PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL Yn y rhifyn hwn Cyflwyniad Croeso i’n newyddlen diweddaraf Manteision Hyfforddiant Teithio Amy Davies, WCLD yn edrych ar fanteision hyfforddiant teithio Game On yn Abertawe Tîm Both Abertawe yn cymryd rhan mewn Cynghrair Pêl-droed Dimensiwn Newydd i Fentora Cymheiriaid Cyfranogwyr yn dod yn fentoriaid yn Sir Gaerfyrddin Hyfforddiant a Digwyddiadau
Rhestr o hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill
Mawrth 2014 Croeso i newyddlen mis Mawrth. Yn y rhifyn hwn mae gwybodaeth o Ganolfan Anableddau Dysgu Cymru am astudiaeth ar fanteision hyfforddiant teithio, i bobl ifanc a’u teuluoedd ac i Awdurdodau Lleol. Mae Neil Wilson, Arweinydd Tîm Both Abertawe yn dweud wrthym am rôl ei dîm gyda phrosiect lleol ‘Game On’, sy’n anelu at gynyddu cyfranogiad pobl ifanc mewn pêl-droed i wella iechyd a lles. Mae stori gennym hefyd o dîm both Sir Gaerfyrddin am eu mentoriaid cymheiriaid newydd! Efallai eich bod wedi sylwi bod Gemau Paralympaidd y Gaeaf yn cael eu cynnal yn Sochi. Cyflawnodd tîm Paralympaidd Prydain Fawr lawer o bethau gwych yn ystod y Gemau, oedd yn cynnwys y fedal aur gyntaf i Baralympiaid Prydain, a dyma hefyd oedd y fedal aur gyntaf i unrhyw sgïwr Mynydd Prydeinig, yn y Gemau Olympaidd neu Baralympaidd. Daeth y gemau i ben gyda seremoni gloi ysbrydoledig gyda’r thema ‘Reaching the Impossible’, oedd yn canmol yr athletwyr Paralympaidd anhygoel a dangos bod yr amhosib yn gallu dod yn bosib ar sail cryfder ysbryd a phenderfyniad. Os ydych wedi’ch ysbrydoli i gymryd rhan mewn chwaraeon, mae cyngor a chymorth ar gael gan y sefydliadau canlynol: • • •
www.paralympics.org.uk www.specialolympics.org www.sportwales.org.uk Laura Griffiths Swyddog Gwybodaeth y Prosiect
Yn darparu Cyfleoedd Gwirioneddol i Bobl Ifanc wrth iddynt Drawsnewid i fod yn Oedolion
Manteision
Hyfforddiant Teithio Gan Amy Davies, Canolfan Anableddau Dysgu Cymru
Mae Canolfan Anableddau Dysgu Cymru wedi bod yn edrych yn ddiweddar ar hyfforddiant teithio a’r manteision i bobl ifanc, yn ogystal â faint o arian y gallai’r awdurdod lleol ei arbed pe byddai mwy o bobl ifanc yn teithio’n annibynnol. Siaradon nhw â theuluoedd dau grŵp o bobl ifanc; un grŵp a oedd wedi ennill tystysgrif mewn hyfforddiant teithio gan Elite ac un grŵp a gafodd hyfforddiant teithio gan eu staff both lleol. Cawsant er bod rhai pobl ifanc yn nerfus i ddechrau am yr hyfforddiant, ni chafodd yr un ohonynt broblemau yn dysgu sut i ddal y bws, y trên neu sut i gerdded o’u cartref i’r ysgol, y coleg neu’r siopau. Roedd rhai rhieni’n poeni am y person ifanc yn mynd ar goll neu’n methu â gwybod pa fws i’r ddal ond roedd yr hyfforddwr yn gallu tawelu’u meddyliau bod y person ifanc yn ddiogel ac ni fyddai’r person ifanc yn teithio ar ei ben ei hun tan yr oedd yn gallu gwneud hynny gyda chefnogaeth i ddechrau. Roedd rhai pobl ifanc yn dal i deithio’n annibynnol; roedd rhai yn dal bws i’r coleg, neu i mewn i’r dref i gwrdd â ffrindiau ac roedd hyn yn fwy tebygol os oeddent wedi cael hyfforddiant gan staff y Both, gan fod staff y both yn fwy tebygol o’u hyfforddi ar
daith i weithgareddau cymdeithasol, lle roedd Elite yn hyfforddi pobl i gyrraedd lleoliad gwaith. Pan roedd pobl ifanc yn cael eu hyfforddi ar daith na fyddai angen iddynt ei defnyddio’n rheolaidd neu’n fyddai’n newid pan oeddent yn symud o’r ysgol i’r coleg, roedd angen mwy o hyfforddiant arnynt er mwyn iddynt barhau i ddefnyddio’u sgiliau newydd ar daith newydd. Dywedodd bron bob un o’r rhieni gafodd gyfweliad fod y bobl ifanc yn fwy hyderus ac roedd wedi adeiladu eu hunan-hyder i wybod eu bod yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus. Dywedodd un person, “Rwy’n credu ei fod wedi adeiladu ar ei hyder ac nawr mae’n gwybod ei fod yn gallu’i wneud ar ei ben ei hun.” Dywedodd rhiant arall, “Mae wedi dod yn fwy annibynnol, gall neidio ar fws ac os yw e am fynd i’r dref mae e’n gallu mynd ei hun.” Yr un broblem fawr a welwyd oedd yn aml nad oedd unrhyw fysiau addas i gyrraedd y coleg, gyda phobl ifanc yn gorfod codi’n gynnar iawn i ddal dau neu dri bws. Yn yr achosion hyn roedd y bobl ifanc yn fwy tebygol o ddefnyddio bws a ddarparwyd gan y coleg, cael lifft gan aelod o’r teulu neu ddefnyddio tacsis. Eglurodd un rhiant: “Mae’r coleg mor bell i ffwrdd byddai’n rhaid iddi ddal dau neu dri bws. Mae’n codi am 7am fel y mae er mwyn cyrraedd mewn pryd yn y bws mini.” Edrychon ni ar achos un person ifanc oedd yn defnyddio tacsis i deithio i’r coleg. Y gost i’r Awdurdod Lleol oedd £310 yr wythnos, sef dros £12,500 y flwyddyn. Ychydig dros £100 yw cost trwydded bws i’r awdurdod lleol ac mae costau hyfforddiant teithio yn £216, sy’n golygu yn y flwyddyn gyntaf ar ôl yr hyfforddiant y gallai’r Awdurdod Lleol arbed tua £12,300 ar sail un person yn unig. Mae darparu bws mini yn costio tua £12,000 y flwyddyn i 12 person felly bydda’r Awdurdod Lleol yn arbed tua £700 y person yn y flwyddyn gyntaf (pan fydd yn rhaid iddynt dalu am drwydded bws a hyfforddiant) ac yna £1000 y flwyddyn wedi hynny. Ac wrth gwrs mae hyn yn bwysig i bobl ifanc pan fyddant yn dod yn 19 ac nad oes hawl ganddynt gael cludiant i’r coleg bellach. Os gallant ddefnyddio trwydded bws am ddim gallen nhw fod yn arbed arian yn bersonol hefyd.
Gofyn am docynnau a thalu amdanynt 2
Game On
yn Abertawe Gan Neil Wilson, Tîm Both Abertawe
Y llynedd cysylltodd ‘Game On’, sef prosiect wedi’i anelu at gynyddu cyfranogiad pobl ifanc mewn pêl-droed, â thîm both Abertawe. Roedden nhw am sefydlu cynghrair ieuenctid newydd yn Abertawe ac yn gobeithio y bydden ni’n gallu trefnu tîm. Yn amlwg, roedden ni’n meddwl bod hynny’n syniad gwych! Ar ôl mynychu ychydig o sesiynau hyfforddiant y llynedd cynhaliwyd gêm gynghrair swyddogol gyntaf Tîm Pêl-droed Abertawe Cyfleoedd Gwirioneddol ar 30 Ionawr. Cymerodd saith tîm ran yn y set gyntaf o gemau cynghrair; daeth y timau o ardal Abertawe gyfan. Wrth ddechrau’r gynghrair ac annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn pêl-droed, nod Game On yw gwella iechyd a lles y bobl ifanc sy’n cymryd rhan; mae hynny wrth gwrs yn ganlyniad gwych i’n cyfranogwyr ni hefyd. Byddant hefyd yn cael mynediad i hyfforddiant a chymwysterau mewn hyfforddi pêl-droed, y mae rhai o’n cyfranogwyr yn bwriadu manteisio arno. Ein prif nod oedd cynyddu cynhwysiad ein cyfranogwyr, ac rydym yn credu y bu hyn yn llwyddiannus iawn. Mae ein tîm yn cynnwys cyfranogwyr o wahanol ysgolion; nid oedden nhw adnabod ei gilydd cyn iddyn nhw ddechrau chwarae gyda’i gilydd, ac maen nhw wedi cael cyfle i ddod yn ffrindiau. Mae gennym ferch ar y tîm hefyd felly rydym yn gynhwysol o ran rhyw. Ein tîm yw’r unig un sy’n cynnwys pobl ag anghenion dysgu ychwanegol, ond penderfynon ni nad oedd yn bwysig i unrhyw arall gael gwybod hynny. Felly mae ein cyfranogwyr yn cael bod yn rhan o’r criw, mae pawb yn cael hwyl ac yn mwynhau gêm o bêldroed. Ariennir Game On Wales gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Pyllau Glo, ac yn Abertawe caiff ei redeg hefyd mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl-droed Abertawe. Roedd rôl Clwb Abertawe hefyd yn golygu bod gwestai arbennig yn y gêm gynghrair gyntaf, sef cyn chwaraewr i Ddinas Abertawe, a Llysgennad Cymunedol presennol yr Elyrch, Lee Trundle. Rhoddodd Lee lawer o gefnogaeth ac anogaeth i’r chwaraewyr;
Tîm Abertawe gyda Lee Trundle aeth ar y cae hefyd ar un adeg, ond o ganlyniad i anaf presennol ni gafodd lawer o effaith. Dywedodd Lee am y gynghrair Game On newydd, “Rwy’n falch i fod yn rhan o hyn. Mae’n syniad gwych i gael y plant gyda’i gilydd, nid yn unig o ran ffitrwydd ond i ddeall pwysigrwydd gweithio fel tîm.”
3
Dywedodd Chris Foot, Swyddog Hyfforddiant a Datblygu Game On, “Roedd yn bleser rhedeg y noson ac rydym wrth ein bodd â lefel y cyfranogiad ar y cam hwn. Trwy Game On rydym yn gobeithio hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o hyfforddwyr chwaraeon ac arweinwyr cymunedol i helpu i ddatblygu a chynnal timau a grwpiau i blant a phobl ifanc ar draws Cymru.”
Hyfforddiant a
Digwyddiadau
I archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn realopportunities@learningdisabilitywales.org.uk neu ar 01639 635650 Sesiwn Gwybodaeth am y Prosiect Dyddiad: 9 Ebrill 2014 Amser: 10:00am-1:00pm Lleoliad: Canolfan Adnoddau Port Talbot, Port Talbot I: Croeso i bawb Digwyddiad Dathlu Dyddiad: 25 Ebrill 2014 Amser: 1:30pm - 8:30pm Lleoliad: Pafiliwn y Grand Porthcawl I: Pobl Ifanc a Theuluoedd (Gwahoddwch yn unig) Rhwydwaith Cynllunio at y Dyfodol Dyddiad: 28th Ebrill 2014 Amser: 10:00am-1:00pm Lleoliad: Forge Fach, Clydach I: Weithwyr PCP, Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd, Gweithwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol Sesiwn Gwybodaeth am y Prosiect Dyddiad: 1 May 2014 Amser: 10:00am-1:00pm Lleoliad: Crug Glas I: Croeso i bawb Rhwydwaith Cyflogaeth a Chyfleoedd Dyddiad: 13 Mai 2014 Amser: 10:00am - 1:00pm Lleoliad:Forge Fac, Clydach I: Weithwyr Allweddol Trawsnewid, Cydlynwyr Mentrau Cymdeithasol, Cynrychiolwyr Asiantaethau Cyflogaeth â ChymorthCyflwyniad i Cyflwyniad i PCP Dyddiad: 22 Mai 2014 Amser: 10:00am – 4:00pm Lleoliad: Consortiwm Canolbarth y De, Nantgarw I: Croeso i bawb Rhwydwaith Cynhwysiad Dyddiad: 3 Mehefin 2014 Amser: 10:00am - 1:00pm Lleoliad: Forge Fach, Clydach I: Weithwyr Cynhwysiad Ieuenctid, Hyfforddwyr Mentoriaid Cymheiriaid, Gweithwyr Cefnogi Seicoleg Cynhadledd Flynyddol Cyfleoedd Gwirioneddol Date: 5 Mehefin 2014 Amser: 9:00am - 4:30pm Lleoliad: Gwesty St Davids a Sba Bae Caerdydd I: Croeso i bawb I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura Griffiths ar 01639 635650 neu realopportunities@learningdisabilitywales.org.uk. Gellir golygu cyflwyniadau. Nid yw’r farn a fynegir yn newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol o reidrwydd yn cael ei chefnogi gan y prosiect. Argraffwyd gan 4 Colour Digital Print.
4