Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol
Cyflwyniad Croeso i’n newyddlen ar gyfer Gorffennaf
Gorffennaf 2013
Cynhadledd Cyfleoedd Gwirioneddol, Canlyniadau Gwirioneddol 2013 Trosolwg o’n cynhadledd lledaenu gwybodaeth flynyddol Hyfforddiant a Digwyddiadau Rhestr o hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill
Helo Ddarllenwyr Mae’r haf wedi cyrraedd, wrth i mi eistedd mewn swyddfa boeth yng Nghastell-nedd. Mae’r timau wedi dweud wrthym am eu cynlluniau gwych ar gyfer yr haf gyda theithiau i ffwrdd, teithiau’n agosach at adref, cyrsiau a gweithgareddau yn digwydd ar draws pob un o’r naw ardal. Tynnwch lawer o luniau a rhowch wybod i ni trwy ein tudalennau Twitter a Facebook am yr hwyl yr ydych yn ei gael. Mae Hannah yn paratoi i fynd i Thorpe Park gyda thîm Caerffili ac mae’n edrych ymlaen at dreulio’r diwrnod gyda phobl ifanc yn cael llawer o hwyl. Mae hi’n ‘awyddus’ iawn i roi cynnig ar ‘SAW’, y gert sglefrio fwyaf brawychus. Gadewch i ni wybod am bopeth y byddwch yn ei wneud dros yr haf. Gobeithio erbyn y rhifyn nesaf bydd newyddion gennym am fabi newydd Laura, ond ar 11.12am ar 22 Gorffennaf rydym yn dal i aros. Zoe Richards
Yn darparu Cyfleoedd Gwirioneddol i Bobl Ifanc wrth iddynt Drawsnewid i fod yn Oedolion
CYFLEOEDD GWIRIONEDDOL CANLYNIADAU GWIRIONEDDOL 2013
Cynhaliodd Cyfleoedd Gwirioneddol ei gynhadledd lledaenu gwybodaeth flynyddol ‘Cyfleoedd Gwirioneddol, Canlyniadau Gwirioneddol’ eleni ar ddydd Mawrth 25 Mehefin yng Ngwesty’r Marriott Abertawe. Dechreuwyd y diwrnod gan Jack Cox a Rebecca Smith, dau berson ifanc o’r prosiect a gadeiriodd y diwrnod cyfan mewn modd bywiog iawn, a llwyddo i ymgysylltu a diddanu’r cynadleddwyr. ac yn gymwynasgar yn ystod y dydd. Roedd y siaradwyr yn ddewr ac yn fedrus wrth gyflwyno. Da iawn chi, a diolch am ddiwrnod ardderchog!
Pobl Ifanc Nod y diwrnod oedd rhannu’r gwaith da mae’r prosiect wedi bod yn ei wneud gyda phobl ifanc dros y 3 blynedd diwethaf, a pha ffordd well o wneud hynny na thrwy glywed gan y bobl ifanc eu hunain. Roedd gennym dîm o 22 o bobl ifanc a gyfrannodd Jack Cox and Rebecca Smith, at y diwrnod, Conference Chairs. gyda rhai yn rhan o’r tîm gweinyddol ac eraill yn hwyluso byrddau ac yn arwain trafodaethau o gwmpas byrddau’r cynadleddwyr. Roedd gennym nifer o bobl ifanc eraill a gyflwynodd cyflwyniadau am eu profiadau a’r effaith y mae Cyfleoedd Gwirioneddol wedi’i chael iddyn nhw a rhai a gynorthwyodd staff gyda chyflwyno gweithdai. Derbyniodd y bobl ifanc adborth ardderchog gan y cynadleddwyr yr oeddent yn falch iawn o’r ffordd y gwnaethant ymddwyn a chyfrannu trwy gydol y dydd. Ysgrifennodd Karenza Cassidy:
Profiad Rhiant Clywsom hefyd gan yr arbennig Julia Cox, mam i ddau fachgen gydag awtistiaeth, y mae’r ddau ohonynt yn ymwneud â’r prosiect. Siaradodd Julia yn agored ac yn angerddol am yr anawsterau a wynebwyd ganddi hi a’i theulu wrth i’r bechgyn dyfu i fyny, a disgrifiodd sut roedd gadael yr ysgol fel “cerdded oddi ar ymyl clogwyn” oherwydd nad oeddent yn gwybod ble i fynd nesaf. Aeth Julia ymlaen i ddisgrifio sut ddaeth eu bechgyn i ymwneud â’r prosiect a sut mae eu bywydau wedi newid yn llwyr ers y diwrnod hwnnw.
Julia Cox yn rhannu ei stori o safbwynt rhiant
Rwy’n rhiant i blentyn gydag awtistiaeth sy’n mynd trwy drawsnewid ar hyn o bryd. Roedd y diwrnod yn ddefnyddiol ac yn ysbrydoledig iawn. Roeddwn yn arbennig o falch i weld y bobl ifanc yn cymryd rhan ar bob lefel a’r gefnogaeth a gawsant wrth wneud hynny. Roedd yn anodd iawn peidio â chyffroi wrth weld y ddau gyflwynydd – Rebecca a Jack. Roedd eu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu yn wych! Roeddent wedi ymlacio, yn anadlu, oedi, gwenu a rhannu jôcs hefyd! Roeddent wedi ymgysylltu’r gynulleidfa yn dda ac nid oedd ofn arnynt ofyn am help a rhyngweithio. Roedd yr holl bobl ifanc yn broffesiynol
2
Cafwyd cyflwyniad gan Richard Mulcahy, Pennaeth Diwygio ADY Llywodraeth Cymru, yn trafod yr angen am ddiwygio a phwysigrwydd cynllunio seiliedig ar y person a gweithio mewn partneriaeth er mwyn lleihau’r ‘frwydr’ o ran y broses asesu statudol flaenorol, yn ôl rhieni. Dywedodd Richard fod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gynlluniau ar hyn o bryd i gyflwyno cynllunio seiliedig ar y person ar draws Cymru, yn datblygu system Sicrhau Ansawdd i rannu gwybodaeth ac yn trafod ffactorau pwysig eraill fel pa newidiadau oedd eu hangen i’r gyfraith. Soniodd Richard hefyd am yr esiampl dda y mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn ei ddangos yn y maes hwn a’r tebygrwydd rhwng y model Cyfleoedd Gwirioneddol a’r Cynllun Datblygu Unigol (IDP).
o gyflwyniadau Andrea, Steve a Richard ar ein gwefan yn www.realopportunities.org.uk/news/realopportunities-real-results-2013 lle y gwelwch hefyd drawsgrifiad o gyflwyniad Julia Cox.
Gweithdai Ymarferol Cyflwynodd staff y prosiect 5 gweithdy hefyd yn seiliedig ar y ‘5 llwybr’ i fyw’n annibynnol: •
Byw’n Annibynnol
•
Cyflogaeth
•
Perthnasoedd
•
Cyfleoedd Hamdden
•
Dysgu Gydol Oes
Roedd y gweithdai yn rhyngweithiol ac wedi’u dylunio i roi offer a syniadau ymarferol i gynadleddwyr am sut mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn cefnogi pobl ifanc yn y meysydd bywyd gwahanol hyn. Cynorthwyodd bobl ifanc wrth gyflwyno rhai o’r gweithdai ac roeddent yn gallu dangos sut roedd y gefnogaeth wedi bod o fudd iddynt. Roedd adborth o’r gweithdai yn cynnwys:
Dr Steve Beyer yn trafod gwerthuso’r prosiect
Gwerthuso’r prosiect Cafwyd y newyddion diweddaraf gan Dr Stephen Beyer, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Anabledd Dysgu Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd am y gwerthusiad sy’n cael ei gynnal gan ei dîm o ganlyniadau’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol. Dechreuodd trwy ein hatgoffa pa mor unigryw yw’r prosiect ac aeth ymlaen i ddweud bod y prosiect yn adnabod ei wasanaethau lawer o’r rhwystrau i drawsnewid llwyddiannus a nodwyd mewn ymchwil blaenorol. Yn bennaf trafododd Steve y canfyddiadau o’r astudiaeth ddilynol ar deuluoedd, lle mae ei dîm yn cyfweld â tharged o 120 o deuluoedd am y gwasanaethau y maent wedi’u derbyn, eu profiadau a lle mae eu pobl ifanc nawr. Yn eithaf addawol, hanner ffordd drwy’r astudiaeth hon adroddodd Steve fod 72% o deuluoedd yn credu bod y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol wedi cael effaith bositif iddynt hwy ar y cyfan. Nododd hefyd yr effaith bositif y mae elfen Cyflogaeth â Chymorth y prosiect yn ei chael ar bobl ifanc, teuluoedd a chyflogwyr.
Fe wnes i fwynhau’r gweithdy perthnasoedd. Roedd yn braf clywed faint o bobl oedd wedi cael eu helpu, pa mor dda maent wedi gwneud a chymaint y maent wedi datblygu. Blas ardderchog ar yr hyfforddiant sgiliau bywyd y mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn ei ddarparu. Mae cyflwyniadau o’r gweithdai ar gael hefyd ar-lein trwy’r ddolen uchod. Mae adnoddau a ddatblygwyd gan staff o’r prosiect hefyd ar gael am ddim trwy ein pecyn offer ar-lein y gellir ei weld yn adran Adnoddau’r wefan: www.realopportunities.org.uk/professionals/ resources Diolch i’r holl bobl ifanc, staff a siaradwyr oedd yn gyfrifol am lwyddiant y gynhadledd. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd, unrhyw rai o’r cyflwyniadau, y gweithdai neu adnoddau am ddim cysylltwch â Zoe Richards neu Hannah Cox o’r tîm hyfforddiant a gwybodaeth ar 01639 635650 neu yn realopportunities.org.uk
Cyflogaeth â Chymorth
Cafwyd cyflwyniad gan Andrea Wayman, Cyfarwyddwr Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth Elite a Thrysorydd Cymdeithas Cymru Asiantaethau Cyflogaeth â Chymorth, yn cynrychioli effaith y gwasanaeth cyflogaeth â chymorth a ddarperir gan Elite, Mencap, Remploy a’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol ar draws y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol. Yn benodol, edrychodd Andrea ar gyflawniadau o safbwynt nifer y cyfranogwyr oedd yn ymwneud â gwasanaethau cyflogaeth â chymorth, cyflogwyr oedd wedi’u hymgysylltu i ddarparu cyfleoedd, profiad gwaith a ddarparwyd, cymwysterau a enillwyd, gwaith cyflogedig a gafwyd a sesiynau rhieni/cyflogwyr a ddarparwyd ar draws 9 Awdurdod Lleol y prosiect o’u cymharu â ffigurau o’r flwyddyn flaenorol. Dywedodd Andrea fod 790 o achosion profiad gwaith wedi’u darparu yn ystod y prosiect, a bod 30 o bobl ifanc mewn gwaith cyflogedig ar hyn o bryd, ffigur nad oedd yn bodoli cyn y prosiect. Scott ‘Scotty’ Roberts yn rhoi cyflwyniad gyda chymorth Gallwch weld yr holl ystadegau a’r wybodaeth
3
gan Ian Broad, tîm both RrCT
Hyfforddiant a Digwyddiadau I archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn realopportunities@learningdisabilitywales.org.uk neu ar 01639 635650
Dosbarth Meistr Hawliau Gyrfaoedd Forge Fach CRC, Clydach Dydd Mawrth 30 Gorffennaf – 10:00-1:00 2 le i bob tîm both Dosbarth Meistr Bwlio Dydd Mercher 7 Awst – 9:30-1:00 2 le i bob tîm both Rhwydwaith Cyflogaeth a Chyfleoedd Forge Fach CRC, Clydach Dydd Mercher 21 Awst – 10:00-1:00 I Weithwyr Allweddol Trawsnewid, Cydlynwyr Mentrau Cymdeithasol, Cynrychiolwyr Asiantaethau Cyflogaeth â Chymorth Rhwydwaith Cynllunio at y Dyfodol Dydd Iau 12 Medi – 10:00-1:00 I Weithwyr PCP, Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd, Gweithwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol Cyflwyniad i PCP Forge Fach CRC, Clydach Dydd Mawrth 17 Medi - 10:00-4:00 Unrhyw un sy’n gweithio ochr yn ochr â’r prosiect neu â diddordeb mewn PCP Rhwydwaith Cynhwysiad Forge Fach CRC, Clydach Dydd Mercher 25 Medi - 10:00-1:00 Gweithwyr Cynhwysiad Ieuenctid, Hyfforddwyr Mentoriaid Cymheiriaid, Gweithwyr Cefnogi Seicoleg Cyflwyniad i PCP Consortiwm Canolbarth De, Nantgarw Unrhyw un sy’n gweithio ochr yn ochr â’r prosiect neu â diddordeb mewn PCP
I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hannah Cox neu Zoe Richards yn 01639 635650 neu realopportunities@learningdisabilitywales.org.uk. Gellir golygu cyflwyniadau. Nid yw’r farn a fynegir yn newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol o reidrwydd yn cael ei chefnogi gan y prosiect. Argraffwyd gan 4 Colour Digital Print. 4