February newsletter welsh 2014

Page 1

PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL Yn y Rhifyn Hwn Cyflwyniad Croeso i rifyn diweddaraf y newyddlen a gwybodaeth am ddiwrnod rhyngrwyd mwy diogel 2014. Prosiect Enable, yr Hanes Hyd yn Hyn.... Cyfranogwyr Cyfleoedd Gwirioneddol yn cael gwaith â thâl trwy Brosiect Enable. Daniel yn cael ei Ddewis ar gyfer Sgwad Prydain Daniel Johnson o Gastell-nedd yn cael lle ar Sgwad Gymnasteg Anabledd Prydain Fawr. Hyfforddiant a Digwyddiadau Rhestr o hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill.

Chwefror 2014 Croeso i newyddlen Chwefror a gobeithio y cawsoch chi Ddydd San Ffolant hyfryd! Yn y rhifyn hwn, mae Chris English o Elite ac Andrea Meek o Ganolfan Anableddau Dysgu Cymru yn ysgrifennu am brosiect ENABLE, sydd wedi helpu tri chyfranogwr Cyfleoedd Gwirioneddol i ddod o hyd i waith â thâl. Rydym hefyd wedi siarad gyda Lucie Johnsons, mam y cyfranogwr Cyfleoedd Gwirioneddol Daniel Johnson sydd wedi ennill lle yn Sgwad Cenedlaethol Gymnasteg Anabledd Artistig Dynion Prydain Fawr. Gallai’r gamp arbennig hon olygu y bydd Daniel yn cystadlu yng ngemau’r byd 2015 yn Los Angeles! Ar Chwefror 11eg, roedd yn ‘Ddiwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel’ a drefnwyd gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU i hyrwyddo defnyddio diogel a chyfrifol o dechnoleg ar-lein a ffonau symudol i blant a phobl ifanc. Gallwch weld gwybodaeth ac adnoddau y diwrnod rhyngrwyd mwy diogel a sut i gadw’n ddiogel ar-lein ar www.saferinternet.org.uk. Mae yno lawer o adnoddau addysgol, cyngor, cynghorion pwysig, cwisiau a gemau ar y wefan i helpu pobl ifanc, eu hathrawon a rhieni i gadw’n ddiogel ar-lein. Mae canllawiau defnyddiol i rieni ynghylch gosod rheoliadau rhieni a syniadau am weithgareddau i athrawon a gweithwyr proffesiynol i fynd i’r afael â materion gwahanol yn ymwneud â diogelwch ar y we. Cofiwch y gallwch hefyd weld mwy o newyddion, gwybodaeth ac adnoddau Cyfleoedd Gwirioneddol ar-lein yn www.cyfleoeddgwirioneddol.org. uk. Rydym ar Facebook a Twitter hfyd @Real_Opps. Laura Griffiths Swyddog Gwybodaeth y Prosiect

Yn darparu Cyfleoedd Gwirioneddol i Bobl Ifanc wrth iddynt Drawsnewid i fod yn Oedolion


Prosiect Enable:

Yr Hanes Hyd yn Hyn... Gan Andrea Meek a Christopher English

Aeth Elite SEA a Chanolfan y GIG ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ati i dreialu menter newydd yng Nghymru mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Cwm Taf. Trwy brosiect Enable, helpodd Elite ennill lleoliadau interniaeth a darparu hyfforddwr swyddi i 4 person ifanc yn adran arlwyo ysbyty mawr. Roedd yr Hyfforddwr Swyddi yn adnodd pwysig o ran dysgu yn y gweithle a gyda’r hyfforddiant teithio. Roedd yr Interniaid yn teimlo bod gallu teithio’n annibynnol wedi cael effaith ehangach arnynt ac y byddai pethau eraill yr oeddent wedi’u cyflawni yn y gwaith yn eu helpu yn ehangach mewn bywyd:

Cwblhaodd yr holl bobl ifanc Dystysgrif Hylendid Arlwyo a gyflwynwyd gan Adran AD yr ysbyty cyn dechrau ar yr interniaeth ac fe’u cefnogwyd gan yr Hyfforddwr Swyddi i deithio i’r gwaith yn annibynnol. Helpodd Canolfan Anableddau Dysgu Cymru (WLCD) i werthuso Prosiect Enable. Siaradon nhw â’r bobl ifanc oedd yn interniaid ar y prosiect, aelodau eu teuluoedd a rheolwyr yr ysbyty.

“Wedi dysgu rhai sgiliau newydd i mi, ond doeddwn i erioed wedi gweithio til o’r blaen. Rwy’n teithio yn ôl ac ymlaen i’r coleg ar [fy] mhen fy hun nawr. [Des] i ar fws cyhoeddus.”

Cafodd y WLCD fod y swyddi yr oedd y bobl ifanc yn eu gwneud yn amrywiol a bod pob person yn gallu profi amrywiaeth o weithgareddau gwaith o fewn yr adran arlwyo:

Roedd rhai o’r interniaid wedi sôn am newid yn eu gobeithion ar gyfer gwaith ac roedd eu hyder wedi cynyddu. Roedd pob un wedi ennill sgiliau newydd ac roedd 3 intern yn dweud eu bod yn dymuno cael gwaith â thâl yn y dyfodol. “Ydw, yn fwy hyderus i edrych am swydd ac mae angen i mi wneud hynny. Rwy’n mynd i’r ganolfan byd gwaith i’r clwb swyddi, ac wedi rhoi fy interniaeth ar fy CV.” Dywedodd teuluoedd yr interniaid eu bod yn fwy hyderus ar ôl bod yn gweithio a bod agweddau’r bobl ifanc wedi newid o ganlyniad i brosiect Enable – roedden nhw nawr yn dechrau gweld gwaith fel opsiwn realistig y bydden nhw’n gallu’i gyrraedd:

Pan gawsant eu cyfweld, dywedodd yr holl interniaid eu bod wedi mwyhau’r gwaith yr oeddent wedi’i wneud. Thema o ran pam yr oedd pobl wedi mwynhau’r gwaith oedd pwysigrwydd perthynas gyda’u cydweithwyr, gyda chyswllt cymdeithasol positif a help yn cael ei gynnig yn ôl yr angen:

“Mae wedi rhoi ymdeimlad o ‘fynd i’r gwaith’ iddo, yn hytrach na phrofiad gwaith yn unig, a rhoddodd hyder iddo. Roedd yn braf gweld hynny.” Roedd bod yn rhan o dîm yn yr ysbyty wedi bod yn ganlyniad pwysig i’r bobl ifanc. Mae hyn yn awgrymu bod cyswllt cymdeithasol llwyddiannus gyda chydweithwyr yn bwysig i lwyddiant hirdymor y bobl ifanc mewn cyflogaeth.

“Wedi mwynhau cwrdd â phobl newydd, roedd y staff yn neis a dysgais bethau diddorol.”

“Mae hi’n ymddangos yn fwy allblyg ac mae’n teimlo’n bwysig, sy’n beth da. Rwy’n credu ei bod yn teimlo bod hi’n rhan o dîm - rhoddwyd hwb i’w hyder.” Roedd y rheolwyr yn yr ysbyty yn gefnogol iawn i’r prosiect ac yn awyddus i gyflwyno profiad fyddai’n golygu bod pobl yn gyflogadwy.

Emily yn paratoi bwyd yn ystod ei lleoliad

2

“Roeddwn am iddo fod fesul cam, roeddwn am gael swyddi y bydden nhw’n gallu’u cwblhau ac yn y pen draw, bydden nhw’n gadael y treial hwn a’u hamser gyda ni gyda dealltwriaeth o arlwyo, o arlwyo mewn ysbyty, ac roeddwn am fod yn siwr y bydden nhw’n gyflogadwy.”


Roedd rheolwyr yn gallu nodi gwerth ychwanegol positif yn eu hadran. Roedd y rhain yn bennaf ynghylch yr effaith ar staff presennol o weithio gyda phobl ifanc ag anableddau dysgu. Ni nodwyd unrhyw gostau ychwanegol, nac arbedion, gan reolwyr oedd yn cymryd rhan ym mhrosiect ENABLE. Casgliad Mae trawsnewid o addysg i waith yn broblematig iawn i bobl ag anableddau dysgu. Er bod ganddynt lawer o dalentau, mae’r lefelau cyflogaeth i oedolion ifanc yn isel iawn (7%). Roedd prosiect ENABLE yn fanteisiol i bawb dan sylw, gydag ychydig yn unig o anfanteision ac mae’n cynrychioli rhaglen interniaeth ddiwygiedig realistig a all helpu gyda thrawsnewid. Roedd yr Hyfforddwr Swyddi yn allweddol i’r llwyddiant hwn o bob safbwynt. Ers i’r prosiect orffen mae Elite wedi llwyddo i sicrhau contractau 26 wythnos â thâl i dri o’r bobl ifanc a byddant yn dychwelyd i’r adran arlwyo i

weithio yn fuan fel aelodau gwerthfawr o’r tîm.

James Evans yn gweini cwsmeriaid.

Daniel yn cael ei Ddewis ar gyfer Sgwad Prydain Mae gan Daniel Johnson, 17 oed o Ystradgynlais Syndrom Down a Datblygiad Hwyr Hollgynhwysol ac o ganlyniad, nid oedd ei allu i gydbwyso na’i gyd-symud yn dda. Fodd bynnag nid yw hynny wedi’i rwystro rhag ennill lle ar Sgwad Cenedlaethol Gymnasteg Anabledd Artistig Dynion Prydain Fawr.

Ymunodd Daniel â Chlwb Gymnasteg Castellnedd Afan yn 2010. Eglura ei fam, Lucie Johnson, “Mae Daniel wedi magu pwysau yn hawdd erioed, felly penderfynon ni fel teulu er mwyn ei helpu i gadw’n heini ac i wella ei sgiliau echddygol bras dylai roi cynnig ar gymnasteg.” Fe wnaeth Daniel gynnydd da yn y gamp. Ac mae’n mwynhau’r hyfforddiant a’r cyfleoedd newydd i gymdeithasu. Pan ganed Daniel, roedd ei gyhyrau yn wan iawn ac roedd ganddo broblemau yn symud a cherdded. Dywedodd ei feddygon y byddai’n cael anhawster wrth gerdded, ac y byddai angen cefnogaeth a ffisiotherapi arno er mwyn ei helpu i gerdded yn iawn yn y dyfodol. Mae gymnasteg wedi helpu Daniel i gryfhau ei gorff a datblygu’n gymdeithasol yn ogystal ag yn gorfforol.

nos, gan ddechrau yn amgylchedd cyfarwydd ei ysgol i’w helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth aros i ffwrdd ar gyfer cystadlaethau. Dywedodd Lucie, “mae’r tîm a’r ysgol wedi bod yn ardderchog; mae wedi bod i Wlad Pwyl gyda’r ysgol, a ni fyddai hynny wedi digwydd yn y gorffennol.” Mae’r tîm nawr yn gweithio gyda Daniel i barhau i ddatblygu ei hyder ac maent yn datblygu proffil un tudalen iddo fynd gydag ef pan fydd i ffwrdd o gartref. O ganlyniad i’r gefnogaeth gan y tîm a’i ysgol i helpu Daniel oresgyn ei bryderon am aros i ffwrdd o gartref, roedd yn gallu cynrychioli sgwad Cymru yn y Gemau Olympaidd Arbennig yng Nghaerfaddon yn 2013 lle enillodd le ar sgwad Prydain a dod yn gymwys i gael ei ystyried ar gyfer cystadleuaeth Gymnasteg y Byd sy’n cael ei chynnal yn Los Angeles yn 2015!

Roedd rhieni Daniel a’i Bydd Daniel nawr yn mynd i glwb gymnasteg yn teimlo y Daniel gyda’i fedalau. hyfforddiant a chystadlaethau gallai ddatblygu ei gymnasteg ar draws y DU gyda Sgwad Prydain, ac mae wedi ymhellach, a dechrau rhoi cynnig ar gystadlaethau ymrwymo i’w hyfforddiant ac i fynd i ddigwyddiadau. ond roedd Daniel yn bryderus iawn am aros oddi cartref. Mae tîm Cyfleoedd Gwirioneddol Castell- Mae Daniel a’i rieni yn gobeithio y bydd yn ennill nedd wedi bod yn gweithio gyda Daniel i fynd i’r afael lle yng ngemau’r Byd, ac maen nhw’n codi arian i â hyn. Maent wedi trefnu nifer o weithgareddau dros helpu i anfon Daniel i gystadleuaeth y Byd yn 2015; gwerthfawrogir unrhyw gefnogaeth yn fawr. 3


Hyfforddiant a Digwyddiadau I archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn realopportunities@learningdisabilitywales.org.uk neu ar 01639 635650

Sesiwn Gwybodaeth am y Prosiect

Dyddiad: 11 Mawrth 2014 Amser: 10:00am – 1:00pm Lleoliad: Consortiwm Canolbarth y De, Nantgarw I: Croeso i bawb

Rhwydwaith Cynhwysiant

Dyddiad: 18 Mawrth 2014 Amser: 10:00am – 1:00pm Lleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Forge Fach I: Gweithwyr PCP, Cyswllt Teuluoedd a Byw’n Annibynnol

Sesiwn Gwybodaeth am y Prosiect

Dyddiad: 9 Ebrill 2014 Amser: 10:00am – 1:00pm Lleoliad: Canolfan Adnoddau Port Talbot, Port Talbot I: Croeso i bawb

Cyflwyniad i PCP

Dyddiad: 29 Ebrill 2014 Amser: 09:30am – 1:00pm Lleoliad: Mindfulness Master Class I: Staff y Prosiect yn unig

Cyflwyniad i PCP

Dyddiad: 22 Mai 2014 Amser: 10:00am – 4:00pm Lleoliad: Consortiwm Canolbarth y De, Nantgarw I: Croeso i bawb

I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura Griffiths ar 01639 635650 neu realopportunities@learningdisabilitywales.org.uk. Gellir golygu cyflwyniadau. Nid yw’r farn a fynegir yn newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol o reidrwydd yn cael ei chefnogi gan y prosiect. Argraffwyd gan 4 Colour Digital Print.

4


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.