Cylchlythyr Awst (Cymraeg)

Page 1

PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL Cylchlythyr : Rhifyn Cyntaf Gorffennaf 2011

YN Y RHIFYN HWN: Cyflwyniad Trefniadaeth y Prosiect

Trawsnewid a ‘Beth sy’n Gweithio?’ Y Prosiect Contractwyr y Prosiect Timau Both Strwythur y Prosiect Hunaniaeth y Prosiect Hyfforddiant a Digwyddiadau

Cyflwyno cylchlythyr ein prosiect! Helo bawb! Pleser yw cyflwyno ein cylchlythyr cyntaf ar gyfer y Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol! Anelir y rhifyn cyntaf hwn at staff y prosiect, gyda’r nod o roi’r ‘darlun cyflawn’ i chi o safbwynt strwythur y prosiect a’r hyn sy’n digwydd, a hefyd i roi gwybod pwy yw pwy a rhai cysylltiadau defnyddiol! O fis Medi, caiff rhifyn misol ei lansio a bydd ar gael i bobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr, gweithwyr proffesiynol eraill ac asiantaethau allanol a

allai fod ganddynt ddiddordeb mewn rhieni i gymryd rhan hefyd - byddem yn trawsnewid yn ogystal â chi, staff y prosiect. falch o glywed eu barn a’u profiadau. Nod sylfaenol y cylchlythyr yw rhannu arfer da a syniadau da, rhannu straeon am lwyddiant a newyddion o’r timau both a rhoi gwybod i bobl am hyfforddiant a digwyddiadau, polisi ac ymchwil a manion defnyddiol eraill! Rhannwch eich syniadau da a’ch straeon am lwyddiant gyda’r gweddill ohonom ac annog eich pobl ifanc a

Laura Davies – Swyddog Gwybodaeth Laura.davies@learningdisabilitywales.org.uk

Rhai ffeithiau:

Trawsnewid Mae trawsnewid wedi bod yn flaenoriaeth i wasanaethau iechyd a chymdeithasol ers dros 10 mlynedd. Gall trawsnewid llwyddiannus i bobl ifanc ag anableddau dysgu olygu gostyngiad sylweddol o ran mewnbwn gwasanaethau wrth iddynt ddod yn oedolion ac o ganlyniad mae’n fuddiol i les y person ifanc ac yn gost effeithiol i Awdurdodau Lleol a Llywodraeth.

1. 2. 3.

Yn Awstralia mae dros 60% o bobl ag anableddau dysgu mewn cyflogaeth. Yn UDA mae oddeutu 32% mewn cyflogaeth. Yng Nghymru mae oddeutu 7% o bobl ag anabledd dysgu yn gyflogedig!

Beth sy’n Gweithio? Cafodd canfyddiadau allweddol o ‘Beth sy’n Gweithio?’ (Beyer et al, 2008) fod y ddarpariaeth a’r gefnogaeth ganlynol yn bwysig ar gyfer proses drawsnewid bositif ac effeithiol:

Mae nifer o astudiaethau ac adroddiadau wedi cadarnhau nad yw’r system drawsnewid yn darparu cefnogaeth ddigonol i bobl ag anghenion arbennig, yn enwedig diffyg cefnogaeth i bobl ifanc ag anableddau dysgu gyrchu cyflogaeth. Mae gan y DU record wael o gyflogi’r rheiny ag anableddau dysgu a chysyniad cyffredin nad yw pobl ag anableddau dysgu yn gallu gweithio. Ni roddir cyflogaeth fel opsiwn i nifer fawr o bobl ag anableddau dysgu yn eu cyfarfodydd trawsnewid, mae gan bobl ifanc, gofalwyr ac ysgolion uchelgeisiau gwahanol a all gael effaith negyddol ar lwyddiant cynllun trawsnewid y person ifanc, ac mae cefnogaeth yn amrywio ar draws sefydliadau. Mae’r prosiect hwn yn ceisio mynd i’r afael â’r anghydbwysedd hwn, herio cysyniadau a chreu newid.

Rwy’n gobeithio y byddwch yn cael hwn a chylchlythyrau dilynol yn ddefnyddiol, ac os oes gennych unrhyw adborth (da neu ddrwg) rhowch wybod i mi!

  

  

1

Hyrwyddo a chefnogi cyflogaeth fel opsiwn yn gynnar mewn cynllunio trawsnewid Cynnwys sefydliadau cyflogaeth fedrus mewn cynllunio trawsnewid Mynediad i brofiad gwaith hyblyg wedi’i deilwra’n unigol, gyda chefnogaeth bersonol yn y gwaith lle bo angen Darparu gweithwyr trawsnewid fel pwynt gwybodaeth a chefnogaeth unigol i bobl ifanc a’u teuluoedd Hyfforddiant galwedigaethol cyson o safon uchel mewn ysgolion a cholegau Herio’r syniad nad yw pobl ifanc ag anableddau dysgu yn gallu gweithio

Mae’r Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol yn anelu at fynd i’r afael â’r anghenion hyn.


Nodau’r prosiect Gwella Canlyniadau Addysgol i Gyfranogwyr Gweithio mewn Ffordd sy’n Canolbwyntio ar y Person Darparu Model Cefnogi Cynhwysfawr Mynd i’r Afael â’r Prif Rwystrau i Gyflogaeth Darparu pecyn cymorth o arfer gorau a fframwaith i Gymru. Cynyddu rhagolygon cyflogaeth Newid arferion gwaith

Y Prosiect Mae’r Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol yn cael ei ddatblygu ers Mawrth 2007 ac mae’n seiliedig ar y prosiect Hybu Annibyniaeth a ddechreuwyd yng Nghaerffili yn 2003. Mae’r prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 14-19 oed sydd ag anghenion difrifol a chymhleth, anabledd dysgu, y rheiny ar y sbectrwm awtistig, a’u teuluoedd/gofalwyr. Cydnabuwyd y prosiect fel model o arfer gorau ac o ganlyniad i lawer o waith caled gan dîm Caerffili, mewn ymgynghoriad ag asiantaethau allanol, a diolch i gyllid ESF gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), mae bellach yn cael ei gyflwyno ar draws De Cymru mewn 7 Awdurdod Lleol - Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Merthyr, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Torfaen a Phen-y-bont ar Ogwr. Bydd Abertawe a Chastellnedd Port Talbot yn eu lle ym mis Hydref 2011 gan ddod â chyfanswm y timau both i 9. Seilir y prosiect ar ‘gefnogaeth mentor cymheiriad’ a’r model ‘Pum Llwybr’ o drawsnewid i fod yn oedolyn, sef: Dysgu Gydol Oes; Perthnasoedd; Cyfleoedd Hamdden; Cyflogaeth a Byw’n Annibynnol.

Cefnogaeth Mentor Cymheiriad: Hyfforddiant Mentor Cymheiriad yng Nghaerffili gyda Caroline o’r Tîm Canolog Mae pob un o’r 9 tîm both yn cynnwys rhwng 7 a 10 aelod o staff ac mae pob un o rolau’r staff yn adlewyrchu un o’r llwybrau i gefnogi’r person ifanc yn y maes hwnnw yn eu bywyd. Mae timau’n amrywio yn dibynnu ar yr Awdurdod Lleol a pha ddarpariaeth a allai fod ganddynt yn ei lle. Mae pwyslais mawr ar weithio mewn partneriaeth o fewn y prosiect i sicrhau bod y gwaith yn gynaliadwy ac yn gallu cefnogi pobl ifanc mewn ffordd fwy crwn. Mae hyn yn golygu y gall pob tîm both edrych a gweithio ychydig yn wahanol. Fodd bynnag, mae pob tîm yn cynnwys cyfuniad o’r rolau canlynol:          

Cyfleoedd Hamdden - Grŵp Dug Caeredin wedi’i gefnogi gan Laura o Dîm Both Caerffili

2

Gweithiwr PCP Swyddog Cyswllt Teuluoedd Gweithiwr Allweddol Trawsnewid Gweithiwr Sgiliau Byw’n Annibynnol Cydlynydd Mentor Cymheiriad Gweithiwr Cefnogi Seicoleg Gweithiwr Cynhwysiad Ieuenctid Swyddog Cyfathrebu Swyddog Datblygu Dug Caeredin Swyddog Cyllid a Monitro

Bydd yr holl dimau both yn gweithio mewn partneriaeth uniongyrchol â 6 sefydliad allanol sydd wedi’u contractio i mewn i ddarparu gwahanol wasanaethau cefnogi.


Contractwyr y Prosiect

Remploy ac NAS Mae Remploy a’r Gymdeithas Awtistig Genedlaethol yn cefnogi’r holl dimau both ac maent yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu cefnogaeth arbenigol i fyfyrwyr ar y prosiect sydd ar y sbectrwm Awtistig. Byddant yn cyflwyno gwasanaethau ymgysylltu, hyfforddiant a chefnogaeth cyngyflogaeth, gweithgarwch chwilio am swyddi, ymgysylltu cyflogwyr, profiad gwaith, cyflogaeth, cefnogaeth a brocera ôlgyflogaeth, a chyflogaeth barhaus.

Mae gwasanaethau cefnogi yn cynnwys cefnogi cyflogaeth, hyfforddiant a gwasanaethau gwybodaeth, a darperir ymchwil a gwerthuso’r prosiect dros dair blynedd gan     

Remploy a’r Gymdeithas Awtistig Genedlaethol (NAS) Mencap Cymru Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth Elite Canolfan Anableddau Dysgu Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru

Mae ymgynghorwyr yn gweithio gydag ymgeiswyr i gwblhau Proffil Diagnostig i ddatblygu a chyflwyno Cynlluniau Gweithredu sy’n mynd i’r afael ag anghenion fel sgiliau galwedigaethol, datblygu sgiliau cyflogadwyedd, cefnogaeth rhwystrau arbenigol, profiad gwaith a gweithgarwch chwilio am swyddi. Rydym yn adolygu ac yn diweddaru’r cynlluniau hyn ac yn hybu cynaliadwyedd drwy gynllunio cynnydd a thrwy ddarparu cefnogaeth barhaus i gyflogwyr ac ymgeiswyr.

Elite Bydd Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth Elite yn darparu’r gwasanaeth cyflogaeth â chymorth fydd yn gweithredu dros siroedd Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot o fewn y prosiect. Bydd Elite yn rhoi i bobl ifanc ag anableddau hyfforddiant galwedigaethol achrededig, lleoliadau gwaith un i un wedi’u cefnogi ac wedi’u cyfateb i alwedigaeth o’u dewis, ochr yn ochr â chyflogaeth â thâl mewn naill ai swyddi ar ôl ysgol, swyddi ar y penwythnos neu gyflogaeth barhaol pan fyddant wedi cwblhau eu haddysg. Bydd cefnogaeth un i un o fewn lleoliadau gwaith neu gyflogaeth â thâl yn cynnwys naill ai gefnogaeth gan staff sy’n oedolion neu dechnegau arloesol mentora gan gymheiriaid, yn deillio o Brosiect Cyflogaeth â Chymorth i Ieuenctid cenedlaethol arobryn Elite.

Mencap Contractiwyd Mencap Cymru i ddarparu elfen gyflogaeth y prosiect hwn o fewn siroedd Torfaen, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Bydd Mencap Cymru yn cyflwyno pecynnau paratoi at waith a chyflogaeth â chymorth wedi’u teilwra’n unigol i gyfranogwyr. Bydd y rhaglen yn cynnwys gwaith dosbarth fydd yn arwain at gymhwyster fel ASDAN Workright, lleoliadau profiad gwaith â chymorth a sesiynau cael blas ar waith. Bydd elfennau eraill y ddarpariaeth yn cynnwys hyfforddiant teithio, sicrhau cyflogaeth â thâl a darparu cyngor i deuluoedd.

Anabledd Dysgu Cymru Mae Anabledd Dysgu Cymru yn darparu gwybodaeth a hyfforddiant i staff y prosiect, cyfranogwyr, teuluoedd/gofalwyr cyfranogwyr ac i’r grŵp staff ehangach fydd yn ymwneud â thrawsnewid y bobl ifanc. Cynigir amrywiaeth eang o hyfforddiant yn cynnwys Cynllunio Manwl Seiliedig ar y Person a Chyflwyniad i gynllunio Seiliedig ar y Person, ‘Dosbarthiadau Meistr’ ar gais gan dimau both a Seminarau Rhwydweithio ar bynciau penodol fel cyflogaeth, cynhwysiad a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Cassie Richards o Ysgol Hen Felin, Rhondda ar ei Chwrs Ymwybyddiaeth Teithio a arweiniwyd gan Ian o Elite

Canolfan Anableddau Dysgu Cymru Bydd Stephen Beyer gyda thîm o ymchwilwyr yng Nghanolfan Anableddau Dysgu Cymru yn archwilio deilliannau’r prosiect drwy gasglu data disgrifiadol ar yr holl bobl ifanc a wasanaethwyd, tracio’r holl fewnbynnau i bobl ifanc o’r prosiect, a chymharu cyfraddau cyflogaeth a deilliannau eraill gyda grŵp rheolydd cyfatebol drwy gyfweliadau dilynol gyda theuluoedd 6 mis a hyd at dair blynedd ar ôl gadael yr ysgol. Bydd cyfres o astudiaethau blwyddyn o hyd yn archwilio a yw elfennau allweddol yr ymyrraeth yn cyflwyno’r deilliannau seicogymdeithasol disgwyliedig, a chael gwell dealltwriaeth o sut gallai’r elfennau model hyn gyfrannu at well deilliannau, o’u cymharu â rheolyddion. Dosberthir canlyniadau’r prosiect i gyfranogwyr yn yr ymchwil drwy gyfres o weithdai a drefnir mewn cydweithrediad ag Anabledd Dysgu Cymru. Bydd Claire Pimm, Andrea Meek ac Axel Kaehne yn aelodau’r Tîm Ymchwil.

Bydd ein tîm gwybodaeth yn diweddaru’r rheiny sy’n ymwneud â’r prosiect a’r gynulleidfa ehangach o safbwynt deddfwriaeth, enghreifftiau o arfer da, methodoleg, gwerthuso, straeon am bobl ifanc/teuluoedd ynghyd â gwybodaeth hygyrch i bobl ifanc drwy gylchlythyrau, diweddariadau a gwefan.

*Anfonir manylion cyswllt ar gyfer yr holl Gontractwyr drwy ebost. I ddiweddaru manylion cyswllt cysylltwch â Berwyn Perry: perryb@caerphilly.gov.uk 01443 814447

3


Trefniadaeth y Prosiect Mae Awdurdod Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymryd rôl arweiniol wrth ddatblygu’r prosiect ac mae’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros weinyddiaeth a chyllid yn gyffredinol. Mae Caerffili yn gartref hefyd i’r Tîm Canolog, sy’n gyfrifol am reoli’r prosiect yn gyffredinol, ac sy’n bwydo yn ôl i Awdurdod Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili drwy’r ‘Rheolwr Gwasanaeth ADY ALl’ a’r ‘Swyddog Cyllid ALl’. Mae’r tîm canolog wedi’i leoli yn Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity Fields ochr yn ochr â Thîm Both Caerffili ond mae’n endid ar wahân. Cadeirir Grŵp Llywio Rheoli’r Prosiect gan Reolwr Gwasanaeth ADY yr ALl gyda chynrychiolydd o bob sir a phob Contractwr yn mynychu i drafod cyfeiriad a datblygiad y prosiect. Mae’r contractwyr yn darparu gwasanaethau fel y disgrifiwyd i’r holl dimau both ac maent yn wasanaeth cefnogi ‘ymbarél’. Yr eithriadau yw Elite a Mencap sy’n gweithio yn y siroedd a nodwyd eisoes yn unig. Cyflogwyd a rheolwyd pob tîm both gan eu Hawdurdod Lleol perthnasol a chânt eu cyfarwyddo gan grŵp llywio lleol a drefnwyd gan yr Awdurdod Lleol. Caiff gwybodaeth ei bwydo yn ôl i’r timau both sy’n gweithio un i un gyda’r cyfranogwyr i’w cefnogi drwy eu trawsnewid.

Timau both Anfonir manylion cyswllt ar gyfer holl staff y prosiect drwy atodiad e-bost. Os bydd angen i chi newid eich manylion cyswllt yna cysylltwch â Berwyn Perry perryb@caerphilly.gov.uk 01443 814447 Rôl Rheolwr Tîm

Arweinydd Tîm Rheolwr Ieuenctid a Hamdden Gweithiwr Allweddol Trawsnewid Gweithiwr PCP

Pen-y-Bont Caerffili Caerfyrddin Anthony Maynard Glynis James Angela (Pennaeth) Kenvyn/Simone Jonathan Hughes (Gwas Cymd) Williams Lynn Joanne Amanda Davies Harper Barker Geraldine Smallman

Merthyr Sian Thomas (Gwas Cymd)

Penfro Sue Painter ( Pennaeth )

Karyn Morris

Lynn Winfindale

Lynn Winfindale

Lynn Davies

Dafydd Flay

Amanda Barker

Hayley Thomas

Catherine Hughes

Joanne Harper

Claire Thomas

Karyn Morris

Catherine Hughes

Joanne Harper

Claire Thomas

Sgiliau Byw’n Annibynnol Cynhwysiad Ieuenctid

David Evans Tanya Pound

I’w gadarnhau

Hyfforddwr Mentoriaid Cymheiriaid Dug Caeredin

Tanya Pound

Amy Pole Bethan Stallard Geraldine Smallman Bethany Dowsett

Cefnogaeth Seicoleg Menter Gymdeithasol Cyllid a Monitro Swyddog Grantiau

Sarah Thomas Neil Wilson Hanna Thomas

Heike Griffiths

Heike Griffiths

Torfaen Lesly Bush ( Pennaeth )

Suzanne Dicken

Karyn Morris Tim Carter Kate Thomas I’w gadarnhau

Linda Llewellyn

Darryn Walker Jodie Way Craig Chedzoy Darryn Walker Jodie Way Craig Chedzoy Tracy Lloyd

Katy Wragg Jodie Evans

Helen Spokes Ian Broad

I’w gadarnhau

Jodie Evans

Linda Llewellyn Rhiannon Davies (cyfathrebu)

Cyswllt Teuluoedd

RhCT Andy Henderson ( Pennaeth ) Darryn Walker

Laura Hayter Anna Jenkins

Irina Lapadatu

Tracey Jones

Berwyn Perry

Anna Sadler

Sian Phillips

Helen Palmer

Sue Garland (cyfathrebu)

Helen Palmer Nicola Perry Kristina Burroughs

I’w gadarnhau

Jane Richards Stephanie Hopkins

Emily Sibcy

James Mckeon

Amy McClellan

Rhoswen Cox

Nicola O’Hagan

Matthew Holder

D.S. Bydd Timau Both Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn eu lle erbyn Hydref 2011, bydd manylion cyswllt yn dilyn.

4


Prosiect Trawnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol Strwythur y Prosiect

Cynrychiolwyr Ardal Leol Caerffili

Grŵp Llywio Rheoli’r Prosiect

Rheolwr Gwasanaeth ADY ALl Cadeirydd Grŵp Llywio Rheoli’r Prosiect

Rheolwr Gwasanaethau Cymunedol/Prosiect Angela Kenvyn kenvya@caerphilly.gov.uk

Swyddog Cyllid ALl Cyswllt tîm canolog i’r Cyfarwyddwr Cyn. yn goruchwylio cyllid

01443 814447 ext. 6043

Contractwyr

Tîm Canolog

Cefnogi Cyflogaeth Elite Andrea Wayman awayman@elitesea.co.uk 01443 231069

Cydlynydd Datblygu Ment. Cymheiriaid

Rheolwr Cyllid a Monitro

Caroline Millington millic1@caerphilly.gov.uk 01443 814447 ext. 6043

Susanne Salter saltes@caerphilly.gov.uk 01443 814447 ext. 6043

Cefnogi Cyflogaeth Mencap Cymru Helen Steel Helen.steel@mencap.org.uk 01267 232256 ext. 301

Hyfforddiant a Gwybodaeth Anabledd Dysgu Cymru Zoe Richards Zoe.richards@learningdisabilitywales .org.uk 02920 681168

Ymchwil a Gwerthuso Can. Anableddau Dysgu Cymru Dr Steven Beyer beyer@cf.ac.uk 02920 687206

Asiantaethau Cyflogaeth Teithiol ASD REMPLOY & NAS Pamela.bayal@remploy.co.uk 07977 436048

Timau Both Rhanbarthol

Grwpiau Llywio Lleol – Penodwyd yn Lleol

Caerffili Joanne Harper

Sir Gaerfyrddin Amanda Barker

idgend.gov.uk

harpeja@caerphi lly.gov.uk

07854 946649

01443 814447

Pen-y-bont Lynn Davies

.lynn.davies@br

Karyn Morris

Penfro Lynn Winfindale

Helen Palmer

RhCT Darryn Walker

AMBarker@carmar thenshire.gov.uk

Karyn.morris@m erthyr.gov.uk

Lynn.Winfindale@ pgfl.org.uk

Helen.palmer@t orfaen.gov.uk

.Tiwproject.ysgolhen felin@rctednet.net

01267 24673

01685 724658

01437 771442

01633 627120

01443 431571

Merthyr

5

Torfaen

Castell-nedd Port Talbot Llanw’r swydd erbyn Hyd 2011

Abertawe Llanw’r swydd erbyn Hyd 2011


Hunaniaeth y Project Hunaniaeth y Project Cyfeirir at y prosiect gyda sawl enw, ac mae rhai yr ydym wedi’u clywed yn cynnwys: • • • • • •

Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol Prosiect TIE Prosiect Trawsnewid Hybu Annibyniaeth Trawsnewid i Gyflogaeth ESF Prosiect Trawsnewid i Waith

Yr enw swyddogol yw ‘Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol’, y mae angen i ni ei gadw at ddibenion cyllido. Wedi dweud hynny, mae’n dipyn o lond pen, felly er mwyn ei wneud yn haws i bawb, lansiwyd cystadleuaeth enwi gan y tîm canolog! Mae’r cynigion i gyda wedi ein cyrraedd ac mae’r syniadau gyda dylunydd ar hyn o bryd, felly bydd hunaniaeth wirioneddol gennym cyn hir! Defnyddiwch yr enw, y logo a’r cynllun lliw pan gânt eu lansio i gefnogi’r prosiect yn gyffredinol. Bydd y canlyniadau yn y cylchlythyr nesaf! 

Hyfforddiant a Digwyddiada Seminar Rhwydweithio Cynhwysiad Am fwy o wybodaeth neu i gael gwybod sut i archebu hyfforddiant cysylltwch â Hannah yn: Hannah.cox@learningdisabilitywales.org.uk neu ar 01792 817224

Seminar Rhwydweithio Cyflogaeth I: Pob Both Dyddiad: 16eg Medi Amser: 10am – 1pm Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr Parc Fforest Afan

I: Pob Both Dyddiad: 19eg Awst Amser: 10am – 1pm Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr Parc Fforest Afan

Seminar Rhwydweithio Cynllunio ar gyfer y Dyfodol I: Pob Both Dyddiad: 23ain Awst Amser: 10am – 1pm Lleoliad: Canolfan Ymwelwyr Parc Fforest Afan

Cyflwyniad i Gynllunio Seiliedig ar y Person

Hyfforddiant ar y Gweill: Cyflwyniad i PCP

I: Caerffili a Thorfaen Dyddiad: 31ain Awst Lleoliad: Canolfan Ddawns New Cottage

RhCT, Merthyr a Phen-y-Bont Medi (Dyddiadau a Lleoliad i’w cadarnhau) Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro Hydref (Dyddiadau a Lleoliad i’w cadarnhau)

Os hoffech gyflwyno straeon, newyddion, offer PCP, cysylltiadau a/neu ddolenni defnyddiol neu unrhyw beth sy’n werth ei rannu cysylltwch â Laura yn Anabledd Dysgu Cymru: Laura.davies@learningdisabilitywales.org.uk 01792 817224 Anabledd Dysgu Cymru – Castell-nedd Swyddfa C & D Canolfan Fusnes Newby Tŷ Newby Parc Busnes Mynachlog Nedd Castell-nedd SA10 7DR 6


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.