DIM Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
SĂŠt-arfau ar gyfer prifysgolion, colegau ac undebau myfyrwyr
Rhagair Mae UCM Cymru wedi cyhoeddi’r sét-arfau yma gyda’r nod o gynnig cefnogaeth a herio mwy o
Hoffem ddiolch yn arbennig i’n hundebau a’n sefydliadau peilot am arwain y ffordd mewn Dim
sefydliadau ac undebau myfyrwyr i fabwysiadu ymagweddiad ddifrifol tuag at roi terfyn ar aflonyddu
Goddefgarwch: Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, Coleg Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerydd. Hefyd
rhywiol, stelcio a thrais yn ein prifysgolion a’n
diolch o galon i Lywodraeth Cymru am ariannu’r gwaith
colegau.
hwn.
Dyfyniadau o gefnogaeth: “Mae Prosiect Dim Goddefgarwch wedi rhoi platfform i ni weithio gyda’r brifysgol ar faterion o ddiogelwch a chydraddoldeb. Mae’r cynnydd a wnaethpwyd hyd yma’n galonogol mewn partneriaeth gydag UCM a’r brifysgol, ac ‘rydym yn edrych ymlaen at wireddu amcanion y prosiect – gwneud ein campws yn ddiogelach ac yn fwy cynhwysol.” Shon Prebble, Is-Lywydd Addysg a Lles, Undeb Myfyrwyr Bangor
“Mae derbyn y fath gefnogaeth gan holl staff a swyddogion undeb y myfyrwyr gydag ymgyrch Dim Goddefgarwch wedi helpu gyda symud yn gyflym o godi ymwybyddiaeth llynedd i weithio gyda’r brifysgol nawr er mwyn ymestyn y polisi hwn i fod yn ymagweddiad prifysgol-gyfan tuag at Dim Goddefgarwch. Mae’n galonogol iawn ac ‘rwyf yn gobeithio y caiff y momentwm sydd wedi cael ei greu ei gynnal hyd nes y caiff y polisi ei basio.”
“Roedd Prosiect Dim Goddefgarwch wedi ei amseru’n berffaith i’n helpu gyda rhai materion a gododd drwy Lais y Myfyrwyr. Mae hefyd wedi helpu i hwyluso’r ffordd i’r coleg a myfrywyr weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r materion difrifol hyn. “Mae undeb myfyrwyr Caerdydd a’r Fro yn falch o fod yn rhan o ymgyrch Dim Goddefgarwch, oherwydd mae’n sicrhau fod yno gydraddoldeb i bawb. Mae’n caniatáu i bobl deimlo’n gyfforddus ar gyrsiau nad ydynt yn gweddu i’r stereoteip ar gyfer eu rhywedd, a gall pobl o wahanol hil a rhywedd deimlo’n ddiogel a bod y coleg yn estyn croeso iddynt”. Heather Ferguson, Cyd-lynydd Llais Myfyrwyr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ac Alexis Salter, Llywydd Undeb y Myfyrwyr
Rebecca Warrillow, Swyddog Menywod Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
UCM Cymru, 2il lawr, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FL ffôn. 02920435390 @ucmcymru
e-bost. office@nus-wales.org.uk www.facebook.com/ucmcymru
2 Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
DIM Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws Sét-arfau ar gyfer prifysgolion, colegau ac undebau myfyrwyr
Cynnwys RHAGAIR
4
MARCIAU CUDD: Y DARLUN MAWR
6
Datblygu polisi Dim Goddefgarwch yn eich sefydliad • Enghraifft o bolisi: dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais • Cynllun gweithredu: troi polisi yn realiti
7 13
ANNOG REPORTIO DIGWYDDIADAU
14
Datblygu polisi dim goddefgarwch yn eich sefydliad • Enghraifft o lwybr ar gyfer reportio, cofnodi a gweithredu ar ôl digwyddiadau
GWASANAETHAU CYMORTH I DDIODDEFWYR
15
3 Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
14
Annwyl ddarllenydd, Mae atal trais yn erbyn myfyrwragedd wedi bod yn flaenoriaeth i Ymgyrch Menywod UCM Cymru ers blynyddoedd lawer. Yn ystod 2009-2010, cyhoeddodd UCM ganlyniadau ymchwil yn dwyn y teitl ‘Marciau Cudd’, oedd yn rhoddi sylw i brofiadau myfyrwragedd ledled y DU o aflonyddu rhwyiol / corfforol a thrais. Dyma’r ymchwil cyntaf o’i fath, ac ‘roedd y canlyniadau’n arloesol. Dangosodd adroddiad Marciau Cudd fod 68% o fyfyrwragedd wedi dioddef aflonyddu rhywiol tra ‘roeddent yn y brifysgol neu’r coleg. ‘Roedd 1 o bob 7 wedi dioddef ymosodiad corfforol neu rywiol difrifol. ‘Roedd yr adroddiad hefyd yn dangos fod diwylliant o ‘dderbyn’ aflonyddu rhywiol wedi datblygu. Yn wir, mae’n digwydd yn ddyddiol, ond yn aml nid yw sefydliadau’n chwarae unrhyw rôl mewn ei herio. Un o’r argymhellion allweddol a ddaeth allan o’r adroddiad oedd yr angen am ddatblygu cynllun Achrediad Dim Goddefgarwch ledled y DU ar gyfer undebau myfyrwyr, wedi ei redeg gan Ymgyrch Menywod UCM. Nod y cynlluniau yma fyddai codi ymwybyddiaeth o’r materion hyn a rhoddi terfyn ar ddiwylliant o ‘dderbyn’ ymddygiad o’r fath sy’n golygu na chaiff ei herio. Byddai’r cynllun hefyd yn golygu fod gan undebau bolisi effeithiol mewn lle o fewn i’w strwythurau eu hunain i fynd i’r afael â materion o aflonyddu rhywiol. Mae’r gwaith hwn wedi bod yn llwyddiant, er fod yno wrth gwrs gryn lawer mwy o waith ar ôl i’w wneud. Dyna pam fod Ymgyrch Menywod UCM Cymru wedi dechrau mynd â’r gwaith pwysig yma gam ymhellach, ac adeiladu ar ail argymhelliad allweddol yr adroddiad: yr angen i sefydlu polisïau ar draws sefydliadau sy’n mynd i’r afael â thrais yn erbyn myfyrwragedd. Gall polisi sefydliad-cyfan o’r math yma ddatblygu nifer o ffyrdd y gall sefydliadau ac undebau myfyrwyr ledled Cymru weithio gyda’i gilydd i atal trais ac aflonyddu pellach, sicrhau fod myfyrwyr oll yn gallu cael mynediad i’r gwasanaethau cefnogaeth maent eu hangen os ydynt yn dioddef ymosodiadau, ac annog reportio digwyddiadau.
Yr ymagweddiad: • Mae’n gosod allan sut y bydd y sefydliad ac undeb y myfyrwyr yn datblygu a gweithredu gweithgareddau sydd â’r nod o newid ymagweddiadau a chodi ymwybyddiaeth o’r trais a wynebir gan fenywod • Mae’n galluogi myfyrwyr a staff i adnabod ac ymdrin yn effeithiol ag achosion o aflonyddu yn erbyn myfrywyr • Mae’n ystyried y defnydd o gefnogaeth gan gyfoedion i helpu sicrhau fod diogeledd ar y campws yn briodol i helpu myfyrwyr deimlo’n ddiogel • Mae’n dangos sut y byddai sefydliadau’n gweithio gydag asiantaethau perthnasol i sicrhau y gall myfyrwyr gael mynediad i wasanaethau a reportio aflonyddu ac ymosodiadau, yn ogystal â gosod allan sut yn union y byddai’r sefydliad yn ymdrin â gweithred dreisiol wedi ei chyflawni gan fyfyriwr arall Mae UCM Cymru wedi cynnal peilot ar gyfer y gwaith hwn gyda phedwar sefydliad: Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, Coleg Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd. Mae canlyniadau’r prosiect llwyddiannus hwn yn ffurfio sail i’r sét-arfau yma.
Beth yw polisi sefydliad-cyfan? Yn y cyd-destun hwn, golyga y byddai’r polisi’n berthnasol i holl fyfyrwyr a staff y sefydliad yn ei gyfanrwydd, boed mewn darlithfa, neuadd breswyl neu’n mynychu digwyddiad a drefnwyd gan undeb y myfyrwyr. Ar hyn o bryd, nid yw’n anghyffredin bod â gwahanol bolisïau ar gyfer gwahanol rannau o’r sefydliad, sy’n golygu y byddai ymosodiad yn cael ei drin yn dra gwahanol gan ddibynnu ar ble y digwyddodd.
4 Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
Argymhellion Allweddol Dyma argymhellion allweddol UCM Cymru parthed â materion sy’n ymwneud ag atal trais yn erbyn menywod mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch. • Dylai fod gan bob prifysgol a choleg ledled Cymru strategaeth sefydliad-cyfan ar gyfer amddiffyn eu myfyrwyr a’u staff rhag aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais. Dylai hyn berthyn i fyfyrwyr oll, ond dylai fod yno gydnabyddiaeth mai problemau sy’n ymwneud â rhywedd yw’r rhain. Mae yno angen cymryd camau priodol i fynd i’r afael â’r elfen hon. • Mae angen i strategaethau sefydliad-cyfan gynnwys y nodweddion canlynol: o Ymagweddiad unffurf ar draws yr holl sefydliad, a gaiff ei gweithredu’n gyfartal ar draws pob ardal ac adran. o Dylent fod yn rhan o’r prosesau disgyblaeth. o Dylent fod yn berthnasol i unrhyw ddigwyddiad neu weithgaredd sy’n ymwneud â’r sefydliad, boed ar neu oddi ar y campws. o Dylent gynnwys pob llety a gaiff ei redeg gan y brifysgol neu sy’n gysylltiedig â’r sefydliad – er enghraifft, dylai pob tenant arwyddo cytundeb côd ymddygiad sy’n cyfeirio at aflonyddu rhywiol a stelcio yn ogystal â thrais. o Dylent ganiatáu i wybodaeth gael ei rhannu ar draws adrannau – fel y gellir nodi patrymau ymddygiad ac y gellir adnabod y rheiny sy’n tramgwyddo dro-ar-ôl-tro yn ddioed. o Dylai pob aelod staff priodol dderbyn gwybodaeth a hyfforddiant ar y polisïau, gan gynnwys ffyrdd sy’n eu galluogi i adnabod a herio ymddygiad annerbyniol. • Dylai sefydliadau gynnal adolygiad o amgylchedd eu campws (adeiladau, llwybrau a.y.b.) i weld pa mor dda mae’n sicrhau diogelwch eu myfyrwyr, yn arbennig o ran diogeledd llety. • Dylai pob polisi a phroses ganolbwyntio ar y dioddefwyr, er enghraifft:
o Ni ddylai myfyrwyr ei chael yn ddiangen o anodd symud i lety gwahanol os ydynt wedi dioddef yn sgil ymddygiad bygythiol neu dreisiol. o Dylai polisïau gael eu gweithredu mewn ffordd sy’n rhoddi sicrwydd i ddioddefwyr eu bod yn cael eu cymryd o ddifrif. • Dylid disgwyl i sefydliadau gyfathrebu eu polisi a’u strategaeth ar aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais mewn ffordd sydd wedi ei anelu at atal tramgwyddwyr, nid beio dioddefwyr. Dylai’r wybodaeth hon fod ar gael yn Siarter y Myfyrwyr, llawlyfrau myfyrwyr, ar y wefan, a fel rhan o’r broses sefydlu myfyrwyr newydd. Dylent hefyd gynhyrchu gwybodaeth sy’n cyfeirio myfyrwyr at wasanaethau allanol megis canolfannau SARC a llinell-gymorth Cymru-gyfan ar gyfer dioddefwyr Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol. • Mae myfyrwyr ac undebau myfyrwyr yn rhan o’r ateb i’r materion hyn , a dylent fod yn bartneriaid mewn datblygu strategaethau o’r fath. Nid yw ein gweledigaeth ar gyfer gwlad o brifysgolion a cholegau sydd â’r egwyddorion craidd o fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais rhywiol, yn un amhosibl, ac mae sawl sefydliad eisoes wedi ymuno â ni yn hyn o beth. Mae’n fwy na rhywbeth ‘rwyf yn hoffi ei ddychmygu; dyma’r dyfodol ‘rwyf yn hyderus y gallwn ni ei sicrhau. Gobeithio y bydd y sét-arfau hon o ddefnydd i chi, ac y byddwch yn ei defnyddio i wneud addysg yn well i bawb.
Rhiannon Hedge, Swyddog Menywod UCM Cymru
DIM Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
5 Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
Marciau Cudd: y darlun mawr Dyma rai o ganfyddiadau adroddiad Marciau Cudd sy’n ymwneud â’r effaith mae aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais yn ei gael ar fyfyrwragedd, gan gynnwys eu hiechyd meddwl a’u hastudiaethau.
Canfyddiadau o ddiogelwch:
Reportio digwyddiadau:
• Nododd dros draean o’r rheiny a ymatebodd nad oeddynt wastad yn teimlo’n ddiogel wrth ymweld ag adeiladau eu prifysgol neu goleg gyda’r nos. Mae hyn yn cyferbynnu â chanfyddiadau o ddiogelwch yn ystod y dydd pan oedd 97% o fyfyrwyr yn teimlo’n diogel naill ai bob amser neu’r rhan fwyaf o’r amser.
• ‘Roedd lefelau reportio’n isel ar draws pob categori a ymchwiliwyd iddynt.
• ‘Roedd menywod yn fwyaf tebygol o deimlo nad oeddynt yn ddiogel gyda’r nos yn eu sefydliad ^n â’r posibilrwydd o gael oherwydd pryderon yngly eu haflonyddu neu eu bygwth • Nododd myfrywragedd mewn neuaddau preswyl nad oeddynt yn teimlo’n ddiogel oherwydd ^n â phobl yn torri i mewn i’r pryderon yngly adeilad.
Tramgwyddwyr: • Yn y mwyafrif o achosion, ‘roedd y sawl a ddioddefodd stelcio, ymosodiad rhywiol a thrais corfforol yn adnabod y tramgwyddwr. • Dynion oedd y mwyafrif o stelcwyr (89%) a’r rheiny a gyflawnodd ymosodiadau corfforol (73%). • Myfyrwyr oedd y rhan fwyaf o dramgwyddwyr yn y mwyafrif o gategorïau, y rhan fwyaf ohonynt yn astudio yn yr un sefydliad a’r dioddefwyr. Yr eithriad i hyn oedd y categori o drais corfforol, lle ‘roedd ychydig llai na hanner y troseddwyr yn fyfyrwyr (48%).
• ‘Roedd dioddefwyr yn fwyaf tebygol o reportio stelcio i rywun yn y sefydliad (21%), tra bo dioddefwyr trais corfforol difrifol yn fwyaf tebygol o reportio’r digwyddiad i’r heddlu (17%). Noder: cyhoeddwyd yr adroddiad cyn i stelcio fod yn drosedd benodol yn Nhachwedd 2012. • Y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd am beidio reportio digwyddiad oedd fod myfyrwyr yn teimlo nad oedd yr hyn a ddigwyddodd iddynt yn ddigon difrifol i’w reportio. • Y rheswm mwyaf cyffredin dros beidio reportio ymosodiad corfforol difrifol oedd fod y sawl a ddioddefodd yr ymosodiad yn teimlo cywilydd neu embaras; ‘roedd 43% hefyd yn credu y byddent yn cael eu beio am yr hyn a ddigwyddodd, ac ‘roedd traean o’r farn na fyddent yn cael eu coelio. • ‘Doedd dros bedair allan o bob deg myfyrwraig a ddioddefodd ymosodiad rhywiol difrifol heb ddweud wrth unrhyw un am yr hyn a ddigwyddodd iddynt.
Effaith ar ddioddefwyr – iechyd, hyder, perthynas ac astudiaethau: • Y canlyniad mwyaf cyffredin i drais, stelcio ac ymosodiad rhwyiol oedd dirywiad mewn iechyd meddwl.
6 Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
• Nododd un o bob pedair a ddioddefodd ymosodiad rhywiol difrifol fod eu hastudiaethau wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad, a dywedodd un o bob saith a ddioddefodd ymosodiad corfforol difrifol fod eu record presenoldeb mewn dosbarthiadau wedi dioddef. • Nododd tua chwarter y rheini a gafodd eu stelcio fod yr ymddygiad obsesiynol y bu iddynt ei ddioddef wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl, eu hastudiaethau a’u perthynas ag eraill. • Dywedodd 63% o’r rheini a ddioddefodd ymosodiad rhywiol difrifol fod eu perthynas ag eraill wedi cael ei heffeithio, nododd 49% ohonynt broblemau iechyd meddwl, a dywedodd dros un o bob deg (12%) i’w hiechyd corfforol ddioddef. ‘Roedd 13% wedi ystyried gadael eu cwrs.
DIM Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
Datblygu polisi dim goddefgarwch yn eich sefydliad Mae enghraifft o bolisi isod ar gyfer prifysgolion a cholegau ar ddim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais.
Polisi: Dim Goddefgarwch tuag at Aflonyddu Rhywiol, Stelcio a Thrais. Rhestr Cynnwys: Datganiad Polisi Polisi 1. 2. 3. 4. 5. 6.
Rhagarweiniad At bwy mae’r polisi’n cyfeirio? Amcanion y polisi Beth a olygir wrth aflonyddu rhywiol? Ymdrin â digwyddiadau a gaiff eu reportio Ein hymrwymiad
7 Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
Datganiad polisi Mae (nodwch enw’r Sefydliad ac Undeb y Myfyrwyr) wedi ymrwymo i hyrwyddo amgylchedd diogel a chefnogol lle mae myfyrwyr oll yn rhydd i ddysgu a gweithio heb ofnau ^n ag aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais. yngly
Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn: • Annog a chefnogi parch ymysg pawb o fewn i gymuned y brifysgol/coleg yn ei chyfanrwydd. • Gweithio gyda staff a myfyrwyr i greu dealltwriaeth o ymddygiad derbyniol ac annerbyniol, a byddwn yn caniatáu’r defnydd cyfrifol o gamau disgyblu lle bo hynny’n briodol. • Hyrwyddo cymuned sy’n gefnogol a sy’n cydnabod hawl myfyrwyr oll i fod yn rhydd o aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais. • Cydnabod y cysylltiad rhwng ymddygiad bygythiol a cholli profiad dysgu boddhaol, a mynd ati i geisio creu amgylchedd cymdeithasol y gall pawb elwa ohono.
• Cymryd yn ddifrifol iawn ein cyfrifoldeb cyfreithiol dros iechyd, diogelwch a lles ein myfyrwyr, staff ac ymwelwyr, gyda’r nod o ddarparu amgylchedd dysgu diogel, iach ac o ansawdd uchel. • Cydnabod fod gan staff sydd â chyfrifoldeb dros ddysgu, lles a chynnig cefnogaeth i fyfyrwyr, ddyletswydd i ddwyn sylw at safonau ymddygiad amhriodol ac anghyfreithlon. • Darparu arweiniad a gwybodaeth i staff a myfyrwyr i’w helpu i ddatblygu’r hyder i wybod sut i weithredu os ydynt yn dod ar draws achosion o aflonyddu rhywiol, stelcio neu drais.
8 Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
1. Rhagarweiniad Datgelodd adroddiad Marciau Cudd, a gyhoeddwyd yn 2010 gan Ymgyrch Menywod UCM, fod 68% o fyfyrwragedd wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol tra’u bod yn astudio yn eu sefydliad presennol, a bod 1 o bob 7 wedi dioddef ymosodiad corfforol neu rywiol difrifol. Dywedodd llawer o fenywod eu bod wedi dioddef aflonyddu parhaus mewn tafarnau a chlybiau, gan gynnwys y rheiny ar y campws, a nodwyd fod y math yma o ymddygiad yn cael ei ystyried i fod yn normal mewn amgylchedd o’r fath. Cred (nodwch enw’r sefydliad) na ddylai fod rhaid i unrhyw fyfyriwr dderbyn aflonyddu rhywiol, stelcio na thrais rhywiol, ac nad yw ymddygiad o’r fath yn rhan normal o brofiad myfyrwyr. Dangosodd adroddiad Marciau Cudd fod yno lefel uchel o sawl math o aflonyddu a thrais tuag at fenywod, gan gynnwys stelcio, ymosodiadau rhywiol a thrais corfforol. Credwn fod amgylchedd lle caiff aflonyddu rhywiol ei oddef yn un lle mae’n llai tebygol fod yno ddealltwriaeth o fathau mwy difrifol o drais, ac o’r herwydd mae’n anhebygol yr ymdrinir â hwy mewn ffordd effeithiol. Caiff y polisi hwn ei weithredu er mwyn dangos na chaiff ymddygiad o’r fath ei oddef yn y sefydliad hwn.
Mae’r polisi hwn yn rhan o ymagweddiad Prifysgol/Coleg-cyfan sy’n hyrwyddo amgylchedd diogel a chefnogol lle gall pobl ddysgu a gweithio. Y ddamcaniaeth gyffredinol yw creu amgylchedd o gefnogaeth ac addysg, gan ffocysu ar ffiniau ymddygiad derbyniol. Mae gan y Brifysgol/Coleg gyfrifoldeb cyfreithiol dros iechyd, diogelwch a lles eu myfyrwyr, staff ac ymwelwyr, a’r nod yw darparu amgylchedd dysgu diogel, iach ac o ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael ag achosion o aflonyddu rhywiol, hysbysu myfyrwyr o’u cyfrifoldebau a’n rheolau ymddygiad a darparu cymorth a chyngor i’r sawl sy’n gofyn amdano. Mae gan fyfyrwyr oll gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd gofal rhesymol o’u cyfoedion.
2. Amcanion y polisi Diben y polisi yw: • Hyrwyddo iechyd, diogelwch a lles drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth
• Cynnig canllawiau i fyfyrwyr a staff parthed â’u cyfrifoldebau a’r rheolau ymddygiad angenrheidiol • Esbonio sut y gall aflonyddu rhywiol arwain at ddisgyblu a/neu achos cyfreithiol
^n â diffiniad aflonyddu • Hysbysu myfyrwyr yngly
rhywiol • Darparu cyngor ar y dewis o gefnogaeth sydd ar gael lle bo hynny’n briodol • Galluogi unigolion sydd wedi dioddef aflonyddu rhywiol neu drais i ganfod cymorth
• Esbonio sut yr ymdrinir â gweithredoedd anghyfreithlon o drais rhywiol, stelcio a thrais corfforol • Rhoi sicrwydd i’r rheiny sydd wedi dioddef yn sgil ymddygiad o’r fath y caiff eu profiadau eu cymryd o ddifrif ac y bydd y sefydliad yn cynnig cefnogaeth iddynt
9 Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
3. At bwy mae’r polisi’r cyfeirio? Mae’r polisi’n berthnasol i fyfyrwyr a staff sydd ar hyn o bryd wedi cofrestru yn y brifysgol/coleg. Mae’n berthnasol os yw myfyrwyr ar dir y brifysgol/coleg neu yn unrhyw le arall ar fusnes y brifysgol/coleg neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau astudio, gan gynnwys adeiladau a gaiff eu rheoli ar ran y sefydliad gan drydydd parti (megis neuaddau preswyl). Mae’r polisi hefyd yn cyfeirio at Undebau Myfyrwyr, sy’n gyrff annibynnol sy’n cynnal ac yn rheoli eu materion eu hunain yn unol â’u cyfansoddiad. Mewn rhai achosion, gellir disgyblu unigolion, neu ofyn iddynt i adael y sefydliad a/neu gellir reportio’r
digwyddiad i’r heddlu. Nid yw’r brifysgol/coleg yn dymuno gwneud troseddwyr o’u myfyrwyr na’u hymwelwyr, ond mae gan y sefydliad achos cyfreithlon dros amddiffyn y rheiny sy’n mynychu’r brifysgol/coleg rhag effeithiau aflonyddu a thrais.
4. Beth a olygir wrth aflonyddu rhywiol? Nid oes yno unrhyw ddiffiniad cyfreithiol o aflonyddu rhywiol. Y nodwedd pennaf yw ei fod yn ymddygiad di-angen, parhaus ac o natur rywiol. Dyma rai enghreifftiau o ymddygiad annerbyniol: • Sylwadau rhywiol di-angen, gan gynnwys sylwadau am gorff rhywun neu eu bywyd preifat
• Ymbalfalu, pinsio neu smacio’r corff, e.e. pen-ôl neu fronnau
• Gwahoddiadau rhywiol di-angen, ensyniadau neu ystumiau sarhaus
• Codi dillad megis sgert neu grys heb gydsyniad
• Chwibanu, gweiddi pethau anweddus neu wneud synau rhywiol sarhaus
• Rhywun yn dangos eu horganau cenhedlu heb gydsyniad
10 Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
5. Ymdrin â digwyddiadau a gaiff eu reportio Pan fo myfyrwyr yn datgelu achos o aflonyddu rhywiol, stelcio neu drais, dylai’r sawl y gwneir yr adroddiad iddo: • Sicrhau preifatrwydd cyn parhau â’r sgwrs
• Bod yn ddiwylliannol sensitif
• Gwrando a chydnabod yr hyn mae’r myfyriwr yn ei ddweud
• Rhoi sicrwydd iddynt fod ganddynt yr hawl i deimlo’n ddiogel ac y bydd y brifysgol yn gefnogol i’w sefyllfa
Mae’n hanfodol bwysig i ddechrau drwy drafod diogelwch y myfyriwr sydd dan sylw, a lle bo hynny’n berthnasol, diogelwch unrhyw un arall a gaiff eu heffeithio. Lle mae yno fygythiadau i ddiogelwch, er enghraifft aflonyddu parhaus neu fygythiadau o drais gan gyd-letŷwr, efallai y bydd angen i’r sawl y gwneir yr adroddiad iddo ystyried: • Cysylltu â’r heddlu • Trefnu llety dros-dro ar frys
• Cyfarwyddo’r unigolyn at Ganolfan Gyfeirio ar gyfer Ymosodiad Rhywiol os y bu yno achos o drais rhywiol
Dylid wedyn rhoddi ystyriaeth i: • Cofnodi’r digwyddiad mewn ysgrifen a’i storio yn unol â’r Ddeddf Gwarchod Data.
• Ymdrin â’r digwyddiad yn unol â’ch fframwaith ddisgyblaeth.
• Gofyn i’r myfyriwr os ydynt eisiau i chi gysylltu â hwy’n nes ymlaen gyda gwybodaeth ^n â ychwanegol, gan gynnwys manylion yngly sut yr ymdriniwyd â’r digwyddiad.
• Gwirio os oes angen cyfeirio’r myfyriwr ymlaen at unrhyw adran arall o fewn i’r brifysgol/coleg, er enghraifft, cefnogaeth academaidd, cownsela a.y.b.
• Mynd â’r adroddiad ar y digwyddiad at eich rheolwr llinell (lle bo hynny’n berthnasol).
11 Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
6. Ein hymrwymiad Lles ein myfyrwyr sydd wrth wraidd y polisi hwn, ac o’r herwydd, ‘rydym yn gwneud yr ymrwymiadau canlynol: • Byddwn yn gwneud pob ymdrech i greu amgylchedd lle nad oes rhaid i unrhyw fyfyrwyr ‘oddef’ ymddygiad annerbyniol. • Ni chaiff aflonyddu rhywiol, stelcio na thrais eu goddef gan y sefydliad hwn, a chaiff y rheiny sy’n ymddwyn fel yma eu hatal a’u disgyblu am eu gweithredoedd yn unol â fframwaith ddisgyblaeth y sefydliad. • Byddwn yn sicrhau fod y polisi hwn ar gael i bob aelod staff a myfyriwr, a bod staff yn ymwybodol y bydd disgwyl iddynt i weithredu’r polisi. • Bydd y polisi ar gael ar fforymau sy’n hygyrch i’r cyhoedd, megis gwefan y sefydliad, a bydd yn hygyrch i ddarpar fyfyrwyr. • Bydd myfyrwyr sy’n dioddef aflonyddu, stelcio neu drais yn gallu cael mynediad i gefnogaeth os ydynt eisiau hynny. • Rhoddir cyfrifoldeb i bwyllgor perthnasol dros adolygu sut y gweithredir y polisi hwn a’i effeithiolrwydd. Os nad oes pwyllgor o’r fath yn bodoli eisoes, yna caiff gweithgor ei ffurfio at ddibenion yr adolygiad.
DIM Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
12 Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
Cynllun gweithredu: camau tuag at gampws diogelach Nawr fod gennych eich enghraifft o bolisi (gwler y bennod flaenorol), dyma rai camau ymarferol tuag at ei wireddu.
Camau ymarferol ar gyfer undebau myfyrwyr • Sicrhau fod y polisi wedi cael ei basio drwy’r pwyllgor perthnasol gynted â phosibl • Penderfynu pa swyddog sy’n bennaf gyfrifol am weithredu’r polisi • Trefnu sesiynau er mwyn briffio’r bobl berthnasol ar y polisi a gweithdrefnau newydd. (e.e. uwch dîm rheoli, rheolwyr bariau, staff diogeledd y drysau, staff bar mewn lleoliadau) • Datblygu dogfennau briffio cryno ar gyfer y sesiynau hyn. • Llunio fframwaith ddisgyblu ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau a gaiff eu reportio. Mae hyn yn debygol o gynnwys gwaharddiad o adeiladau undeb y myfyrwyr am gyfnodau gosod. Bydd angen i chi benderfynu pa aelod staff sydd yn y sefyllfa orau i arwain ar hyn, efallai eich Rheolwr Cyffredinol/Prif Weithredwr • Buasem yn argymell na ddylid cynnwys myfyrwyr sy’n gweithio yn y bar mewn prosesau disgyblaeth yn erbyn unrhyw un o’u cyfoedion, gan y gallai hyn eu gosod mewn sefyllfa lletchwith. Penderfynwch pa lwybrau fydd mewn lle ar eu cyfer os y caiff digwyddiad ei reportio iddynt hwy neu os ydynt yn dyst i ddigwydiad.
Camau ymarferol ar gyfer prifysgolion a cholegau • Sicrhau fod y polisi wedi cael ei basio drwy’r pwyllgor perthnasol gynted â phosibl. Os yr ymdrinir â rhai agweddau’n ddigonol gan bolisi sy’n bodoli eisoes, megis Cyfleoedd Cyfartal, bydd angen i chi benderfynu sut y caiff hyn ei weithredu a’i hyrwyddo.
• Nodi pwy fydd y prif gysylltydd o fewn i’r brifysgol a fydd yn goruchwylio sut y caiff y polisi Dim Goddefgarwch ei weithredu ac yn gweithio gyda’r undeb. • Nodi unrhyw feysydd penodol o fewn i’r brifysgol a fyddai’n fwyaf effeithiol ar gyfer lawnsio’r polisi buasem yn argymell gwasanaethau llety. Byddai angen ymgysylltu rheolwyr a staff gwasanaethau llety yn hyn. Os ydynt yn cytuno i fabwysiadu’r polisi mewn llety a gaiff ei redeg gan y brifysgol, yna bydd angen cynllun ar gyfer gweithredu’r polisi. Gall hyn olygu: o Cynnwys taflen neu grynodeb o’r polisi mewn pecynnau croeso. o Trafod y polisi mewn digwyddiadau sefydlu preswylwyr newydd mewn neuaddau. o Briffio ar gyfer staff neu fyfyrwyr sy’n wardeniaid y gellir reportio digwyddiadau iddynt, gan gynnwys porthorion nos. Dylai’r aelodau staff yma fod yn ^n â’r hyn y dylent ei wneud pan y daw eglur yngly unigolyn atynt i drafod digwyddiad. o Penderfynu os y caiff hyn ei gynnwys ym mhrosesau cyfredol gwasanaethau llety’r brifysgol neu a fydd ar wahan ac yr ymdrinir â’r mater o fewn i undeb y myfyrwyr. Os yw’n mynd i fod ar wahan, bydd angen i chi sicrhau ei fod yn gyson. o Cadw cofnodion. A fydd hyn yn dod yn rhan o gofnod digwyddiadau ddyddiol a gedwir gan borthoriad a wardeniaid? Beth fydd yn digwydd i’r adroddiadau? A fyddai’n syniad i’r undeb a’r brifysgol lunio cofnod ar y cyd i ddangos maint y broblem ar y campws a bod yn gallu dangos fod ymatebion wedi bod yn amserol ac effeithiol? Efallai fod yno angen am brotocol ar gyfer rhannu gwybodaeth.
13 Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
Annog pobl i reportio digwyddiadau Mae’n bwysig fod arweiniad eglur yn cael ei roddi i staff yr undeb a’r sefydliad ar sut i ymdrin ag achosion difrifol a gaiff eu reportio. Gall ymdrin yn wael â digwyddiadau o’r fath arwain at ganlyniadau negyddol iawn i ddioddefwyr. Dyma ganllawiau i’w dilyn mewn achosion o’r fath. Mae yno rai dioddefwyr nad ydynt eisiau i unrhyw un wybod am yr hyn a ddigwyddodd neu gallant fod yn ^n â gwneud cw ^ yn swyddogol. Yn y bon ansicr yngly ^ yn mae dioddefwyr yn ymatal rhag gwneud cw oherwydd: • Eu bod yn beio eu hunain am y sefyllfa • Eu bod yn teimlo cywilydd o ganlyniad i’r hyn a ddigwyddodd • Nad ydynt yn ymwybodol fod ganddynt yr “hawl” i gael eu trin gyda pharch ar y campws • Eu bod yn ofni y gallai’r risg o ddial fod yn fwy na’r ^ yn swyddogol manteision o gyflwyno cw
Er mwyn annog myfyrwyr i reportio achosion o aflonyddu rhywiol, stelcio neu drais, efallai y byddwch eisiau cynghori staff: • I beidio gwadu na bychanu’r digwyddiad, ond yn hytrach ymddiried yn eu hymateb. Os ydynt yn ^n â’r cw ^ yn, teimlo fel pe bai rhywbeth o’i le yngly yna dylent ddweud wrth rywun • I beidio â bod ofn siarad allan, a’i gwneud yn eglur i ddioddefwyr y cânt eu trin gyda pharch, a ^ yn ond yn dilyn llwybrau maent yn na fydd eu cw hapus i’w dilyn. • I beidio â cheisio ymdrin â mathau difrifol o ymddygiad treisiol, sarhaus neu fygythiol ar eu pen eu hunain. Hyd yn oed yn yr achos cyntaf, dylent ofyn am gymorth a chefnogaeth • I gofnodi pob digwyddiad yn fanwl os yw’r ymddygiad yn digwydd eto • I geisio canfod tystion a chasglu tystiolaeth arall os yw’r sawl a gyhuddir yn gwadu’r digwyddiad.
14 Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
Gwasanaethau cefnogaeth i ddioddefwyr trais rhywiol a stelcio Llinell-gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru gyfan ffôn. 0808 80 10 800 y we. http://www.allwaleshelpline.org.uk/ Mae llinell-gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol yn wasanaeth cyfeirio dwyieithog a gaiff ei redeg gan Gymorth i Fenywod Cymru er mwyn cynnig arweiniad i bobl sydd â phrofiad o gamdriniaeth yn y cartref neu drais rhywiol sydd angen gwybodaeth neu fynediad i wasanaethau cefnogaeth. Ni fydd galwadau i’r rhif yma’n dangos ar filiau ffôn gosod.
Llinell-gymorth Trais yn y Cartref y DU ffôn. 0808 2000 247 Mae hwn yn wasanaeth cynghori a gwybodaeth 24 awr, sydd ar gael i unrhyw un yn y DU.
Cefnogaeth i Ddiodefwyr
Rhaglen Rhyddid http://www.freedomprogramme.co.uk/ Mae Rhaglen Rhyddid yn rhaglen 12 wythnos ar gyfer menywod sy’n dioddef camdriniaeth gan gymar sy’n ddyn. Gellir cael mynediad i’r rhaglen ar-lein gan unrhyw un yng Nghymru neu wyneb yn wyneb drwy Gymorth i Fenywod Cymru (ffoniwch 02920 460566 am fanylion). Mae’r wefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer dynion sy’n cyflawni camdriniaeth yn y cartref sy’n dymuno newid eu hymddygiad.
Parch ffôn. 0808 802 4040 y we. http://www.respect.uk.net/ Mae Parch yn llinell-ffôn gyfrinachol ar gyfer y rheiny sy’n cyflawni camdriniaeth yn y cartref. Maent yn cynnig gwybodaeth a chyngor i gynorthwyo tramgwyddwyr i ymatal rhag ymddygiad treisgar. Prif ffocws llinell ffôn Parch yw cynyddu diogelwch y rheiny sy’n dioddef camdriniaeth yn y cartref drwy ymgysylltu â’r camdriniwr a lleihau’r risg.
ffôn. 0845 30 30 900 Mae Cefnogaeth i Ddioddefwyr yn darparu cyngor i unrhyw un sydd wedi dioddef yn sgil trosedd, os yw’r drosedd honno wedi cael ei reportio neu beidio. Mae eu gwirfoddolwyr cymwys yn cynnig: • Rhywun i siarad gyda hwy yn gyfrinachol • Gwybodaeth ar weithdrefnau’r heddlu a’r llysoedd • Help i ymdrin â mudiadau eraill ^n ag iawndal ac yswirant • Gywbodaeth yngly
Llinell-gymorth Genedlaethol Stelcio ffôn. 0808 802 0300 Mae’r Llinell-gymorth Genedlaethol Stelcio yn darparu arweiniad a gwybodaeth i unrhyw un sydd ar hyn o bryd yn cael eu heffeithio gan aflonyddu neu stelcio, neu sydd wedi cael eu heffeithio yn y gorffennol Gall y llinell-gymorth ddarparu canllawiau ar:
• Gwybodaeth ar ffynonellau cymorth eraill • Y gyfraith parthed â stelcio ac aflonyddu
Prosiect Dyn
• Sut i reportio stelcio neu aflonyddu
ffôn. 0808 801 0321
• Sut i gasglu tystiolaeth yn effeithiol
Mae Prosiect Dyn yn darparu cymorth a chyngor cyfrinachol i ddynion sy’n dioddef camdriniaeth yn y cartref gan gymar.
• Sicrhau eich diogelwch personol a diogelwch eich ffrindiau a’ch teulu • Camau ymarferol i leihau risg.
15 Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws
BAWSO w. http://www.bawso.org.uk/ Mae BAWSO yn darparu gwasanaethau arbenigol i bobl o gefndir croenddu a lleiafrifol ethnig a gaiff eu heffeithio gan gamdriniaeth yn y cartref a mathau eraill o gamdriniaeth, gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu menywod, priodas wedi ei gorfodi, symud pobl o un wlad i’r llall yn erbyn eu hewyllys a phuteinio. Maent y cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth o swyddfeydd yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam.
Cymorth i Fenywod Cymru w. http://www.welshwomensaid.org.uk Mae’r wefan yn cynnwys manylion ynglŷn â’r holl grwpiau Cymorth i Fenywod lleol sydd yng Nghymru. Mae rhai o’r rhifau lleol wedi eu rhestru isod: Aberystwyth ffôn: 01970 625585 Cymorth i Fenywod Aberystwyth 4 Lle’r Ffald Aberystwyth Ceredigion SY23 1LX Bangor (a’r cylch) ffôn: 01248 690077 Cymorth i Fenywod Bangor a’r Cylch 7 Llys y Fedwen Parc Menai Bangor Caerdydd ffôn: 02920 460566 Cymorth i Fenywod Caerdydd 16 Moira Terrace Adamsdown Caerdydd CF24 0EJ Caerfyrddin ffôn: 01267 234725 Cymorth i Fenywod Caerfyrddin 17 Ffordd y ‘Sgubor Caerfyrddin Sir Gaerfyrddin SA31 1DD Aberteifi ffôn: 01239 615700 Cymorth i Fenywod Aberteifi 46a Heol y Santes Fair Aberteifi SA43 1HA
Casnewydd ffôn: 01633 840258 Cymorth i Fenywod Casnewydd 56 Stow Hill Casnewydd NP20 1JG Abertawe ffôn: 01793 644683 Cymorth i Fenywod Abertawe Blwch Post 363 Abertawe SA1 2YG Wrecsam ffôn:. 01978 310203 Cymorth i Fenywod Wrecsam 6-8 Temple Row Wrecsam LL13 8LY
Canolfanau Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Mae Canolfanau Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) yn hafan ddiogel i’r rheiny sy’n dioddef trais rhywiol. Y nod yw darparu nifer o wasanaethau dan yr un to, gan gynnwys gofal meddygol ac archwiliad fforensig yn dilyn ymosodiad/treisio; cownsela a chefnogaeth emosiynol; cymorth cyfreithiol; a mewn rhai lleoliadau, gwasanaethau iechyd rhywiol. Mae gwasanaethau meddygol ar gael yn ddi-dâl a chânt eu darparu i fenywod, dynion, pobl ifanc a phlant. Mae canolfannau SARC yn gallu helpu’n bennaf yn dilyn ymosodiadau. Caiff y canolfannau hyn eu cyllido a’u rhedeg mewn partneriaeth, fel arfer rhwng y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, yr heddlu a’r sector wirfoddol. Mae yno sawl SARC ar draws Cymru, chwiliwch arlein am yr un sydd agosaf atoch chi.
Cymru Ddiogelach ffôn. 02920 222022 Mae Cymru Ddiogelach yn elusen annibynnol sy’n gweithredu yng Nghaerdydd. Mae’n darparu cysylltiadau ag Uned Ddiogelwch Menywod Caerdydd, ynghyd â chyngor cyffredinol ar gyfer unrhyw un sy’n dioddef camdriniaeth yn y cartref. Mae’r cyngor sydd ar gael yn ymdrin â diogelwch personol, arian, achosion troseddol a thai.
14 Diddymu aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais ar y campws