St Davids Day Leaflet (Welsh)

Page 1

DYDD GŴYL DEWI HAPUS SUT FYDDWCH CHI’N DATHLU HEDDIW? n CYN-CHWARAEWR RYGBI CYMRU YN RHANNU EI STORI n PWY YN Y BYD OEDD DEWI SANT? n RYSÁIT CAWL TRADDODIADOL n CALON LÂN

BETH YW’R GEIRIAU AR DATŴ COES AARON RAMSEY? TROWCH DROSODD I WELD! Published by HOPE, 8A Market Place, Rugby, Warwickshire CV21 3DU Registered Charity 1116005


YSBRYDOLIAETH AARON Beth yw’r geiriau ar datŵ coes Aaron Ramsey? Mae’r geiriau sydd ar y tatŵ yn dod o’r Beibl Cymraeg. Maen nhw’n sôn am gael dewrder gan Dduw i wynebu cyfnodau anodd a heriol. Ysbrydolodd y geiriau Aaron wrth iddo wella o anaf i’w goes. Darllenwch nhw drosoch chi eich hun:

Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi, a’th wialen a’th ffon yn fy nghysuro. Salm 23 adnod 4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig

PWY YN Y BYD OEDD DEWI SANT?

Pan fydd pobl drwy Gymru yn gwisgo cenhinen Bedr â balchder, a phlant yn mynd i’r ysgol yn y wisg draddodiadol, gallwch fod yn siŵr ei bod hi’n Fawrth 1af – Dydd Gŵyl Dewi. Fe gredir fod Dewi Sant, nawddsant Cymru, wedi marw ar y 1af o Fawrth 589A.D. yng Nghapel Non (sydd gerllaw’r man lle saif Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw). Mae’n debyg ei fod yn dod o deulu brenhinol, ond iddo wrthod y cyfoeth a dewis bod yn fynach. Câi ei adnabod fel Dewi Ddyfrwr (Dewi yr yfwr dŵr) oherwydd bwytâi’n syml; dim cig, dim ond dŵr, bara a llysiau. Dywedir iddo wneud sawl gwyrth yn ystod ei fywyd gan gynnwys rhoi golwg yn ôl i ddyn dall. Dechreuodd 12 o fynachlogydd gan gynnwys Tyddewi, Sir Benfro ac yn Ynys Wydr – Glastonbury. Mae Dewi Sant yn cael ei gofio am rannu neges syml y ffydd Gristnogol. Ei ddywediad mwyaf enwog yw ‘Gwnewch y pethau bychain’. I bobl Cymru, mae nodi marwolaeth Dewi Sant ar Fawrth 1af yn dod â’r genedl at ei gilydd ac yn ein hatgoffa am ffydd Dewi yn Iesu Grist, ffydd sy’n dal i roi gobaith i filiynau o bobl o gwmpas y byd.


SEREN RYGBI YN DOD O HYD I’W WIR ARWR Fe wnaeth Emyr Lewis gwrdd â Duw wrth werthu llungopïwr! Dyma ei stori: Ges i fy ngeni yng Nghaerfyrddin ac ro’n i’n mynd i gapel lleol y teulu am fod fy rhieni eisiau i fi fynd yno. Ymunais â’r heddlu pan oeddwn i’n 18 oed a symud oddi cartref. Yr unig amseroedd y byddwn i’n mynd i gapel neu eglwys fyddai i briodasau ac angladdau. Roedd llawer o bethau’n llenwi fy mywyd ar yr adeg honno – chwarae rygbi a phartïa’n bennaf. Y peth diwethaf ar fy meddwl oedd Duw. Gorffennais chwarae rygbi yn 2005. Roedd teimlad o wacter yn fy mywyd ar ôl hynny a doeddwn i ddim yn gweld sut allwn i lenwi’r bwlch fyth eto.

Wrth i fi dderbyn Iesu i mewn i’m bywyd, teimlai fel bod baich enfawr wedi syrthio oddi ar fy ysgwyddau. Mae gennyf heddwch mewnol yn fy mywyd nawr. Wrth i fi edrych yn ôl dros fy mywyd, doedd hynny ddim gen i pan oeddwn i’n chwarae rygbi. ’Dyw hi ddim yn hawdd bod yn Gristion, yn enwedig wrth weithio yn y cyfryngau. I fi, dim ond un ffordd sydd i fyw sef dilyn Iesu Grist. Ym myd rygbi, mae gan bobl arwyr a byddwn yn trio dilyn eu hesiampl; bu farw Iesu Grist ar y groes – ef yw’r gwir arwr sydd wedi curo marwolaeth ac fe fydd yn goroesi popeth.

Ar ôl stopio chwarae, dechreuais i mewn swydd newydd yn gwerthu peiriannau llungopïo. Un diwrnod cefais alwad wrth fenyw yn dweud bod angen llungopïwr newydd arni cyn gynted â phosib. Roedd y lle ynghanol nunlle! Gwrddais i â’r fenyw y bues i’n siarad â hi dros y ffôn. Esboniodd mai canolfan Gristnogol oedd y lle a byddai pobl yn dod yno i weddïo. Ar ôl i fi orffen gosod y peiriant gofynnodd i fi ‘A gaf i weddïo drosot ti cyn i ti fynd?’ Roeddwn i’n ansicr am hyn ond gadewais iddi wneud – unrhyw beth i werthu llungopïwr! Gofynnodd i fi ymlacio a meddwl am yr hyn roedd hi’n ei ddweud. Ar ôl iddi weddïo, cefais deimlad cynnes trwy fy nghorff, teimladau o hapusrwydd – bu raid i fi eistedd i lawr. Wrth i fi yrru i ffwrdd o’r ganolfan, roedd y tywydd yn erchyll a prin y gallwn weld y ffordd o’m blaen. Ond roedd rhywbeth wedi gwneud i fi edrych yn ôl ar yr adeilad. Sylwais ar groes bren a golau’r haul arni ac aeth gwefr arall trwy fy nghorff. Ffoniais fy ngwraig a dywedodd – ‘Dwyt ti ddim yn mynd i fod yn Gristion nawr wyt ti?’ Roedd pethau’n anodd gartref a dywedodd fy ngwraig wrthyf am siarad â chyn-chwaraewr arall i Gymru sef Garin Jenkins. Roeddwn i eisiau dangos iddi fy mod i’n trïo felly fe es i i’r eglwys gyda Garin. Roedd teimlad braf iawn yn yr eglwys. Safodd rhywun i fyny a dechrau rhannu ei stori ac roedd fwy neu lai’n union fel fy stori i! Ar ôl mynychu’r eglwys am gyfnod dechreuais fod yn fwy agored i arwyddion oddi wrth Dduw. Darllenais lyfr a heriodd fi fel dyn, ac fel gŵr a thad, a sylweddolais bod rhaid i fi newid. Dechreuodd pethau ddod yn gliriach wrth i fi wrando ar beth oedd gan y Beibl i’w ddweud.

Roedd Emyr Lewis yn un o sêr rygbi Cymru yn y 1990au. Roedd yn rhan o garfan Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd ddwywaith a bellach mae’n sylwebydd rygbi i’r BBC ac S4C.


RYSÁIT CAWL TRADDODIADOL Cynhwysion n 1lb cig eidion neu gig oen wedi ei dorri’n giwbiau n 1 nionyn wedi ei sleisio n 1 cenhinen wedi ei sleisio n 2 foronen wedi eu sleisio n hanner rwdan fach wedi ei thorri n 3 taten wedi eu torri n ychwanegwch berlysiau – rhosmari os ydych yn defnyddio cig oen n 3/4 peint o ddŵr n halen a phupur fel y dymunwch

Dull n Ffriwch a brownio’r cig a’r nionyn mewn sosban fawr n Ychwanegwch weddill y cynhwysion a dod â’r cyfan i’r berw n Rhowch y caead ar y sosban, troi’r gwres i lawr a’i fudferwi am 1½ awr Os hoffech gawl llysieuol (heb gig), ffriwch y nionod a’r cennin mewn olew, ychwanegu’r llysiau eraill ac ychwanegu stoc llysieuol gydag 1 litr o ddŵr. Dewch â’r cyfan i’r berw a’i fudferwi am 45 munud. Gweinwch y cawl mewn bowlen ynghyd â bara ffres a chaws.

CALON LÂN YN LLAWN DAIONI Ar ôl yr anthem genedlaethol, y gân mae bron pawb yng Nghymru yn gallu ymuno i’w chanu yw ‘Calon Lân’. Mae’n gân grêt sy’n codi hwyliau cyn unrhyw gêm rygbi, ond mae’r weddi ar ddechrau’r gân yn awgrymu bod mwy i fywyd na bod yn gyfoethog. ‘Nid wy’n gofyn bywyd moethus, aur y byd na’i berlau mân, Gofyn wyf am galon hapus, calon onest, calon lân…’ Wrth i ni agosáu at y Pasg, mae’n dda gwybod fod pob un ohonom yn gallu cael dechrau newydd a dod o hyd i obaith

yn Iesu. Fe wnaeth e guro marwolaeth a chodi o’r bedd. Mae’r un pŵer a gododd Iesu o farwolaeth ar gael i ni heddiw. Mae Dewi Sant, Emyr Lewis a nifer fawr iawn o ferched a dynion drwy hanes wedi cael rhodd o ‘galon lân’ gan Dduw. Nid yw’n rhywbeth y gallwn ei ennill na’i brynu. Mae’n rhodd, wedi ei brynu gan farwolaeth ac atgyfodiad Iesu. Os oes gennych gwestiynau am y ffydd Gristnogol, neu os hoffech wybod mwy am ddilyn Iesu, beth am ymweld â’ch eglwys leol? Cewch ragor o wybodaeth yma www.stdavid.cymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.