1 minute read

NEUADD FWYTA

Next Article
ADEILADAU NEWYDD

ADEILADAU NEWYDD

Ein Neuadd Fwyta yw’r hynaf a’r talaf o holl neuaddau bwyta Rhydychen a Chaergrawnt, sy’n ei gwneud yn lle arbennig iawn fwyta eich prydau. Efallai y gwnewch ei hadnabod o Mamma Mia 2: Here We Go Again!

Mae’n cael ei gynnal fel menter nid-er-elw fel bod costau eich prydau yn aros yn isel. Mae nifer o opsiynau gwahanol wastad ar gael, ac mae ein cogyddion yn brofiadol iawn wrth ymdrin ag anghenion dietegol, o bob math o alergeddau i ddarpariaeth grefyddol - er enghraifft, ar hyn o bryd mae gennym opsiynau halal deirgwaith yr wythnos, yn ogystal ag ym mhob swper ffurfiol.

Mae swperau ffurfiol yn cael eu cynnal pob wythnos - mae’n brofiad gael rhywun yn gweini arnoch a chael y profi gwledd Rhydychenaidd ‘traddodiadol’ (gan wisgo’ch gwn, wrth gwrs!) Maent yn gwbl opsiynol - os fyddai’n well gennych chi gael swper cyffredin yn eich joggers, mae hynny’n iawn hefyd!

Rhywbeth hollbwysig yw’r synnwyr o gymuned a geir wrth fwyta yma gyda’ch cydfyfyrwyr. Mae’r mwyafrif o’r myfyrwyr sy’n derbyn llety gan y Coleg yn cofrestru yn awtomatig ar gyfer swper, gan ei wneud yn ganolbwynt arbennig i orffen y dyddyn gyfle i bawb ddod at ei gilydd ar ôl astudio er mwyn ymlacio, bwyta a chymdeithasu gyda ffrindiau. (Mae brecwast a chinio hefyd ar gael, wrth gwrs!)

Mae Capel y Coleg a’r Clawstrau ymysg adeiladau gwreiddiol y Coleg, a chânt eu dyddio’n ôl i’r 14eg ganrif. Tra bod y Capel yn dal gael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau, mae’r Capel a’r Clawstrau yn cynnig lle prydferth a thawel i fyfyrwyr o unrhyw neu heb ffydd gael crwydro, meddwl ac adlewyrchu.

Mae’r Capel hefyd yn cynnal perfformiadau cerddorol rheolaidd gan fyfyrwyr, cerddorion lleol a Chôr byd-enwog Coleg Newydd.

Yn yr un modd, mae’r Clawstrau yn cael eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol fel derbyniadau diodydd a ble gewch chi dderbyn eich tystysgrif graddio pan fyddwch yn graddio. Maent mor brydferth cawsant eu cynnwys yn ffilmiau Harry Potter!

This article is from: