1
Gaeaf 2010/2011
lle I enaid gael llonydd cylchlythyr Parciau Cenedlaethol Cymru Croesawodd Parciau Cenedlaethol Cymru adroddiad diweddar gan PricewaterhouseCoopers am eu Gwasanaethau Cynllunio. Tynnodd yr adroddiad sylw at “dystiolaeth o welliannau sylweddol dros y 18 mis diwethaf” ac roedd yn dangos bod y Parciau Cenedlaethol yn cymharu’n ffafriol gyda gwasanaethau cynllunio gwledig eraill yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at feysydd allweddol i fesur llwyddiant ac yn dangos datblygiad ymhob maes. Tynnir sylw’n arbennig at y canlynol: (1) Mae’r Parciau Cenedlaethol yn cymeradwyo yr un canran o geisiadau ag Awdurdodau Cynllunio Lleol eraill. (2) Mae Parciau Cenedlaethol yn perfformio’n well mewn rhai mathau o geisiadau na nifer o Awdurdodau Cynllunio Lleol gwledig eraill (3) Mae’r Parciau Cenedlaethol wedi gwella eu cefnogaeth a’u gwybodaeth cyn-ymgeisio (4) Cafwyd gwelliant o 24% ar gyfartaledd yn yr amser y mae’n ei gymryd i brosesu ceisiadau ymhob un o’r tri Pharc Cenedlaethol. Mae’r adroddiad yn cydnabod bod sialensiau o’n blaenau, a’r mwyaf nodedig o’r rheiny yw’r gostyngiad yn y nifer o geisiadau a dderbynnir o ganlyniad i’r dirwasgiad economaidd ac effaith hynny ar incwm.
Dywedodd y Cynghorydd Eric Saxon, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ar ran tri Pharc Cenedlaethol Cymru, “Rydym yn croesawu’r adroddiad yma. Mae’n adroddiad positif sy’n cydnabod y gwelliant rhagorol a welwyd mewn perfformiad dros y 18 mis diwethaf. Mae’r adroddiad yn chwalu’r myth bod Parciau Cenedlaethol yn fwy tebygol o wrthod cais cynllunio nag Awdurdodau Cynllunio Lleol eraill ac mae’n cydnabod ein bod yn perfformio’n well mewn rhai mathau o geisiadau. Mae’n arbennig o anogol o fy safbwynt i fod PricewaterhouseCoopers wedi cymeradwyo ein trefniadau llywodraethu ac mae eu hadroddiad yn pwyntio at esiamplau niferus o arferion da.” Meddai Aneurin Phillips, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, “Mae PricewaterhouseCoppers wedi cwblhau tasg hynod heriol. Mae hwn yn waith sy’n torri tir newydd yma yng Nghymru. Daw’r adroddiad i’r casgliad bod Parciau Cenedlaethol Cymru’n gwella a’u bod yn cyflawni eu pwrpasau statudol mewn ffordd sy’n bositif a chefnogol.”
Dyddiadau i'r Dyddiadur 24 - 25 Mai - Gweithdy UK ANPA, Ebrauc 06 - 07 Hydref - Seminar Flynyddol Aelodau Cymru (llywyddir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brychceiniog)
2
£300,000 i Wella Bywyd yn Eryri
Mae Ymholiad Cyhoeddus Cwrt y Gollen yn cychwyn ganol mis Chwefror.
Dywedwyd wrth aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ddiweddar am lwyddiant cronfa datblygiad cynaliadwy CAE am iddi Ymholiad Cyhoeddus i gyfrannu bron i £300,000 tuag at brosiectau a fydd Cychwynnodd ailddatblygiad byddin yng Nghwrt y cyn-wersyll yn gwella ansawdd bywyd yn Eryri.
y Gollen ar Ddydd Mawrth Chwefror 15fed 2011. Yn ystod ei 10fed blwyddyn o ariannu (rhwng 2009 a 2010), mae CAE wedi cefnogi 31 o gynlluniau, gan ddyrannu £287,000 i brosiectau dros y tair blynedd nesaf, ac o ganlyniad mae wedi denu mwy na £3 miliwn o ffynonellau eraill. Mae arian o’r gronfa wedi galluogi i’r Parc Cenedlaethol dalu am 1 swydd lawn amser ac 19 o swyddi rhan amser a chreu mwy na 41 o gyfleoedd gweithio anuniongyrchol. Mae’r gronfa hefyd wedi caniatáu mwy na 330 o gyfleoedd gwirfoddoli i drigolion y Parc Cenedlaethol ac i ymwelwyr y Parc. 4 egwyddor datblygiad cynaliadwy yw: •
Gwarchod yr Amgylchedd yn effeithiol
•
Cynnydd cymdeithasol anghenion pawb
•
Defnyddio ddarbodus
•
Cynnal a chadw lefelau uchel a sefydlog o gyflogaeth a thwf economaidd.
adnoddau
sy’n
cydnabod
naturiol
yn
Wrth gyflwyno’r adroddiad, meddai Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Aneurin Phillips, “Mae’r cynllun CAE sydd yn awr yn ei unfed blwyddyn ar ddeg, wedi parhau, ac yn dal i barhau, i wneud cyfraniad sylweddol i sicrhau bod datblygiad cynaliadwy’n rhan integral o fywyd yn Eryri drwy hyrwyddo buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yr ardal.”
Bydd yr Ymholiad Cyhoeddus annibynnol yn penderfynu a ddylid rhoi caniatâd cynllunio i ailddatblygu cyn-wersyll y fyddin yng Nghwrt y Gollen ar gyfer defnydd cymysg cynhwysfawr. Mae’r datblygiad defnydd cymysg yn cynnwys datblygiad tai, darparu swyddi, meithrinfa i blant cyn oedran ysgol, cartref gofal preswyl, darpariaeth tir agored gan gynnwys lotments, perllan gymunedol, darpariaeth chwaraeon a’r gwaith mewnol cysylltiedig. Ym mis Mehefin 2010, gwrthododd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog roi caniatâd cynllunio i Crickhowell Estates Ltd ar gyfer y datblygiad. Mae Crickhowell Estates Ltd wedi apelio yn erbyn y penderfyniad a chaiff yr apêl ei chlywed yn awr gan Arolygydd Cynllunio annibynnol sydd wedi’i benodi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Ar ôl clywed y dystiolaeth i gyd, bydd yr Arolygydd yn gwneud argymhelliad i’r gweinidog priodol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yna bydd y gweinidog yn penderfynu a ddylai wrthod neu ganiatáu’r datblygiad.
3
Newid i bawb yn Oriel y Parc
Mae cynlluniau wedi’u hamlinellu ar gyfer dyfodol y cyn-gaffi yn Oriel Tirlun a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, sy’n cynnal yr atyniad mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, wedi penodi R.K. Lucas i farchnata’r lle a ddefnyddiwyd gan y caffi a gaeodd y llynedd. Mae Awdurdod y Parc yn gobeithio gweld busnes yn gweithredu o Oriel y Parc erbyn y Pasg 2011, ac yn y cyfamser mae’n parhau i groesawu ymwelwyr i’r oriel a’r ganolfan ymwelwyr sy’n rhad ac am ddim. Meddai Tegryn Awdurdod y Parc:
Jones,
Prif
Weithredwr
“Bydd R. K. Lucas yn derbyn tanysgrifiadau gan bobl sydd â diddordeb ac edrychwn ymlaen yn fawr at weld pa fathau o weithgareddau allai gael eu rhedeg o Oriel y Parc.
“Rydym wedi derbyn dwsinau o ymholiadau’n barod gan gwmnïau lleol a chenedlaethol sy’n cynnig amrywiaeth o wahanol wasanaethau, felly ni fydd y bidiau wedi’u cyfyngu i arlwyo yn unig. Ail lansiodd Oriel y Parc ei harddangosfa, Y Tirlun sy’n Newid, gyda dangosbethau newydd o’r Casgliad Cenedlaethol, gan gynnwys Porthladd Dinbych-y-pysgod, gan yr artist Prydeinig bydenwog Lucian Freud. © Yr artist
4
Dawns y Fan neu Ddawnsio Gwerin? Da chi, peidiwch ag anghofio eich esgidiau cerdded! Mae gweithgareddau o bob math, yn cynnwys Dawns y Fan hynod anodd yr SAS, cyngerdd Dydd Gwyl G yl Ddewi, Twmpath Dawns draddodiadol, gweithgaredd Padlo a Phedlo, taith gerdded ysgafn o amgylch Ystâd Glanusk neu brofiad cerdded a chanu o Eglwys Patricio i Briordy Llanthony – oll yn digwydd yng Ngwyl Gerdded gyffrous Crucywel sy’n cychwyn ar Ddydd Sadwrn Chwefror 26ain. Mae Gwyl Gerdded Crughywel yn ei bedair oed erbyn hyn ac mae’n cynnig mwy na 70 o deithiau cerdded gydag arweinydd dros naw diwrnod ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o Ddydd Sadwrn Chwefror 26ain hyd Ddydd Sul Mawrth 6ed. Mae rhywbeth yno i bob oedran, gallu a diddordeb ac mae’r tir cerdded hyfryd yn cynnig amrywiaeth o lwybrau byrion gwastad sy’n hawdd eu cerdded a llwybrau anodd ar diroedd uchel. Mae rhaglen lawn yn rhedeg gydol yr wyl, gan roi cyfle i gerddwyr blinedig a phobl nad ydynt eisiau cerdded i fwynhau ymlacio ac adloniant gyda’r nosau, yn ogystal â gweithgareddau eraill yn ystod y dydd.
Helpu i Wella Llwybrau Roedd gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed yn hwyr ym mis Tachwedd yn gwella darnau o’r llwybr ar yr Wyddfa. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd o 18% yn yr ymwelwyr ar lwybrau troed Eryri o’i gymharu â’r llynedd. O ganlyniad, mae’r tirlun wedi’i greithio a harddwch naturiol yr ardal wedi’i niweidio. Gyda chymorth staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mae myfyrwyr Addysg Awyr Agored o Goleg Llandrillo a gwirfoddolwyr o Gymdeithas Eryri wedi bod yn gweithio i wella darnau o Lwybr y Glowyr a’r Pyg. Tynnwyd creigiau a cherrig mân rhydd oddi yno a glanhawyd ffosydd i wella’r draeniad. Meddai’r Swyddog Mynediad Peter Rutherford ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
“Yn dilyn y gwaith a gwblhawyd yr wythnos diwethaf, rydym wedi llwyddo i gyflawni dau beth pwysig. Cafodd un llwybr pwysig i gerddwyr ei ddiffinio ac, ar yr un pryd, lleihawyd perygl erydiad mewn rhai mannau. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r gwirfoddolwyr o Goleg Llandrillo a Chymdeithas Eryri am eu cymorth. Fel awdurdod, rydym bob amser yn awyddus i gydweithio gyda gwirfoddolwyr a sefydliadau i’n helpu i gynnal gwneuthuriad a chymeriad y Eleni, mae Kenton Cool, un o ddringwyr blaenllaw Parc.”
Prydain a arweiniodd daith Ranulph Fiennes i gopaon yr Eiger ac Everest yn rhoi cipolwg gwefreiddiol i ni ar fywyd ar y brig!
5
Cynghorau’n cyfarfod ar gyfer Parc Cenedlaethol yn dyfarnu grant i cynhadledd y Parciau Cenedlaethol gefnogi coedwigoedd y Cymoedd Gwyrdd Cafodd cynrychiolwyr o gymunedau ledled Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro gyfle i siarad yn ystod sesiwn holi ac ateb gyda Swyddogion Awdurdod y Parc mewn seminar diweddar. Cynhaliodd yr Awdurdod Seminar i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned yng Ngholeg Sir Benfro yn Hwlffordd. Rhoddodd Cadeirydd yr Awdurdod Richard Howells anerchiad agoriadol cyn i’r Prif Weithredwr Tegryn Jones gyflwyno Strategaeth Gorfforaethol ddrafft yr Awdurdod a lansiwyd yn ddiweddar. Yna bu’r bobl oedd yn bresennol yn trafod y Strategaeth mewn grwpiau ffocws llai dan arweiniad staff y Parc Cenedlaethol gan leisio eu sylwadau; yn dilyn hynny cafwyd sesiwn holi ac ateb oedd yn ysgogi ystyriaethau newydd.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi dyfarnu bron i £5,000 i Gwmni Buddiannau Cymunedol y Cymoedd Gwyrdd i gefnogi ei waith gyda choedwigoedd cymunedol cynaliadwy a chynlluniau rheolaeth. Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol y Cymoedd Gwyrdd wedi derbyn Grant Cadwraeth a Chymuned o £4,446 a fydd wedi’i ddefnyddio i ddatblygu prosiectau’r grwp Coetir Cymunedol Cynaliadwy yn benodol. Caiff yr arian yma ei ddefnyddio ar gyfer nifer o fentrau sy’n cynnwys datblygu coetiroedd ledled y Parc Cenedlaethol a galluogi grwpiau Rheoli Coetir Cymunedol ledled yr ardal i reoli coedwigoedd lleol.
Roedd y grwpiau’n canolbwyntio ar faterion megis cynllunio, adloniant ac ymgysylltiad cymunedol. Meddai Cadeirydd yr Awdurdod Richard Howells: “Mae ychydig dros 50 o Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn y Parc Cenedlaethol, sy’n cynrychioli buddiannau mwy na 22,500 o bobl” “Felly rhoddodd y gynhadledd hon gyfle gwerthfawr i ni i ymgysylltu â phobl allai gael eu heffeithio’n uniongyrchol gan waith yr Awdurdod a rhoddodd gyfle iddynt leisio pryderon penodol am faterion sy’n ymwneud â’r ffordd yr edrychir ar ôl y Parc Cenedlaethol.”
Bydd yr arian hefyd yn helpu i wella bioamrywiaeth leol, cynhyrchu cyflenwad cynaliadwy o danwydd pren a gynhyrchir yn lleol a chynhyrchion coed cynaliadwy ar gyfer cynnyrch adeiladu a chrefftau; ailgysylltu cymunedau â’r tir drwy reolaeth ymarferol; dod â chymunedau at ei gilydd mewn cydweithgareddau; hybu iechyd a lles drwy ymarfer corff a chysylltiad â’r awyr agored a rhannu sgiliau a chynyddu’r sail sgiliau yn y coedwigoedd.
6
Hanes ar Waliau’r Ysgol
Mae disgyblion o Ysgol Nebo, Dyffryn Nantlle, ynghyd â’r artist Luned Rhys Parri, wedi bod yn cofnodi hanes lleol yr ardal drwy greu murluniau i’w rhoi ar waliau’r Ysgol. Mae Cors y Llyn yn dir comin rhwng pentref Nebo a Llyn Cwm Dulyn a thros gyfnod o chwe diwrnod, mae disgyblion rhwng 3 ac 11 oed wedi bod yn creu murluniau sy’n dangos hanes Cors y Llyn, Chwarelwyr Dorothea a thyddynwyr o Nebo.
Ryfel Byd, daeth y traddodiad yma i ben yn gyfan gwbl. Mewn amser, daeth y gors yn gynefin i fywyd gwyllt ac erbyn heddiw mae cyfoeth o fioamrywiaeth i’w gael yno. Meddai Swyddog Bwrlwm Eryri, Naomi Jones
“Dros y blynyddoedd mae hanes Nebo a Chors y Llyn wedi goroesi oherwydd y traddodiad llafar a ffotograffau ac mae’r gwaith a wneir yma’n parhau’r traddodiad hwn. Mae’r Awdurdod yn hapus iawn i fod yn rhan o’r broses hon drwy ddarparu cyfleoedd i’r plant a’r trigolion ddysgu Flynyddoedd yn ôl, roedd tyddynwyr Nebo a a gwerthfawrogi hanes, diwylliant a chwarelwyr lleol yn arfer dod â’u gwartheg i bori bioamrywiaeth yr ardal.” yng Nghors y Llyn, ond dirywiodd y traddodiad pan ddaeth buwch â chlefyd i’r gors oedd yn achosi erthyliadau a phan gychwynnodd yr Ail
O’r Gofod Naturiol i Seibrofod Mae presenoldeb y Parciau Cenedlaethol ar y rhyngrwyd yn dal i gynyddu. Mae’r rhan fwyaf o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gwledydd Prydain, gan gynnwys Awdurdodau tri Pharc Cymru, yn cymryd rhan mewn rhwydweithio cymdeithasol ac yn cynyddu presenoldeb ar lein Parciau Cenedlaethol. Gallwch ddarllen eu proffiliau, tudalennau, twît a sianelau, pob un yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei ddiweddaru’n gyson. Mae Porth y Parciau Cenedlaethol yn cynnwys dewis cynhwysfawr o ddolenni priodol. Gellir mynd at y dudalen honno drwy’r cyfeiriad: http://www.nationalparks.gov.uk/aboutus/ourwebsites.htm/ourwebsites.htm
7
Y Cyn Brif Weithredwr yn derbyn OBE Mae cyn Brif Weithredwr yr Awdurdod Parc Cenedlaethol wedi derbyn OBE am ei wasanaethau i’r amgylchedd, ar ôl 35 mlynedd wrth y llyw. Penodwyd Nic Wheeler yn Swyddog Parc Cenedlaethol yn 1974 ac ef yw’r Prif Weithredwr sydd wedi gwasanaethu hiraf yn y teulu o Barciau Cenedlaethol y DU. Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol Tegryn Jones, a gymerodd yr awenau gan Nic yn 2010: ‘Mae hwn yn anrhydedd addas iawn i wobrwyo cyfraniad bywyd i’r Parc Cenedlaethol ac rydym oll yn Awdurdod y Parc yn falch iawn drosto.” Dan gyfarwyddyd Mr Wheeler, datblygodd y Parc Cenedlaethol fel sefydliad o 29 o bobl i staff o 150, gan gynnwys gweithwyr rhan amser a thymhorol. Datblygodd o fod yn adran yn yr hen Gyngor Sir Dyfed i fod yn awdurdod annibynnol.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Pariciau Cenedlaethol Cumru yn www.parciaucenedlaetholcymru.gov.uk. Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith, yn cynnwys deunyddiau seminar, ymatebion i ymgynghoriadau a datganiadau sefyllfa ar gael yn rheolaidd ar y safle, ac rydym ni’n croesawu sylwadau bob amser nationalparkswales@anpa.gov.uk.