December Newsletter 2013 Welsh

Page 1

PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL

Rhagfyr 2013

Yn y rhifyn hwn Cyflwyniad Nadolig Llawen a Chroeso i’n newyddlen Rhagfyr. Cynhadledd Mi a Thi 2013 Gerraint wrth y llyw yng nghynhadledd flynyddol yr elusen genedlaethol a Hannah’n rhoi trosolwg o’i gweithdy Cylchoedd Perthnasoedd Effaith Cyfleoedd Gwirioneddol ym Merthyr Tudful Rheolwraig y tîm Sian Thomas yn dangos sut mae’r prosiect wedi gwneud gwahaniaeth ym Merthyr. Lansio Grŵp Cymdeithasol Awtistiaeth yn Abertawe Mae grŵp cymdeithasol newydd i bobl ag Awtistiaeth wedi’i sefydlu yn Abertawe. Cinio Ymadawyr yn Hwyluso symud i’r coleg Mae tîm both Castell-nedd wedi bod yn helpu pobl ifanc wrth iddynt symud i’r coleg gyda digwyddiadau cymdeithasol. Hyfforddiant a Digwyddiadau

Rhestr o hyfforddiant a digwyddiadau sydd ar y gweill

Nadolig Llawen a chroeso i rifyn olaf 2013 newyddlen y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol! Mae ein stori gyntaf yn y rhifyn hwn yn cynnwys gwybodaeth am gynhadledd flynyddol Anabledd Dysgu Cymru gyda Gerraint Jones-Griffiths, person ifanc o Gyfleoedd Gwirioneddol wrth y llyw. Yn yr erthygl hon hefyd mae gwybodaeth am gylchoedd perthnasoedd a ysgrifennwyd gan Swyddog Hyfforddiant y Prosiect, Hannah Cox, a gyflwynodd weithdy ar gylchoedd perthnasoedd yn y gynhadledd. Mae Sian Thomas, rheolwraig Tîm Both Merthyr Tudful yn trafod yr effaith bositif mae’r prosiect wedi’i chael ym Merthyr ac mae Lucy Harries yn disgrifio rhai o’r gweithgareddau y trefnodd staff i bobl ifanc i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol. Mae’r Grŵp Cefnogi Cyflogaeth Sbectrwm Anhwylderau Awtistig (ASDES) yn Abertawe wedi sefydlu grŵp cymdeithasol newydd i bobl ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig er mwyn dod at ei gilydd gyda’u cyfoedion yn rheolaidd, ac mae mwy o wybodaeth am ymuno â’r grŵp hwn ar dudalen 6. Yn olaf, mae Tîm Both Castell-nedd Port Talbot yn dweud wrthym am sut maent yn defnyddio Ciniawau Ymadawyr i helpu pobl ifanc wrth iddynt symud i’r coleg. Cofiwch gallwch ein hoffi ar Facebook, yn dilyn ar Twitter a chael mwy o wybodaeth, hyfforddiant y prosiect sydd ar y gweill a chael mynediad i offer cynllunio seiliedig ar y person am ddim o’n gwefan www. realopportunities.org.uk Gobeithio y cewch chi Nadolig ardderchog ac fe welwn ni chi yn y Flwyddyn Newydd! Laura Griffiths, Swyddog Gwybodaeth y Prosiect


CYNHADLEDD MI A THI 2013 Cynhaliodd Anabledd Dysgu Cymru, elusen genedlaethol yn cynrychioli’r sector anableddau dysgu yng Nghymru eu cynhadledd flynyddol eleni ar 21 a 22 Tachwedd, a chadeirydd y gynhadledd hon oedd cyfranogwr a mentor cymheiriaid Cyfleoedd Gwirioneddol, Gerraint Jones-Griffiths. Roedd gan Simon Rose, Rheolwr Hyfforddiant a Digwyddiadau yn Anabledd Dysgu Cymru y canlynol i ddweud am Gerraint. Cadeirydd cyfforddus iawn. Mae angen ar bob cynhadledd rywun â’r gallu a’r medr i sicrhau bod pethau’n rhedeg yn hwylus ac i gadw’r cynadleddwyr yn hapus, ac fe wnaeth Gerraint Jones-Griffiths y gwaith hwn yn ardderchog yn ystod Mi a Thi, cynhadledd flynyddol Anabledd Dysgu Cymru eleni. Thema Mi a Thi oedd cyfeillgarwch a pherthnasoedd, felly cafodd ymagwedd gynnes, cyfeillgar a brwdfrydig Geraint groeso mawr! Fe sicrhaodd fod pawb yn gwybod beth oedd yn digwydd yn ystod y ddau ddiwrnod prysur iawn, a rhoddodd groeso cynnes i bob siaradwr a sicrhau eu bod yn teimlo bod pawb yn eu gwerthfawrogi.

Gerraint yn cadeirio yng Nghynhadledd ‘Mi a Thi’ Anabledd Dysgu Cymru. rhwydweithio cymdeithasol a sut i fod yn ddiogel arlein. Cyflwynodd Swyddog Hyfforddiant Cyfleoedd Gwirioneddol, Hannah Cox weithdy ar Gylchoedd Perthnasoedd – offeryn Cynllunio Seiliedig ar y Person a ddefnyddir yn eang ar y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol. Yma mae’n egluro pwrpas Cylchoedd Perthnasoedd ac yn trafod rhai o ganlyniadau’r gweithdai Pam perthnasoedd? Pryd bynnag rwy’n siarad â phobl ifanc am gynllunio ar gyfer eu dyfodol, weithiau maen nhw am siarad am ble yr hoffen nhw fynd i’r coleg, weithiau am ble yr hoffen nhw fyw, a weithiau am y math o swydd y bydden nhw’n hoffi ei chael. Ond mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc am siarad am fwy na hyn. Mae’r rhan fwyaf am siarad am yr hyn sy’n bwysig iddynt – pobl. Mae’n debyg bod angen i bobl ifanc feddwl am bwy sydd yn eu bywyd wrth gynllunio at y dyfodol – eu perthnasoedd. Wrth gwrs, nid rhywbeth newydd yw hyn. Byddai’n rhan fwyaf ohonom mae’n siwr yn dweud mai pobl a pherthnasoedd yw’r pethau pwysicaf yn ein bywydau, felly yn amlwg dylid ystyried hyn wrth wneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Adborth positif i Gerraint ar Twitter Fe wnaeth Gerraint gyd-gadeirio un diwrnod o gynhadledd flynyddol Anabledd Dysgu Cymru y llynedd. Roedd ei broffesiynoldeb a’r ffordd y siaradodd mor hyderus a naturiol yn y gynhadledd yn golygu mai ef oedd y dewis naturiol ar gyfer rhywun i gadeirio’r gynhadledd dau ddiwrnod eleni. Hoffai Anabledd Dysgu Cymru ddiolch i Gerraint am ei waith caled wrth wneud i Mi a Thi deimlo fel cynhadledd am gyfeillgarwch. Roedd y gynhadledd yn gymysgedd bywiog o weithdai rhyngweithiol a rhai llawn gwybodaeth, siaradwyr a drama yn cynnwys pynciau fel perthnasoedd personol a rhywiol, mynd allan gyda phobl, cyfeillgarwch, perthnasoedd teuluol, sut i adnabod cam-drin a

Beth yw cylch perthnasoedd? Un o’r pethau yr ydym ei ddefnyddio i helpu pobl ifanc i feddwl am bwy sydd yn eu bywydau yw Cylch Perthnasoedd neu Fap Perthnasoedd. Mae Cylch Perthnasoedd yn ein helpu i feddwl am y bobl ym mywyd rhywun. Gellir gweld templed ar gyfer cylch 2


perthnasoedd gyferbyn. Mae hwn yn rhannu pobl yn 4 adran: •

Mae’r cylch agosrwydd neu’r cylch cariad i’r bobl y mae rhywun yn eu hadnabod orau; y bobl agosaf atynt y maent yn ymddiried ynddynt.

Mae’r cylch cyfeillgarwch neu’r cylch hoffi ar gyfer y bobl y mae rhywun yn ffrindiau â nhw, yn mwynhau treulio amser gyda nhw ac yn dod ymlaen yn dda â nhw.

Mae’r cylch cyfranogiad neu’r cylch adnabod ar gyfer unrhyw un y mae’r person hwnnw yn eu hadnabod yn eu bywyd ond nad ydynt yn agos iawn atynt neu na fyddent yn eu hystyried yn ffrind.

Mae’r cylch cyfnewid neu’r cylch talu i’r bobl ym mywyd rhywun sy’n cael eu talu i fod yno. Mae’n bwysig iawn i ni allu adnabod y gwahaniaeth rhwng pobl sy’n cael eu talu a phobl nad ydynt yn cael eu talu, yn enwedig pan mae rhywun yn derbyn llawer o wahanol fathau o gefnogaeth. Mae pawb yn haeddu cael pobl yn eu bywyd i’w cefnogi a bod yn ffrindiau gyda hwy nad ydynt yno oherwydd eu bod yn cael eu talu.

rhai o’r cylch ‘cariad’. Dywedodd lawer o bobl y byddent yn teimlo’n fwyaf cyfforddus gyda phobl y maent yn eu hadnabod yn dda ac yn ymddiried ynddynt. Mae hyn yn bwysig iawn i ni ei wybod oherwydd weithiau nid yw pobl sy’n derbyn cefnogaeth gan wasanaethau yn cael dewis i’r bobl hyn fod yn rhan o’u cynllunio - yn aml dim ond pobl sy’n cael eu talu sy’n cymryd rhan. •

Pan ofynnwyd i’r cyfranogwyr ddewis rhywun o’u cylch perthynas y bydden nhw am iddynt eirioli drostyn nhw os nad oeddent yn gallu cyfathrebu, eto, dewisodd y rhan fwyaf o bobl yn y sesiwn rywun agos o’u cylch ‘cariad’. Ond pan edrychon ni ar bwy sydd gan bobl i eirioli drostyn nhw yn aml rhywun o’n cylch o bobl sy’n cael eu talu yw hwnnw.

Gofynnwyd i bawb os oes unrhyw un yn eu cylch perthnasoedd y bydden nhw am gadw mewn cysylltiad â hwy petaen nhw’n symud i rywle newydd. Nododd yr holl gyfranogwyr bobl yn eu cylch ‘cariad’ a ‘hoffi’ y bydden nhw am gadw mewn cysylltiad â hwy. I lawer o bobl ifanc, pan maen nhw’n newid ysgol, yn gadael colegau neu’n symud i rywle newydd nid ydynt bob amser yn cael dewis pwy maen nhw’n cadw mewn cysylltiad â nhw. Mae cylch perthnasoedd yn ein helpu i weld y bobl y mae’n bwysig i’r person yna fod mewn cysylltiad â nhw ac yn helpu i roi cynlluniau yn eu lle i gynnal y perthnasoedd hynny os yw bywyd y person yna’n mynd i newid.

Dywedodd rhai cyfranogwyr yn y gweithdy fod gwneud y cylch perthnasoedd wedi’u helpu i feddwl am newidiadau y byddent yn hoffi eu gwneud. Siaradodd un cyfranogwr am gysylltu â rhywun nad oedden nhw wedi’i weld ers tro. Yn aml mae cwblhau map perthnasoedd yn helpu person i feddwl am y pethau y bydden nhw’n hoffi eu newid neu bobl yr hoffen nhw eu gweld yn fwy rheolaid.

Cylch Cyfnewid Cylch Cyfranogiad Cylch Cyfeillgarwch Cylch Agosrwydd

Os yw’r rhan fwyaf ohonom yn dweud mai pobl yw’r peth pwysicaf yn ein bywyd, yna mae’n debyg bod deall pwy yw’r bobl bwysicaf yn hanfodol i’r broses gynllunio. Mae deall pwy y mae pobl yn ymddiried ynddyn nhw gyda’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn allweddol. Wedi’r cwbl, eu cynllun nhw ydyw, dylen nhw allu dewis yr hyn sy’n mynd i mewn i’w cynllun, sut bydd eu cynllun yn cael ei weithredu ac yn bwysicaf oll pwy fydd yn rhan o’u cynllun a’u bywyd newydd.

Beth wnaethon ni ddysgu? Gofynnwyd i’r rhai ddaeth i’r gweithdy fod yn greadigol a chreu eu cylchoedd perthnasoedd eu hunain gan feddwl am y bobl yn eu bywyd a phwy yw’r rhai sydd agosaf atynt. Yna edrychon ni ar sut y gallai cylch perthnasoedd gael ei ddefnyddio – beth allem ni wneud gyda’r wybodaeth ynddo? Er mwyn gwneud hyn atebon ni gyfres o gwestiynau ac atebodd y cyfranogwyr ‘Ie’ neu ‘Na’ ac yna chael cyfle i egluro eu hatebion. Isod mae rhai o’r pethau y gwnaethon ni eu darganfod: •

Am fwy o wybodaeth am raglen hyffordd Cyfleoedd Gwirioneddol cysylltwch â Hannah Cox ar 01639 635650 neu yn Hannah.cox@learningdisabilitywales. org.uk. Gallwch gael gwybod hefyd am ba hyfforddiant sydd ar gael am ddim, yn cynnwys hyfforddiant cynllunio seiliedig ar y person, ar ein gwefan yn www. realopportunities.org.uk.

Dywedodd y rhan fwyaf o’r rhai oedd yn bresennol os oeddent yn cynllunio newid mawr yn eu bywyd, y bobl y byddent yn eu dewis i’w helpu fyddai’r 3


EFFAITH

CYFLEOEDD GWIRIONEDDOL

YM MERTHYR TUDFUL GAN SIAN THOMAS, RHEOLWR TÎM

Rwy’ wedi gweithio gyda phrosiect Merthyr Tudful ers 3 blynedd. Rwy’ wedi gwylio’r prosiect yn esblygu ac wedi gweld trawsnewidiadau anhygoel yn y bobl ifanc y mae’n eu cefnogi. Niferoedd cyfranogwyr Mae Merthyr Tudful yn cefnogi 112 o bobl ifanc ar hyn o bryd. Mae llawer o’r cyfranogwyr a’u teuluoedd wedi ymroi i gysyniad y prosiect arloesol hwn ac wedi taflu’u hunain yn llawn i mewn i bob cyfle sydd ar gael.

chwalu’r rhwystrau oedd yn atal pobl ifanc Anghenion Dysgu Ychwanegol ac AAA rhag ymgysylltu â gweithgareddau ieuenctid prif ffrwd yn rheolaidd. Yn ystod y misoedd diwethaf mae rhaglen mentoriaid cymheiriaid y prosiect wedi cynnig cefnogaeth i staff y gwasanaeth ieuenctid prif ffrwd. Mae hyn wedi arwain at staff prif ffrwd yn ennill dealltwriaeth ddyfnach o AAA a chwalu nifer o chwedlau am anghenion arbennig a’u cyfyngiadau tybiedig.

Cefnogaeth Seicoleg Mae’r adborth o’r sesiynau hyn wedi bod yn gwbl bositif. Mae 72 o gyfranogwyr wedi’u cefnogi gan y Gweithiwr Cefnogi Seicoleg. Mae’r gwaith un i un a’r gwaith grŵp wedi gweld cyfranogwyr yn tyfu ac yn ymateb, gan newid eu syniadau a’u hymddygiadau

Cyfnodau Preswyl Bothau Mae’r ddau gyfnod preswyl a drefnwyd ar gyfer pob both wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Roedd hefyd yn gyfle i staff y Both ddod i adnabod y bobl ifanc mewn ffyrdd nad yw bob amser yn bosib o fewn amgylchiadau cartref.

“Rwy’ wedi gallu cyfeirio nifer o bobl ifanc i’r prosiect dros y 18 mis diwethaf ac wedi gallu gweld effaith bositif eich gwaith ar hyder, hunan-barch ac annibyniaeth y disgyblion hyn, yn ogystal â sgiliau cysylltiedig â gwaith”

Roedd llawer o’r bobl ifanc nad oeddent erioed wedi profi bod i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd o’r blaen ac roedd hyn yr un mor heriol i rai rieni ag yr oedd i’r bobl ifanc eu hunain.

Dr Natalie O’Neill Seicolegydd Addysg a Phlant

Wedi gweld hwyliau da’r cyfranogwyr wrth iddynt ddychwelyd i Ferthyr, roedd yn amlwg bod llawer o hwyl wedi’i gael, sawl cyfeillgarwch newydd wedi blodeuo a llawer o brofiadau newydd wedi’u profi.

Adolygiadau Blynyddol Mae’r prosiect wedi chwarae rhan bwysig iawn ym Mhroses Adolygiad Blynyddol Ysgolion. Mae Staff y Prosiect wedi cefnogi’r cyfranogwyr a’u teuluoedd i gael gwell dealltwriaeth o’r cyfarfod blynyddol pwysig hwn a gyda chefnogaeth staff y prosiect, mae presenoldeb a chyfraniadau rhieni wedi cynyddu’n sylweddol bob blwyddyn. Mae’r adborth gan rieni wedi bod yn hynod bositif, gyda llawer yn dweud eu bod yn teimlo bod pobl yn “gwrando arnynt”.

Yn dystiolaeth o hyn, mae tîm Merthyr wedi tynnu llawer o luniau o’r gweithgareddau ac roedd y teuluoedd wrth eu boddau ac yn rhyfeddu at gynnydd a dewrder eu plant yn rhoi cynnig ar rai o’r digwyddiadau awyr agored heriol. Mae rhestr aros gennym bellach o gyfranogwyr ar gyfer gweithgareddau’r dyfodol Adborth o’r Ysgol Prif Ffrwd

Cyflwyno i ddarpariaeth ieuenctid prif ffrwd Un canlyniad pwysig fu integreiddio cyfranogwyr y prosiect i weithgareddau gwasanaeth ieuenctid prif ffrwd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT). Mae’r cyfnodau preswyl gwersylloedd haf wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Yn ogystal â chyfnodau preswyl mae gweithgareddau eraill wedi’u cynnig â’r holl leoedd yn cael eu harchebu’n gyflym gan gyfranogwyr, gwibdeithiau diwrnod, ymweliadau â Phwll Mawr, Sain Ffagan ac ati.

“Rwy’n teimlo mai’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yw’r gorau i mi weithio gydag ef o safbwynt cefnogi disgyblion a chael canlyniadau amlwg. Mae’r staff yn ddiflino yn eu hymdrechion i annog disgyblion i wneud eu gorau. Rwy’ wedi addysgu ym Mhen y Dre ers 34 mlynedd ac wedi gweithio erioed â phlant ag anghenion arbennig a dyma’r prosiect gorau erioed i weithio â’n disgyblion ni.”

Penllanw’r integreiddio llwyddiannus oedd cyfnod preswyl penwythnos a gynhaliwyd yn ddiweddar gan CBSMT i gyfranogwyr a mentoriaid cymheiriaid prosiect Merthyr Tudful, er mwyn edrych ar ffyrdd i 4

Lynne Jones Athrawes AAA Ysgol Gyfun Pen Y Dre


Dyma Lucy Harries, Cydlynydd Mentoriaid Cymheiriaid Tîm Both Merthyr Tudful yn rhoi enghraifft o’r cydweithio sy’n digwydd rhwng Tîm Both Merthyr a Gwasanaeth Ieuenctid Merthyr ac yn rhannu rhai straeon o raglen haf brysur Merthyr. Trwy gydol yr amser mae’r tîm Cyfleoedd Gwirioneddol wedi bod yn gweithio ym Merthyr mae’r staff wedi bod yn gweithio’n agos iawn â’r Gwasanaeth Ieuenctid i helpu i greu’r awyrgylch gorau a mwyaf addas i integreiddio ein pobl ifanc i leoliadau ieuenctid prif ffrwd ac i helpu’r Gwasanaeth Ieuenctid i hyfforddi mwy o Fentoriaid Cymheiriaid. Yr haf hwn cawsom wahoddiad gan y Gwasanaeth Ieuenctid i ymuno â hwy ar daith dau ddiwrnod i Ganolfan Llangrannog i gwblhau OCN mewn Gwaith Tîm ac Adeiladu Tîm. Yn ystod y daith cafodd y bobl ifanc gyfle i roi cynnig ar lawer o weithgareddau fel sgïo, marchogaeth a beicio cwad. Roedd cyfranogwyr Cyfleoedd Gwirioneddol hefyd yn rhannu ystafelloedd gyda phobl ifanc prif ffrwd a chafwyd llawer o hwyl.

Darian yn rhoi cynnig ar chwarae’r delyn yn ystod Cwrs Preswyl Diwylliant a Threftadaeth Cymreig

Gwahoddodd Gwasanaeth Ieuenctid Merthyr gyfranogwyr o brosiect Cyfleoedd Gwirioneddol ym Merthyr i ddathlu Treftadaeth a Diwylliant Cymreig ar gwrs preswyl deuddydd arall yng Nghlwb Bechgyn a Merched Treharris. Cafodd y grŵp gyfle i roi cynnig ar glocsio a chwarae offerynnau cerdd yn cynnwys gitâr, telyn a ffliwt. Integreiddiodd yr holl bobl ifanc yn dda yn ystod y cyfnod preswyl a thrwy gydol y gwahanol weithgareddau a daethant at ei gilydd cyn mynd adref i ysgrifennu eu caneuon eu hunain i’w canu a’u recordio. Cawsant CD i fynd adref gyda hwy i gofio’r achlysur

o gwmpas Merthyr i ddatblygu sgiliau teithio oedd yn cynnwys adnabod pa fws oedd ei angen arnynt, gofyn am docyn ac adnabod yr arosfannau cywir i ymuno â’r bws a’i adael. Mwynhaodd y bobl ifanc wrth ddefnyddio’r bws, yn arbennig wrth ddewis lleoliadau newydd i fynd iddynt fel Castell Cyfarthfa a diwrnod hwyl Pen y Dre, sef dau o’r ffefrynnau! Trefnodd y tîm deithiau i Fae Caerdydd a Phwll Mawr, a defnyddio’r rhain i gynnal gweithdai cyllidebu. Datblygodd y bobl ifanc sgiliau cyllidebu, ennill dealltwriaeth o pam mae’r sgiliau hyn yn ddefnyddiol a sut y bydd yn effeithio arnynt yn y dyfodol. Yna cawsant gyfle i archwilio’r ardal ac ymweld â rhywle newydd gyda’u cymheiriaid.

Trwy gydol yr haf cynhaliwyd amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl a chyffro i gefnogi cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol. Gweithiodd y bobl ifanc ar deithio, cyllidebu, a dweud yr amser trwy ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau. Defnyddion nhw’r gwasanaeth bws

Roedd taith olaf y flwyddyn i Sain Ffagan, a defnyddiodd y tîm y cyfle i ganolbwyntio ar sgiliau dweud yr amser. Cafodd y bobl ifanc lawer o hwyl; roedd gan bob un gynllunydd ar gyfer y dydd yn nodi mannau o ddiddordeb o gwmpas y safle. Yna cyfrifoldeb y person ifanc oedd cofnodi’r amser yr oeddem yn cyrraedd y lleoliad nesaf a dweud i ble yr oedd angen mynd nesaf. Roedd pawb yn awyddus i gymryd rhan a rhoi mewnbwn! Roedd yr holl weithgareddau yn seiliedig ar ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol ymarferol pobl ifanc, ond fe wnaethon nhw elwa ar lawer yn fwy na hynny. Cawsant y cyfle i gymdeithasu â phobl ifanc eraill yn ystod gwyliau’r haf, cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Cawsant gyfle i ddatblygu eu hyder a chael ambell ddiwrnod llawn hwyl a chyffro i ffwrdd o’u cartrefi. Roedd y rhaglen gyfan yn brofiad positif dros ben.

Pobl ifanc yng Nghastell Cyfarthfa

5


LANSIO

GRwP CYMDEITHASOL AWTISTIAETH YN ABERTAWE

O’r diwedd mae gan Abertawe grŵp cymdeithasol rheolaidd i bobl ifanc ag awtistiaeth. Cafodd y grŵp ei gyfarfod cyntaf y mis hwn yng Nghanol y Ddinas gyda phum person ifanc yn bresennol, ac yn awyddus i ddysgu a datblygu yn y gymuned a pharatoi eu hunain ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth. Mae ASDES, Cefnogaeth Cyflogaeth Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig yn fudiad buddiant cymunedol a sefydlwyd yn 2011 gan Mike Shaw. Dywedodd Mike: “Sefydlon ni’r grŵp cymdeithasol mewn ymateb i alw gan bobl ifanc yn Ninas a Sir Abertawe.” Nid oes angen talu i ymuno â’r grŵp ac mae’n cwrdd bob tua 2 neu 3 wythnos mewn amrywiol leoliadau yng nghanol y ddinas. Roedd y cyfarfod cyntaf mewn ystafell breifat yng Nghaffi a Bar Tapestri (Stryd y Berllan) ac roedd yn llwyddiant mawr. Dywedodd yr hwylusydd, Maureen Maunder, “Gweithion ni ar ymarfer cyfeillgarwch Maureen, ail o’r chwith, gyda rhai aelodau Grwp yn gyntaf gyda phawb yn ysgrifennu eu Cymdeithasol ASDES. syniadau am ffrind go iawn. Ysgogodd hyn lawer o drafod a chyfrannodd pawb yn dda. galluoedd. Datblygon ni hyn i drafod nodweddion nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi mewn ffrind ac unwaith eto Ymddiriedolwyr eraill ASDES yw: Kath Protheroe, rhannodd pawb eu profiadau. Yn dilyn hoe am goffi, Julie Ottilie-Jones, Andrew Baker, Greg Rosen a defnyddion ni nodiadau post-it a thaflenni mawr o Jonathan Hanna. Gellir cysylltu ag ASDES trwy Mike bapur i nodi ac ysgrifennu yr hyn oedd pawb am ei Shaw (Cadeirydd) ar 07986 166522 neu eu gwefan: www.asdes.org.uk gael allan o’r grŵp. Datblygodd hyn yn sgyrsiau am ddigwyddiadau cymdeithasol, cyfeillgarwch a sgiliau penodol yr oedd unigolion am eu cyflawni. Yr adborth gan yr aelodau oedd eu bod yn teimlo yr hoffen nhw gwrdd bob pythefnos a phenderfynu ar weithgareddau cymdeithasol ar gyfer y dyfodol yn dilyn cael rhai sesiynau gyda’i gilydd. Dywedodd Maureen, “Rwy’n credu bod pawb wedi mwynhau’r cyfle i gwrdd, ac mae gennym syniadau ar gyfer grwpiau yn y dyfodol sef cael hoe am goffi yn y caffi.” Cafodd Maureen gymorth gan ei merch, Ellen, ar gyfer y cyfarfod cyntaf. Dywedodd Mike, “Byddwn yn annog mwy o bobl ag ASD/Awtistiaeth i gysylltu â ni er mwyn cael gwybodaeth am ymuno â grŵp cymdeithasol ac efallai gadael i ni eu helpu i symud yn agosach at ddod o hyd i swydd sy’n addas ar gyfer eu sgiliau a’u

Cerdyn Gwahoddiad Grŵp Cymdeithasol ASDES, rhif cyswllt 07504 231115 6


CINIO YMADAWYR YN

HWYLUSO SYMUD

I’R COLEG

Mae tîm both Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn hwyluso cyfranogwyr y prosiect wrth iddynt symud i’r coleg trwy gynnal ‘Ciniawau Ymadawyr’.

Trefnwyd bwrdd mawr i’r grŵp, ac eisteddodd y bobl ifanc i lawr a chymysgu â’i gilydd, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn dewis eistedd i ffwrdd oddi wrth y staff, a manteisio ar y cyfle cymdeithasol gyda’u cyfoedion. Roedd yn braf gwylio’r pryd, gan i’r grŵp cyfan ddweud eu bod yn llawn cyffro am fynd i’r coleg a thrafod pa golegau y byddent yn mynd iddynt a pha gyrsiau y byddent yn eu dilyn. Roedd yn ginio hyfryd gyda phawb wedi mwynhau, a gwelwyd lefelau hyder yn cynyddu yn ystod y pryd, gyda phobl ifanc nad oeddent wedi cwrdd o’r blaen yn cyfnewid manylion cyswllt – roedd yn ffordd wych o dorri’r iâ. Roedd cyfeillgarwch newydd yn datblygu’n gyflym yn ystod y cinio ac roedd yn glir ei fod yn ddigwyddiad cymdeithasol y byddai pobl yn hoffi ei wneud eto.

Pobl ifanc yng Nghinio Ymadawyr Castell-nedd Port Yn gyffredinol roedd y cinio yn ddigwyddiad Talbot ym mis Medi.

cymdeithasol delfrydol, gan roi cyfle i’r rhai oedd yn dechrau’r coleg a myfyrwyr i ddod i adnabod ei gilydd cyn mis Medi. Dywedodd pawb eu bod wedi cael amser da ac y byddent yn hoffi pe byddai’n cinio yn ddigwyddiad rheolaidd. Bydd tîm both Castell-nedd yn cefnogi’r bobl ifanc hyn i drefnu cyfarfodydd rheolaidd tan iddynt allu gwneud hyn yn annibynnol. Y gobaith yw y bydd y grŵp cymdeithasol newydd hwn yn gallu parhau i gynnig cefnogaeth i’w gilydd trwy gydol eu hamser yn y coleg.

Cynhaliwyd Cinio Ymadawyr ar ddiwedd yr haf i fyfyrwyr coleg presennol, a’r myfyrwyr hynny fyddai’n dechrau yn y coleg yn y flwyddyn academaidd newydd. Roedd y cinio yn gyfle i bobl ifanc wneud ffrindiau newydd a/neu ddal i fyny gyda hen rai, cyn mynd i’r coleg ac amgylchedd newydd. Yn bresennol roedd 3 myfyriwr Coleg Castell-nedd, 5 myfyriwr Coleg Afan, 2 fyfyriwr coleg arall ac un Mentor Cymheiriaid a oedd hefyd yn gyn gyfranogwr. Trefnwyd y pryd yn lleol i ganiatáu i’r holl gyfranogwyr fynychu’n annibynnol. Cyfarfu’r holl bobl ifanc yn yr orsaf fysiau yn gyntaf, a chael cyfle i ddysgu’r daith bws er mwyn gallu cyrraedd y bwyty yn annibynnol oes oeddent am wneud hynny, a oedd mewn lleoliad canolog mewn perthynas â’u colegau. Cafodd y pryd ei archebu ymlaen llaw ac roedd cyfle gan y bobl ifanc i brofi eu sgiliau rheoli arian, gan orfod dod â’r arian cywir a chyllidebu ar gyfer unrhyw eitemau eraill yr oedden nhw am eu prynu. Roedd yn rhaid i’r bobl ifanc archebu a phrynu eu diodydd eu hunain, a gwnaethant hyn yn llwyddiannus gydag ychydig yn unig o gefnogaeth.

Ffrindiau da yn dal i fyny yn y Cinio i Ymadawyr 7


HYFFORDDIANT A DIGWYDDIADAU TI archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn realopportunities@learningdisabilitywales.org.uk neu ar 01639 635650

Rhwydwaith Cynllunio at y Dyfodol

Sesiwn Gwybodaeth am y Prosiect

Dyddiad: 16 Ionawr 2014 Amser: 10:00am – 1:00pm Lleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge Fach I: Gweithwyr PCP, Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd, Gweithwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol

Dyddiad: 11 Mawrth 2014 Amser: 10:00am – 1:00pm Lleoliad: Consortiwm Canolbarth y De, Nantgarw I: Croeso i bawb

Sesiwn Gwybodaeth am y Prosiect

Dyddiad: 9 Ebrill 2014 Amser: 10:00am – 1:00pm Lleoliad: Canolfan Adnoddau Port Talbot, Port Talbot I: Croeso i bawb

Sesiwn Gwybodaeth am y Prosiect

Dyddiad: 22 Ionawr 2014 Amser: 10:00am – 1:00pm Lleoliad: Consortiwm Canolbarth y De, Nantgarw I: Croeso i bawb

Cyflwyniad i PCP

Dyddiad: 22 Mai 2014 Amser: 10:00am – 4:00pm Lleoliad: Consortiwm Canolbarth y De, Nantgarw I: Croeso i bawb

Dosbarth Meistr Herio Homoffobia

Dyddiad: 24 Ionawr 2014 Amser: 10:00am – 1:00pm Lleoliad: Canolfan Bywyd Eglwys Bethlehem, Cefn Cribwr I: 2 le i bob tîm both

Hyfforddiant Dwys PCP 5 Diwrnod

Dyddiad: 28 a 29 Ionawr 2014, 19 a 20 Chwefror & 5 Ebrill Amser: 9:30am – 4:30pm Lleoliad: Canolfan Adnoddau I: Croeso i bawb

Rhwydwaith Cyflogaeth a Chyfleoedd Dyddiad: 10 Chwefror 2014 Amser: 10:00am – 1:00pm Lleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge Fach I: Gweithwyr Trawsnewid, SEA’s a Mentrau Cymdeithasol

Cyflwyniad i PCP

Dyddiad: 11 Chwefror 2014 Amser: 10:00am – 4:00pm Lleoliad: Canolfan Adnoddau Port Talbot, Port Talbot I: Croeso i bawb

8


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.