4 minute read
Newyddion Yma i helpu
FEL yr undeb addysg mwyaf, gall NEU Cymru roi gwasanaeth heb ei ail i’w aelodau. Mae ein tîm proffesiynol yma i ddefnyddio’u harbenigedd er mwyn helpu ein rhwydwaith o gynrychiolwyr gweithle ac ysgrifenyddion rhanbarthau a changhennau.
Os oes gennych chi broblem yn y gwaith neu i gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau i aelodau, cysylltwch â’r canlynol: n cynrychiolydd eich gweithle n ysgrifennydd eich cangen n AdviceLine n Swyddfa NEU Cymru.
NEU Cymru
Ty Sinnott, 18 Neptune Court, Vanguard Way, Caerdydd CF24 5PJ
Ffôn: 029 2049 1818
E-bost: cymru.wales@neu.org.uk
Ysgrifennydd Cymru: David Evans
Uwch Swyddogion Cymru:
Gareth Lloyd, Debbie Scott
Uwch Swyddog Polisi Cymru: Mary van den Heuvel
Trefnydd y Gogledd: Cai Jones
Trefnydd y De: Robert Goddard
Cyfreithiwr Cymru: Angharad Booker
Aelodau Gweithredol: Máiréad
Canavan, Elizabeth McLean, Hannah O’Neill
Prif swyddfa
Yr Undeb Addysg Cenedlaethol, Hamilton House, Mabledon Place, Llundain WC1H 9BD
Ffôn: 020 7388 6191
Gwefan: neu.org.uk
Llywydd: Louise Atkinson
Cyd-ysgrifenyddion cyffredinol: Mary Bousted a Kevin Courtney
Cyfieithiad gan Rhys Iorwerth Cyf rhysiorwerth@hotmail.com
Croeso cynnes Cymreig i ffoaduriaid
AR ddechrau pob tymor newydd ar Ynys Môn, bydd 16 o blant o wahanol ysgolion, ac yn aml o wahanol wledydd, yn ymuno i gael gwersi mewn canolfan ar yr ynys. Ddeuddeg wythnos yn ddiweddarach, byddan nhw’n dychwelyd i’w hystafelloedd dosbarth yn rhugl yn y Gymraeg. Mae’r ganolfan – Canolfan Iaith Moelfre – yn un o ddwy yn unig ar Ynys Môn i newyddddyfodiaid i’r ardal a phlant lleol sydd angen gwella eu sgiliau iaith, ac mae’n gyfle iddyn nhw gael eu trochi yn yr iaith. Yn ôl Eira Owen, un o’r athrawon yn y ganolfan ym Moelfre, bydd plant yn dod yno o bob cwr o’r byd, a’r rheini’n aml yn ffoaduriaid sydd wedi dianc rhag rhyfel mewn gwledydd fel Syria. Yn ddiweddar, dotiodd yr athrawon at dri o bobl ifanc o Wcráin a oedd yn hynod o frwd wrth ddysgu eu hiaith newydd mewn dim o dro.
Roedd Sofiia, 8, Daylo, 11, a Natalia, 9, wedi symud i’r ynys ar ôl i’w teuluoedd ffoi o Wcráin yn dilyn ymosodiad Rwsia y llynedd. Ymhen tymor, roedden nhw’n gallu’u mynegi’u hunain yn Gymraeg, disgrifio o ble roedden nhw’n dod, sôn am y teuluoedd a’r ffrindiau roedden nhw’n gweld eu colli, ond hefyd egluro sut byddai eu hiaith newydd yn eu helpu nhw i wneud ffrindiau newydd.
Bydd y staff yn y ganolfan iaith yn buddsoddi llawer iawn o egni ac yn arloesi i wneud y gwersi’n gymaint o hwyl â phosibl i’w disgyblion ifanc, gyda chanu, symud ac ystumiau yn rhan bwysig o’u dysgu. “Mae clywed y plant yn sôn am y pethau maen nhw wedi’u gadael ar ôl yn gallu bod yn anodd, ond rydyn ni’n ceisio gwneud eu profiad nhw fan hyn yn gymaint o hwyl â phosibl,” meddai Eira.
Dyddiadau dysgu i’ch dyddiadur
HYFFORDDIANT I GYNRYCHIOLWYR
Mae modd mynychu’r cyrsiau sylfaen a’r cyrsiau uwch i gynrychiolwyr, sy’n para tridiau, naill ai mewn un bloc neu fesul modiwl dros dri diwrnod ar wahân. Byddwn ni hefyd yn parhau i ddarparu cyrsiau’n rhithwir, gyda chwe sesiwn wythnosol rhwng 4pm a 6pm ar gyfer pawb sy’n cymryd rhan. Mae’r cyrsiau wedi’u trefnu ar sail y niferoedd ac ar sail canllawiau Llywodraeth Cymru, a hynny ar y dyddiadau canlynol.
Cyrsiau sylfaen
17-19 Mai – cwrs tridiau – Bangor
Cyrsiau uwch
14-16 Mehefin – cwrs tridiau – Casnewydd Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn gynrychiolydd yn y gweithle a mynd ar un o’r cyrsiau, anfonwch e-bost i cymru.wales@ neu.org.uk – mae gan gynrychiolwyr hawl gyfreithiol i gael yr hyfforddiant hwn a bydd yr NEU yn cefnogi unrhyw gynrychiolydd sy’n ei chael hi’n anodd cael amser i ffwrdd o’r gwaith i fod yn bresennol.
RHAGOR O GYRSIAU DRWY WULF
Mae cyrsiau hefyd ar gael drwy brosiect Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) ac mae rhestr wedi’i diweddaru o’r pynciau i’w gweld yn bit.ly/42cae4R
Hoffwch ni ar Facebook yn facebook. com/neucymrutraining, dilynwch ni ar Twitter drwy @neucymrutrain ac ewch i neu.org.uk/learning-and-events n 14 Chwefror Streic yng Nghymru yn cael ei gohirio ar ôl i Lywodraeth Cymru wneud cynnig. n 2 Mawrth Yr undeb yn gwrthod cynnig y Llywodraeth. Mae’r aelodau yn ôl ar y llinellau piced, ac yn cynnal rali gyda channoedd o aelodau a chefnogwyr y tu allan i’r Senedd. n Mawrth 15 ac 16 Streic arall dros ddeuddydd yn cael ei gohirio ar ôl i Lywodraeth Cymru wneud cynnig diwygiedig. Mae hwn yn cael ei gyflwyno i’r aelodau mewn pleidlais electronig ac maen nhw’n ei dderbyn.
Y Cytundeb
n Dyfarniad cyflog o dri y cant yn ychwanegol yn y flwyddyn academaidd bresennol, 2022/23 – 1.5 y cant yn gyfunedig ac 1.5 y cant yn gyfandaliad anghyfunol. Mae hyn yn ychwanegol at y pump y cant a ddyfarnwyd yn wreiddiol. Mae’r dyfarniad ychwanegol hwn wedi’i ôl-ddyddio i fis Medi 2022 ac wedi’i ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. n Cynnydd mewn codiad cyflog o bump y cant o fis Medi 2023. n Egwyddor “dim niwed” felly os bydd setliad cyflog uwch yn Lloegr, bydd Cymru’n cael dyfarniad cyfatebol. n Dros ddwy flynedd i athrawon ar bob colofn gyflog, mae’r cytundeb cyflog yn werth 11.8 y cant, yn ogystal â’r cyfandaliad o 1.5 y cant protest
Cynrychiolwyr y flwyddyn Bethan Jones ac Ian Stewart
MAE dau aelod yn rhannu’r wobr i gynrchiolydd y flwyddyn yng Nghymru am eu hymdrechion gwych i neilltuo eu hamser eu hunain i helpu’r undeb a’u cyd-aelodau.
Mae Bethan Jones ac Ian Stewart wedi gweithio’n galed i gynyddu nifer yr aelodau ac i sicrhau bod gan yr undeb bresenoldeb cryf yn eu hysgolion.
A hithau’n gynrychiolydd yn Ysgol
Gynradd Gladstone yn y Barri, Bro Morgannwg, mae Bethan wedi recriwtio nifer o aelodau newydd, ac mae hi’n eu cefnogi nhw yn y gweithle. Daeth hi’n gynrychiolydd dair blynedd yn ôl ar ôl bod ar gwrs cymorth cyntaf iechyd meddwl drwy’r NEU, ac fe siaradodd hi am hyn yng nghynhadledd Cymru y llynedd.
Mae hi yn y broses o helpu i greu rôl cynrychiolydd staff cymorth yn Ysgol
Gynradd Gladstone, y gyntaf yn y gangen. Wrth sôn am ei gwobr, dywedodd Bethan ei bod hi “wrth ei bodd”: “Rydw i’n mwynhau fy swydd a’r gwaith rydw i’n ei wneud gyda’r undeb yn fawr iawn.”
Mae Ian wedi bod yn gynrychiolydd ers chwe blynedd yn Ysgol Olchfa yn Abertawe, lle mae’n falch o fod wedi cynyddu’r aelodaeth i bron i 100, sef y mwyaf yn y sir. Meddai: “Rydych chi’n cefnogi pobl drwy adegau anodd iawn, ac yn glust i bobl. Ar yr adegau hynny, rydw i’n teimlo fy mod i’n gallu gwneud gwahaniaeth.”
Ymunodd Ian â’r ATL yn 2004 ac roedd yn gynrychiolydd yn Swindon, lle’r arferai weithio. Ar ôl symud i Abertawe, cafodd ei ethol yn ysgrifennydd sir i’r ATL, a chafodd ei ethol yn gyd-ysgrifennydd cangen yr NEU y mis diwethaf.
Strike timeline
How your resolve resulted in a fully funded pay deal.
It’s all thanks to you Awards for hard-working officer and reps.
A warm welcome Refugee children learning Welsh in Anglesey.