Lle I Enaid Gael Llonydd: Gwanwyn 2010

Page 1

1

Gwanwyn 2010

lle I enaid gael llonydd cylchlythyr Parciau Cenedlaethol Cymru Wrth i mi eistedd yma’n rhoi pin ar bapur (a hithau’n fis Mai cofiwch), mae’r awyr yn ddisglair a’r haul fry uwchben, ond mae’r oerni yn yr aer yn f’atgoffa i o’r gaeaf hir a pharhaol y mae pob un ohonom wedi’i ddioddef, yn enwedig yn y Parciau Cenedlaethol. Fel un sy’n dragwyddol ffyddiog, edrychaf ymlaen at haf brafiach a chynhesach! Eleni, yr etholiad cyffredinol sydd wedi cael y sylw pennaf yn y newyddion, ac er mawr ofid i mi yr adroddaf na thalwyd yr un sylw i faterion amgylcheddol a pholisïau dichonol ag y gwnaed yn 2009, ac ni chawsant eu harchwilio'r un fath. Mae’r methiant yn Copenhagen ym mis Rhagfyr i sicrhau cytundeb byd-eang ystyrlon ar newid yn yr hinsawdd wedi tynnu’r gwynt o’r hwyliau gwleidyddol; nid arweiniodd yr etholiad at broffil uwch i broblemau amgylcheddol, ond gellid dweud yr un peth am y rhan fwyaf o’r polisïau. Gyda lwc, yn dilyn yr etholiad yr eir ati i dalu sylw teilwng i broffil yr amgylchedd a materion eraill sy’n gysylltiedig ag egwyddorion y Parciau Cenedlaethol. Bydd angen i Lywodraeth y DU ymgynefino â’r

math o lywodraeth gydsyniol, glymbleidiol a welsom yng Nghymru trwy’r rhan fwyaf o fodolaeth y Cynulliad rhwng 1999 a heddiw. Â llai na deuddeng mis ar ôl tan etholiad Cynulliad Cymru yn 2011, bydd y gwaith yn trosglwyddo i godi proffil yr amgylchedd a’r Parciau Cenedlaethol, i sicrhau eu bod yn berthnasol i’r partïon gwleidyddol wrth iddynt droi at ysgrifennu eu maniffestos datganoledig. Mae nodweddion arbennig y Parciau Cenedlaethol yn haeddu cael eu gwarchod a’u gwneud yn hygyrch, ac mae hyn wedi arwain at arbenigedd yr ydym yn awyddus i’w rannu y tu mewn, a’r tu hwnt, i’r llinellau ar y mapiau.

Dyddiadau i’r Dyddiadur 19 –23 Gorffennaf: Sioe Frenhinol Cymru 26 Gorffennaf–1 Awst: Wythnos y Parciau Cenedlaethol thema: Treftadaeth Ddiwylliannol 31 Gorffennaf–7 Awst: Yr Eisteddfod Genedlaethol, Glynebwy 20 – 23 Medi: Cynhadledd CAPC, Parc Cenedlaethol Llyn Llumonwy


2

Awdurdodau Lleol, a chanolbwyntiodd y cwrs ar gynnig i ymwelwyr ffordd gynorthwyol o gyrraedd pen eu taith, â gwybodaeth am weithgareddau ac atyniadau lleol, ynghyd â gwyliau a digwyddiadau, y prif deithiau Ym mis Chwefror, llwyddodd Awdurdod Parc cerdded, arweiniad i’r Parc Cenedlaethol a Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gyflwyno ei chyngor ynghylch pa feysydd parcio a gynllun hyfforddi peilot cyntaf i yrwyr tacsi lleol ddefnyddir yn rheolaidd gan gerddwyr. â’r bwriad o roi hwb i’r diwydiant cludiant lleol a rhoi i ymwelwyr fwy na dim ond ffordd o Meddyliwyd am y syniad y tu ôl i’r cynllun peilot gyrraedd pen eu taith. hwn, a ddyluniwyd yn benodol i yrwyr tacsi, rai

Gyrwyr tacsi Bannau Brycheiniog yn cael marciau llawn am wybodaeth am y Parc Cenedlaethol

Yn yr hyn a gredir yw’r cyntaf o’i fath i Barciau Cenedlaethol y DU, mynychodd mwy na dwsin o yrwyr tacsi lleol y cynllun peilot a elwir, yn ddigon priodol, ‘Gwybodaeth am y Parc Cenedlaethol’.

misoedd yn ôl wedi i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gysylltu â gyrwyr tacsi lleol â’r bwriad o ddyfeisio rhywfaint o sesiynau hyfforddi rhad ac am ddim ar eu cyfer. Yna cafodd y cwrs hyfforddi ei deilwra i gynnig cyfle i yrwyr tacsi ddysgu mwy am yr ardal y maent yn gweithio ynddi, y math o

Defnyddiwyd arian o Gronfa Datblygu wybodaeth y mae ymwelwyr ei hangen a Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol hefyd sut i helpu cynyddu busnes yn y Bannau Brycheiniog a phartneriaeth o

diwydiant cludiant lleol.

Awdurdod y Parc yn enwi gwr g r newydd i gymryd yr awenau Mae Tegryn Jones, cyn Brif Weithredwr Cadwch Cymru’n Daclus, wedi ymuno ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fel Prif Weithredwr. Ymunodd Mr Jones, 41, â Chadwch Cymru’n Daclus yn 2004, ar ôl symud o uwch swydd polisi yng Nghyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Ac yntau’n siaradwr Cymraeg rhugl, bu gynt yn Ddirprwy Gyfarwyddwr a Swyddog Addysg canolfan gweithgareddau addysgol a oedd yn cael ei rhedeg gan Urdd Gobaith Cymru ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Dywedodd Richard Howells, Cadeirydd yr Awdurdod, y byddai llwyddiant blaenorol a phrofiad Tegryn ym maes cadwraeth, ynghyd â’i weledigaeth, ei rinweddau a’i sgiliau arwain yn tywys yr Awdurdod i’r dyfodol â brwdfrydedd ac ymrwymiad.


3

ochr arlwyo ac yn cynnig bwydlen ddiddorol ac amrywiol â’r posibilrwydd o agor gyda’r Mae buddion datblygu Hafod Eryri yn dod yn nosau fel t bwyta. fwy fwy amlwg wrth i wybodaeth o gyfrifwyr Gwella Llwybr y Mwynwyr ac arolygon ddod i law.

Effaith Hafod Eryri

Mae Croeso Cymru wedi darganfod i’r lle hwn fod yn gyrchfan cychwynnol i 16% o’r ymwelwyr a holwyd yng Ngogledd Cymru y llynedd, sy’n curo’r holl atyniadau eraill yn rhacs. Gwelwyd cynnydd o 27% yn nifer yr ymwelwyr ar y mynydd er y cyfrifiadau blaenorol, ac roedd y trên yn rhedeg bron i gapasiti wedi i’r adeilad hwn gael ei agor.

Mae’r holl waith yn Hafod Eryri a Phen y Pass yn tueddu i fwrw cysgod dros y datblygiadau parhaus o ran mynediad i’r mynydd. Mae’r Awdurdod yn mynd ati, gydag arian cyfalaf, i ddatblygu milltir gyntaf Llwybr y Mwynwyr i wella mynediad i’r anabl a theuluoedd ifanc yn sylweddol. Bydd yn rhoi wyneb newydd ar y llwybr o Ben y Pass i Lyn Teyrn, fydd yn galluogi mynediad didrafferth i lethrau isaf yr Wyddfa ac yn agor golygfeydd nad oedd yn hawdd eu gweld o’r blaen.

Roedd yr effaith a gafwyd ar y fasnach dwristaidd leol yn sgil hyn yn arwyddocaol ac mae’r tymor i ddod yn edrych yn addawol wrth i Gwmni Rheilffordd yr Wyddfa benodi Rheolwr ar gyfer y Ganolfan i oruchwylio pob Mae’r Awdurdod hefyd wedi prynu bygi agwedd ar y gwaith. trampio pwerus i helpu cludo pobl anabl i fyny i’r mynyddoedd. Ailwampio Pen y Pass Mae’r hen gaffi ym Mhen y Pass, Parc Cenedlaethol Eryri, wedi bod o dan y lach dros y blynyddoedd diwethaf a bu angen taer i’w ailwampio. Rhy penodiad tenantiaid newydd ar gyfer y tymor nesaf gyfle i’r Awdurdod ailwampio’r caffi, gosod goleuadau a dodrefn newydd a gwella’r tu mewn i’r adeilad yn ddirfawr. Bydd y tenantiaid newydd yn ailddatblygu’r


4

Bannau Brycheiniog yn lansio cynllun Llysgennad cyntaf Parciau’r DU i fusnesau

Oriel y Parc yn ennill prif gynllunio'r DU

Fis diwethaf, cynhaliodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog y cyntaf o gyfres o gyrsiau dydd i lansio Cynllun Llysgennad cyntaf Parciau Cenedlaethol y wobr DU yn ffurfiol â’r nod o helpu busnesau twristiaeth i gynnig gwasanaeth eithriadol i ymwelwyr.

Derbyniodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Wobr DU 2009 Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol am ‘Ardaloedd Gwledig a’r Amgylchedd Naturiol’ mewn seremoni yng Ngwesty’r Hilton yn Llundain ym mis Chwefror.

Ariennir Cynllun Llysgennad newydd y Parciau gan brosiect Interreg IVB yr UE fel rhan o Collabor8, ac fe gynhelir cyfres o weithdai hyfforddi undydd yn rhad ac am ddim â’r nod o gynnig i fusnesau twristiaeth lleol yr wybodaeth y bydd ei hangen arnynt i gysylltu ag ymwelwyr a’u hysbrydoli i Agorwyd Oriel y Parc, sy’n sefyll ar gyrion ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Tyddewi, ychydig dros flwyddyn yn ôl, ac Brycheiniog. roedd yn dathlu diwedd cynlluniau hirsefydlog yr Awdurdod i ddatblygu’r porth hwn yn oriel, maes parcio i ymwelwyr a chanolfan gwasanaeth bws. Dyfarnwyd gradd ‘Rhagorol’ BREEAM (Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu) i’r adeilad am ei ddyluniad a’i ddulliau rheoli cynaliadwy ac mae’n codi ymwybyddiaeth trwy ei arddangosfeydd rhyngweithiol a’i raglen o weithgareddau i’r teulu.

Ewch i www.orielyparc.co.uk am ragor o fanylion.


5

Buzz Eryri Mae Parc Cenedlaethol Eryri, mewn partneriaeth â Chymdeithas Gwenynwyr Cymru a Chanolfan Defnydd Tir Amgen (CALU) Prifysgol Bangor, yn cynnig cyfle unigryw i drigolion y Parc gadw gwenyn! Gall unrhyw un fynychu cwrs hyfforddi trwy Gymdeithas Gwenynwyr Cymru, i ennill cymhwyster fydd yn eu galluogi i gadw gwenyn a bydd hyn hefyd yn golygu y bydd y cyfranogydd yn gallu ymgeisio am grant trwy’r Parc i brynu cwch gwenyn traddodiadol.

Cynnwrf ymhlith gystadleuaeth

pencampwyr

y

Bu i wenyn Sir Benfro ddod i’r brig yn erbyn yr holl gystadleuwyr eraill i ennill gwobr o £25,000 ar gyfer prosiect diogelu cynefinoedd gwenyn. Ymunodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Dyma gyfle cyffrous i ddysgu sgiliau newydd, Penfro a Chyngor Cefn Gwlad Cymru â’r ac mae hefyd yn ffordd o hybu cynnyrch Bumblebee Conservation Trust i gystadlu mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd gan EOG lleol a chyfrannu at fioamrywiaeth ym Mharc Association for Conservation a gwefan ‘Live for Cenedlaethol Eryri. the Outdoors’.

Dywedodd Rhys Owen, Pennaeth Amaeth a Bydd y prosiect wedi’i leoli ym Maes Chadwraeth Parc Cenedlaethol Eryri: Castellmartin ac mae’n cynnwys mynd ati i “trwy’r bartneriaeth hon rhwng y Parc, CALU a Chymdeithas Gwenynwyr Cymru, rydym yn cynnig cyfle gwych i drigolion lleol gael dysgu sgiliau newydd traddodiadol a chyffrous. Trwy annog mwy o bobl i gadw gwenyn, rydym hefyd yn cryfhau bioamrywiaeth y Parc ac yn addysgu pobl yngl n â’r pwysigrwydd o warchod ein bywyd gwyllt.”

blannu blodau gwyllt brodorol, dod â chynefinoedd cysylltiedig ynghyd a gweithio i ddiogelu rhywogaethau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU, ochr yn ochr â bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn i greu llwybr newydd ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogwyr ceffylau. Bydd Pippa Rayner, Swyddog Cadwraeth y Bumblebee Conservation Trust, yn gweithio ochr yn ochr â Lynne Houlston, Ceidwad Castellmartin, i sicrhau bod rhywogaethau prin megis y Gardwenynen Fain yn parhau i ffynnu mewn glaswelltiroedd blodau gwyllt hanfodol.


6

System adrodd ar-lein y Parc chymunedau lleol yn yr ardaloedd yr Cenedlaethol yn arwain at erlyniad effeithiwyd arnynt waethaf, y bu i ni sefydlu’r system adrodd ar-lein. Mae’n newyddion llwyddiannus o yrwyr oddi ar y ffordd. Mae system adrodd ar-lein newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi arwain at ei erlyniad llwyddiannus cyntaf o yrwyr anghyfreithlon oddi ar y ffordd a fu’n defnyddio cilffordd gyfyngedig yn y Parc Cenedlaethol. Fis diwethaf yn Llys Ynadon Aberhonddu, plediodd tri o yrwyr oddi ar y ffordd o Dde Orllewin Lloegr yn euog i yrru ar hyd y gilffordd gyfyngedig yn Sarn Helen, wedi iddynt gael eu dal yn y weithred gan yr Heddlu a Wardeiniaid y Parc Cenedlaethol ym mis Hydref y llynedd. Cafodd y gyrwyr oddi ar y ffordd eu dal wedi i aelod pryderus o’r cyhoedd gyflwyno adroddiad ar system adrodd ar-lein y Parc Cenedlaethol, a oedd wedi arwain at Heddlu Dyfed Powys yn cymryd camau ar unwaith i ddal y troseddwyr. Dywedodd Jon Pimm, Warden Ardal y Gorllewin Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a fu’n cynorthwyo’r Heddweision yn Sarn Helen y llynedd: “Caiff gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd effaith aruthrol ar gefn gwlad a’n tirweddau gwarchodedig a dim ond llynedd, ar ôl gweithio’n agos â Heddlu Dyfed Powys a

da fod trigolion ac ymwelwyr yn teimlo’n ddigon hyderus i ddefnyddio’r system adrodd ar-lein i gyflwyno manylion unrhyw ddigwyddiadau - ac rydym yn dechrau gweld ffrwyth y gwaith hwnnw o’r diwedd. Os oes gyrwyr oddi ar y ffordd yn chwilio am fannau diogel a chyfreithiol i yrru, mae croeso iddynt gysylltu â’n Swyddog Hawliau Tramwy Lleol i gael gwybodaeth, neu mae’n bosibl iddynt ymuno ag un o’r sefydliadau yr ydym yn gweithio’n agos â hwy sy’n cynrychioli gyrwyr megis Treadlightly, LARA, TRF, GLASS neu CRAG fydd hefyd yn eu helpu.”


7

Creu cysylltiadau seiberofod Dau air ffasiynol, cymharol newydd, yn gysylltiedig â’r rhyngrwyd. Os nad oes gennych chi brofiad o ‘Facebook’ (www.facebook.co.uk) neu ‘twitter’ (www.twitter.com) eto, mae’n ddigon posibl y cewch chi yn y dyfodol, gan mai dyma agwedd o’r Rhyngrwyd sydd ar gynnydd, sy’n cystadlu yn erbyn, ac weithiau’n cymryd lle, mathau mwy traddodiadol o gyfrifiaduro megis gwefannau ac e-byst. Mewn cylchoedd academaidd, ystyrir bod mwy o botensial i rwydweithio cymdeithasol nag fel arf cyfathrebu’n unig. Gallai gynnig ffordd newydd o fynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol gan ei fod yn llai hierarchaidd na sefydliadau traddodiadol, ac felly mae’n gallu adlewyrchu barn a phennu atebion a dulliau arloesi yn well. Mae rhai Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, gan gynnwys pob un o APC Cymru, wedi dechrau ymwneud â rhwydweithio cymdeithasol a chodi presenoldeb y Parciau Cenedlaethol ar-lein. Os hoffech chi fwrw golwg dros y proffiliau, tudalennau, y trydar a’r sianelau newydd, mae gan Borth y Parciau Cenedlaethol dudalen sy’n cynnwys y rhan fwyaf, os nad pob un, o’r dolenni priodol. Y dudalen yw: http://www.nationalparks.gov.uk/aboutus/ourwebsites.htm

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am CAPCC yn www.parciaucenedlaetholcymru.gov.uk. Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith, yn cynnwys deunyddiau seminar, ymatebion i ymgynghoriadau a datganiadau sefyllfa ar gael yn rheolaidd ar y safle, ac rydym ni’n croesawu sylwadau bob amser wanpa@anpa.gov.uk.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.