylltu â phobl nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.
Hefyd yn allweddol i’r strategaeth, ym mis Chwefror 2022, lansiwyd ein hymgyrch ymgysylltu â’r cyhoedd ‘Ble fydden ni heb ymchwil?’. Nod yr ymgyrch yw adrodd sut mae ymchwil yn newid bywydau a’r rhan hanfodol y mae pobl yng Nghymru yn ei chwarae wrth ganfod gwell triniaeth, gofal a hyd yn oed iachâd. Hyd yma, mae wedi cynnwys, straeon ymchwil , cyfres bodlediadau cyntaf Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a digwyddiadau. I ddysgu mwy, ewch i dudalen we ein hymgyrch
Mae ein gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd yn cyd-fynd â mentrau ymgysylltu â’r cyhoedd ledled y DU, megis Bod yn Rhan o Ymchwil , sy’n helpu’r cyhoedd i ddeall beth yw ymchwil, beth y gallai ei olygu i gymryd rhan a’r gwahaniaeth y gall ei wneud i wella gofal i bawb.
Darganfyddwch eich rôl
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cyflwyno Darganfyddwch eich rôl , sef ein cynllun gweithredu ar gyfer cynyddu ymgysylltiad a chyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil drwy fynd i’r afael â rhwystrau ac ehangu ymgysylltiad â chymunedau mwy amrywiol. Lansiwyd ein Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd yn 2021, a chynhaliwyd tri chyfarfod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn trafod cynnwys y cyhoedd mewn blaenoriaethau ymchwil, cyllid, gwneud penderfyniadau, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Dysgwch fwy am weithgareddau’r fforwm.
Ymrwymiad ar y cyd
Hefyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cydweithio â’r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA), y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) a sefydliadau eraill yn y DU i barhau i wella safonau cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn un o 13 o sefydliadau ledled y DU i lofnodi’r Ymrwymiad ar y cyd â’r HRA i gynnwys y cyhoedd. Mae hwn yn ymrwymiad ar y cyd i wella ansawdd cynnwys y cyhoedd ym mhob rhan o’r sector, gan sicrhau bod cynnwys ystyrlon gan y cyhoedd yn cael ei ddefnyddio’n gyson ym mhob ymchwil.
Cyfranogiad cyhoeddus y pum gwlad
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn chwarae rhan annatod o grŵp gweithredu cynnwys y cyhoedd y pum gwlad. Ei nod yw hybu cyfranogiad o ansawdd uchel gan y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal, drwy ddatblygu a hyrwyddo safbwyntiau cyffredin ledled y DU, neu’r DU ac Iwerddon, ar agweddau penodol, megis tâl am gyfranogid cyhoeddus a monitro’r broses o fabwysiadu Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd, a chymryd camau gweithredu ar y cyd.
Mae crynodeb wythnosol o’n cyfleoedd a’n digwyddiadau cynnwys y cyhoedd yng Nghymru wedi’u cynnwys yn ein bwletin wythnosol Ymchwil Heddiw
Yn gweithio ym maes ymchwil?
Dyfodol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Dros y flwyddyn sydd i ddod, bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn adeiladu ar etifeddiaeth pandemig COVID-19 a’r gwersi a ddysgwyd ohono. Cyn bo hir, byddwn yn nodi ein cynlluniau ar gyfer y tair blynedd nesaf i wella’r holl ymchwil iechyd a gofal i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac i osod y sylfeini ar gyfer canlyniadau gwell i gleifion, pobl a chymunedau ledled Cymru.
Un dasg allweddol yw gweithio gyda’n partneriaid yn y DU a gyda rhanddeiliaid yng Nghymru i ailddechrau portffolio ymchwil y GIG, ac i fynd i’r afael â’r heriau o gefnogi a darparu adnoddau ar gyfer y nifer mawr o astudiaethau ymchwil sy’n mynd rhagddynt yn y GIG, y cafodd llawer ohonynt eu gohirio yn ystod y pandemig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £1.7 miliwn i ddarparu adnoddau ychwanegol ar gyfer adfer ymchwil nad yw’n gysylltiedig â COVID-19, a’n nod yw i 80% o’r holl astudiaethau agored ar ein cyfeiriadur ymchwil gael eu cyflawni ar amser ac yn unol â’r targed erbyn mis Mehefin 2023. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid i gyflawni cam nesaf Strategaeth Ymchwil Clinigol y DU, a fydd yn cynnwys cyfres o ddiwygiadau i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd wrth gyflwyno ymchwil, er mwyn sicrhau y gellir cynnal ymchwil arloesol yn gyflymach, gan helpu cleifion i gael gafael ar driniaethau arloesol yn gynt.
Rydym yn cydnabod bod y gweithlu ymchwil yng Nghymru yn hanfodol i’n llwyddiant o ran meithrin cymhwysedd ymchwil. Rydym yn anelu at sicrhau bod pob ymchwilydd iechyd a gofal cymdeithasol yn cael cynnig gyrfaoedd gwerthfawr a heriol, er mwyn sicrhau ein bod yn denu’r bobl fwyaf talentog. Ym mis Chwefror 2022, gwnaethom gyhoeddi gweledigaeth ar gyfer llwybrau gyrfa ymchwil, gan amlinellu argymhellion i wella cymorth ac annog mwy o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i ymgymryd â gyrfaoedd ym maes ymchwil. Yn ystod tymor yr hydref 2022, byddwn yn lansio Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru newydd, a fydd yn cynnwys mwy o fuddsoddiad yn ein cynlluniau dyfarnu personol a mwy o gymorth a mentoriaeth i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o brif ymchwilwyr a phrif ymchwilwyr yn y GIG, ac yn ein sefydliadau addysg uwch.
Rydym yn buddsoddi mewn ymchwil drwy ein cyllid craidd ar gyfer canolfannau ac unedau, a thrwy ein rhaglenni comisiynu ymchwil a galwadau y mae rhai ohonynt yn cael eu rhedeg mewn partneriaeth â chyllidwyr eraill yn y DU. Yn y ddau achos, rydym yn bwriadu adolygu pa mor dda y mae systemau cyfredol yn gweithio i adeiladu a chynnal rhagoriaeth ymchwil yng Nghymru, ac i gyflawni ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Gan adeiladu ar brofiad Canolfan Tystiolaeth COVID-19 Cymru yn ystod y pandemig, rydym yn ehangu cwmpas y Ganolfan Dystiolaeth i gefnogi penderfynwyr ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol a blaenoriaethau’r Rhaglen Lywodraethu gyda chyfuniadau tystiolaeth da a’r gallu i gynnal gwaith ymchwil a gwerthuso cyflym.
Ein huchelgais yw ymchwil sy’n canolbwyntio mwy ar bobl; gan ei gwneud yn haws i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau’r cyhoedd gymryd rhan mewn ymchwil a bod yn rhan o’r broses o’i dylunio. Er mwyn cyflawni hyn, ein nod yw darparu ymchwil yn unol ag anghenion cyfranogwyr, gan gynnwys yn y gymuned, gofal sylfaenol a lleoliadau rhithwir. Byddwn yn parhau i roi ein cynllun rôl Darganfod eich rôl ar waith. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y DU i sicrhau bod cleifion a’r cyhoedd yn cael eu cynnwys mewn ymchwil mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys drwy reoleiddio, moeseg, tâl am gyfranogiad cyhoeddus a datblygu strategaethau newydd o ran ymgysylltu â’r cyhoedd.
Trawsnewidiodd y pandemig y ffordd y defnyddiwyd systemau digidol a data mewn ymchwil, ac rydym am gynnal y cynnydd hwnnw – mae’n faes lle mae Cymru wedi arloesi mewn cysylltu â data diogel. Byddwn yn awr yn mynd gam ymhellach wrth ddefnyddio dulliau arloesol a yrrir gan ddata ac offer digidol i drawsnewid y ffordd rydym yn dylunio, yn rheoli ac yn darparu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Er enghraifft, mewn partneriaeth â Banc Data SAIL ac Adnodd Data Cenedlaethol GIG Cymru, byddwn yn datblygu rhaglen recriwtio ddigidol, gan ddefnyddio data i lywio’r gwaith o gyflawni ymchwil. Mae gweithgor arbenigol wedi’i sefydlu i arwain y rhaglen ‘data ar gyfer ymchwil’.
Mae hwn yn gyfnod o newid cyflym a sylfaenol ym maes ymchwil iechyd a gofal yn y DU, gyda datblygiadau megis mwy o gyllid ac uchelgais ar lefel y DU, mwy o fuddsoddiadau yn y maes gwyddorau bywyd, ymrwymiad newydd i weld cyllid yn ystyried lleoliad a daearyddiaeth. Mae hyn yn golygu bod cyfleoedd i wella ymchwil ac arloesi yng Nghymru, a risgiau na fydd cymuned ymchwil Cymru a’r GIG a’r system gofal cymdeithasol yn elwa fel y dylent o fuddsoddiadau newydd mewn ymchwil iechyd a gofal ac o’r datblygiadau mewn gofal a thriniaeth a gynhyrchir ganddynt. Rydym yn edrych ymlaen at yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.