Pan fyddaf yn fawr, dwi eisiau chwarae dros Gymru

Page 1

f a y d n fawr, d y f n Pa

dwi eisiau chwarae dros...

U R M GY


Testun gan Gemma Cary Darluniau gan Tatio Viana ac Adrian Bijloo Dyluniwyd gan Sarah Allen Fersiwn Cymraeg gan Hedydd Hughes Cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg gan HOMETOWN WORLD yn 2016 Hometown World Cyf 7 Northumberland Buildings Bath BA1 2JB www.hometownworld.co.uk Hawlfraint © Hometown World Cyf 2016 ISBN 978-1-78553-490-4 Cedwir pob hawl Argraffwyd yng Ngwlad Pwyl HTW_PO290616 10 9 8 7 6 5 4 3 2 1


f a y d n fawr, d y f n Pa

dwi eisiau chwarae dros ...

GYM RU Testun gan Gemma Cary Darluniau gan Tatio Viana ac Adrian Bijloo

C

H

I

L

D

H

O O D

D

R

E

A

M S


“Allan â thi!” ” ! a n

llefod

dJ

a

c,

“O

meddai Mam, gan wasgu’r botwm.

“roeddem ni’n ennill!”

“Ie, hyfryd, cariad,” meddai Mam, “nawr allan â thi i chwarae.” Syllodd Jac drwy’r ffenest a gweld Blewyn, y gath, yn wlyb diferol.

“Ond...”



Yn fuan, safai Jac mewn pwll mwdlyd ar y lawnt. Pa hwyl oedd chwarae heb ffrind yn gwmni? Ac roedd ei bêl rygbi ar goll! Yna cafodd syniad.


“Wrth gwrs!” bloeddiodd, gan lamu trwy ddrws y gegin. Gwelodd Blewyn ei chyfle a sgathru’n wyllt heibio iddo.

“Blewyn!” galwodd Mam.

“Naaaa!”


Yn ei ystafell, daeth Jac o hyd i’r hyn yr oedd yn chwilio amdano: ei

GRYS CYMRU!


Pob tro y gwisgai’r crys, roedd yn teimlo’n hyderus a balch, ac roedd yn chwarae’n well. Gwisgodd y crys a theimlo’n hapus ar unwaith.


Ciciodd y bêl yn chwim, heibio i’r lein ddillad, fel un o arwyr tîm Cymru.

Roedd y glaw wedi peidio. Yn yr ardd daeth Jac o hyd i hen bêl tennis a dechrau ymarfer ei sgiliau pasio.


Dathlodd Jac gyda chic enfawr ...ond hwyliodd y bêl yn syth dros y ffens a tharo rhywbeth gydag anferth o

! C E L G

Cydiodd yn y bêl, ochrgamu’n bert o gwmpas y blodau a phlymio i’r tir, gan sgorio cais gwych.


“Owww!”

gwichiodd Mrs Bawdblin, a oedd wrthi’n codi moron o’r ardd.

“Fy mhen-ôl i!”


^ Yr eiliad honno, clywodd Jac swn drws car yn cau, a chamodd Dad i’r ardd gefn.

“Helô, Mrs Bawdblin,” meddai. Gwgodd Mrs Bawdblin arno, gan godi’r bêl ar flaen ei phicwarch. “Sori…” mwmiodd Jac, gan geisio peidio chwerthin.


“Shwmae, bencampwr?” holodd dad. “Mae gen i anrheg i ni ein dau!”

Estynnodd gwdyn papur at Jac, ac ynddo roedd pêl rygbi newydd sbon. Pêl rygbi ei hoff dîm –

Cymru!


^ gwenodd Jac. “Cwl!”

“Mae’n bryd dathlu!” meddai Dad. “Heddiw yw diwrnod cyntaf y tymor rygbi newydd.”


h ! s o o o o o Wh Cyn hir roedd y ddau yn cael y gêm orau erioed, gan chwarae am oriau. Pan ddaeth hi’n amser swper, meddai, Dad, “Clywais fod y tîm lleol yn cynnal treialon fory. Hoffet ti fynd, Jac?”


“Byddwn wrth fy modd!” atebodd Jac.

“Gwych!”


Drannoeth, aeth Dad a Jac i’r maes rygbi. Roedd yr ystafell newid yn llawn plant mewn festiau coch a glas. Teimlai rhai yn ddigon nerfus.


Ar y maes, roedd iban w h c galw, yn

cic i

o

eidio, n a

flu a dal a t

a gw eiddi,

a pheli’n hedfan i bob cyfeiriad.


Cyn hir, galwodd yr hyfforddwr ar Jac i ymuno â’r gêm. Bu Jac yn cefnogi’r chwaraewyr eraill wrth eu gweld yn pasio’r bêl, ac yn eu hannog i ddal ati pan oedd pethau’n mynd o chwith. Pan syrthiodd un chwaraewr, helpodd Jac y bachgen ar ei draed.


Ond poenai Jac nad oedd wedi llwyddo i ddangos ei sgiliau. Nid oedd braidd wedi cyffwrdd â’r bêl, heb sôn am sgorio cais! Daeth hanner amser.


Tynnwyd sylw Jac gan rywun oedd yn chwifio arno o’r eisteddle. Dad oedd yno. “Gwisg hwn!” meddai, gan dynnu rhywbeth o’i fag. “Rwyt ti bob amser yn chwarae’n wych yn dy grys coch.”


Tynnodd Jac y crys dros ei ben wrth wibio yn ôl at y chwarae. Dychmygodd ei fod yn y twnnel yn y Stadiwm Genedlaethol. Chwifiai baneri Cymru a chanai’r dorf yr Anthem.


Ac ar unwaith, Jac oedd y chwaraewr mwyaf disglair ar y maes. Cyn y chwiban olaf, roedd wedi sgorio tri chais, a safai ben ac ysgwydd yn uwch na’r lleill. Teimlai’n hyderus. Roedd wrth ei fodd. Roedd yn...


P L E E N F C A E M A R P A W W R H ! C .. .


Ar ddiwedd y sesiwn, cyhoeddodd yr hyfforddwr enwau’r bechgyn a oedd wedi’u dewis i’r tîm: “ Dan, Owen, Llew, Lewis...” Clapiodd pawb wrth iddynt gael eu galw. “Jo, Rhys, Mefin, Sam, Josh, Max...”


Syllai Jac ar ei draed. A oedd wedi gwneud digon i ennill lle yn y tîm? “Ffredi, Zac, Harri, Iestyn…”


“Ac yn olaf,” meddai’r hyfforddwr, “un bachgen

a wnaeth argraff fawr fel y crwt mwyaf cyfeillgar ar y maes, ac mae’n chwaraewr penigamp!”

Gan droi at Jac, gofynnodd,

“Sut hoffet ti fod yn gapten y tîm?”


Ê Ê Ê Ê ÊÊ!” R W H “

Neidiodd Jac yn gyffrous, gan chwifio ei freichiau. “Rwy’n derbyn mai ‘IE!’ yw’r ateb,” meddai’r hyfforddwr, a chwarddodd pawb.


Roedd Dad yn wên o glust i glust. “Gwych, Jac! Dwi mor falch ohonot ti!” “Diolch, Dad!” atebodd Jac. “Dwi ar bigau’r drain eisiau chwarae i’r tîm! Ond fydda i ddim yn gallu chwarae iddyn nhw am byth, cofia.” “O? A pham hynny?” holodd Dad.


“Wel, pan fydda i yn fawr, dwi eisiau chwarae dros

Gymru!” A dyfalwch pwy arall

fydd yn chwarae dros

Gymru?


Ie, ti! R W P M PENCA ! U R M Y C F A S NE yma Rho dy enw

Rho dy lun yma


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.