Summer 2010 Newsletter - Welsh

Page 1

Prifysgol Cymru, Lampeter Yr Adran Ffilm a’r Cyfryngau

Haf 2010

Golau! Camera! Dechrau! A dyna gychwyn arddangosfa flynyddol myfyrwyr yr Adran Ffilm a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Llanbed. Roedd dros hanner cant o westeion yn bresennol, gan gynnwys Maer y dref, Rob Phillips, ac AS y Democratiaid Rhyddfrydol, Mark Williams, a chafodd y gynulleidfa wledd wrth iddynt wylio detholiad o waith gorau myfyrwyr eleni. Ymhlith y gwaith a arddangoswyd roedd gwaith ffuglen, a’r uchafbwynt oedd pan gyflwynodd un o fyfyrwyr yr ail flwyddyn, Richard Beecher, ei ffilm fer ysgytwol, “With Nothing Left”. Wedyn daeth adran ar gyfer Cyfryngau Rhyngweithiol, gan gynnwys taith rithwir arloesol o gwmpas y Brifysgol, canllaw rhyngweithiol ysgafn ar gyfer ennill Gradd Rithwir, ac offeryn addysg o’r enw “Ystafell Wely Ryngweithiol Plentyn” a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori ar gyfer y Cyfryngau a Gemau yng Ngŵyl Delwedd Symudol Cymru, Ffresh. Hanner ffordd rhwng Facebook a “Come Dine With Me”, dangosodd un o fyfyrwyr y flwyddyn olaf James Symons ei wefan ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol, “Dinner Twins”. Daeth y detholiad olaf o waith o’r categori ar gyfer Ffilmiau Dogfen, a’r diweddglo oedd cynhyrchiad grymus Eleanor Flaherty “The Horse: his Industry, our Industry”, sy’n cofnodi’r modd y mae Dyn a’r ceffyl wedi cydfyw ochr yn ochr ers miloedd o flynyddoedd. Derbyniodd Eleanor Wobr Alan Smithee, sy’n fawr ei bri, am Ddarn o Waith gorau’r flwyddyn. Ar ôl cyrraedd y rownd derfynol yng Ngŵyl Delwedd Symudol Cymru, Ffresh, mae’r ffilm eisoes yn cael ei defnyddio’n adnodd addysgiadol mewn ysgolion ac amgueddfeydd ledled Cymru. Cyflwynwyd ei gwobr i Eleanor gan y Maer Rob Phillips, a wnaeth y sylw “Roedd hon yn ffilm anhygoel o rymus a gafaelgar dros ben. Dylai gael ei dangos ar y teledu.”

Eleanor Flaherty yn casglu’i gwobr gan Faer Llanbed Rob Phillips

TU MEWN: Myfyrwyr Bodlon | Ffilm a’r Cyfryngau: am fusnes! | Cael y Swydd yr ydych yn Breuddwydio amdani | Lleoliadau Gwaith | Gwobrau Oscar ar gyfer Ffilm ac Animeiddio | Cydnabyddiaeth i Wneuthurwyr Ffilmiau’r Ail Flwyddyn | iHelp i Chi | Enillydd Cystadleuaeth Ffilmiau MyWales | Rhoi Theori ar Waith


Myfyrwyr Bodlon! Yn goron ar flwyddyn ryfeddol arall o ran gorchestion y myfyrwyr, roedd yr Adran Ffilm a’r Cyfryngau yn falch dros ben o weld bod y llwyddiant hwn wedi’i adlewyrchu yn y tablau cynghrair diweddaraf ar gyfer prifysgolion.

Ffilm a’r Cyfryngau: am fusnes! Cyn yr Arddangosfa ar ddiwedd y flwyddyn, cynhaliodd yr Adran bedwar diwrnod o weithdai a hyfforddiant busnes, wedi’i ariannu o dan Brosiect Dynamo Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn hyrwyddo entrepreneuriaeth mewn addysg uwch. Cynhaliodd un o gysylltau hyfforddi NESTA, Percy Emmett, ddeuddydd o diwtora dwys gydag amrywiaeth o fyfyrwyr o Brifysgol Llanbed a Choleg Prifysgol y Drindod.

Yn ôl tabl cynghrair papur newydd y Guardian ar gyfer y Cyfryngau yn 2011, mae’r adran gyda’r gorau ym Mhrydain o ran bodlonrwydd myfyrwyr. Yn ôl y sgôr a roddwyd ar gyfer Bodlonrwydd â’r Cwrs a Bodlonrwydd â’r Adborth, mae’r Adran yn y 3ydd safle dros y DU, ac ar gyfer Bodlonrwydd â’r Addysgu, mae yn y 5ed safle dros y DU. Croesawyd y canlyniad hwn gan y Pennaeth Adran, Dr Robert Shail, fel arwydd o hyder yn yr Adran, “Mae’r safle hwn yn glod i’r staff sydd wedi ymroi i wneud yn fawr o brofiadau’r myfyrwyr. Mae’n galondid gweld gwaith caled y staff a’r myfyrwyr yn cael ei adlewyrchu yn yr arolwg hwn. “Rydym yn ofalus iawn i sicrhau bod myfyrwyr yn elwa i’r eithaf ar eu hastudiaethau ac yn ymwybodol iawn o’r angen i sicrhau bod graddedigion ar eu hennill ar ôl treulio amser yn yr adran. “Mae’n amlwg bod y sylw sy’n cael ei roi i’w hanghenion wedi’i gydnabod gan fyfyrwyr yr adran, sydd wedi ein helpu i sicrhau rhai o’r sgorau uchaf yn y DU ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr. Rydym yn edrych ymlaen at wella ar ein safle ymhellach yn ystod y blynyddoedd nesaf.”

Yr hyfforddwr ar gyfer busnesau creadigol, Percy Emmett, yn cyflwyno’u gwobrau a’u grantiau hyfforddi busnes i’r myfyrwyr buddugol. (o’r chwith i’r dde) Sarah Pearson, Matthew Kidd, Richard Beecher, Neill Burton, Percy Emmett, Iwan Pitts, Matthew Mensley, Chris Benson, Andrew Evans

Cyflwynwyd syniadau busnes y myfyrwyr a’u cymeradwyo ar ddull y rhaglen Dragon’s Den gerbron Percy, Sally Hewes ac un o ddarlithwyr Llanbed, Laurence Hall. Er mawr syndod a llawenydd iddynt enillodd pob un o’r myfyrwyr ddiwrnodau hyfforddi mewn cyfleusterau Teledu ac aml-gyfrwng, a chafodd dau o fyfyrwyr yr ail flwyddyn – Matthew Mensley a Richard Beecher – £600 yr un ar gyfer yr hyfforddi a’r mentora a ddarparwyd gan Percy. Wrth gyfeirio at ymdrechion y myfyrwyr i werthu’u syniadau, meddai Percy, “Mae pob un o’r myfyrwyr wedi gwneud argraff fawr arna i. Maen nhw’n dangos diwydrwydd a syniadau entrepreneuraidd y mae pob un yn awyddus i’w datblygu. Mae’n glod mawr i’r Adran bod ei myfyrwyr wedi cynhyrchu gwaith mor ardderchog. Hoffwn i fynd ag un o’r myfyrwyr, Neill Burton, i’r Gynhadledd ar Addysg Diwydiant yng Nghaerdydd yn yr Hydref, er mwyn iddo fy helpu i gyfleu’r neges bod Cymru yn lle gwych i ddatblygu a meithrin talent sy’n bodoli eisoes a thalent newydd debyg i’r dalent yr ydym wedi’i gweld heddiw yn Llanbed.”


Cael y Swydd yr Oeddech yn Breuddwydio Amdani! Wrth baratoi ar gyfer arddangosfa flynyddol y myfyrwyr cynhaliodd yr Adran drafodaethau a seminarau ar bwnc cyflogaeth lle bu arbenigwyr ym maes y cyfryngau yn annerch. Nod y digwyddiadau oedd ysbrydoli myfyrwyr i ymuno â’r diwydiant a chynllunio’r swydd y maent yn breuddwydio amdani. Daeth y siaradwyr o bob cwr o’r DU, gan gynnwys un o animeiddwyr Aardman a oedd yn gyfrifol am gynyrchiadau megis “Shaun the Sheep”, ac un o ddynion camera’r BBC, David Carter, (gweler y llun) sydd â deugain mlynedd o brofiad ym maes ffilmiau dogfen a drama, gan gynnwys Dr Who. Traddododd dwy o gyn-fyfyrwyr yr Adran Ffilm a’r Cyfryngau yn Llanbed, Cara Davies ac Amy James, anerchiad hynod ddiddorol am eu gwaith fel cydlynwyr effeithiau arbennig ar ffilmiau megis Clash of the Titans, Prince of Persia a’r ffilm fwyaf llwyddiannus erioed, Avatar. Roeddent yn awyddus i bwysleisio’n arbennig yr ymroddiad a’r brwdfrydedd sy’n anhepgor ar gyfer llwyddo yn y diwydiannau ffilm, animeiddio ac effeithiau arbennig. Gwnaeth Cara’r sylw, “Dim ond ychydig o flynyddoedd sydd ers i mi raddio yn Llanbed. Roeddwn i am weithio ar effeithiau arbennig mewn ffilmiau, ac o ganlyniad i’r cyfleoedd a gefais gan fy nhiwtoriaid Trevor Harris, Rob Shail, Laurence Hall, Steve Gerrard a Carol Byrne-Jones astudiais i amrediad eang o fodylau a oedd yn brawf ar fy ngalluoedd ond hefyd yn ysgogiad i geisio rhagor.” Ychwanegodd Amy, “Bydd gan Lanbed bob amser le arbennig yn fy nghalon i. Dysgais i gymaint yma trwy’r modylau a gymerais i a’r cysylltiadau a wnes i. Rwy’n gobeithio yr aiff yr Adran o nerth i nerth ac fe welwch chi o’r gwaith sy’n cael ei gynhyrchu yma ar hyn o bryd gymaint y mae’r myfyrwyr wedi datblygu. Y tiwtoriaid piau’r clod am hyn a’u gallu i gyfleu eu syniadau mewn modd rhyfeddol.” Mae Jacob Henry bellach yn gweithio fel artist a delweddwr 3D i See3D Media. Esboniodd sut yr oedd ei gwrs israddedig yn y Cyfryngau yn Llanbed a chwrs ôl-raddedig Llanbed mewn Cyfryngau Rhyngweithiol wedi bod o gymorth iddo wrth iddo wireddu’i freuddwyd o gael swydd fel artist 3D. Pwysodd ar y myfyrwyr i fanteisio ar y feddalwedd ffynhonnell agored sy’n rhad ac am ddim ac y mae ei gyflogwyr yn ei defnyddio, gan bwysleisio “Does dim i’ch rhwystro chi rhag cydio yn yr offer a defnyddio’ch creadigrwydd personol i greu gwaith gafaelgar sy’n mynd i dynnu sylw pobl”.

Lleoliadau Gwaith Yn ystod eu blwyddyn olaf mae’r Adran yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr fanteisio ar fodwl o Leoliad Gwaith. Eleni trefnwyd ystod eang o leoliadau gan yr Arweinydd Cwrs mewn Cynhyrchu’r Cyfryngau, Trevor Harris. Treuliodd Luke Coldman fis yn Affrica er mwyn gweithio gyda Handshake Productions ar daith unigryw ym maes cadwraeth a hyfforddi ar gyfer y cyfryngau o gwmpas gwarchodfeydd primatiaid. Bu Rebecca Lord yn gweithio ar y rhaglen ddogfen ym maes hanes naturiol Human Planet ar gyfer BBC Wales gan gynorthwyo gyda’r gwaith o gofnodi, ffilmio a threfnu’r llif gwaith. Aeth Iwan Pitts i Tinopolis, un o gynhyrchwyr annibynnol mwyaf y DU. Pan oedd yno, ystyriodd Iwan nifer o opsiynau o ran gyrfa, a chafodd ei annog i gyflwyno dau syniad am raglenni a’i sgript blwyddyn olaf ar gyfer ystyriaeth bellach. Wrth i hyn gael ei ysgrifennu mae Iwan yn disgwyl penderfyniadau terfynol yr Uned Drama a Rhaglenni Dogfen. Pob lwc Iwan. Achubodd James Symons ar y cyfle i greu gwefan newydd ar gyfer Sylvantutch, sef teulu o wneuthurwyr celfi cyntefig o Dde Affrica sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru. Ymhlith eu cleientiaid mae Jamie Oliver a Nelson Mandela! Aeth Nicholas Williams i Brighton i weithio gyda Animalive/Animazoo, un o gwmnïau mwyaf y byd ar gyfer cofnodi symud. Yn ystod ei gyfnod yno gwnaeth Nicholas fideo hyrwyddo ar gyfer hafan gwefan y cwmni.


Cydnabod Gwneuthurwyr Ffilmiau’r Ail Flwyddyn A’r newyddion hyn ar fin cael eu hargraffu, mae un o dimau cynhyrchu’r ail flwyddyn, sef Richard Beecher o Gilfynydd, Susanna Bowen o’r Tymbl, Abertawe, a Luke Adams o Lundain, wedi cael newyddion cyffrous. Cynhyrchodd y tîm talentog hwn bum rhaglen ddogfen fer a oedd yn rhoi hynt Eisteddfod Genedlaethol eleni. Trefnwyd y gwaith hwn gan GoWales,

Staff yr Adran a gwesteion yn nhrydedd seremoni Gwobrau Oscar Ysgolion Ceredigion (o’r chwith i’r dde) Dr Robert Shail, Tim Davies Gwasanaeth Cynghori TG Ysgolion) , Myfanwy Waring (Actores), Sara Edwards (BBC Wales), Steve Gerrard, Elizabeth McElhinney a Trevor Harris

Gwobrau Oscar ar gyfer Ffilm ac Animeiddio Cynhaliwyd y drydedd seremoni ar gyfer Gwobrau Oscar ysgolion Ceredigion yn Neuadd Gelfyddydau’r brifysgol ym mis Mehefin. Trefnwyd y seremoni ar y cyd gan yr Adran Ffilm a’r Cyfryngau a’r Gwasanaeth Cynghori TG lleol, a dyma ddiweddglo gŵyl a oedd yn para wythnos. Ynghyd ag Elizabeth McElhinney, a oedd yn trefnu’r digwyddiad, aeth rhai o fyfyrwyr yr adran, Richard Jackson, Chris Carbin a Kirsty Daviesati i gynnal dosbarthiadau meistr mewn gwaith 3D, Ffilm ac Animeiddio, wrth i fyfyrwyr eraill oruchwylio’r gwaith o we-ddarlledu’r digwyddiad llachar. Dyluniodd Richard Jackson y dilyniant 3D agoriadol ysgytwol a’r holl waith graffig a ddefnyddiwyd yn ystod y sioe. Llongyfarchiadau i bawb am ddigwyddiad gwych.

Enillydd Cystadleuaeth Rhoi Theori ar Waith Mae un o fyfyrwyr y flwyddyn olaf Ffilmiau MyWales Roedd un o fyfyrwyr Llanbed, Iwan Pitts, wrth ei fodd pan glywodd i’w ffilm hunangofiannol gipio’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth ffilmiau My Wales, gan drechu cynigion o leoedd mor bell ag Azerbaijan a Seland Newydd. Cafodd ffilm Iwan ei dangos mewn digwyddiadau graddio ar hyd a lled Cymru, ac enillodd hefyd liniadur. Da iawn Iwan.

mewn Astudiaethau’r Cyfryngau, Shona Wilson, wedi defnyddio’r ymchwil ar gyfer ei thraethawd hir academaidd ar ddulliau marchnata Corfforaeth Disney mewn modd ymarferol iawn. Aeth ar leoliad gwaith yn JPDS, un o brif gwmnïau’r DU ym maes dylunio graffig y mae Laura Ashley a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ymhlith ei gleientiaid. Cymaint fu’r argraff a wnaeth Shona a’i strategaeth farchnata ardderchog i un o gleientiaid JPDS nes i’r cwmni ofyn iddi ddychwelyd a chyflwyno’r strategaeth ar ei ran. Gwych Shona!

ac roeddent mor hapus â’r gwaith a gynhyrchwyd nes i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Phrif Weithredwr y cleientiaid, Golwg 360, gytuno y dylid defnyddio’r ffilmiau i hyrwyddo’r Eisteddfod. Gobeithio y bydd llwyddiant y fenter hon yn arwain at ragor o waith i’r criw talentog hwn. Da iawn, Richard, Luke a Susanna!

iHelp i Chi Sefydlwyd iHelp Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd gan dri myfyriwr ôl-raddedig, Richard Jackson, Chris Carbin a Cathrin Howells, a’i ddiben yw cefnogi a chynorthwyo myfyrwyr israddedig gydag agweddau ar eu gwaith pan nad oes cefnogaeth uniongyrchol gan y tiwtoriaid ar gael. Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda meddalwedd, cefnogaeth dechnegol a thrafod syniadau. Maent yn cefnogi myfyrwyr yn uniongyrchol mewn dosbarthiadau ac ystafelloedd gweithio, ac yn dangos bod cefnogaeth ar gael trwy wisgo rheffynnau gwyrdd; maent hefyd yn defnyddio’r e-bost ac wedi sefydlu grwp ar Facebook. Mae nifer y myfyrwyr sydd wedi manteisio ar y cynllun hwn wedi bod yn rhyfeddol ac mae’r adborth wedi bod yn hynod o gadarnhaol.

I GYSYLLTU Â’R ADRAN : Dr Robert Shail | r.shail@lamp.ac.uk | 01570 424749 | www.lamp.ac.uk/fm


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.