CYLCHLYTHYR AGW
Rhifyn 2
Cylchlythyr AGW
Mehefin 2017 WWW.ARLOESIGWYNEDDWLEDIG.COM
Arloesi Gwynedd Wledig – beth sydd wedi bod yn digwydd? gan Dafydd
Gruffydd, Rheolwr AGW.
Croeso i newyddlen Arloesi Gwynedd Wledig! Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio ar nifer o brosiectau amrywiol. O roi Fitbits ar wartheg i ddarganfod yr haul ym Mlaenau Ffestiniog (fe ddaw pethau’n gliriach wrth i chi ddarllen yn eich blaen!) Fodd bynnag, mae’r pwyslais bob amser wedi bod ar beilota, dysgu a rhannu.
RHIFYN #2
Pwrpas y prosiect yma oedd darganfod os gall statws Awyr Dywyll ddenu twristiaid ychwanegol i'r ardal, yn enwedig y tu allan i'r tymhorau brig. Tyfodd astrodwristiaeth fel sector dros y blynyddoedd diwethaf, yn cael ei yrru’n rhannol gan fwy o sylw ar ragleni teledu e.e. Stargazing Live ar y BBC.
Ers y newyddlen ddiwethaf mae rhai prosiectau wedi dod i ben, gyda gwersi gwerthfawr wedi eu dysgu a’u rhannu. Fel y gwelwch wrth ddarllen y newyddlen yma, mae ganddom nifer o brosiectau diddorol a chyffrous ar y gweill.
Awyr Dywyll Gwynedd: Sut all busnesau elwa'n economaidd o Statws Awyr Dywyll Eryri? Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi derbyn statws Awyr Dywyll sy'n gydnabyddiaeth ryngwladol ar gyfer ardaloedd sy'n nodedig am ansawdd eu nosweithiau serennog. Dim ond 11 lleoliad arall ledled y byd sydd wedi derbyn yr anrhydedd yma gan y Gymdeithas Rhyngwladol Awyr Dywyll.
Llyn Tecwyn Isaf, ©Aaron Warren
Ar ôl trefnu galwad agored, dewiswyd 14 o ddarparwyr llety i gymryd rhan yn y prosiect. Roeddynt i gyd wedi eu lleoli yn y Parc, ac yn awyddus iawn i ddysgu mwy am sut allai’r statws Awyr Dywyll helpu eu busnes.
CYLCHLYTHYR AGW | Rhifyn 2
2
Trefnwyd gweithdy astro-dwristiaeth iddynt ym Mhlas Tan y Bwlch gyda’r cwmni Dark Sky Wales, er mwyn iddynt ddeall mwy am y dynodiad Awyr Dywyll a sut mae’n bosib i fusnesau elwa ohono.
Mae Rhodd Eryri wedi codi dros £3,000
Mae Rhodd Eryri wedi codi dros £3,000 Martin Griffiths ac Allan Trow o Dark Sky Wales
Esboniodd Dark Sky Wales bod digwyddiadau seryddiaeth yn boblogaidd iawn, unai gyda grŵp bach o bobl neu gyda grwpiau mawr. Er mwyn dangos i’r darparwyr llety sut fyddai digwyddiad o’r fath yn gweithio, trefnwyd noson seryddiaeth yng Ngwersyll Llyn Gwynant. Roedd y noson yn llwyddiannus iawn, gyda dros 40 o fusnesau yn bresennol, gyda nifer yn dweud fod o fudd mawr iddynt weld manteision clir o gynal digwydiad eu hunain yn y dyfodol.
(chwith) planetariwm ‘pop-up’yn y digwyddiad awyr dywyll yn Llyn Gwynant.
Ar y noson dywedodd Medwen Edwards, perchennog llety hunanarlwyo Brynweirglodd, “Yn sicr mae angen mwy o
bethau fel hyn i hyrwyddo twristiaeth yng Ngwynedd. Gwneud y mwyaf o beth sydd gennym ni, gan ei bod hi’n dywyll iawn yma.” Mae busnes arall yn barod wedi trefnu digwyddiad tebyg, felly os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y sêr, ewch i Wersyllfa Pant Yr Onnen, Bala ar 29ain o Fedi, tocynnau ar gael yma.
Rhodd Eryri: A fyddai'r rhai sy'n mwynhau Eryri yn barod i wneud cyfraniad bach i amddiffyn yr ardal?
Mae Rhodd Eryri yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda 53 busnes wedi ymuno â’r cynllun hyd yma. Ar ddechrau’r flwyddyn cyflwynwyd siec i Gymdeithas Eryri am £3250. Mae’r arian yma yn mynd i gyllido cwrs achrededig, sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Eryri, sy’n dysgu sgiliau cadwraeth ar y mynydd i bobl ifanc. Cymerwch gip olwg ar y fideo i weld y gwaith maen’t yn ei wneud.
CYLCHLYTHYR AGW | Rhifyn 2
3
Mae busnesau newydd yn ymuno yn aml, ac rydym wrth ein boddau yn clywed eu rhesymau dros wneud. Dyma oedd gan Always Aim High i’w ddweud:
“Mae’r prosiect Rhodd Eryri yn ffordd wych i bawb helpu amddiffyn ein tirwedd naturiol hardd. Mae dyfodol twristiaeth yng Ngogledd Cymru yn dibynnu ar ein meithrin parhaus o’r amgylchedd a’n cymunedau lleol, ac mae’n bleser ganddom ni i fod yn rhan o brosiect fel hyn.” Rydym eisiau i bawb glywed pa mor angerddol ydi’n partneriaid am amddiffyn Eryri. Felly rydym wedi penderfynu gwneud cyfres o ffilmiau byr gyda nifer o’r busnesau, er mwyn iddynt esbonio yn eu geiriau eu hunain pam eu bod wedi ymuno gyda Rhodd Eryri. Cymerwch olwg ar rai ohonynt yma! Yn ddiweddar ymunodd Sw Môr Môn â Rhodd Eryri. Roedd hyn yn adeg gyffrous iawn i’r cynllun gan dyma’r busnes cyntaf sydd wedi ei leoli y tu allan i Parc Eryri. Rydym yn gweld y cam yma yn un positif iawn, gan fod busnesau sydd ar gyrion y Parc nawr yn ysu i gael ymuno. Cymerwch olwg ar y fideo gyda Frankie o’r Sw Môr, i ddeall mwy o’i rhesymau.
Cliciwch yma i weld y fideo
Fitbits Gwartheg - Ydi gwartheg sy’n fwy heini yn rhoi genedigaeth i loi iachach? Yn sicr dyma un o’r prosiectau fwyaf ‘quirky’ i ni weithio ar! Yn ôl ym mis Chwefror, mewn partneriaeth gyda Choleg Fferm Glynllifon, fe roddwyd ‘trackers’, rhwbeth tebyg i fitbit, ar wartheg! Roedd y ‘trackers’ yn cael eu gosod ar ddau grŵp o fuches, un yn cael eu cadw dan do, a’r llall allan. Pwrpas y cynllun ydi gweld os yw gwartheg sydd wedi cael eu cadw allan yn fwy iach na gwartheg sydd wedi bod i mewn am y gaeaf, ac os ydynt yn cael llai o drafferth wrth geni llo.
Mi wnaeth y cynllun yma ddal sylw nifer iawn o bobl, gyda’r wasg yn cymryd diddordeb mawr. Bu’r rhaglen Ffermio yn y coleg yn ffilmio, a darlledwyd Radio Cymru yn fyw o’r cae! Yn ogystal â threialu’r ‘trackers’ sydd yn dechnoleg newydd yn y byd amaethyddol, bu i ni gymryd y cyfle yma i geisio annog mwy o ddiddordeb mewn treialu technoleg digidol yn y byd amaethyddol. Cynhaliwyd dwy sesiwn gyda siaradwyr gwadd, un yn arbenigo mewn ffermio llaeth, a’r ail mewn defnyddio ‘drones’. Roedd y sesiynau yn ddiddorol iawn, gyda syniadau am brosiectau i’r dyfodol yn dod i law.
CYLCHLYTHYR AGW | Rhifyn 2
4
Ymgeisydd arall ydi Shoned Owen, sefydlydd y cwmni TANya WHITEbits, gwasanaeth chwistrellu lliw haul proffesiynol a mŵs hunan-liw haul. Roedd y benthyciad ar gyfer ail frandio y chynnyrch ac er mwyn arddangos y cwmni yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Frenhinol Cymru a Sioe Môn. Mae nifer o’r busnesau sydd wedi cael benthyciad gan Be Nesa yn y gorffennol wedi parhau i dyfu a llwyddo. Bu i Shari Pollitt, sy’n rhedeg busnes ffitrwydd dawnsio o’r enw ‘Booty and the Beats’ dderbyn benthyciad gan Be Nesa yn 2015, ac yn ddiweddar enillodd Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn Gwynedd gan Ffederasiwn Y Busnesau Bach.
Cysawd Eryri - Allwn ni ysbrydoli pawb i gymryd rhan yn y statws Awyr Dywyll? Ar y cyd gyda Chronfa Eryri, dros y misoedd nesaf byddwn yn croesawu Cysawd yr Haul i Eryri, gan osod planedau mewn caffis, bwytai a siopau gan leoli'r Haul yn Blaenau Ffestiniog, un o drefi gwlypaf Cymru! Byddwn yn cydweithio gydag artistiaid, ysgolion cynradd a busnesau er mwyn creu Cysawd Eryri. Y nod ydi amlygu dynodiad Eryri fel Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol a meithrin diddordeb mewn seryddiaeth. Tanya Whitebits: wedi derbyn cymorth drwy Be Nesa Llŷn.
Be Nesa Llŷn – A oes modelau buddsoddi amgen a all gadw arian yn yr economi leol? Dyma un o’n prosiectau cyntaf, ac mae’n parhau i fynd o nerth i nerth! Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae £23,000 wedi cael ei fenthyg i entrepreneuriaid ifanc yn ardal Pen Llŷn. Un o’r ymgeiswyr fwyaf diweddar ydi cwmni o’r enw Llyn Sundecks, sef cwmni sy’n arbenigo mewn deciau carafanau sefydlog. Wedi eu sefydlu ers 2014 gan 2 frawd, Darren a Dion Morley, roeddynt eisiau benthyciad i brynu fan a lli newydd. Drwy osod planedau o amgylch y Parc, byddwn yn creu llwybr rhyngblanedol i bobl ei ddilyn. Ym mhob safle bydd cyfle i ddysgu mwy am y blaned arbennig honno a dod i werthfawrogi maint cymhareb Cysawd yr Haul. Byddwn hefyd yn annog pobl i ymweld ag ardaloedd newydd o fewn y Parc.
CYLCHLYTHYR AGW | Rhifyn 2
5
Yn ogystal â chefnogi ymgyrch farchnata a chynhyrchu ffilm hyrwyddo, fe wnaeth Arloesi Gwynedd Wledig hefyd werthuso llwyddiant y dull gweithredu a chreu ffilm o’r broses. Bydd hyn yn llywio prosiectau yn y dyfodol ac yn cael ei rannu gydag eraill yng Ngwynedd sydd â diddordeb mewn rhedeg eu hymgyrchoedd Cyllid Torfol eu hunain. Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am fusnesau sydd ar agor i’r cyhoedd i fod yn rhan o’r prosiect! Mae angen lleoliadau yn y pentrefi canlynol: Maentwrog, Beddgelert, Penrhyndeudraeth, Trawsfynydd, Harlech, Bala, Llanberis, Bethesda, Abermaw, Dolgellau, Dinas Mawddwy a Thywyn. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Cyllid Torfol - Ydi Cyllid Torfol yn ffordd effeithiol o godi arian ar gyfer prosiectau cymunedol yng Ngwynedd? Mae’r prosiect yma’n ceisio addysgu cymunedau ar draws Gwynedd o beth dylid ystyried wrth ddefnyddio Cyllid Torfol fel ffordd o godi arian.
Yr ail brosiect Cyllid Torfol rydym yn cefnogi ar hyn o bryd ydi’r prosiect Llety Arall yng Nghaernarfon. Mae’r prosiect yma eisiau codi arian er mwyn prynu ac addasu adeilad yng Nghaernarfon a’i droi yn westy ac yn le cyfarfod. Bydd yn targedu pobl sydd eisiau dysgu mwy am iaith a threftadaeth y dre a’r ardal gyfagos. Byddwn yn cefnogi’r ymgyrch farchnata, sydd yn rhan hanfodol o unrhyw brosiect cyllid torfol, drwy gomisiynu ffilm hyrwyddo.
Rydym eisoes wedi cydweithio ar ymgyrch Cyllid Torfol i godi arian ar gyfer dau gynllun ynni hydro cymunedol. Mae Ynni Ogwen ac Ynni Padarn Peris wedi penderfynu codi arian ar gyfer eu prosiectau trwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol.
CYLCHLYTHYR AGW | Rhifyn 2
6
FOR MORE INFORMATION:
ARLOESI GWYNEDD WLEDIG:
Want to know more about Arloesi Gwynedd Wledig? Click on the following documents: www.arloesigwyneddwledig.com
https://www.facebook.com/ArloesiGwyneddWledig/
https://twitter.com/arloesigwynedd
www.youtube.com/channel/UCvaOsrGsUqfx9JQ45oVBzGg
What is LEADER Gwynedd AGW Specific Objectives AGW Eligibility Criteria
Have an idea you think AGW should pilot? Complete this Enquiry Form. Click on the following links for further info:
Rural Development Programme for Wales 20142020 Rural Community Development Fund