Yn y rhifyn hwn
Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol
Cyflwyniad Cynadleddau’r prosiect, lansiad swyddogol y wefan a rheoliadau newydd ar egwyliau i ofalwyr.
Gorffennaf 2012
Newyddion Timau Both Diwrnod profiad gyrru i Alex yng Nghaerffili a hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anabledd i Fentoriaid Cymheiriaid Pen-y-Bont ar Ogwr Teuluoedd â Phlant Anabl a Thlodi Plant Ymchwil newydd gan Cysylltu â Theulu a’r Gronfa Teuluoedd yn dangos ffigurau sy’n peri gofid Gwasanaeth Ymgynghorol Budddaliadau Gwasanaeth newydd gan Mencap Cymru ar gyfer cefnogaeth ynghylch budd-daliadau. Training & Events Upcoming project training and events.
Croeso i rifyn Gorffennaf newyddlen y Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol! Y mis hwn cynhaliodd Cyfleoedd Gwirioneddol ei gynhadledd lledaenu gwybodaeth flynyddol yn Future Inn, Bae Caerdydd. Daeth dros 100 o gynadleddwyr o amrywiaeth o sectorau i’r gynhadledd ynghyd â staff a phobl ifanc o’r prosiect. Yn ystod y diwrnod trafododd cynrychiolwyr o addysg, cyflogaeth, ymchwil a Llywodraeth Cymru sut roedd y prosiect yn gweddu i’w sectorau perthnasol, ond y bobl ifanc oedd yn gyfrifol am y cyflwyniadau ar y dydd oedd sêr y sioe, gan rannu eu straeon ysbrydoledig o’r prosiect. Lansiwyd gwefan ein prosiect yn y gynhadledd hefyd, y gallwch ei gweld drwy fynd i www.realopportunites.org.uk (www. cyfleoeddgwirioneddol.org.uk i’r fersiwn Gymraeg). O’r wefan gallwch hefyd fynd at becyn cymorth y prosiect. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys ffurflenni, arweiniad ac offerynnau a ddefnyddir yn y prosiect i gefnogi pobl ifanc gyda gwaith cynllunio seiliedig ar y person a gwaith trawsnewid, cynhwysiad ieuenctid, sgiliau byw’n annibynnol a chefnogaeth seicolegol. Mae hyn yn dal i gael ei ddatblygu, ond byddwch yn gallu cael mynediad i’r offerynnau wrth i ni barhau i’w diweddaru a’u llwytho i fyny. Cysylltwch â mi ar 01792 817224 neu yn laura.davies@learningdisabilitywales.org.uk i gael enw defnyddiwr a chyfrinair. Ar 28 Mehefin daeth Rheoliadau Egwyliau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012 i rym. Mae Adran 25 Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 yn ei wneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru gynorthwyo’r person sy’n gofalu am y plentyn anabl i barhau i ofalu, drwy roi egwyliau o ofalu iddynt. Am fwy o wybodaeth am hyn ac i weld y ddogfen lawn yn nodi’r rheoliadau, edrychwch ar ein tudalen Facebook a’n gwefan yn yr adran newyddion. Laura Davies Swyddog Gwybodaeth y Prosiect
Darparu Cyfleoedd Gwirioneddol i Bobl Ifanc wrth iddynt Drawsnewid yn Oedolion
Newyddion Timau BOTH Dyma Joe Harper o Gaerffili i ddweud mwy wrthym am Alex sy’n dwlu ar geir, ac mae Tanya Pound o Ben-y-Bont ar Ogwr wedi bod yn brysur yn hyfforddi Mentoriaid Cymheiriaid! Dwlu ar Geir
gwefan www.realopportunities.org.uk neu gallwch ofyn am gopi gan y tîm hyfforddiant a gwybodaeth drwy gysylltu â Laura (laura. davies@learningdisabilitywales.org.uk). Cysylltiadau Defnyddiol: Pwyllgor Ymgynghorol Cludiant Pobl Anabl www.dptac.independent.gov.uk Rhwydwaith Bathodynnau Glas www.bluebadgenetwork.org Ffederasiwn Modurwyr Anabl www.dmfed.org.uk Mobilise www.disabledmotoring.org Motability www.motability.co.uk
Mae Alex, o Gaerffili, yn ddyn ifanc sy’n mwynhau mynd ar ei feic, chwarae snwcer a bod yn yr awyr agored. Roedd Alex yn ansicr am y dyfodol felly gofynnodd am gefnogaeth i ddatblygu cynllun seiliedig ar y person. Hwyluswyd sesiynau cynllunio seiliedig ar y person i sefydlu’r pethau sy’n bwysig i Alex a’r hyn y byddai’n ei hoffi yn y dyfodol. Gan ddefnyddio offerynnau cynllunio seiliedig ar y person, nodwyd bod gan Alex lawer o obeithion ar gyfer y dyfodol, yn cynnwys mynd i’r coleg a chael swydd. Ei freuddwyd yw dysgu gyrru. Wedi deall bod Alex yn ysu am gael dysgu gyrru, cysylltodd y gweithiwr Cynllunio Seiliedig ar y Person Joe Harper ag Uned Hyfforddi Gyrwyr Heddlu De Cymru oedd yn hapus i dderbyn Alex a’i gefnogi i ddefnyddio efelychydd gyrru. Cymerodd Alex ran mewn gwers yrru, a dysgodd am ddiogelwch, rheolyddion cerbyd a chyflymder priodol. Cafodd gyfle i yrru Mini Cooper mewn amgylchiadau ffug, gan ddod ar draws gwahanol sefyllfaoedd a ffyrdd. Cynyddodd hyder Alex yn ystod y sesiwn a gyrrodd y car yn llwyddiannus drwy sefyllfa mewn tref, dinas a thraffordd. Yn dilyn y sesiwn dywedodd Alex: “Roedd yn well na’r hyn yr oeddwn wedi’i ddisgwyl. Ces i amser gwych. Rwy’n methu aros i ddysgu gyrru.” Diolch yn fawr i Gareth Morgan yn Uned Hyfforddi Gyrwyr Heddlu De Cymru am alluogi Alex i gael profiad positif a’i annog i ddilyn ei freuddwydion.
Ymwybyddiaeth Anabledd
Yn ystod hanner tymor y Sulgwyn, aeth Tanya Pound, Gweithiwr Cynhwysiad Ieuenctid a Chydlynydd Mentoriaid Cymheiriaid o Foth Peny-bont ar Ogwr â 31 o bobl ifanc 14 a 15 oed o Ysgol Gyfun Bryntirion i Dŷ Dan-Y-Coed yn West Cross, Abertawe ar gyfer cwrs preswyl. Roedd y cwrs yn gyfle i’r bobl ifanc ymlacio cyn eu harholiadau TGAU a chymryd rhan mewn Cwrs Ymwybyddiaeth anabledd Agored Cymru Lefel 2 o’r enw Hyfforddiant Ieuenctid Ymwybyddiaeth Anabledd RESPECT, fel rhan o’u sgiliau Mentora Cymheiriaid. Edrychodd y bobl ifanc ar bynciau fel: • Deall materion anabledd – Beth mae anabledd yn ei olygu, nodi mathau o anabledd ac ati. • Adnabod effeithiau gwahaniaethu ar sail anabledd – a yw pobl ifanc ag anableddau yn colli allan ar hwyl? • Adnabod sut mae iaith, ymddygiad a gweithredoedd yn gallu cyflawni cynhwysiad – iaith briodol/amhriodol ynghylch anabledd, helpu pobl i deimlo’n hyderus i ymuno i mewn. • Deall y cysyniad o gynhwysiad a sut i’w annog - sut i gynnwys pobl ifanc mewn tripiau a gemau, trafod pwysigrwydd cynnwys pobl. Dywedodd Tanya: “Cafodd y cwrs dderbyniad da iawn ac fe’u helpodd i ddeall ychydig am sut beth yw cael eich eithrio a sut y gallan nhw atal hyn rhag digwydd i bobl eraill. Mae hefyd yn egluro am y mathau gwahanol o anabledd, sy’n helpu i gael gwared ar yr ofnau ynghylch “pobl anabl’”.
Alex yn yr efelychydd gyrru Am fwy o wybodaeth am gefnogi pobl ifanc ag anabledd dysgu i yrru, edrychwch ar ein herthygl ‘Dysgu Gyrru’ yn rhifyn mis Medi newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol. Mae ar gael ar ein 2
Teuluoedd â phlant anabl a
Thlodi Plant
Mae ymchwil ar y cyd a gynhaliwyd rhwng y Gronfa Teuluoedd a Cysylltu â Theulu yng Nghymru yn nodi cysylltiad cryf rhwng teuluoedd â phlant anabl a thlodi plant yng Nghymru. ‘Cyrraedd teuluoedd yng Nghymru: mapio teuluoedd â phlant anabl’ yw’r astudiaeth gyntaf i ganolbwyntio’n benodol ar ddata o Gymru, drwy gymharu data ar deuluoedd a helpwyd gan y Gronfa Teuluoedd â’r ardaloedd amddifadedd cymharol ym Mynegai Plant Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) 2011.
i wneud cais a straeon teuluoedd ewch i http:// www.familyfund.org.uk/grants neu cysylltwch ag Ann Shercliff, Rheolwr Datblygu Cymru ash@ familyfund.org.uk Cysylltu â Theulu Cymru yn lansio Cyfrif y Costau 2012 Mae ‘Cyfrif y Costau 2012’ yn dangos bod teuluoedd â phlant anabl yng Nghymru yn mynd heb hanfodion, fel bwyd, gwres a dillad, ac yn mynd i ddyled cyn i effaith lawn y toriadau mewn budd-daliadau yn cael ei theimlo. • Mae 64 y cant o deuluoedd yn ofni y bydd eu sefyllfa ariannol yn gwaethygu dros y flwyddyn nesaf - i fyny 15 y cant ers 2010. • Nododd y mwyafrif (77 y cant) ddiwygiadau lles fel y prif reswm dros eu pryder. • Mae 82 y cant o deuluoedd gyda phlant anabl yng Nghymru wedi mynd heb bethau oherwydd diffyg arian (Bwyd 18%, Gwres 25%, Dillad 64%, Diwrnodau allan neu wyliau 87%, Cyfarpar neu addasiadau 31%). • Mae 40 y cant wedi syrthio y tu ôl gyda thaliadau (Biliau Cyfleustodau 66%, Taliadau treth y Cyngor 37%, Morgais neu Rent 32%)
Dywedodd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru: “Mae llawer o amheuaeth a sinigaeth yn para o hyd fod tlodi plant yn bodoli yn y wlad hon. Mae’r ymchwil gwerthfawr hwn gan Cysylltu â Theulu a’r Gronfa Teuluoedd yn amlygu ei bod yn broblem sy’n real, yn gryf ac yn wanychol.” Mae canfyddiadau o’r adroddiad yn cynnwys: Mae dros draean o’r teuluoedd â phlant anabl a helpwyd gan y Gronfa Teuluoedd yng Nghymru yn byw yng nghategorïau 1 a 2 WIMD - y ddwy ardal fwyaf difreintiedig. Mae’r niferoedd mwyaf o deuluoedd gyda phlant anabl yn ardaloedd mwyaf difreintiedig WIMD Cymru. Mae’r Gronfa Teuluoedd yn darparu cefnogaeth ariannol hanfodol i deuluoedd gyda phlant anabl yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn ogystal â chyrraedd y rheiny sy’n wynebu anawsterau ariannol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.
O ganlyniad i hyn, mae Cysylltu â Theulu yn galw ar lywodraeth y DU i eithrio teuluoedd gyda phlant anabl o doriadau i gefnogaeth ariannol ac i dargedu cefnogaeth ychwanegol i deuluoedd drwy Gredyd Cynhwysol pan fyddant yn cyhoeddi manylion y taliad misol sengl newydd. Mae adroddiad llawn Cyfrif y Costau 2012 ar gael i’w weld ar-lein. Gallwch ei weld drwy ein grŵp Facebook neu wefan Cyfleoedd Gwirioneddol nawr neu drwy fynd at www.cafamily.org.uk
Casgliadau • Rhaid i agenda Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â materion penodol teuluoedd â phlant ag anableddau sy’n byw mewn ardaloedd trefol a gwledig • Mae’n hanfodol i’r rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Cychwyn Cadarn barhau i ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghenion cymhleth teuluoedd â phlant ag anableddau ar Draws Cymru. • Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil pellach i mewn i deuluoedd ag anableddau dysgu, tlodi plant ac amddifadedd cymharol.
Mae Cysylltu â Theulu wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r caledi ariannol sy’n bodoli i blant ag anableddau. Maent hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y teuluoedd tlotaf â phlant anabl wedi’u diogelu rhag y toriad o 10% i fudd-dal treth y cyngor. Mae Cysylltu â Theulu Cymru yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd â phlant anabl ar draws Cymru, gyda mynediad i ymgynghorwyr hawliau lles arbenigol ac ystod o wybodaeth ar fudd-daliadau, credydau treth, gweithio, gofal plant ac ymddiriedolaethau sy’n dyfarnu grantiau. Cysylltwch â swyddfa Cymru: wales.office@cafamily.ork.uk neu 02920 396624
Cefnogi teuluoedd â phlant anabl yng Nghymru Y llynedd helpodd y Gronfa Teuluoedd dros 4,300 o deuluoedd gyda phlant ag anableddau neu sy’n ddifrifol wael yng Nghymru. Darparwyd dros £2.4 miliwn mewn grantiau tuag at eitemau fel peiriannau golchi, oergelloedd, dillad gwely a dillad, yn ogystal â gwyliau a chyfarpar. Am fwy o wybodaeth am y Gronfa Teuluoedd, sut 3
Gwasanaeth Hyfforddiant & ymgynghori budd-daliadau Digwyddiadau
I archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn realopportunities@learningdisabiltiywales.org. uk am ffurflen archebu. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau cysylltwch â Hannah yn Hannah.Cox@learningdisabilitywales.org.uk
PCP 5 Diwrnod
Dyddiad: 10fed & 11eg Gorffennaf 2012 25ain & 26ain Medi 27ain Tachwedd Amser: 10am – 4pm Lleoliad: Eglwys y Glannau, Abertawe I: 2 le ar gyfer pob Tîm Both
Mae Mencap Cymru yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar fudddaliadau dros y ffôn wedi’i anelu at unigolion ag anabledd dysgu rhwng 0-25 oed a’u teuluoedd. Gall bobl gael mynediad i’r gwasanaeth drwy llinell gymorth Anabledd Dysgu Cymru ar 0808 808 1111. Galwad fer sydd am ddim ydyw, a bydd yr ymgynghorydd budd-daliadau yn eich ffonio yn ôl.
Rhwydwaith Cynhwysiad Dyddiad: 21ain Medi 2012 Amser: 10am – 4pm Lleoliad: Forge Fach CRC
Gall Melvina Mellin sy’n ateb y galwadau gynnig gwybodaeth gyffredinol am fudd-daliadau a hefyd gwiriad budddaliadau llawn. Gall rhieni, gofalwyr, pobl ag anabledd dysgu ac unrhyw weithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi gael mynediad i’r llinell gymorth am wybodaeth a chyngor cyffredinol. Mae’r gwasanaeth llinell gyngor ar agor 365 diwrnod y flwyddyn - dydd Llun i ddydd Gwener 10am - 6pm a 10am - 4pm ar y penwythnosau a gwyliau banc. Os na ellir ateb eich ymholiad ar unwaith, neu os yw’r sefyllfa yn fwy cymhleth, mae tîm o swyddogion rhanbarthol ar draws Cymru y gellir eu tynnu i mewn i helpu.
Rhwydwaith Cynllunio at y Dyfodol Dyddiad: 19eg Hydref 2012 Amser: 10am - 4pm Lleoliad: Forge Fach CRC
Rhwydwaith Cyflogaeth a Chyfleoedd Dyddiad: 23ain Tachwedd 2012 Amser: 10am - 1pm Lleoliad: CRC Forge Fach I: Cynrychiolwyr TKW/SEA
Rhwydwaith Cynhwysiad Dyddiad: 5ed Rhagfyr 2012 Amser: 10am – 4pm Lleoliad: Forge Fach CRC
I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura ar 01792 817224 neu yn laura.davies@learningdisabilitywales.org 4