Yn y rhifyn hwn Cyflwyniad
Cynadleddau, Ymgynghoriadau a Digwyddiadau!
Adeiladu Perthnasoedd drwy’r Awyr Agored Carrie Needs o Abertawe yn siarad am ei phrofiad yn Rhosili!
Yn yr Awyr Agored yn Sir Benfro
Gan aros gyda’r thema awyr agored, cawn glywed hanes Sir Benfro.
Arolwg y Prosiect
Gwybodaeth gan y Tîm Ymchwil
Hyfforddiant a Digwyddiadau
Rhestr o hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill.
PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL
Mawrth 2012 Croeso i rifyn mis Mawrth newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol. Mae llawer wedi bod yn digwydd yng Nghyfleoedd Gwirioneddol, yn cynnwys cyhoeddi ein cynhadledd staff a’r gynhadledd flynyddol! Nod y gynhadledd flynyddol yw rhannu sut mae’r prosiect yn gweddu i’r agenda polisi cyfredol, a gwerthuso deilliannau’r prosiect a llwyddiannau’r prosiect o fewn y gymuned broffesiynol ehangach. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru diddordeb cysylltwch â’r tîm hyfforddiant a gwybodaeth ar 01732 817224 neu yn realopportunities@learningdisabilitywales.org.uk Hefyd newydd mawr ym mis Mawrth yw lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) gan Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant. Mae’r Mesur yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth sy’n nodi cynlluniau ar gyfer newid a gwella cyflwyno gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n cynnwys oedolion a phlant ac mae’n cwmpasu trawsnewid. Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg tan 1 Mehefin 2012 felly gwnewch yn siwr eich bod yn cael dweud eich dweud! Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi ysgrifennu Fersiwn Darllen Hawdd o’r Mesur ac mae fersiwn i blant a phobl ifanc hefyd. Am fwy o wybodaeth ar sut i gael mynediad i’r dogfennau hyn ewch i www.wales.gov (chwiliwch am ‘Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru)’. Ym mis Mawrth hefyd ceir lansiad gwefan newydd gan Whizz-Kids o’r enw Kidz Unlimited. Mae Kidz Unlimited yn wefan gyfeillgar llawn hwyl a ddyluniwyd i bobl ifanc anabl wneud ffrindiau, datblygu hyder, dod o hyd i gyfleoedd a dysgu sgiliau newydd. Mynnwch olwg arni: www.kidz-unlimited.org.uk Mae llawer o ddigwyddiadau defnyddiol ym mis Ebrill i bobl ifanc, rhieni a gofalwyr. Mae seminarau ‘Cynllunio at y Dyfodol’ Mencap yn rhoi cyngor ar wneud ewyllysau ac ymddiredolaethau addas yn benodol i bobl ag anableddau dysgu. Maent yn dod i Abertawe, Caerdydd a Chyffordd Llandudno – ewch i wefan Mencap am fwy o wybodaeth neu i archebu lle. Mae Youth Speak Up y Fro a’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc yn ail-lansio’r Digwyddiad Mynegai Anabledd ar Ebrill 18fed. Bydd y diwrnod yn cynnwys stondinau gwybodaeth, gweithdai, hyfforddiant i rieni a gemau rhyngweithiol. Ebostiwch liz.davidson@ learningdisabilitywales.org.uk am fwy o wybodaeth. Dyna ddigon gen i, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw beth a nodwyd yma neu sydd yn y newyddlen cofiwch gysylltu! Laura Davies Swyddog Gwybodaeth y Prosiect
Adeiladu Perthnasoedd drwy’r
Awyr Agored
Gan Carrie Needs
Mae’r ‘awyr agored’ yn cael ei ystyried yn gyffredinol yn arf pwerus ar gyfer datblygiad personol a chymdeithasol. Gall gweithgareddau anturus yn yr awyr agored helpu i gynyddu hunanbarch, hyder a sgiliau cyfathrebu. Mae ymchwil wedi canfod hefyd y gall profiadau anturus yn yr awyr agored wella perthnasoedd rhyngbersonol, gwella cymdeithasoli, lleihau ffurfioldeb mewn perthnasoedd a datblygu perthnasoedd mwy dynol ac ymwybyddiaeth rhwng pobl ifanc a staff. Dyma’n union y manteisiodd Carrie Needs, gweithiwr Cynhwysiad Ieuenctid a Mentor Cymheiriaid newydd yn Abertawe arno yn ystod gwibdaith dosbarth i Ganolfan Antur Awyr Agored Rhosili ym mis Chwefror. Dyma ei chofnod personol o’i phrofiad.
drwy abseilio i lawr wyneb craig 50 troedfedd, heb gymorth unrhyw hyfforddwr, gyda’r arweiniad llafar a roddwyd iddo gan ddau hyfforddwr. Fel rhan o bersonoliaeth unigol Gareth, mae’n hoffi derbyn cyfarwyddyd gan un person ar y tro. Roedd hyn ynddo’i hun yn her fawr iddo, ac fe lwyddodd i ymdopi yn wych. Roedd yn gyflawniad gwych gan Gareth ac yn rhywbeth sy’n dangos yr hyn y gall ei gyflawni mewn gwirionedd.
Aeth y myfyrwyr i Rosili am wythnos ar leoliad preswyl addysg awyr agored. Er mwyn dod i adnabod y myfyrwyr a dechrau ffurfio perthynas â hwy, es i yno am y dydd ac ymuno yn eu gweithgareddau.
Pwysleisiodd y profiad hwn bwysigrwydd dod i adnabod y plant cyn ceisio gweithio gyda hwy, yn enwedig yn fy rôl i. Roedd agwedd y plant tuag ataf ar ôl y wibdaith, o’i chymharu â chyn hynny, yn gwbl wahanol. Nid oeddent yn ymddiried ynof nac yn fy adnabod ac roeddent yn swil iawn gyda mi, ond nawr nid ydynt yn gadael llonydd i mi!
Yn wahanol i’w cyfrifoldebau tŷ arferol, roeddent yn gallu golchi’u llestri eu hunain, coginio’u bwyd eu hunain, ac edrych ar ôl eu llety yn gyffredinol. I rai ohonynt, dyma’r tro cyntaf iddynt dreulio un noson i ffwrdd o’u cartref, heb sôn am dair!
Maen nhw’n gofyn o hyd os ydw i’n mynd gyda nhw pan fyddant yn mynd allan a phryd y byddaf yn y dosbarth gyda hwy. Bydd hyn yn bwysig iawn pan fyddaf yn ceisio eu cael i roi cynnig ar bethau newydd, a chymysgu gydag eraill. Ychydig yn unig o brofiad oedd gen i o anghenion arbennig cyn dod i weithio ar y prosiect hwn, a chefais brofiad gwych wrth ddysgu yr hyn y maent yn gallu’i gyflawni.
Ar y diwrnod y treuliais gyda hwy, buom yn Darllen Mapiau a Chyfeiriannu, a gwneud Ymarferion Hunan-gymhelliant. Roedd y gweithgareddau hyn oll yn cynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau ac arweinyddiaeth. Wrth i’r myfyrwyr symud drwy’r tasgau, tyfodd safon eu cyfathrebu ynghyd â’u hyder wrth leisio eu barn a’u syniadau. Dyluniwyd y gweithgareddau i fod yn gynyddol heriol wrth i’w sgiliau wella; roeddent yn llawn boddhad bob tro yr oeddent yn cael llwyddiant. Ar ôl cinio cymerodd y myfyrwyr ran mewn archwilio ogofâu tanddaear, dringo creigiau ac abseilio. Roedd hyn yn cyflwyno rhwystrau mawr i rai ohonynt eu goresgyn gan fod rhai cyfranogwyr yn glawstroffobig ac yn ofn uchderau, ac mae hynny cyn ystyried yr heriau dydd i ddydd a wynebir gan y rheiny ag Awstistiaeth ac anableddau corfforol. Wynebodd un myfyriwr yn arbennig, Gareth Williams, ei ofn o uchderau 2
Yn yr awyr agored yn
Sir Benfro
Mae tîm Sir Benfro hefyd wedi bod yn brysur yn mynd â’u pobl ifanc allan. Mae Jane Richards, Swyddog Dug Ceredin y tîm wedi bod yn datblygu dinasyddiaeth ac integreiddio cymunedol yn yr awyr agored, ac mae’r Gweithiwr Sgiliau Byw’n Annibynnol Katy Wragg wedi bod yn cefnogi un cyfranogwr i gyflawni’i uchelgais! Katy, dechreuodd Jamie ar y cam cyntaf tuag at gyflawni’i uchelgais. Dechreuodd Katy a Jamie ar raglen gyda’i gilydd a ddyluniwyd i sicrhau bod Jamie yn ymwybodol o’r holl beryglon a allai godi ar y ffordd i’r ysgol a sut i fynd i’r afael â hwy yn effeithiol. Dechreuodd yr hyfforddiant haf diwethaf a pharhau tan ddechrau mis Rhagfyr. Cefnogodd Katy Jamie wrth iddo gerdded o’i gartref un diwrnod yr wythnos, ac yn raddol wrth i Jamie gynyddu’i hyder ac i’w sgiliau wella cynyddwyd y diwrnodau a dechreuodd Katy gwrdd ag ef hanner ffordd ar ei daith. Yn olaf ar ddiwedd ei hyfforddiant, byddai Jamie yn cwrdd â Katy ger giat yr ysgol ar ôl cerdded o’i gartref a chytunwyd yn ei adolygiad blynyddol ym mis Rhagfyr y byddai Jamie yn cael dod oddi ar y bws ysgol a cherdded yn annibynnol. Mae’n ddyn ifanc llawer hapusach, mae ei amser teithio lawer yn fyrrach ac mae’n cael ychydig o awyr iach ac ymarfer iach ar ei ffordd i’r ysgol ac yn ôl! Roedd Jamie wrth ei fodd. “Mae’n wych gallu cerdded i’r ysgol – llawer gwell na’r bws a llawer yn gyflymach.”
Mae cyfranogwyr Dug Caeredig yn Sir Benfro wedi bod yn dysgu am reoli cefn gwlad gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Sir Benfro fel rhan o Adran Wirfoddoli eu Gwobr. Roedd angen help ar Ddeon Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi i glirio llwyni a choed ifanc oedd wedi tyfu’n afreolus yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac roedd grŵp Dug Caeredin Cyfleoedd Gwirioneddol wrth eu bodd yn cael cynnig darparu’r eli penelin angenrheidiol! Ceidwad y Parc Cenedlaethol oedd â gofal am y prosiect a darparodd yr arfau a’r cyfarwyddiadau diogelwch angenrheidiol. Gweithiodd y grŵp yn galed mewn amgylchiadau gaeafol ac maent wedi gwneud cyfraniad sylweddol at wella’r ardal. Roedd y cynnydd a wnaed mewn un diwrnod yn unig yn amlwg ac roedd yr holl gyfranogwyr yn falch o’u hymdrechion ac yn falch i fod yn rhan o’r gwelliant i’r Eglwys Gadeiriol, a hynny i’r gymuned leol a’r ymwelwyr niferus â Tŷ Ddewi. Mae Gweithiwr Sgiliau Byw’n Annibynnol y tîm Katy Wragg hefyd wedi bod yn helpu un cyfranogwr fwynhau’r awyr agored drwy gerdded i’r ysgol! Roedd gan Jamie George un prif ddymuniad wrth gwrdd â’r tîm Cyfleoedd Gwirioneddol, sef cerdded i’r ysgol yn annibynnol yn hytrach na defnyddio’r bws ysgol. Ar ôl cael ei gyfateb i 3
Arolwg y Hyfforddiant a Prosiect Digwyddiadau Mae CanolfanAnableddau Dysgu Cymru yn cynnal arolwg gwe ar hyn o bryd fel rhan o werthuso’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol. Byddai’r tîm ymchwil yn ddiolchgar iawn pe byddai pawb sy’n gweithio i’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn cwblhau’r arolwg. Gellir gweld yr arolwg yn www. surveys.cardiff.ac.uk/profsurvey1
I archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn realopportunities@learningdisabilitywales.org. uk am ffurflen archebu. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau cysylltwch â Hannah yn Hannah. Cox@learningdisabilitywales.org.uk
Mae’r arolwg gwe yn cynnwys 31 o brif gwestiynau mewn 6 adran. Amcangyfrifir y bydd yn cymryd tua 20 munud i’w gwblhau. Gallwch arbed eich ymatebion wrth i chi gwblhau tudalen, ond ni fyddwch yn gallu dod yn ôl at, nac adolygu, unrhyw adran sydd wedi’i harbed. Gallwch ddod yn ôl at yr arolwg unrhyw nifer o weithiau cyn i chi gyflwyno’n derfynol.
Cyflwyniad i’r Prosiect
Dyddiad: 28ain Mawrth 2012 Amser: 10am – 1pm Lleoliad: Canolfan Busnes Orbit, Merthyr I: Pawb ym Merthyr
Gweithdy Amlgyfrwng
Dyddiad: 29ain Mawrth 2012 Amser: 11am – 3pm Lleoliad: Forge Fach CRC I: Pob both a Pherson Ifanc
Diogelwch a’r defnydd o’r data: Bydd y data y byddwch yn ei ddarparu yn cael ei gadw ar weinydd diogel yn ystod cyfnod y prosiect, ac am 12 mis pellach, a chaiff ei ddinistrio wedi hynny. Bydd yr arolwg yn ddi-enw. Mae manylion llawn am gyfrinachedd ar dudalen gyntaf yr arolwg.
Cyflwyniad i PCP
Dyddiad: 26ain Ebrill 2012 Amser: 10am – 4pm Lleoliad: Canolfan Bywyd Bethlehem, Cefn Cribwr I: Pawb ym Merthyr, Pen-y-bont a CNPT
Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch ar yr arolwg hwn, neu’r astudiaeth ehangach, croeso i chi gysylltu ag Axel Kaehne yn:
Rhwydwaith Cyflogaeth a Chyfleoedd
Ffôn: 02920 687212
Dyddiad: 27ain Ebrill 2012 Amser: 10am – 1pm Lleoliad: Forge Fach CRC I: Staff y Prosiect
Diolch i chi am eich help!
Rhwydwaith Cynhwysiad
Ebost: kaehnea@cf.ac.uk
Dyddiad: 15fed Mai 2012 Amser: 10am – 1pm Lleoliad: Forge Fach CRC I: Staff y Prosiect
Cynhadledd Staff
Dyddiad: 29ain Mai 2012 Amser: 9.30am – 4.30pm Lleoliad: Orenfa Margam, Port Talbot
Cynhadledd Flynyddol
Dyddiad: 3ydd Gorffennaf 2012 Amser: I’w gadarnhau Lleoliad: Future Inn, Caerdydd I: Y Gymuned Broffesiynol Ehangach I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura ar 01792 817224 neu yn laura.davies@learningdisabilitywales.org.uk 8