With Hand and Heart

Page 1


Linda Kemshall

Inspired by the landscape, birds, home and much beloved objects, Linda and Laura have drawn, painted, printed and stitched. The resulting body of work includes quilts, sketchbooks, paintings and prints with a focus on detail, colour and the importance of surface quality achieved through a careful layering of process and combination of technique. Each piece the product of the maker's hand and heart. Mae Linda a Laura wedi'u hysbrydoli gan y dirwedd, adar, eu cartref a'u hannwyl bethau wrth iddyn nhw fynd ati i arlunio, paentio, argraffu a gwn誰o. Mae'r darnau terfynol o waith yn cynnwys cwiltiau, llyfrau braslunio, paentiadau ac argraffiadau. Maen nhw'n canolbwyntio ar fanylder, lliwiau a pha mor bwysig mae ansawdd yr arwyneb drwy osod haenau mewn dull gofalus a chyfuno technegau. Mae pob darn o waith wedi'i gynhyrchu gan law a chalon y gwneuthurwr.


Linda & Laura Kemshall A collaborative piece inspired by Christina Rosetti’s epic poem, ‘Goblin Market’. The hands and cherries are painted onto hand dyed fabric before being machine quilted. The border text is digitally embroidered. Dyma ddarn sydd wedi'i wneud ar y cyd. Daeth yr ysbrydoliaeth o gerdd epig gan Christina Rosetti, o'r enw ‘Goblin Market’. Mae'r dwylo a'r ceirios wedi'u paentio ar ffabrig a gafodd ei liwio â llaw cyn iddo fe gael ei gwiltio â pheiriant. Mae'r testun o amgylch yr ochrau wedi'i frodio yn ddigidol.


Linda Kemshall Frances is contemplating secrets whispered to her by Crow before recording them in her ledger. Whole cloth free machine quilting with fabric painting and additional applications of fabric pastel. Mae Frances yn myfyrio ar gyfrinachau sy'n cael eu sibrwd iddi gan y fr창n cyn iddi fynd ati i'w nodi nhw yn ei llyfr. Cwiltio rhydd 창 pheiriant ar frethyn cyfan gyda phaent ffabrig a phastelau ffabrig ychwanegol.


Linda Kemshall The traditional block, ‘Storm at Sea’ is both pieced conventionally and painted. The central figure is inspired by a character in an Arthur Rackham painting. Cotton fabrics with fabric paint and pastel, free motion quilted. Mae'r bloc traddodiadol, ‘Storm at Sea’, wedi'i roi at ei gilydd yn y dull confensiynol ac wedi'i baentio. Cafodd y ffigwr canolog ei ysbrydoli gan gymeriad mewn paentiad gan Arthur Rackham. Ffabrigau cotwm gyda phaent a phastelau ffabrig, ac mae'n cynnwys cwiltio rhydd.


Laura Kemshall I’m often inspired by members of my family who feature in my quilts either as portraits or as stories. My Grandma has always danced. Once day we were looking at some of her old dance shoes and she said to me “I wish I could go back to all the places I danced in those shoes”. I thought that was quite an evocative statement and it fixed in my mind. I photographed her holding the shoes and since then have made a number of pieces that feature them. This quilt is a hand painted whole cloth with free machine quilting. Yn aml, rydw i'n cael fy ysbrydoli gan aelodau o fy nheulu ac rydw i'n eu cynnwys nhw yn fy nghwiltiau, naill ai ffurf portreadau neu storïau. Mae fy mam-gu wedi dawnsio erioed. Un tro, roedden ni'n edrych ar rai o'i hen esgidiau dawnsio a dywedodd hi wrtha i, “Byddwn i'n hoffi mynd yn ôl i'r holl lefydd roeddwn i'n dawnsio yn yr esgidiau hynny”. Roeddwn i'n meddwl bod hynny'n ddatganiad eithaf atgofus ac mae e wedi aros yn fy nghof. Tynnais i lun ohoni hi'n dal yr esgidiau ac, ers hynny, rydw i wedi creu nifer o ddarnau sy'n eu cynnwys nhw. Mae'r cwilt yma yn frethyn cyfan sydd wedi'i baentio ac sy'n cynnwys cwiltio rhydd.


Laura Kemshall I often work with the same theme and subject matter over a series of pieces using different media. This is a smaller and simpler piece than ‘In Those Shoes’. Here I’ve drawn the shoes directly to the fabric and stamped the lettering before adding stitch by machine. I love to use the same techniques on fabric as I can in my sketchbook and this little piece was an ideal opportunity for demonstrating that. Yn aml, rydw i'n gweithio gyda'r un thema a phwnc dros gyfres o ddarnau, gan ddefnyddio cyfryngau gwahanol. Dyma ddarn sy'n llai na ‘In Those Shoes’ ac mae'n symlach. Yma, rydw i wedi arlunio'r esgidiau ar y ffabrig ac wedi stampio'r llythrennau cyn defnyddio'r peiriant i ychwanegu pwythau. Rydw i wrth fy modd â defnyddio'r un dulliau ar ffabrig ag rydw i'n eu defnyddio yn fy llyfr braslunio ac roedd y darn bach yma yn gyfle perffaith i wneud hynny.


Linda & Laura Kemshall A collaborative wholecloth silk quilt inspired by the decorative style of the Arts and Crafts movement. We chose all our favourite fruits which were free motion quilted by Laura before I hand painted them. Just like painting by numbers! Dyma ddarn sydd wedi'i wneud ar y cyd. Mae'n gwilt sidan cyfan a gafodd ei ysbrydoli gan ddull addurnol y mudiad Celf a Chrefft. Dewison ni ein hoff ffrwythau a chawson nhw eu cwiltio'n rhydd gan Laura cyn i mi fynd ati i'w paentio nhw. Mae'n debyg i baentio yn 么l rhifau!


Laura Kemshall I love sketchbooks and making handmade books. With this piece I combined those ideas with textiles. We’d recently moved into a new house that needed lots of work so the bare plastered pages and emulsion paint are a literal reference. Rydw i wrth fy modd â llyfrau braslunio a chreu llyfrau fy hun â llaw. Yn y darn yma, rydw i wedi cyfuno'r syniadau hynny gyda thecstilau. Roedden ni newydd symud i d newydd ac roedd eisiau cyflawni llawer o waith yno, felly, mae'r tudalennau o blastr a phaent emwlsiwn yn cyfeirio at hynny.


Laura Kemshall Everyone assumes that I get my creativity from my Mom’s side of the family, but after researching my family history it turns out that relations on my Dad’s side were lace makers in Nottingham and Calais. Turns out they gave up on lace and went to Australia for gold hence the title of the quilt! Mae pawb yn honni bod fy nghreadigrwydd yn dod o ochr mam ond, ar ôl hel achau, mae'n debyg mai gwneuthurwyr les o Nottingham a Calais oedd perthnasau fy nhad. Mae'n debyg roedden nhw wedi troi eu cefnau ar les a mynd i Awstralia er mwyn cloddio am aur, a dyna'r rheswm dros deitl y cwilt!


Linda Kemshall This was the first painted quilt I ever made. It was inspired by the stained glass designs of Pre Raphaelite artist Edward Burne Jones, a long time favourite of mine, and features the Fifth Day of Creation when the birds of the air came to be. It is wholecloth cotton, free motion quilted and hand painted with screen printing inks. Burne Jones didn’t include crocodiles, crabs and grasshoppers they were my idea! Dyma'r cwilt cyntaf roeddwn i wedi'i baentio. Cafodd ei ysbrydoli gan ffenestri lliw yr artist CynRaffaëlaidd, Edward Burne Jones -sef un o fy hoff artistiaid. Mae'n cynnwys darlun o bumed diwrnod y Creu pan gafodd yr adar eu creu. Dyma frethyn cotwm cyfan, gyda chwiltio rhydd ac wedi'i baentio â llaw gan ddefnyddio inc ar gyfer printio sgrin. Doedd Burne Jones ddim wedi cynnwys crocodeiliaid, na chrancod na cheiliogod rhedyn - fy syniad i oedd y rheini!


www.lindakemshall.com

www.cvmg.co.uk www.independentcreative.co.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.