HAF 2011
lle I enaid gael llonydd cylchlythyr Parciau Cenedlaethol Cymru Yr haf hwn, mae Lle i Enaid gael Llonydd yn eich gwahodd i edrych yn ôl ar rai o’r prosiectau ym Mharciau Cenedlaethol Cymru sydd wedi eu gwneud yn harddach (ie, mae hynny’n dal yn bosib), gwyrddach a mwy diogel. Un nodwedd yw teithio – p’un a yw’r cludiant a ddefnyddir i gyrraedd Parc Cenedlaethol, cerdded oddi mewn i un, neu’r wybodaeth a ddefnyddir tra’r ydych mewn un. Hefyd rydym yn cyfrif i lawr i 60 mlynedd o Barc Cenedlaethol Eryri. Hefyd mae’r tywydd cynhesach a gwyliau haf yn golygu y bydd mwy a mwy o ymwelwyr yn cael eu denu i’r moroedd oddi ar Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Pharc Cenedlaethol Eryri. Bydd rhieni a phlant yn ymdrochi’n braf yn y dwr ac yn mwynhau harddwch yr arfordir. Mae Edward Holdaway o Bartneriaeth Tirwedd Cymru yn egluro’r ymdrechion a wneir i gadw morluniau arbennig yn arbennig trwy’r system gynllunio forol newydd. Greg Pycroft Swyddog Polisi Parciau Cenedlaethol Cymru
O’r Gofod Naturiol i Seibrofod Mae presenoldeb y Parciau Cenedlaethol ar y rhyngrwyd yn dal i gynyddu. Mae’r rhan fwyaf o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gwledydd Prydain, gan gynnwys Awdurdodau tri Pharc Cymru, yn cymryd rhan mewn rhwydweithio cymdeithasol ac yn cynyddu presenoldeb ar lein Parciau Cenedlaethol. Gallwch ddarllen eu proffiliau, tudalennau, twît a sianelau, pob un yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei ddiweddaru’n gyson. Mae Porth y Parciau Cenedlaethol yn cynnwys dewis cynhwysfawr o ddolenni priodol. Gellir mynd at y dudalen honno drwy’r cyfeiriad: http://www.nationalparks.gov.uk/aboutus/ourwebsites.htm Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Pariciau Cenedlaethol Cumru yn www.parciaucenedlaetholcymru.gov.uk. Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith, yn cynnwys deunyddiau seminar, ymatebion i ymgynghoriadau a datganiadau sefyllfa ar gael yn rheolaidd ar y safle, ac rydym ni’n croesawu sylwadau bob amser nationalparkswales@anpa.gov.uk.
1
Rhyfeddodau Eryri – Dathlu Penblwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn 60ain “60 o Ysgrifenwyr – 60 o Ryfeddodau – 60 o Eiriau” Ar 18fed Hydref 2011 bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed ac fel rhan o’r dathliadau mae’r Awdurdod yn cynllunio prosiect “Rhyfeddodau Eryri”. Bwriad y prosiect yw dathlu rhyfeddodau amrywiol o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol sy’n gwneud yr ardal mor arbennig ac unigryw.
Mae’r sgôp ar gyfer enwebiadau’n eang ac nid oes ond un rheol: rhaid i bob rhyfeddod fod o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi sicrhau cefnogaeth chwedeg o ysgrifenwyr mwyaf blaenllaw Cymru a fydd yn dehongli’r rhyfeddodau hyn drwy’r ffurf ysgrifenedig i ddweud stori ac i greu profiad personol o bob rhyfeddod. Ochr yn ochr â’r elfen lenyddol, mae ffotograffydd wedi ei gomisiynu i ddehongli’r rhyfeddodau drwy ffurf weledol. Gan gadw â’r thema pen-blwydd yn 60 oed, bydd rhaid i’r ysgrifenwyr ddehongli’r 60 o ryfeddodau mewn 60 gair o fewn 60 diwrnod. Bydd y prosiect a gwblheir yn cyfrannu at arddangosfa newydd yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ym Metws y Coed, ar blatfform cyfathrebu’r Parc ac fel rhan o ddathliadau pen-blwydd yn 60 oed.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol yn apelio i’r cyhoedd enwebu eu hoff ryfeddodau o fewn Eryri. Gall y rhyfeddodau hyn gynnwys lleoedd, pobl, adeiladau, tirweddau, golygfeydd, rhywogaethau bywyd gwyllt, safleoedd archeolegol, creigiau neu gromlechi, traddodiadau amaethyddol, Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Lenyddiaeth traddodiadau diwylliannol Cymreig, digwyddiadau, Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru cerddi, celf, darnau o gerddoriaeth, ac yn y blaen.
2
Brwydro yn erbyn trosedd tân gwyllt Cerddwyr yn dod i Poppit Ar ôl 14 diwrnod olynol o gerdded a thywydd cerdded o’r awyr a oedd bron yn berffaith, cwblhaodd 21 o gerddwyr Aeth Heddlu Dyfed Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r awyr yn eu hymdrech ddiweddaraf i ymdrin â throsedd tân gwyllt yn y Parc Cenedlaethol. Gwelwyd golygfeydd anhygoel yn gynnar yng Ngorffennaf, pryd y tynnodd hofrennydd yr heddlu luniau delwedd thermol o ardaloedd wedi’u difrodi gan dân ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
dewr daith gerdded Llwybr yr Arfordir flynyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn nechrau Mehefin.
Mae’r daith flynyddol, sy’n cynnwys y cyfan o’r 186 o filltiroedd o Lwybr Cenedlaethol Llwybr yr Arfordir, yn cael ei harwain gan Wardeiniaid Gwirfoddol yr Awdurdod ac eleni roedd cerddwyr o’r Swistir, Prydain a’r UD yn cymryd rhan, yn ogystal â nifer o breswylwyr Ym Mai, difrodwyd bron i 2000 o aceri o gors gyffredin Sir Benfro. ucheldir a mawnog yn ddifrifol gan dân ger Brynaman yn yr hyn a alwodd Wardeniaid Parc Cenedlaethol y Roedd y gyfres o deithiau tywys yn mynd ar hyd bob tro tân rhostir gwaethaf mewn deng mlynedd ar hugain. a chornel o Lwybr Arfordir o Amroth yn y De i Draeth Bydd y delweddau’n helpu Wardeiniaid yn y broses Poppit yn y gogledd. adfer, a gobeithio yn pennu p’un a oes unrhyw fawn yn dal i losgi. Bydd lluniau delwedd thermol o’r gors Meddai Derek Rowland, Arweinydd y Daith Gerdded a fawnog hefyd yn helpu’r Parc Cenedlaethol i ddeall Warden Gwirfoddol: “Roedd yn flwyddyn eithriadol o maint y difrod a beth fydd effaith tymor hir hynny. dda eleni ym mhob ffordd. Dyma fy 15fed daith a’m taith olaf felly mae’n braf gorffen ar y fath binacl. Ni allaf ganmol digon ar y Wardeiniaid Gwirfoddol a’r gyrwyr, a gefnogodd y cerddwyr ar hyd y daith.” Cerddodd Mona Bodenmann, o Zurich, ran fechan o’r llwybr y llynedd ar ben ei hun. Meddai: “Roeddwn eisiau dod yn ôl a chwblhau’r holl lwybr, ond gyda phobl eraill. Roedd yn braf iawn cerdded gyda’r grGp, a bob peth wedi’i drefnu mor dda. Rwyf am aros ymlaen yn yr ardal am rai diwrnodiau i archwilio mwy o Sir Benfro a byddaf yn mynd â fy holl luniau’n ôl i Zurich er mwyn hysbysebu’r daith i bawb!” Mae pobl yn dal i gael cyngor i beidio â thanio BBQs a thannau eraill wrth wersylla yn y cefn gwlad agored ac i beidio â rhyddhau neu danio lanteri Tsieineaidd, ac i feddwl yn gyfrifol am sut i gael gwared â stympiau sigaréts, tanwyr, poteli gwydr a matsys. Mae Mynegai Difrifoldeb Tân ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn parhau i fod yn ‘ Uchel’ ac ‘Eithriadol’.
3
HERIAU NEWYDD I DIRWEDDAU ARFORDIROL A DDIOGELIR Edward Holdaway, Partneriaeth Tirwedd Cymru
-
Mae
Mae morluniau a thirweddau arfordirol Cymru ymhlith y gorau yn y byd - gweler y pôl diweddar gan National Geographic a osododd Arfordir Sir Benfro ymhlith y 10 cyrchfan uchaf yn y byd. Mae’n hysbys fod pobl â meddwl mawr ohonynt ac yn eu gweld fel rhan o’n treftadaeth genedlaethol. Cydnabyddir yn gynyddol fod mynediad atynt a defnydd ohonynt yn bwysig i iechyd a lles y genedl; fel y mae’r cyfraniad a wnânt at ein heconomi a’n diwylliant. Ond maent dan bwysau oddi wrth weithgareddau dynol a newidiadau yn y byd naturiol. Mae Clymblaid o Gyrff wedi llunio Anllywodraethol** Maniffesto sydd wedi ei gyfeirio at bob lefel o lywodraeth, yn cynnwys awdurdodau Parc Cenedlaethol. Mae’n deillio o waith a wnaethpwyd gan Europarc Atlantic Isles, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Gymdeithas Genedlaethol AHNE’oedd yn dilyn gweithdy ym Mai 2010** **. ** Deilliodd o bryder ynghylch: -
na welir morluniau fel adnodd allweddol yn yr amgylchedd morol ac nad oes dull o ddiffinio arwyddocâd eu cymeriad nac i ddynodi’r rheiny sydd o bwysigrwydd cenedlaethol; nad yw arwyddocâd a rôl tirweddau a ddiogelir yn yr amgylchedd morol yn cael eu cydnabod
na all rhywun drin tirwedd a morlun fel endidau cwbl ar wahân, maent yn ffurfio continwwm a dylent gael eu trin felly. cyflawni’r
Maniffesto yn golygu fod angen gweithredu i sicrhau: eu bod yn cael eu trin fel adnodd allweddol yn y broses cynllun morol; fod asesiad cymeriad morlun yn darparu sail ar gyfer eu deall; fod sail ar gyfer cydnabod a chadw morluniau cenedlaethol bwysig yn cael ei datblygu; fod AHNE’oedd a Pharciau Cenedlaethol arfordirol yn cael eu hannog yn weithredol i ymdrin â materion morol. Bydd ymgysylltu â chynllunio morol yn golygu heriau sylweddol i dirweddau arfordirol a ddiogelir, gan y bydd angen:
-
- sicrhau fod eu cynlluniau rheoli’n dynodi’r nodweddion arbennig sy’n deillio o’r amgylchedd morol a’u cysylltiad ag ef - adolygu eu partneriaethau i sicrhau fod buddiannau morol yn cael eu cynrychioli a sefydlu perthynas waith gyda rhanddeiliaid mewn amgylchedd morol chwarae rôl weithredol mewn sicrhau rheolaeth integredig o dir a môr, er enghraifft drwy fforymau arfordirol lleol a pharatoi cynlluniau rheolaeth ar y cyd gyda Safleoedd Morol Ewropeaidd.
Mae cynllunio morol yn cynnig cyfle sylweddol i’n Parciau Cenedlaethol arfordirol – Sir Benfro ac Eryri – sicrhau eu bod yn cadw’r nodweddion arbennig hynny sy’n deillio o’u hamgylchedd morol. Mae hefyd gyfle i Barciau Cenedlaethol weithio gyda’n AHNE’oedd arfordirol – Ynys Môn, Gwyr a Llyn – a’n dau Arfordir Treftadaeth – Mae’r Maniffesto wedi ei seilio ar ddwy ragdybiaeth sef: Ceredigion a Morgannwg – sy’n gorwedd tu allan i · bod ein morluniau’n fwy na golygfa’n unig – mae dirweddau a ddiogelir. ganddynt ddimensiwn naturiol, diwylliannol/ * CPRE, YDCW, CNP, Europarc Atlantic Isles, NAAONB a’r cymdeithasol a chanfyddiadol/estheteg; Ymddiriedolaeth Genedlaethol ** Gellir gweld y Maniffesto ac adroddiad y gweithdy yn llawn ar www.europarc-ai.org
4
Parc Cenedlaethol Eryri yn torri tir newydd ac yn lansio eu iPhone App dwyieithog – ‘Mwynhau Eryri’ Mae’r hir ddisgwyliedig iPhone App ‘Mwynhau Eryri’ nawr ar gael. Wedi ei ddatblygu gan Barc Cenedlaethol Eryri, mae’r App yn ganllaw ffôn symudol rhyngweithiol i archwilio’r Parc Cenedlaethol. P’un a ydych yn Eryri ar gyfer cyfleoedd cerdded neu eisiau archwilio’r ardal yn hamddenol, mae gan yr App bob peth yr ydych ei eisiau i gael amser gwych. Cynlluniwch weithgareddau cyn cyrraedd neu defnyddiwch ef pan ydych yn y Parc Cenedlaethol i ddysgu am yr atyniadau a gweithgareddau sydd gerllaw. Gellwch ddefnyddio technoleg mapiau’r App i’ch arwain yn ddiogel os ydych eisiau ymgymryd â rhai o deithiau cerdded mynyddoedd Eryri, er bod cael map papur hefyd yn eich sach teithio yn cael ei argymell. Dyluniwyd yr App i bwrpas penodol – i helpu ymwelwyr a phobl leol gael profiad o Eryri ar ei orau. Gan ddefnyddio’r dechnoleg fapio ddiweddaraf sy’n cynnwys llywio seiliedig ar fap, mapiau Arolwg Ordnans, a mapiau Google â golygfeydd lloeren, byddwch uwchben eich digon yn cerdded yn Eryri. Golyga’r mapiau Arolwg Ordnans sydd wedi eu hadeiladu i mewn y gellwch weld teithiau cerdded hyd yn oed pan nad oes signal ar eich ffôn.
Mae ‘Mwynhau Eryri’ yn gwbl ddwyieithog, felly os ydych chi’n siarad Cymraeg neu eisiau dysgu mwy am Eryri drwy eich iaith eich hun, mae’r App hwn i chi!
Ratty yn ôl yn chwarae o gwmpas mewn cychod ar Lyn Llangors Diolch i gyfres o gynlluniau ailgyflwyno a drefnwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, rhyddhawyd oddeutu 400 o lygod y dwr y llynedd ger Llyn Llangors, gyda 100 ychwanegol o lygod y dwr i’w rhyddhau dros yr ychydig fisoedd nesaf fel rhan o raglen barhaus i achub un o famaliaid mwyaf hoff y DU. Mae rhyddhau llygoden y dwr o amgylch Llyn Llangors yn anelu at sefydlu colonïau bychain a fydd yn y pen draw yn lledaenu ac ailboblogi’r ardaloedd cyfagos ger y llyn, corsydd a gwely’r afon. Magwyd rhai o’r llygod y dwr a ryddhawyd yn Neorfa Cynrig a redir gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, ond mae llawer o’r llygod y dwr wedi eu magu’n arbennig ar gyfer y prosiect hwn mewn cyfleuster bridio arbenigol yn Nyfnaint.
5
Plant ysgol yn helpu lansio Y Gors Gyfrin, gem gudd y Parc Cenedlaethol Yn ddiweddar datgelwyd yn swyddogol ran o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro a fu’n gudd cyn hynny, gyda chymorth cadwraethwyr newydd. Mae agor Y Gors Gyfrin, ardal a fu cyn hynny’n ardal gwlyptir anghyraeddadwy yn Freshwater East Burrows, yr unig Warchodfa Natur Leol yn y Parc Cenedlaethol, wedi creu adnodd addysgol newydd i blant ysgol lleol. Dynodwyd y Warchodfa Natur Leol (LNR) yn 2007. Mae’n cynnwys twyni tywod, glaswelltir, prysg, coetir a chorstir. Mae’n lle amrywiol ac arbennig sy’n gartref i ugeiniau o rywogaethau sy’n ffynnu ochr yn ochr â’i gilydd, yn cynnwys pryfed genwair, pryfed tân, a gwiberod a chwningod (a roddodd yr enw The Burrows). Mynychodd plant Ysgol Gynradd Llandyfái (Lamphey) y lansiad a chodwyd cerfluniau o fywyd gwyllt a wnaethant o helyg ar dir eu hysgol. Mae’r prosiect, a gyllidir gan grantiau oddi wrth Planed ac Asiantaeth yr Amgylchedd, yn enghraifft o sut mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio gyda sefydliadau a grwpiau cymuned eraill i helpu i gadw rhinweddau unigryw’r Parc Cenedlaethol
Digon i wenu amdano pan ydych yn ymweld â Bannau Brycheiniog Disgwyliwch ddigon i wenu amdano os ydych yn bwriadu ymweld â Bannau Brycheiniog yr haf hwn. Mae cystadleuaeth newydd yr Her Werdd yn rhoi cyfle i bobl ennill gwyliau gwych ym Mannau Brycheiniog trwy roi gwyliau i’w car – felly efallai y byddwch yn ymweld â ni eto cyn i chi wybod! Mae’r Her Deithio yn gwahodd pawb i feddwl am y ffordd maent yn teithio ym Mannau Brycheiniog a rhoi syniadau iddynt ynghylch sut i geisio rhoi gwyliau haeddiannol i’w ceir yn ystod eu cyfnod yn y Parc Cenedlaethol. Tynnir gwobrau ar ddiwedd bob mis (o fis Mai tan fis Medi). Y cyfan sydd raid i bobl ei wneud yw naill ai teithio i fwynhau’r Parc Cenedlaethol trwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus neu geisio teithio heb eu car (ni chynhwysir teithio i ac o’r gwaith). Rhaid anfon prawf teithio gyda phob ymgais yn y gystadleuaeth, ar ffurf derbynneb, tocyn neu lun, a rhaid i’r teithio ddigwydd rhwng 1af Mai a 30ain Medi 2011. Gellir cystadlu ar-lein ar www.travelbreconbeacons.info neu drwy daflen gystadleuaeth yr Her Deithio.
6
Man hardd yn y Parc Cenedlaethol yn arloesi gyda chynllun ceblau dan y ddaear
Arfordir Penfro, wedi symud ei geblau dan y ddaear. Hefyd mae busnes rhwydwaith lleol BT Openreach wedi symud 18 o bolion a gosod 600m o geblau uwchben dan y ddaear.
Mae man hardd eiconig ym Mharc Cenedlaethol Meddai Phil Davies, Rheolwr Gwasanaethau Arfordir Penfro wedi dod yn hyd yn oed harddach, Rhwydwaith WPD i Gymru: “Thema allweddol yn ein hymgynghoriad gydag amrediad o bartïon â diolch i dynnu ymaith y llinellau pwer uwchben. diddordeb mewn misoedd diweddar fu gosod Mae Pen Caer, gyda’i oleudy hardd, yn lleoliad o’r llinellau pwer dan y ddaear mewn safleoedd radd flaenaf i wylio adar a llamidyddion, ac mae’n eiconig. Arweiniodd y sgyrsiau at greu grwp llywio yn denu ymwelwyr sy’n hoff o fywyd gwyllt drwy gydol y cynnwys cynrychiolwyr o wahanol Awdurdodau Parc flwyddyn. Ond ers tro roedd eu golygfa’n cael ei Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE’oedd) a awgrymodd safleoedd i’w difetha gan geblau trydan a ffôn uwchben. hystyried”. Nawr mae Western Power Distribution (WPD), yn dilyn ymgynghoriad ag Awdurdod Parc Cenedlaethol
7