Parciau Cenedlaethol Cymru Medi 2013
Rhoi Gwerth ar Barciau Cenedlaethol Cymru
Cynnwys Prif Ganfyddiadau
5
Crynodeb Gweithredol
6
1
Cyflwyniad
11
2
Cyfraniad Economaidd y Parciau Cenedlaethol
14
3
Twristiaeth a Hamdden
21
4
Iechyd a Lles
31
5
Gwerth Cymdeithasol-Ddiwylliannol
37
6
Gwasanaethau Ecosystemau Eraill a Gwerth Peidio â’u Defnyddio
44
7
Casgliadau
54
Troednodiadau
55
4
Rhoi Gwerth ar Barciau Cenedlaethol Cymru – Prif Ganfyddiadau Economi
Cymdeithas, Iechyd a Lles
-- Mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn cyfrif am dros hanner biliwn o bunnoedd o Werth Ychwanegol Crynswth Cymru, sef 1.2% o economi Cymru.
-- Mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn ‘fannau byw’ gyda phoblogaeth breswyl o dros 80,000 o bobl.
-- Mae bron i 30,000 o bobl yn cael eu cyflogi o fewn ffiniau’r parciau. O’r swyddi a ddarperir o fewn y Parc, mae 38% yn gysylltiedig â’r amgylchedd. -- Mae 12 miliwn o bobl yn ymweld â’r Parciau bob blwyddyn, ac yn gwario oddeutu £1 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau. -- Mae’r Parciau yn gartref i wyth o’r 50 o atyniadau yr ymwelir â nhw amlaf yng Nghymru. -- Mae Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn denu cyfran uchel o ymwelwyr sy’n aros, sef cyfartaledd o 2.26 o ddiwrnodau twristiaid fesul ymwelydd, o gymharu â 1.59 ar gyfer Parciau Cenedlaethol yn Lloegr a’r Alban. -- Mae economïau’r Parciau Cenedlaethol yn dangos eu bod yn gymharol gydnerth yn wyneb helyntion economaidd diweddar, gyda lefelau uwch o gyflogaeth yn 2012 o gymharu â 2006.
-- Mae bron i dri chwarter poblogaeth Cymru yn ymweld â Pharc Cenedlaethol bob blwyddyn. -- Mae’r Parciau Cenedlaethol yn recriwtio ac yn cydlynu dros 15,000 o oriau o weithgarwch gwirfoddoli bob blwyddyn, gyda gwerth o ryw £175,000. -- Mae’r Parciau yn ganolfannau pwysig ar gyfer diwylliant Cymru (er enghraifft, mae dros hanner trigolion Parc Cenedlaethol Eryri yn siaradwyr Cymraeg). -- Pan gynhaliwyd arolwg ohonynt, mae 95% o bobl yng Nghymru o’r farn fod Parciau Cenedlaethol yn bwysig iddynt.
Amgylchedd a Gwasanaethau Ecosystemau -- Mae’r Parciau Cenedlaethol yn cwmpasu rhyw 20% o arwynebedd tir Cymru. -- Mae amgylcheddau’r Parciau Cenedlaethol yn dal a storio carbon drwy eu mawn a’u coetir, ac amcangyfrifir bod gwerth hwn rhwng £24.4m a £97.2m. -- Mae’r Parciau yn cynnwys nifer o gronfeydd dŵr sy’n bwysig yn strategol, ac maent yn darddiad cyflenwadau dŵr gwerth £6.7m yn flynyddol. -- Mae’r Parciau yn cyflwyno arferion datblygu a rheoli tir o fewn ardaloedd dalgylch afonydd sy’n helpu lleihau difrod llifogydd a’i gostau. -- Ar gyfer pob hectar o wlyptir a grëir, fe allai fod budd blynyddol o ryw £292.
-- Mae’r Parciau yn gwneud cyfraniad hanfodol at iechyd a lles trigolion ac ymwelwyr, er ei bod yn anodd mesur y buddion hyn.
-- Caiff Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol gyllid o ryw £15m y flwyddyn, sy’n llai na £5 y pen yng Nghymru. -- Mae Awdurdodau’r Parciau yn sicrhau incwm ychwanegol, fel mai dim ond 65% o’r cyfanswm incwm a gwariant yw Grantiau ac Ardollau’r Parciau Cenedlaethol. -- Mae Awdurdodau’r Parciau yn cymeradwyo 85% o’r ceisiadau cynllunio a dderbyniant. 5
Crynodeb Gweithredol Rhoi Gwerth ar Barciau Cenedlaethol Cymru Cafodd Arup ei gomisiynu gan bartneriaeth yn cynnwys Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ystyried gwerth economaidd Parciau Cenedlaethol Cymru – sef Bannau Brycheiniog, Eryri ac Arfordir Penfro.
Parciau Cenedlaethol Cymru Mae’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn gorchuddio rhyw 20% o arwynebedd tir Cymru. Mae poblogaeth o ryw 80,000 yn y Parciau, a chyflogir bron i 30,000 o bobl o fewn ffiniau’r Parciau. Mewn llawer o rannau o’r byd, fel yn yr Unol Daleithiau, mae Parciau Cenedlaethol yn ardaloedd o ddiffeithwch neu’n ardaloedd prin eu poblogaeth sy’n berchen i ac yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Genedlaethol. Yn y DU, mae Parciau Cenedlaethol yn ‘fannau byw’ a chanddynt economïau amrywiol a mwyafrif y tir dan berchenogaeth breifat. Caiff yr angen i gydbwyso diogelu’r amgylchedd â lles pobl a chymunedau ei adlewyrchu yn y rôl sydd wedi datblygu ar gyfer y Parciau ers eu creu. Roedd Parciau Cenedlaethol Cymru ymhlith y deg Parc cyntaf a sefydlwyd yn y DU yn y 1950au i warchod a gwella harddwch naturiol yr amgylchedd yn ogystal â darparu cyfleoedd hamdden i’r cyhoedd. Ar ddechrau’r 1970au, ymgymerodd Parciau Cenedlaethol â rôl
6
awdurdodau cynllunio lleol o dan bwerau dirprwyedig, fel pwyllgor o’r awdurdod lleol. O ganlyniad, cymerodd y Parciau Cenedlaethol gyfrifoldeb am gynnal y fframwaith datblygu gofodol ac am roi caniatâd i ddatblygu. Sefydlodd Deddf yr Amgylchedd 1995 Awdurdodau Parciau Cenedlaethol annibynnol, a chyflwynodd ddyletswydd ar Barciau Cenedlaethol i ‘geisio meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau.’ Mae hon yn adeg amserol i ystyried buddion uniongyrchol ac anuniongyrchol y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. Mae diddordeb cynyddol i ddeall, a lle bo modd, mesur y gwerth y cyfranna’r amgylchedd at gymdeithas. Mae hyn yng nghyd-destun pwysau cynyddol ar adnoddau cyhoeddus, sy’n peri i lunwyr polisi ailystyried blaenoriaethau gwariant cyhoeddus er mwyn sicrhau cynyddu gwerth am arian i’r eithaf.
Ymagwedd – Cyfanswm Gwerth Economaidd Mae’r adroddiad hwn yn rhoi asesiad o fuddion economaidd y tri Pharc yng Nghymru. Yn bwysig, nid yn unig y mae’r astudiaeth yn ystyried cyfraniad economaidd mesuradwy y Parciau at gyflogaeth a Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC), ond hefyd buddion llai amlwg amgylcheddau’r Parciau Cenedlaethol. Mae’r ymagwedd at yr astudiaeth hon yn seiliedig ar y cysyniad Cyfanswm Gwerth Economaidd,
sef ymagwedd holistaidd sy’n ystyried gwerth cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol y Parciau Cenedlaethol. Caiff yr adroddiad hwn ei lywio gan ymarferiad ystadegol i asesu maint a ffurf economïau’r Parciau Cenedlaethol, yn ogystal â chyfweliadau â detholiad o fusnesau a chynrychiolwyr diwydiant, ac astudiaethau achos o weithgareddau a mentrau yn y Parciau Cenedlaethol sy’n dangos y rôl a chwaraeir ganddynt. Ffigur 1: Fframwaith Asesu
Cyfraniad Economaidd Uniongyrchol ac Anuniongyrchol Gwerth Ychwanegol o’r Amgylchedd Naturiol
Cyfanswm Gwerth Economaidd Parciau Cenedlaethol Cymru
Gwerthoedd CymdeithasolDdiwylliannol
Twristiaeth a Hamdden
Iechyd a Lles
Crynodeb Gweithredol
Canfyddiadau Allweddol Rhoi Gwerth ar yr Amgylchedd Mae’r tri Pharc Cenedlaethol yn rhan bwysig o economi Cymru. Yn gyffredinol, mae economïau’r Parciau Cenedlaethol yn cyfrif am £557m o’r GYC, sef 1.2% o economi Cymru. Mae’r astudiaeth hon hefyd wedi ceisio mesur cyfraniad penodol yr amgylchedd o fewn y tri Pharc Cenedlaethol. Mae gweithgarwch economaidd sy’n ymwneud â diogelu neu reoli’r amgylchedd, neu weithgarwch sy’n dibynnu mewn rhyw ffordd ar yr amgylchedd, yn cynnal 10,738 o swyddi’n uniongyrchol o fewn ffin y Parciau Cenedlaethol, a 2,033 o swyddi pellach ledled Cymru. Mae’r gweithgarwch hwn yn creu 0.7% o gyfanswm Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (CMC) Cymru. Nid yw hyn yn cynnwys effaith gwariant ymwelwyr â’r Parciau Cenedlaethol mewn rhannau eraill o Gymru. Teimlir buddion economaidd y Parciau Cenedlaethol y tu allan i ffiniau’r Parciau. Nid yw buddion ‘gorlifo’ y Parciau Cenedlaethol yn amlycach yn unman nag mewn perthynas â’r sector twristiaeth. Bydd 12 miliwn o ymwelwyr yn ymweld â’r Parciau bob blwyddyn, gan wario amcangyfrif o £1bn ar nwyddau a gwasanaethau. Mae hyn lawer iawn yn fwy na throsiant busnesau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth o fewn y Parciau Cenedlaethol eu hunain, gan amlygu’r ffaith fod ymwelwyr â’r Parciau yn aros ac yn treulio amser mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.
Ymhellach nag effeithiau economaidd, mae’r Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu at ansawdd bywyd mewn amryw o ffyrdd. Mae’r Parciau Cenedlaethol yn adnodd hamdden. Canfu arolwg a gomisiynwyd gan Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol fod 65% o drigolion y DU wedi ymweld â Pharc Cenedlaethol yn y flwyddyn flaenorol, gan godi i 73% ar gyfer trigolion Cymru. Disgrifiwyd Parciau Cenedlaethol yn y gorffennol fel “Ffatrïoedd Lles”. Mae tri Pharc Cenedlaethol Cymru yn cynnig mynediad i le agored, yn galluogi amrywiaeth fawr o weithgareddau sy’n fuddiol i iechyd a lles meddwl a chorfforol unigolion.
Ffigur 2: Cyfraniad Amgylchedd y Parciau Cenedlaethol at Gyflogaeth yng Nghymru
Darperir ystod o wasanaethau ecosystem eraill gan y Parciau Cenedlaethol hefyd, ac ni chaiff gwerth y rhain ei gipio bob amser ar ffurf mesurau allgynnyrch a GYC. Mae’r rhain yn cynnwys buddion dŵr glân, storio carbon, ac aer glân. Amcangyfrifa’r astudiaeth hon fod gwerth y cyflenwad dŵr sy’n tarddu o Barciau Cenedlaethol yn £6.7m y flwyddyn. Amcangyfrifir bod gwerth carbon sy’n caei ei ddal a’i storio drwy fawn a choetir yn y Parciau Cenedlaethol rhwng £24.4m a £97.2m.
7
Crynodeb Gweithredol
Buddion y Dynodiad Parc Cenedlaethol Mae perygl defnyddio dadl gylchol wrth ystyried buddion Parciau Cenedlaethol. Dynodwyd Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro yn Barciau Cenedlaethol am yr union reswm bod eu hamgylchedd o ansawdd eithriadol. Yn amlwg, byddai’r ardal hon o Gymru yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr p’un a yw’n ardal ddynodedig neu beidio. Felly, mae hefyd yn bwysig ystyried pa un a yw statws Parc Cenedlaethol yn gwella buddion y Parciau. Ar y lefel fwyaf sylfaenol, mae’r lefel diogelu’r amgylchedd a weithredir gan y Parciau yn sicrhau cynnal gwerth yr amgylchedd i genedlaethau’r dyfodol. Yn aml, gwelir diogelu’r amgylchedd a lles economaidd fel nodau sy’n gwrthdaro, a rôl y Parciau Cenedlaethol yw cydbwyso gofynion cystadleuol ar yr amgylchedd. Fodd bynnag, mae’r dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn rhoi mwy o ffocws ar y berthynas gydategol rhwng cadwraeth a lles economaidd. Yn gynyddol, cydnabyddir bod ansawdd yr amgylchedd yn ffynhonnell mantais gystadleuol i Gymru. Mae gwerth gweithgarwch economaidd sy’n ddibynnol ar ansawdd yr amgylchedd o fewn y Parciau Cenedlaethol yn gorbwyso gwerth (a chost) gweithgarwch yn ymwneud â diogelu a rheoli’r amgylchedd, a hynny o lawer.
8
Mae’r adroddiad hwn hefyd yn nodi bod statws Parc Cenedlaethol yn bwysig ymhellach na’r lefel diogelu’r amgylchedd y mae’n ei rhoi. Cydnabyddir Parciau Cenedlaethol gan Croeso Cymru1 ac eraill fel rhai o frandiau twristiaeth pwysicaf Cymru, a chyfrannant yn gadarnhaol at ddelwedd Cymru, gartref ac yn rhyngwladol. Defnyddir y brand Parc Cenedlaethol i hyrwyddo Cymru gyfan, a theimlir buddion economaidd hyn y tu hwnt i ffiniau’r Parciau Cenedlaethol. Mae’r label ‘Parc Cenedlaethol’ yn nodi ardal fel un ‘arbennig’ ac mae’n rhoi lefel amlygrwydd i’r Parciau nad yw dynodiadau amgylcheddol eraill yn cyfateb iddo.
Gwerth Ychwanegol Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys llawer o enghreifftiau o werth ychwanegol gweithgareddau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Awdurdodau Parciau Cenedlaethol sy’n cynnal seilwaith twristiaeth y Parciau – o ganolfannau gwybodaeth i lwybrau cerdded – gan sicrhau mynediad at yr amgylchedd fel adnodd hamdden. Gweithiant mewn partneriaeth â chyrff twristiaeth i hyrwyddo’r Parciau i ymwelwyr, ac i hyrwyddo buddion twristiaeth gynaliadwy i’r diwydiant.
Un o ddibenion statudol y Parciau Cenedlaethol yw hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau priodweddau arbennig Parciau Cenedlaethol gan y cyhoedd. Mae’r Parciau Cenedlaethol yn gwella cyfalaf cymdeithasol, trwy ddarparu rhaglenni addysg, rhaglenni cynhwysiant cymdeithasol a rhaglenni datblygu cymunedol sy’n ychwanegu at werth cynhenid sylfaenol yr asedau a geir o fewn Parciau Cenedlaethol. Mae rhaglenni cadwraeth effeithiol gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn ychwanegu gwerth trwy gynnal a chryfhau’r gwasanaethau ecosystem a gynigir gan y Parciau, ac yn amrywio o storio carbon i atal llifogydd. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae rôl Awdurdodau Parciau Cenedlaethol fel hwyluswyr – yn gweithio i ddarparu arbenigedd i eraill a chyflwyno prosiectau mewn partneriaeth – wedi datblygu’n fwyfwy pwysig wrth i’r Awdurdodau geisio cyflawni mwy gydag adnoddau cyfyngedig. Derbynia’r Awdurdodau gyllid trwy Grant y Parciau Cenedlaethol ac Ardoll y Parciau Cenedlaethol, o ryw £15m y flwyddyn, sy’n llai na £5 y pen yng Nghymru. Yn bwysig, mae Awdurdodau’r Parciau yn sicrhau incwm ychwanegol, fel mai dim ond 65% o’r cyfanswm incwm a gwariant yw’r grant a’r ardoll. Mae’r Awdurdodau hefyd yn recriwtio ac yn cydlynu dros 15,000 o oriau o weithgarwch gwirfoddoli bob blwyddyn, gyda gwerth o ryw £175,000.
Crynodeb Gweithredol
Casgliadau Mae angen edrych ar y tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru fel asedau strategol allweddol y mae’n rhaid eu cynnal ar gyfer y dyfodol. Mae’r astudiaeth hon yn dangos bod buddion economaidd y Parciau Cenedlaethol yn ymestyn ymhellach o lawer na ffiniau’r Parciau eu hunain. Mae’r dynodiad Parc Cenedlaethol wedi gwasanaethu Cymru’n dda dros yr hanner canrif ddiwethaf, ac wedi gwella gwerth economaidd a chymdeithasol y Parciau i Gymru. Mae tirwedd yn rhan bwysig o ddiwylliant Cymru, ac mae’r Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu’n gadarnhaol at ddelwedd Cymru. Does dim dwywaith fod angen diogelu’r Parciau o hyd. Dilys, fodd bynnag, yw ystyried beth ddylai natur y diogelu hwn fod yn y dyfodol, a pha un a oes angen diweddaru rôl y Parciau Cenedlaethol i adlewyrchu’r materion y mae’r Parciau yn eu hwynebu yn yr 21ain ganrif. Mewn llawer ffordd, mae cylch gwaith y Parciau Cenedlaethol - sef cynnal lles economaidd a chymdeithasol cymunedau ochr yn ochr â rheolaeth amgylcheddol - yn gysyniad cwbl fodern sy’n cydweddu’n dda ag ymagwedd Llywodraeth Cymru at ddatblygu cynaliadwy. Yn yr ystyr hwn, mae’r Parciau yn ‘batrymau o ddatblygu cynaliadwy’.
Mae’n anodd mesur gwerth ychwanegol Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, ond mae’n werth ystyried y gweithgareddau a fyddai’n cael eu colli pe bai’r Parciau Cenedlaethol yn cael eu diogelu ond heb awdurdod Parc annibynnol. Er nad diben yr astudiaeth hon yw gwerthuso effeithiolrwydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, mae’n ddadleuol pa un a allai ehangder y gweithgareddau a gyflawnir gan y Parciau Cenedlaethol gael ei ddarparu gan sefydliadau eraill. Mae’r Parciau Cenedlaethol yn gwella bioamrywiaeth, yn galluogi mynediad i gefn gwlad; yn cyfrannu at ansawdd profiad yr ymwelwyr; a darparant amgylchedd o ansawdd uchel ar gyfer cymunedau a busnesau lleol. Nid ffrwyth y dynodiad ar ei ben ei hun yw’r buddion hyn. Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn denu staff sy’n meddu ar sgiliau cadwraeth arbennig a gweithiant mewn partneriaeth ag eraill i gyflawni’u hamcanion a galluogi ymgysylltu â dynodiad gan gymunedau a rhanddeiliaid mewn ffordd nad yw sefydliadau eraill efallai’n gallu gwneud.
“Mae cerddadwyedd yn helpu pobl leol i weld beth sydd yn eu hardal leol ac mae’n cynyddu ymwybyddiaeth o’r amgylchedd lleol.” (Paul Casson, Cydlynydd Prosiect Cerddadwyedd / Walkability)
Ni waeth beth fo’r ddadl a all barhau ynghylch rheoli’r Parciau Cenedlaethol, nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch gwerth y Parciau eu hunain.
9
10
1.0 Cyflwyniad 1.1
Diben yr Astudiaeth
Cafodd Arup ei gomisiynu gan bartneriaeth yn cynnwys Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ystyried cyfraniad economaidd tri Pharc Cenedlaethol Cymru – sef Bannau Brycheiniog, Eryri ac Arfordir Penfro. Yn benodol, mae’r astudiaeth yn ymwneud â chyfraniad economaidd yr amgylcheddau ym mhob un o’r Parciau Cenedlaethol. Mae’r astudiaeth hon yn dilyn ymlaen o adroddiad blaenorol yn 2006 o’r enw Valuing our Environment: Economic Impact of the National Parks of Wales2 a briodolodd gwerthoedd i gyfraniad economaidd pob un o amgylcheddau’r Parciau Cenedlaethol.
1.2
3
Parciau Cenedlaethol Cymru
Mae Cymru yn gartref i dri Pharc Cenedlaethol, pob un ohonynt yn wahanol iawn ac â chymeriad nodedig. Mae’r tri Pharc yn gorchuddio arwynebedd o 4141km2, sef rhyw 20% o arwynebedd tir Cymru. Dynodwyd Eryri ym 1951, ac yna Arfordir Penfro ym 1952 a Bannau Brycheiniog ym 1957.
Bannau Brycheiniog Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gorchuddio 1344km2 o arwynebedd tir, ac yn ymestyn dros rannau o naw o Awdurdodau Unedol. Mae gan y Parc boblogaeth o 32,367, ac mae’n denu 4.15 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae hefyd yn cynnwys Geoparc y Fforest Fawr i’r gorllewin o’r Parc.
Arfordir Penfro Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gorchuddio 621km2 o arwynebedd tir, a’r parc hwn yw’r un mwyaf arfordirol o holl Barciau Cenedlaethol y DU, gyda dros 400km o arfordir. Mae ffurf y Parc Cenedlaethol o amgylch yr arfordir yn golygu bod ei berthynas â gweddill Sir Benfro yn arbennig o bwysig, o ran ei economi a’i effaith. Mae gan y Parc boblogaeth o 21,870, ac mae 4.2 miliwn o bobl yn ymweld â Sir Benfro (y Parc a’r ardaloedd o amgylch) bob blwyddyn. Eryri Parc Cenedlaethol Eryri yw’r mwyaf o’r tri Pharc yng Nghymru, yn gorchuddio 2176km2 o arwynebedd tir. Mae’n gartref i gopa uchaf Cymru (Yr Wyddfa, ar 1085m). Mae gan y Parc boblogaeth o 25,585, ac mae dros eu hanner yn siaradwyr Cymraeg. Mae’r Parc Cenedlaethol yn denu 4.27 miliwn o ymwelwyr yn flynyddol. Polisi Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal Ymgynghoriad ar hyn o bryd ar y fframwaith polisi strategol ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a Pharciau Cenedlaethol yng Nghymru4. Mae’n disodli ‘Datganiad Polisi ar gyfer Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru’ (Mawrth 2007). Amlinellodd Datganiad Polisi 2007 weledigaeth ar gyfer Parciau Cenedlaethol yng Nghymru, sy’n pwysleisio pwysigrwydd y Parciau fel ‘tirweddau byw’, a’u rôl yn arbrofi gyda ‘Pholisi newydd’.
Dibenion a Dyletswyddau Caiff pob un o’r Parciau Cenedlaethol eu rheoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol (APC). Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn pennu dau ddiben statudol ar gyfer Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr: -- Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol; -- Hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau priodweddau arbennig Parciau Cenedlaethol gan y Cyhoedd. Pan fydd Parciau Cenedlaethol yn cyflawni’r dibenion hyn, mae ganddynt ddyletswydd hefyd i geisio meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol. Dywed Deddf yr Amgylchedd, ‘os yw’n ymddangos bod gwrthdaro rhwng y dibenion hyn, rhaid i [awdurdodau perthnasol] roi mwy o bwyslais ar y diben i gadw a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal o fewn y Parc Cenedlaethol.’ Mae’r ddogfen ymgynghori bresennol, ‘Taking the Long View’: Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Datganiad Polisi drafft ar gyfer Tirweddau Gwarchodedig yng Nghymru,’ yn adlewyrchu gweledigaeth debyg; ‘Bydd y tirweddau byw, gweithio hyn yn batrymau o ddatblygu cynaliadwy, gyda chymunedau gwledig bywiog, cyfleoedd hamdden helaeth, ecosystemau sy’n ffynnu a bioamrywiaeth gyfoethog.’ Mae’r cynigion hefyd yn adlewyrchu polisi ehangach Llywodraeth Cymru ar fabwysiadu ‘dull ecosystemau’ at reoli tirwedd, a fydd ‘yn golygu ystyried a rheoleiddio’r amgylchedd a’i iechyd yn ei gyfanrwydd, yn hytrach na delio ag agweddau unigol ar wahân.’ 11
Cyflwyniad
1.3
Yr Amgylchedd a’r Economi
Caiff y rôl y mae’r amgylchedd naturiol yn ei chwarae yn ein heconomi ei chydnabod yn gynyddol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i Gymru, a nodweddir gan ansawdd yr amgylchedd naturiol a’r amrywiaeth o sectorau a chymunedau sy’n ddibynnol mewn rhyw ffordd neu’i gilydd ar yr amgylchedd i’w cynnal. Yn y gorffennol, manteisio’n llawn ar adnoddau naturiol oedd sylfaen yr economi. Unwaith eto, mae’r amgylchedd naturiol yn cael ei weld fel prif ffynhonnell mantais gystadleuol Cymru drwy’r cyfleoedd a gynigia ym maes twristiaeth, amaethyddiaeth, rheoli amgylcheddol ac ynni. Fodd bynnag, mae gwerth gwirioneddol neu ‘gyfanswm gwerth’ ein hamgylchedd yn mynd ymhellach i fesurau economaidd cyflogaeth ac incwm. Mae’n ymwneud hefyd â rôl yr amgylchedd yn sicrhau lles yn fwy cyffredinol. Mae’r astudiaeth yn mabwysiadu ymagwedd holistaidd at ddeall gwerth amgylcheddau’r Parciau Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys deall nid yn unig gyfraniad economaidd y Parciau Cenedlaethol i Gymru o ran cyflogaeth a gweithgarwch economaidd, ond gwerth ehangach y Parciau hefyd i iechyd a lles Cymru. Caiff y rôl ehangach hon i’r Parciau Cenedlaethol ei chyfleu yn y weledigaeth ar gyfer datganiad Parciau Cenedlaethol Cymru, sy’n nodi: ‘Er yn wledig eu natur yn bennaf, mae’r Parciau yn cynnwys poblogaeth o dros 80,000 o breswylwyr, maent yn agos i gymunedau trefol pwysig ac mae ganddynt botensial sylweddol i gyfoethogi bywydau pobl Cymru, ac ymwelwyr â Chymru, a chyfrannu’n gadarnhaol at iechyd a lles y cyhoedd ac at economi Cymru.’5 12
1.4
Cyfanswm Gwerth Economaidd
Gall fod ystyron gwahanol i’r cysyniad o bwyso a mesur gwerth yr amgylchedd. Gall gyfeirio naill ai at bennu gwerth ariannol ar asedau naturiol yr amgylchedd, neu gall geisio datgysylltu’r effeithiau economaidd sy’n deillio sydd yn uniongyrchol gysylltiedig â’r amgylchedd o weithgarwch economaidd arall. Gall hefyd fod yn gyfuniad o’r ddau. Gan ddilyn rhaglen Llywodraeth Cymru ‘Cymru Fyw’, mae Llywodraeth Cymru wedi coleddu’r dull ecosystemau o reoli a rheoleiddio’r amgylchedd, ac wedi symud tuag at ddull unedig o reoli adnoddau naturiol. O dan y dull gweithredu newydd hwn, dylai penderfyniadau polisi Llywodraeth Cymru adlewyrchu ‘Cyfanswm Gwerth Economaidd’ yr amgylchedd ar draws yr ystod eang o wasanaethau y mae’r amgylchedd yn eu darparu. Mae’r dull ecosystemau yn mynnu deall y berthynas rhwng yr amgylchedd a lles economaidd a chymdeithasol pobl yng Nghymru. Amlinellodd Cymru Fyw6 ddull gweithredu newydd mewn perthynas â rheoli ecosystemau yng Nghymru, gan sicrhau: ‘Gwerth hirdymor gwirioneddol ecosystemau a’u gwasanaethau – adlewyrchir hyn yn llawn yn ein proses benderfynu, ein polisïau a’n rhaglenni cyflawni lle caiff gwerth y rhain ei amcangyfrif yn rhy isel neu’n rhy uchel, gan ddilyn dull gweithredu’r Undeb Ryngwladol dros Gadwraeth Natur fel ein canllaw ar gyfer gwaith yn y dyfodol:
“Rheolaeth integredig tir, dŵr ac adnoddau byw sy’n hyrwyddo cadwraeth a defnydd cynaliadwy mewn ffordd deg”. Un o ganlyniadau’r fframwaith drafft hwn oedd sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru, y mae ei ddiben a’i genhadaeth yn datgan “Ein nod yw defnyddio dull o reoli ein haer, ein tir a’n dyfroedd ar sail ecosystem”.’7 Yn unol â’r model Cyfanswm Gwerth Economaidd, datblygwyd fframwaith sy’n cipio mewn modd mwy holistaidd werth Parciau Cenedlaethol Cymru. Dangosir hyn yn Ffigur 3. O fewn y model, mae ‘Cyfanswm Gwerth Economaidd’ amgylcheddau Parciau Cenedlaethol yn deillio o’r defnydd uniongyrchol ac anuniongyrchol o’r amgylchedd sy’n cynnwys y rhan y mae’r amgylchedd yn ei chwarae yn yr economi (drwy amaethyddiaeth, twristiaeth a sectorau economaidd eraill yn gysylltiedig â’r amgylchedd), ond hefyd defnyddio’r amgylchedd at ddibenion hamdden, iechyd a lles yn ogystal â chefnogi a rheoleiddio gwasanaethau amgylcheddol. Yr hyn y mae’n anoddach ei gipio neu ei ddeall yw gwerthoedd peidio â defnyddio sy’n adlewyrchu’r gwerth y mae pobl yn ei bennu ar yr amgylchedd a’i warchod, pa un a ydynt wedi defnyddio neu a fyddant yn defnyddio’r amgylchedd at ddibenion hamdden neu fantais economaidd.
Cyflwyniad
Ffigur 3: Fframwaith Asesu
1.5
Caiff y dadansoddiad ei lywio gan:
Cyfraniad Economaidd Uniongyrchol ac Anuniongyrchol Gwerth Ychwanegol o’r Amgylchedd Naturiol
Cyfanswm Gwerth Economaidd Parciau Cenedlaethol Cymru
Gwerthoedd CymdeithasolDdiwylliannol
Dull Gweithredu
-- Adolygiad o’r llenyddiaeth ar bennu gwerth amgylcheddol ac effeithiau economaidd a chymdeithasol Parciau Cenedlaethol yn y DU a thu hwnt.
Twristiaeth a Hamdden
Iechyd a Lles
-- Dadansoddiad meintiol o economïau’r Parciau Cenedlaethol gyda ffocws arbennig ar gyfraniad y gweithgarwch economaidd sy’n gysylltiedig yn benodol ag amgylchedd Parciau Cenedlaethol. -- Astudiaethau achos o fusnesau Parciau Cenedlaethol a phrosiectau sy’n gysylltiedig â phob un o’r effeithiau uchod wedi’u llywio gan gyfweliadau â rhanddeiliaid perthnasol.
1.6
Strwythur yr Adroddiad
Mae gweddill yr adroddiad hwn wedi’i strwythuro yn ôl y fframwaith Cyfanswm Gwerth Ychwanegol a ddangosir yn Ffigur 3. -- Adran 2 cyfraniad economaidd uniongyrchol ac anuniongyrchol y Parciau wedi’u mesur yn ôl cyflogaeth a GYC; -- Adran 3 asesiad o bwysigrwydd y Parciau i economi ymwelwyr Cymru; -- Adran 4 buddion amgylcheddau’r Parciau Cenedlaethol i iechyd a lles yng Nghymru; -- Adran 5 gwerth cymdeithasol-ddiwylliannol y Parciau Cenedlaethol; -- Adran 6 rhai o’r prif wasanaethau ecosystem a gynigir gan amgylcheddau’r Parciau Cenedlaethol, yn ogystal â gwerthoedd ‘peidio â defnyddio’ – y gwerth y mae pobl yn ei bennu ar yr amgylchedd, pa un a ydynt yn defnyddio’r amgylchedd at ddibenion hamdden neu fantais economaidd.
13
2.0 Cyfraniad Economaidd y Parciau Cenedlaethol 2.1
Cyflwyniad
Wrth gyflawni eu rôl fel stiwardiaid amgylcheddol, mae gan y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr ddyletswydd ‘i geisio meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol’. Ystyrir yn aml fod diogelu’r amgylchedd a lles economaidd yn nodau sy’n gwrthdaro. Fodd bynnag, cydnabyddir yn gynyddol fod rhannau mawr o’r economi fodern yn ddibynnol ar ansawdd yr amgylchedd a defnydd cynaliadwy o’r amgylchedd. Mae’r Adran hon yn cyflwyno tystiolaeth ar raddfa a phwysigrwydd economïau’r Parciau Cenedlaethol i Gymru, ac mae’n ceisio deall y rhan unigryw y gall y Parciau Cenedlaethol ei chwarae yn economi fodern Cymru. Mae’r Adran hon hefyd yn cynnwys ymgais i fesur cyfraniad penodol amgylcheddau’r Parciau Cenedlaethol at gyflogaeth a Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC)8 yng Nghymru drwy nodi’r gweithgareddau economaidd hynny sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r amgylchedd neu’n ddibynnol ar yr amgylchedd.
2.2 Economïau’r Parciau Cenedlaethol Maint a Graddfa Mae cyfanswm o 29,291 o swyddi a 5,295 o fusnesau o fewn ffiniau’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru9. O gymharu â Lloegr, mae’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn cyfrif am gyfran uwch o lawer o gyfanswm economi Cymru. Mae’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn cyfrif am £1.4bn o allgynnyrch a £557m o’r GYC10. Mae hyn gyfwerth ag 1.2% o’r cyfanswm GYC yng Nghymru o gymharu â rhwng 0.4% a 0.6% yn Lloegr11. I roi hyn yn ei gyd-destun, mae’r sectorau coedwigaeth, pysgota a mwyngloddio a chwarela gyda’i gilydd yn cyfrannu £335m neu 0.7% o GYC Cymru, sydd gryn dipyn yn llai na’r Parciau Cenedlaethol12. Strwythur Economaidd Dangosir strwythur economïau’r Parciau Cenedlaethol yn Ffigur 4. Mae pwysigrwydd cymharol y sector amaethyddol (a diwydiannau cynradd eraill) yn adlewyrchu natur wledig y Parciau. Mae gan Eryri gyfran uwch o’i chyflogaeth yn y diwydiant ffermio a diwydiannau cynradd na’r Parciau eraill. Fel y gellid disgwyl, ceir cynrychiolaeth dda o’r sectorau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth hefyd, gan amlygu pwysigrwydd yr economi ymwelwyr. Mae Arfordir Penfro yn arbennig o nodedig am raddfa gymharol ei sector llety, bwyd a manwerthu, gan adlewyrchu pwysigrwydd twristiaeth a’r ffaith
14
fod ffin y Parc Cenedlaethol yn dilyn y ‘llain’ arfordirol, ac eithrio rhai trefi cyfagos. Yr hyn sy’n nodedig, fodd bynnag, yw bod economïau’r Parciau Cenedlaethol yn gymharol amrywiol, gyda chynrychiolaeth eang o sectorau economaidd gwahanol. Nid yw strwythur economaidd Bannau Brycheiniog, er enghraifft, yn wahanol iawn i strwythur economaidd Cymru gyfan. Ar gyfartaledd, mae busnesau yn y Parciau Cenedlaethol (wedi’u mesur yn ôl nifer y cyflogeion) yn tueddu bod yn llai na gweddill Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu diffyg cymharol gweithfeydd gweithgynhyrchu mawr neu wasanaethau swyddfa a hefyd y ffaith fod busnesau twristiaeth, manwerthu ac amaethyddiaeth yn tueddu bod yn fusnesau bach. Hefyd, mae tuedd uwch o hunangyflogi mewn Parciau Cenedlaethol sy’n deillio o’r cymysgedd sectoraidd, ond sydd hefyd yn adlewyrchiad o’r nifer o fusnesau ffordd o fyw yn y Parciau14.
2.0 Cyfraniad Economaidd y Parciau Cenedlaethol
2.3 Cyfraniad Economaidd Amgylcheddau Parciau Cenedlaethol Er bod maint a ffurf cyffredinol economïau’r Parciau Cenedlaethol yn bwysig, mae cyfraniad penodol yr amgylchedd naturiol a hanesyddol o fewn y Parciau Cenedlaethol i economi Cymru yn fater mwy perthnasol. Mae ‘Rhoi gwerth ar yr amgylchedd’ yn gofyn i ni ddatgysylltu gweithgareddau neu sectorau’r economi sy’n ddibynnol ar yr amgylchedd a’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n deillio eu gwerth o’r amgylchedd.
Fe wnaeth astudiaeth yn 2003 gan y Bartneriaeth Rhoi gwerth ar ein Hamgylchedd15 amcangyfrif fod nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol yn cyfrif am £8.8bn o GYC Cymru ac un o bob chwech o swyddi yng Nghymru. Gosodwyd gweithgareddau economaidd sy’n effeithio ar yr amgylchedd yn y categorïau bras canlynol gan y Bartneriaeth16:
Cymhwyswyd y fframwaith hwn er mwyn asesu cyfraniad uniongyrchol ac anuniongyrchol amgylcheddau’r Parciau Cenedlaethol.
-- Gweithgareddau sy’n ymwneud â diogelu a gwella’r amgylchedd; -- Gweithgareddau sy’n gwneud defnydd dwys o un neu fwy o elfennau’r amgylchedd fel adnodd cynradd; a -- Gweithgareddau sy’n ddibynnol ar ansawdd yr amgylchedd.
Tabl 2.1: Gweithgarwch Economaidd ym Mharciau Cenedlaethol Cymru, 2012 Bannau Brycheiniog
Arfordir Penfro
Eryri
Parciau Cenedlaethol Cymru
Ffigur 4: Proffil o Economïau’r Parciau Cenedlaethol Cymru Cymru
Poblogaeth
32,367
21,790
25,585
79,742
3,006,500
Unedau Busnes13
2,075
1,390
1,830
5,295
111,675
Cyflogaeth
13,419
7,039
8,833
29,291
1,199,879
Gwerth Ychwanegol Crynswth
£236m
£187m
£134m
£557m
£32,315m
Ffynhonnell – Data ONS
15
2.0 Cyfraniad Economaidd y Parciau Cenedlaethol
Mae Tabl 2.2 yn nodi’r sectorau sy’n cyd-fynd â’r fframwaith Rhoi gwerth ar ein Hamgylchedd17. Ni ellir priodoli rhai o’r sectorau hyn yn gyfan gwbl i’r amgylchedd, ac felly mae angen amcangyfrif cyfran y gweithgarwch o fewn sectorau gwahanol sy’n ddibynnol ar yr amgylchedd. Mae effeithiau economaidd uniongyrchol yn ymwneud â’r gweithgarwch economaidd o fewn busnesau sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd y tu fewn i ffiniau’r Parciau Cenedlaethol. Mae effeithiau anuniongyrchol yn ymwneud â gwariannau cadwyn gyflenwi busnesau o’r fath a’u heffaith ar gyflogaeth ledled Cymru. Mae amcangyfrifon o effeithiau anuniongyrchol yn seiliedig ar berthnasoedd
nodweddiadol cadwyni cyflenwi wedi’u cymryd o dablau mewnbwn-allbwn18. Gallai cyflogi mecanydd i drwsio peiriannau fferm fod yn enghraifft o gyflogaeth anuniongyrchol.
Diogelu a Gwella Mae ystod o weithgareddau economaidd sy’n ymwneud â rheoli a diogelu asedau amgylcheddol. O fewn y Parciau Cenedlaethol, mae’r Awdurdodau eu hunain yn cyfrif am ran fawr o’r sector hwn. Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn gyflogwyr pwysig ynddynt eu hunain. Cyflogant ryw 400 o bobl yn uniongyrchol, gan wario cyfanswm o £22m y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau cysylltiedig.
Table 2.2: Employment in the Environmental Sector within Wales’ National Parks Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Amaethyddiaeth, coedwigaeth, pysgota a mwyngloddio Trydan
1,445
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Cenedlaethol Eryri
1,018
1,539
Cyfanswm
4,001
83
77
54
215
Y fasnach fanwerthu
726
474
406
1,606
Llety a threfnwyr teithiau
586
831
1,072
2,489
Bwytai a bariau
370
619
382
1,371
Hamdden a diwylliant
688
238
273
1,199
Dŵr, carthffosiaeth a gwastraff
133
22
356
511
Trafnidiaeth tir Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn Cyfanswm
16
43
47
43
133
705
206
334
1,246
4,779
3,532
4,459
12,771
Yn bwysig, mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn cynhyrchu cyfran o’u hincwm eu hunain ac yn sicrhau cyllid o ffynonellau eraill, fel mai dim ond 65% o werth gwariant y Parciau Cenedlaethol yw’r Grant ac Ardoll Parciau Cenedlaethol. Mae gweithgareddau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol hefyd yn cynnwys recriwtio a chydlynu gweithgarwch gwirfoddolwyr. Mae’r tri Awdurdod Parc yn recriwtio ac yn cydlynu gweithgarwch cyfanswm o dros 15,000 o oriau o wirfoddoli bob blwyddyn, sydd â gwerth (os cymhwysir cyfraddau cyflog cyfartalog) o ryw £175,000 y flwyddyn. Amcangyfrifir bod gweithgareddau’n ymwneud â diogelu a gwella’r amgylchedd o fewn y Parciau Cenedlaethol yn creu 990 o swyddi uniongyrchol o fewn y Parciau Cenedlaethol, a 256 o swyddi anuniongyrchol ychwanegol ledled Cymru.
Defnydd Dwys Diwydiannau sy’n deillio eu gwerth o’r ‘defnydd’ uniongyrchol o’r amgylchedd yw cyfran helaeth o economïau’r Parciau Cenedlaethol yn bennaf. Diwydiannau pwysig fel y sector amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota, sy’n cyfrif am 13% o’r gyflogaeth yn y Parciau Cenedlaethol, o gymharu â 6% ar gyfer Cymru gyfan. Amaethyddiaeth sy’n cyfrif am fwyafrif helaeth gweithgarwch yn y categori hwn. Amcangyfrifir bod sectorau sy’n seiliedig ar ddefnydd dwys o’r amgylchedd yn creu 3,880 o swyddi uniongyrchol o fewn y Parciau Cenedlaethol a 847 o swyddi anuniongyrchol ychwanegol ledled Cymru.
2.0 Cyfraniad Economaidd y Parciau Cenedlaethol
Ansawdd yr Amgylchedd Mae’r diwydiant twristiaeth, yn ei ystyr ehangaf (yn cynnwys manwerthwyr a gwasanaethau eraill y mae twristiaid yn gwario’u harian arnynt), yn enghraifft dda o weithgarwch sy’n ddibynnol ar ansawdd yr amgylchedd. Mae’r sector llety, teithio ac arlwyo yn cyfrif am 17% o swyddi yn y Parciau Cenedlaethol o gymharu â 7% ar gyfer Cymru gyfan. Nid yw pwysigrwydd ansawdd yr amgylchedd wedi’i gyfyngu i’r sector twristiaeth yn unig. Mae enghreifftiau o’r sector bwyd o fusnesau yn masnachu ar eu lleoliad o fewn y Parciau Cenedlaethol. Er enghraifft, nododd Capestone Organic Poultry ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro fod bod yn y Parc Cenedlaethol yn rhoi ‘nodwedd wahanol’ i’w busnesau. Nodant: ‘Ein lleoliad yw un o’n prif nodweddion gwerthu. Yn ddiamau, mae mwyafrif ein cwsmeriaid yn cyfeirio’n benodol at ein lleoliad. Rydym yn hynod falch o’n lleoliad ac yn ei hyrwyddo ble bynnag y bo modd. Mae’n rhoi elfen o darddiad lleol i’n stori a’n cynnyrch.’ Mae Chwisgi Penderyn yn enghraifft o fusnes sy’n defnyddio brand y Parc Cenedlaethol i farchnata ei gynnyrch ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Mae Bannau Brycheiniog yn rhan bwysig o ‘stori frandio’ Penderyn a ddefnyddir mewn deunyddiau hyrwyddo a’r cyfryngau cymdeithasu. Mae deunydd marchnata’r cwmni yn cyfeirio’n aml y ffaith fod Chwisgi Penderyn ‘yn gorwedd wrth odre Bannau Brycheiniog’, a bod y chwisgi ei hun yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio ‘ein dŵr ffynnon Brycheiniog ni’n hunain’.
Amcangyfrifir bod sectorau sy’n ddibynnol ar ansawdd yr amgylchedd yn creu 5,868 o swyddi uniongyrchol o fewn y Parciau Cenedlaethol a 930 o swyddi anuniongyrchol ychwanegol ledled Cymru.
Ffigur 5:
Cyfraniad Amgylchedd y Parciau Cenedlaethol at Gyflogaeth yng Nghymru
Gan ddod â’r tair elfen hon ynghyd, mae prif ganfyddiadau’r dadansoddiad hwn fel a ganlyn19: -- Mae amgylcheddau’r tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru yn cynnal 10,738 o swyddi yn uniongyrchol o fewn ffin y Parciau Cenedlaethol, a 2,033 o swyddi pellach ledled Cymru pan gynhwysir effeithiau anuniongyrchol, sef cyfanswm o 12,771 o swyddi; -- Mae’r gweithgarwch hwn yn cynhyrchu cyfanswm o £318m o Werth Crynswth Ychwanegol Cymru neu 0.7% o gyfanswm GYC Cymru ac oddeutu 3% o GYC Cymru mewn nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol; ac -- Mae gweithgarwch economaidd sy’n ddibynnol ar yr amgylchedd yn cyfrif am 38% o gyflogaeth o fewn ffiniau’r Parciau Cenedlaethol o gymharu ag 17% ar gyfer Cymru gyfan.
Ffigur 6:
Cyfraniad Amgylchedd y Parciau Cenedlaethol at GYC Cymru
Er bod yr effeithiau uchod yn tanlinellu pwysigrwydd y Parciau Cenedlaethol, mae’n bwysig nodi bod y dadansoddiad uchod ond yn cyfrif yn rhannol am gyfraniad y Parciau at economi Cymru am ei fod yn methu â chipio’n llawn effeithiau gwariant ymwelwyr â’r Parciau mewn rhannau eraill o Gymru.
17
2.0 Cyfraniad Economaidd y Parciau Cenedlaethol
2.4 Perthynas ag Economïau Rhanbarthol Nid yw nwyddau, cymudwyr ac ymwelwyr yn cael eu cyfyngu gan ffiniau Parciau Cenedlaethol, ac felly ni ellir yn hawdd gwahanu economïau’r Parciau Cenedlaethol oddi wrth yr economïau rhanbarthol ehangach y maent yn bodoli ynddynt. Mae hyn yn arbennig o amlwg ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro lle mae’r ffin yn dilyn yr arfordir, ac felly’n hepgor llawer o’r trefi, pentrefi ac aneddiadau sy’n ddibynnol iawn ar eu lleoliad gerllaw’r arfordir. Yr ‘effaith lleugylch’ yw’r enw ar y buddion economaidd o fod gerllaw’r Parc Cenedlaethol. Mae prif ffynhonnell effeithiau o’r fath yn ymwneud â’r economi ymwelwyr. Yn gyntaf, y gwariannau y tu allan i ffin y Parciau gan ymwelwyr â’r Parciau Cenedlaethol ar lety, bwyd a gwasanaethau eraill, ac yn ail, buddion llai amlwg y Parciau i frand twristiaeth Cymru. Ymdrinnir â hyn ymhellach yn Adran 3.0. Ymhellach na thwristiaeth, mae’r Parciau yn cynnig ystod o fuddion eraill i Economi ehangach Cymru. Mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn cyfrannu’n fawr at ansawdd bywyd yng Nghymru, i’r rhai sy’n byw gyda’r Parciau Cenedlaethol, ond hefyd i drigolion yn rhannau eraill o Gymru y mae’r Parciau yn adnodd hamdden iddynt ar garreg eu drws. Teg yw honni bod y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru
18
yn chwarae rhan fwy canolog yn ansawdd bywyd yng Nghymru na Pharciau Cenedlaethol yn rhannau eraill o’r DU. Canfu arolwg o ganfyddiadau ac ymddygiad trigolion y DU fod pobl yng Nghymru yn fwy tebygol o fod wedi ymweld â Pharc Cenedlaethol yn y 12 mis blaenorol (73% o drigolion Cymru o gymharu â 63% o drigolion Lloegr), tra bod 95% o ymatebwyr o Gymru wedi adrodd bod y Parciau ‘yn bwysig iddynt’ o gymharu â 90% yn Lloegr.20 Er bod effeithiau economaidd hyn yn anodd eu mesur, mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod yr ansawdd bywyd a gynigir gan y Parciau yn helpu denu a chadw pobl fedrus yng Nghymru. Yn nodedig, mae trigolion Parciau Cenedlaethol ar hyd a lled y DU yn fwy tebygol o gael eu cyflogi mewn galwedigaethau rheoli, proffesiynol a chrefftus na’r boblogaeth ehangach21. Mae gwelliannau ym maes cyfathrebu yn golygu bod busnesau bach a chanolig yn dewis ble i leoli ar sail yr ansawdd bywyd a gynigir i berchenogion a chyflogeion. Yn unol ag unrhyw ardal wledig o Gymru, mae llawer o fusnesau a fu’n rhan o’r astudiaeth hon yn adrodd am anawsterau o ran recriwtio staff; mae llawer o bobl fedrus yn dewis adleoli i’r Parc Cenedlaethol. Er enghraifft, mae Melin Wlân Melin Tregwynt yn Sir Benfro wedi sylwi ar gynnydd yn nifer y bobl sy’n gwneud dewisiadau ffordd o fyw i ddod i’r ardal, a bod hynny wedi creu gweithlu iau. Yn yr un modd, mae Parciau Cenedlaethol hefyd yn darparu cyflogaeth i drigolion mewn aneddiadau cyfagos. Ar sail data cymudo 2001, roedd 31% o gyfanswm cyflogaeth Parciau Cenedlaethol wedi’i lenwi gan bobl nad oeddent yn byw yn y Parc Cenedlaethol.22
2.0 Cyfraniad Economaidd y Parciau Cenedlaethol
2.5 Cadwraeth a Datblygu Economaidd Cynaliadwy Yn aml, ystyrir bod diogelu’r amgylchedd a chreu lles economaidd yn nodau sy’n gwrthdaro. Mae canfyddiad bod y dynodiad Parc Cenedlaethol a rôl Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol fel awdurdodau cynllunio lleol yn cyfyngu ar ddatblygu economaidd. Mewn gwirionedd, mae’r mater yn fwy cymhleth o lawer. Mae’n nodedig bod 85% o geisiadau cynllunio a gyflwynir i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn cael eu cymeradwyo a bod hyn yn gymesur ag awdurdodau cynllunio eraill yng Nghymru.23 Er hyn, dylid cydnabod bod lefel y gwaith diogelu’r amgylchedd a ddaw gyda statws Parc Cenedlaethol yn ffurfio graddfa a natur datblygu o fewn y Parciau. Gall hyn weithio i gyfyngu ar fathau penodol o ddatblygu, fel ffermydd gwynt a datblygiad gwestai ar raddfa fawr. Ar y llaw arall, gall y gofynion i ddatblygiad newydd gydweddu â chymeriad y Parciau gynyddu costau buddsoddi, fel buddsoddi mewn adeiladau fferm. Yn yr un modd, fodd bynnag, mae dynodiad cynllunio’r Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu at ansawdd datblygu, ac felly gall hyrwyddo’r buddsoddiad mewn buddion economaidd cynaliadwy. Mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn gyfrifol am bennu’r cydbwysedd priodol rhwng eu rôl cadwraeth a’u dyletswydd i wella lles economaidd. Er y dylid amau’r lefel gwrthdaro rhwng y rhain, gyda rheoli gofalus gellir cyflawni’r ddau amcan ochr yn ochr â’i gilydd. Fel y trafodwyd yn y Bennod hon, mae yna ystod o fuddion economaidd cadarnhaol i’r amgylchedd naturiol y mae rôl
cadwraeth Parciau Cenedlaethol yn helpu eu hatgyfnerthu a’u cynnal. Dysgwn o Ffigur 6 bod gwerth gweithgarwch economaidd sy’n ddibynnol ar ansawdd yr amgylchedd yn gorbwyso graddfa (a chostau) gweithgarwch sy’n ymwneud â diogelu a gwella’r amgylchedd. Mae hyn yn awgrymu y gall buddsoddiad mewn rheolaeth amgylcheddol fod yn gymedrol o gymharu â’r gwerth y mae’n ei gynnal neu’i gynhyrchu.
2.6
Rhagolwg a Chydnerthedd
Yn 2006 y gwnaed yr ymdrech fwyaf diweddar i fesur cyfraniad economaidd amgylcheddau’r Parciau Cenedlaethol. Canfu’r astudiaeth fod 11,926 o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol yng Nghymru yn gysylltiedig ag amgylcheddau Parciau Cenedlaethol.24 Er na ellir cymharu canlyniadau’r astudiaeth hon yn uniongyrchol ag astudiaeth 2006, mae canlyniadau’r asesiad a ddarparwyd yn yr adroddiad hwn yn awgrymu bod y cyfraniad yn 2013 yn fwy, sef 12,771. O ystyried canfyddiadau’r astudiaeth hon, mae hyn yn awgrymu y gall graddfa’r gweithgarwch economaidd sy’n ddibynnol ar yr amgylchedd fod yn fwy nag a amcangyfrifwyd yn wreiddiol gan yr astudiaeth flaenorol. Mae’r dirywiad economaidd wedi rhoi ffocws cynyddol ar bwysigrwydd cydnerthedd economaidd, mater sydd wedi bod yn bwysig i gymunedau gwledig erioed. Yn gyffredinol, ymddengys bod dangosyddion economaidd yn awgrymu bod y Parciau Cenedlaethol wedi bod yn gymharol gydnerth i’r hinsawdd economaidd ehangach. Ym Mharciau Cenedlaethol Cymru, fe wnaeth cyflogaeth gynyddu rhwng 2006 a 2012, ac nid yw diweithdra wedi codi gymaint yn y Parciau Cenedlaethol ag
mewn rhannau eraill o Gymru.25 Mae hyn, yn rhannol, yn debygol o fod yn ganlyniad ffawd cymharol y sectorau sy’n rhan o economïau’r Parciau Cenedlaethol. Mae nifer gymharol lai o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector adeiladu a’r sector gweithgynhyrchu, sydd wedi dioddef yn arbennig yn y blynyddoedd diwethaf. Ar draws y Parciau Cenedlaethol, bu dirywiad mewn cyflogaeth gweithgynhyrchu, ond gwnaed yn iawn yn rhannol am hyn gan gyflogaeth yn y sector manwerthu a’r sector gwestai a bwytai. Ymddengys bod y rhagolwg yn un cadarnhaol i’r sector amgylcheddol ym Mharciau Cenedlaethol Cymru o ystyried presenoldeb nifer o sectorau twf yn y Parciau. Yn ogystal, mae’r flaenoriaeth a roddir i ynni a’r amgylchedd, bwyd a ffermio a thwristiaeth gynaliadwy yn debygol o fod o fudd i economïau’r Parciau. Gan gymryd esiampl y sector ynni, fe wnaeth astudiaeth ddiweddar ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri amcangyfrif bod potensial damcaniaethol am 47.4MW o drydan adnewyddadwy, a 57.3MW o wres adnewyddadwy o fewn ffin y Parc Cenedlaethol.26 Mae sefydlu Parth Menter Eryri ar safle 50 erw yn Nhrawsfynydd a Llanbedr yn adlewyrchu’r potensial i’r sector ynni. Nod y Parth Fenter yw dod yn ganolbwynt ar gyfer technoleg carbon isel, gan adeiladu ar sgiliau gweithlu Trawsfynydd a Chanolfan y Dechnoleg Amgen. Yn bwysig, mae potensial y parth yn seiliedig hefyd ar y buddion i fusnesau technoleg o gael cyflenwad pŵer adnewyddadwy lleol cydnerth yn seiliedig ar adnoddau naturiol yr ardal. 19
2.0 Cyfraniad Economaidd y Parciau Cenedlaethol
2.7
Canfyddiadau Allweddol
Mae canfyddiadau allweddol yr Adran hon fel a ganlyn: -- Mae’r tri Pharc Cenedlaethol yn rhan bwysig o Economi Cymru, ac yn cyfrif yn uniongyrchol am £557m o’r GYC, neu 1.2% o economi Cymru, hyd yn oed cyn ystyried effeithiau anuniongyrchol a chyfraniad ehangach y sector twristiaeth; -- Yr amgylchedd sy’n sail i lawer o’r economi yn y Parciau Cenedlaethol. Mae sectorau a busnesau sy’n ddibynnol ar yr amgylchedd yn cyfrif am 38% o gyflogaeth o fewn ffiniau’r Parciau Cenedlaethol o gymharu ag 17% ar gyfer Cymru gyfan. Mae’r gweithgarwch hwn yn cyfrannu £318m at GYC Cymru pan gynhwysir effeithiau cadwyni cyflenwi; -- Mae maint yr economi sy’n dibynnu ar ansawdd yr amgylchedd yn fwy o lawer na graddfa a chost gweithgarwch yn gysylltiedig â diogelu a gwella’r amgylchedd. -- At ei gilydd, ymddengys bod dangosyddion economaidd yn awgrymu bod y Parciau Cenedlaethol wedi bod yn gymharol gydnerth i’r hinsawdd economaidd ehangach. Cefnogir cyfraniad economaidd amgylcheddau’r Parciau Cenedlaethol gan weithgareddau Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol sydd â dyletswydd i hyrwyddo lles economaidd a chymdeithasol fel rhan o’u rôl cadwraeth.
20
3.0 Twristiaeth a Hamdden 3.1
Cyflwyniad
Mae twristiaeth yn elfen hollbwysig o economi Cymru, yn cynnal 88,330 o swyddi yn uniongyrchol ledled Cymru.27 Mae’r Parciau Cenedlaethol yn rhan allweddol o economi ymwelwyr Cymru ac felly mae cyfraniad y Parciau at y sector hwn yn teilyngu sylw penodol. At hyn, mae’r Parciau Cenedlaethol yn chwarae rhan ehangach yn y sector hamdden, gan ddarparu llu o weithgareddau ar gyfer trigolion yr ardal leol a thu hwnt sy’n werthfawr ynddynt eu hunain, heb ystyried unrhyw effaith gysylltiedig ar dwristiaeth neu’r economi. Un o ddibenion statudol yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yw ‘hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau priodweddau arbennig Parciau Cenedlaethol gan y Cyhoedd.’ Felly, mae rhwymedigaeth gan yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol i ymgymryd â rôl arweiniol ragweithiol i ddarparu cyfleoedd twristiaeth a hamdden.
3.2 Nifer a gwerth ymweliadau â’r Parciau Cenedlaethol
3.3 Cyfraniad at Economi Ymwelwyr Cymru
Yn ôl data monitro twristiaeth,28 mae dros 12 miliwn o bobl yn ymweld â Pharciau Cenedlaethol Cymru bob blwyddyn, sy’n gyfwerth â chwistrelliad blynyddol o wariant gwerth rhyw £1bn29 i economi Cymru. Yn ôl ymchwil i asesu maint cyffredinol y sector twristiaeth yng Nghymru, amcangyfrifwyd bod y galw blynyddol gan dwristiaeth yng Nghymru yn gyfystyr ag oddeutu £4.5bn. Mae’r Parciau Cenedlaethol yn gartref i wyth o’r 50 o atyniadau y bydd pobl yn ymweld â nhw amlaf yng Nghymru.30 Felly, mae ymwelwyr â’r Parciau Cenedlaethol yn gyfran gweddol fawr o ddiwydiant twristiaeth Cymru.
Mae maes dylanwad y Parciau Cenedlaethol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau’r Parciau. Yn yr un modd â gweithgarwch economaidd ehangach, mae’r sector twristiaeth a hamdden dan ddylanwad ‘effaith lleugylch’ wrth i’r buddion orlifo y tu hwnt i ffiniau’r Parciau Cenedlaethol. Yn ymarferol, mae ffiniau’r Parciau Cenedlaethol yn hydraidd a bydd pobl yn ymweld â Chymru gyda’r bwriad o ymweld â’r Parciau Cenedlaethol, ond byddant yn cyfuno ymweliadau gyda rhannau eraill o Gymru. Mae ymatebion y gweithredwyr twristiaeth yn awgrymu mai ymwybyddiaeth gyfyngedig fydd gan bobl, ar ymylon y Parciau, pa un a ydynt yn aros o fewn y ffin neu du allan.
Yn bwysig, mae’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn denu cyfran uchel o ymwelwyr sy’n aros, sef cyfartaledd o 2.26 o ddiwrnodau twristiaid fesul ymwelydd, o gymharu â 1.59 ar gyfer y Parciau yn Lloegr a’r Alban. Am fod ymwelwyr yn fwy tebygol o aros dros nos, mae gwariant cyfartalog ymwelwyr â’r Parciau yng Nghymru yn uwch (£87 y pen) nag yng ngweddill y DU (£60 y pen).31
Dangosir hyn gan y berthynas rhwng Parc Cenedlaethol Eryri a’r trefi cyrchfannau yn y cylch yng Ngogledd Cymru, fel Llandudno a Phorthmadog. Mae cyfran uchel o lety twristiaid yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ar yr arfordir, y tu allan i ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Mae math ac ystod y llety a ddarperir yn y cyrchfannau arfordirol - er enghraifft, parciau gwyliau a gwestai mawr, yn wahanol i hynny sydd ar gael yn y Parc ei hun. Mae’r dynodiad Parc Cenedlaethol wedi llywio patrwm datblygiad twristiaeth yn y Parciau ac o’u hamgylch. Yn yr ystyr hwn, mae cyfyngiadau ar ddatblygu o fewn y Parc ei hun wedi gweithio i ehangu maes dylanwad y Parc mewn gwirionedd. Mae Gwesty Imperial Llandudno,
21
3.0 Twristiaeth a Hamdden
er enghraifft, yn defnyddio’r is-bennawd: ‘Dewch i flasu swyn oes Fictoria a chael gwasanaeth o’r radd flaenaf ym Mrenhines Cyrchfannau Cymru lle mae Eryri’n cyffwrdd â’r môr.’
Ffigur 7:
Adlewyrchir eu cyd-ddibyniaeth yn y dull o farchnata twristiaeth. Mae’r brand ‘Mynyddoedd Eryri a’r Arfordir’ yn cydnabod y berthynas gydategol rhwng Parciau a’r cyrchfannau a’r asedau cyfagos. Mae’r dull hwn yn fwriadol yn nodi’r Parc a’r ardal o’i amgylch fel cyrchfan ynddo’i hun. Mae ffiniau’r Parciau yn rhoi ymdeimlad o gyrraedd i ymwelwyr, ond mae ymwelwyr yn annhebygol o wahaniaethu rhwng y Parciau a’r ardal o’u hamgylch. Dywedodd Perchennog Hammet House, y tu allan i Ffin y Parc yn Sir Benfro ‘Mae’r amgylchedd lleol yn bwysig eithriadol i ddenu busnes, ac mae Llwybr Arfordir Cymru drwy’r Parc Cenedlaethol yn atyniad mawr ymhlith cwsmeriaid. Mae cwsmeriaid yn tueddu ystyried Sir Benfro gyfan fel y Parc Cenedlaethol, felly mae ei enw da o fudd i Sir Benfro gyfan.’ Gellir gweld pwysigrwydd y Parciau Cenedlaethol a goblygiadau ‘ffiniau annelwig’, yn Ffigur 7, sy’n dangos yr ardaloedd o Gymru lle mae twristiaeth yn cyfrif am gyfran uchel o gyfanswm cyflogaeth. Gellir sylwi bod llawer o ardaloedd â dwysedd cyflogaeth twristiaeth uchel yn ffinio â’r Parciau eu hunain neu yn agos atynt. Er bod yr ardaloedd hyn yn gyrchfannau pwysig i ymwelwyr ynddynt eu hunain, byddant yn cael eu defnyddio hefyd fel canolfannau i archwilio’r Parciau Cenedlaethol ohonynt, ac mae agosrwydd y Parciau yn debygol o fod yn ffactor pwysig o ran denu ymwelwyr.
22
Ffynhonnell – Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cofrestr Busnesau ac Arolwg o Fentrau (2011)
Cyflogaeth yn gysylltiedig â thwristiaeth fel cyfran o’r holl gyflogaeth18
Antur Tree Top Adventures, Parc Cenedlaethol Eryri “Fel dyn busnes, rwy’n rhanddeiliad ym Mharc Cenedlaethol Eryri gan fod fy musnes yn dibynnu ar ansawdd parhaus tirwedd y Parc Cenedlaethol.” Shaun Taylor, perchennog Antur Tree Top Adventures.
Disgrifiad o’r Prosiect Canolfan rhaffau uchel yw Antur Tree Top Adventures, ym Metws-y-coed ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Agorwyd y busnes yn 2007 ac mae’n gweithredu trwy gydol y flwyddyn gan gynnig gweithgareddau awyr agored sy’n addas ar gyfer grwpiau addysg, achlysuron meithrin tîm corfforaethol a phartïon pen-blwydd.
Gweithredu yn y Parc Cenedlaethol Mae Antur Tree Top Adventures yn berchen i Shaun Taylor, dyn busnes lleol sy’n awyddus i sicrhau bod y busnes yn gallu cynnig cyflogaeth gynaliadwy i bobl leol trwy gydol y flwyddyn. Mae’n cydnabod pwysigrwydd ansawdd parhaus yr amgylchedd i sicrhau llwyddiant y busnes. “Mae gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol orchwyl anodd yn cydbwyso’u rolau yn diogelu priodweddau arbennig y Parc Cenedlaethol a hyrwyddo twf economaidd, ond ar y cyfan maent yn gwneud gwaith da.”
Mae’r busnes wedi ennill gwobrau gan gynnwys y busnes twristiaeth gynaliadwy gorau yng Ngwobrau Twristiaeth Eryri Werdd yn 2009, ac mae wedi’i restru yn y deg o atyniadau uchaf yng Ngogledd Cymru. Mae Antur Tree Top Adventures wedi cael adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr mewn adolygiadau Trip Advisor, sy’n disgrifio’r atyniad fel “diwrnod gwych allan yn yr ardal” a “rhaffau uchel gorau erioed, ac mae’r siglen yn anhygoel.”
23 23
3.0 Twristiaeth a Hamdden
3.4
‘Brand’ y Parc Cenedlaethol
Mae’r Parciau Cenedlaethol ymhlith y brandiau twristiaeth mwyaf gwerthfawr yng Nghymru. Mae statws Parc Cenedlaethol yn rhoi lefel amlygrwydd i Sir Benfro, Eryri a Bannau Brycheiniog ymhlith ymwelwyr cartref ac ymwelwyr rhyngwladol nad yw rhannau eraill o Gymru’n gallu ei chyflawni. Canfu’r arolwg o ganfyddiadau y sonnir amdano yn Adran 2 fod 90% o bobl yn y DU yn ymwybodol o Barciau Cenedlaethol32. Hefyd, pan ofynnwyd iddynt enwi Parc Cenedlaethol, fe wnaeth mwy o ymatebwyr enwi Eryri nag unrhyw Barc Cenedlaethol arall yn y DU. Mae’n bwysig cydnabod y byddai Eryri, Bannau Brycheiniog a Sir Benfro yn cael eu cydnabod am ansawdd eu tirwedd heb ystyried eu statws fel Parciau Cenedlaethol. Mae eu proffil a’u poblogrwydd yn seiliedig ar eu harddwch cynhenid. Fodd bynnag, pwysleisiodd nifer o fusnesau twristiaeth a fu’n rhan o’r astudiaeth hon fod y label ‘Parc Cenedlaethol’ yn rhoi statws gwahanol i ardal sy’n rhoi proffil nad oes ei debyg yn unman arall yng Nghymru i Arfordir Penfro, Bannau Brycheiniog ac Eryri. Mae hyn yn rhoi proffil na chaiff ei gyflawni gan ddynodiadau amgylcheddol eraill fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae trefnwyr Gŵyl y Gelli a gynhelir yn Y Gelli Gandryll ar gyrion y Parc Cenedlaethol yn nodi, ‘Mae’r Gelli yn lleoliad delfrydol am ei fod yn cynnig amgylchedd ymlaciol a hardd law yn llaw ag arwyddocâd diwylliannol. Mae’r label Parc Cenedlaethol yn ychwanegu caché ac mae’n
24
awgrymu i ymwelwyr y bydd y dirwedd o ansawdd uchel ac y bydd yr ardal yn un ddymunol i ymweld â hi.’ Noda Dafydd Roberts o Amgueddfa Lechi Cymru fod statws Parc Cenedlaethol, ‘yn nodi Eryri fel lle arbennig.’ Mae cryfder y brandiau hyn yn cael ei ddefnyddio er mantais i economi ymwelwyr Cymru yn fwy cyffredinol. Dangosir hyn yn y gwaith marchnata cyrchfannau gan Croeso Cymru, sy’n defnyddio delweddau o’r Parciau Cenedlaethol wrth hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr. Mae ethos a chymeriad y Parciau Cenedlaethol yn cydweddu â’r ddelwedd bod Cymru gyfan yn ceisio portreadu ‘mannau ysbrydoledig’, ‘treftadaeth, diwylliant, cerdded a lles’.33 Yn amlwg, mae ansawdd yr amgylchedd yn brif reswm am bwysigrwydd cymharol economi ymwelwyr Cymru. Canfu Arolwg Ymwelwyr i Gymru 2011 fod 46% o Ymwelwyr Dydd â’r DU a 68% o Ymwelwyr sy’n Aros yn y DU wedi nodi ‘mwynhau’r golygfeydd/tirwedd/cefn gwlad’ fel rheswm dros ymweld.34 Canfu Arolwg Ymwelwyr Bannau Brycheiniog 2011 fod 91% o ymatebwyr o’r farn fod golygfeydd/tirwedd yn ffactor sy’n dylanwadu ar eu penderfyniad i ymweld â Bannau Brycheiniog.35 Mae’r Parciau Cenedlaethol hefyd ar flaen y gad o ran yr ardaloedd twristiaeth sydd wedi’u nodi fel rhai sy’n debygol o dyfu, twristiaeth antur neu dwristiaeth gweithgareddau a thwristiaeth gynaliadwy yn nodedig. Cysylltir y Parciau Cenedlaethol â chadwraeth ac ansawdd amgylcheddol eithriadol,
ac fel y cyfryw, mae’r Parciau Cenedlaethol mewn lle da i fod yn batrymau twristiaeth gynaliadwy. Yn ddiweddar hefyd, dyfarnwyd y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Twristiaeth Gynaliadwy mewn Ardaloedd Gwarchodedig am yr ail dro i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r Siarter yn gydnabyddiaeth o reolaeth twristiaeth gynaliadwy o ansawdd uchel yn seiliedig ar weithio cadarn mewn partneriaeth â’r sectorau preifat, cyhoeddus a chymunedol. Bannau Brycheiniog yw’r ardal gyntaf yng Nghymru i ennill y statws.
3.0 Twristiaeth a Hamdden
3.5 Rôl Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Twristiaeth a Chadwraeth Mae diben Awdurdodau Parciau Cenedlaethol i ‘hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau’ yn sicrhau eu bod yn chwarae rhan allweddol yn economi ymwelwyr Cymru. Maent yn cynnal y seilwaith twristiaeth trwy gynnal a chadw llwybrau cerdded a hawliau tramwy, a darparu arwyddion cyson a chynhwysfawr. Mae’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn rhedeg nifer o ganolfannau, parciau gwledig ac atyniadau. At hynny, mae’r Parciau Cenedlaethol yn gweithredu i warchod ansawdd yr amgylchedd, sef sail yr economi ymwelwyr. Hyrwyddo Ansawdd Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff twristiaeth i hyrwyddo ansawdd. Un enghraifft o’r fath yw Cynllun Llysgenhadon y Parc Cenedlaethol ym Mannau Brycheiniog. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys cwrs hyfforddi tridiau yn cael ei redeg gan yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ar gyfer busnesau twristiaeth. Mae’r cwrs yn cwmpasu ethos y Parc Cenedlaethol a’r cynnig twristiaeth. Mae hyn yn galluogi busnesau twristiaeth i farchnata’r Parc Cenedlaethol yn well i ymwelwyr, gan fod o fudd i’r Parc Cenedlaethol ac i’r busnesau twristiaeth cysylltiedig. Mae’n rhaid i lysgenhadon ddychwelyd bob blwyddyn i adnewyddu eu dyfarniad trwy ymgymryd â hyfforddiant pellach yn flynyddol. Mae hyn yn sicrhau bod ganddynt
wybodaeth gyfredol a gwybodaeth sy’n ehangu dros y blynyddoedd, gyda’r berthynas â’r Parc Cenedlaethol yn dwysáu dros amser. Mae 130 o bobl wedi cwblhau’r cynllun Llysgenhadon hyd yn hyn, ac mae’n cael ei ehangu i gynnwys cynlluniau ychwanegol i ddod yn Llysgennad Geoparc a Llysgennad Awyr Dywyll. Dyfarnwyd statws Awyr Dywyll i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn 2013, gan wneud hwn ond y pumed cyrchfan yn y byd i’w ennill, gan olygu bod awyr y nos wedi’i ddiogelu. Enghraifft arall yw’r rhwydwaith busnes Eryri Werdd. Dechreuodd y rhwydwaith fel rhan o brosiect yn cael ei gefnogi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth i alluogi busnesau twristiaeth yn Eryri i weithredu’n fwy cynaliadwy. Cefnogwyd hyn gan wobrau Twristiaeth Eryri Werdd a oedd yn gwobrwyo busnesau a ddangosai arloesedd ac arferion cynaliadwy. Mae’r Rhwydwaith wedi dod yn hunangynhaliol ers hynny a gweithreda drwy’r cyfryngau cymdeithasu.
Cryfhau’r Brand Mae Awdurdodau’r Parciau yn gweithio gyda byrddau twristiaeth hefyd i gryfhau’r brand Parc Cenedlaethol. Yn 2012, cynhyrchodd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ystod o bosteri arddull hynafol i ddathlu 60 mlynedd y Parc Cenedlaethol. Cynhaliwyd ymgyrch farchnata eang gyda’r posteri hyn i dargedu trigolion y DU y tu allan i Sir Benfro ac ymwelwyr rhyngwladol. Prif ffocws yr ymgyrch posteri oedd y prif orsafoedd rheilffordd a Rheilffordd Danddaear Llundain, gyda
chyfnod yr ymgyrch yn rhedeg yn ystod Jiwbilî Diemwnt y Frenhines a’r Gemau Olympaidd. Yn sgil yr ymgyrch, bu cynnydd o 75% yn y traffig i wefan Awdurdod y Parc, a chynnydd o 25% yn lefelau’r ymwelwyr â Chanolfannau Croeso’r Parc Cenedlaethol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.36 Rhoddwyd yr ymgyrch ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau’r Sefydliad Marchnata Siartredig. Mae Parciau Cenedlaethol Cymru hefyd yn cynnwys brandiau a dynodiadau eraill. Er enghraifft, Geoparc y Fforest Fawr, sy’n cynnwys hanner gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac yn aelod o’r Rhwydwaith Geoparciau Ewropeaidd. Fel Geoparc, mae’r ardal yn mynd ati i hyrwyddo ei threftadaeth ddaearegol trwy fentrau yn cynnwys byrddau gwybodaeth, Geolwybrau a Gŵyl Geoparc flynyddol. Mae nodau’r Geoparc yn ymestyn ymhellach na daeareg, gan geisio cynyddu ymwybyddiaeth a mwynhad o’r amgylchedd naturiol a diwylliannol ehangach. Yn ogystal, mae Geoparc y Fforest Fawr yn ceisio creu buddion cymunedol ar gyfer ardaloedd nad ydynt efallai wedi gweld llawer o weithgarwch twristiaeth yn flaenorol.
25
3.0 Twristiaeth a Hamdden
3.6
Prif Ganfyddiadau
Mae’r Parciau Cenedlaethol yn rhan fawr o economi ymwelwyr Cymru. Nid yw buddion gorlifo Parciau Cenedlaethol i rannau eraill o Gymru yn fwy amlwg yn unman nag yng ngwariant ymwelwyr. Fodd bynnag, mae arwyddocâd y Parciau Cenedlaethol yn gysylltiedig hefyd â’r ddelwedd a’r proffil cadarnhaol y mae Parciau Cenedlaethol yn eu cyfrannu at hyrwyddo Cymru gyfan. Mae prif ganfyddiadau’r Adran hon fel a ganlyn: -- Mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn denu dros 12 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, sy’n gyfwerth â chwistrelliad blynyddol o wariant gwerth rhyw £1bn i economi Cymru; -- Nid yw ymwelwyr yn cael eu cyfyngu gan ffiniau Parciau ac mae cyd-ddibyniaeth gref rhwng y sectorau twristiaeth yn y Parciau a thu allan i’r Parciau; -- Mae’r Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu’n gadarnhaol at ‘frand’ twristiaeth Cymru, ac mae statws a phroffil gan Barciau Cenedlaethol nad oes ei debyg yn rhannau eraill o Gymru; -- Mae Parciau Cenedlaethol ar flaen y gad o ran marchnadoedd twf mewn twristiaeth antur a thwristiaeth gynaliadwy, ac mae ethos y Parciau yn cydweddu’n dda â’r negeseuon y mae Cymru’n ceisio’u cyfleu i ddarpar ymwelwyr; ac -- Mae’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn chwarae rhan amlweddog yn cefnogi’r economi ymwelwyr.
26
Rhyd Ddu – Llwybr Amlddefnydd Beddgelert, Parc Cenedlaethol Eryri “Bydd y llwybr yn cynnig buddion i bobl leol yn ogystal â busnesau lleol.” Seimon Roberts, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Disgrifiad o’r Prosiect Mae’r Llwybr Amlddefnydd yn ffordd amlbwrpas 6.5km o hyd o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhyd Ddu i bentref Beddgelert. Mae’r llwybr wrthi’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd a disgwylir iddo agor yn yr hydref 2013. Bydd yn defnyddio llwybrau ceffylau a thraciau coedwigaeth presennol, ynghyd â rhannau newydd o’r llwybr. Bydd y llwybr cyfan yn addas i’w ddefnyddio gan gerddwyr, beicwyr a marchogwyr. Buddion y Prosiect Bydd y llwybr o fudd i bobl leol a busnesau twristiaeth. Mae’r ardal lle mae’r llwybr yn cael ei ddatblygu eisoes yn ardal boblogaidd ymhlith twristiaid, a’r bwriad yw y bydd y llwybr newydd yn darparu atyniad ychwanegol i ddarpar ymwelwyr â’r ardal. Yn benodol, bydd y Llwybr Amlddefnydd yn darparu un o’r nifer fach o lwybrau yn yr ardal ar gyfer beicio a marchogaeth. Yn y tymor hwy, bwriedir i’r llwybr ffurfio’r rhan gyntaf o Lwybr Cylchol Eryri - sef llwybr o ryw 42km o amgylch godre’r Wyddfa.
Mae mannau dechrau a gorffen y llwybr gerllaw gorsafoedd ar Reilffordd Ucheldir Cymru, ac fe’u gwasanaethir gan wasanaeth Bysiau Sherpa; fel y cyfryw, ceir y dewis i ddefnyddio’r Llwybr Amlddefnydd mewn un cyfeiriad, a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio’n ôl. Bydd y llwybr hefyd yn cynnig buddion o ran iechyd a lles i drigolion lleol sy’n defnyddio’r llwybr, ac yn darparu cyswllt ychwanegol rhwng y cymunedau.
Gwerth Ychwanegol y Parc Cenedlaethol Mae’r llwybr newydd yn cael ei ddarparu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Eryri, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Gwynedd. Mae’r prosiect yn cydweddu â nodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol o ddarparu gwell mynediad o fewn y Parc Cenedlaethol. Bydd y llwybr hefyd yn cynnwys byrddau dehongli sy’n rhoi gwybodaeth yn ymwneud â hanes lleol, llên gwerin yr ardal ac ecoleg ynghyd â disgrifiad manwl o’r llwybr.
27 27
Partneriaeth Cyrchfannau Cynaliadwy Bannau Brycheiniog “Mae datblygu gwaith partneriaeth go iawn wedi bod yn gyffrous ac yn gynhyrchiol o ran cyflawni canlyniadau ar sail gweithredu.” Gary Evans, Cadeirydd Hawk Associates & Partnership
Disgrifiad o’r Prosiect I Barciau Cenedlaethol, dim ond prosiect partneriaeth all twristiaeth fod. Ym Mannau Brycheiniog, mae Partneriaeth ffurfiol ar waith gyda 44 o aelodau o 32 o sefydliadau, dan arweiniad Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Dônt o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac mae ganddynt fuddiannau yn yr economi, yr amgylchedd a’r gymuned. Bu ymglymiad Twristiaeth Bannau Brycheiniog, sy’n cynrychioli 260 o fusnesau lleol, yn allweddol i’r llwyddiant. Mae’r Bartneriaeth wedi datblygu dros ddeng mlynedd ac mae bellach yn cynnwys pum is-grŵp yn delio â Thrafnidiaeth Ymwelwyr, Hyfforddiant ar gyfer Busnes, Marchnata, Geoparc ac Awyr Dywyll.
Buddion y Prosiect Y Bartneriaeth yw’r fframwaith ar gyfer trefnu prosiectau twristiaeth allweddol. -- Yn fwyaf amlwg fu prosiect COLLABOR8 a phrosiect Cynghreiriau Gwledig Awdurdod y Parc Cenedlaethol, a ariannwyd gan raglen Interreg IVB NWE yr UE. Yn gyntaf, maent wedi cefnogi 15 clwstwr o fusnesau twristiaeth, ac yn ail maent wedi cefnogi eu cyfuno â buddiannau cymunedol ynghyd â chyllid ar gyfer gweithredu ar lawr gwlad. 28 28
-- Mae’r grŵp Trafnidiaeth Ymwelwyr yn goruchwylio prosiect £125,000 y flwyddyn sy’n hyrwyddo defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a rhedeg Bws y Bannau. -- Mae marchnata yn fater pwysig ac mae’r Bartneriaeth bellach yn falch o’r Wefan Cyrchfannau, sef brand newydd sy’n datblygu a gwaith cydlynus ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus i’r cyrchfan. -- Mae 25 o gyrsiau hyfforddi bob blwyddyn, a Chynhadledd Twristiaeth Flynyddol. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys Llysgenhadon y Parc Cenedlaethol a Rheoli Busnesau Gwyrdd, sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd a gydnabyddir yn rhyngwladol. -- Mae Geoparc ac Awyr Dywyll yn creu mwy o ddiddordeb ymhlith mwy o ymwelwyr, ac yn cefnogi’r rhan orllewinol lai cyfoethog o’r Parc.
Gwerth Ychwanegol y Parc Cenedlaethol Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol dîm twristiaeth o chwech, â chyllideb o £800,000, y ceir 75% ohono’n allanol. Mae hyn wedi ei alluogi i ddod â’r bartneriaeth ynghyd a chreu atebion ar y cyd. Nid oes amheuaeth fod twristiaeth yn hollbwysig i economi’r Parc. Drwy weithio gyda’i gilydd, mae partneriaid wedi gallu wynebu’r heriau o ddatblygu twristiaeth yng nghyd-destun Tirwedd Warchodedig. Dim ond drwy weithio gyda’n gilydd y gallwn ddiogelu a chadw priodweddau arbennig yr ardal yn fwy effeithiol, ac annog mwynhad a dealltwriaeth tra hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad economaiddgymdeithasol.
Ysgubor Glynmeddig, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog “Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn awyddus iawn i gefnogi twristiaeth werdd a chynaliadwy.”
cynnwys teuluoedd, grwpiau parti plu a pharti i’r dynion, clybiau cerdded/beicio a grwpiau rheoli busnes.
Punch Maughan, perchennog Ysgubor Glynmeddig
Gwerth Ychwanegol y Parc Cenedlaethol Mae Ysgubor Glynmeddig wedi elwa’n uniongyrchol ar gymorth gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn enwedig drwy ei brosiectau COLLABOR8 a Chynghreiriau Gwledig a ariennir drwy Raglen Interreg yr UE. Er bod y busnes y tu allan i ffin y Parc Cenedlaethol, mae ei gwsmeriaid, a’i farchnata felly, yn canolbwyntio ar y Parc Cenedlaethol ac fe’i gwelir fel partner pwysig i’r Awdurdod.
Disgrifiad o’r Prosiect Byncws yw Ysgubor Glynmeddig, ryw filltir i’r gogledd o ffin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r byncws yn gallu cynnig lle i gysgu i hyd at 20 o bobl, ac yn 2012 treuliwyd cyfanswm o 2,885 o nosweithiau ymwelwyr yn Ysgubor Glynmeddig. Buddion y Prosiect Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn atyniad allweddol i ymwelwyr ag Ysgubor Glynmeddig. Bydd mwyafrif helaeth yr ymwelwyr yn dod i’r byncws i’w ddefnyddio fel ‘canolfan’ ar gyfer gweithgareddau awyr agored, gyda’r Parc Cenedlaethol yn cynnig amrywiaeth fawr o ddewisiadau. Mae Ysgubor Glynmeddig yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r DU yn ogystal ag ymwelwyr rhyngwladol. Yn benodol, mae’r byncws yn denu grwpiau ysgol sy’n defnyddio’r llety ar gyfer teithiau preswyl sy’n canolbwyntio ar weithgareddau awyr agored, o fewn y Parc Cenedlaethol yn bennaf. Bydd grwpiau Dug Caeredin yn defnyddio’r byncws fel canolfan ar gyfer penwythnosau hyfforddi. Mae rhai grwpiau yn cael eu dylanwadu i aros yn yr Ysgubor hefyd oherwydd atyniadau penodol yn yr ardal, fel Geoparc y Fforest Fawr. Mae defnyddwyr cyson eraill y byncws yn
Ynghyd â 43 o rai eraill, mae Glynmeddig wedi cael cefnogaeth i ennill gwobr y Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd. Mae hwn yn dilysu’r ymdrechion a wnaed ganddynt i sicrhau twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig drwy leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Gyda chymorth prosiectau, mae’r busnesau hyn wedi ymddangos ar wefan Green Traveler, yn llyfryn Twristiaeth Werdd / Green Tourism Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mewn deunydd marchnata arall. At hyn, am ei fod yn Llysgennad y Parc Cenedlaethol hefyd, dyfarnwyd statws Hyrwyddwr Twristiaeth Gynaliadwy iddo gan yr Awdurdod, a law yn llaw â naw arall, fe wnaeth y prosiect gefnogi cynhyrchu fideo yn amlinellu eu nodweddion gwyrdd i’w defnyddio ar eu gwefan eu hunain ac mewn mannau eraill.
29 29
30
4.0 Iechyd a Lles 4.1
Cyflwyniad
Yn ddiweddar, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi dechrau mesur lles cenedlaethol, ac ystyriant y caiff ei ‘ddylanwadu gan ystod eang o ffactorau, yn cynnwys perfformiad economaidd, ansawdd bywyd, cyflwr yr amgylchedd, cynaliadwyedd, cydraddoldeb, yn ogystal â lles unigol.’37 Caiff rhai o’r ffactorau hyn eu hasesu yn rhywle arall yn yr adroddiad hwn. Mae’r Adran hon yn ystyried lles unigol, iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Mae cysylltiad agos rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl a lles emosiynol. Disgrifir lles gan Sarah Stewart-Brown, athro iechyd cyhoeddus, fel a ganlyn, ‘mae’n ymwneud â byw mewn ffordd sy’n dda i chi ac yn dda i rai eraill o’ch cwmpas. Mae teimladau o fodlonrwydd, mwynhad, hyder ac ymgysylltu â’r byd i gyd yn rhan o les meddwl. Mae hunan-barch a hunanhyder yn rhan o les meddwl hefyd. Felly hefyd teimlad y gallwch wneud y pethau yr ydych am eu gwneud. A pherthnasoedd da, sy’n dod â llawenydd i chi a’r rhai o’ch cwmpas.’ 38
4.2
Cysylltiad â’r amgylchedd
Mae sail dystiolaeth gynyddol y gall yr amgylchedd naturiol a’r amgylchedd adeiledig gael effaith sylweddol ar iechyd a lles unigolion a chymunedau. Fodd bynnag, fel y cydnabuwyd mewn adroddiad diweddar, ‘mae mesur ‘faint’ yn union o iechyd a lles a gynhyrchir gan ein hamgylcheddau o’n cwmpas yn her yr ydym ond megis dechrau mynd i’r afael â hi, ac nid yw trosi’r gwerth hwn yn werth ariannol yn orchwyl hawdd. Golyga hyn ei bod hi’n amhosibl mesur buddion iechyd y Parciau Cenedlaethol heb wneud gwaith ymchwil sylweddol.’ (Valuing England’s National Parks).39 Mae papur gan yr Adran Materion Gwledig (Defra) yn amlinellu dwy ffordd y gall yr amgylchedd naturiol ddylanwadu ar weithgarwch corfforol. Yn gyntaf, gall effeithio ar faint o weithgarwch corfforol y bydd unigolion yn ei wneud. Yn ail, gall gweithgarwch corfforol yn yr amgylchedd naturiol fod yn fwy llesol nag yn rhywle arall, er enghraifft, yn y gampfa. Mae Adroddiad Ecosystemau Cenedlaethol yr DU41 yn nodi tair effaith allweddol yn ymwneud â’r amgylchedd naturiol, sy’n gorgyffwrdd â’r rheiny a nodwyd gan Defra:
40
i. effeithiau cadarnhaol uniongyrchol ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol; ii. effeithiau cadarnhaol anuniongyrchol sy’n hwyluso gweithgarwch yn ymwneud â natur ac ymgysylltu cymdeithasol (trwy ddarparu lleoliadau ar gyfer cyswllt â natur, gweithgarwch corfforol ac ymgysylltu cymdeithasol), y maent i gyd yn dylanwadu’n gadarnhaol ar iechyd, ac yn cynnig ysgogydd ar gyfer newid ymddygiad o ran annog mabwysiadu ffyrdd iachach o fyw (gwella llwybrau bywyd, ymddygiad gweithgarwch, bwyta bwydydd gwyllt); iii. gostyngiad o ran bygythiadau llygredd a fectorau afiechydon i iechyd drwy amrywiaeth o swyddogaethau puro a rheoli, fel rheoleiddio hinsawdd yn lleol, lleihau sŵn a glanhau llygryddion aer. Mae’r buddion hyn yn gorgyffwrdd mewn rhai ffyrdd â rhai o’r buddion eraill a nodwyd gennym mewn Adrannau eraill; er enghraifft, trafodir ymgysylltiad a chynhwysiant cymdeithasol, sy’n cael effaith gadarnhaol ar les, ar wahân yn Adran 5. Ystyrir darparu swyddogaethau puro a rheoli yn fanylach yn Adran 6.
31
4.0 Iechyd a Lles
Buddion gweithgarwch corfforol efallai yw’r maes â’r sylfaen dystiolaeth fwyaf datblygedig. Mae ystod o astudiaethau presennol yn tynnu sylw at fuddion gwneud ymarfer corff yn yr amgylchedd naturiol i les meddwl a lles corfforol. Canfu astudiaeth a oedd yn cymharu gweithgarwch corfforol mewn amgylcheddau naturiol awyr agored â gweithgarwch dan do: ‘dangosodd y rhan fwyaf o’r treialon welliant mewn lles meddwl: o gymharu â gwneud ymarfer corff dan do, roedd gwneud ymarfer corff mewn amgylcheddau naturiol yn cael eu cysylltu â theimladau mwy o adfywio, mwy o ynni ac ymgysylltu cadarnhaol, ynghyd â gostyngiad mewn tensiwn, dryswch, dicter ac iselder. Adroddodd cyfranogwyr hefyd eu bod yn cael mwy o fwynhad a boddhad gyda gweithgarwch awyr agored, a dywedont eu bod yn fwy tebygol o ailadrodd y gweithgarwch nes ymlaen.’42
4.3
Effeithiau a Gwerth
Disgrifiwyd Parciau Cenedlaethol yn y gorffennol fel “Ffatrïoedd Lles” 43, gan adlewyrchu’r sail Dystiolaeth gynyddol sy’n cysylltu lles â’r amgylchedd naturiol, ac yn benodol, mannau awyr agored y gall pobl ‘eu defnyddio’n hawdd a theimlo’n esmwyth ynddynt’, a dyletswydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol i hyrwyddo Lles Cymdeithasol ac Economaidd. Fodd bynnag, fel y trafodwyd yn flaenorol, mae’n anodd mesur ‘faint’ o werth iechyd a lles a ddaw yn sgil Parciau Cenedlaethol. Roedd Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU yn fenter yn cynnwys y llywodraeth, academyddion, y sector preifat a’r trydydd sector. Fe’i disgrifir fel y dadansoddiad cyntaf o amgylchedd naturiol y DU o ran y buddion a gynigia i gymdeithas a ffyniant economaidd parhaus. Daeth Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU i’r casgliad mai tystiolaeth gyfyngedig sydd i ddynodi bod cynefinoedd â mwy o fioamrywiaeth yn cael mwy o effaith ar iechyd (a byddai disgwyl i’r Parciau Cenedlaethol fod â lefel uwch o fioamrywiaeth oherwydd eu cyfran uwch o gynefinoedd naturiol a lled-naturiol), er y gallant annog mwy o ddefnydd. Yn amlwg, mae gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ran bwysig i’w chwarae i sicrhau bod yr amgylchedd naturiol y maent yn ei ‘guraduro’ ar gael i bawb, er mwyn i ystod eang o bobl elwa ar yr effeithiau cadarnhaol y gall eu cael ar eu hiechyd a’u lles.
32
Gofynnodd Cyfrifiad 2011 i ymatebwyr adrodd ar eu hiechyd cyffredinol. O’r data hwn, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi adrodd ar iechyd y boblogaeth yn y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr: ‘Fe wnaeth mwyafrif trigolion y Parciau Cenedlaethol, 82% (331,300) ddisgrifio bod eu hiechyd yn dda, neu’n dda iawn. Mae’r ganran hon ychydig yn uwch nag ar gyfer Cymru a Lloegr yn gyffredinol. O ystyried bod gan y Parciau Cenedlaethol strwythur oed hŷn nag yn genedlaethol, a bod iechyd yn gyffredinol yn dirywio gydag oed, mae hwn yn arwydd fod pobl sy’n byw mewn Parciau Cenedlaethol yn tueddu bod ag iechyd gwell na’r rheiny sy’n byw yng ngweddill y wlad.’44
4.0 Iechyd a Lles
4.4
Enghraifft: Cerdded yn Sir Benfro
Mae Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 186 milltir o hyd, a chanfu arolwg ymwelwyr yn 201112 fod 25% o’r holl ymwelwyr yn dod i Sir Benfro i gerdded.45
Mae cyfleodd i bobl â lefelau ffitrwydd amrywiol ddefnyddio’r llwybr, a chynigir rhai heriau corfforol, gan gynnwys cyfanswm o 35,000 o droedfeddi o lwybrau yn dringo ac yn disgyn, ond mae rhai rhannau o’r llwybr wedi’u haddasu i’w defnyddio gan gadair olwyn, neu gyda graddiannau hawdd a dim camfeydd.
Mae cryn dystiolaeth fod buddion i iechyd o gerdded46. Mae cerdded yn lleihau risgiau clefydau cardiofasgiwlar Gwasanaethir Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro a chlefydau resbiradol, diabetes math 2, rhai canserau yn dda gan fysiau dyddiol yn ystod yr haf, ac mae ac yn helpu atal iselder a chynnal lles meddwl. gwasanaeth mwy cyfyngedig ar gael yn ystod y gaeaf hefyd. Mae darparu a defnyddio llwybrau a rhodfeydd ar gyfer cerdded a heicio yn enghreifftiau da o’r ffordd Canfu adroddiad yn 200647 fod y Llwybr yn cael y mae’r Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu at lefelau mwy o effaith ar ddarparwyr llety nag unrhyw gweithgarwch corfforol uchel. Lwybrau Cenedlaethol eraill yng Nghymru, gyda Mae Llwybr yr Arfordir yn rhedeg o Landudoch ger Aberteifi yn y gogledd i Gastell Amroth, i’r dwyrain o Ddinbych-y-pysgod yn y de. Mae’r llwybr yn cynnig mynediad i rai o’r golygfeydd arfordirol mwyaf ysblennydd ym Mhrydain, mynediad at fywyd gwyllt a daeareg.
bron i hanner yn dweud bod y Llwybr yn ‘bwysig iawn i broffidioldeb’ eu busnes. Mae cyfleoedd tebyg i gerdded yn y ddau Barc Cenedlaethol arall, gyda 1,497 o filltiroedd o lwybrau cyhoeddus yn Eryri, a thri llwybr pellter hir yn rhedeg trwy Fannau Brycheiniog; Ffordd y Bannau (llwybr 100 milltir); Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa (mae 16 milltir o’r llwybr 177 milltir o fewn y Parc Cenedlaethol) a Llwybr Taf sy’n 55 milltir, yn cysylltu Aberhonddu â Chaerdydd.
33
Cerddadwyedd, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro “Mae cerddadwyedd yn helpu pobl leol i weld beth sydd yn eu hardal leol ac mae’n cynyddu ymwybyddiaeth o’r amgylchedd lleol.”
Buddion y Prosiect Mae Cerddadwyedd yn gweithio gydag ystod eang o grwpiau cymunedol, yn cynnwys:
Paul Casson, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
-- Cleifion sydd wedi’u cyfeirio i gael ymarfer adsefydlu cardiaidd;
Disgrifiad o’r Prosiect Sefydlwyd prosiect Cerddadwyedd / Walkability yn yr hydref 2011 gyda’r nod o annog pobl sy’n byw yn Sir Benfro i ddefnyddio llwybrau cerdded lleol i wella’u hiechyd a’u lles.
-- Cleifion gofal dydd iechyd meddwl a chyn gleifion;
Caiff y prosiect gyllid gan Chwaraeon Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac mae’n cael ei gynnal gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Hyd at fis Ionawr 2013, roedd y prosiect wedi cynnig 250 o deithiau cerdded i dros 3,000 o unigolion.
Mae pob grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd ar gyfer teithiau cerdded wedi’u trefnu gan Cerddadwyedd, teithiau cerdded sydd wedi’u teilwra yn ôl anghenion penodol y grŵp. Yn ychwanegol at y buddion iechyd amlwg i gyfranogwyr yn y prosiect, mae buddion cymdeithasol a therapiwtig o’r teithiau cerdded hefyd.
Mae prosiect Cerddadwyedd yn gynllun sy’n rhedeg drwy’r flwyddyn, ac mae ganddo un cydlynydd amser llawn ar hyn o bryd. Mae’r prosiect wedi cyrraedd ei gapasiti, gyda saith o grwpiau gwahanol yn cyfarfod yn rheolaidd; nod y prosiect yw ehangu ymhellach trwy ddefnyddio gwirfoddolwyr a ‘hyrwyddwyr’ o’r grwpiau presennol yn cymryd rolau trefnu ac arwain, gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn darparu hyfforddiant ac arweiniad.
-- Gofal lliniarol a grwpiau anabl; -- Tîm Lles Teuluoedd y Fyddin.
Nod y prosiect yw gwneud cyfranogwyr yn ymwybodol o fannau diddorol yn eu hardal leol. Lle bo modd, mae’r prosiect yn dangos hefyd sut gellir mynd at y mannau hyn gan ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy fel bod y cyfranogwyr yn gallu mwynhau’r lleoedd hyn yn annibynnol, yn ogystal ag yn ystod teithiau cerdded wedi’u trefnu gan brosiect Cerddadwyedd. Mae prosiect Cerddadwyedd yn gweithredu ar draws Sir Benfro, ac yn fuddiol felly i gyfranogwyr sy’n byw ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a thu hwnt.
34 34
Iron Man Cymru, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro “Mae’r lleoliad ar gyfer Iron Man Cymru yn boblogaidd ymysg cyfranogwyr, ac nid ydym wedi wynebu unrhyw gyfyngiadau ychwanegol o fod mewn Parc Cenedlaethol o gymharu â rasys Iron Man eraill sy’n cael eu cynnal mewn mannau eraill.” Kevin Stewart, Iron Man Wales.
Disgrifiad o’r Prosiect Mae Iron Man Wales yn rhan o gyfres Iron Man o rasys triathlon pellter hir a gynhelir ar draws y byd. Mae’r digwyddiad yn cynnwys nofio dros 2.4 milltir, beicio dros 112 milltir a rhedeg dros 26.2 milltir yn cychwyn o Ddinbych-y-pysgod ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae enw da cadarnhaol i’r digwyddiad fel un o’r rasys triathlon caletaf o’r gyfres Iron Man, ac mae cwrs y ras yn manteisio ar olygfeydd lleol fel Traeth y Gogledd yn Ninbych-y-pysgod ac arfordir Sir Benfro. Yn 2012, sef yr ail flwyddyn o gynnal y digwyddiad, cyfranogodd 1,500 o athletwyr yn Iron Man Cymru, a darlledwyd sioe deledu o’r uchafbwyntiau yn rhyngwladol fel rhan o gyfres ehangach Iron Man. Wrth edrych i’r dyfodol, mae’r digwyddiad yn awyddus i ehangu’r maes i ryw 2,000 o gyfranogwyr.
Buddion y Prosiect Buddion allweddol Iron Man Cymru i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw’r gwariant ar lety a bwyd. Yn ôl arolwg o athletwyr a gyfranogodd yn Iron Man Cymru 2012, fe wnaeth cyfranogwyr a gwylwyr wario ychydig o dan £2.5m ar lety a bwyd tra’n ymweld ar gyfer y digwyddiad. Hefyd, gwariwyd dros £150,000 gan Iron Man Cymru ar gynhyrchion a gwasanaethau gan fusnesau yng Nghymru wrth drefnu’r digwyddiad. Yn amlwg, mae buddion ehangach i’r ardal hefyd, fel arddangos yr ardal yn rhyngwladol trwy ddarlledu sioe uchafbwyntiau ar deledu rhyngwladol. Yn Iron Man Cymru yn 2012, roedd 130 o gyfranogwyr, bron i 10% o’r maes, yn dod o’r ardal leol. Mae hon yn gyfran uwch o gyfranogwyr lleol nag mewn digwyddiadau Iron Man eraill, ac mae’n dystiolaeth o boblogrwydd y digwyddiad.
Gwerth Ychwanegol y Parc Cenedlaethol Teimla Iron Man Wales fod y statws Parc Cenedlaethol a’r dirwedd yn ehangach, yn helpu i hyrwyddo’r digwyddiad. Yn benodol, mae’n rhoi hygrededd i’r digwyddiad ymhlith cyfranogwyr rhyngwladol, sy’n ffurfio 20-25% o’r maes. Hefyd, ni theimlir bod y dynodiad Parc Cenedlaethol yn rhoi unrhyw faith ychwanegol ar y trefnwyr o gymharu â digwyddiadau Iron Man eraill nad ydynt yn cael eu cynnal mewn Parc Cenedlaethol.
35 35
4.0 Iechyd a Lles
4.5
Prif Ganfyddiadau
Er nad oes modd mesur buddion iechyd a lles Parciau Cenedlaethol Cymru eto, mae sylfaen dystiolaeth gynyddol sy’n cysylltu’r amgylchedd naturiol ac iechyd a lles: -- Mae nifer o astudiaethau presennol sy’n amlygu buddion gwneud ymarfer corff yn yr amgylchedd naturiol i les meddwl a lles corfforol. -- Mae tystiolaeth i ddangos y lefel sylweddol o ymarfer corff sy’n cael ei wneud yn yr amgylchedd naturiol o fewn y Parciau Cenedlaethol. Er enghraifft, adroddodd 25% o ymwelwyr eu bod wedi ymweld â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro i gerdded. -- Mae data cyfrifiad yn awgrymu bod gan y boblogaeth breswyl ym Mharciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr iechyd cyffredinol hunangofnodedig ychydig yn well na’r cyfartaledd ar gyfer y DU. -- Mae’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn ychwanegu gwerth yn ogystal â’r amgylchedd naturiol o fewn y Parciau Cenedlaethol. Un o ddibenion Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yw hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau priodweddau arbennig Parciau Cenedlaethol gan y cyhoedd; mae’r gwaith o gynnal a chadw a hyrwyddo llwybrau cerdded a rhodfeydd yn y Parciau Cenedlaethol yn enghraifft ragorol o hyn.
36
5.0 Gwerth Cymdeithasol-Ddiwylliannol 5.1
Cyflwyniad
Fe wnaeth Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU48 ddiffinio’r gwasanaethau diwylliannol o ecosystemau fel ‘y lleoliadau amgylcheddol sy’n arwain at y nwyddau a’r buddion diwylliannol a gaiff pobl o ecosystemau.’ Mae hyn yn adlewyrchu’r rhyngweithio rhwng dyn â natur dros amser, gan arwain nid yn unig at nodweddion naturiol sy’n datblygu arwyddocâd diwylliannol, ond hefyd at arferion cymdeithasol sy’n gysylltiedig â’r rhain. Yng nghyd-destun Parc Cenedlaethol, yn ychwanegol at y gwerth o’r amgylchedd naturiol ei hun, mae asedau diwylliannol a threftadaeth ehangach hefyd, fel Castell Henllys a Chastell Caeriw ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Castell Harlech yn Eryri, neu Geoparc y Fforest Fawr ym Mannau Brycheiniog, sy’n creu gwerth pellach. Mae pob un o’r tri Pharc Cenedlaethol yn gwneud llawer o ddefnydd o’r Gymraeg hefyd fel rhan o’r cynnig diwylliannol, er enghraifft, fel rhan o fenter Ein Treftadaeth Eryri sy’n cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol yn gysylltiedig â hanes a threftadaeth yr ardal. Canfu arolwg 2012 ar yr ymwybyddiaeth a’r canfyddiadau o Barciau Cenedlaethol fod 89% o ymatebwyr wedi dweud bod Parciau Cenedlaethol yn bwysig iddynt, ac mae hynny’n dangos gwerth Parciau Cenedlaethol i gymunedau ledled y wlad. Yn ychwanegol at werth o asedau diwylliannol ffisegol, gellir gweld gwerth hefyd mewn rhyngweithio cymdeithasol rhwng pobl mewn lleoliad Parc Cenedlaethol, o ran cynyddu cyfalaf pobl a chyfalaf cymdeithasol.
5.2
Asedau Diwylliannol
Gellir disgrifio asedau diwylliannol fel ‘ffactorau diwylliannol sy’n cyfrannu at egni a chadernid y bobl sy’n byw [mewn cymuned]’49. Noda’r Athro Ross Gibson ‘gall asedau diwylliannol fod yn berthnasol, yn amherthnasol, yn emosiynol, neu hyd yn oed yn ysbrydol.’ Mae gan bob un o’r tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru ei ddiwylliant a’i briodweddau nodedig ei hun. Er enghraifft, efallai fod cysylltiad cadarn rhwng Eryri a dylanwad diwylliannol y Gymraeg, ond mae cysylltiad cryfach rhwng Bannau Brycheiniog â’r gymuned cominwyr a phorwyr, tra bod hanes a threftadaeth Sir Benfro yn ganolog i’w diwylliant. Weithiau, gellir mesur gwerth yr asedau hyn yn nhermau incwm ymwelwyr, ond mewn llawer o achosion, mae’n anoddach o lawer rhoi gwerth ystyrlon ar yr asedau hyn. Fe wnaeth adroddiad yn 2010, Gwerth Amgylchedd Hanesyddol Cymru50, amgancyfrif bod y sector amgylchedd hanesyddol yn cynnal dros 30,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ledled Cymru. Hefyd, amcangyfrifwyd ei fod yn cyfrannu rhyw £840m at GYC cenedlaethol Cymru. Fe wnaeth yr astudiaeth hon hefyd gydnabod gwerth ehangach yr amgylchedd hanesyddol i sectorau eraill fel twristiaeth ac adfywio. Nododd fod sector yr amgylchedd hanesyddol yn cyflawni gwerth amgylcheddol a chymdeithasol ehangach, er enghraifft o ran arbedion carbon a gwell bioamrywiaeth, gan hyrwyddo balchder bro a darparu cyfleoedd dysgu a hyfforddi.
Cydnabu Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU51 fod bylchau’n bodoli o hyd yn ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth mewn perthynas â rhyngweithiadau diwylliant-natur, gan mai dyna yn y bôn sydd ar waith mewn lleolaid Parc Cenedlaethol. Fodd bynnag, dangosodd astudiaeth gan Ipsos MORI yn 2000 ar gyfer English Heritage y bydd gan bron pob nodwedd mewn lleoliad amgylcheddol ryw fath o werth i rywun drwy atgofion a chysylltiadau personol. Mae’n debygol y gellir disgwyl patrymau tebyg yng Nghymru.
5.3 Addysg a Chymdeithasau Mwy Gwybodus Mae Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU yn disgrifio bod ‘lleoliadau amgylcheddol yn darparu amgylchoedd ar gyfer dysgu yn yr awyr agored lle gall ymgysylltu â natur arwain at gysylltioldeb gwell â natur a mwy o wybodaeth ecolegol’52. Mae gwerth i’w gael mewn cynyddu sgiliau a gwybodaeth unigolion, a gwella’u rhagolygon o fod yn gyflogadwy. Mae rhai eraill hefyd wedi nodi’r manteision posibl o gysylltioldeb gwell yn arwain at ymddygiadau gwell o blaid yr amgylchedd53, a allai ymestyn y gwerth a grëwyd ymhellach. Ail ddiben Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yw ‘hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau priodweddau arbennig Parciau Cenedlaethol gan y Cyhoedd’54, sy’n pwysleisio pwysigrwydd addysg yn y cyd-destun hwn. Mae pob un o’r tir Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru yn cyflwyno nifer o raglenni.addysg a dysgu, ar eu pennau’u hunain, ac mewn cydweithrediad ag eraill. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, ymweliadau i ysgolion yn ymwneud â meysydd
37
5.0 Socio-Cultural Value
penodol o’r cwricwlwm cenedlaethol i hyfforddiant galwedigaethol mewn addysg awyr agored. Ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, cafodd 5,852 o gyfranogwyr (myfyrwyr/athrawon/ cynorthwywyr) negeseuon addysg gan Swyddogion y Parc Cenedlaethol yn 2011/12 (1,026 o’r rhain trwy gyfrwng y Gymraeg).55 Credai bron pob ymatebydd o arolwg barn yn 2012 Parciau Cenedlaethol y DU y dylai pob plentyn gael profiad uniongyrchol o Barc Cenedlaethol fel rhan o’u haddysg. Nododd Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU56 fod cyfranogiad oedolion mewn dysgu’n seiliedig ar natur mewn lleoliadau amgylcheddol yn fwlch mewn gwybodaeth. Fodd bynnag, roedd yn cydnabod bod nifer o astudiaethau wedi tanlinellu pwysigrwydd gwybodaeth leyg, yn ogystal â gwybodaeth arbenigol, o ran llywio dealltwriaeth y cyhoedd o faterion amgylcheddol allweddol. Ym Mharciau Cenedlaethol Cymru, ceir enghreifftiau o addysg a dysgu llai ffurfiol, fel y dangosir gan fentrau’n cael eu rhedeg gan Gwmni Buddiant Cymunedol y Cymoedd Gwyrdd (gweler Adran 6) sy’n hyfforddi pobl leol mewn rheolaeth coetir, er enghraifft.
38
5.4
Cynhwysiant Cymdeithasol
Yn 2003, disgrifiwyd allgau cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru fel ‘term a ddefnyddir i ddisgrifio profiad unigolion nad ydynt yn gallu chwarae rhan lawn mewn cymdeithas oherwydd yr ystod anfanteision a wynebant, boed trwy ddiffyg cyflogaeth, sgiliau isel, iechyd gwael neu wahaniaethu. Yn aml mae grwpiau penodol yn fwy tebygol o wynebu’r problemau hyn, er enghraifft pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl hŷn a phobl ag anableddau.’57 Mae’r diffiniad yn awgrymu y bydd cynhwysiant cymdeithasol yn helpu gwella sgiliau, iechyd a lleihau gwahaniaethu. Mae hyn yn cynnwys cymunedau y tu fewn i’r Parciau Cenedlaethol, a sicrhau na chyfyngir ar fynediad iddynt at gyfleoedd; a bod mynediad i’r Parciau Cenedlaethol ar gael i bawb, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Yn eu datganiad sefyllfa ar gynhwysiant cymdeithasol, mae Parciau Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i ‘feithrin ymdeimlad o berchenogaeth gyhoeddus mewn perthynas â Pharciau Cenedlaethol a chefn gwlad yn ehangach, gan gydnabod nad yw llawer o grwpiau sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol ar hyn o bryd yn mwynhau eu buddion cymdeithasol, diwylliannol ac iechyd.’58 Mae hyn yn cydnabod bod angen mewnbwn gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, neu gorff rheoli tebyg, er mwyn i bob rhan o’r gymdeithas elwa ar y gwerth y gall yr amgylcheddau naturiol yn y Parciau Cenedlaethol ei gynnig.
Mae nifer o enghreifftiau lle mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol wedi gweithio gyda phartneriaid i ymestyn allan i grwpiau penodol; yn cynnwys pobl ifanc mewn perygl o ddod i gysylltiad â throseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mannau Brycheiniog; pobl ifanc anabl ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro; pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg yn Eryri.59 Yn ychwanegol at y prosiectau penodol hyn, mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo, yn eu ‘Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant 201214’60, i gynnwys cynhwysiant cymdeithasol yn eu gwaith prif ffrwd. Mae astudiaeth achos Mosaic, a ddisgrifir ar dudalen 40, yn enghraifft ragorol o sut mae’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn gweithio gyda’i gilydd, gydag eraill, i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a mynediad cyfartal at yr amgylcheddau naturiol eithriadol o fewn y Parciau Cenedlaethol.
Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri Disgrifiad o’r Prosiect Ffurfiwyd Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru yn 2004 gyda’r nod o hyrwyddo gweithgareddau hamdden awyr agored i bobl leol, o ran cyfranogi a chyflogaeth. Mae Gogledd Orllewin Cymru’n gallu cynnig gweithgareddau awyr agored sy’n cynnwys canŵio, cerdded, dringo creigiau, beicio mynydd a hwylio. Nod y Bartneriaeth yw sicrhau bod pobl o’r ardal yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd; erbyn mis Mawrth 2012, roedd dros 23,500 wedi ymgysylltu â’r cynllun. Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Gwynedd ynghyd â Llywodraeth Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru a Phrifysgol Cymru Bangor ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Buddion y Prosiect Aeth y Bartneriaeth ati i hwyluso sefydlu clybiau gweithgareddau awyr agored ar draws cymunedau yng Ngogledd Orllewin Cymru; mae 60 o glybiau awyr agored cymunedol newydd wedi’u sefydlu ar draws Gogledd Orllewin Cymru, ac mae ganddynt dros 5,000 o aelodau. Mae dros 500 o wirfoddolwyr yn arwain y grwpiau awyr agored hyn, ac mae’r Bartneriaeth wedi rhoi hyfforddiant a mentora iddynt. Mae’r Bartneriaeth yn ymgysylltu ag ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a cholegau ar draws Gogledd Orllewin Cymru i sicrhau darparu cyfleoedd i gyfranogi mewn gweithgareddau awyr agored, a sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i bobl sy’n mynd ar drywydd hyn fel dewis gyrfa. Mae hyn yn
amrywio o ddarparu sesiynau blasu/cyflwyniadol i blant ysgol, i’r BTEC mewn Addysg Awyr Agored sydd ar gael ym mhob coleg. Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r Bartneriaeth Awyr Agored hefyd wedi datblygu rhaglen ‘Llwybrau i Gyflogaeth Awyr Agored’, gyda chyllid o’r Gronfa Loteri Fawr. Mae’r rhaglen wedi darparu mynediad i hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth gyda chefnogaeth er mwyn cael cyflogaeth yn y sector awyr agored. Hyd yma, mae’r rhaglen wedi cynnwys 110 o bobl ddi-waith, ac o’r rheiny mae 80% mewn cyflogaeth barhaol erbyn hyn. O’r rheiny sydd wedi’u cyflogi, mae 90% yn siarad Cymraeg. Mae’r Gymraeg wedi bod yn rhan bwysig o waith y Bartneriaeth Awyr Agored i’r graddau eu bod yn dymuno i bobl leol allu gymryd rhan gan ddefnyddio iaith o’u dewis. Aeth y Bartneriaeth Awyr Agored ati’n rhagweithiol i sicrhau bod cyfleoedd i hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ar gael yn ddwyieithog. Erbyn hyn, mae mwyafrif o’r clybiau awyr agored yng Ngogledd Orllewin Cymru yn gallu cynnig hyfforddwyr Cymraeg eu hiaith.
Gwerth Ychwanegol y Parc Cenedlaethol Mae’r Parc ei hun yn darparu amgylchedd pwysig lle gellir cynnal gweithgareddau awyr agored. Mae ansawdd yr amgylchedd o ran darparu lleoedd i gynnal ystod mor eang o weithgareddau yn rhan bwysig o’r gwerth sy’n cael ei greu gan y bartneriaeth hon. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn aelod gweithredol o Bartneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru ac mae ganddo gyfarwyddwr ar fwrdd y Bartneriaeth, gan ychwanegu gwerth felly drwy arbenigedd staff. 39 39
Mosaic, Yr Holl Barciau Cenedlaethol Disgrifiad o’r Prosiect Mae Mosaic yn brosiect cenedlaethol sy’n cael ei redeg gan yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol (http://www.cnp.org.uk/search/node/mosaic). Ei nod yw dod â chynulleidfaoedd newydd i’r Parciau Cenedlaethol, gyda ffocws arbennig ar gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Ar ôl cwblhau prosiect Mosaic yn llwyddiannus ar ôl ei gynnal am dair blynedd yn y DU, sefydlwyd Mosaic i agor Parciau Cenedlaethol Cymru i fyny mewn ymateb i dystiolaeth mai dim ond 1% o ymwelwyr o leiafrifoedd ethnig sy’n ymweld â Pharciau Cenedlaethol, er eu bod yn ffurfio 7% o’r boblogaeth genedlaethol. Mae Swyddogion y Prosiect yn ymgysylltu â chymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig lleol i dynnu sylw at yr adnodd a gynigir gan y Parciau Cenedlaethol, a chydweddu hyn yn erbyn rhai o anghenion y cymunedau hyn. Mae prosiect Mosaic wedi’i seilio ar ddwy haen o weithgarwch cyfochrog: i. Cynorthwyo sefydliadau partner y prosiect h.y. yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol a Chymdeithas yr Hostelau Ieuenctid. ii. Hyfforddi Hyrwyddwyr Cymunedol i hyrwyddo Parciau Cenedlaethol, hostelau ieuenctid a chefn gwlad.
Buddion y Prosiect Mae’r prosiect yn helpu mynd i’r afael ag ail ddiben y Parc Cenedlaethol, sef “hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau priodweddau arbennig y parciau”. 40 40
Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiannus o ran annog ymweliadau â Pharciau Cenedlaethol drwy hyrwyddo’u proffil, codi ymwybyddiaeth a thrwy alluogi ymweliadau blasu dan arweiniad Hyrwyddwyr Cymunedol. Mae Mosaic wedi creu nifer o fuddion i’w sefydliadau partner. Yn y tri chynllun yn Lloegr, trwy fuddsoddi rhyw £4,000 o arian cyfatebol ac oddeutu 20-30 o ddiwrnodau o amser mewn ffyrdd eraill tuag at y prosiect (fesul partner, y flwyddyn) roedd sefydliadau partner yn gallu sicrhau elw ar y buddsoddiad gwerth rhyw £50,000 (fesul partner, y flwyddyn) trwy gyllid allanol. Yn ogystal â chynhyrchu patrwm arweiniol o ymgysylltu cymunedol y gellir ei drosglwyddo i sectorau a/neu leoliadau eraill e.e. amgueddfeydd a/neu warchodfeydd natur trefol, mae’r prosiect wedi llwyddo o ran mynd i’r afael â rhwystrau a wynebir gan grwpiau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn cynnwys: diffyg ymwybyddiaeth, materion perthnasol a phroblemau hygyrchedd. Er enghraifft, cyflwynwyd dros 100 o unigolion o gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Gwerth Ychwanegol y Parc Cenedlaethol Roedd amgylchedd a lleoliad ansawdd uchel y Parciau Cenedlaethol yn ysgogwyr ar gyfer y prosiect hwn. Mae cydgysylltu â’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol wedi helpu sicrhau bod mynediad a dehongli yn ystyrlon.
5.0 Socio-Cultural Value
5.5 Cydlyniant Cymunedol a Chyfalaf Cymdeithasol Fel y nodwyd, mae’r ddyletswydd gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, wrth gyflawni eu dau ddiben craidd, i geisio meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y Parciau Cenedlaethol. Mae gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gyfle felly i ddod â chymunedau lleol ynghyd trwy weithgareddau o fewn y Parc, a’u cefnogi i ddatblygu cyfleoedd economaidd. Y diffiniad o Gyfalaf Cymdeithasol a ddefnyddir gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yw ‘rhwydweithiau ynghyd â normau, gwerthoedd a dealltwriaethau ar y cyd sy’n hwyluso cydweithredu o fewn grwpiau neu ymhlith grwpiau’. Mae amgylcheddau naturiol y Parciau Cenedlaethol yn cynnig mannau lle gall pobl ddod ynghyd a chydweithredu, ac yn aml gall Awdurdodau Parciau Cenedlaethol weithredu fel hwyluswyr cydweithredu (fel y gwelir yn astudiaeth achos y Cymoedd Gwyrdd, Adran 6.1).
Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy, a ddisgrifir yn fanwl isod, yn enghraifft o’r modd y mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn ychwanegu gwerth at yr amgylchedd naturiol a geir o fewn y Parciau Cenedlaethol. Golyga amcanion lluosog y gronfa: amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, fod prosiectau sy’n cael eu hariannu yn y modd hwn yn esgor ar fuddion lluosog i’r cymunedau lleol yn y Parciau ac o’u hamgylch. Mae enghreifftiau o brosiectau a ariannwyd drwy’r cynllun hwn yn cynnwys Swyddog Prosiect Menter Siabod, a fydd yn cefnogi prosiect sy’n anelu i ddatblygu ac adfywio’r gymuned o amgylch Dolwyddelan yn Eryri, gan gefnogi grwpiau cymunedol presennol ac ychwanegu gwerth. Enghraifft arall yw Take pArt, sef gweithdy Celfyddydau Cymunedol nid er elw sy’n cynnig mynediad i gyfleusterau celf ar gyfer aelodau difreintiedig ac aelodau sydd wedi’u hallgau’n gymdeithasol o’r gymuned ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. O ganlyniad i gefnogaeth gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, roeddent yn gallu parhau â chyfleoedd ‘Ennill a Dysgu’ trwy ddarparu detholiad o gymwysterau Agored Cymru, cyfleoedd gwirfoddoli a sgiliau chwilio am waith. Nod y prosiect oedd helpu pobl dan anfantais i wneud gwahaniaeth i’w bywydau trwy ddatblygu mwy o hunanhyder a goddefgarwch tra’n dysgu sgiliau newydd a chynhyrchu gwaith i’w werthu.
41
Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, Yr Holl Barciau Cenedlaethol Disgrifiad o’r Prosiect Gydag arian gan Lywodraeth Cymru, mae’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn cynnal y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Lansiwyd y cynllun grant hwn ym mis Gorffennaf 2000, ac mae’n annog unigolion neu gymunedau o ddod o hyd i ffyrdd cynaliadwy o fyw a gweithio, tra’n gwella ac yn gwarchod diwylliant, bywyd gwyllt a thirwedd yr ardal. Yn 2012/13 a 2013/14, cyllideb flynyddol y gronfa ar gyfer pob Awdurdod Parc Cenedlaethol oedd £200,000. Gall prosiectau gael hyd at 50% o arian cyfatebol (neu hyd at 75% ar gyfer grwpiau cymunedol). Adroddodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei fod yn cefnogi rhyw 15 o brosiectau bob blwyddyn. Un enghraifft o brosiect sydd wedi derbyn cyllid yw Coed Canlas, sef cynhyrchydd mêl o fewn y Parc. Cawsant gyllid i godi adeilad pren ar gyfer eu menter. Mae boeler biomas a phaneli solar yn darparu gwres ar gyfer yr adeilad sydd wedi’i inswleiddio’n eithriadol o dda, a hwn yw canolbwynt gweithredu’r busnes.
Buddion y Prosiect Mae’n rhaid i brosiectau sy’n derbyn cyllid ddangos sut maent yn bodloni o leiaf ddau o’r pedwar amcan canlynol: amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd neu ddiwylliannol. Adrodda Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fod mwyafrif eu hymgeiswyr yn fentrau cymdeithasol neu’n grwpiau cymunedol. O ystyried ehangder yr amcanion y gall 42 42
prosiectau eu bodloni, mae buddion o ran pob un o’r pum cyfalaf: naturiol, dynol, cymdeithasol, ariannol, a chyfalaf gweithgynhyrchu. O ran astudiaeth achos Coed Canlas, roedd buddion i fioamrywiaeth wrth iddynt ddatblygu rhaglen fridio breninesau o wenyn sy’n gallu gwrthsefyll clefydau. Yn ogystal, fe wnaeth defnyddio deunyddiau naturiol lleol yn yr adeilad greu buddion economaidd lleol, a hefyd llwyddiant parhaus y busnes mewn ardal wledig, a’r defnydd o adnoddau naturiol i gynhyrchu ffynhonnell fwyd leol. Mae ymgeiswyr i’r gronfa yn gorfod dangos bod budd o fewn y Parc Cenedlaethol. Yn achos Arfordir Penfro, o gofio ardal y Parc Cenedlaethol, gall sefydliadau y tu allan i’r Parc gyflawni hyn yn aml. Felly y bu hi gyda darparwr hyfforddiant, a oedd yn darparu hyfforddiant i bobl ag anawsterau dysgu, llawer ohonynt yn byw yn y Parc, ac y bydd llawer ohonynt yn cael gwaith yn y Parc yn y pen draw. Fodd bynnag, roedd y cyfleoedd hyn ar gael lawn gymaint i’r rhai y tu allan i’r Parc.
Gwerth Ychwanegol y Parc Cenedlaethol Mae’r Parc Cenedlaethol ei hun yn cynnig yr amgylchedd lle bydd cyfleoedd yn codi. Yn achos Coed Canlas, golyga’r ecosystemau o fewn y Parc fod modd cynhyrchu mêl. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yno i weithredu fel hwylusydd, yn cefnogi rhai eraill i gyflawni canlyniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cadarnhaol.
5.0 Socio-Cultural Value
5.6
Prif Ganfyddiadau
--
Mae’n anodd pennu gwerth effaith gymdeithasolddiwylliannol Parciau Cenedlaethol Cymru, a hynny’n rhannol am fod gwahanol rannau o’r gymuned yn gweld gwerth mewn ffyrdd gwahanol. Fodd bynnag, drwy ein hymchwil a’n hastudiaethau achos, canfuom y canlynol: -- Caiff gwerth cymdeithasol-ddiwylliannol Parciau Cenedlaethol Cymru ei gyflawni o ganlyniad i’r asedau naturiol a’r asedau adeiledig sy’n bodoli o fewn ffiniau’r Parciau Cenedlaethol, yn ogystal â thrwy weithgareddau a gynhelir i fodloni diben y Parciau Cenedlaethol i hyrwyddo mwynhad a dealltwriaeth o’r Parciau Cenedlaethol; -- Mae’r astudiaethau achos a archwiliwyd yn dangos ffyrdd i allu gwella’r gwerth drwy bresenoldeb Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac asiantaethau eraill, sy’n gallu hyrwyddo’r gwerth cymdeithasolddiwylliannol i’r eithaf i bawb. Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn enghraifft arbennig o dda o hyn; -- Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cynnig gwerth cymdeithasol-ddiwylliannol, drwy’r asedau y maent yn eu rheoli’n uniongyrchol, a thrwy raglenni y maent yn eu cynnal (fel rhaglenni addysg), yn ogystal â thrwy weithredu fel hwyluswr a chynullydd i alluogi cymunedau lleol i gyflawni gwerth, fel y dangosir drwy’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy; -- Byddai angen gwaith ymchwil pellach i ddeall gwerth cymdeithasol-ddiwylliannol Parciau Cenedlaethol Cymru yn llawnach.
43
6.0 Gwasanaethau Ecosystemau Eraill a Gwerth Peidio â’u Defnyddio 6.1
Cyflwyniad
Mae gan adnoddau naturiol yr amgylchedd ran allweddol i’w chwarae yn cynnig gwerth i gymdeithas. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r cysyniad o wasanaethau ecosystem - sef buddion i bobl yn sgil adnoddau naturiol prosesau a gyflenwir gan ecosystemau - wedi’i ddefnyddio’n gynyddol i lywio’r penderfyniadau a wnawn sy’n effeithio ar yr amgylchedd. Roedd Asesiad Ecosystemau’r Mileniwm yn diffinio pedwar categori o wasanaethau ecosystem sy’n cyfrannu at les pobl, ac yn cynnig gwerth felly, bob un ohonynt yn seiliedig ar fioamrywiaeth61: 1. Gwasanaethau darparu: er enghraifft, bwyd, dŵr ffres a thanwydd; 2. Gwasanaethau rheoleiddio: er enghraifft, gwlyptiroedd yn puro dŵr, rheoleiddio’r hinsawdd drwy storio carbon, a rheoleiddio llifogydd; 3. Gwasanaethau diwylliannol: er enghraifft, hamdden, gwerthoedd ysbrydol ac esthetig, addysg; 4. Gwasanaethau cymorth: er enghraifft, ffurfiant y pridd, ffotosynthesis ac ailgylchu maethynnau. Mae gwasanaethau ecosystem yn rhan annatod o’r dull gweithredu ecosystemau sydd wedi’i hyrwyddo gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol fel ‘strategaeth ar gyfer rheoli tir, dŵr ac adnoddau byw mewn modd integredig sy’n hyrwyddo cadwraeth a defnydd cynaliadwy mewn ffordd deg’. Mae’n golygu newid sylfaenol yn
44
y ffordd y meddyliwn am yr amgylchedd naturiol a’i reoli, gan gyflwyno dull holistaidd ac integredig sy’n cydnabod bod pobl yn elfen annatod o ecosystemau. Hanfod y dull ecosystemau, sef rheoli ecosystemau cyfan a’u buddion gan ddefnyddio’r fframwaith gwasanaethau ecosystemau yw cydnabod yr ystod hon o fuddion lluosog, cydamserol, fel na chyflawnir un budd heb ddiraddio buddion eraill yn anfwriadol gan niweidio buddiolwyr eraill o bosibl, a allai gynnwys cenedlaethau’r dyfodol. Roedd Adrannau 4 a 5 yn ymdrin â’r gwasanaethau diwylliannol a ddarperir gan Barciau Cenedlaethol Cymru. Caiff y gwerthoedd o wasanaethau darparu eu cipio i raddau helaeth yn y dadansoddiad meintiol yn Adrannau 2, er bod yr astudiaeth achos ar gyfer Cwmni Buddiant Cymunedol y Cymoedd Gwyrdd yn archwilio hyn ymhellach. Mae gweddill yr Adran hon yn canolbwyntio ar wasanaethau rheoleiddio a gwasanaethau cefnogi. Mae gwerthusiad llawn o wasanaethau ecosystemau yn anodd ei asesu, ond mae’r ffigurau a roddir yn yr adran hon yn mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at ddatblygu dealltwriaeth lawnach o werth y gwasanaethau hyn. Hefyd, mae’n bwysig cydnabod gwerth peidio â defnyddio’r amgylchedd naturiol; hynny yw gwerth cynhenid yr amgylchedd, am fodoli’n unig.
Cwmni Buddiant Cymunedol y Cymoedd Gwyrdd, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog “Byddai wedi bod yn anodd sefydlu rhywbeth tebyg y tu allan i’r Parc Cenedlaethol; mae ethos Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ynghyd ag ymroddiad ac arbenigedd y staff, wedi bod yn elfen hollbwysig yn ein llwyddiant.” Gareth Ellis, Cwmni Buddiant Cymunedol y Cymoedd Gwyrdd.
Disgrifiad o’r Prosiect Sefydlwyd Cwmni Buddiant Cymunedol y Cymoedd Gwyrdd yn 2008, mewn ymateb i’r Her Fawr Werdd gan NESTA, a oedd yn cynnig cronfa wobr £1m i gymunedau ledled y DU i ddatblygu cynllun i leihau allyriadau carbon. Ysgogwyd y cais gan arbenigedd ac ymroddiad aelodau staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ond gyda brwdfrydedd a mewnbwn gan grwpiau cymunedol. Erbyn hyn mae Cwmni Buddiant Cymunedol y Cymoedd Gwyrdd yn cynnal ystod o brosiectau sy’n canolbwyntio ar helpu cymunedau i leihau allyriadau carbon, yn nodedig: -- TGV Hydro: Sefydlwyd hwn fel cwmni i ddylunio, gosod a chynnal cynlluniau hydro graddfa fach. Ei unig randdeiliad yw Cwmni Buddiant Cymunedol y Cymoedd Gwyrdd. -- Grwpiau Rheoli Coetiroedd Cymunedol: Mae’r grwpiau hyn yn rheoli coetir er mwyn gwella bioamrywiaeth a chasglu tanwydd coed.
Buddion y Prosiect Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar gynorthwyo grwpiau cymunedol o fewn y Parc Cenedlaethol. Hyd
yma, mae’r rhan fwyaf o’r grwpiau hyn wedi bod i’r dwyrain o’r parc, ond cynigir cymorth iddynt i gyd. Mae buddion y sefydliad wedi bod yn niferus: -- Llai o allyriadau carbon -- Gwell bioamrywiaeth -- Sgiliau gwell i bobl leol -- Cydlyniant cymunedol gwell -- Gwerthfawrogi’r amgylchedd naturiol yn well ar gyfer y gymuned leol Er bod y ffocws ar gefnogi cymunedau y tu fewn i’r Parc Cenedlaethol, lle gall cymunedau ymhellach i ffwrdd elwa ar yr arbenigedd, mae’r gallu ar gael i’w cefnogi. Mae hyn bellach yn cynnwys aelodau mor bell i ffwrdd â Phen-y-bont ar Ogwr. Hefyd, bydd y gadwyn gyflenwi ar gyfer TGV Hydro yn ymestyn y tu allan i’r Parc Cenedlaethol.
Gwerth Ychwanegol y Parc Cenedlaethol Y ffocws ar gyfer Cwmni Buddiant Cymunedol y Cymoedd Gwyrdd oedd adeiladu ar yr asedau naturiol sydd ar gael o fewn y Parc Cenedlaethol; roedd hyn yn cynnwys uchder a glawiad (yn arwain at ffocws ar hydro); a choetir (yn arwain at ffocws ar reoli coetiroedd). Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dal i gefnogi’r Cwmni Buddiant Cymunedol yn ariannol, a gellid gweld y ffocws ar weithredu cymunedol ar raddfa fach i leihau allyriadau carbon fel rhywbeth unigryw ymhlith awdurdodau lleol (nid oedd unrhyw awdurdod lleol arall yn gysylltiedig ag unrhyw un o enillwyr yr Her Fawr Werdd). 45 45
6.0 Gwerth Ychwanegol o Wasanaethau Ecosystemau
6.2
Cyflenwad Dŵr
Nid yw gwerth dŵr glân o angenrheidrwydd yn rhywbeth y byddwn yn ei gydnabod yn fynych, ond yn rhy aml, mewn gwlad ddatblygedig fel Cymru, cymerir yr hawl i gael gwasanaethau fel aer glân a dŵr glân yn ganiataol. Dim ond un o’r gwasanaethau rheoleiddio amrywiol yw cyflenwi dŵr; mae Asesiad Ecosystemau’r Mileniwm yn diffinio gwasanaethau rheoleiddio fel ‘y buddion a gaiff pobl o reoleiddio prosesau ecosystemau, gan gynnwys cynnal ansawdd yr aer, rheoleiddio’r hinsawdd, rheoli erydu, rheoleiddio clefydau dynol, a phuro dŵr.’62 Mae rhyw 95% o adnoddau dŵr Dŵr Cymru yn tarddu o ddŵr wyneb naill ai o storfa cronfa ddŵr neu drwy dynnu dŵr o afonydd, y mae llawer ohonynt o fewn Parciau Cenedlaethol Cymru. Ychydig iawn a ddibynnir ar gyflenwadau dŵr daear63.
Bannau Brycheiniog Mae Parthau Adnoddau Dŵr Dŵr Cymru ar draws De Ddwyrain Cymru yn gwasanaethu 1.5 miliwn o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd, Casnewydd a Chymoedd De Cymru’n bennaf. Maent hefyd yn gwasanaethu diwydiant yn ogystal â chartrefi. Mae nifer o gronfeydd dŵr crai ucheldir ym Mannau Brycheiniog sy’n gallu bwydo’r system hon, yn cynnwys Talybont, Pontsticill, y Bannau, Cantref a Llwynon, gyda chyfanswm capasiti o dros 35,000 Meglitrau (Ml).64
46
Arfordir Penfro Un o’r parthau pwysicaf yn Ne Orllewin Cymru yw Parth Adnoddau Dŵr Sir Benfro, sy’n gwasanaethu 118,000 o bobl o storfa cronfeydd dŵr yn bennaf. Caiff Gwaith Trin Dŵr Bolton Hill (y tu allan i’r Parc Cenedlaethol) ei fwydo gan y Cleddau Ddu a’r Cleddau Wen (yn y Parc Cenedlaethol) ac mae’n cyflenwi dŵr i hanner deheuol y parth, gan gynnwys Hwlffordd, Penfro, Aberdaugleddau a Dinbych-y-pysgod. Mae Gwaith Trin Dŵr y Preseli, a fwydir o Gronfa Ddŵr Llys-y-frân (y tu allan i’r Parc Cenedlaethol) a’r Cleddau Ddu (trwy Gronfa Rosebush), yn cyflenwi’r ardal ogleddol, fwy gwledig.
Eryri Mae dŵr Eryri yn darparu dŵr yfed i bobl mor bell i ffwrdd â Lerpwl a Manceinion. Mae Eryri yn cynnwys tua saith o ddeg o Barthau Adnoddau Dŵr Dŵr Cymru yng Ngogledd Cymru sy’n gwasanaethu hanner miliwn. Maent hefyd yn cyflenwi nifer o gwsmeriaid dŵr anyfadwy mawr yn yr ardal, ar Lannau Dyfrdwy yn nodedig. Ar gyfartaledd, mae Dŵr Cymru’n tynnu rhyw 800 miliwn o litrau y diwrnod (Ml y diwrnod) ar gyfer cyflenwadau dŵr cyhoeddus o’r amgylchedd65. Gellir amcangyfrif gwerth y dŵr a gyflenwir drwy’r Parciau Cenedlaethol ar £18,250 y diwrnod neu £6.7m y flwyddyn, gan gymryd mai gwerth dŵr crai yw 5c/m3. Mae’r prisiau hyn sy’n seiliedig ar gost yn tanbrisio’r gwarged defnyddwyr sylweddol iawn y mae defnyddwyr dŵr yn ei fwynhau uwchlaw’r prisiau a delir am y daioni hanfodol hwn.
Ansawdd Dŵr Mae ansawdd dŵr yn brif benderfynydd capasiti ecosystemau dŵr croyw i ddarparu ystod o wasanaethau’r farchnad a gwasanaethau nad ydynt yn wasanaethau’r farchnad. Gellir pennu gwerth buddion marchnad o welliannau mewn ansawdd dŵr yn uniongyrchol, fel gostyngiad mewn costau trin dŵr ar gyfer cyfleustodau dŵr, er enghraifft. Gall y buddion amgylcheddol sy’n deillio o ansawdd dŵr gwell, fel gwell cynhyrchiant pysgod a bywyd gwyllt dyfrol arall, gael eu cipio i ryw raddau drwy amcangyfrif yr effaith ar les dynol trwy werthoedd amwynder/hamdden a chynefinoedd. Gan ddefnyddio data o Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd, mae Morris a Camino wedi amcangyfrif y bydd gwerth o £766.4m/y flwyddyn i wella’r holl gyrff dŵr ar draws Cymru a Lloegr a ddosbarthwyd fel rhai o ansawdd cymedrol yn 2009 (ar sail safonau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) i ansawdd da erbyn 2015.66 Mae Morris a Camino67 hefyd wedi amcangyfrif y gwerth cyfartalog, cyfanswm gwerth a’r gwerth ymylol ar gyfer gwelliannau i ansawdd dŵr yn cael eu darparu gan wlyptiroedd mewndirol ac arfordirol yn y DU. Roedd eu methodoleg parodrwydd-idalu68 yn amcangyfrif gwerth ymylol gwasanaeth o’i ddarparu gan hectar ychwanegol o wlyptir mewndirol newydd ar £292 yr hectar y flwyddyn. Golyga hyn, ar gyfer pob hectar o wlyptir ychwanegol a grëir gan y Parciau Cenedlaethol, y gallai fod budd blynyddol o ryw £292.
6.0 Gwerth Ychwanegol o Wasanaethau Ecosystemau
Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac eraill yn hyrwyddo arferion defnyddio tir a rheoli tir sy’n gwella ansawdd dŵr. Mae gweithiau trin dŵr yn sicrhau bod dŵr yfed yn bodloni safonau cyfreithiol, ond maent yn fwyfwy costus i’w gweithredu. Mae’r ffocws ar wella ansawdd dŵr felly wedi symud i reoli dŵr yn y tarddiad ac yn uwch i fyny yn eu dalgylchoedd. Mae’r canlynol yn enghreifftiau o brosiectau o fewn y Parciau Cenedlaethol sy’n gweithredu’r dull dalgylch integredig: -- Mae Sefydliad Gwy ac Wysg wedi bod yn gweithio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ers 2004. Prif nod y prosiect yw adfer prosiectau cynefinoedd pysgodfeydd ar isafonydd y ddwy brif afon hon: mae’r Wysg yn tarddu ac yn llifo ar hyd y Parc Cenedlaethol hwn, tra bod afon Gwy yn mynd i mewn i’r Parc am bellter bach yn y Gelli Gandryll. -- Mae Dŵr Cymru yn berchen ar ardaloedd mawr o dir yn y Parc ac mae pob un o’r llawer o gronfeydd dŵr yfed sy’n bresennol yma. Nod Dŵr Cymru yng Nghronfa Talybont yw datblygu prosiect rheoli dalgylch er mwyn lleihau’r lefelau afliwio dŵr a siltio yn mynd i mewn i’r dŵr. Mae Dŵr Cymru hefyd yn rhedeg prosiect rheoli dalgylch ar gyfer Cronfa Ddŵr Cantref er mwyn datrys problemau afliwio dŵr a siltio. Yn 2013, rhoddodd Awdurdod Bannau Brycheiniog grant o £12,000 tuag at y prosiect rheoli dalgylch hwn.
47
6.0 Gwerth Ychwanegol o Wasanaethau Ecosystemau
6.3
Buddion Dal a Storio Carbon
Mae rheoli hinsawdd wedi’i wahaniaethu yn ddwy gydran ar wahân – y stociau carbon a’r gyfradd bresennol dal a storio carbon. Mae stociau yn bwysig ynddynt eu hunain gan eu bod yn ffynhonnell nwy tŷ gwydr bosibl o’u colli. Dal a storio carbon yw’r gwasanaeth parhaus a ddarperir. Gall pennu gwerth buddion rheoleiddio hinsawdd fod yn anodd am fod rhaid i gipio (cadarnhaol) nwyon tŷ gwydr (anwedd dŵr, carbon deuocsid (CO2), methan (CH4), oson O3) ac ocsid nitrus (N2O) gael ei gydbwyso yn erbyn rhyddhau (negyddol) nwyon tŷ gwydr i’r atmosffer yn y broses storio carbon a thrawsffurfiadau nitrogen. Er mwyn galluogi’r rhyngweithiadau rhwng y nwyon tŷ gwydr hyn, mae angen amcangyfrif o’r carbon net (neu gyfwerth) sy’n cael ei ddal a’i storio fesul hectar (e.e. tunelli metrig o garbon deuocsid cyfwerth yr hectar, t CO2e/ha). Y ddau fath o gynefin sydd ag arwyddocâd arbennig ar gyfer storio carbon yw Mawndiroedd a Choetiroedd. Mae’r mathau hyn o gynefinoedd yn bresennol ym mhob un o’r tri Pharc Cenedlaethol. Amcangyfrifir bod 54,532 hectar o fawndiroedd a 58,651 hectar o goetiroedd. Mae swyddogaeth storio carbon mawn yng Nghymru yn arwyddocaol iawn: mae pridd mawn yn cynnwys 30% o adnodd carbon pridd Cymru er mai dim ond 3% o’r arwynebedd tir yw’r mawn o bosibl, a chyfanswm y stoc carbon yw 121 Mt - bron i ddeg gwaith yn fwy na chyfanswm yr allyriadau blynyddol net o Gymru69. Mae dros 50,000 ha o fawn yn y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru, sef rhyw 13% o’r arwynebedd. Mae amrywiadau mewn 48
amcangyfrifon ar gyfer faint o garbon sydd yn cael ei ddal a’i storio fesul hectar o fawn. Adroddodd un astudiaeth fod mawndiroedd sydd mewn cyflwr da yn gallu dal a storio hyd at 4.1 t CO2e/ha y flwyddyn70. Mae’r gyfradd gymharol uchel hon o ddal a storio carbon yn berthnasol i fawnogydd sydd yn weithredol iawn yn tyfu, nodwedd nad yw i’w gweld dros lawer o’r ardal mawndir yng Nghymru. Defnyddiwyd cyfraf fwy ceidwadol o 1.83 t CO2e/ha y flwyddyn ym Mhrosiect Ailwlychu Peilot Pumlumon yng Nghymru71 a defnyddir hwn yn yr astudiaeth hon felly. Mewn adolygiad diweddar o rôl coedwigoedd dan hinsawdd sy’n newid72 amcangyfrifwyd bod coedwigoedd y DU (gan gynnwys pridd) yn storio 790 Mt C (neu 2897 Mt CO2e) ar hyn o bryd, a gall ddal a storio llawer iawn o Garbon yn amrywio o 6 i 29 t CO2e/ha y flwyddyn gan ddibynnu ar y math o goedwigaeth. Gan ystyried pris cyfredol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd sef £54 fesul tunnell fetrig CO2e ar gyfer carbon heb ei fasnachu,73 ystod flynyddol cyfraddau dal a storio carbon mawndiroedd a choetiroedd y soniwyd amdanynt uchod, a chyfanswm arwynebeddau’r cynefinoedd hyn yn y Parciau Cenedlaethol (fel uchod), credir bod y buddion dal a storio blynyddol rhwng £24.4m i £97.2m. Un o’r buddion pwysig ac arwyddocaol nad yw wedi’i gynnwys yn yr amcangyfrif uchod yw atal allyriadau nwyon tŷ gwydr trwy ddiraddio mawndiroedd. Os yw mawndiroedd yn sychu allan neu’n dechrau erydu, byddant yn dod yn allyrwyr nwyon tŷ gwydr net ac yn disbyddu’r stôr carbon.
Fel enghraifft, ym Mhrosiect Ailwlychu Peilot Pumlumon, roedd diogelu’r stôr carbon (drwy ailwlychu) yn fudd mwy sylweddol na dal a storio carbon. Amcangyfrifwyd y gellid atal allyriad o 2.5 tunnell fetrig o CO2e/ha y flwyddyn drwy ailwlychu ac adfer mawndir ucheldir (ar sail data IUCN). Byddai gwerth y gwasanaeth diogelu hwn ar yr amcangyfrifon hyn oddeutu £69 fesul hectar y flwyddyn. Mae nifer o ymyriadau rheoli ar waith ar hyn o bryd gan Barciau Cenedlaethol Cymru a phartneriaid sy’n chwarae rhan bwysig i sicrhau bod mawndiroedd yn cael eu diogelu a/neu’u hadfer. Er bod capasiti storio carbon is gan goetiroedd o gymharu â mawndiroedd, mae cynaeafu ac ailblannu coedwigoedd yn gynaliadwy yn trosglwyddo carbon i’w storio dros yr hirdymor yn y pridd ac mewn cynhyrchion coed y gellir eu defnyddio yn gyfnewid am gynhyrchion a geir fel arall o danwyddau ffosil.
Adfer Mawn yn Waun Figlen Felen, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog “Mae miloedd o dunelli metrig o garbon wedi’u harbed” Paul Sinnadurai, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Disgrifiad o’r Prosiect Er 2005, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi bod yn gweithio ar brosiect adfer mawn yn Waun Figlen Felen i’r gorllewin o’r Parc. Roedd y prosiect yn unigryw i’r graddau ei fod yn anelu i adfer mawn wedi’i erydu, yn hytrach na diogelu mawn rhag difrod. Mae mawn yn chwarae rhan bwysig yn storio carbon, ac yn fyd-eang mae mewn perygl yn sgil hawliad amaethyddol, coedwigaeth, tirlenwi a thynnu mawn. Golyga hyn yn aml, yn ogystal â gostyngiad o ran storio carbon, bod y CO2 a oedd yn cael ei storio’n flaenorol yn cael ei allyrru i’r atmosffer. Yn dilyn cais cynllunio gan Dŵr Cymru yng Nghronfa Ddŵr Crai, yn sgil cytundeb Adran 106 aethant ati i ddarparu cymorth ariannol a thechnegol i sefydlu Fforwm Rheoli Waun Figlen Felen, gyda rhanddeiliaid o’r maes academaidd, y cyhoedd, y sector preifat a’r trydydd sector i gefnogi gwaith parhaus yn yr ardal.
Buddion y Prosiect Yr ysgogydd ar gyfer y prosiect yn y lle cyntaf oedd gwella bioamrywiaeth, ond buan iawn y daeth budd ehangach swyddogaeth storio carbon mawn yn ysgogwr lawn cymaint ac yn fudd i’r prosiect. Cyn gynted ag y dechreuodd y gwaith adfer mawn, adroddwyd bod dŵr glanach i’w weld mewn ogofeydd lleol yn Dan-yr-Ogof. Budd allweddol arall yw’r dull gweithio mewn partneriaeth, sydd wedi bod yn arbennig o lwyddiannus, yn enwedig o ran dod â’r rheiny sy’n dibynnu ar yr amgylchedd naturiol am eu bywoliaethau ynghyd â sefydliadau cadwraeth. Mae’r dull hwn o weithio gyda phorwyr yn cael ei ddwyn yn ei flaen mewn ardaloedd eraill hefyd, er enghraifft, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn darparu cymorth i ymgeiswyr i gynllun amaeth-amgylcheddol Glastir Llywodraeth Cymru. Mae ail brosiect wedi cael cefnogaeth gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; prosiect yw hwn sy’n cael ei arwain gan arlunydd lleol, Pip Woolf, sydd wedi dechrau helpu adfer ardal 300 metr o hyd o fawn ucheldir wedi erydu ym Mhen Trumau yn y Mynyddoedd Duon. Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy, ac wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr a gafodd eu recriwtio trwy Gwmni Buddiant Cymunedol y Cymoedd Gwyrdd (gweler yn flaenorol).
Yn dilyn ymlaen o’r gwaith cychwynnol yn Waun Figlen Felen, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi gobeithio cynnal prosiectau tebyg mewn mannau eraill. Oherwydd ansawdd y cynefin, mae angen dull o weithio penodol i’r safle bob tro. Er enghraifft, yn SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) y Mynyddoedd Duon, gan weithio yn Rhan Ogleddol y SoDdGA, mewn partneriaeth â Natural England, cwblhawyd ail brosiect adfer mawn. Maent yn chwilio am gyllid ar hyn o bryd ar gyfer trydydd prosiect ar graith erydiad sy’n croesi ffin Cymru/Lloegr. Yn ychwanegol at y buddion anuniongyrchol hyn o ledaenu arfer da mewn rheoli ac adfer mawn y tu allan i’r parc, mae buddion uniongyrchol i leihau allyriadau carbon drwy’r gwaith hwn.
Gwerth Ychwanegol y Parc Cenedlaethol Bu modd cyflawni’r gwaith ar adfer mawn, yn rhannol, yn sgil y ffaith fod y dirwedd a’r cynefin wedi’u dynodi, gan sicrhau bod eu pwysigrwydd yn cael eu cydnabod. Yn ogystal, golygai’r arbenigedd staff o fewn Awdurdod y Parc Cenedlaethol bod modd gwireddu’r gwerth hwn.
49 49
6.0 Gwerth Ychwanegol o Wasanaethau Ecosystemau
6.4
Atal Llifogydd
Mae’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru (Strategaeth Genedlaethol), a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2011 yn datgan bod perygl llifogydd yn un o bob chwe eiddo yng Nghymru. Nid oes modd atal llifogydd, gan fod hon yn broses naturiol. Fodd bynnag, gellir lleihau’r risgiau y mae’n eu creu a’r canlyniadau wedi hynny os cymerir camau priodol i liniaru a lleihau eu heffeithiau. Gall newidiadau i arferion datblygu a rheoli tir o fewn dalgylchoedd afonydd mewn Parciau Cenedlaethol helpu lleihau difrod llifogydd a’i gostau. Daw digwyddiadau llifogydd â risg i fywyd, difrod i eiddo, seilwaith, cyflenwad cyfleustodau a thir amaethyddol. Bydd hyn yn achosi tarfu yn ystod y broses adfer a gall hefyd effeithio ar gyflogaeth a chadwyni cyflenwi gan y gall busnesau lleol roi’r gorau i fasnachu. Amcangyfrifwyd mai cost ariannol llifogydd 2007 yn Lloegr oedd £3bn74. Rhyw £200m75 yw costau blynyddol cyfartalog llifogydd yng Nghymru. Ni ellir gorbwysleisio effaith economaidd llifogydd ar lefel bersonol, ranbarthol a chenedlaethol. Fodd bynnag, efallai mai’r effaith hirdymor fwyaf nodedig yw’r effaith ar les y rhai sydd wedi dioddef llifogydd. Mae rhagolygon newid hinsawdd yn awgrymu y bydd patrymau’r tywydd yn parhau i newid ac y bydd Cymru’n gweld cynnydd o ran dwysedd glawiad, amlder stormydd sydyn, a chynnydd yn lefelau’r
50
môr. O’u cymryd gyda’i gilydd, mae’r ffactorau hyn yn debygol o gynyddu tebygolrwydd a chanlyniadau llifogydd76. Nid canlyniad tywydd difrifol yn unig yw llifogydd, ond gall datblygu amhriodol, defnydd amhriodol o dir a phenderfyniadau rheoli tir eu gwaethygu hefyd. Fe wnaeth polisi’r Llywodraeth yn ‘Making Space for Water’77 ac Adolygiad Pitt yn dilyn llifogydd Haf 2007, dynnu sylw at yr angen i weithio mwy gyda phrosesau naturiol. Mae rheoli llifogydd naturiol, a ddiffinnir yma fel newid, adfer neu ddefnyddio nodweddion y dirwedd, yn cael ei hyrwyddo yn y DU fel ffordd newydd o leihau perygl llifogydd. Nid yn unig y gall newid defnydd tir i fyny’r afon yn y dalgylch liniaru llifogydd i lawr yr afon trwy ddefnyddio prosesau naturiol, gall hefyd gael buddion economaidd i’r rhai sy’n berchen ar y tir yn y dalgylch78. Daeth Foresight Future Flooding Project79 a Foresight Land Use Futures Project80 i’r casgliad bod rhai o’r dulliau mwyaf effeithiol a buddiol o ran cost o leihau perygl llifogydd yn cynnwys gwell rheolaeth ar dir, sef storio ar raddfa dalgylch, ac ailgysylltu afonydd â’u gorlifdir. Mae’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru yn gweithio gyda sefydliadau partner i geisio lleihau perygl llifogydd trwy brosesau naturiol, ymhlith buddion eraill. Er enghraifft, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gweithio’n agos gyda phorwyr comin y Mynydd
Du (lle mae Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig y Mynydd Du) i’w helpu i ddatblygu’u cynigion ar gyfer rheoli cynefinoedd i’w hariannu o dan Gynllun Tir Comin Glastir Llywodraeth Cymru. Mae gwaith yn debygol o gynnwys diogelu ardaloedd mawr o fawn moel, ail-hadu’r ardaloedd hyn â hadau grug a thorri tocion grug. Bydd hyn yn ei dro yn gwella potensial y llystyfiant ar yr wyneb a’r mawn oddi tano i ddal dŵr. Bydd helpu’r porwyr i sicrhau contractau Glastir hefyd yn helpu adeiladu cydnerthedd economaidd y porwyr, a bydd hynny yn ei dro yn gwella cydnerthedd y gymuned ffermio tir uchel.
6.5
Gwasanaethau Cymorth
Disgrifir Gwasanaethau Cymorth gan Asesiad Ecosystemau’r Mileniwm fel y ‘rhai sy’n angenrheidiol i gynhyrchu’r holl wasanaethau ecosystem eraill. Maent yn wahanol i wasanaethau darparu, rheoleiddio a diwylliannol am fod eu heffeithiau ar bobl naill ai’n anuniongyrchol neu’n digwydd dros gyfnod hir iawn, tra bod newidiadau yn y categorïau eraill yn cael effeithiau cymharol uniongyrchol a thymor byr ar bobl.’81 Mae enghreifftiau o wasanaethau cefnogi yn cynnwys ffurfiant y pridd, ailgylchu maethynnau, a rheoli erydu. Bydd rhaglenni cadwraeth effeithiol gan yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn ychwanegu gwerth trwy wasanaethau cymorth gwell.
6.0 Gwerth Ychwanegol o Wasanaethau Ecosystemau
Mae rheoli tir effeithiol82 yn effeithio ar gyflwr gwasanaethau cymorth, ac mae mewnbwn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cefnogi ffermwyr a phorwyr i gymryd rhan mewn cynlluniau fel cynllun Glastir Llywodraeth Cymru (gweler uchod) yn creu gwerth ychwanegol.
6.6
Gwerth Peidio â Defnyddio
Un cysyniad canolog economeg ecolegol yw Cyfanswm Gwerth Economaidd; mae Defra wedi datblygu fframwaith83 sy’n amlinellu elfennau gwerth peidio â defnyddio. Mae gwerth peidio â defnyddio yn cyfeirio at y gwerth y bydd pobl yn ei roi ar yr amgylchedd hyd yn oed os nad ydynt erioed wedi defnyddio ac na fyddant fyth yn defnyddio’r amgylchedd ar gyfer hamdden neu elw economaidd. Dangosir y rhain yn Ffigur 8. Rhennir gwerthoedd peidio â defnyddio i dri grŵp pendant: 1. Gwerth bodoli – gall unigolyn roi gwerth ar yr amgylchedd naturiol hyd yn oed os nad yw fyth yn ei ddefnyddio. 2. Gwerth cymynrodd – gall unigolion roi gwerth ar yr amgylchedd naturiol fel cymynrodd i genedlaethau’r dyfodol.
Awgrymodd papur gweithio gan Defra ar werth Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn Lloegr ‘o ystyried mai ‘cadwraeth’ yw diben cyntaf Parciau Cenedlaethol; gellid dadlau y gall gwerthoedd peidio â defnyddio, yn ddamcaniaethol, fod yn elfen sylweddol o werth cyffredinol y Parciau Cenedlaethol.’84 Mae gwerthoedd peidio â defnyddio yn esbonio pam mae pobl yn dewis rhoi i elusennau heb unrhyw ddisgwyliad y byddan nhw eu hunain yn elwa. Gall graddfa rhoddion o’r fath ein helpu i fesur y gwerth y mae pobl yn ei roi ar gadwraeth yr amgylchedd. Fe wnaeth yr Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol ddadansoddi rhoddion etifeddiaeth at elusennau amgylcheddol85, gan awgrymu pe bai rhoddwyr wedi bwriadu i’w hincwm etifeddiaeth gael ei wario ar gefn gwlad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu warchodfeydd y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), byddem wedi gallu amcangyfrif gwerth peidio â defnyddio seiliedig ar gymynroddion o ryw £219 yr hectar o gefn gwlad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a £190 yr hectar o warchodfeydd RSPB ar gyfer 2008/09. Fodd bynnag, nodwyd nad yw dewisiadau rhoddwyr ynglŷn â dyrannu’u cymynroddion yn hysbys, ac mae’r ffigurau hyn felly yn dueddol o oramcangyfrif elfen amgylcheddol y cymynroddion hyn.
Ffigur 8: Gwerth peidio â defnyddio, wedi’i addasu o Defra, canllaw cyflwyniadol i wasanaethau ecosystemau
Gwerth peidio â defnyddio
I eraill
Anhunanoldeb
Bodoli
Cymynroddion
3. Gwerth anhunanoldeb: gall unigolion roi gwerth ar y ffaith y gall pobl eraill ddefnyddio’r amgylchedd naturiol, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu gwneud hynny’n bersonol.
51
Tirwedd Fyw Cwm Tawe Uchaf, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Disgrifiad o’r Prosiect Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog sy’n rhedeg y prosiect hwn, a’i nod yw adfer, ailgreu ac ailgysylltu cynefin Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth blaenoriaeth er budd i fywyd gwyllt. Yn benodol, daw ag ardaloedd o gynefin dan reolaeth briodol ar gyfer britheg y gors, sydd wedi gostwng mewn niferoedd dros y blynyddoedd diwethaf. Canolbwyntiodd cam cyntaf y prosiect, a ariannwyd gan WREN86, ar adfer cynefinoedd mewn pedair gwarchodfa natur yn cael eu rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt; roedd tair o’r rhain yn warchodfeydd natur newydd. Mae dwy o’r gwarchodfeydd yn y Parc Cenedlaethol ar yr ucheldiroedd, ac mae dwy y tu allan yn Ystradgynlais. Mae cynlluniau ar droed ar gyfer cam dau, a fydd yn gweithio gyda phartneriaid ac yn cynnwys yr ardaloedd rhwng y gwarchodfeydd natur. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ymgynghori â’r gymuned ynghylch eu gweledigaeth ar gyfer beth fyddai hyn yn ei gwmpasu.
52 52
Buddion y Prosiect Mae gwerth peidio â defnyddio, yn ôl ei union natur, yn anodd ei ddiffinio. Fodd bynnag, y disgwyliad o gynnwys y gymuned wrth ddylunio ail gam y prosiect yw y byddant wedyn yn rhoi mwy o werth ar y gwelliannau i’r amgylchedd lleol o ganlyniad i hynny. Gan fod hanner y prosiect y tu allan i’r Parc Cenedlaethol, mae hyn yn dangos sut gall yr effaith ‘gollwng drwyddo’ fod yn gymwys i werthoedd peidio â defnyddio, a gwerth y dirwedd, yn ogystal â chyfeirio effaith economaidd.
Gwerth Ychwanegol y Parc Cenedlaethol Mae’r ffaith mai cadwraeth yw prif ddiben Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn helpu ei gwneud hi’n haws cefnogi prosiectau fel hyn. Ac mae’n golygu efallai y gall cynefinoedd pwysig, y mae angen eu hadfer yn aml, gael eu hadfer o hyd.
6.0 Gwerth Ychwanegol o Wasanaethau Ecosystemau
6.7
Prif Ganfyddiadau
Mae Parciau Cenedlaethol Cymru yn gallu cynnig llawer iawn o werth o ran y nwyddau a’r gwasanaethau a ddarperir gan eu hecosystemau. Daw’r gwerth hwn ar ffurf buddion fel dŵr glân, storio carbon, ac aer glân. Ni chaiff y gwerth hwn ei gipio bob amser fel allgynnyrch a GYC, ond mae’n bwysig i gymunedau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. -- Amcangyfrifodd yr astudiaeth hon mai gwerth y cyflenwad dŵr sy’n tarddu o’r Parciau Cenedlaethol yw oddeutu £6.7m yn flynyddol; -- Amcangyfrifir bod gwerth carbon sy’n cael ei ddal a’i storio trwy fawn a choetiroedd yn y Parciau Cenedlaethol rhwng £24.4m a £97.2m; -- Ar gyfer pob hectar o wlyptir ychwanegol a grëir yn y Parciau Cenedlaethol, gallai fod budd blynyddol o ryw £292 o bosibl; a -- Gellir gwella’r gwerth hwn gan bresenoldeb yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, gyda chadwraeth fel y nod cyntaf a chyffredinol ganddynt. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol wedi symud i fwy o rôl hwylusydd, yn gweithio i gynnig arbenigedd i eraill a chyflawni mewn partneriaeth. Golyga hyn y gall y gwerth a ddarparant ymestyn ymhellach fyth.
53
7.0 Casgliadau Mae angen deall pwysigrwydd a gwerth y Parciau Cenedlaethol i Gymru yng nghyd-destun y fframwaith Cyfanswm Gwerth Economaidd. Mae’r astudiaeth hon yn ystyried nid yn unig effaith economaidd fesuradwy amgylcheddau’r Parciau Cenedlaethol, ond hefyd cyfraniad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ehangach y Parciau. Mae prif ganfyddiadau’r dadansoddiad fel a ganlyn. -- I Gymru, mae’r amgylchedd yn ffynhonnell mantais gystadleuol. Ni ddangosir hyn mwy nag yn y Parciau Cenedlaethol lle mae 38% o gyflogaeth yn uniongyrchol gysylltiedig â’r amgylchedd, o gymharu ag 17% ar gyfer Cymru gyfan. -- Mae Amgylcheddau’r Parciau Cenedlaethol yn cyfrif am 10,738 o swyddi uniongyrchol o fewn ffiniau’r Parciau Cenedlaethol. Caiff 2,033 o swyddi pellach eu creu yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru. Mae hyn, fodd bynnag, yn tanbrisio’n sylweddol gyfraniad ehangach y Parciau Cenedlaethol i economi ymwelwyr Cymru. Mae’n nodedig bod gweithgarwch economaidd sy’n gysylltiedig â diogelu a gwella’r amgylchedd (gan gynnwys gweithgarwch yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) yn cael ei orbwyso’n fawr gan raddfa gweithgarwch economaidd sy’n deillio’i werth o ansawdd yr amgylchedd. -- Mae gan y Parciau Cenedlaethol berthynas unigryw ag economïau rhanbarthol. Mewn termau economaidd, mae ffiniau’r parciau yn hydraidd, ac mewn ystyr economaidd, mae ffiniau’r Parciau Cenedlaethol yn artiffisial braidd. Mae’r ‘effaith lleugylch’ yn disgrifio’r buddion a gaiff cymunedau a busnesau y tu allan i ffiniau’r Parciau o’r Parciau Cenedlaethol. Ar draws y tri Pharc Cenedlaethol, mae 31% o swyddi yn y Parciau yn cael eu llenwi gan bobl sy’n byw y tu allan i ffiniau’r Parciau. Mae twristiaid sy’n ymweld â Chymru yn 54
uniaethu â’r Parciau Cenedlaethol, ond ni chânt eu cyfyngu gan ffiniau Parciau Cenedlaethol, ac nid ydynt o angenrheidrwydd yn ymwybodol ohonynt. -- Mae’r Parciau Cenedlaethol, gyda’u tirweddau arfordirol ac ucheldirol eiconig, yn chwarae rhan yn economi Cymru sy’n fwy sylweddol nag y byddai eu cyfran o’r boblogaeth yn ei awgrymu. Mae statws Parc Cenedlaethol yn rhoi proffil i Arfordir Penfro, Bannau Brycheiniog ac Eryri na welir ei debyg mewn rhannau eraill o Gymru. Mae’r Parciau yn darparu ‘brandiau’ twristiaeth cryf sy’n adnabyddadwy i ymwelwyr cartref ac ymwelwyr rhyngwladol, ac sy’n cyfleu negeseuon cadarnhaol ynglŷn â Chymru fel lle i fyw, i weithio neu i ymweld ag ef. -- Ymhellach nag effeithiau economaidd, mae’r Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu at ansawdd bywyd mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r Parciau Cenedlaethol yn adnodd hamdden. Canfu arolwg a gomisiynwyd gan yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol fod 65% o ymatebwyr y DU wedi ymweld â Pharc Cenedlaethol yn y flwyddyn flaenorol, yn codi i 73% ar gyfer ymatebwyr o Gymru. Disgrifiwyd Parciau Cenedlaethol yn y gorffennol fel “Ffatrïoedd Lles”. Mae tri Pharc Cenedlaethol Cymru yn cynnig mynediad i le agored, sy’n galluogi amrywiaeth fawr o weithgareddau sy’n fuddiol i iechyd a lles meddwl a chorfforol unigolion. -- Mae’r Parciau Cenedlaethol yn gyfoethog o ran asedau diwylliannol, gan gynnwys yr amgylchedd hanesyddol. Un o ddibenion statudol y Parciau Cenedlaethol yw hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau priodweddau arbennig y Parciau Cenedlaethol gan y Cyhoedd. Gall gwella cyfalaf cymdeithasol, trwy ddarparu rhaglenni addysg, rhaglenni cynhwysiant cymdeithasol a rhaglenni
datblygu cymunedol ychwanegu at werth sylfaenol yr asedau a geir o fewn Parciau Cenedlaethol. -- Darperir ystod o wasanaethau ecosystem gan y Parciau Cenedlaethol hefyd, ac ni chaiff gwerth y rhain ei gipio bob amser ar ffurf mesurau allgynnyrch a GYC, ond mae’n bwysig i gymunedau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Daw gwerth gwasanaethau rheoleiddio ar ffurf buddion fel dŵr glân, storio carbon, ac aer glân. Amcangyfrifir bod gwerth y cyflenwad dŵr sy’n tarddu o Barciau Cenedlaethol yn £6.7m y flwyddyn. Amcangyfrifir bod gwerth carbon sy’n caei ei ddal a’i storio drwy fawn a choetir yn y Parciau Cenedlaethol rhwng £24.4m a £97.2m. -- Er bod buddion amlwg i Barciau Cenedlaethol - boed yn fuddion economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol - mae gwerth anniffiniol i’r amgylchedd hefyd nad yw mor hawdd ei gipio. Mae gwerth peidio â defnyddio yn cyfeirio at y gwerth y bydd pobl yn ei roi ar yr amgylchedd hyd yn oed os nad ydynt erioed wedi defnyddio ac na fyddant fyth yn defnyddio’r amgylchedd ar gyfer hamdden neu elw economaidd. Rhan o’r sail resymegol ar gyfer y Parciau Cenedlaethol yw gwarchod yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol er ei fwyn ei hun, beth bynnag yw’r cyfraniad at ansawdd bywyd trwy feysydd eraill. -- Mae cydweddu amlwg rhwng y gwerthoedd a’r effeithiau uchod a diben statudol a gweithgareddau’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Canfyddir yn aml fod dynodiad Parc Cenedlaethol yn gosod cyfyngiadau ar ddatblygu economaidd. Fodd bynnag, mae hwn yn symleiddiad sy’n anwybyddu gwerth a chyfraniad cyffredinol yr amgylchedd y bwriadwyd i statws Parc Cenedlaethol eu gwarchod a’u gwella.
Troednodiadau
1
Llywodraeth Cymru, Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Twristiaeth 2013-2020: Partneriaeth ar gyfer Twf. 2 T Hyde a’r Athro P Midmore (2006), Valuing our Environment: Economic Impact of the National Parks of Wales. 3 Data ar ardaloedd, poblogaeth a niferoedd ymwelwyr yn yr Adran hon wedi’i gymryd o http://www.nationalparks.gov.uk/ learningabout/whatisanationalpark/factsandfigures, (mynediad 23 Gorffennaf 2013). 4 Llywodraeth Cymru, Taking the Long View: Ymgynghoriad ar y Datganiad Polisi drafft ar gyfer Tirweddau Gwarchodedig yng Nghymru, Mehefin 2013. 5 Datganiad polisi ar gyfer y Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. 6 Llywodraeth Cymru (2010), Cymru Fyw – Fframwaith Newydd ar gyfer Ein Hamgylchedd, Ein Cefn Gwlad a’n Moroedd, Ymgynghoriad. 7 Cyfoeth Naturiol Cymru, Cynllun Busnes 2013-14, http:// naturalresourceswales.gov.uk/content/docs/pdfs/our-work/ aboutus/business-plan-2013-2014-E.pdf?lang=en [mynediad Gorffennaf 2013]. 8 Mae Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) yn fesur o gyfanswm gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir gan economi; mae’n mesur gwerth allgynnyrch economaidd llai cost mewnbynnau rhyngol. 9 Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2012), UK Business: Activity, Size and Location 2012. 10 Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a dadansoddiad Arup. 11 Yn seiliedig ar ganfyddiadau adroddiad yn 2013 ar Barciau Cenedlaethol Lloegr o’r enw ‘Valuing England’s National Parks’. Nodwch fod gwahaniaethau mewn GYC yn digwydd yn sgil gwahaniaethau o ran strwythur sectorau, cyfraddau cyflogaeth a lefelau cynhyrchiant yng Nghymru a Lloegr. Mae mân wahaniaethau hefyd yn y dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo GYC. 12 SYG (2012), Regional GVA NUTS1. 13 Mae uned fusnes yn golygu menter neu ran o fenter neu ran o hynny (e.e. gweithdy, ffatri, warws, swyddfa, mwynglawdd neu ddepo) wedi’i lleoli mewn lle a nodir yn ddaearyddol). 14 SYG (2013) Characteristics of National Parks, 2011.
15
Arweiniwyd y Bartneriaeth Gwerth ein Hamgylchedd gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a daeth â phrif sefydliadau sy’n gweithio ar hyd a lled Cymru ynghyd: Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. 16 Tourism Associates gyda Geoff Broome Associates ar gyfer y Bartneriaeth Gwerth ein Hamgylchedd (2003), Gwerth ein Hamgylchedd: Effaith Economaidd Amgylchedd Cymru. 17 Dr T Hyde a’r Athro P Midmore (2006), Valuing our Environment: Economic Impact of the National Parks of Wales. 18 Gellir gweld manylion pellach am y fethodoleg yn y Nodyn Technegol sy’n cyd-fynd â’r astudiaeth hon. 19 Gellir gweld dadansoddiad manylach o’r canlyniadau yn Nodyn Technegol sy’n cyd-fynd â’r astudiaeth hon. 20 RMG Clarity (2012), National Parks Survey. 21 Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2013), Characteristics of National Parks – 2011. 22 SYG, Cyfrifiad 2001. 23 Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (2012), Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Pharc Cenedlaethol Eryri, Parciau Cenedlaethol: Cefnogi Lles Economaidd. 24 Dr T Hyde a’r Athro Prof P Midmore (2006), Valuing our Environment: Economic Impact of the National Parks of Wales. 25 SYG, UK Business: Activity, Size and Location - 2012. 26 Llywodraeth Cymru, Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Twristiaeth 2013-2020: Partneriaeth ar gyfer Twf 27 Arup ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (2012), Asesiad Capasiti Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Eryri. Cynhaliwyd y dadansoddiad gan ddefnyddio methodoleg Llywodraeth Cymru. 28 Mae data STEAM yn mesur gweithgarwch twristiaeth yn seiliedig ar ystod o ffynonellau gan gynnwys darparwyr llety ac atyniadau ymwelwyr. Mae’r amcangyfrifon o wariant ymwelwyr a ddeilliwyd o ddata STEAM wedi’u seilio ar wariant cyfartalog fesul ymwelydd. Mae’r amcangyfrifon hyn yn cynnwys holl wariant ymwelwyr pa un a yw’r gwario’n digwydd o fewn ffiniau Parciau Cenedlaethol neu yn rhywle arall 29 Nodwch fod ffigurau ar gyfer Sir Benfro yn cynnwys ymwelwyr â Sir Benfro yn hytrach na’r Parc Cenedlaethol ei hun.
30
Llywodraeth Cymru (2011), Ymweliadau ag Atyniadau Twristiaid yng Nghymru 2011. 31 Cymdeithas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol y DU. 32 RMG Clarity (2012), Arolwg Parciau Cenedlaethol. 33 Ymgyrch Croeso Cymru Gwanwyn 2013 yn y DU ac Iwerddon. 34 Llywodraeth Cymru, Arolwg Ymwelwyr i Gymru 2011. 35 Lynn Jones Research Limited, Arolwg o Ymwelwyr Bannau Brycheiniog. 36 Yn ôl Ymwelwch â Sir Benfro. 37 Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Measuring National Wellbeing: Measuring What Matters - National Statistician’s Reflections on the National Debate on Measuring National Well-being, Gorffennaf 2011, www.ons.gov.uk/ons/guide-method/userguidance/wellbeing/publications/measuring-what-matters-national-statisticians-reflections-on-the-national-debate-onmeasuring-national-wellbeing.pdf. 38 Gwefan NHS Choices, http://www.nhs.uk/Conditions/ stressanxiety- depression/Pages/improve-mental-wellbeing.aspx [cyrchwyd 12 Chwefror 2013]. 39 Cumulus Consultants Ltd ac ICF GHK ar gyfer Parciau Cenedlaethol Lloegr, Valuing England’s National Parks, Mai 2013 (tud58). 40 Defra, National Park Authorities: Assessment of Benefits – papur gweithio, Mai 2011 Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU (2011) The UK National Ecosystem Assessment Technical Report. UNEP-WCMC, Caergrawnt. 41 2011 Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU (2011) The UK National Ecosystem Assessment Technical Report. UNEPWCMC, Caergrawnt. 42 Thompson Coon et al., Does Participating in Physical Activity in Outdoor Natural Environments Have a Greater Effect on Physical and Mental Wellbeing than Physical Activity Indoors? Adolygiad Systematig, cyhoeddwyd yn “Environmental Science and Technology”, 4 Chwefror 2011. 43 Fel yn yr erthygl Wales and the Well-being Factories; http://www. bevanfoundation.org/blog/wales-and-the-well-being-factories/ [cyrchwyd 12 Chwefror 2013]. 44 Fel y dyfynnwyd yn Cumulus Consultants Ltd ac ICF GHK ar gyfer Parciau Cenedlaethol Lloegr, Valuing England’s National Parks, Mai 2013.
55
45
Ymchwil Beaufort ar gyfer Partneriaeth Cyrchfan Sir Benfro, Arolwg Ymwelwyr Sir Benfro 2011-12: Adroddiad Terfynol, Gorffennaf 2011 – Mehefin 2012. 46 Er enghraifft, fel y disgrifiwyd yn Morris, J., Hardman, A. 1997 Walking to health, Sports Medicine, 23(5): 306-332. 47 The Tourism Company ar gyfer Cyngor Cefn Gwlad Cymru, The Benefits to Business of the National Trails in Wales, (Mawrth 2006). 48 Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU (2011), op. cit., Pennod 16. 49 Fel y disgrifiwyd gan yr Athro Ross Gibson, Coleg y Celfyddydau Sydney, yn What is a Cultural Asset? http://culturemap.org.au/ page/what-cultural-asset. 50 Ecotec ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Loteri Genedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cadw, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Llywodraeth Cymru a Croeso Cymru, Gwerth Amgylchedd Hanesyddol Cymru, Medi 2010, http://cadw.wales.gov.uk/docs/cadw/publications/ ValuingWelshHistoricEnvironment_EN.pdf. 51 Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU (2011), op. cit., Pennod 16. 52 Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU (2011), op. cit. 53 Fel yr awgrymwyd, er enghraifft, yn Defra, op cit., Mai 2011. 54 Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. 55 Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cynllun Gwella 2012-13, Rhan 1. 56 Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU (2011), op. cit. 57 Llywodraeth Cynulliad Cymru, y 3ydd Adroddiad Blyndydol ar Gynhwysiant Cymdeithasol yng Nghymru “Hyrwyddo Cynhwysiant Cymdeithasol”, 2003. 58 Parciau Cenedlaethol Cymru, Parciau Cenedlaethol yng Nghymru: Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant 2012-14. 59 Gellir cael mwy o fanylion yr enghreifftiau hyn yn Parciau Cenedlaethol yng Nghymru: Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant 2012-14. 60 Parciau Cenedlaethol Cymru, Parciau Cenedlaethol yng Nghymru: Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant 2012-14.
56
61
Asesiad Ecosystemau’r Mileniwm, 2005. Ecosystems and Human Well-being: Synthesis, Island Press, Washington, DC. 62 Asesiad Ecosystemau’r Mileniwm, 2005. Ecosystems and Human Well-being: Policy Responses, Cyfrol 3, Island Press, Washington, DC. 63 Dŵr Cymru (2012) Cynllun Terfynol Rheoli Adnoddau Dŵr, http://www.dwrcymru.com/en/Environment/Water-Resources. aspx. 64 Dŵr Cymru (2012), ibid. 65 Dŵr Cymru (2012) , ibid. 66 Morris, J. a Camino, M. (2010) Economic assessment of Freshwater, Wetland and Floodplain ecosystem services. UK Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol, Prifysgol Cranfield, Cranfield. 67 Morris, J. a Camino, M, ibid. 68 Parodrwydd i dalu yw’r swm uchaf y byddai unigolyn yn barod i’w dalu, ei aberthu neu ei gyfnewid er mwyn cael da neu i osgoi rhywbeth annymunol, fel llygredd. 69 Alonso et al. (2012) carbon storage by habitat - Review of the evidence of the impacts of management decisions and condition on carbon stores and sources. Adroddiadau Ymchwil Natural England, Rhif NERR043. 70 ECOSSE(2007). Estimating Carbon in Organic Soils Sequestration and Emissions. 71 http://www.montwt.co.uk/pumlumon.html. 72 Read et al. (2009) Combating climate change – a role for UK forests. An assessment of the potential of the UK’s trees and woodlands to mitigate and adapt to climate change. Y Llyfrfa, Caeredin. 73 Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (2011). A brief guide to the carbon valuation methodology for UK policy appraisal. 74 Cymerwyd o Adroddiad Asiantaeth yr Amgylchedd: The cost of Summer 2007 floods in England. 75 Cymerwyd y Ffigur o Adroddiad Asiantaeth yr Amgylchedd ‘Llifogydd yng Nghymru yn y Dyfodol: amddiffynfeydd rhag llifogydd’ (2010). 76 Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru (2011). 77 Defra (2005) Making Space for Water.
78
Natural England (2013) Valuing England’s National Parks – Adroddiad Terfynol. 79 Evans, et al. (2004) Foresight. Future Flooding. Scientific Summary: Cyfrol II. Managing future risks. Swyddfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Llundain. 80 Newbery et al. (2010). Land use futures : Making the most of land in the 21st Century. Foresight Swyddfa’r Llywodraeth ar gyfer Gwyddoniaeth, Yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, HMSO. 81 Asesiad Ecosystemau’r Mileniwm, 2005. ibid, Cyfrol 3, Island Press, Washington, DC. 82 Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU (2011), op. cit. 83 Gweler Defra, An introductory guide to valuing ecosystem services, 2007, http://archive.defra.gov.uk/environment/policy/ naturalenviron/documents/eco-valuing.pdf. 84 Defra, National Park Authorities: Assessment of Benefits – papur gweithio, Mai 2011. 85 Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU (2011), op. cit. 86 Busnes nid er elw yw WREN sy’n darparu cyllid o dan y Gronfa Cymunedau Tirlenwi.