Newyddlen Ionawr 2012

Page 1

Yn y rhifyn hwn Cyflwyniad

Blwyddyn Newydd Dda, Timau Both Newydd a digwyddiadau cyffrous Mencap Cymru.

Camau Bach, Llwyddiannau Mawr!

Golwg ar lwyddiannau personol un person ifanc o Ferthyr.

Syniadau PCP

Joe o Gaerffili yn rhannu offeryn PCP creadigol.

PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL

Ionawr 2012

Blwyddyn Newydd Dda! Helo a chroeso i newyddlen gyntaf y Flwyddyn Newydd! Mae llawer o bethau ar y gweill i’r prosiect yn 2012. Bydd y tîm hyfforddiant a gwybodaeth yn cynnal y cynadleddau dosbarthu a staff blynyddol cyntaf, a bydd Cyfleoedd Gwirioneddol yn cael dau dîm newydd, y mae’r cyntaf ohonynt bellach yn ei le yn Ysgol Crug Glas, Abertawe. Y tîm yw David Churchill, Gweithiwr Allweddol Trawsnewid, Sarah Bonell, Gweithiwr Cefnogi Seicoleg, Lucy Summers, Sgiliau Byw’n Annibynnol, Carrie Needs, Cynhwysiad Ieuenctid/Mentor Cymheiriaid a Neil Wilson, yn wreiddiol o dîm Pen-y-Bont ar Ogwr fydd yn arwain tîm Abertawe fel Arweinydd Tîm, Cyswllt Teuluoedd a chydlynydd PCP.

Diwrnod Gwybodaeth Sir Gaerfyrddin Trosolwg o lwyddiant diwrnod gwybodaeth Sir Gaerfyrddin

Ymchwil Prosiect

Trosolwg cryno o Dîm Ymchwil Cyfleoedd Gwirioneddol

Hyfforddiant a Digwyddiadau

Rhestr o’r hyfforddiant a’r digwyddiadau sydd ar y gweill

Cynnig Cyfleoedd Gwirioneddol i Bobl Ifanc wrth iddynt Drawsnewid i fod yn Oedolion

Tîm Abertawe Ch-Dd, Neil, Carrie, Lucy, Sarah a David

Mae Mencap Cymru hefyd yn dechrau’r flwyddyn gyda rhai digwyddiadau a chyrsiau cyffrous. Y gwanwyn hwn maent yn cynnig cwrs GIG am ddim sy’n annog rhieni a gofalwyr pobl ag anabledd dysgu i ddod i ddarganfod mwy am ofalu am eu hanghenion eu hunain. Mae’r cwrs yn dechrau ar ddydd Llun 13eg Chwefror yng Nghaerdydd ac mae’n rhedeg am 6 wythnos. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Sue Edwards ar 07881 908911. Mae Mencap Cymru hefyd yn cynnal noson codi arian Dawns Diemwnt yng Ngwesty’r Celtic Manor ar ddydd Gwener 10fed Chwefror. Defnyddir yr arian a godir i gefnogi pobl ag anabledd dysgu sydd wedi wynebu trosedd casineb. Dyma eu dawns gyntaf erioed, ac mae’n siŵr o fod yn ddigwyddiad arbennig, gyda llawer o enwogion Cymreig yn bresennol, pryd 3 chwrs a derbyniad siampên, adloniant gan Fand Wholly Soul Big Mac, ocsiwn a raffl gyda phrif wobr o ddiemwnt gwerth £10,000! Am fwy o wybodaeth neu i brynu tocyn raffl cysylltwch â Jo Popham ar 07943 584 584 Mwynhewch y Darllen! Laura Davies Swyddog Gwybodaeth y Prosiect


Camau Bach

Llwyddiannau Mawr!

M

ae’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn cyflawni deilliannau positif yn barhaus i’r bobl ifanc y mae’n gweithio iddynt, ac mae’r staff ar draws y prosiect yn llawn canmoliaeth i’r bobl ifanc sy’n cyflawni cymaint o ganlyniad i gyfuniad o’u gwaith caled a chefnogaeth gan rieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

Mae Christian Cushing o Ferthyr yn un enghraifft o berson ifanc sydd wedi cyflawni camau mawr tuag at annibyniaeth diolch i’r Tîm Both Cyfleoedd Gwirioneddol ym Merthyr. Ar ôl gweithio gyda Karyn Morris (cydlynydd PCP Merthyr) nododd Christian yr angen i wella ei hunanhyder a’i hunan-barch ac aeth i weithio gyda Gweithiwr Cefnogi Seicoleg Tîm Both Merthyr, Tracey Jones a’r Gweithiwr Cynhwysiad Ieuenctid, Ben Williams. Mae Christian yn gweithio ar hyn o bryd ar ennill OCN mewn ‘Cadw’n Ddiogel’ gyda Tracey, ac mae hi’n dweud, “Mae Christian yn gweithio’n dda iawn yn ystod y sesiynau, mae’n cysylltu’r gwahanol sgiliau y mae’n eu dysgu ac yn eu rhoi ar waith, a hynny gartref ac yn yr ysgol.” Mae Ben yn cefnogi Christian ar hyn o bryd i fynychu Clwb Bechgyn a Merched Treharris, lle mae’n mwynhau chwarae pŵl a dartiau. Dywedodd Ben, “Mae Christian yn mwynhau ei amser yn y clwb ac yn rhyngweithio’n dda iawn gyda chymheiriaid. Mae ei hunanhyder a’i frwdfrydedd yn parhau i ddatblygu a thros amser rwy’n bwriadu lleihau fy ymwneud gyda Christian, ac yna caiff ei gyfeirio at aelod arall o’r tîm yn ôl yr angen.” Dywedodd Tim Carter, Swyddog Cyswllt Teuluoedd ym Merthyr, “Mae teulu ac athrawon Christian wedi sylwi ar gynnydd yn ei hunan-barch a’i hyder ers iddo ddechrau

gweithio gyda’r tîm Cyfleoedd Gwirioneddol,” a daeth hyn yn amlwg iawn yn ystod Gwasanaeth Carolau Nadolig yr ysgol, lle roedd Christian yn teimlo’n ddigon hyderus i roi darlleniad. Da iawn Christian! Cadwa ati!

Christian yn darllen yng Nghyngerdd Carolau Nadolig ei ysgol

Syniadau PCP

Mae staff ar draws y prosiect yn defnyddio llawer o ffyrdd blaengar a chreadigol i gynllunio gyda phobl ifanc mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y person, ac mae’r newyddlen yn llwyfan ardderchog i rannu syniadau! Mae Joe Harper, yr Arweinydd Tîm yng Nghaerffili wedi bod yn defnyddio cipwyr breuddwydion cartref gyda phobl ifanc a’u teuluoedd i archwilio a chofnodi gobeithion a breuddwydion ar gyfer y dyfodol! Gellir gweld cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud y cipwyr breuddwydion yma: www.busybeekidscrafts.com/Yarn-DreamCatcher.html. Mae Joe yn gofyn i bobl ifanc ysgrifennu eu gobeithion ar gyfer y dyfodol ar blât y cipiwr breuddwydion ac yn dweud bod pawb yn mwynhau’r gweithgaredd mas draw!


Diwrnod Gwybodaeth Sir Gaerfyrddin C

ynhaliodd Tîm Both Cyfleoedd Gwirioneddol Sir Gaerfyrddin Ddiwrnod Gwybodaeth ym mis Tachwedd i roi cyfle i rieni gael gwell dealltwriaeth o wahanol agweddau’r prosiect, yn ogystal â gwasanaethau eraill i bobl ifanc gydag anableddau. Cafodd y bobl ifanc, gweithwyr proffesiynol a rhieni gyfle i gwrdd â staff y prosiect a rhwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn yr ardal leol.

Daeth oddeutu 150 o bobl ifanc, rhieni a chynrychiolwyr o ysgolion a mudiadau i’r digwyddiad. Agorodd Jake Morgan, Pennaeth Gwasanaethau Plant o fewn Cyngor Sir Gaerfyrddin y Diwrnod Gwybodaeth Cyfleoedd Gwirioneddol, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. Darparodd Hannah Cox, Swyddog Hyfforddiant y prosiect drosolwg o’r prosiect. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth am y fenter o fewn ysgolion eraill yn Sir Gaerfyrddin; roedd Uned Garreg Lwyd, Drefach, Ysgol Tre-gib o Landeilo ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin ymysg y rheiny oedd yn bresennol. O ganlyniad i’r digwyddiad, mae ysgolion eraill nawr yn awyddus i ddefnyddio ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y person sy’n ganolog i waith y Tîm Cyfleoedd Gwirioneddol. Mae’r ffordd hon o weithio yn cael ei chyflwyno gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn ei holl leoliadau Addysg a Gofal Cymdeithasol. Roedd pobl ifanc wedi’u cynrychioli’n llawn yn y digwyddiad hefyd. Rhoddodd Bethany Coles a Mary Goode oedd wedi cymryd rhan ym Mhrosiect Gweithiwr Allweddol Trawsnewid CCNUK drosolwg o sut roeddent wedi elwa ar y math hwn o wasanaeth a’u rôl mewn cynllunio cynhadledd CCN Cymru a gynhaliwyd yn Llandudno ym mis Mawrth. Roeddent yn ymddangos yn bobl ifanc hyderus ac abl dros ben oedd yn rheoli eu bywydau ac yn cynllunio ar gyfer eu dyfodol. Rhoddodd David Ashton, person ifanc o’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol araith yn amlinellu ei lwybr tuag at annibyniaeth a sut mae’r prosiect yn ei alluogi i ganfod ei ffordd tuag at fod yn oedolyn. Mae bellach yng

Ngholeg Rhydaman, yn rheoli peth o’i arian ei hun, ac yn derbyn hyfforddiant teithio yn ogystal ag aros am gyfnod o brofiad gwaith yn Pets at Home. Dywedodd Amanda Baker, Arweinydd Tîm yn Nhîm Both Caerfyrddin fod y cyflwyniadau a roddwyd gan Bethany, Mary a David yn ysbrydoledig, ac yn rhoi syniad o’r hyn y gall pobl ifanc ei gyflawni ar lefel ymarferol yn eu bywydau personol pan roddir y cyfle iddynt reoli eu dyfodol. Ymunodd Côr Heol Goffa â’r cynadleddwyr am ginio, wedi’i harwain gan Bridget Radford gyda pherfformiad ardderchog; maent yn sicr yn haeddu cystadlu yn yr X Factor! Fe wnaeth Jonathan Hughes, Rheolwr Trawsnewid Cyngor Sir Gaerfyrddin grynhoi teimlad y diwrnod: “Mae’n wych cael digwyddiad sydd i bobl ifanc ac am eu profiad o drawsnewid, ac roedd y digwyddiad yn fwy arbennig fyth oherwydd nifer fawr y bobl ifanc oedd yn bresennol.”

David, wedi’i gefnogi gan Derek Murphy yn ystod ei gyflwyniad.


Ymchwil y Prosiect

Yn ogystal â’r holl waith gwych mae’r timau both yn ei wneud gyda phobl ifanc, mae’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol hefyd yn ceisio gwella a datblygu dulliau arfer gorau ar draws Cymru i gefnogi pobl ifanc gydag Anghenion Addysgol Arbennig drwy drawsnewid i fod yn oedolion • Cynnal cyfres o astudiaethau blwyddyn fydd yn archwilio elfennau allweddol yr ymyrraeth. • Cymharu cyfraddau cyflogaeth a deilliannau eraill â grŵp rheolydd cyfatebol a thrwy gyfweliadau dilynol gyda theuluoedd, chwe mis a hyd at dair blynedd ar ôl gadael yr ysgol.

I gefnogi’r nod hwn, mae tîm a leolwyd yng Nghanolfan Anableddau Dysgu Cymru yn cynnal ymchwil i ddeilliannau’r prosiect, er mwyn hysbysu arfer a nodi protocolau effeithiol. Mae Canolfan Anableddau Dysgu Cymru (WCLD) yn adran academaidd amlddisgyblaeth Adran Meddygaeth Seicolegol Prifysgol Caerdydd. Fe’i sefydlwyd yn gyntaf yn 1975, ac mae’n dod ag ystod o arbenigedd ynghyd mewn arfer clinigol, ymchwil, addysgu a datblygu gwasanaethau sy’n gysylltiedig â llawer o agweddau ar fywydau pobl gydag anableddau dysgu.

Bydd canlyniadau yn cael eu bwydo yn ôl i mewn i’r prosiect yn uniongyrchol a thrwy ddigwyddiadau a drefnir gan Anabledd Dysgu Cymru i’r prosiect. Mae’r tîm yn gwerthfawrogi’n fawr gydweithrediad a chymorth yr holl bobl ifanc, rhieni, athrawon, gweithwyr cefnogi a gweithwyr allweddol fydd yn helpu’r tîm gyda’u gwerthusiad.

Bydd y tîm ymchwil, a arweiniwyd gan Dr Stephen Beyer ac yn cynnwys Axel Kaehne, Andrea Meek a Claire Pimm, yn archwilio deilliannau’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol drwy:

Mae’r tîm yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau am y gwerthusiad, a gellir cysylltu â hwy drwy:

• Gasglu data disgrifiadol ar y bobl ifanc sy’n ymwneud â’r prosiect. • Cymryd barn staff a gweithwyr proffesiynol perthnasol drwy arolygon ar y we dros gyfnod y prosiect. • Tracio’r holl fewnbynnau i’r bobl ifanc gan y prosiect.

• ffôn: 020 20687204 • e-bost: wcldoffice@cf.ac.uk; • llythyr: Canolfan Anableddau Dysgu Cymru, Prifysgol Caerdydd, Neuadd Meirionnydd, Parc y Waun, Caerdydd CF14 4YS

Hyfforddiant a Digwyddiadau

I archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn realopportunities@learningdisabiltiywales.org.uk am ffurflen archebu. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau cysylltwch â Hannah yn Hannah.Cox@ learningdisabilitywales.org.uk

Rhwydwaith PCP Cymru gyfan

PCP Diwrnod 5 o 5

Dyddiad: 26ain Ionawr 2012 Amser: 10am – 3.15pm Lleoliad: Canolfan Hamdden Rhaeadr, Powys I: Cydlynwyr PCP a gweithwyr proffesiynol allanol

Dyddiad: 27ain Chwefror 2012 Amser: 10am – 3.00pm Lleoliad: Tŷ Gwledig Manor Park, Clydach I: Staff a Phobl Ifanc ar y Cwrs

Rhwydwaith Cynllunio i’r Dyfodol

Rhwydwaith Cynhwysiad

Dyddiad: 14eg Mawrth 2012 Amser: 10am – 1.00pm Lleoliad: Forge Fach CRC, Clydach I: Pob both

Dyddiad: 17eg Chwefror 2012 Amser: 10am – 1.00pm Lleoliad: Forge Facrh CRC, Clydach I: Pob both

Cyflwyniad i PCP

Cyflwyniad i PCP

Dyddiad: 19eg Mawrth 2012 Amser: 10am – 4.00pm Lleoliad: Llety Cynin, San Clêr I: Pawb yn Abertawe/Sir Gaerfyrddin/Sir Benfro

Dyddiad: 20fed Chwefror 2012 Amser: 10am - 4.00pm Lleoliad: Canolfan Bywyd Eglwys Bethlehem I: Unrhyw un ym Mhen-y-Bont/Merthyr/CNPT

I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura ar 01792 817224 neu yn laura.davies@learningdisabilitywales.org.uk 8


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.