Yn Sefyll yn Gadarn Dros Sîr Gâr Maniffesto Llafur dros Sîr Gaerfyrddin Labour’s Manifesto for Carmarthenshire 2012
1
Neges oddi wrth Arweinydd Grŵp Llafur Cyngor Sir Caerfyrddin a Chadeirydd y Blaid Lafur Sîr Gaerfyrddin - "Tîm Sir Gâr". Jan Williams
Kevin Madge
’Rydym yn falch i gyflwyno Maniffesto y Blaid Lafur ar gyfer etholiadau Cyngor Sîr Gaerfyrddin 2012. Maniffesto beiddgar a chyffrous yw hwn fydd yn tywys cynghorwyr Llafur ac ein Sir dros y pum mlynedd nesaf. Ein sail yw’r hyn ’rydym wedi cyflawni yn y cyngor ers 2004. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ’rydym wedi buddsoddi mwy nag erioed yn ein hysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a thai yn ogystal â gwella canol trefi a’n hadnoddau cymunedol . O'r dechrau cawn fod yn glir bod y cyngor yn wynebu ei sefyllfa ariannol anos ers degawdau o ganlyniad i'r toriadau llym a osodir ar Gymru gan Lywodraeth y DU tan arweiniad y Torïaid . **MAE ANGEN FFIGURAU AR OSTYNGIAD CYLLIDEB Y CYNGOR i DDANGOS HWN*** Nid nyni sy’n gyfrifol am y toriadau , ac maent yn mynd yn rhy bell, yn rhy gyflym. Tra bydd toriadau’r Torïaid yn rhwystro’r hyn y bydd y Cyngor yn gallu ei wneud dros y pum mlynedd nesaf, ni fyddwn yn caniatáu iddynt atal ein huchelgeisiau ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Ein blaenoriaethau yw blaenoriaethau pobl Sir Gaerfyrddin. Yn y dyddiau economaidd anodd hyn, ’rydym am roi blaenoriaeth i’r gwasanaethau hynny sydd o gymorth i'n dinasyddion sy’n eu hangen fwyaf ac i’n teuluoedd gweithgar. Mae'r ymrwymiadau a nodir yn y maniffesto hwn wedi'u cynllunio i wella gwasanaethau lleol allweddol o fewn gallu’r Cyngor, heb daro’n galed ar talwyr dreth gyngor gyda gofynion anrhesymol. Mae Llafur yn sefyll yn gadarn dros Sir Gâr yn ystod y dyddiau anodd hyn, ac dros y pum mlynedd nesaf ’rydym am ddefnyddio ein reord o greu cymunedau cryfach, diogelach, a awy gwyrdd fel sail i’r dyfodol. Jan Williams Kevin Madge
2
CYNNWYS Y MANIFFESTO HWN
Yn Sefyll yn Gadarn Dros Sîr Gâr CYNNWYS Y MANIFFESTO Hwn
3
RHAN 1: MANYLION, UCHAFBWYNTIAU A CHRYNODEB O'N HADDUNEDU A’N CYNIGION 5 CYFIAWNDER CYMDEITHASOL A LLES Y GYMUNED DATBLYGU ECONOMAIDD 5 DIOGELWCH CYMUNEDOL 6 POBL IFANC A CHYFLOGAETH IEUENCTID 7 IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL 8 TAI 9 ADDYSG 10 POBL HŶN 11 TRAFNIDIAETH A PHRIFFYRDD 12 EIN HAMGYLCHEDD 13
4
"Mae Pleidlais Dros Lafur yn Bleidlais Dros Well Sir Gâr"
3
RHAN 1: UCHAFBWYNTIAU A ChRYNODEB O'N ADDUNEDU A CHYNIGION CYFIAWNDER CYMDEITHASOL A LLES Y GYMUNED "Cyfle cyfartal i bawb"
Ymrwymiadau Allweddol
Fe fydd Cyngor Sir Caerfyddin tan arweiniad Llafur yn:
4
•
Rhoi arweiniad cryf i’n cymunedau Darparu
•
Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg trwy’r Sir i gyd
•
Ymateb yn gyflym i gyn-filwyr sydd angen gwasanaethau'r Cyngor
•
Hyrwyddo Masnach Deg
•
Cefnogi gwaith i fynd i'r afael â thrais a cham-drin yn y cartref
•
Dod yn esiampl dda o arfer gorau yn y gweithlu
•
Arfer orau mewn Cyflwyno Gwasanaeth o’r Ansawdd Orau
•
Gweithio'n agos â chynrychiolwyr y gweithlu
•
Cefnogi egwyddorion cydraddoldeb ar draws y Sir
•
Gweithio'n ddiwyd i ddileu tlodi
DATBLYGIAD ECONOMAIDD "Hybu Twf Cynaliadwy yn ein Sir" Ymrwymiadau Allweddol Fe fydd Cyngor Sir Caerfyddin tan arweiniad Llafur yn: •
Ceisio am Statws Ardal Fenter yn Sir Gaerfyrddin
•
Gwneud tir ar gael ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol
•
Sicrhau gwerth arian i drethdalwyr y Cyngor
•
Ymgyrchu am: Yr Aman - Ffordd Gyswllt Cwm Gwendraeth,
•
Ffordd Ddosbarthu Rhydaman, a
•
Ffordd osgoi Llandeilo
•
Lobïo i uwchraddio'r rhwydwaith rheilffyrdd Gorllewin Cymru
•
Byddwn yn adolygu gwaith y Bwrdd Adolygiad Twristiaeth
•
Cymorth busnes a chreu swyddi:
•
Hyrwyddo a chefnogi buddsoddiad o'r tu allan
•
Darparu mwy o gefnogaeth i fusnesau lleol
•
Hyrwyddo technoleg newydd ar gyfer swyddi newydd
•
Datblygu "Brand" Sir Gâr Datblygu Technoleg mewn Addysg ar gyfer Swyddi
5
•
Ymgyrchu dros Band Eang well
•
Hyrwyddo rhaglenni adfywio canol tref
•
Adnewyddu Adeiladau yng nghanol y dref
•
Adolygu gwasanaethau bws lleol gyda'r bwriad o gryfhau gwasanaethau
•
Cefnogi cadw Amgueddfeydd agored yn Sir Gaerfyrddin
•
Hyrwyddo a cheisio gwella adnoddau yn ein Parciau Gwledig
•
Cydweithio a helpu datblygu'r gymuned wledig
•
Gwella arwyddion ffyrdd i fodurwyr sy’n mynd i mewn i Sir Gaerfyrddin
DIOGELWCH yn y GYMUNED “Cynnal a chadw Sir Gaerfyrddin yn Ddiogel" Ymrwymiadau Allweddol Fe fydd Cyngor Sir Caerfyddin tan arweiniad Llafur yn:
6
•
Cyflwyno is-ddeddfau newydd i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol
•
Cynnal adolygiad cyflawn o gynlluniau diogelwch ar y ffyrdd
•
Dal i gyflwyno terfyn 20 mya cyflymder mewn ardaloedd ysgol
•
Codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion o beryglon camddefnyddio cyffuriau
•
Gwrthwynebu cau Gorsafoedd Heddlu sydd wedi eu staffio oherwydd toriadau’r Torïaid
•
Brwydro i gadw Gwasanaeth Tân addas i'r diben
•
Cadw ein wardeiniaid croesi heol
•
Cryfhau cysylltiadau â Chynghorau Cymuned i sicrhau amgylchedd mwy diogel
•
Cryfhau llais y bobl dros geisiadau trwyddedu
•
Cyflwyno is-ddeddfau newydd i atal trwyddedu lle bo angen, ac
•
Ystyrio is-ddeddf i atal masnachwyr twyllodrus rhag defnyddio cilfannau
POBL IFANC A CHYFLOGAETH IEUENCTID "Hyfforddu Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ar gyfer Swyddi Yfory"
Ymrwymiadau Allweddol
•
Fe fydd Cyngor Sir Caerfyddin tan arweiniad Llafur yn:
•
Darparu prentisiaethau newydd yn y Cyngor Sir
•
Cefnogi cwmnïau preifat i gynyddu prentisiaethau
•
Sicrhau bod y system addysg yn ystyried anghenion y cyflogwyr Chwilio am gyllid newydd y tu allan i'r Sir
7
•
Penodi "Swyddogion arbennig ar gyfer Cyflogaeth Ieuenctid "
•
Cynnal cyfraniadau’r Cyngor Sir i Brosiectau ieuenctid
•
Parhau i gefnogi Fforymau Ieuenctid
•
Cynnwys Cynghorwyr yn y gwaith o Brosiectau Ieuenctid a Fforymau
•
Chwilio am gyfleoedd newydd â Chynghorau Tref a Chymuned
IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL "Iechyd a gofal cymdeithasol priodol ac addas am ddim I bawb”
Ymrwymiadau Allweddol Fe fydd Cyngor Sir Caerfyddin tan arweiniad Llafur yn:
8
•
Gwella gwasanaethau trwy gydweithio ag Awdurdodau Lleol eraill
•
Cynorthwyo Cartrefi gofal preswyl y Cyngor a llety gwarchod
•
Dal i wella’r gwasanaeth i oedolion bregus
•
Dal i ddarparu prydau bwyd poeth ar Glud
•
Cefnogi clybiau cinio presennol ac hyrwyddo rhai newydd
•
Dal i leihau blocio gwelyau ysbyty
•
Cefnogi Ymgyrchoedd i: -
dychwelyd gwasanaethau clinigol llawn i Ysbyty'r Tywysog Philip
-
dychwelyd gwasanaethau brys llawn i Ysbyty'r Tywysog Philip
•
Dal i gefnogi ysbytai Glangwil a Dyffryn Aman
•
Cadw at y system bresennol o "Bathodynnau Glas"
TAI "Cynnal Cymunedau Sir Gaerfyrddin"
Ymrwymiadau Allweddol Fe fydd Cyngor Sir Caerfyddin tan arweiniadLlafur yn: •
Defnyddio a llanw cymaint o Dai Cyngor gwag â phosib Rhyddhau tir y Cyngor ar gyfer Tai Cyngor newydd
9
•
Codi o’r newydd tai gwarchod , gan gynnwys byngalos
•
Anelu at ganran briodol o dai cymdeithasol fel rhan o ystadau preifat newydd
•
Gweithio gyda Llywodraeth Llafur Cymru er mwyn ariannu cartrefi cymdeithasol
•
Annog perchnogion tai preifat i lenwi a defnyddio tai gwag
ADDYSG "Ysgolion Gwell a Chyfleoedd Addysg i Bawb"
Ymrwymiadau Allweddol
Fe fydd Cyngor Sir Caerfyddin tan arweiniad Llafur yn: •
Gyfrifol am Addysg yn y Sir.
•
Datblygu'r rhagen "Ysgolion ar gyfer yr 21af Ganrif"
•
Dal i wella safonau ysgol ac yn dal i fesur anghenion cyflogwyr
•
Cefnogi a monitro Addysg Arbennig mewn ysgolion tan ofal y Sir.
•
Cadw’r hawl o ddewis naill ai addysg yn y Gymraeg neu yn y Saesneg
•
Cefnogaeth addysg oedolion ac hyfforddiant galwedigaethol
•
Cynnal safonau uchel yng Ngwasanaethau’r Plant
•
Hybu cynllun Llafur brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd
•
Cefnogi rhaglen "Dechrau'n Deg" Llywodraeth Cymru Rhaglen, ac
• •
10
Ei ehangu lle bo modd yn y Sir Cynnal adolygiad llawn o gludiant ysgol yn gyfan gwbl.
POBL HŶN "Gofal, Urddas ac Annibyniaeth i’n pobl hŷn"
Ymrwymiadau Allweddol Fe fydd Cyngor Sir Caerfyddin yan arweiniad Llafur yn: •
Cynnal adolygiad llawn o wasanaethau'r Cyngor ar gyfer pobl hŷn
•
Blaenoriaethu adnoddau ar gyfer gofal a gwasanaethau cymdeithasol i bobl hŷn
•
Cyd-gysylltu’n eang i wella lles yr henoed
•
Cynnal adnoddau ar gyfer addysg oedolion a’u hamdden
•
Codi ymwybyddiaeth o'r holl fudd-daliadau sydd ar gael ar gyfer yr henoed Gwneud mwy o ymdrech i hybu'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor ar gyfer pensiynwyr
•
11
Hyrwyddo cynllun Llafur o deithiau bws am ddim i bobl oedrannus a’r anabl
TRAFNIDIAETH A PHRIFFYRDD "Mae Angen RHwydwaith Trafnidiaeth Addas ar Economi sy’n FFynnu.” Ymrwymiadau Allweddol
Fe fydd Cyngor Sir Caerfyddin tan arweiniad Llafur yn:
12
•
Ymgyrchu dros Ffordd Gyswllt Aman Gwendraeth-
•
Ymgyrchu dros ffordd ddosbarthu Rhydaman
•
Ymgyrchu dros ffordd osgoi Llandeilo
•
Blaenoriaethu'r gwaith cynnal a chadw a chyflwr wynebau ffyrdd
•
Gwella’r cydlynu rhwng y cwmniau sy’n cloddio a’r rhai sy’n gosod wyneb y ffordd.
•
Gwarchod adnoddau prin a blaenoriaethu rhaglen gynnal a chadw pontydd
•
Blaenoriaethu graeanu palmentydd yn y gaeaf ar y ffordd i ysgol
•
Gwrthwynebu unrhyw ymgais i godi tâl ar ddeiliaid "Bathodyn Glas" ar gyfer parcio
EIN HAMGYLCHEDD "Gwella'r Amgylchedd i Bawb" Ymrwymiadau Allweddol Fe fydd Cyngor Sir Caerfyddin tan arweiniad Llafur yn:
13
•
Sicrhau defnyddio ynni'n effeithlon yn holl adeiladau cyhoeddus newydd
•
Gweithredu technolegau cynaliadwy i’r stoc bresennol
•
Sicrhau bod yr holl gerbydau ac offer newydd hefyd yn ynni-effeithlon
•
Mynd ati i hyrwyddo ynni gwyrdd o fewn y Sir
•
Ail-sefydlu Gwasanaeth Rheoli Plâu Y Cyngor
•
Ystyried darparu casgliad misol wrth ymyl y ffordd o wydr
•
Ymchwilio’r posibilrwydd o ddarparu bagiau sbwriel am ddim i gartrefi
•
Cynyddu dirwyon am sbwriel a baw cwn i £100
•
a defnyddio'r elw i benodi Swyddogion addas ac i gynnyddu phatrolau
•
Ei wneud yn ofynnol ar lefydd manwerthu newydd ac archfarchnadoedd i ddarparu cyfleusterau ailgylchu
•
Trefnu graeanu palmentydd yn y gaeaf gaeaf yn ogystal â graeanu ffyrdd
•
Gwella amddiffyn rhag llifogydd sir a lleihau gollyngiadau carthffosiaeth
•
Gweithio'n agosach ag Asiantaeth yr Amgylchedd a Dŵr Cymru
•
Sefydlu llwybrau newydd ar gyfer ceffylau
Yn Sefyll yn Gadarn Dros Sir Gâr RHAN 2: MANYLION CYNHWYSFAWR EIN HADDUNEDU A’N CYNIGION CYFIAWNDER CYMDEITHASOL A LLES Y GYMUNED 15 DATBLYGU ECONOMAIDD 16 DATBLYGU ECONOMAIDD (ail dudalen) 17 DIOGELWCH CYMUNEDOL 18 DIOGELWCH CYMUNEDOL (ail dudalen) 19 POBL IFANC A CHYFLOGAETH IEUENCTID 20 IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL 21 TAI 22 ADDYSG DYSGU GYDOL OES A GWASANAETHAU PLANT 23 POBL HŶN 24 TRAFNIDIAETH A PHRIFFYRDD 25 EIN HAMGYLCHEDD 26 EIN HAMGYLCHEDD (ail dudalen) 27 ADDEWID LLAFUR i DDINASYDDION SIR GAERFYRDDIN 28 DEG RHESWM I BLEIDLEISIO DROS LAFUR AR FAI 3 28 ydd
14
RHAN 2: MANYLION CYNHWYSFAWR EIN HADDUNEDAU A’N CYNIGION CYFIAWNDER CYMDEITHASOL A LLES YN Y GYMUNED "Cyfle cyfartal i bawb" Credwn yn y dyddiau anodd hyn bod angen ar y Sir cynghorwyr Llafur a fydd yn sefyll yn gadarn ac yn brwydro yn erbyn y difrod a achoswyd i'n cymunedau gan Lywodraeth y DU tan arweiniad y Torïaid. Byddwn yn rhoi arweiniad cryf. Bydd ein Cynghorwyr yn cydweithio â chymunedau lleol, awdurdodau cyfagos a Llywodraeth Llafur Cymru i wella gwasanaethau ac i sefydlu cyfiawnder cymdeithasol. Mae'r Maniffesto yn cynnwys ein cynigion i gynnal, a lle bo'n bosibl, i wella’n gwasanaethau, i roi i bobl ifanc gyfle teg mewn bywyd, ac i sefyll i fyny ar gyfer gwasanaethau lleol hanfodol. At graidd ein cynigion yn y Maniffesto mae ethos y Blaid Lafur a’i egwyddorion. Mae cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, a thegwch a chyfle i ddinasyddion ifainc a hŷn yn sail i bopeth sy’n wethfawr i ni. Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg Mae'r iaith Gymraeg yn rhan o fywyd cymdeithasol ac economaidd ein cymunedau: byddwn yn ceisio cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn ein Sir a bydd dewis o iaith yn ein hysgolion. Cyn-filwyr a Phersonél Milwrol Mae aelodau ein lluoedd arfog yn aml yn cael anhawster wrth geisio defnyddio gwasanaethau'r cyngor yn eu trefi cartref: byddwn yn sicrhau bod ymateb cyflym i unrhyw geisiadau am wasanaethau'r cyngor o bersonél milwrol yn ein Sir. Masnach Deg Partneriaeth masnachu yw Masnach Deg. Mae’n seiliedig ar dryloywder, trafodaeth a pharch. Ei nod yw mwy o degwch mewn masnach ryngwladol ac mae'n cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy drwy gynnig gwell amodau masnachu, ac yn sicrhau hawliau, cynhyrchwyr bychain a mentrau cydweithredol. Bydd y Cyngor Sir tan arweiniad Llafur yn cefnogi mentrau Masnach Deg o fewn y Sir a phrynu a defnyddio cynnyrch Masnach Deg lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol. Trais yn y cartref a cham-drin yn y cartref Byddwn yn hyrwyddo a chefnogi mesurau i fynd i'r afael i ddileu trais a cham-drin domestig. Byddwn yn cefnogi dioddefwy. Arfer Gorau Byddwn yn ymdrechu i fod yn esiamplau o Arfer Gorau yn y gweithlu, gan hyrwyddo egwyddorion partneriaeth gymdeithasol, datblygu ein gweithlu ac annog perthynas adeiladol gyda'r undebau llafur. Yn benodol, byddwn yn dryloyw wrth roi gwybodaeth ar sefyllfa ariannol y Cyngor. Byddwn yn anelu at osgoi colli swyddi a diogelu gwasanaethau drwy archwilio'r holl ddewisiadau posibl, gan gynnwys newidiadau yn y gwasanaeth. Cydraddoldeb Byddwn yn hyrwyddo egwyddorion ac arferion cyfleoedd cyfartal ar draws y Cyngor a byddwn yn hyrwyddo cydraddoldeb gyda'n partneriaid. Dileu Tlodi Byddwn yn gweithio'n ddiflino i ddileu tlodi yn Sir Gaerfyrddin. Bydd gennym Gynghorwyr arbennig, yn gweithio â chynghorwyr tref a chymuned yn ceisio helpu i wella ffyniant a lles ein holl ddinasyddion ac wrth wneud hynny gwaith i ddileu tlodi.
15
DATBLYGU ECONOMAIDD Hybu Twf Cynaliadwy yn y Sir Mae ffyniant a lles pobl Sir Gaerfyrddin yn dibynnu ar Sir deinamig sy'n denu busnesau cynhenid ac sydd yn lleoliad deniadol ar gyfer busnesau o'r tu allan i fuddsoddi. MaeLlafur yn benderfynol o barhau â'r broses o wneud Sir Gaerfyrddin yn fwyfwy deinamig er lles ei phobl. Byddwn yn gweithio'n galed i ddatblygu economi ein Sir: byddwn yn ceisio ennill Statws Ardal Fenter yn Sir Gaerfyrddin a byddwn yn agor tir newydd ar gyfer datblygu economaidd yn y dyfodol. Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin tan arweiniad Llafur yn rhoi blaenoriaeth i'r meysydd canlynol: Gwerth Arian i Drethdalwyr Bydd cyflawni llawer o'n cynigion yn dibynnu ar dderbyn digon o arian gan y llywodraeth ganolog, a chasglu Treth y Cyngor: byddwn yn ymladd yn galed i gael ein cyfran deg o gyllid llywodraeth ganolog ac ar yr un pryd yn gwneud popeth posibl i gadw i lawr y gyfradd Treth y Cyngor ’rydym yn ei chasglu oddi wrth breswylwyr. Byddwn yn sicrhau Gwerth Arian i Drethdalwyr y Cyngor trwy wneud yn siwr bod swyddogaethau a gwasanaethau'r Cyngor yn effeithlon. Datblygiadau’r Priffyrdd Fel y nodir yn yr Adran ar Drafnidiaeth a Phriffyrdd, byddwn yn ymgyrchu ar gyfer datblygu rhwydwaith y priffyrdd - Ffordd Gyswllt Aman Gwendraeth-, ail gam y Ffordd Ddosbarthu Rhydaman, a ffordd osgoi Llandeilo. Network Rail Bydd Llafur yn lobïo i uwchraddio'r rhwydwaith rheilffyrdd Gorllewin Cymru. Yr ydym yn ystyried hwn yn hanfodol i ehangu yr economi leol yn y 21ain ganrif Twristiaeth Mae Llafur yn credu bod eisiau ymgyrch newydd i hyrwyddo twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin. Bydd Llafur yn adolygu "Bwrdd Adolygu Twristiaeth y Cyngor" i chwilio fel am ddulliau newydd o hyrwyddo Sir Gaerfyrddin i ymwelwyr o'r tu allan i'r Sir. Buddsoddi Mae gan Sir Gaerfyrddin enw da am fuddsoddiad o'r tu allan. Mae'r Cyngor yn flaenllaw o ran ei maint yng Nghymru. Mae Llafur yn credu bod angen i’r Cyngor Sir adeiladu ar y llwyddiant hwn a byddwn yn sicrhau bod cyllid yn dal i fod ar gael i gefnogi buddsoddiad o'r tu allan ac y o fewn y DU ac o'r UE ac o mannau eraill. Cymorth Busnes Asgwrn cefn ein heconomi yw ein busnesau presennol, gan gynnwys y cannoedd o fusnesau bach a chymhedrol eu maint sy'n chwarae rhan mor hanfodol yn ein economi lleol: mae Llafur yn bwriadu gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi'r sector pwysig hwn. Bydd Llafur yn symleiddio cymorth busnes drwy greu pwynt mynediad hawdd i wybodaeth a fydd yn hyrwyddo argaeledd y gwasanaethau ledled y Sir. Creu Swyddi a Thechnoleg Newydd Mae Llafur yn ymwybodol iawn bod y toriadau tan arweiniad y Torïaid yn arwain at golli swyddi yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r Cyngor Sir eisoes wedi cytuno i gymryd drosodd y Technium Dafen. Ar ben hynny, mae Llafur yn bwriadu gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat gyda golwg ar greu swyddi a bydd Llafur yn rhoi adnoddau tebyg i sectorau eraill i gyflymu'r broses. ’Rydym yn benderfynol o ddilyn polisi rhagweithiol o ddenu swyddi newydd i'r ein sir. Gwneud y gorau o sectorau cyhoeddus a phreifat Bydd Llafur yn ymchwilio i'r posibilrwydd o "frandio" Sir Gaerfyrddin gyda golwg ar hyrwyddo'r diwydiannau y Sir a chynnyrch ledled y byd. Mae Llafur yn gefnogwr cryf o "Gymysgu’r cyhoeddus a
16
phreifat " ac yn credu y bydd partneriaethau rhwng manwerthu, ffermio, gweithgynhyrchu, pysgota, diwylliant a gwasanaethau cyhoeddus cryf yn creu cyfoeth a swyddi ar gyfer y gymuned. Sgiliau drwy dechnoleg Mae Llafur yn bwriadu gwneud cymaint y gallai ar lefel y Cyngor Sir i gefnogi'r defnydd o Dechnoleg er mwyn hwyluso mynediad i ddysgu mewn ardaloedd mwy gwledig ac anghysbell y Sir. Credwn y bydd hyn hefyd yn helpu i leihau'r angen i deithio, a felly bydd yn gyfeillgar i'r amgylchedd. Band Eang Bydd Llafur yn gweithio'n egnïol gyda phartneriaid i sicrhau cyflwyniad mwy cyflym Band Eang ledled y Sir. Byddwn yn gweithio i hyrwyddo ac ymgysylltu â Llywodraeth Llafur Cymru. Adfywio Canol Tref Er bod camau mawr wedi'u gwneud dros y blynyddoedd diwethaf yn y gwaith o adfywio canol ein trefi, a llawer o swyddi newydd wedi eu creu, mwy o waith sydd angen ei wneud. Byddwn yn sicrhau bod trefi Llanelli a Rhydaman yn parhau â'r broses o ddod y canolfannau hyn yn ôl yn fyw. Byddwn yn targedu canolfannau poblogaeth llai gan gynnwys Cross Hands, Hendy-gwyn, Llandeilo, Cydweli, Cwmaman, Sanclêr, Castell Newydd Emlyn, Llanymddyfri, Porth Tywyn, Talacharn a mannau eraill. Byddwn hefyd yn ymgynghori â Chymdeithasau lleol Cydweithredol a Cydfuddiannol i ofyn am eu barn ar y ffyrdd ymlaen. Bydd Llafur yn sefydlu tasglu Cyngor dan arweiniad Aelod y Cabinet, a fydd yn ymweld â phob ardal canol tref a chymunedau lleol i ofyn am eu barn ar yr hyn sydd eu hangen Adnewyddu Mewn llawer o ardaloedd mae adeiladau mawr wedi cael dirywio yng nghanol ein trefi. Byddwn yn cynnal adolygiad o'r defnydd o’r adeiladau hyn ar gyfer y dyfodol: byddwn yn ymchwilio a gallent gael eu neilltuo ar gyfer pobl ifanc er enghraifft ar gyfer gweithdai newydd, busnesau newydd, canolfannau adloniant, chwaraeon dan do, meithrinfeydd, clybiau colli pwysau, fflatiau , neu ar gyfer unrhyw ddatblygiad cynaladwy eraill. Cludiant Mae trafnidiaeth yn fater pwysig i lawer o bobl yn y rhannau gwledig o’n Sir - yn enwedig i rai nad ydynt yn berchen ar gar. Mae cludiant cyhoeddus o bwysigrwydd eithriadol yn Sir Gaerfyrddin. Bydd Llafur yn adolygu'r sefyllfa o ran trafnidiaeth yn y Sir gyda'r nod o ddarparu ateb ar y cyd Cyhoeddus / Preifat sydd yn ogystal â bod o gymorth i'r llai cefnog, hefyd yn unol â'n polisïau ynni gwyrdd. Byddwn yn ymgyrchu ar gyfer ffyrdd newydd fel yr amlygwyd yn ein adran Drafnidiaeth er mwyn cynorthwyo twf economaidd a lleihau lefelau'r llygredd o gerbydau yn defnyddio'r ffyrdd gorlawn yn Rhydaman a Llandeilo. Amgueddfeydd Sir Byddwn yn sicrhau bod y Amgueddfeydd Sir ym Mharc Howard Llanelli, ac Abergwili Caerfyrddin yn parhau ar agor. Cymunedau Gwledig Mae Llafur yn y Blaid sy’n cynrychioli Sir Gaerfyrddin i gyd . ’Rydym am ddal i ddatblygu mentrau i gynorthwyo ein cymunedau gwledig, yn enwedig gyda golwg ar "ychwanegu gwerth" i fusnesau gwledig. Bydd Llafur yn sicrhau bod aelod o'r Cabinet yn gyfrifol am "Datblygu Gwledig" o fewn ei bortffolio ac yn ymwneud yn rheolaidd ag arweinwyr cymuned wledig, grwpiau cymunedol a phobl sy'n byw yn ein cymunedau gwledig. Gwella Cyfleusterau Hamdden Byddwn yn gwella cyfleusterau ym Mharc Gwledig Pen-bre ac mewn cyfleusterau hamdden eraill yn y Sir gyda'r bwriad o annog ymwelwyr i ymweld â'n sir, gyda’r gobaith,wedi ymweld, byddant yn dymuno dod yn ôl eto. "Croeso i Sir Gaerfyrddin" Yn olaf, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin tan arweiniad Llafur yn cyflwyno arwyddion "croeso" sy’n canmol rhinweddau ein Sir ar yr holl ffyrdd sy'n arwain i mewn i’n sir. Mae llawer gormod o fodurwyr yn pasio drwy Sir Gaerfyrddin heb stopio, ac mae Llafur yn bwriadu cymryd camau i unioni hyn.
17
DIOGELWCH YN Y GYMUNED Cynnal Sir Gaerfyrddin Ddiogel Mae diogelwch yn y gymuned wrth wraidd dyheadau’r Blaid Lafur ar gyfer lles ein dinasyddion. Nid ydym yn credu bod ystyriaeth ddigonol wedi ei roi i ddiogelwch yn y gymuned yn y gorffennol, ac mae Llafur yn bwriadu ceisio unioni'r sefyllfa hon gyda llond gwlad o gynlluniau a syniadau. Plant a Diogelwch ar y Ffyrdd Bydd Cyngor Llafur yn gwneud adolygiad llawn o ddarpariaeth diogelwch ar ffyrdd ein Sir, yn enwedig lle mae plant ysgol yn y cwestiwn. Byddwn yn dal i gyflwyno terfyn cyflymder o 20 mya ar ffyrdd sy'n arwain i ysgolion a byddwn yn dal i weithio gydag Ysgolion i hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd. Byddwn yn hyrwyddo ac yn annog mentrau diogelwch ar y ffyrdd presennol gan gynnwys rhaglenni megis y "Kerb Craft Scheme" sydd eisoes ar gael o fewn ein hysgolion.Byddwn yn cefnogi rheolaethau diogelwch ar ffyrdd a chroesfannau ysgol. Byddwn yn recriwtio wardeniaid rheolaeth croesi ac yn defnyddio mwy o arwyddion. Byddwn hefyd yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o gamddefnyddio cyffuriau mewn ysgolion. Plismona, Swyddogion Cymorth Cymunedol a Gwasanaethau Tân Byddwn yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o ddarpariaeth Diogelwch Cymunedol yn ein sir gyda'r bwriad o symleiddio’r holl wasanaethau. Yn dilyn darpariaeth y Llywodraeth Lafur Cymru o 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol newydd yng Nghymru, byddwn yn cynyddu'n sylweddol y nifer o Swyddogion Cymorth Cymunedol ledled y Sir. Byddwn yn gweithio gyda'r Timau Plismona Cymdogaeth i ddiffinio rôl Swyddogion Cymorth Cymunedol gyda golwg ar gynyddu cyswllt â'r cyhoedd yn gyffredinol. Byddwn yn gwrthwynebu'r gostyngiad y Torïaid yn y nifer o Swyddogion yr Heddlu yn Sir Gaerfyrddin a chau Gorsafoedd Heddlu . Byddwn yn cefnogi Timau Plismona Bro gan hyrwyddo yn eang cyfarfodydd "PACT" a chysylltiadau o fewn ein cymunedau. Byddwn yn gwrthwynebu unrhyw gynigion i leihau darpariaeth Gwasanaeth Tân. Byddwn yn ceisio helpu'r teuluoedd hynny sy'n byw mewn ardaloedd sydd â phroblemau gael yswiriant ar gyfer eu heiddo a nwyddau. Ymddygiad Gwrth Gymdeithasol a Diogelwch yn y Gymuned Byddwn yn cyflwyno is-ddeddfau newydd yn unol â mentrau Llywodraeth Cymru i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau. Bydd yr is-ddeddfau yn cynnwys gwneud y defnydd o alcohol yn anghyfreithlon mewn mannau cyhoeddus a byddwn yn cyflwyno is-ddeddfau newydd i atal "galw heb wahoddiad" yn enwedig ar ôl iddi dywyllu. Byddwn yn hyrwyddo y cynllun KIN sy’n pwysleisio gwerth y teulu a’r cynllun sy’n pwysleisio diogelwch gyda’r nos.Byddwn yn ehangu’r defnydd o broffil DNA ynglyn ag eiddo. Byddwn yn dal i hybu a helpu cyllido Grwpiau Diogelwch Cymunedol Cydweithredu gyda Chynghorau Cymuned Cydweithredu â chynghorau cymunedol Byddwn yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r perthynas rhwng y Cyngor Sir â Chynghorau Cymuned er mwyn sicrhau gwell gyfathrebu. Byddwn yn penodi Cynghorwyr arbennig i gysylltu â Chynghorau Cymuned er mwyn gweithio llawer agosach ar bob mater sy'n effeithio ar eu cymunedau. Byddwn hefyd yn cysylltu â'r Cynghorau Cymuned gyda golwg ar wella lefelau goleuadau stryd ledled ein Sir a byddwn yn sicrhau nad oes unrhyw gostyngiadau yn y ddarpariaeth hon. Trwyddedu Safleoedd
18
Byddwn yn cynnal adolygiad llawn o'r ffordd y mae'r system drwyddedu yn gweithredu yn y Sir er mwyn sicrhau bod lles y cyhoedd yn gyffredinol yn cael eu hamddiffyn yn well. Bydd hyn yn cynnwys eu gwneud yn haws i unigolion a grwpiau gyflwyno sylwadau i'r Pwyllgor Trwyddedu. Lle bo angen, byddwn yn sicrhau bod is-ddeddfau newydd yn cael eu cyflwyno. Masnachwyr Twyllodrus Bydd y Cyngor Sir tan arweiniad Llafur yn edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno is-ddeddf a fydd yn helpu i fynd i'r afael â masnachwyr twyllodrus sy’n defnyddio cilfannau a phorfa wrth ymyl y ffordd i werthu eu ceir.
19
POBL IFANC A CHYFLOGAETH IEUENCTID Hyfforddiant Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ar gyfer Swyddi y Dyfodol Mae Llafur yn pryderu am sefyllfa pobl ifanc yn ein Sir ac yn enwedig gyda lefelau cynyddol o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc o ganlyniad i'r toriadau mewn gwariant gan glymblaid y ConDems yn Llundain. Bydd Llafur yn helpu pobl ifanc i fynd i'r afael â'r problemau a'r materion sy'n eu hwynebu a bydd yn cyflwyno mesurau i wella bywydau a lles ein pobl ifanc, gan leihau lefelau diweithdra lle bo hynny'n bosibl. O fewn y Cyngor Sir byddwn yn darparu prentisiaethau newydd. Ni fyddant ar draul y staff presennol. Byddwn hefyd yn ceisio sefydlu prentisiaethau newydd yn y cynghorau lleol - Tref a Chymuned a byddwn yn rhoi cymorth i gwmnïau a sefydliadau lleol er mwyn cynyddu nifer y prentisiaethau yn eu gweithleoedd. Mae Llafur yn ymwybodol o ymdrechion yr asiantaethau sector cyhoeddus a phreifat yn y Sir sy'n anelu at gael pobl ifanc naill ai i gael gwaith am y tro cyntaf, neu yn ôl i'r gwaith. Byddwn yn darparu adnoddau i hybu ymdrechion y sector preifat fel bod pobl ifanc yn fwyfwy tebygol o gael swyddi, hyfforddiant neu brentisiaethau. Byddwn hefyd yn gweithio i sicrhau bod addysg ac hyfforddiant y bobl ifanc yn agosach i ofynion cyflogwyr. Fel hyn, y bydd ein pobl ifanc yn cael eu hyfforddi yn barod i ymgymryd â’r swyddi newydd a fydd ar gael pan fydd Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan. ’Rydym yn ymwybodol y bydd angen cyllid newydd, yn ogystal â'r hyn a ddarperir gan y Cyngor Sir, i gyflawni ein holl raglenni uchelgeisiol ar gyfer cael pobl ifanc i mewn i waith; ’rydym am ddod o hyd i gyfleoedd newydd sylweddol bob blwyddyn a bydd angen cyllid. Byddwn yn mynd ar drywydd pob un o'r cyfleoedd sydd ar gael i ni ar gyfer ariannu ar y cyd gan gynnwys UE a chyllid Llywodraeth Cymru. Byddwn yn penodi Uwch Swyddog ar gyfer Cyflogaeth Ieuenctid o fewn rhengoedd y Cyngor Sir a byddwn yn dal â'r gwaith ’rydym eisoes yn ei wneud gyda golwg ar benodi swyddogion arbenigol ar gyfer cyflogaeth ieuenctid yn y tair prif ardal o ran gwaith yn y Sir - y Gorllewin, Llanelli a Dinefwr. Bydd y swyddogion hyn yn arwain rhaglenni gyda'r Cynghorau Tref a Chymuned ac Asiantaethau er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr holl gymorth posibl i ddod o hyd i swyddi addas, hyfforddiant, neu brentisiaethau. Mae Llafur yn cydnabod y cyfraniad aruthrol y mae ein Prosiectau Ieuenctid yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman a Fforymau Ieuenctid wedi wneud wrth wella bywydau pobl iau sy'n byw yn ein trefi a'r ardaloedd cyfagos. Bydd Llafur yn cynnal y cyfraniad ariannol mae'n ei wneud i Prosiectau Ieuenctid y Sir a Fforymau a bydd yn dal i gefnogi’r gwaith y maent eisoes yn ymgymryd ag ef. Byddwn yn cynnwys Cynghorwyr yn uniongyrchol yng ngwaith y mentrau hyn ieuenctid, a byddant yn adrodd yn ôl i'r Cyngor yn rheolaidd. Byddwn yn ymgynghori â Chynghorau Tref a Chymuned gyda'r bwriad o nodi a hybu prentisiathau newydd o fewn y Cyngor.
20
IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL “Gofal o Ansawdd Da, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am ddim i Bawb" Y Blaid Lafur oedd pensaer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gyflwynwyd yn y 1940au. Mor llwyddiannus mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi bod yn gwella iechyd y genedl dros y blynyddoedd fel mae gofal cymdeithasol wedi dod yr un mor bwysig â gofal iechyd. Yn y blynyddoedd diwethaf, ’rydym wedi gweld pwysau ar gyllidebau gofal cymdeithasol ledled Cymru o ganlyniad i newidiadau demograffig a thoriadau Llywodraeth y DU tan arweiniad y Torïaid. ’Rydym yn cydnabod yr her sy'n ein hwynebu yn Sir Gaerfyrddin er mwyn gwneud yn siwr bod ein gwasanaethau gofal yn diwallu anghenion pawb sy'n dibynnu arnynt. Yn ymateb i’r her, byddwn yn gwneud yn siwr ein bod yn cydweithio agosach ac yn fwy craff wrth ddarparu gwasanaethau gofal drwy integreiddio ag awdurdodau lleol eraill. Gofal Mae Llafur wedi ymrwymo i gynnal y lefel bresennol o gartrefi gofal y Cyngor tra bod y lefelau ariannu presennol a osodwyd gan Lywodraeth y DU a arweinir gan y Torïaid yn parhau. Mae gwasanaeth gofal hirdymor y Cyngor yn darparu gofal personol a chymorth beunyddiol i bobl sy'n dymuno byw yn eu cartrefi eu hunain, ond am resymau o salwch neu anabledd mae arnynt angen cymorth tymor hir i wneud hynny. Bydd Llafur yn adolygu'r gwasanaeth gofal cartref, a darparu gwasanaeth ar gyfer oedolion bregus gyda'r bwriad o geisio gwelliannau. Bydd Llafur hefyd yn adolygu'r sefyllfa yn tai gofal y Sir gyda'r bwriad o ailsefydlu wardeniaid ble bynnag bosibl. Pryd ar Glud Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin tan arweiniad Llafur yn parhau a gwasanaeth prydau bwyd poeth y Cyngor ar glud ac ni fydd Llafur yn derbyn unrhyw ostyngiad yn y gwasanaeth yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Clybiau Cinio Un o lwyddiannau yn ystod y blynyddoedd diweddar yn Sir Gaerfyrddin yw’r cynnydd mawr yn nifer y clybiau cinio a gefnogir gan y Cyngor. Ar hyn o bryd mae 30 o glybiau cinio ar draws y Sir yn darparu prydau bwyd poeth a'r cyfle i bobl gymdeithasu. Mae rhai glybiau hefyd yn cynnal gweithgareddau iechyd a lles a digwyddiadau cymdeithasol eraill. Mae'r clybiau hyn ar y cyfan yn y sector gwirfoddol. Bydd Llafur yn dal i gefnogi'r clybiau cinio presennol a bydd hefyd yn rhoi cymorth i unrhyw glybiau newydd sy'n dymuno cychwyn. Blocio Gwely Mae hwn yn llwyddiant arall. Byddwn yn dal i gefnogi mesurau i leihau nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, neu blocio gwelyau, yn enwedig ar gyfer oedolion bregus. Ysbytai Sir Gaerfyrddin Bydd Llafur yn ymladd i'r eithaf i gadw'r holl ysbytai presennol yn y Sir ac i gynnal y lefelau o ofal a ddarperir ganddynt. Yn achos Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, bydd Llafur yn gweithio ochr yn ochr â'i AS ac AC i sicrhau bod gwasanaethau meddygol llawn / llawdriniaeth yn cael eu hail-osod, a’u cynnal : yr un modd bydd Llafur yn ceisio adfer yn llawn Adran Ofal ar Frys - cyfartal i statws Ysbyty Dosbarth Cyffredinol llawn. Cynllun Bathodyn Glas Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin tan arweiniad Llafur yn amddiffyn y system parcio am ddim ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas a byddwn yn gwrthwynebu unrhyw ymdrechion i leihau gwasanaethau sydd ar gael i bobl anabl.
21
TAI Cynnal Cymunedau Sir Gaerfyrddin Mae gan Sir Gaerfyrddin o leiaf 5000 o bobl ar y rhestr aros ar gyfer cartrefi Cyngor tra bod cyfanswm o 2000 o dai gwag yn y Sir. Amcangyfrifir hefyd o’r 84,000 o gartrefi yn Sir Gaerfyrddin, mae angen sylw sylweddol ar un chwarter ohonynt ac mae llawer bron yn anaddas i bobl fyw ynddynt. Ar ben hynny, gan fod pobl yn byw'n hwy ac yn hirach, a phlant yn symud allan o gartref y teulu, mae galw ar gartrefi ar gyfer ein dinasyddion ifainc neu ganol oed fel mae llai byth o gartrefi yn dod ar gael i ddefnydd teulu. Bydd cynigion cadarn ac uchelgeisiol yn ofynnol i fodloni'r prinder tai - yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Mae Llafur yn benderfynol o ddilyn polisïau deinamig i ddarparu’r cartrefi ychwanegol sydd eu hangen yn ystod pum mlynedd y Weinyddiaeth newydd yn Sir Gaerfyrddin. Mae 200 o dai cyngor gwag. Mae pethau’n symud yr araf pan fydd pobl yn symud allan ac mae hyn yn gwaethygu'r sefyllfa. Bydd Llafur yn mynd i'r afael â'r mater hwn gan ganolbwyntio ar feysydd lle bo’r angen mwyaf. Bydd Llafur yn ddechrau rhaglen o godi byngalos Cyngor gan gydweithio â Llywodraeth Cymru i geisio cyllid pellach, ochr yn ochr ag arian ei hun, i ddod o hyd i’r cartrefi newydd. Bydd Llafur yn dal i weithio â'r Cymdeithasau Tai i ddarparu tai cost isel yn y Sir. Yn hyn o beth bydd Llafur yn gwneud yn siwr bod y Cyngor yn cydweithio ag unrhyw gontractwyr tai addas yn y sector preifat, i godi cartrefi newydd ar unrhyw dir y Cyngor sy’n addas at y diben hwn. Ni fydd y Cyngor oddef tenantiaid treisiol. Bydd Llafur yn cymryd camau priodol, a droi tenantiaid allan fel mae'r gyfraith yn caniatáu. Bydd angen ar Lafur lefel uchel o dai cost isel i gael eu codi fel rhan o unrhyw ystadau tai newydd. Byddai Llafur yn anelu at gyflawni ffigur 15% o gartrefi cost isel newydd mewn unrhyw ddatblygiadau tai newydd. Bydd Llafur hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gytundebau addas "Adran 106" i gael eu trafod drafod gan y Cyngor Sir, er mwyn cynnwys parciau a chyfleusterau hamdden fel rhan annatod o unrhyw gytundebau adeiladu o'r newydd.
22
ADDYSG GYDOL OES A GWASANAETHAU PLANT Ysgolion Gwell a Chyfleoedd Addysg i Bob Oedran Helpu pawb gyflawni eu potensial o blentyndod i henaint trwy addysg gydol oes yw Blaenoriaeth Allweddol Llafur yn Sir Gaerfyrddin. ’Rydym am weld plant a phobl ifanc yn datblygu ac yn tyfu i fod yn oedolion iach ac yn cael y cyfle i fod yn llwyddiannus yn ein hysgolion a thu hwnt ac i ddatblygu eu galluoedd i'r eithaf. ’Rydym am ddarparu mwy o gyfleoedd trwy ddysgu gydol oes yn y gymuned gyfan i alluogi pob un o'n pobl i ymgymryd â sgiliau newydd, diddordebau newydd, heriau newydd, ac i gymdeithasu a chwrdd â ffrindiau newydd. Mae Llafur yn derbyn bod Sir Gaerfyrddin yn un o'r Siroedd blaenllaw yng Nghymru o ran darpariaeth addysg. Mae'r "Rhaglen Moderneiddio Addysg" wedi chwyldroi addysg yn Sir Gaerfyrddin, ac mae Llafur yn bwriadu parhau â'r gwaith da. Mae dal i fod nifer o adeiladau ysgol sydd tan safon dderbyniol, rhai sy'n dyddio o oes Fictoria, a bydd Llafur yn sicrhau bod y rhaglen o godi adeiladau newydd ac adnewyddu rhai hen adeiladau yn parhau. Mae Llafur yn cefnogi'r egwyddor o Addysg yn cael ei llunio gan Awdurdodau Lleol lle mae Cynghorwyr etholedig, sy’n uniongyrchol yn atebol i'r bobl, yn goruchwylio darpariaeth addysg yn eu hardaloedd, trwy’r Awdurdod Addysg Lleol. Bydd Llafur yn dal i wella safon yr addysgu yn ein hysgolion gyda golwg ar wella cyrhaeddiad cymwysterau disgyblion; bydd Llafur yn cysylltu â chyflogwyr yn y sir er mwyn sicrhau bod ein darpariaeth addysg yn bodloni eu hanghenion yn ogystal ag anghenion a dymuniadau ein pobl ifainc. Pleser mawr i Lafur oedd llwyddiant ysgubol yr Uned Anghenion Arbennig Canolfan Elfed agorwyd yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin, pan gafodd yr ysgol newydd ei chodi yn 2005. ’Rydym yn benderfynol o ddefnyddio’r llwyddiant hwn fel sail i hyrwyddo fonitro a datblygu anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif ffrwd. Mae dewis o addysg nail ai yn y Gymraeg neu yn y Saesneg yn bwysig i Lafur a byddwn yn dal i wneud yn siwr bod plant yn y Sir yn cael y dewis hwn. Mae Llafur yn dymuno cynyddu’r nifer o oedolion sy’n dilyn cyrsiau dysgu ac hyfforddiant galwedigaethol. Ar ôl dod i rym, byddwn yn adolygu'r ddarpariaeth hon. Mae gwasanaethau plant ein Sir wedi ennill clod ar hyd ac ar led ac yn rhywbeth i ymfalchïo ynddynt. Mae Llafur yn bwriadu gwneud yn siwr bod gwasanaethau plant Sir Gaerfyrddin yn dal i fod yn esiampl o arferion da i Lywodraeth Leol yng Nghymru ben baladr. Mewn sir wledig fawr fel Sir Gaerfyrddin, mae nifer o blant yn treulio cyfnodau hir yn teithio i ysgol; mae rhai’n colli brecwast; plant eraill yn dod o gartrefi lle nad oes brecwast i gael. Bydd Llafur yn dal yn driw i gynllun y Blaid Lafur Gymreig o frecwast am ddim a bydd Llafur yn darparu ac yn annog y defnydd o frecwast am ddim yn yr ysgolion hynny nad ydynt eisoes yn cynnig yr opsiwn. Mae Llafur yn pryderu am y niwed y gellir ei achosi gan gam-ddefnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a byddwn yn hyrwyddo defnydd diogel o'r rhyngrwyd yn ein hysgolion o oedran cynnar. Mae Llafur yn croesawu’r rhaglen “Dechrau’n Deg” Llywodraeth Cymru sydd nawr wedi ymestyn yn Sir Gaerfyrddin. Dyma raglen sy'n anelu at wneud gwahaniaeth pendant i fywyd a chyfleoedd plant tan 4 oed. Ble bynnag bosib, bydd Llafur yn ceisio ehangu'r ddarpariaeth yn y Sir.
23
YR HENOED Gofal, urddas ac annibyniaeth i’n pobl hŷn "’Rydym am weld Cymru yn wlad lle mae parch i hawliau ac urddas pobl hŷn yn realiti ymarferol ym mhob rhan o fywyd, lle mae gwahaniaethu ar sail oed yn perthyn i'r gorffennol a lle ceir agwedd gadarnhaol at heneiddio ac at bobl hŷn" Mae'r rhain yn eiriau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: maent hefyd yn cynrychioli nodau ac uchelgeisiau Llafur Sir Gaerfyrddin am bobl hŷn sy'n byw yn ein Sir. Bydd Llafur mewn grym yn Sir Gaerfyrddin yn cymryd camau cadarnhaol i wella lles a ffyniant ein holl ddinasyddion; byddwn yn gwneud ymdrechion penodol ac arbennig ynglŷn â phobl hŷn. Byddwn yn cynnal adolygiad llawn a chynhwysfawr o'r gwasanaethau a ddarperir i bobl hŷn gan y Cyngor Sir yn Sir Gaerfyrddin gyda'r bwriad o gadw gwasanaethau presennol yn fewnol. Bydd yr adolygiad hefyd yn craffu ar ddarparwyr gwasanaethau yn y sector preifat. Byddwn yn ymdrechu i flaenoriaethu adnoddau mewn gofal a gwasanaethau cymdeithasol yr henoed yn ystod ein cyfnod mewn grym. Yn benodol, ’rydym yn cydnabod y peryglon o fod yn ynysig ac felly pwysigrwydd darparu trafnidiaeth a chyfleusterau ar gyfer pobl hŷn er mwyn iddynt gwrdd a chymdeithasu trwy ganolfannau dydd, clybiau cinio a chyfleoedd addysgol. Byddwn yn cydweithio â Llywodraeth Llafur Cymru i atal cau toiledau cyhoeddus yn ein cymunedau. Byddwn yn penodi Cynghorwyr Sir arbennig i gysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned gyda'r bwriad o glywed barn y Gymuned ar sut i wella bywydau ein dinasyddion, yn enwedig yr henoed - a byddwn yn cymryd eu cyngor ar y ffordd orau i symud ymlaen. Byddwn yn gwneud yn siwr bod cydweithio yn digwydd rhwng y Cyngor Sir a'r Bwrdd Iechyd yn arbennig ynglŷn ag anghenion pobl oedrannus. Gyda'n gilydd, byddwn yn ceisio codi ymwybyddiaeth yn y boblogaeth ynglŷn â phob un o'r budddaliadau gwladol sydd ar gael ar gyfer pobl oedrannus. Byddwn yn gwneud yn siwr bod Cynllun presennol Llywodraeth Cymru sef Gostwng Treth y Cyngor i Bensiynwyr yn cael cyhoeddusrwydd eang ledled y Sir a bod cynllun y Blaid Lafur sef teithio am ddim ar gyfer yr henoed, yr anabl a'u gofalwyr yn cael ei hyrwyddo yn yr un modd. 24
TRAFNIDIAETH A PHRIFFYRDD Mae ehangu’r economi yn dibynnu ar ehangu’r System Priffyrdd a Thrafnidiaeth Mae ein cynigion mewn mannau eraill yn y Maniffesto ar gyfer ehangu ein heconomi yn dibynnu ar rwydwaith teithio addas at y diben. Bydd angen cynnal a chadw ar Ffyrdd a phontydd, bydd eisiau datrys problemau penodol, a lle bo hynny'n bosibl bydd angen mesurau gostegu traffig. Mae Llafur yn bwriadu dal at y gyllideb Priffyrdd a Thrafnidiaeth presennol, gan ei chynyddu yn ôl cyfradd chwyddiant RPI yn y blynyddoedd i ddod. Mae ein cynigion penodol o ran trafnidiaeth a phriffyrdd fel a ganlyn. Ffordd Gyswllt Aman GwendraethByddwn yn lobïo am ffordd gyswllt Aman Gwendraeth. Mae'r seilwaith yng nghymoedd Aman Gwendraeth wedi cael ei esgeuluso dros y blynyddoedd a byddai Llafur yn hoff o weld traffig yn llifo’n rhwyddach yn y rhan hon o'n Sir. Ffordd Ddosbarthu Rhydaman Byddwn yn parhau i bwyso am ail gyfnod Ffordd Ddosbarthu Rhydaman, i leddfu traffig o Rydaman a Phenybanc ac i ryddhau’r potensial economaidd a gynigir gan y tir o amgylch Ffordd Osgoi Llandeilo ’Rydym yn pryderu am y lefelau uchel o lygredd a nodwyd yn ddiweddar yng nghanol tref Llandeilo ac ar y tagfeydd difrifol y mae trigolion lleol yn gorfod dioddef. Byddwn yn dal i gefnogi adeiladu Ffordd Osgoi newydd i Landeilo mewn ymgynghoriad llawn gyda phobl yr ardal. Cynnal a Chadw Ffyrdd Bydd Llafur yn blaenoriaethu cynnal a chadw y ffyrdd y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdanynt yn y Sir. Byddwn yn ymgynghori â'r cwmnïau ynni a gwasanaethau cyffelyb i wneud yn siwr bod unrhyw gloddio ffordd angenrheidiol yn cael ei gydlynu er mwyn osgoi unrhyw aflonyddwch diangen ar ein ffyrdd. Graeanu yn y Gaeaf Mae gan y Cyngor hanes rhagorol o graeanu ffyrdd yn ystod misoedd y gaeaf. Hoffem weld honno’n ymestyn i graeanu palmentydd a byddwn yn dal i gydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned i wneud yn siwr bod y graeanu palmentydd yn cael ei wneud ar yr un pryd. Yn arbennig, hoffem weld mwy o graeanu yn digwydd yng nghanol ein trefi ac ar y ffordd i ysgol.
Cynnal a Chadw Pontydd Mae Llafur yn ystyried bod hyn wedi bod yn faes sydd wedi cael ei esgeuluso yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd cyfyngiadau cyllideb ar y Cyngor, ac ’rydym yn bwriadu rhoi blaenoriaeth i raglen gynnal a chadw pontydd ac i gadw arian ac adnoddau ar gyfer hwn. Cynllun Bathodyn Glas Fel y dywedwyd yn ein hadran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, byddwn yn gwrthwynebu unrhyw ymdrechion i leihau neu gael gwared ar barcio am ddim yn y Sir i ddeiliaid Bathodyn Glas - bydd y cynllun hwn yn aros yn ddiogel tan y Blaid Lafur.
25
EIN HAMGYLCHEDD Gwella'r Amgylchedd i Bawb yn y Sir Bydd Llafur yn driw i ynni gwyrdd a pholisïau amgylcheddol cyfeillgar. Byddwn yn dal i ddatblygu a gwella’r polisïau presennol o gydweithio ag awdurdodau cyfagos yn enwedig mewn meysydd fel trafnidiaeth gyhoeddus a rheoli gwastraff. Byddwn yn ceisio i dorri allyriadau carbon. Bydd Cyngor Llafur yn ceisio hyrwyddo dyfodol cynaliadwy i’r Sir gan gynnwys camau i ateb i’r her o sero gwastraff. Byddwn yn gwneud yn siwr y bydd dylunio modern gynaliadwy a thechnolegau ynni effeithlon yn cael ei rhoi ar waith ym mhob adeilad cyhoeddus newydd er mwyn cwrdd â manteision amgylcheddol a chost. Bydd y stoc bresennol yn gweithredu yn unol â thechnolegau cynaliadwy a byddwn yn gwneud yn siwr hefyd bod holl gerbydau ac offer newydd yn defnyddio ynni'n effeithlon. Byddwn yn cefnogi technoleg ynni gwyrdd newydd; bydd Llafur yn edrych yn ofalus ar unrhyw gynigion ar gyfer cynhyrchu ynni newydd gyda golwg ar amddiffyn yr amgylchedd a lles y rhai sy'n byw gerllaw: ’rydym yn arbennig o bryderus am y gormodedd o beilonau trydan yn y Sir ac effaith y rhain ar gefn gwlad, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i leihau faint o drosglwyddo trydan trwy’r awyr yn Sir Gaerfyrddin. Byddwn yn adlewyrchu pryderon y cyhoedd drwy ddychwelyd â gwasanaeth rheoli plâu gan sicrhau amgylchedd diogel i bawb drwy ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd. ’Rydym yn ymwybodol o broblemau pobl oedrannus, yn ogystal ag eraill, wrth waredu eu llestri gwydr. Byddwn yn ystyried y posibilrwydd o gasglu llestri gwydr yn fisol o gartrefi yn uniongyrchol a byddwn hefyd yn ystyried y posibilrwydd o ddychwelyd i ddarparu bagiau sbwriel yn rhad ac am ddim i bob cartref. Mae sbwriel a baw cŵn yn dal i fod yn broblem yn ein Sir. Bydd Llafur yn cynyddu dirwyon am daflu sbwriel ac achosi baw cwn i sefyll i £100; a defnyddio'r cyllid ychwanegol a dderbyniwyd i benodi mwy o Swyddogion Gorfodi ac i gynyddu nifer y patrôls. Mae cyfleusterau ailgylchu rhesymol ac mewn cyrraedd yn bwysig i ddinasyddion ein tref. Byddwn yn ei gwneud yn ofynnol bod mannau adwerthu newydd ac archfarchnadoedd yn darparu mannau lle bydd cyfleusterau ailgylchu y Cyngor ar gael, - yn ychwanegol at yr holl gyfleusterau presennol. Byddwn yn dal gyda'r broses o gydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned, yn ogystal â'r Cyngor Sir wrth raeanu palmentydd yn y gaeaf. Byddwn yn rhoi 26
blaenoriaeth i'r llwybrau i ac o ysgolion, mewn canolfannau pentref a thref, y tu allan i sefydliadau allweddol, ac yn y prif ardaloedd preswyl . Byddwn yn canolbwyntio adnoddau ar Erydu Arfordirol ac ar Atal Llifogydd – dau achos sydd wedi cael eu hesgeuluso yn y blynyddoedd diwethaf. Mae Llafur yn credu na ddylai unrhyw un orfod byw gyda'r pryder cyson bod eu cartrefi mewn perygl o lifogydd. Bydd y Cyngor tan arweiniad Llafur yn gwneud ymdrechion i gydweithio ac i geisio am gyllid, ag Asiantaeth yr Amgylchedd a Dŵr Cymru, i ddiogelu cartrefi rhag llifogydd a gollyngiadau carthffosiaeth. Mae eisiau cynnal a chadw gwell, mwy o amddiffynfeydd rhag llifogydd, a gweithredu cyflymach mewn argyfwng. Byddwn yn ceisio mwy o fuddsoddiad yn y system garthffosiaeth sy'n heneiddio. Mae’n rhaid lleihau’r carthion amrwd sy’n gorlifo allan i arfordir Porth Tywyn a Bae Caerfyrddin, er mwyn i ni ddiogelu ein diwydiant pysgota ac ennill a chadw y baneri glas ar gyfer ein traethau, - ni ddylai unrhyw riant poeni er lles y plant am lendid a diogelwch y môr. Byddwn yn mynnu bod gan unrhyw ddatblygiadau newydd y seilwaith angenrheidiol i atal gorlwytho'r system garthffosiaeth neu gynyddu risg llifogydd i eiddo presennol a bod datblygiadau newydd yn cymryd mwy o garthffosiaeth a dŵr wyneb allan o'r system nag y maent yn ei roi i mewn Yn olaf, er mwyn cefnogi perchnogion ceffylau, byddwn yn sefydlu llwybrau ceffylau newydd ar draws y Sir.
27
DEG RHESWM I BLEIDLEISIO LLAFUR AR FAI 3 ydd Fe fydd Cyngor Sir Caerfyddin Llafur yn: 1. Parhau gyda'n rhaglen i wella addysg ar draws Sir Gaerfyrddin - byddwn yn gwario dros £ 140 miliwn ar ein hysgolion erbyn 2020. 2. Parhau i godi safonau a gwella canlyniadau plant a phobl ifanc mewn addysg, a gwella lefelau llythrennedd a rhifedd ar draws y Sir. 3. Cwblhau'r rhaglen o welliannau i 9,000 Cartrefi Cyngor fel rhan o'r £ 200 + miliwn raglen Safon Tai Sir Gaerfyrddin. Mae gwelliannau i 60% o gartrefi wedi eu cwblhau hyd yn hyn. 4. Gweithio gydag eraill i ennill rhagor o gyllid Ewropeaidd i greu swyddi newydd a chynaliadwy yn Sir Gaerfyrddin 5 Gyngor sy’n gwrando fel y gall pryderon gwirioneddol pobl leol gael sylw. Byddwn yn ail-adfer swyddogion rheoli plâu, cynyddu dirwyon i fynd i'r afael â phroblemau baw cŵn mewn parciau a strydoedd, yn ystyried cyflwyno casglu gwydr wrth ymyl y palmant, ac yn darparu bagiau sbwriel ar garreg y drws 6. Cefnogi cynnydd sylweddol yn y nifer o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn Sir Gaerfyrddin fel rhan o gyllid y Llywodraeth Llafur Cymru o 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu newydd yng Nghymru. 7. Creu prentisiaethau newydd ledled Sir Gaerfyrddin o fewn y Cyngor a thrwy bartneriaeth â'r sector preifat 8. Codi tai gwarchod y Cyngor, gan gynnwys byngalos newydd. 9. Nodi cyfleoedd pellach ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, cynghorau tref a chymuned ac awdurdodau lleol cyfagos 10. Byddwn yn bwriadu defnyddio 'nid er elw' a dulliau cydweithredol o weithio lle nad yw darparu gwasanaethau cyngor lleol yn opsiwn, er mwyn sicrhau bod anghenion a barn ein cymunedau yn dal wrth y llyw.
28