Sgwrs gyda'r cerddor Alys Williams Mae hi'n teimlo fel oes ers i unrhyw beth cyffrous ddigwydd ac felly dwi'n falch o gael cyhoeddi fy mod i wedi gallu rhyddhau sengl newydd ar yr 19eg o Fawrth. 'You' ydi enw'r gan ac mae hi'n swnio fwy neu lai yn union fel yr oeddwn i'n ei chlywed yn fy mhen wrth ei 'sgwennu ar biano allan o diwn yn fy nghartref yn Llanrug. Mae'n siwr fod hynny'n swnio'n od, ond mae'n wir fod pob rhan o'r broses greadigol yn effeithio ar y cyfanwaith terfynol - a'r piano allan o diwn yn fan cychwyn y daith i lawer o'r caneuon dwi wedi'u rhyddhau hyd yma. Dwi'n gweithio fel artist ers 8 mlynedd bellach ac wedi bod yn ffodus o gael cyfleoedd i gydweithio efo pob math o gerddorion. Dwi'n trysori'r holl brosiectau dwi wedi bod yn rhan ohonyn nhw. Yn fwy diweddar, dwi wedi bod yn arbrofi yn y stiwdio er mwyn creu a chynhyrchu fy nghaneuon fy hun. Mae hi'n braf cael y rhyddid llwyr sy'n bosib clan yr amgylchiadau hyn i drio unrhyw beth allan, gan ddefnyddio fy llais i greu synau a chordiau. I ymhelaethu, dwi wedi bod yn lwcus iawn o gael canu fersiynau fy hun o glasuron Cymraeg a Saesneg -yn amrywio o Total Eclipse of the Heart mewn cyngerdd yng Nghanolfan y Mileniwm gyda cherddorfa'r 'Welsh Pops', i greu fersiwn syml a thyner o Un Seren gan Delwyn Sion, ar y cyd gyda Steffan Rhys Parry, ar gyfer hysbyseb Nadolig i S4C. Mae 'na ambell i uchafbwynt wedi clod yn sgil y math yma o waith, sef cael canu gyda cherddorfeydd, teithio'r wlad i berfformio mewn llefydd anhygoel, a chyfarfod a
pherfformio efo pobl yr oeddwn wedi'u parchu ers blynyddoedd. Roedd hi'n fraint cael canu clasur Ryan Davies, 'Pan Fo'r Nos yn Hir' gyda Cherddorfa Gymreig y BBC clan arweiniad John Qyirke i ddathlu pen-blwydd Radio Cymru yn 40 oed -profiad gwirioneddol fythgofiadwy. Dwi wedi mwynhau rhoi fy shin fy hun ar ganeuon adnabyddus ond teimlaf, ar hyn o bryd, fy mod angen canolbwyntio fwy ar fy neunydd gwreiddiol fy hun. Yn eithaf eironig, daeth y cyfle i wneud hynny tra'n cydweithio ar gan oedd Yws Gwynedd wedi'i 'sgwennu ac isio i mi roi cynnig arni. Wnes i ddigwydd dangos cwpl o demos iddo fo o bethau roeddwn i wedi'u recordio ar 'loop pedal' dros y blynyddoedd. Prin oeddwn i wedi dangos y caneuon i neb gan eu bod mor fras a'r peth cyntaf wnaeth Yws oedd gofyn i mi faswn ni'n licio mynd ati i recordio a rhyddhau rhai ohonyn nhw. Llai na blwyddyn yn ddiweddarach, roedd 'Dim Ond' a 'Don't Mind' allan i'r 6yd fel fy nghaneuon cyntaf swyddogol fel artist unigol. Mae'r piano allan o diwn ers blynyddoedd ac wedi gwaethygu ers i mi symud ty cwpl o flynyddoedd yn 61. Yn ychwanegol at y £faith fod yna ambell nodyn sy allan o diwn yn llwyr, mae'r piano i gyd tua th6n allan ohoni hefyd. Dwi wedi cyrraedd y pwynt lle dwi ofn newid hynny ac yn eitha licio'r swn! Y piano yma ddefnyddiais i sgwennu'r demos i'r traciau 'Llonydd' a 'Celwydd', dwy gan a gafodd eu samplo gan Ifan Dafydd ar gyfer y 'Record Las'. Dydi cerddoriaeth rhy berffaith neu fformiwlaig ddim yn apelio ata i wrth gyfansoddi,