Newyddlen Chwefror 2012

Page 1

Yn y rhifyn hwn Cyflwyniad

Bothau Newydd, Ymgynghoriadau ac Adnoddau am Ddim.

AC yn ymweld â Chyfleoedd Gwirioneddol

Y Dirprwy Weinidog Sgiliau yn cymryd rhan mewn cyflwyniad prosiect.

Canlyniadau Positif

Rhai straeon positif gan bobl ifanc Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr.

Cyfleoedd Cymdeithasol

Torfaen yn dechrau grŵp gweithgareddau penwythnos.

Hyfforddiant a Digwyddiadau

Rhestr o’r hyfforddiant a’r digwyddiadau sydd ar y gweill.

PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL

Chwefror 2012 Mae’n bryd ar gyfer rhifyn Chwefror ein newyddlen - i ble aeth fis Ionawr? Mae Cyfleoedd Gwirioneddol bron wedi’i gyflwyno’n llawn erbyn hyn gyda thîm Abertawe ar waith a thîm Castell-nedd wedi’i roi yn ei le yr wythnos diwethaf. Gyda rhai timau both bellach yn agosáu at eu pen-blwydd cyntaf mae llawer o bethau ardderchog yn digwydd ar gyfer ein pobl ifanc, ac fel arfer mae llawer o ddatblygiadau cyffrous yn digwydd y tu allan i’r prosiect hefyd. Nôl ym mis Tachwedd roedd y newyddlen yn cynnwys gwybodaeth am sut i gyfrannu eich barn at Gyfrifoldebau Cydraddoldeb Penodol Cymru, wedi’i anelu at wneud i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 weithio’n dda yng Nghymru. Yn seiliedig ar yr wybodaeth a gasglwyd yn yr arolwg ac yn ystod gweithdai, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu amcanion cydraddoldeb sy’n ymddangos drafft gafodd eu trafod a’u cymeradwyo ar Ionawr 10fed. Mae Llywodraeth Cymru nawr yn edrych am adborth i’w helpu i benderfynu sut i gynyddu ymhellach. I ddarllen yr amcanion cydraddoldeb sy’n ymddangos drafft ac i roi adborth ewch i wales.gov.uk/topics/equality/eqalityactatwork. Mae Llywodraeth Cymru hefyd am gael barn ar reoliadau newydd ynghylch egwyliau i ofalwyr â phlant anabl yng Nghymru. O dan Adran 25 Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008, cyflwynodd y Llywodraeth ddyletswydd statudol newydd ar awdurdodau lleol. Bydd hyn yn cynorthwyo unigolion sy’n gofalu am blant anabl i barhau i wneud hynny, neu i wneud hynny’n fwy effeithiol, drwy roi egwyl iddynt o’u cyfrifoldebau gofalu. I weld y rheoliadau drafft ewch i wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/breaks. Byddwch hefyd yn gallu cael mynediad i ganllawiau arfer gorau a rhoi eich adborth yma; y dyddiad cau ar gyfer sylwadau neu ymatebion yw 28ain Mawrth 2012. Mae llawer o adnoddau ardderchog a rhad ac am ddim hefyd wedi’u lansio yn ddiweddar gan amrywiaeth o sefydliadau fyddai’n cynorthwyo gyda chynllunio trawsnewid a chynhwysiad ieuenctid. Mae’r Parciau Cenedlaethol wedi cyhoeddi cyfres newydd o ganllawiau sy’n amlinellu gweithgareddau hygyrch o fewn y Parciau Cenedlaethol. Mae’r canllawiau ar gael mewn nifer o fformatau, yn cynnwys print mawr a ffeil sain, ac yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gellir eu cyrchu yn adran Mynediad i Bawb gwefan y Parciau Cenedlaethol sef www.nationalparks.gov.uk/visiting/ outdooractivities/accessforall Mae Radar, y rhwydwaith ymgyrchu hawliau anabledd, hefyd wedi lansio’r rhifyn diweddaraf o’r gyfres o ganllawiau hunan-gymorth ‘Doing Life Differently’ o’r enw ‘Doing Transport Differently’. Mae’r canllaw yn cynnwys adrannau ar gynllunio taith, sut i ddefnyddio gwahanol fathau o gludiant cyhoeddus a sut i gael cymorth pan yn teithio. Gallwch lawrlwytho’r llyfrynnau yn www/radar.org.uk/publications/doing-transport-differently. Yn olaf, edrychwch ar adroddiad y Tîm Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiad (NDTi) o’r enw ‘My Own Place’ sy’n cynnig ‘Llwybr Tai’ defnyddiol i gefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd gyda chyfleoedd a phenderfyniadau tai. Ewch i www.ndti.org.uk/publications/ndti-publications/my-own-housing i gael mynediad i’r ddogfen. Laura Davies Swyddog Gwybodaeth y Prosiect


AC yn ymweld â M

CHYFLEOEDD GWIRIONEDDOL

ynychodd Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau Gyflwyniad Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol ar 16eg Ionawr 2012 ym Mhontypridd i gael gwybod mwy am ein prosiect a sut mae’n gweithio. asiantaethau cefnogi cyflogaeth. Rhoddodd Tracy fanylion y gwaith y mae Sadie wedi’i gwblhau ers ymuno â’r prosiect yr oedd yn rhoi enghraifft ymarferol wych i’r gweinidog ac eraill oedd yn bresennol o’r prosiect ar waith.

Rhoddodd y tîm o Elite gyflwyniad hefyd am eu hymwneud â’r prosiect, a rhannu straeon rhai o’r bobl ifanc niferus y maent wedi bod yn gweithio Ch-Dd Davis Preece, Jeff Cuthbert, Tracey Jones a Sadie Jones gyda hwy. Yr oedd Cynigir cyflwyniadau prosiect fel rhan o raglen un ohonynt, David Preece, sydd nawr wedi cael hyfforddiant Cyfleoedd Gwirioneddol ac fe’u gwaith cyflogedig o ganlyniad i’w leoliad gydag cyflwynir gan swyddog hyfforddiant y prosiect, Elite hefyd yn bresennol i rannu ei brofiadau. Hannah Cox. Mynychodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau y cyflwyniad oedd yn anelu at annog Cyflwynodd y Gweinidog y diwrnod a mynegodd cydweithio gydag athrawon, teuluoedd a pa mor falch ydoedd i gael ei gysylltu â’r prosiect gweithwyr proffesiynol eraill yn YMCA Pontypridd, a thrafododd bwysigrwydd y math o waith y mae Rhondda Cynon Taf. Cymerodd y gweinidog ran Cyfleoedd Gwirioneddol yn ei wneud. Roedd yn yn y sesiwn ryngweithiol i edrych ar werthoedd awyddus i glywed gan y bobl ifanc a theimlodd fod y prosiect a gwaith y staff perthnasol. Trafododd eu presenoldeb yn y digwyddiad yn dangos bod reolwr y prosiect, Angela Kenvyn strwythur y y prosiect yn gweithio ar y cyd gyda’i bobl ifanc, prosiect a chynnig trosolwg o’r ffordd mae’r yn gweithio gyda nhw a drostynt i gynllunio ar prosiect yn gweithio a chefnogodd Tracy Lloyd, gyfer eu dyfodol, gan ddweud bod hynny’n gwbl Cydlynydd Cydgysylltu Teuluoedd Sadie Jones, hanfodol wrth iddynt drawsnewid yn oedolion, yn person ifanc ar y prosiect i wneud cyflwyniad ar enwedig felly i’n pobl ifanc anabl. eu profiadau o’r prosiect. I drefnu Cyflwyniad Prosiect i rieni, gweithwyr Rhannodd Sadie ei stori ddigidol yn ystod y cyflwyniad oedd yn dangos peth o’i gwaith Cynllunio Seiliedig ar y Person, y gefnogaeth y mae wedi’i derbyn gan y Tîm Both, Elite ac Action for Employment a’r adborth gan y staff sydd bellach yn gweithio gyda hi yng Nghanolfan Edith Mills, yn ogystal â gan y staff o’r tîm both ac

proffesiynol a/neu athrawon yn eich ardal cysylltwch â Hannah Cox yn realopportunites@ learningdisabilitywales.org.uk neu ar 01792 817224.


Canlyniadau

Positif

B

ob wythnos mae timau Cyfleoedd Gwirioneddol ar draws De Cymru yn helpu pobl ifanc gydag Anghenion Difrifol a Chymhleth, Anabledd Dysgu neu Anhwylder Sbectrwm Awtistig i gyflawni nodau personol. Mae’r newidiadau a’r cyflawniadau bach hyn yn helpu pobl ifanc i gynyddu eu hyder a’u sgiliau ar gyfer byw’n annibynnol yn y dyfodol! Ac maent yn cael hwyl!

Mae Connor Bounds sy’n 16 oed ac o Ferthyr wedi bod yn gweithio gyda thîm both Cyfleoedd Gwirioneddol ym Merthyr ers Awst 2011. Ers hynny mae wedi defnyddio Cefnogaeth Seicoleg gan Tracey ac wedi gweithio’n agos â’r Gweithiwr cyswllt Teuluoedd Tim i ddatblygu ei Gynllun Seiliedig ar y Person. Mae Connor wedi cwblhau ei OCN mewn Cadw’n Ddiogel ac mae nawr wedi symud ymlaen i ddefnyddio cefnogaeth Cynhwysiad Ieuenctid ac mae’n gobeithio cwblhau lleoliad gwaith gydag Elite.

Ers gweithio gyda Tim, mae Connor wedi datblygu a mynegi diddordeb mewn loncian, y mae’n ei ddefnyddio fel mecanwaith ymdopi positif. Er mwyn annog a datblygu diddordebau Connor ymhellach, awgrymodd Tim ei fod yn cymryd rhan mewn ras hwyl. Penderfynodd Connor redeg y ras ffordd Nos Galan 5k yn Aberpennar, a dechreuodd weithio’n galed i hyfforddi gyda Tim yn ystod yr wythnosau yn arwain at y ras; ymunodd â champfa leol i bobl ifanc hefyd ac mae’n gobeithio parhau i’w mynychu. Roedd Connor am redeg y ras ar ran elusen a phenderfynodd y byddai’n rhoi’r arian tuag at fws mini newydd i’w ysgol! Yn anffodus oherwydd amgylchiadau teuluol nid oedd Connor yn gallu rhedeg y ras ar y noson, ond mae diddordeb ganddo o hyd mewn rhedeg ras a bydd yn rhedeg y filltir Sports Relief ym mis Mawrth. Ar ôl yr

holl waith caled nid oedd Tim am adael pawb i lawr ac aeth ymlaen i redeg y 5km mewn 33:56 mewn gwisg Bananaman (wrth gwrs). Cododd y bechgyn fwy na £120 i apêl y bws mini i Ysgol Greenfield ym Merthyr.

Tim fel Bananaman ar ôl y ras!

Mae Hannah Peacock o Beny-Bont ar Ogwr wedi bod yn gweithio gyda thîm Cyfleoedd Gwirioneddol Pen-y-Bont ar Ogwr ers Mai 2011. Ers hynny, mae Hannah wedi llwyddo i gwblhau cwrs OCN mewn Hyder a Hyfforddiant Teithio ac mae wedi cael llawer o gefnogaeth werthfawr gan David a Sarah, Gweithwyr Cefnogi Seicoleg a Sgiliau Byw’n Annibynnol. Mae Hannah nawr wedi symud ymlaen at weithio gyda’r Gweithiwr Cynhwysiad Ieuenctid Tanya. Gweithiodd Tanya yn agos â Hannah i gwblhau ‘Pasport PCP’, offeryn PCP y mae’r tîm yn ei ddefnyddio i gael syniad am hoffterau a chasbethau pobl ifanc. Nododd Hannah fod ganddi ddiddordeb mewn

coginio, rhywbeth yr oedd wedi’i astudio yn yr ysgol. Ar ôl siarad gyda mam Hannah, penderfynodd Tanya a Hannah edrych ar goginio yn ystod amser hamdden Hannah, ac mae Tanya nawr yn cefnogi Hannah i fynychu cwrs coginio ar nos Fercher yn yr ysgol uwchradd leol. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar fwyta’n iach ac mae’n dysgu sgiliau coginio sylfaenol. Hyd yn hyn mae Hannah wedi gwneud bara, pate pysgod, ratatouille a phasta ffres! Yn ogystal â dysgu sgiliau coginio ardderchog, mae Hannah hefyd yn gwneud llawer o ffrindiau newydd, yn falch iawn i fynd â’i choginio adref ac yn cael amser gwych. Mae Tanya hefyd wrth ei bodd gan y gall fynd â the adref bob dydd Mercher a does dim angen iddi goginio!!! Mae Tanya’n gobeithio y bydd yn gallu helpu Hannah i drosglwyddo’r sgiliau y mae’n eu dysgu i’w bywyd yn y cartref ac y bydd yn parhau i fynychu dosbarthiadau coginio yn annibynnol yn y dyfodol.

Hannah yn ei dosbarth coginio


Cyfleoedd Cymdeithasol M

ae Tîm Both Torfaen wedi nodi y byddai rhai o’r bobl ifanc ar eu prosiect yn elwa o weithgareddau cymdeithasol dros y penwythnos, a gan eu bod yn dîm sy’n cynnwys staff cymdeithasol a llawn hwyl maent wedi penderfynu dechrau mynd â grŵp bach o bobl ifanc allan ar y penwythnos am ychydig oriau, gyda’r nod o wneud hynny unwaith y mis.

fynd am dro. Dywedodd yr holl bobl ifanc eu bod wedi mwynhau eu taith i’r sinema a byddent wrth eu bodd yn cael gwneud rhywbeth gyda’r grŵp unwaith eto.

Anelir y grŵp at bobl ifanc nad oes ganddynt fynediad i unrhyw weithgareddau hamdden neu gymdeithasol yn ystod y penwythnos neu’r rheiny y gallent elwa o gymdeithasu gyda phobl ifanc eraill. Yr wythnos diwethaf dechreuodd y tîm eu rhaglen o weithgareddau penwythnos drwy fynd â grŵp o bedwar cyfranogwr i’r sinema. Daeth eu rhieni â hwy yno, ac fe wnaethon nhw dalu £1.50 am y ffilm, oedd yn gynnig arbennig dros y penwythnos ar gyfer dangosiadau cynnar, ac aeth y staff am ddim fel gofalwyr. Prif nod y grŵp yw rhoi cyfle i’r bobl ifanc wneud ffrindiau, cymdeithasu a gobeithio dod yn ddigon hyderus i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol yn annibynnol yn y dyfodol. Mae’r tîm yn edrych ar amrywiaeth o weithgareddau rhad y gall y bobl ifanc gymryd rhan ynddynt eu hunain, yn cynnwys pethau fel mynd i’r parc am gêm o griced neu

Y Grŵp yn y sinema

Hyfforddiant a Digwyddiadau

I archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn realopportunities@learningdisabiltiywales.org.uk am ffurflen archebu. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau cysylltwch â Hannah yn Hannah.Cox@learningdisabilitywales.org.uk

Cyflwyniad i PCP

PCP Diwrnod 5 o 5 Dyddiad: Amser: Lleoliad: I:

Dyddiad: 19eg Mawrth 2012 Amser: 10am – 4pm Lleoliad: Llety Cynin, San Clêr I: Pawb yn Abertawe/Sir Gaerfyrddin/ Sir Benfro

27ain Chwefror 2012 10am – 3pm Tŷ Gwledig Manor Park, Clydach Staff a Phobl Ifanc ar y Cwrs

Cyflwyniad i’r Prosiect

Dyddiad: 29ain Chwefror 2012 & 8fed Mawrth 2012 Amser: 4pm – 5:30pm Lleoliad: Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity Fields I: Athrawon Trinity Fields

Gweithdy Amlgyfrwng

Rhwydwaith Cynllunio i’r Dyfodol

Cyflwyniad i’r Prosiect

Dyddiad: Amser: Lleoliad: I:

Dyddiad: Amser: Lleoliad: I: Dyddiad: Amser: Lleoliad: I:

14eg Mawrth 2012 10am – 1pm Forge Fach CRC, Clydach PCP/Cyswllt Teuluoedd/ILS Pob Both

29ain Mawrth 2012 11am – 3pm Forge Fach CRC, Clydach Pob both a Pherson Ifanc

28ain Mawrth 2012 10pm – 1pm Canolfan Orbit, Merthyr Pawb ym Merthyr

I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura ar 01792 817224 neu yn laura.davies@learningdisabilitywales.org.uk 8


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.