3 minute read
achub ein hysgolion
MAE tri chwarter yr aelodau yng
Nghymru wedi pleidleisio i dderbyn cynnig sy’n rhoi cyflogau uwch, a hwnnw i’w ariannu’n llawn gan
Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn dilyn wythnosau o weithredu a oedd yn cynnwys dau ddiwrnod o streicio ledled Cymru a rali anferth y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd.
Ymgynghorwyd â’r holl athrawon sy’n aelodau drwy bleidlais electronig. O blith y rheini a ymatebodd (61 y cant), pleidleisiodd 73 y cant i dderbyn y cynnig ac i roi diwedd ar yr anghydfod.
Dywedodd David Evans, ysgrifennydd NEU Cymru: “Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb yn y byd addysg. Nid ar chwarae bach y bydd ein haelodau yn penderfynu streicio, ond roedd yn rhaid iddyn nhw wneud safiad, gan ystyried yr effaith y mae cyni, costau byw a chwyddiant mawr yn parhau i’w chael.
“Hoffen ni ddiolch i’r holl rieni a gefnogodd yr athrawon a’r staff cymorth wrth iddyn nhw weithredu.”
Dywedodd Mr Evans fod yr undeb yn siomedig nad oedd cynnig wedi’i wneud i gynorthwywyr addysgu, “ond o leiaf mae’r
Ewch i dudalennau
2 a 3 i gael rhagor o newyddion am y STREICIAU
Newyddion y STREIC yn parhau o dudalen 1
£8m ar gyfer dysgu digidol
MAE Llywodraeth Cymru yn bwriadu buddsoddi £8m yn ychwanegol i hybu dysgu digidol mewn colegau addysg bellach dros y tair blynedd nesaf.
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg, y byddai’r cyllid yn helpu i sicrhau bod y sector addysg bellach yng Nghymru ar flaen y gad yn y maes arloesi a chreadigrwydd.
Byddai hyn hefyd yn rhoi’r dechnoleg a’r sgiliau y mae eu hangen ar ddysgwyr i fynd yn eu blaenau i gael swyddi da. Mae’n golygu bod cyfanswm y buddsoddiad mewn cyllid digidol yn y sector addysg bellach yn fwy na £30m ers 2019.
Calon y gymuned
MAE ysgolion yn cael eu helpu i ddod yn llefydd canolog yn eu cymunedau, gan gynnig eu cyfleusterau i bobl leol a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac absenoldeb.
Bydd cyllid gwerth £46 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn galluogi ysgolion i gynnig cynlluniau cymunedol fel prosiectau bwyd a garddio, defnyddio cyfleusterau chwaraeon ysgolion, a rhaglenni allgymorth – er enghraifft, dosbarthiadau sgiliau a sesiynau darllen i rieni a’u plant.
Bydd rhywfaint o’r cyllid - £6.5m – yn cael ei ddefnyddio i gyflogi mwy o swyddogion y gwasanaeth lles addysg a swyddogion ymgysylltu â theuluoedd er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac absenoldeb.
Gweinidog Addysg bellach yn cydnabod yr heriau sy’n gysylltiedig â llwyth gwaith”.
Dywedodd y byddai gweithrediaeth genedlaethol yr NEU yn trafod y camau nesaf yn yr ymgyrch am gyflogau teg i staff cymorth.
Er nad oedd y cytundeb yn llwyddo i gyflawni uchelgais yr undeb i adfer lefel cyflogau’n llwyr, dywedodd Kevin Courtney, ysgrifennydd cyffredinol yr NEU, fod yr aelodau yng Nghymru wedi gwneud penderfyniad clir i dderbyn y cynnig. Diolchodd hefyd i Lywodraeth Cymru am y ffordd “adeiladol” yr oedd hi wedi cynnal y trafodaethau.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael perthynas weithio gynhyrchiol er mwyn sicrhau bod modd gwneud cynnydd da gyda gweddill y cytundeb, sy’n ymwneud â llwyth gwaith,” meddai.
Dywedodd Mr Evans y byddai’r sgyrsiau â Llywodraeth Cymru mewn meysydd fel cyllid ysgolion a llwyth gwaith yn parhau, ac yn enwedig y trafodaethau am y pwysau sy’n cael ei achosi gan arolygiadau Estyn a gofynion atebolrwydd y pedwar consortiwm gwella ysgolion.
Llinell Amser Y Streic
n 16 Ionawr Pleidlais yr NEU yn cau yng Nghymru. Mae mwyafrif o 92.28 y cant yn pleidleisio dros streicio, gyda’r ganran a bleidleisiodd yn 58.07 y cant. Mae’r bleidlais ymhlith staff cymorth ysgolion Cymru yn arwain at fwyafrif o 88.26 y cant o blaid, gyda’r ganran a bleidleisiodd yn 51.30 y cant. n 1 Chwefror Yr aelodau yng Nghymru yn ymuno â streic genedlaethol yr NEU gyda llinellau piced y tu allan i ysgolion ledled y wlad.
Swyddog y flwyddyn Roxanne Beckles
BUM mlynedd ers symud i Gymru ar fympwy, mae Roxanne Beckles wedi ennill gwobr swyddog y flwyddyn yng Nghymru am ei brwdfrydedd a’i hegni fel swyddog addysgwyr Du ym Mro Morgannwg.
“Mae’n fraint a hanner,” meddai. “Dim ond ceisio codi proffil staff Du ydw i, ac mae’n waith cyffrous. Mae’n teimlo fy mod i mewn sefyllfa dda i fwrw ymlaen â’r gwaith.”
Ers yr hydref diwethaf, mae Roxanne wedi bod yn cysylltu ag aelodau Du o Gymru a de-orllewin Lloegr i greu grŵp i rannu gwybodaeth am yr undeb a newyddion gan y fforwm drefnu i bobl Ddu, fforwm y mae hi’i hun yn aelod ohono.
Ymunodd hi â’r NUT pan ddechreuodd hi addysgu yn Llundain yn 2005, gan ddod yn weithgar yn yr undeb a chael ei hethol yn llywydd cangen Brent.
Serch hynny, bu’n rhaid iddi ddygymod â nifer o “benaethiaid ofnadwy” a rheoli gwael, ac ar un adeg fe benderfynodd na fyddai hi byth yn addysgu eto.
Ond ar ôl i rywun ddweud wrthi ei bod hi wedi’i geni i fod yn athrawes, dychwelodd Roxanne i’r ystafell ddosbarth ac mae hi bellach yn gweithio fel athrawes gyflenwi rhan amser, gan wneud gwaith addysg hefyd i’r elusen, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.
Ei neges i aelodau Du yr NEU yw: “Cysylltwch, gan fy mod i yma i helpu pobl.”