CROESO I RHIFY N 6 MERCHED YN GWNEUD MIWSIG! Wedi’i guradu gan Katie CHROMA, felly dechreuwn fel yr arfer a dechrau gyda Elan yn holi...Katie CHROMA Fel merch ifanc yn tyfu fyny yn y cymoedd, oeddet ti'n clywed neu'n gweld lot o ferched yn perfformio mewn gigs yn dy ardal di? O’n i ddim yn mynd i lot o gigs lleol pan o’n i’n ifanc really. Ond fi yn cofio Paramore yn chware Full Ponty House yn 2007. O’n i’n 11 (rhy ifanc i fynd i’r gig), a fi’n cofio gwylio fe ar y teledu gyda brodyr fi. Roedd y profiad o weld Hayley Williams ar lwyddan ym Mharc Ynys Angharad yn drawsnewidiol. Nath e brofi i fi bod e’n bosib i ferched bodoli ar lwyfan yn neud y math yna o gerddoriaeth. Roedd brodyr fi yn meddwl bod hi’n cŵl, ac o’n i’n hollol obsesed gyda hi. Wrth edrych yn ôl, fi’n meddwl nath gweld hwn yn digwydd ar stepen drws neud fi moen perfformio mewn band. Roedd miwsig i fi yn ffordd o deimlo’n obeithiol, a chysylltu â byd arall. Beth oedd dy ddylanwadau mwya’ yn tyfu lan a dy brif ddylanwadau di nawr? BLONDIE. O’n i’n caru Debbie Harry. Roedd gen i copy o Parallel Lines oedd yn freebie o bapur newydd neu gylchgrawn. O’n i hefyd yn ffan mawr o Amy Winhouse. Fi’n cofio gwisgo lan fel hi a neud i mam fynd a fi i i Britain’s Got Talen… Fi’n credu o’n i’n blwyddyn 8. Roedd dyfnder cerddoriaeth hi, ac o’n i’n hoffi’r ffaith bod hi’n gantores Jazz ond hefyd mor pync. Erbyn heddiw fi’n cael fy nylanwadu gan amrywiaeth o artistiaid, fi’n cael fy tynnWu mewn gan artistiaid sy’n unigryw a sydd gyda edge. Hoff pop star fi ar hyn o bryd yw FKA Twigs. Fi hefyd yn caru bands fel IDLES a Fountain’s DC. Pam bod creu cerddoriaeth mor bwysig i ti nawr? Mae ‘sgwennu caneuon a chreu cerddoriaeth yn broses cathartig i fi. Fi’n gweld caneuon fel darnau bach o gelf sy’n dweud stori neu ffordd i grynhoi teimlad o fewn 3-5 munud. Ma’ lot o caneuon CHROMA am brofiadau personol, a fi’n trio bod yn onest a meddylgar am y negeseuon tu ôl i’r geiriau. Yn wahanol i farddoniaeth mae pobl yn rhoi ystyr eu hunan ar lyrics. Felly fi’n neud yn siŵr bod lyrics fi yn ddigon agored i alluogi pobl wneud hwnna. Y teimlad gorau yn y byd fel songwriter yw pan ma’ pobl yn dod lan i ti a dweud bod can ti wedi helpu nhw trwy gyfnod anodd. Neu bod nhw’n chwarae cerddoriaeth chi yn y gym achos mae’n neud i nhw deimlo’n bwerus.
Sôn chydig i ni am gerddoriaeth newydd CHROMA a’r ysbrydoliaeth tu ôl y caneuon? ‘Weithiau’ a ‘Caru. Cyffuriau.’ yw’r sengl cyntaf o EP ni’n gobeithio rhyddhau yn yr Haf. Ni byth di rhyddhau corff o waith sy’n gwbl Gymraeg o’r blaen. Y bwriad oedd creu rhywbeth oedd yn dathlu hunaniaeth ni fel pobl dosbarth gweithiol o’r cymoedd. Rydyn ni’n lwcus iawn cael gweithio gyda Meg Winstone ar y gwaith celf. O’n i moen creu rhwbeth sydd yn dathlu y dosbarth gweithiol, dathlu ysbryd y cymoedd ond hefyd yn hollol glamorous. Mae ‘Caru.Cyffuriau.’ yn gan pync, i fod yn hollol onesd o’n i moen creu cân oedd gyda sex appeal, yn Gymraeg ac yn mynd i pissio’r Karen’s off. Ar yr ochr arall, mae weithiau yn gân am ddiwedd perthynas. Fi byth wedi ‘sgwennu’r math yma o gân o’r blaen, a dath e jyst mas o fi. O’n i dal mewn perthynas pan nes i ddechrau ‘sgwennu’r gân… fi bellach ddim. Roedd e’n brofiad od, fel petai oedd isymwybod fi yn danfon neges neu rywbeth. Pam wyt ti wedi dewis y menywod yma yn dy zine di? Os o’n i ar ‘Love Island’, fi’n meddwl byswn i’n cael fy disgrifio fel ‘Girls, girl’. A fi’n meddwl yn y byd cerddoriaeth pan ti’n gweithio gyda lot o ddynion ti’n naturiol yn neud lot o ffrindiau sy’n ferched sy’n creu ac ar yr un ‘wave lengh’ a fi. Fi’n really edmygu pawb sydd yn y zine. A fi moen dathlu lleisiau nhw. Beth hoffet ti weld yn newid yng Nghymru yn y sîn gerddoriaeth? Fi’n gobeithio neuth pobl stopio siarad am “Cŵl Cymru 2.0”. Mae’n neud i fi crinjo gymaint. Os ydyn ni moen mwy o gyfleoedd i artistiaid Cymraeg torri mewn i’r ‘mainstream’, ma’ rhaid ni symud ‘mlaen o fe. Mae tirlun y byd cerddoriaeth wedi newid gymaint ers y 90au galle’n ni just galw e’n rhwbeth arall. Hoffe’n i weld artist Cymraeg cyfoes(sydd o dan 40 oed) ar un o lwyfannau mawr Glastonbury.
2-5
KATIE CHROMA
6-7
PRIYA HALL
8-9
MEGAN WINSTONE
10 - 11
GWYNON MAIR
12 - 13
ALAW GRIFFITHS
14 - 17
TORRI + GLUDO
18 - 19
JESS HEAP
20 - 21
HANNAH TOTTLE
22 - 23
JESS BALL
24
CYDNABYDDIAETHAU
Mae Weithiau yn gân am orffen perthynas gyda rhywun ti’n caru. A’r proses o ddod i ddeall bod pethau ddim yn gweithio. Mae am roi dy hun gyntaf.
“
C
o
m
e
d
i
w
r
a
i
g
”
Dwi’n obsessed ‘da’r moniker Comediwraig. Mae’n dated a sexist ond mae’n ddoniol. Mae’n awgrymu bod menywod sy’n gwneud comedi yn briod i’r lifestyle ac i fod yn onest, mae’n spot on. Does dim lle i unrhywbeth arall yn ein bywyd ond am jokes a carshares pedwar awr i gigs. Mae bod yn fenyw sy’n gwneud comedi bach fel gweithio mewn trampoline park - odds are mae’n mynd i bennu mewn anaf ond mae’n hwyl tra bod e’n para’. Fi wedi bod yn comediwr ers 2018 a fi’n caru e. Trwy comedi fi wedi cwrdd a sawl arwr, gweithio ar dream projects, a gwneud ffrindiau am byth. Dechreuais i wneud comedi ar ôl recovery o sbel o iechyd meddwl gwael a defnyddiais i e fel hobi - rheswm i adael y tŷ a cael hit o dopamine trwy perfformio. ‘Dwi nawr yn gaeth i’r dopamime hit ‘na, so oops a daisy. Ma’ chasio’r dopamine hit yna wedi arwain i at wneud comedi ar deledu, radio, ac o flaen cynulleidfaoedd o filoedd. Mae gwneud stand up yn meddwl bo’ fi wedi gweld pob cornel o’r DU, sy’n cynnwys y rhai sydd ddim yn keen ar fy jokes (what’s up, Surrey?). Ond y peth gore am wneud comedi, yw’r cyfle i gwrdd a nifer fawr o comediwraigs eraill - menywod eraill sydd wedi dewis gwneud y gyrfa yma. Fi’n meddwl mae’n cymryd rhyw fath o fenyw anarferol i eisiau neud comedi (a dwi’n cyfri fy hun yn hyn) a fi’n caru ffeindio y menywod yma a gorfodi nhw i fod yn fy ffrind. Mae gwneud comedi fel rhywun sydd ddim yn dyn cis hetero gwyn yn aml yn brofiad stressful ac ynysol - ond mae’r influx o berfformwyr tu allan o’r bocs yna yn meddwl bod yna rhwydwaith o bobl doniol, caredig sy’n ymwybodol o ba mor rhyfedd yw bywyd comediwr. Mae’r sîn Comedi Cymraeg yn llawn comediwr ffantastig sydd DDIM yn cis/gwyn/dynion/hetero. Mae sawl ohonyn nhw yn y pethau yna, a does dim problem gyda hynnu, ond mae’n bwysig bod lleisiau erail yn gallu dod trwyddo. Ni mewn cyfnod hynod o gyffrous lle mae’r sîn yn cael ei gydnabod dros y DU - a’r pobl diddorol efo straeon newydd sy’n cael ei cynabod. Pobl fel Kiri Pritchard-MClean, Leila Navabi, Eleri Morgan, Cerys Bradley, Esyllt Sears, a mwy a mwy a mwy. Pobl efo rhywbeth diddorol i ddweud, a sy’n croesawi mwy a mwy o bobl mewn i gynulleidfaoedd comedi trwy apelio at bobl tu allan o’r grŵp “straight white male” sydd wedi cael monopoli ar y diwylliant tanawr. Mae’n gyfnod o dyfiant enfawr, yn enwedig yng Nghymru, a dwi’n annog unrhywun sy’n meddwl am dechrau comedi i ddechrau NAWR achos fi moen bod yn ffrind i ti.
PRIYA HALL
Mae’r ffotograffydd Megan Winstone yn defnyddio diwylliant pync a theori ffeministaidd yn chwareus i ddileu disgwyliadau cymdeithasol a delweddaeth corff negyddol. Mae ei gwaith wedi tynnu sylw at ei threftadaeth Gymreig, gan arwain at gydweithio â Dr. Martens, Stella McCartney, The Face, Vogue a llawer mwy. Mae’n cael ei chydnabod fel “It Girl” gan cylchgrawn W ac wedi derbyn gwobr “New Wave Creatives 2020” gan y Cyngor Ffasiwn Prydeinig. Gellir dod o hyd i Megan hefyd yn perfformio o flaen y camera mewn fideos cerddoriaeth i artistiaid fel Sam Smith ac Adam Lambert.
MEGAN WINSTONE
GWYNON MAIR
Mae Gwynon wedi bod yn creu straeon ar ffurf sdribedi comic ar gyfer ffrindiau a’i thudalen Instagram ers 2018. Ei nod, fel arfer, yw i fod ychydig yn sili, ychydig yn sych, codi calon a falle hyd yn oed ‘neud rhywun i chwerthin (ond siŵr o fod ddim mas yn uchel). Mae’r cymeriad Greta fod fel ti, fi, neu unrhyw un. Mae’r sdribedi amdani yn portreadu ein meddyliau preifat, sydd ddim yn ddwys na chwaith gwerth cael sgwrs amdanynt. Ond rhywsut mae nhw’n gwneud comics bach difyr.
ALAW GRIFFITHS
TORRI + GLUDO
Mae Torri + Gludo (Cadi Dafydd Jones) yn animeiddwraig, dylunydd graffeg ac artist gludlunio o Gaerdydd sy’n arbrofi efo lot o liw ac elfennau swreal i greu darnau tafod yn y boch. Dechreuodd y gwaith gludlunio fel hobi yn ystod y cyfnod clo, tyfodd yr obsesiwn ac erbyn heddiw mae ganddi nifer o gleientiaid llawrydd yn creu fideos cerddoriaeth, hysbysebion teledu, gwaith gwaith celf i bodlediadau a mwy o gynnwys tebyg. Mae’n rili mwynhau defnyddio elfennau gludlunio mewn ffyrdd anarferol efo ychydig o hiwmor fel ffordd o ymdopi efo’r digwyddiadau gwallgof sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae lot o’i gwaith hefyd yn rhoi sylw i’r pethau cyffredin, o ddydd i ddydd a ‘dating woes' hi a’i ffrindiau - mae lot ohonyn nhw! Dyma ddarnau mwy diweddar sy’n ymateb i thema’r zine hon sef riot grrrl. Roedd Cadi eisiau creu rhywbeth oedd hefyd yn ymateb i’r batriarchaeth a’r golwg ar ferched (‘male gaze') gan gymryd ysbrydoliaeth gan artistiaid fel Sarah Lucas.
Ystyr riot grrrl: Mae riot grrrl yn fudiad pync ffeministaidd tanddaearol a ddechreuodd yn ystod y 90au cynnar yn yr Unol Daleithiau ac sydd wedi ehangui o leiaf 26 o wledydd eraill. Mae riot grrrl yn fudiad is-ddiwylliannol sy’n cyfuno ffeministiaeth, cerddoriaeth pync a gwleidyddiaeth.
JESS HEAP
Fi’n gwbod o edrych ar instagram ti, bo’ ti ar hyn o bryd yn astudio peirianneg sain yn Abbey Road Studio. Pryd nath dy ddiddordeb di mewn sain a peirianneg ddechrau? Fi wastad wedi mwynhau gwylio cerddoriaeth byw, ac yn wreiddiol o’n i moen bod yn technegydd sain cerddoriaeth byw. Nes i astudio robotics yng Nghaerdydd a nes i neud ymchwil mewn i os bod ‘da gwenyn acenion (ma’ ‘da nhw acenion!). Felly, i lenwi’r gap cerddoriaeth, nes i ymuno â sawl clwb a rhaglenni gwahanol. Nes i ymuno â rhai gorsafoedd radio lleol yng Nghymru (Radio Platfform a Xpress) a ymuno â’r Young Promoters Network. Nes i drio dysgu gymaint ag o’n i gallu, ac ar ôl symud nol i Lundain, o’n i moen parhau gyda’r dysgu. O’n i’n ddigon lwcus i allu astudio Peirianneg Sain a Cynhyrchu Cerddoriaeth yn yr Abbey Road Institute. O safbwynt bod yn beiriannydd sain, wyt ti’n hoffi neud sain byw hefyd? Fi’n caru gwaith cynhyrchu a cerddoriaeth byw. Fi’n ffeindio bo’ fi gallu bod lot mwy arbrofol mewn stiwdio, ble does dim cyfyngiadau amser a ma’r offer i gyd yna o dy flaen di. Ond, mae’r sialens o dim ond gallu defnyddio beth sydd o flaen ti mewn sefyllfa byw yn lot o hwyl, a mae’n dod a dy ochr technegol allan. Ni gyd wedi bod mewn gig ble mae’r sain byw ddim yn iawn, a mae’n sticio allan pan mae’n anghywir. Felly ma’ cymryd rhan mewn rhywbeth lle mae’n neud gwahaniaeth yn gyffrous iawn. I unrhywun sydd â diddordeb bod yn beiriannydd sain neu bod yn gynhyrchydd sain, ble dylse nhw ddechrau? Fi’n meddwl bod yna sawl llwybr lle gall rhywun ddechrau, ond y peth pwyscia’ i gofio yw dylsech chi ddim gadael i rhwystrau bach fod yn y ffordd. Ma’ trio am swydd wastad werth y risg, achos y Peth gwaetha’ sy’n gallu digwydd yw bod nhw’n dweud ‘na’. Jyst achos bod rhai bobl lot o offer outboard neu plugins, dyw e ddim yn meddwl bo’ nhw’n gwbod sut i ddef-
nyddio nhw. Trwy’r cyfnod clo’ o’n i’n recordio bands dros Zoom. Roedd yr holl synnau o’n i’n creu yn dod o rownd y tŷ ac yn y pendraw, nes i ddysgu sut i tiwnio a recordio’r bath a pa rhan o cas CD sy’n gwneud sŵn fel cymbal. Felly, os wyt ti’n gwbod sut i ddefnyddio kit ti (er enghraifft laptop gyda Pro Tools arno fe), wedyn does ‘da ti ddim byd i golli. Byse’n i hefyd yn dweud bod y peth cynta’ ti’n creu neu gynhyrchu, byth yn mynd i swnnio fel Brian Eno, a falle ar ôl amser ac ymarfer bydd e ddim. Ond mae hwn yn beth da, achos dylse ti fod yn creu marcie cynhyrchu ti dy hunan a dysgu am gwaith ti dy hunan hefyd. Pa artist byse ti’n hoffi cal y cyfle i gynhyrchu a pam? Byse’n i’n caru cynhyrchu a mixo Genesis Owusu. Mae’n swnnio mor textured a distorted, a ti byth yn gwbod be ti mynd i gael nesa’. Fi hefyd yn caru’r ffordd bod y llais wedi cal ‘i mixo’n Eitha isel er mwyn siwtio’r offerynniaeth. O safbwynt personol fel menyw sy’n creu cerddoriaeth, fi dim ond wedi dod ar draws un technegydd benywaidd, a fi wedi ffeindio fe’n anodd ffeindio cynhyrchydd benywaidd hefyd sy’n arbenigo yn y math o gerddoriaeth fi’n chwarae. Beth wyt ti’n meddwl yw’r prif sialensau i fenywod sy’n gweithio yn y byd sain a cerddoriaeth ar hyn o bryd? Fi’n meddwl weithiau bo’ ni’n cael ein beirniadu am fod yn ein maes penodol ni, er bod e ddim yn adlewyrchiad o’n sgil. Yn anffodus, ar hyn o bryd, mae’n rhaid i fenywod weithio dwy waith mwy caled fel bo’ ni ddim yn cael ein beirniadu. Ond fi yn gweld newid mewn pobl, a gobeithio yn y pendraw, bydd dim gymaint o sialensau i ni. Nathon ni gwrdd sawl blwyddyn yn ôl nawr yng Ngŵyl Sŵn - pwy yw dy hoff artistiaid benywaidd Cymraeg ar hyn o bryd? Mae’n rhaid i fi sôn am un o fy hoff fandiau i, CHROMA. A’r tri arall byse - Stealing Sheep, Adwaith a Kizzy Crawford.
HANNAH TOTTLE Mae’n teimlo’n addas bod fy niddordeb mewn ffotograffiaeth wedi dod yn ystod y gwyliau ges i’r 2il generation iPod Touch ar ôl safio arian fi am flwyddyn. Lluniau low-res o’r môr gyda dyfyniadau wanky wedi’u pastio ar ei ben yn ffont Birdy ‘Skinny Love’. A dyna ddechrau carwriaeth gydol oes ymhlith y blogs Tumblr — y dyfyniadau Fiji Water/Marina Damandis/ Bubblegrunge, yn ogystal â adlewyrchiad trawiadol o sut rwy’n cael bodoli mewn sîn wedi’u ddomineiddio gan dynion. Tra bod athrawon a YouTube a theganau McDonalds a’r adran tech-trwm o deganau bechgyn yng nghatalog Argos, oedd yn bugeilio fy nghyd-ddynion tuag at y llwybr yno, ond clout digidol soft-grunge oedd fy mhrif anogaeth i.
cymryd, ac yn parhau i’w cymryd, i ddilyn trywydd ffotograffiaeth gig. Odd e’n llwyr dibynnu ar faint o brofiad o’n i gallu cael wrth gychwyn allan, a hefyd faint o arian y gallwn ei wario fel myfyriwr dosbarth gweithiol ar Uber gartref o’r digwyddiad, sydd yn risg ynddo’i hun. Neu, faint y gallwn i wthio o’m mhen yr ofny n - d y - s t u m o g - c i p o l wg - d r o s - d y - y s g w y d d danfon-dy-leoliad-i-ffrind-panig wrth gerdded adref. Wedyn, mae’r gigs eu hunain, lle mae misogyny-mewnol yn ymddangos yn ei holl ogoniant hyll. Pam ydw i’n rhoi fy hun yng nghanol torf o ddieithriaid? Fi’n hollol sicr byse fe heb neud y sylw yna i ffotograffydd
Yn wreiddiol, o’n i'n rhagweld y byddai'r darn yma yn rhyw fath o lythyr cariad i'r femme-gaze, ond y mwya’ o’n i’n meddwl am beth mae’n ei olygu, y mwya’ pissed-off o’n i, am faint mae'n costio. Fi wir yn caru'r hyn fi wedi llwyddo gwneud yn fy swydd; felly mi fydd hwn dal i fod yn rhyw fath o lythr cariad. Dydw i erioed wedi gallu teimlo lle rydw i'n ffitio i mewn i'r byd na beth ddylwn i fod yn ei wneud, felly mae gosod fy hun yng nghanol popeth gyda camera i ddal angerdd, llawenydd ac enaid pobl, yw’r agosa’ fi wedi cyrraedd hyd yn hyn. Ond yn fy marn i, mae'r darnau yna sy’n cal ‘i bostio ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn Gwneud mwy o ddrwg nag o les. Ar yr un llaw, sai’n meddwl nes i weld ffotograffydd benywaidd tan o’n i’n 17 mlwydd oed. Pe bawn i wedi gweld bod ffotograffiaeth yn opsiwn go Iawn i fi, falle byse’r teimlad o ‘imposter syndrome’ yn fwystfil haws i’w ddofi. Ond ar y llaw arall, tra bod y rhestrau ‘edrych! rydyn ni’n cyflogi merched!’ yn codi ymwybyddiaeth, dyna’r cyfan maen nhw’n ei wneud. Iawn, felly rydyn ni’n ymwybodol o hyn... ond beth nawr? Mae’n cynnig pat ar y cefn, ond dyw e prin yn crafu wyneb y rhywiaeth rhemp sydd wedi’i wreiddio wrth wraidd y diwydiant, heb sôn am gynnig y camau sydd ei angen i ddelio a’r sefyllfa. Yn ystod yr wythnosau erchyll llofruddiaeth Sarah Everard, nath e darro fi’r risgiau fi wedi
gwrywaidd. Ond, ydw i’n gor-ymateb? Pam bod e wedi effeithio fi gymaint, bo’ nhw wedi cymryd e’n ganiataol bo’ fi’n edrych am yr ardal ‘meet and greet’ a ddim yn gweithio? Mae’n wir mai dim ond pobl femme a phobl anneuaidd sydd gyda’r hanesion o orfod profi ar y drws bod ni yna i dynnu lluniau, neu dadlau gyda’r pobl diogelwch tra bod y gig wedi cychwyn a ni fod bod yn y pit. Ond ife cyd-ddigwyddiad yw hwn? Fi’n siŵr bod rhywun newydd gropio fi, ond falle mae damwain oedd e a fi’n bod yn paranoid? Falle, falle, falle. Wedyn ma’r ysglyfaethwyr sydd yn y diwydiant, y dynion meddw mewn gigs, y DMs gross, y mansplaining, y straeon arswyd gan models sydd wedi saethu gyda creeps, a’r diffyg cydnabyddiaeth am hyn i gyd ... i enwi ond ychydig.
Ond, mae’r blaenoriaethu cysur a mewnbwn pwy bynnag chi’n gweithio gyda achos bod chi wedi arfer cadw llygaid ar yr hyn mae pawb yn ei wneud a sut maen nhw’n teimlo. Dal yr eiliadau mwyaf cynnil, didwyll oherwydd bod chi’n hynod o ymwybodol o faint o le rydych chi’n ei gymryd ac yn cadw at arsylwi yn hytrach nag ymwthio. Cysylltu â’ch pwnc a chrynhoi yn eu portread beth yn union y mae’n ei olygu i fod yn nhw, oherwydd eich rôl chi yw bod y ffoil yn y sefyllfa yna. Archwilio gweithred y prosiect o bob ongl bosib gan mae dyma sy’n cael ei ddisgwyl gan chi - i ofyn y cwestiynau a chymryd y diddordeb. Mynd yn galed yn y cyfnod ymchwil gan bo’ chi heb cael y profiad o gael eich credu
wrth ddatgan ffaith, neu bod angen ategu pob modfedd o farn sydd gennych gyda gair rhywun arall. Mynd gam ymhellach gyda chysyniadau a gweithio ddwywaith mor galed i gael eich cymryd o ddifrif, ond cyflawni darn o waith gwirioneddol wreiddiol o ganlyniad. Yr undod dilafar ag eraill tu ôl ac ar lwyfan sydd mewn sefyllfa tebyg, y gwthio trwodd, y diyness o’r holl beth. Diolch byth bo’ fi erioed wedi mwynhau cymryd yr opsiynau hawdd. Hannah Nicholson-Tottle (25, She/They)
Pa artist neu gân Nath ysbrydoli ti i bigo lan offeryn a dechrau creu cerddoriaeth? Odd e’n gyfuniad o’r ddau. Nes i dyfu lan ar aelwyd odd yn caru cerddoriaeth, felly odd e o gwmpas fi ers yn fach. Roedd dad yn gerddor ei hunan, ac odd e’n gwrando ar llwyth o gerddoriaeth gwahanol iawn gyda’r sŵn lan yn uchel bob tro. Pan o’n i’n 13, nes i ddechre pori trwy records vinyl mam a’i phartner, Louise. Fi’n cofio cael fy syfrdannu gan Joni Mitchel, Melanie a Bjork. Wrth edrych nol, am le dda i ddechrau! Nath hwnna wedyn fy ysbrydoli i bigo lan hen gitar acwstig Louise a dyna ddechre ar fy angerdd gydol oes i fi. Y gân gynta’ nes i ddysgu oedd ‘Amazing Grace’ sy’n eitha’ doniol i fi.
Be odd e fel symud o De Affrica i Wrecsam? A be’ oedd y sîn cerddorol fel draw yna? Odd e fel symud i blaned arall haha! I ddechrau, mae’n rhaid delio gyda symud o hemisffer y de, i hemisffer y gogledd… Mae’r tymhorau y ffordd aralla mae’n mynd yn oer Iawn i gymharu! Ond dyma un o’r pethau gorau nes i. Odd landio yn Wrecsam yn fendith random Iawn, a odd y sîn gerddorol yn Wrecsam yn cocwn berffaith i fi yn gerddorol. Fi wedi cal y profiad o allu chwarae gyda gymaint o gerddorion a bandiau o wahanol genres, heb y pwysau neu’r gystadleuaeth o ddinas mawr. Mae Wrecsam yn ffenomen greadigol ac mae ‘da fi bopeth i ddiolch amdano.
Pa gig yw dy Hoff un di? Ble oedd e, a pam bod e’n aros yn y cof? Cwestiwn anodd! Un o’r gigs sy’n aros yn fy nghof, oedd pan o’n i’n ddigon lwcus i allu chwarae mewn gŵyl o’r enw Devilstone yn Lithuania. Fi’n credu odd yr holl drip yn fythgofiadwy. Roedd rhaid i ni hedfan mewn i Latvia a gyrru dros yr holl wlad i gyrraedd yna. Odd e’n brofiad anhygoel. A odd y gynulleidfa yn hollol anhygoel hefyd! Fi’n cofio gweld llun anferthol o fy ngwyneb i ar ochr ffens a o’n i’n teimlo fel celebrity! Odd e mor surreal. Na’i fyth anghofior croeso ges i gan y bobl yna hefyd — byse’n i wrth fy modd mynd nol yna un diwrnod.
Ti mewn dau fand, ac yn rhedeg cwmni dy hunan ‘Juniper Clothing’ sut wyt ti’n llwyddo i neud hyn i gyd? Falle bydd rhaid i ni ail edrych ar y cwestiwn yma, achos sai’n meddwl bo’ fi’n llwyddo i neud pob dim ar hyn o bryd haha! Ond i fod yn onesd, dyw e ddim caletach na pan o’n i’n gweithio’n llawn amser. Y gwahaniaeth fwyaf yw’r ffaith bo’ fi ddim angen delio gyda trefnu gwyliau neu amserlen gwaith. Mae wedi bod yn freuddwyd i fi ers erioed i allu gweithio i fy hunan, felly fi nawr gallu trefnu fy amser i neud cerddoriaeth a mynd ar daith. Ma’ swyddi cyffredin yn mynd yn y ffordd o bethau fel hyn! Fi ar hyn o bryd mor hapus bod busnes fi’n neud yn dda, ond mae’n dechre effeithio ar fy amser yn y byd cerddoriaeth nawr… felly fi angen sortio hwnna’n fuan, ond fyddai’n iawn! Ma’ popeth yn wers.
Pa gyngor byse ti’n rhoi i ferched sydd moen cychwyn band a falle ddim yn siwr iawn ble i ddechre? Fi’n CARU’r cwestiwn yma, a sai’n meddwl bod e’n cael ei ateb yn aml iawn. Fi’n meddwl bod na bwysau ar fenywod i slotio mewn i rôl neu steil penodol o fewn band. Weithiau ti’n teimlo fel y “token female” mewn band hefyd, sydd yn neud i teimlo fel bo’ nhw ddim yn cymryd ti o ddifrif. Fi’n gwbod bo’ fi wedi teimlo fel hyn o’r blaen. Ma’ ‘na lot o rwystrau i chwalu sydd yn benodol iawn i berfformwyr sydd ddim yn ddynion. Y realiti yw, mae e mor syml a credu yn dy hun! Gwbod beth yw dy werth a dy allu, a cael yr hyder yn dy offeryn/steil ti wedi ddewis. Fi wedi dod i ddeall bod dim angen bod y gitarydd neu’r canwr “gorau”, ond mae modd i TI fod y gorau yn be’ ti wedi ddewis. Unwaith ti wedi penderfynnu neud hwnna, bydd yr hunan hyder yn arllwys allan a neu di ddisgleirio!
Beth yw’r heriau mwyaf o fod yn fenyw yn y sîn metal a cerddoriaeth yn gyffredinol? Be’ gall neud hwn yn well? Cwestiwn pwysig arall. Fi ddim moen siarad dros menywod, ond allai’n sicr rhannu fy mhrofiad personol. Fi wedi bod yn y DU gan amlaf yn y sîn metal ac yn Ewrop ar gyfer teithio, a fi gallu dweud bo fi yn bersonol wedi cael fy nhrin gyda’r parch mwyaf gan hyrwyddwyr a cerddorion.
Mae yna feiau a pheryglon, fi’n ymwybodol iawn o sefyllfa menywod mewn gigs a bod hyrwyddwyr a agents yn gallu ecsploitio ei statws. Fi’n meddwl bod angen creu awyrgylch saff i fenywod mewn lot o wahanol agweddau o fywyd, er mwyn bod ei llais nhw’n cael eu glywed. Gan bod y sîn gerddoriaeth yn gyffrous ac yn egnïol, falle bod pobl ddim yn cymryd e o ddifrif. Fi ‘di gweld pobl yn cael eu galw mas am eu ymddygiad ar lein hefyd, dyma lle mae’r gymuned yn edrych ar ôl eu gilydd, felly ma’ angen mwy o hwnna yn sicr! Pwy yw dy hoff fenywod mewn cerddoriaeth ar hyn o bryd? CHROMA - heb amheuaeth. Mae’n enw fi wedi gweld ar sawl poster dros y blynyddoedd, ond erioed wedi cwrdd â nhw tan i fi symud i Gaerdydd, a WOW. Mi fydd unrhywun sy’n gwylio nhw’n fyw jyst moen byrstio gyda egni Katie ar lwyfan. Ma’ gwylio hi’n perfformio mor angerddol a mor ddi-ofn yn ysbrydoliaeth i fi! Cate Le Bon - artist Cymraeg hynod o ysbrydoledig arall. Mae wastad wedi aros mor driw i’r cherddoriaeth a’i gweledigaeth artistig, a mae’n gret gweld hi’n llwyddo gyda hwnna. Kelly Lee Owen - fi’n ffan mawr! Fi ‘di gweld hi ambell waith nawr, a mae sioe byw hin wych a fi byth yn gallu tynnu llygaid fi oddi arni.