1
Gaeaf 2009/10
lle I enaid gael llonydd cylchlythyr Parciau Cenedlaethol Cymru “Yn y Dwfn Dawelwch” – A fydd tirweddau Cymru a ddiogelir yn gallu sicrhau “Dyfodol Gwyrdd”? Ar y 4ydd a’r 5ed o Dachwedd cynhaliwyd dau ddigwyddiad a gefnogwyd gan Gymdeithas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru (CAPCC) ym Mae Caerdydd, yr oeddynt yn cydgysylltu, gan ganolbwyntio’n benodol ar Gymru, ar y dirwedd a’r trawsnewidiad tuag at ddyfodol gwyrdd. Teitl Cynhadledd Cyngor Cefn Gwlad Cymru oedd “Dyfodol Gwyrdd” ac fe gafodd y Gynhadledd hon ei chynnal ar y ar y 4ydd tra digwydddd Seminar Aelodau CAPCC sy’n ddigwyddoad rheolaidd yng nghalendr Aelodau Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, ar y 5ed. Cafodd Cynhadledd Cyngor Cefn Gwlad Cymru y cyfle i wrando ar Yr Athro Ian Mercer a oedd yn edrych ar yr amrywiol brofiadau a
Yn gryno Darganfyddwch Flog Nic Gallwch ddilyn beth sydd ar feddwl Nic Wheeler a dilyn cynnydd gwaith ei dîm yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro trwy gyfrwng “Blogspot” y Prif Weithredwr. Ewch i ymweld ag o drwy gyfrwng: http://tinyurl.com/PCNPABlogspot
gafwyd yn ystod y 60 mlynedd a aeth heibio, ac fe ystyriodd Clive Betts, John Lloyd Jones a Sue Essex rinweddau cyffredinol y dirwedd ei hun a’r rôl y mae wedi ei chwarae hyd yn hyn a’r rol a fydd yn ei chwarae yng nghyd destun creu “Dyfodol Gwyrdd” cynaliadwy i Gymru. Ar ran Cyngor Cefn Gwlad Cymru, lansiodd Roger Thomas adroddiad y Sefydliad dros Faterion Cymreig, "Byw Gyda’n Tirwedd ". Fe arweiniodd y darn hwnnw o waith, a gomisiynwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru y Sefydliad dros Faterion Cymreig i alw ar y Parciau Cenedlaethol i arddel “cenhadaeth” economaidd cymdeithasol
2
Yr oedd cyfle i’r sawl a oedd yn mynychu i gymryd rhan yn y gweithdai ar Wasanaethau Ecosystem, Iechyd a Lles, Newid Hinsawdd a’r Defnydd a Wneir o Dir, cyn i bawb a oedd yn cymryd rhan gael adborth yn ddiweddarach yn y sesiwn lawn olaf. Ar yr ail ddiwrnod, yn Seminar Aelodau CAPCC, canolbwyntiodd y mynychwyr ar y rôl y mae tirweddau a ddiogelir yn ei chwarae a hynny chwe deg mlynedd ar ôl i’r Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad gael ei derbyn. Cyflwynodd Steve Thomas o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) adroddiad difrifol ar y sialensiau ariannu sy’n wynebu llywodraeth leol a’r cyrff cyhoeddus cysylltiedig a rhoddodd Alan Morris o Swyddfa Archwilio Cymru flas o’r Mesur Llywodraeth Leol a goblygiadau hwnnw i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol. Yr oedd pawb a oedd yn mynychu yn gallu cymryd rhan mewn dau weithdy. Yr oedd
un o’r rheiny yn cynnwys y sialensiau gwleidyddol a’r cyfleoedd y mae tirweddau a ddiogelir yn eu hwynebu ac fe gwestiynwyd a yw’n parhau i fod yn “bwrpasol ar gyfer y dyfodol.” Yn dilyn y gweithdai canolbwyntiwyd yn y sesiwn lawn olaf ar y berthynas rhwng Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol a gwleidyddion. Daethpwyd at gonsensws cyffredinol bod yn rhaid i’r rhai sy’n gweithio ar ran y tirweddau a ddiogelir wella’r ffordd y mae eu gwaith yn cael ei gyfleu’r i’r rhai sy’n llunio polisïau. Diolch i staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro am eu cefnogaeth gyda’r gwaith o hwyluso’r ddau ddiwrnod. Bydd cyfraniadau yn cael eu llwytho ar safle wê CAPCC: http://www.nationalparks.gov.uk/we/ wanpa/wanpa-policy/wanpa-seminars.htm
Llongyfarchiadau Cafodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eu gwobrwyo gyda Gwobr fawreddog Breinlen Aelodau am eu harferion arbennig gyda’r gwaith o gefnogi a datblygu Aelodau a hynny mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd. Mae’r Wobr Breinlen Aelodau – a ddatblygwyd gan CLlLC – yn cydnabod safon y gefnogaeth ac arferion arloesol a fuddsoddir gan Awdurdodau Lleol ac aelodau cysylltiol CLlLC (sy’n cynnwys Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru ) ar gyfer rhoi’r wybodaeth a chyfleoedd datblygu sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni eu dyletswyddau.
3
Artist Preswyl yn creu Argraff i’w Chofio Datgelodd Oriel y Parc waith newydd cyffrous ym mis Tachwedd wrth i Artist Preswyl agoriadol y ganolfan, Stuart Burns, arddangos ei waith newydd. Cafodd y gwaith ei gwblhau tra’r oedd Brendan yn Oriel y Parc fel rhan o’i gyfnod preswyl yno dros gyfnod o flwyddyn, ac mae’r gwaith yn cael ei arddangos o’r 14eg o Dachwedd hyd y 14eg o Fawrth. Fe fydd yn cael ei arddangos ochr yn ochr gydag arlunwaith o’r Casgliad Cenedlaethol a fu’n ysbrydoliaeth iddo. Awdurdod y Parc Cenedlaethol sydd berchen ar ac sy’n rheoli Oriel y Parc fel oriel, canolfan i ymwelwyr ac ar gyfer dibenion addysgu, mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru - ac mae arddangosfa Brendan yn cydredeg gyda phen blwydd cyntaf yr atyniad.
Mae’r arddangosfa yn rhad ac am ddim, ewch i weld gwefan www.orielyparc.co.uk am ragor o Rhagoriaeth Mewn Gwasanaeth Cwsmer yn y Plas fanylion. Ar y 15fed o Orffennaf, cyflwynwyd Plas Tan y Bwlch, sef Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol y Parc Cenedlaethol gyda “Gwobr Rhagoriaeth Mewn Gwasanaeth Cwsmer” gan Elfyn Llwyd AS ar ran Swyddfa’r Cabinet. Mae’r Wobr hon yn cael ei rhoi am lefel uchel o wasanaeth i gwsmeriaid ac mae’n canolbwyntio ar ansawdd y gwasanaeth, amseroldeb, y wybodaeth a ddarperir, yr ymagwedd broffesiynol ac agwedd gyffredinol y staff. Tynnodd yr asesydd sylw yn benodol at ymrwymiad staff y Plas tuag at ddarparu gwasanaeth rhagorol i’r cwsmer a’u hymrwymiad tuag at gyfrannu at fywyd y gymuned sydd o’u cwmpas a thu hwnt i hynny.
4
Dwyrain Cymru yn lansio Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd Fe wnaeth busnesau twristiaeth o bob cwr a chornel o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac hyd yn oed cyn belled â’r Trallwng ymgynnull i gefnogi lansiad y Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd yn gynnar ym mis Hydref.
ngweithrediad ein prosiect CYDWEITHIO / COLLABOR8. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi bod yn cefnogi twristiaeth gynaliadwy ers 2002. Mae CYDWEITHIO / COLLABOR8 yn mynd â ni i lefel newydd ac edrychwn ymlaen yn fawr at weithio gyda Busnesau Twristiaeth Werdd a Glasu er mwyn gwneud llwyddiant mawr o’r cynllun yn ardal Bannau Brycheiniog a thu hwn i hynny.”
Bydd y prosiect sy’n seiliedig yn Nwyrain Cymru, wedi cael ei ddatblygu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Glasu yn darparu cynghorwyr busnes lleol arbenigol er mwyn recriwtio oddeutu 50 o fusnesau sydd â diddordeb mewn bod yn fwy cynaliadwy ac wedyn byddant yn cael cymorth i’w helpu ar hyd y llwybr mwyaf priodol a pherthnasol iddynt hwy. Bydd y prosiect yn cynnig cyfleoedd pwysig i fusnesau wneud arbedion costau, gwahaniaethiad a chael mantais farchnata dros fusnesau eraill sy’n cystadlu am fusnes ond sy’n llai cynaliadwy na hwy. Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae lansiad y cynllun hwn yn garreg filltir bwysig yng
Yn gryno
Dyddiadur
Hafod Eryri: Yn Gaeafgysgu
26 - 28 Ionawr Anwythiad i Aelodau Newydd, Parc Cenedlaethol Dartmoor 1 Chwefror Cyfarfod Gweithredol (CAPCC), Llundain 14 -15 Ebrill, Gweithdy Aelodau, llywyddir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Os na chawsoch chi’r cyfle i gael y profiad o weld Hafod Eryri, y caffi newydd a’r ganolfan ddehongli ar Gopa’r Wyddfa, yna fe fydd yn rhaid i chi aros hyd nes y bydd wedi ail agor pan fydd y tywydd yn caniatáu hynny - yn 2010. Oherwydd yr amodau tywydd eithafol ar y copa, mae’r shyteri wedi cael eu cau ac fe rybuddir ymwelwyr i beidio â disgwyl cael mynediad at ddim o’r cyfleusterau ar y copa o gwbl.
http://tinyurl.com/hafoderyri
5
Ennill Gwobr Sandford am addysg am y drydedd tro gyda Chaer o Oes yr Haearn Mae atyniad unigryw i ymwelwyr sy’n cael ei redeg gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi ennill gwobr fawreddog am addysg am y drydedd tro. Mae Caer Castell Henllys o Oes yr Haearn wedi ennill Gwobr Sandford am Addysg Treftadaeth. Rhoddir y wobr am safleoedd treftadaeth sy’n cynnig gwasanaethau addysgiadol o safon uchel, o Gyfnod Allweddol 1 hyd lefel addysg Prifysgol. Enillodd Castell Henllys y wobr sy’n cael ei rhoi bob pum mlynedd yn 1999 a 2004 ac yna ymgeisio eto yn 2009, gan greu argraff ffafriol iawn ar y dyfarnwyr unwaith yn rhagor am ei wasanaethau addysgol safonol iawn. Dywedodd dyfarnwr Gwobr Sanford, Gareth Fitzpatrick: “Mae rhaglenni addysgu diddorol yn denu a chadw sylw plant sy’n ymweld â a chael profiadau rhyngweithiol o sut brofiad efallai oedd byw yng Nghymru Geltaidd gyn-hanesyddol a hynny trwy ddulliau sy’n diwallu ac yn gwella ar ofynion y cwricwlwm cyfoes.”
Croesi Ffiniau’r Parc a chyrraedd grwpiau cymunedol yn llwyddiannus
Mae bron i 50 o grwpiau cymunedol amrywiol o bob cwr o Loegr a Chymru wedi ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ers i’r prosiect Croesi Ffiniau’r Parc gael ei sefydlu yn 2007 - yr arwydd Am ragor o fanylion ynghylch rhaglen mwyaf amlwg eto, fod y prosiect yn llwyddo Castell Henllys ar gyfer ysgolion ewch i weld i gyrraedd a chefnogi grwpiau u
gwefan www.castellhenllys.com.
6
Gwibdaith Hen Frân, grysau T a hwdis newydd Parc Cenedlaethol Eryri. Mae geiriau caneuon Cymraeg ar y crysau T, sy’n datblygu brand y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru ymhellach, Lle i Enaid Gael Llonydd / Britain’s Breathing Spaces. Cafodd y crysau a’r hwdis eu hargraffu a’u unigryw o bobl fel eu bod yn mwynhau’r cynhyrchu gyda deunyddiau a thrwy Parc Cenedlaethol. gyfrwng dulliau argraffu sy’n amgylcheddol gyfeillgar. Mae’r prosiect yn cael ei gydlynu gan Swyddog Cymunedau Cynaliadwy Yn ystod yr wythnos, rhoddodd Awdurdod Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Parc Cenedlaethol Eryri ddatganiad i enwi Brycheiniog, Ceri Bevan: “Y syniad y tu ôl i’r enillwyr Cystadleuaeth Ffotograffiaeth ymweliadau hyn yw datblygu ffyrdd arloesol Bwrlwm Eryri. Yr oedd hwn yn gyfle i godi o gael gwared ag unrhyw rwystrau honedig ymwybyddiaeth o dreftadaeth Eryri trwy neu rwystrau gwirioneddol sydd a wnelo gyfrwng lens y camera a chafodd y mynediad neu fwynhau gweithgareddau o ffotograffau buddugol eu harddangos ar fewn Parc Cenedlaethol Bannau stondin y Parc Cenedlaethol. Brycheiniog.” Hefyd, yn yr Eisteddfod, pleidleisiwyd Owain “Er bod nifer o grwpiau yn dod o ardaloedd Glyndwr, y rebel Cymreig enwog fel trefol o’r tu allan i’r Parc Cenedlaethol rydym Cymeriad Mwyaf Anhygoel Eryri fel rhan o hefyd wedi annog a chynorthwyo grwpiau Arolwg o Brif Enwogion Eryri yn Oriel Bwrlwm lleol i fod yn rhan o raglen o weithgareddau Eryri. rheolaidd.”
Wythnos Y Parc Cenedlaethol Dathlwyd Wythnos Y Parc Cenedlaethol yn Eryri yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala. Ar stondin Parc Cenedlaethol Eryri, lansiodd un o fandiau mwyaf enwog Cymru,