CROESO I GOLEG NEWYDD
Y peth cyntaf y dylech ei wybod am Goleg Newydd yw ein bod ni’n gymuned. Yma cewch ddarganfod pobl ac amgylchedd sydd yn ymrwymo sicrhau eich bod yn cael y profiad prifysgol gorau bosibl. Anelwn at wneud i Goleg Newydd deimlo fel eich cartref oddi cartref
Wedi ei sefydlu yn 1379, Coleg Newydd yw un o golegau mwyaf Rhydychen, oherwydd maint y boblogaeth myfyrwyr (mae gennym 420 o israddedigion yma) ac o ran arwynebedd. Mae’r ddau beth yma yn cyfuno gynnig awyrgylch gymdeithasol fywiog a gerddi helaeth law yn llaw â phrydferthwch pensaernïol gwirioneddol ryfeddol - y cyfan ddwy funud yn unig ar droed o ganol Rhydychen.
Y CWAD BLAEN
Er gwaethaf beth mae ein enw yn ei awgrymu, mewn gwirionedd ni yw un o golegau
hynaf Rhydychen. Ein enw llawn yw ‘Coleg y Santes Fair o Gaerwynt’ ond oherwydd bod coleg arall wedi ei gysegru
i’r Santes Fair yn 1379 (ac am ei fod yn dipyn o lond ceg!), dechreuodd pobl ei alw’n goleg
‘newydd’ ar lafar a dyna fu’r hanes ers hynny!
Byddwch yn dechrau eich taith yn y Cwad Blaen (Front Quad). Yn un o gwadiau clasurol Rhydychen (a’r cyntaf, digwydd bod!), mae’r cwad yn cynnwys y Neuadd, y Capel, y Clawstrau (Cloisters), ac wrth gerdded drwy’r bwa o’ch blaen fe welwch y JCR…
Ystyr y JCR yw ‘Junior Common Room’, ac mae’n ardal ymlaciol i israddedigion gael treulio amser hamdden. Fel myfyriwr yma, mae croeso i chi fynd a dod fel y mynnoch. Mae llawer i’w gynnig gan y JCR gyda theledu 4K 65” gyda Sky+ (a Netflix), PS4, Wii, bwrdd snwcer, tenis bwrdd, pêl-droed bwrdd, cegin fach gyda the a choffi, soffas cyfforddus ac unrhyw beth arall y byddai arnoch ei angen i ymlacio mewn awyrgylch debyg i lolfa.
Mae ein cyngor myfyrwyr (a elwir hefyd yn JCR) yn chwarae rhan ganolog ym mywyd y Coleg, boed hynny drwy drefnu gweithgareddau cymdeithasol, cynnal digwyddiadau llesiant ar gyfer myfyrwyr, neu sicrhau bod crwban y coleg Tessa yn parhau fyw bywyd braf.
JCR
Ar wahân i dreulio amser yn y JCR, mae ffyrdd eraill o gymdeithasu yn y Coleg. Mae nosweithiau Meic Agored a Karaoke yn cymryd lle ym Mar y Coleg hyd at deirgwaith pob tymor. Mae
Bops (partïon gwisg ffansi) hefyd yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.
Yn ogystal, mae ystod eang o gymdeithasau arbennig ar gyfer myfyrwyr Coleg Newydd, megis Cantorion Holywell (ein côr di-glyweliad) a Chymdeithas Ddrama Coleg Newydd. Mae timau chwaraeon y coleg yn cynnwys pêl-droed, rhwyfo, rygbi, tenis, pêl-rwyd, hoci, lacrosse, badminton, pêlfasged, sboncen, rownderi a llawer mwy.
Y GERDDI A’R DOMEN
Mae Cwad godidog yr Ardd (Garden Quad) yn ymestyn
allan i’n gerddi helaeth. Wrth ddal llygad yr haul yn yr haf, mae’r gerddi yn cynnig hafan heddychlon i fyfyrwyr Coleg
Newydd. Yn eistedd yn falch yng nghanol popeth mae un o nodweddion mwyaf trawiadol Coleg Newydd - y
Domen (the Mound)! Wedi ei godi yn y 16eg ganrif, mae effaith sain anghyffredin gan y domen a ellir ei glywed drwy glapio yn agos at y gwaelod…
Mae’r Coleg Newydd hefyd yn gartref i un o’r muriau dinas canoloesol sydd wedi ei gadw orau yn y wlad. Gyda thros bedair acer o fannau gwyrdd, ac yn gartref i 27 o rywogaethau o adar, mae Gerddi’r Coleg Newydd yn werddon annisgwyl yng nghalon y ddinas. Nid yw’n syndod bod ein Coleg yn safle ffilmio poblogaidd. Ffilmiwyd Mamma Mia 2 yn ein
Neuadd, defnyddiodd His Dark Materials y Coleg ar gyfer lleoliad ‘Jordan College’, a chafodd Draco Malfoy ei hun ei droi yn ffured gwyn yn ein Clawstrau (o Harry Potter and the Goblet of Fire). ‘Mae byw ar set ffilm yn un o nifer o fanteision o fod yn fyfyriwr yng Ngholeg Newydd!’
Gan bod y Coleg wedi ei sefydlu yn 1379, gwnewch sylweddoli yn fuan nad yw’r rhan fwyaf o’n adeiladau yn ‘newydd’ iawn! Yn yr ‘Adeiladau Newydd’ hyn (a adeiladwyd yn y 19eg ganrif…) y byddwch chi a gweddill myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn byw.
Rydym ni’n gwbod bod symud oddi cartref yn medru bod yn gyfnod anodd, felly rydym yn helpu ein myfyrwyr
blwyddyn gyntaf i setlo drwy eich rhoi yn yr un adeilad ar brif safle’r Coleg. Bydd hyn yn eich helpu i wneud
ffrindiau yn sydyn, ac ymhen dim byddwch yn dechrau teimlo bod eich ystafell yma fel cartref oddi cartref.
Mae gan y mwyafrif o’n ystafelloedd gyfleusterau
en-suite ac fel arfer gyda dim
ond un neu ddau o fyfyrwyr eraill y bydd yn rhaid i’r gweddill rannu. Mae gennym
dîm cyfeillgar o lanhawyr
Coleg i’ch helpu i gadw’ch ystafell yn lân a thaclus hefyd!
ADEILADAU NEWYDD
Yn y flwyddyn gyntaf rydym yn neilltuo ystafelloedd ar hap ac rydym yn gweithredu ar system falot deg wedi hyn - os oes gennych ystafell fechan yn y flwyddyn gyntaf - cewch ddewis cyntaf ar gyfer llety’r ail flwyddyn; rydym ni’n hoffi trin pawb yn deg yma yng Ngholeg Newydd.
Mae ein holl ystafelloedd yn cynnwys gwely, desg, cwpwrdd dillad, lampau, ac oergell.
Mae ein Llyfrgell o banelau pren hyfryd yn agored o 8yb tan 2yb, ac mae ganddi dros 100,000 o destunau. Yn ogystal â desgiau traddodiadol, mae nifer o ystafelloedd ar gael ar gyfer grwpiau astudio, felly gallwch astudio ym mha bynnag fodd sy’n eich siwtio.
‘Mae’r Llyfrgell yn cynnwys y rhan fwyaf o’r testunau cyffredin y bydd eu hangen ar gyfer eich cwrs ac mae wedi’i lleoli eiliadau i ffwrdd
LLYFRGELL
o lety’r flwyddyn gyntaf, gan ei wneud yn lle cyfleus iawn i weithio.’
Os nad ydych chi’n hoff o fynd i’r llyfrgell, mae gennym y North Undercroft, sef lle mwy ymlaciol astudio. Mae’n ysgafn braf yno (a gyda mynediad hawdd i far/caffi y Coleg), sy’n ei gwneud yn ystafell boblogaidd gyda myfyrwyr sydd yn ffafrio sesiynau astudio mwy rhyngweithiol a sgyrsiol.
BAR A CHAFFI
Rydym yn gwybod y bydd eich bywyd cymdeithasol yn rhan bwysig o’ch amser yng Ngholeg Newydd.
Mae llawer o’n gweithgareddau cymdeithasol yn cymryd lle yn ein ardal bar / caffi - wedi ei addasu o’r seler gwrw 14eg ganrif gwreiddiol.
Boed yn baned a sgwrs gyda ffrind yn ystod y dydd, gweithio mewn awyrgylch mwy ymlacedig, neu ddechrau eich noson allan mewn steil; mae gan y Bar yng Ngholeg Newydd bopeth sydd arnoch ei angen mewn gofod cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr.
NEUADD FWYTA
Ein Neuadd Fwyta yw’r hynaf a’r talaf o holl neuaddau bwyta Rhydychen a Chaergrawnt, sy’n ei gwneud yn lle arbennig iawn fwyta eich prydau. Efallai y gwnewch ei hadnabod o Mamma Mia 2: Here We Go Again!
Mae’n cael ei gynnal fel menter nid-er-elw fel bod costau eich prydau yn aros yn isel. Mae nifer o opsiynau gwahanol wastad ar gael, ac mae ein cogyddion yn brofiadol iawn wrth ymdrin ag anghenion dietegol, o bob math o alergeddau i ddarpariaeth grefyddol - er enghraifft, ar hyn o bryd mae gennym opsiynau halal deirgwaith yr wythnos, yn ogystal ag ym mhob swper ffurfiol.
Mae swperau ffurfiol yn cael eu cynnal pob wythnos -
mae’n brofiad gael rhywun yn gweini arnoch a chael y profi gwledd Rhydychenaidd ‘traddodiadol’ (gan wisgo’ch gwn, wrth gwrs!) Maent yn gwbl opsiynol - os fyddai’n well gennych chi gael swper cyffredin yn eich joggers, mae hynny’n iawn hefyd!
Rhywbeth hollbwysig yw’r synnwyr o gymuned a geir wrth fwyta yma gyda’ch cydfyfyrwyr. Mae’r mwyafrif o’r myfyrwyr sy’n derbyn llety gan y Coleg yn cofrestru yn awtomatig ar gyfer swper, gan ei wneud yn ganolbwynt arbennig i orffen y dyddyn gyfle i bawb ddod at ei gilydd ar ôl astudio er mwyn ymlacio, bwyta a chymdeithasu gyda ffrindiau. (Mae brecwast a chinio hefyd ar gael, wrth gwrs!)
Mae Capel y Coleg a’r Clawstrau ymysg adeiladau gwreiddiol y Coleg, a chânt eu dyddio’n ôl i’r 14eg ganrif. Tra bod y Capel yn dal gael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau, mae’r Capel a’r Clawstrau yn cynnig lle prydferth a thawel i fyfyrwyr o unrhyw neu heb ffydd gael crwydro, meddwl ac adlewyrchu.
Mae’r Capel hefyd yn cynnal perfformiadau cerddorol rheolaidd gan fyfyrwyr, cerddorion lleol a Chôr byd-enwog Coleg Newydd.
Yn yr un modd, mae’r Clawstrau yn cael eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol fel derbyniadau diodydd a ble gewch chi dderbyn eich tystysgrif graddio pan fyddwch yn graddio. Maent mor brydferth cawsant eu cynnwys yn ffilmiau Harry Potter!
Y CAPEL A’R CLAWSTRAU
Mae’r Coleg Newydd yn gymuned ble rydym yn dathlu
amrywiaeth pob cefndir, ac un o fanteision bod yn rhan o goleg mawr yw eich bod yn fwy tebygol o ddarganfod pobl sy’n debyg i chi. Rydym yn un o’r ychydig o golegau sydd yn cynnig Ystafell Weddi Fwslimaidd benodol, sy’n cynnwys daliwr esgidiau a sinc. Mae gan ein myfyrwyr
‘Reps’ neu gynrychiolwyr sydd yn cynrychioli hawliau, ac yn dathlu, grwpiau lleiafrifol, gan gynnwys
Lleiafrifoedd Ethnig a Ffydd, grwpiau LDHTC+, a Myfyrwyr gydag Anableddau.
Mae gennym dîm o bobl yn arbennig i helpu unrhywun sydd yn profi unrhyw anawsterau neu broblemau, boed hynny’n academaidd neu’n bersonol. Mae gennym dîm o staff llesiant a myfyrwyr sydd wedi eu hyfforddi fel cefnogwyr cyfoedion a wnaiff eu gorau i’ch cefnogi.
ODDI AR Y PRIF SAFLE
CWADRANGLAU GRADEL
Er bod y rhan fwyaf o’n myfyrwyr israddedig yn cael llety ar neu o amgylch prif safle’r Coleg, rydym ar hyn o bryd yn adeiladu Cwadranglau Gradel, a fydd yn agor
yn 2023. Wedi ei leoli daflaid carreg o brif safle’r Coleg, bydd hyn yn galluogi ni gynnig llety fwy o’n myfyrwyr drwy gydol eu graddau.
STIWDIOS CERDDORIAETH
CLORE
Mae ein Stiwdios Cerddoriaeth Clore arbennig ar gael
i’w defnyddio gan holl fyfyrwyr Coleg Newydd. Ddwy
funud yn unig o’r prif safle, maent yn cynnwys saith ystafell gwrthsain gyda phiano yn y mwyafrif ohonynt.
MAES CHWARAE WESTON
Mae ein maes chwarae wedi
ei leoli bum munud ar droed o brif safle’r Coleg - sydd yn anarferol o agos ar gyfer coleg yn Rhydychen. Mae yma feysydd pêl-droed,
rygbi, criced, a hoci, cyrtiau sboncen, ystafell erg a chwrt pob-tywydd ar gyfer pêlfasged, pêl-rwyd a thenis (yn ogystal â chyrtiau gwair ychwanegol yn yr haf).
Y COLEG MEWN RHIFAU
Er ein bod yn cael ein hadnabod fel ‘Coleg Newydd’, mewn gwirionedd, ni yw 9fed coleg hynaf Prifysgol Rhydychen. Ein enw gwreiddiol oedd ‘Coleg y Santes Fair o Gaerwynt yn Rhydychen’ ond oherwydd bod coleg arall wedi ei gysegru i’r Santes Fair (ac am fod yr enw hwnnw yn dipyn o lond ceg!), cawsom ein galw wedi hynny’n y ‘Coleg Newydd’.
4
Mae’r Coleg yn serennu ym mhedwaredd ffilm Harry Potter, Harry Potter and the Goblet of Fire - cafodd Draco Malfoy ei droi’n ffured yn ein Clawstrau!
1379
Y flwyddyn y cawsom
ein sefydlu gan William o Wykeham, Archesgob
Caerwynt a fu’n Arglwydd
Ganghellor ar Loegr ddwywaith.
420 Amcangyfrifiad o faint o fyfyrwyr israddedig sydd yn rhan o deulu Coleg Newydd.
100,000
Nifer o destunau a gediwr o fewn llyfrgell y coleg (mae gennym gasgliad byd-enwog o lawysgrifau hanesyddol a llyfrau prin hefyd).
2 Munudau y mae’n ei gymryd i gerdded o’n mynedfa i Radcliffe Square a Llyfrgell Bodleian.
50
Nifer o ystafelloedd ymarfer cerddoriaeth arbennig ar gael fel rhan o ddatblygiad newydd Stiwdios
Cerddoriaeth Clore.
13
Mae ein neuadd fwyta yn 50 troedfedd o uchder - y talaf o unrhyw un o golegau Rhydychen a Chaergrawnt.
Mae rhan godidog o hen fur 13eg ganrif dinas Rhydychen yn rhedeg drwy’r coleg. Pan brynodd Coleg Newydd y tir gan y Ddinas, rhoddwyd amod y byddai’n rhaid cynnal a chadw’r mur yn dda - hyd heddiw mae’r Maer a’r Cynghorwyr yn dod i’w arolygu pob 3 mlynedd!
CYRSIAU
(NIFER O LEFYDD AR GAEL AR GYFARTALEDD)
Dyma’r holl gyrsiau sydd yn cael eu cynnig ar hyn o bryd yng Ngholeg Newydd.
Am wybodaeth mwy manwl am gyrsiau gweler gwefan Coleg Newydd.
Cofiwch gyfeirio at wefan y Coleg am restr lawn o’n cyrsiau Israddedig.
Biocemeg (Moleciwlar a Chellog) (4)
Bioleg (4)
Gwyddorau Biofeddygol (3)
Cemeg (8)
Clasuron (Literae Humaniores) a Graddau
Cyfun (6)
Clasuron: Cwrs 1
Clasuron: Cwrs 2
Clasuron gyda Ieithoedd Modern
Clasuron gydag Astudiaethau Orientalaidd
Cyfrifiadureg, Mathemateg, a Graddau Cyfun (8)
Cyfrifiadureg
Cyfrifiadureg ac Athroniaeth
Mathemateg
Mathemateg a Chyfrifiadureg
Mathemateg ac Athroniaeth
Mathemateg ac Ystadegaeth
Economeg a Rheolaeth (3)
Gwyddorau Peirianneg (7-8)
Saesneg a Graddau Cyfun (9)
Saesneg Iaith a Llenyddiaeth
Saesneg a Ieithoedd Modern
Celf Gain (2)
Hanes a Graddau Cyfun (9)
Hanes Modern a’r Henfyd
Hanes
Hanes ac Economeg
Hanes a Ieithoedd Modern
Hanes a Gwleidyddiaeth
Y Gyfraith (8)
Y Gyfraith
Y Gyfraith gydag Astudiaethau Ewropeaidd
Meddygaeth (6)
Ieithoedd Modern a Graddau Cyfun (13)
Ieithoedd Modern
Ieithoedd Ewropeaidd a’r Dwyrain Canol
Ieithoedd Modern a Ieithyddiaeth
Athroniaeth a Ieithoedd Modern Modern
Cerddoriaeth (4-5)
Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg (PPE) (10)
Ffiseg (6)
Seicoleg (Arbrofol) a PPL (6)
Seicoleg (Arbrofol)
Seicoleg, Athroniaeth a Ieithyddiaeth (PPL)