h e cy r gw rs ia
dy an sg gh u
d yd w r lyg b hy
d yd w gr y l b hy
d
bu d ne sn ia wi es d
d
cy addo ch lyg u om cy mu dysgu l sy my rwyno i bu n n cam s gw dd si dd n we pw tem c he w so yd d s a h r n u d
ga et h
yd ra u dd old po eb blo
yfy grw yd rw d y
ido
d a i n sy erth gw
cy llid o
str wy th ur au
u
ne wi cy ll d
h iad t e n a y l s o r- e n a n u h
ad ne d dy wid ys m cyr hyb sia ly fo dyhyb g c
h t e a g i d u e a l g l al we g o il d l cy
er th
Meddyliwch Sut allwn ni newid addysg yng Nghymru er gwell?
Rhagarweiniad Beth yw Dychmygwch Addysg?
Y Comisiwn
Mae addysg ar gyfer pobl dros 16 oed yng Nghymru angen help. ‘Rydym yn credu fod myfrywyr ein gwlad yn cael gwell bargen na’r rheiny sydd dros y ffin yn Lloegr. Ond ‘rydym eisiau iddynt i gael bargen gwell fyth. Dyna pam ein bod ni’n arwain y darn o waith hir-dymor hwn i Ddychmygu Addysg.
Dychmygwch sut y gallai addysg ar gyfer pobl dros 16 oed fod yng Nghymru. Dyna’n union beth mae ein comisiwn, a gaiff ei arwain gan fyfyrwyr, yn ei wneud.
Nod Dychmygwch Addysg yw ymestyn ffiniau’r ddeialog a’r drafodaeth ar y mater hwn. ‘Rydym eisiau dylanwadu ar wleidyddion Ewrop, y DU a Chymru yn yr etholiadau arfaethedig, mewn ffordd sy’n gosod blaengarwch ar yr agenda. Er mwyn gwneud hyn, ‘rydym angen clymblaid o bartneriaid. ‘Rydym hefyd angen darganfod pa rannau o addysg ôl-16 sydd angen eu newid, sef yr hyn mae ein Comisiwn Dychmygwch Addysg yn ceisio ei wneud ar hyn o bryd.
Mae’r Comisiwn Dychmygwch Addysg yn ymchwilio i ba heriau sy’n rhwystro cynnydd a pha atebion posibl all greu ad-drefniant radical i addysg ôl-16 yng Nghymru. Bydd y Comisiwn yn rhedeg o Ragfyr 2012 hyd Mehefin 2013. Gall unrhyw fyfyriwr sy’n mynychu sefydliad sy’n aelod o UCM Cymru gyfranogi yn y Comisiwn ar unrhyw adeg. Llywydd UCM Cymru, Stephanie Lloyd, sy’n cadeirio’r Comisiwn. Gallwch ganfod sut i gyfranogi ar dudalen 18.
Dychmygwch Addysg www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg UCM Cymru, 2il lawr, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FL ffôn. 02920435390 @ucmcymru
2
e-bost. office@nus-wales.org.uk www.facebook.com/ucmcymru
Cynnwys GWTHIO’R FFINIAU ^n ag addysg ôl-16 yng Nghymru wedi rhoddi gormod o sylw i bris cyrsiau ac uno Mae’r drafodaeth yngly sefydliadau. Ond mae yno gwestiynau mwy. Ac mae’n bosibl cael gwell system.
Stephanie Lloyd, Llywydd UCM Cymru
4
MAE’R DRYSAU’N AGORED, OND OES RHYWBETH WEDI NEWID? Mae Cymru wedi cymryd camau sylweddol mewn ehangu mynediad i addysg uwch. Ond mae strwythurau’r system yn parhau i fod yr un fath i raddau helaeth Hannah Pudner, Cyfarwyddwr UCM Cymru
6
CYMRU LLE MAE ADDYSG YN AGORED ^n â methiant i wireddu ein Tra bod ein gwlad yn ceisio newid addysg, rhaid i ni symud tu hwnt i ofnau yngly dychymyg. Yr Athro John Hughes, Cadeirydd Addysg Uwch Cymru
8
MAE ADDYSG YN FUSNES AT Y DYFODOL Rhaid i Gymru fuddsoddi mewn addysg er mwyn creu’r newid sydd ei angen i weld ei phobl yn tyfu a ffynnu. Golyga hynny feddwl tu hwnt i’r tymor-byr adweithiol. Simon Horrocks, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Datblygiad, Dysgu ac Addysgu) yn y Brifysgol Agored yng Nghymru
10
RHOI TERFYN AR DRAIS YN ERBYN MYFYRWRAGEDD Mae myfyrwyr yn haeddu man diogel i astudio ynddo. Mae prifysgolion a cholegau’n deffro – ac yn arwyddo i fyny i gael gwared o drais rhywiol, aflonyddu a stelcio ar eu campysau. Rhiannon Hedge, Swyddog Menywod UCM Cymru
12
PARTNERIAID MEWN ADDYSG Dylai myfyrwyr ddisgwyl cael mwy o hyblygrwydd a hunan-reolaeth yn y dyfodol. Ond mae angen i’r sefydliadau – yn ogystal â myfyrwyr – i bwyso’n galetach er mwyn gwneud hyn yn realiti. Dr Helena Lim, Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros Gymru a Gogledd Iwerddon yn yr Academi Addysg Uwch
15
Mae pob barn a fynegir yn perthyn i’r awduron, ac nid o reidrwydd y mudiadau maent yn eu cynrychiol.
www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg
3
MEDDYLIWCH | MAWRTH 2013
Gwthio’r Ffiniau ^n ag addysg ôl-16 yng Nghymru wedi rhoddi Mae’r drafodaeth yngly gormod o sylw i bris cyrsiau ac uno sefydliadau. Ond mae yno gwestiynau mwy. Ac mae’n bosibl cael gwell system.
Stephanie Lloyd, Llywydd UCM Cymru ddylai prifysgolion uno neu beidio? A dylem ni godi £3,000, £6,000 neu £9,000 y flwyddyn ar fyfyrwyr am gyrsiau israddedig llawn-amser?
A
Mae’r cyfryngau yng Nghymru wedi bod yn llawn o’r materion hyn ers dwy flynedd. Mae gennym lywodraethau sydd ond yn fodlon gwneud mân-newidiadau i bolisi o fewn i gylchred etholiadol o bedair neu bum mlynedd. Mae gennym gategorïau ar gyfer pob math o fyfyriwr, ar gyfer pob math o ddarpariaeth – pob un a’i werth a’i fri. Addysg uwch vs. addysg bellach; colegau vs. prifysgolion; traddodiadol vs. modern; academaidd vs. galwedigaethol; ymchwil vs. addysgu; ffurfiol vs. anffurfiol. Mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd. Mae’r rhaniadau hyn yn fympwyol a hen-ffasiwn, ac maent yn creu rhwystrau artiffisial sy’n gwadu hawliau ac yn allgau myfyrwyr ar bob lefel. Mae gennym lwybrau a rhwystrau wedi eu rhaglunio, bob cam o’r ysgol gynradd ymlaen – ‘does dim maddeuant i’w gael am gamgymeriadau nag i’r rheiny sydd heb benderfynu.
AU ac AB – system addysg ar ôl y cyfnod gorfodol Yn wir, mae ein system yn seiliedig ar un sy’n gosod gwerth ar un llwybr astudiaeth yn fwy na’r lleill i gyd – y daith academaidd o lefel-A, i’r israddedig, yr holl ffordd i astudiaeth ar lefel doethuriaeth. ‘Rydym wedi
4
ein cyfyngu i weld addysg fel proses linellol yn unig. Mae ein gor-bwyslais ar yr ‘academaidd’ yn gwneud anghfiawnder â phawb. Mae’r meddylfryd hwn nid yw unig yn rhoddi mantais i’r mwyaf breintiedig o fewn i gymdeithas, ond mae hefyd y dibrisio gwerth ehangach addysg, yn arbennig ym maes allweddol hyfforddiant sgiliau galwedigaethol.
Dychmygwch gyfundrefn addysg lle nad yw’r ffin rhwng AU ac AB bellach yn bodoli.
Dychmygwch gyfundrefn addysg lle nad yw’r ffin rhwng AU ac AB bellach yn bodoli; lle gallech fod yn gwneud prentisiaeth mewn peirianneg mewn coleg ar yr un pryd ag astudio modiwl mewn hanes; lle gall myfyriwr sy’n rhiant fynd i mewn ac allan o gwrs gradd, gan astudio ar sail wirioneddol hyblyg, yn hytrach na bod yn gyfyngedig i fodel tair blynedd llawn-amser; lle rhoddir yr un lefel o barch i gyrsiau heriol sy’n seiliedig ar sgiliau perthnasol ag i astudiaeth academaidd; lle gall addysg uwch arwain at addysg bellach, nid dim ond y ffordd arall o gwmpas.
www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg
Er mwyn i’r weledigaeth hon o addysg weithio, mae yno feysydd o fewn i’r system addysg y byddai angen i’w trawsnewid.
Mae hon yn system addysg sy’n ymwneud â thaith, un mae’r rhan fwyaf o gymdeithas wedi buddsoddi ac yn cyfranogi ynddi gydol eu bywydau. Mae hon yn system addysg y gallwn ddechrau cyfieirio ati fel un i bawb. Yr hyn sydd rhaid i ni siarad yn ei gylch yw addysg ar ôl y cyfnod gorfodol, gan gynnwys cyrsiau a astudir mewn colegau addysg bellach a phrifysgolion, o gyrsiau gradd a diploma i Lefel-A. Mae addysg ôl-orfodol yn fwy na dim ond term technegol; mae’n sail i’n syniadau ^n ag addysg; yr hyn ‘rydym eisiau allan o addysg yngly yn gyffredinol; yr hyn y dylai olygu i bobl, cymdeithas yn ehangach ac i’r economi; a sut y dylai pobl ymgysylltu â hyn. Er mwyn i’r weledigaeth hon o addysg weithio, mae yno feysydd o fewn i’r system addysg y byddai angen i’w trawsnewid, ac yng Nghymru, ‘rwyf yn argyhoeddedig y gallem, ac y dylem, wireddu’r weledigaeth hon.
Cyllido Myfrywyr Un peth na fyddai bellach yn gwneud synnwyr o fewn i gyfundrefn addysg ôl-orfodol fwy cyfannol yw ein model cyfredol ar gyfer cyllido myfyrwyr – nid y ffigurau sy’n cyfeirio at ffioedd, ond yr arian sydd ar gael i fyfyrwyr fyw arno tra byddant yn astudio. Ni fyddai’r system hon bellach yn gwneud synnwyr, oherwydd fod cyfran mor fawr o’r arian yma’n mynd i un lefel o fyfyrwyr – israddedigion llawn-amser. Gyda chostau byw’n cynyddu a benthyciadau a grantiau yn aros yn eu hunfan, pa obaith sydd yno i wneud addysg yn hygyrch i bawb? Pan fo oedolion yn dychwelyd i addysg i ail-sgilio, sut mae’n dderbyniol na allant gael
www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg
mynediad i arian cyhoeddus i gynnal eu hunain? Nid ^n â gosod un garfan o fyfyrwyr mewn yw hyn yngly cystadleuaeth ag un arall, ond yn hytrach yr angen i weithio gyda’n gilydd i lunio system gyllido myfyrwyr sy’n gwneud pob lefel o addysg yn hygyrch.
Gwerth Cyhoeddus Ni fydd y weledigaeth hon fyth yn gweithio oni fyddwn yn dechrau ennill y dadleuon dros werth cyhoeddus addysg, gyda gwleidyddion, y sector a’r cyhoedd. Gall addysg drawsnewid bywydau, gyda phoblogaeth sy’n heneiddio a sawl economi newydd yn datblygu. Byddwn yn dinistrio pwer addysg os ydym yn parhau i weld prifysgolion a cholegau fel dim byd mwy na busnesau sydd angen bodloni defnyddwyr. Mae buddsoddi mewn addysg yn fuddsoddi yn nyfodol pobl a’u darparu ag ail gyfle. Gallai addysg ^n â nid yn unig trawsnewid pobl, ond fod yngly trawsnewid cymunedau. Pam ydym ni’n parhau i gadw gwybodaeth a braint yn gaeth o fewn i gampysau prifysgolion a cholegau? Pam fod rhaid i ddysgu wastad digwydd mewn darlithfa? Pam na all oedolion ddysgu mewn ysgolion? Pam fod rhaid i’r hen wastad ddysgu’r ifanc? ^n â system addysg y ‘Rydym yn decrhau siarad yngly gall pawb gredu ynddi, lle mae addysg yn mynd yn ôl i fod er budd cymdeithas yn ei chyfanrwydd a’r cymunedau ‘rydym yn byw ynddynt ac yn eu llunio.
Ymunwch â ni ar ein taith i ddychmygu gwell system addysg i Gymru.
Mae buddsoddi mewn addysg yn fuddsoddi yn nyfodol pobl a’u darparu ag ail gyfle.
5
MEDDYLIWCH | MAWRTH 2013
Mae’r drysau’n agored, ond oes rhywbeth wedi newid? Mae Cymru wedi cymryd camau sylweddol mewn ehangu mynediad i addysg uwch. Ond mae strwythurau’r system yn parhau i fod yr un fath i raddau helaeth
Hannah Pudner, Cyfarwyddwr UCM Cymru ae hanes y system addysg uwch ym Mhrydain yn un sy’n seiliedig ar fynediad cyfyngedig i leiafrif breintiedig. Yn 1938, dim ond 2% o’r boblogaeth oedd yn mynd i brifysgol. ‘Roedd y mwyafrif helaeth o’r rhain yn perthyn i’r dosbarth uchaf, ac o’u plith, dim ond cyfran fechan iawn ohonynt oedd yn fenywod. Tra bod graddfeydd cyfranogiad yn llawer uwch y dyddiau hyn, gyda thua 40% o’r boblogaeth yn parhau mewn addysg ar ôl 18 oed, mae olion y model elît gwireiddiol i’w gweld mewn patrymau cyfranogiad cyfredol.
M
Er bod y niferoedd o fyfyrwyr wedi cynyddu dros y ganrif ddiwethaf, ni welwyd cymaint o lwyddiant yn nhermau amrywioldeb y bobl sy’n mynd ymlaen i addysg uwch. Nid yw pob dosbarth cymdeithasol yn cael eu cynrychioli’n gyfartal yn ein prifysgolion, ac mae grwpiau lleiafrifol ethnig, pobl anabl a’r rheiny sydd wedi bod yng ngofal awdurdodau lleol, yn parhau i fod ar gyrion y system. Nid yn unig yw’r grwpiau hyn yn llai tebygol o fynd i mewn i addysg uwch, mae eu hanfantais yn parhau ar ôl cofrestru yn y brifysgol a gydol eu hastudiaethau: maent yn llawer llai tebygol o gael eu derbyn i sefydliadau uchel eu bri; yn llai tebygol o astudio ar lefel cymwysterau uwch; yn llai tebygol o gael gradd dosbarth uchel a mynd ymlaen i wneud y swyddi sy’n talu’r cyflogau uchaf.
Felly beth mae Cymru’n ei wneud ynglŷn â hyn? Bu yno sawl ymgais yng Nghymru – ac yn Lloegr - i
6
fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cyfle. Mae miliynnau o bunnoedd wedi cael eu gwario ar wneud hynny. Mae mentrau ehangu mynediad ar ffurf grantiau a phremiwm i geisio gwrthsefyll tlodi wedi cael eu sefydlu yn y sector gan y Llywodraeth a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Sefydlwyd Ymestyn yn Ehangach yng Nghymru yn 2002, menter a fwriadwyd ar sail ranbarthol i ymestyn allan i grwpiau na chânt eu cynrychioli’n gyfartal – y rheiny o ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf, myfyrwyr croenddu a lleiafrifol ethnig, myfyrwyr anabl a myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Drwy gyflwyno darpar fyfyrwyr i’r system addysg uwch, y nod yw iddynt ymgyfarwyddo, gan arwain yn y pen draw at godi eu dyheadau a’u hyder i wneud cais. Elfen arall allweddol yw’r ffaith fod Llywodraeth Cymru’n disgwyl i brifysgolion wario cyfran o’r arian maent yn ei dderbyn mewn ffioedd dysgu (hyd at £9000 yng Nghymru ers 2012) ar weithgareddau a fwriadwyd i annog myfyrwyr o gefndiroedd tlotach i fynd i’r brifysgol a pharhau ar eu cyrsiau.
Beth fu’r effaith? Mae lefelau llwyddiant wedi bod yn amrywiol, ac ar brydiau’n eithriadol o lwyddiannus. Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o grwpiau lleiafrifol ethnig erbyn hyn yn cael eu cynrychioli’n gyfartal ac mae cyfranogiad gan bobl o ardaloedd cymharol dlawd yn sicr wedi cynyddu. Serch hynny, yr hyn nad ydym wedi ei weld yw unrhyw newid
www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg
sylfaenol i’r patrymau cyffredinol o gyfranogiad gan y grwpiau cymdeithasol mwyaf difreintiedig. Ond pa hawl sydd gennym ni i ddisgwyl newidiadau mor sylfaenol, pan nad oeddem wedi ceisio creu newid sylfaenol yn y system addysg ei hun?
Mae’r drysau’n agored, ond ‘does dim byd wedi newid – Burke (2002) Mae hyn yn crynhoi i raddau helaeth lle ’rydym nawr. Tra’n canmol yr holl waith ehangu mynediad sydd ar y gweill - yn wir ‘rwyf wedi bod yn rhan o hyn fy hun yn ystod fy mywyd proffesiynol - rhaid i mi gwestiynu sut y gallwn ddisgwyl i’r gweithgareddau hyn fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac allgau, pan y cânt eu gweithredu gan sefydliadau sy’n hanesyddol wedi eu seilio ar, ac wedi esblygu o, anghydraddoldeb ac allgau o’r fath. Mae’r ymagweddiad gyfredol yn disgwyl, yn wir yn mynnu, fod myfrywyr anhraddodiadol yn addasu i’r ddelwedd dosbarth-canol o addysg prifysgol, yn hytrach na gofyn am ail-wampio strwythurau’r system addysg uwch ei hun. Rhaid i newid fod yn fwy na rhywbeth symbolaidd. Os yw ein cyfundrefn addysg yn anfanteisio grwpiau penodol o fewn i gymdeithas, oni ddylem ni fynnu fod y system yn newid er mwyn sicrhau canlyniad mwy cyfiawn? Buaswn yn dadlau fod rhai o’n hymagweddiadau presennol yn gosod gormod o bwyslais ar y myfyriwr unigol, yr hyn mae’n ei wneud a’i benderfyniadau; ac na all unrhyw newid gwirioneddol ac ystyrlon ddod oni fyddwn yn cwestiynu fframwaith sylfaenol system sy’n cynnal anghdraddoldeb strwythurol.
Felly… Beth ydw i’n ei olygu wrth hyn? Yn sicr, nid yw newid radical fyth yn hawdd. Sut ydym ni’n creu system addysg sy’n cefnogi pawb sydd â’r gallu i elwa ohoni, sy’n rhydd o ragfarnau strwythurol parthed â dosbarth cymdeithasol a hil? ‘Sgrifennodd Louise Archer, awdur sefydledig yn y maes hwn, yn 2002 y dylem seilio ein haddysg ar “fodel rhyddfreiniol”, ac ‘rwyf yn tueddu i gytuno.
www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg
I lawer o’r myfyrwyr hyn, yn y gorffennol a’r presennol, y dewis oedd; nid astudio llawn-amser neu ran-amser, ond yn hytrach astudio rhanamser neu ddim o gwbl.
Mewn cyfundrefn o’r fath, byddai addysg yn ddemocrataidd, yn seiliedig ar egwyddorion hyblyg. Ni ^ r ifori’r sefydliad, ond fyddai gwybodaeth yn gaeth i dw yn hytrach wedi ei gwasgaru ymhlith cymunedau. Gallai hyn ddigwydd. ‘Rydym yn gwybod hyn oherwydd mewn rhai achosion, mae hyn yn digwydd eisoes. Gallwn edrych ar ganolfan addysg gymunedol DOVE yn Nyffryn Dulais, neu Brifysgol Blaenau’r Cymoedd fel enghreifftiau o sut y gall prifysgolion estyn allan i fannau newydd ac i bobl newydd gyda chryn lwyddiant. Yn wir, o fewn i brifysgolion, gellir addasu’r model traddodiadol o ddarpariaeth er mwyn iddo ymestyn allan i’r boblogaeth ehangach. Mae’r radd BA Dyniaethau rhan-amser a gynigir gan Adran Addysg Oedolion Prifysgol Abertawe a rhaglenni ‘Agoriadau’ y Brifysgol Agored yn ddau enghraifft o hyn. Mae mynediad agored i’r naill gynllun a’r llall, sy’n golygu nad oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol. Mae’r polisi hwn yn galluogi myfyrwyr anhraddodiadol i fynd i mewn i addysg, ac i lwyddo mewn addysg. I lawer o’r myfrywyr hyn, yn y gorffennol a’r presennol, y dewis oedd; nid astudio llawn-amser neu ran-amser, ond yn hytrach astudio rhan-amser neu ddim o gwbl. Eto mae astudiaeth rhan-amser ar drai ac mae adrannau addysg oedolion dan fygythiad. Mae angen i ni atal y duedd yma a mynnu fod ail-feddwl sylweddol yn digwydd o ran sut ‘rydym yn darparu addysg prifysgol. Dim ond drwy wneud hyn y gallwn ni adeiladu system addysg uwch y gellir ei defnyddio gan bawb sydd â’r gallu i elwa ohoni. Byddai hynny’n arwain at gyfiawnder cymdeithasol. Gall hynny weithio yng Nghymru.
7
MEDDYLIWCH | MAWRTH 2013
Cymru lle mae addysg yn agored Tra bod ein gwlad yn ceisio newid addysg, rhaid i ni symud tu hwnt i ^n â methiant er mwyn gwireddu ein dychymyg. ofnau yngly
Yr Athro John Hughes, Cadeirydd Addysg Uwch Cymru yn y gallwn ddychmygu sut beth fydd addysg yn y dyfodol, rhaid i ni ystyried beth yw addysg, a beth yw ei diben. Mae ambell ddiffiniad mewn geiriaduron yn defnyddio’r ymadroddion canlynol: “y broses o dderbyn neu roddi cyfarwyddyd systemataidd”, “profiad goleuedig”, “canfod gwybodaeth”.
C
Mae’r rhethreg a glywir y dyddiau hyn yn ffocysu ar fanteision profiad addysg uwch er mwyn sicrhau llwyddiant yn y farchnad swyddi, ond dylai fod mwy i addysg uwch na ffatri sy’n cynhyrchu graddedigion yn barod ar gyfer cyflogwyr. Mae sgiliau cyflogadwyedd yn bwysig, wrth gwrs, ond mae cymaint mwy i addysg uwch na hynny.
Mae addysg yn ymwneud â datblygiad personol, bodloni ein dyhead dynol am ddysgu a chanfod gwybodaeth, datrys heriau mawr cymdeithas a chaniatáu i ni gyfrannu at y cymunedau amrywiol a diwylliedig ‘rydym yn byw ynddynt. Mae’r amrediad o ddysgwyr sy’n ceisio mynediad i addysg uwch yn mynd yn fwyfwy amrywiaethol. ‘Does yno bellach mo’r fath beth â ‘myfyriwr cyffredin’. Mae myfyrwyr, a byddant yn parhau i fod, eisiau amrediad o wahanol ddulliau, lleoliadau a chyflymder astudiaeth. Oherwydd hyn, credaf fod
8
rhaid i addysg ar gyfer pobl dros 16 oed yng Nghymru fod yn: hyblyg, hygyrch, adweithiol, agored ac amrywiaethol. Yn y dyfodol, rhaid i brifysgolion yng Nghymru barhau i ymestyn eu darpariaeth o wahanol fodelau o ddysgu rhan-amser i gwrdd ag anghenion amrywiol myfyrwyr; gall hyn gynnwys cyrsiau’n cael eu cynnal mewn partneriaeth â cholegau addysg bellach, mewn adeilad sy’n eiddo i gyflogwr, neu ar ffurf electronig, ar-lein neu oddi-ar-lein. Dychmygwch pe na bai yno unrhyw rwystrau i astudiaeth – byd lle byddai gan bob myfyriwr yr hyder i ddilyn y cwrs o’u dewis am ddim rheswm ag eithrio diddordeb cryf yn y pwnc a’r awydd i ymestyn eu meddyliau. Byd lle caiff profiadau dysgu blaenorol myfyrwyr eu cydnabod, fel bo rhwystrau ar ffurf gofynion derbyn traddodiadol yn diflannu, lle gall myfyrwyr dderbyn cynhaliaeth ariannol briodol ac y gallant gael mynediad i ddysgu pan fydd ganddynt yr amser – i ffwrdd o oblygiadau gwaith neu deuluol. Dychmygwch fyd lle mae amserlenni dysgu mor hyblyg nes eu bod yn gyfleus i fyfyrwyr a staff fel ei gilydd, gan alluogi’r naill garfan a’r llall i gyfranogi’n llawn. ‘Rydym yn gweithio tuag at rai o’r rhain yng Nghymru, ond mae yno’n dal i fod heriau mawr yn ein hwynebu. Nid yw addysg uwch bellach yn rhywbeth y byddwch yn ei wneud yn eich gwlad enedigol o reidrwydd. Yn 2011, ‘roedd yno 3.7 miliwn o fyfyrwyr rhyngwladol
www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg
symudol. Mae Cymru eisoes yn wlad ddeniadol iawn i fyfyrwyr a thwristiaid. Mae’n cynnig diwylliant unigryw a llewyrchus, hanes cyfoethog, gwlad ddwyieithog, tirwedd ac arfordir godidog, ac mae’n flaengar mewn technolegau cynaliadwy. Pam fyddem ni’n codi rhwystrau sy’n ymddangos fel pe baent yn atal myfyrwyr rhyngwladol rhag dod i’r DU? Rhaid i ni barhau i weithio tuag at dorri’r rhwystrau hyn i lawr, boed yn rhai gwirioneddol neu honedig, fel y gellir gweld Cymru fel gwlad agored a chroesawus i’r myfyrwyr a’r aelodau staff hynny sy’n dod â chyfoeth o amrywioldeb i’n prifysgolion a’n cymunedau. Mae’r agwedd agored a’r symudedd yma’n gweithio’r dwy fordd, wrth gwrs. Rhaid i fyfyrwyr Cymreig dderbyn pob cefnogaeth i’w galluogi i astudio dramor. Gall hyn fod drwy adleoli i wlad arall, neu drwy gyfranogiad ar-lein cynyddol gyda chyfoedion rhyngwladol – i ddangos eu meddylfryd byd-eang, datblygu sgiliau mewn ieithoedd tramor, a chynyddu eu hymwybyddiaeth o ddiwylliant rhyngwladol – mae’r rhain i gyd o fudd i gymunedau ac economi Cymru. Dychmygwch pe na bai yno rwystrau i symudedd rhyngwladol myfyrwyr. Byddai gennym fyd lle gallai myfyrwyr gyfranogi’n hawdd mewn lleoliadau diwydiannol neu gael profiad gwaith dramor. Lle gallai myfyrwyr astudio cwrs iaith dwys dramor. Lle gallai myfyrwyr wirfoddoli ar brosiect cydnabyddedig gyda phartneriaid rhyngwladol a dod â’r profiadau hynny’n ôl i’r gymdogaeth maent yn astudio, yn byw ac yn gweithio ynddi Ers 2000, mae yno dystiolaeth gynyddol y gall cyrsiau addysg uwch ar-lein fod o’r safon uchaf. ‘Rydym wedi gweld newid sylweddol o ran rhyngweithio cymdeithasol, o ryngweithio wyneb-yn-wyneb i avatar-i-avatar, wedi ei hwyluso mewn rhai achosion gan safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. Nid yw trafod a rhannu adnoddau addysgol ar-lein bellach yn rhywbeth sy’n perthyn i’r dychymyg yn unig. Nid yw prifysgolion yn ystyried os ydynt yn mynd i ymgysylltu â dysgu ar-lein, ond yn hytrach sut maent yn mynd i wneud hynny. Dychmygwch pe bai Cymru yn wlad ‘addysg agored’, lle mae holl staff a myfyrwyr prifysgol yn ymgysylltu mewn cynhyrchu, dosbarthu ac addasu defnyddiau dysgu ac addysgu (sef yr hyn y cyfeirir atynt fel ‘Adnoddau Addysgol Agored’).
www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg
Dychmygwch pe bai hyn yn digwydd mewn amgylchedd lle ‘roedd y diwylliant yn annog staff a myfyrwyr i fynd ati i ddefnyddio’r adnoddau hyn i wella ansawdd addysg yng Nghymru, a datblygu amgylcheddau addysgol blaengar.
Weithiau mae rhaid i ni feddwl yn eang a meithrin syniadau creadigol ac anghonfensiynol os ydym i droi’r hyn ‘rydym yn ei ddychmygu’n realiti.
Bydd ffocysu ar hyn, sef diwylliant addysg agored, yn arwain at ddatblygiad adnoddau addysgol agored a chreu awyrgylch lle gall arferion addysg agored ffynnu. Dychmygwch y diwylliant addysg agored hwn yng Nghymru lle gall pontydd ddatblygu rhwng dysgu anffurfiol a ffurfiol, gan ddarparu myfyrwyr â’r cyfle i symud i mewn ac allan o ddysgu ffurfiol gydol eu bywydau. Dychmygwch fyd lle mae’r adnoddau a’r arferion hyn yn darparu ffynhonnell o ddeunydd dysgu cyfoethocach fyth, gan roddi pwer i ddysgwyr gyfrannu eu gwybodaeth a’u profiad i’r broses ddysgu – myfyrwyr fel partneriaid ymarferol, sy’n cydgreu defnyddiau. ‘Rydym eisoes yn ceisio gwneud rhai o’r pethau hyn yng Nghymru; bydd eraill angen newid sylweddol mewn ymagweddiad a meddylfryd. Os ydym yn mynd i greu newid yn y ffordd y caiff addysg uwch ei darparu a’i derbyn yng Nghymru, rhaid i ni’n gyntaf weithio ar yr ymagweddiadau amlwg a digrybwyll; nid yn unig ymhlith myfyrwyr a staff, ond o fewn i gymdeithas yn gyffredinol. Gall yr hyn a ystyrir i fod yn ‘norm’ cymdeithasol gael dylanwad cryf ar yr hyn ^n â methiant ‘rydym yn ei wneud, ac mae ofnau yngly yn aml yn penderfynu’r llwybr y byddwn yn ei ddilyn. Weithiau mae rhaid i ni feddwl yn eang a meithrin syniadau creadigol ac anghonfensiynol os ydym i droi’r hyn ‘rydym yn ei ddychmygu’n realiti.
9
MEDDYLIWCH | MAWRTH 2013
Mae addysg yn fusnes at y dyfodol Rhaid i Gymru fuddsoddi mewn addysg er mwyn creu’r newid sydd ei angen i weld ei phobl yn tyfu a ffynnu. Golyga hynny feddwl tu hwnt i’r tymor-byr adweithiol.
Simon Horrocks, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Datblygiad, Dysgu ac Addysgu) yn y Brifysgol Agored yng Nghymru an fyddwn yn meddwl am ddyfodol addysg ôl-16 yng Nghymru, mae’n bwysig ein bod ni’n cofio’r pethau sylfaenol. Mae addysg, yn ei hanfod, yn fusnes at y dyfodol. Yr hyn ‘rwyf yn ei olygu yw, buddsoddiad mewn addysg yw’r buddsoddiad mwyaf arwyddocáol y gall unrhyw gymdeithas ei wneud. Mae’n fuddsoddiad a fydd yn cael dylanwad sylfaenol ar ddyfodol unigolion, cymunedau a’r wlad ei hun.
P
Mae’n galonogol, felly, gweld UCM Cymru yn arwain y ffordd ac yn ein herio ni i gyd i ddychmygu’r hyn y gall, neu efallai y dylai, addysg yng Nghymru fod mewn blynyddoedd i ddod.
Yn rhy aml, mae’r rheiny sydd â dylanwad gwirioneddol o ran dyfodol addysg yn edrych ar y tymor byr; yn sicr ddim tu hwnt i’r tymor canolig. Mae hyn yn anorfod i raddau oherwydd pwysedd cyllido a, fel y byddai rhai’n dadlau, yr angen i ymateb i’r cyfarwyddiadau polisi diweddaraf mewn addysg bellach ac uwch a bu yno ddigonedd o’r rheiny yn y blynyddoedd diwethaf.
10
Ond mae’n sicr o fod yn beth da i ni godi ein golygon ychydig a mynd ati i feddwl am weledigaeth flaengar ar gyfer addysg ôl-16 yng Nghymru ar gyfer y degawdau sydd i ddod.
Mae cyraeddiadau sgilau lefel-uchel yng Nghymru’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol, a fel y rhan fwyaf o wledydd yn y byd datblygedig, mae’r ^n. boblogaeth yn mynd yn hy
Mewn rhai ffyrdd, mae Cymru’n dechrau o safle cryf, gan fod datganoli wedi arwain at lefel o hunanreolaeth. Mae maint y sector ôl-16 yn golygu y gall colegau a phrifysgolion eistedd o amgylch y bwrdd, a hynny’n llythrennol. Mae yno, serch hynny, sawl her sylweddol sy’n rhaid mynd i’r afael â hwy: mae cyraeddiadau sgiliau lefel-uchel yng Nghymru’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol, er enghraifft, a fel y rhan fwyaf o wledydd yn y byd datblygedig, mae’r
www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg
^n. Mae’r rhain, ynghyd â boblogaeth yn mynd yn hy ffactorau eraill, yn golygu fod angen addasu’r modelau presennol ar gyfer y ddarpariaeth o addysg, efallai’n sylweddol mewn rhai achosion, os yw addysg ôl-16 yn mynd i fod addas ar gyfer ei diben wrth i’r unfed-ganrif-ar-hugain fynd y ei blaen.
Gyda phrofiad o weithio mewn addysg uwch yn Nghymru ers bron i 20 mlynedd, mae’n teimlo weithiau fel pe bai disgwyl i brifysgolion fod yn bopeth i bawb. Ymddengys nad yw cynnig profiad dysgu ysbrydoledig a defnyddiol – hyd yn oed pan fo hynny’n bosibl – yn ddigon. Ynghyd â hyn, mae rhaid i ni gynnal ymchwil ymhlith y gorau yn y byd a chefnogi datblygiad economaidd. Mae’r rhain i gyd yn dargedau da, wrth gwrs, ond mae cryfder prifysgolion Cymru yn perthyn i’w harwahanrwydd a’u harbenigrwydd. Buasai’n drueni pe bai’r cryfder hwn yn cael ei leihau dros amser gan y disgwyliadau fod angen i bob sefydliad gwrdd â, mwy neu lai, yr un targedau.
Mae un peth yn eglur: mae’r byd o’n hamgylch yn newid mor gyflym, fel na ddylem gymryd yn ganiatáol y bydd yr hyn sy’n gweithio i fyfyrwyr yng Nghymru nawr yn gweithio i fyfyrwyr ymhen 10 mlynedd, heb son am 50 mlynedd. Mae yno gwestiynau sylfaenol sy’n rhaid i’r sector addysg ôl-16 fynd i’r afael â hwy. Mae’r rhain yn cynnwys y cymwysterau ‘rydym yn eu cynnig a’r amser y disgwylir i fyfyrwyr ei dreulio’n ennill y cymwysterau hynny. (gellir dadlau mai hyblygrwydd yw’r allwedd fan yma.) Fel pe bai hynny ddim yn ddigon, mae angen i ni edrych ar y broses o ddysgu ynddo’i hun a gofyn os yw’r modelau cyfredol yn briodol ar gyfer paratoi myfyrwyr ar gyfer byd yfory. Bydd cyfranwyr eraill at Dychmygwch Addysg yn rhoddi sylw manwl i gwestiynau allweddol. Serch hynny, credaf ei bod yn bwysig i ni osgoi edrych gormod tuag i mewn. Ni ddylai chwilio am ateb neu
www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg
hunaniaeth genedlaethol unigryw ar gyfer addysg ôl16 yng Nghymru arwain at blwyfoldeb na diystyriaeth o’r hyn sy’n digwydd mewn mannau eraill o fewn i fyd addysg (a ‘dydw i ddim yn golygu dros Bont Hafren yn unig). Mae yno bethau y gallwn eu dysgu o bob rhan o’r byd, ac weithiau mae hynny’n golygu edrych tu hwnt i’r mannau hynny sy’n ymddangos fel pe bai ganddynt y mwyaf i’w gynnig yn nhermau datblygiad ^n â’u cynlluniau addysgol a sy’n fwyaf croch yngly blaengar diweddaraf.
Bydd myfyrwyr yng Nghymru hefyd yn elwa o ymgysylltu ar-lein gyda’u cyfoedion ledled y byd.
Yn sicr, dylem ystyried gwerth cyrsiau enfawr agored arlein (MOOCs), ond gadewch i ni fod yn realistig; ‘does yno ddim llawer o sefydliadau yng Nghymru a fydd yn gallu ail-gynhyrchu’r model a sefydlwyd gan brifysgolion megis MIT a Stanford. Efallai y byddai’n fwy buddiol gofyn sut mae gwlad fel Seland Newydd wedi sicrhau’r fath lwyddiant mewn sgiliau lefel-uchel. Bydd myfyrwyr yng Nghymru hefyd yn elwa o ymgysylltu ar-lein gyda’u cyfoedion ledled y byd. Er mwyn sicrhau fod hyn yn digwydd, bydd angen i Gymru fod â rhywbeth deniadol i’w gynnig mewn marchnad addysg fyd-eang sy’n mynd yn fwyfwy cystadleuol. Felly, gyda chymorth UCM Cymru a chyfranwyr eraill i Dychmygwch Addysg, mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i atgoffa ein hunain fod addysg yn fusnes at y dyfodol. Gadewch i ni fod yn uchelgeisiol. Gadewch i ni ddefnyddio ein dychymyg. Ond yn bwysicaf oll, gadewch i ni wneud yr hyn y gallwn i wireddu’r amcanion hyn. ‘Rydym yn siarad am fwy na dim ond dyfodol addysg ôl-16 yng Nghymru; ‘rydym yn siarad am ddyfodol Cymru.
11
MEDDYLIWCH | MAWRTH 2013
Rhoi terfyn ar drais yn erbyn myfyrwragedd Mae myfyrwyr yn haeddu man diogel i astudio ynddo. Mae prifysgolion a cholegau’n deffro – ac yn arwyddo i fyny i gael gwared o drais rhywiol, aflonyddu a stelcio ar eu campysau.
Rhiannon Hedge, Swyddog Menywod UCM Cymru n 2010, cyhoeddodd Ymgyrch Menywod UCM adroddiad Marciau Cudd – yr ymchwil cenedlaethol cyntaf i brofiadau myfyrwragedd o aflonyddu, stelcio, trais ac ymosodiad rhywiol.
Y
Dangosodd adroddiad Marciau Cudd for 68% o fyfyrwragedd wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol tra ‘roeddynt yn y brifysgol neu’r coleg, a bod 1 o bob 7 wedi dioddef ymosodiad corfforol neu rywiol difrifol.
Dangosodd adroddiad Marciau Cudd fod 68% o fyfyrwragedd wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol tra ‘roeddynt yn y brifysgol neu’r coleg, a bod 1 o bob 7 wedi dioddef ymosodiad corfforol neu rywiol difrifol. ‘Roedd yno hefyd dystiolaeth fod diwylliant lle mae aflonyddu rhywiol rywsut yn ‘dderbyniol’ wedi datblygu. Yn aml, ‘doedd gan brifysgolion, colegau ac undebau ^n â sut i fynd i’r afael â hyn. myfyrwyr ddim syniad yngly
12
‘Roedd lefel reportio digwyddiadau o’r fath yn ofnadwy o isel ar draws pob categori a drafodwyd yn yr ymchwil. Ymhlith dioddefwyr, y rheswm mwyaf cyffredin am beidio reportio ymosodiadau rhywiol difrifol oedd fod y sawl a ddioddefodd yr ymosodiad yn teimlo cywilydd neu embaras; ‘roedd 43% hefyd yn credu y byddent yn cael eu beio am yr hyn a ddigwyddodd, ac ‘roedd traean o’r farn na fyddent yn cael eu coelio. Hefyd derbyniwyd nifer o sylwadau gan bobl oedd yn ansicr os oedd yr hyn a ddigwyddodd iddynt hwy yn drosedd, er ei bod yn amlwg nad oeddent wedi gallu cydsynio neu eu bod wedi gwrthod cydsynio. Yn ystod y cyfnod ‘rwyf wedi ei dreulio fel Swyddog Menywod UCM Cymru, wrth siarad gyda myfyrwyr a swyddogion ledled y wlad, ‘rwyf wedi clywed cymaint o straeon brawychus o’r math yma.
O’r sylwadau lleiaf i’r drosedd fwyaf difrifol, mae’r anghydraddoldeb a’r anghyfiawnder sy’n rhan annatod o fywyadau menywod mor amlwg ar gampysau ein prifysgolion a’n colegau ag y maent mewn unrhyw le arall.
www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg
‘Rydym yn siarad am ein canolfannau dysg fel pe baent yn fannau lle gallwn greu byd delfrydol mewn
cam ymhellach, ac adeiladu ar ail argymhelliad allweddol adroddiad Marciau Cudd. Mae hwn yn
amgylchedd sy’n meithrin sgiliau a doniau, a sy’n hyrwyddo anghenion a hawliau myfyrwyr. Os oes yno unrhyw fan lle mae angen i hyn fod yn fwy na
ffocysu ar yr angen i sefydlu polisï ar draws sefydliadau cyfan sy’n mynd i’r afael â thrais yn erbyn myfyrwragedd.
rhethreg, yr ymgyrchoedd rhyddhad yw hynny. Mae gan sefydliadau rôl allweddol i’w chwarae mewn gwneud yn eglur i’w myfyrwyr na chaiff trais ac aflonyddu yn erbyn menywod ei oddef, ac mae amryw ohonynt yn dal i fethu gwneud hyn.
Mae campws sy’n herio ac yn mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol, hefyd yn amgylchedd lle mae’r rheiny sy’n dioddef troseddau trais rhywiol yn fwy tebygol o deimlo y gallant reportio’r digwyddiad.
Mae prosiect Dim Goddefgarwch i Aflonyddu Rhywiol, a gaiff ei redeg gan Ymgyrch Menywod UCM, wedi trawsnewid diwylliant undebau myfrywyr, eu bariau a’u clybiau. Mae hyn wedi creu mannau lle nad oes rhaid i fyfyrwragedd bellach ystyried aflonyddu rhywiol fel agwedd anorfod o unrhyw noson allan. Un o’r egwyddorion allweddol sydd wastad wedi bod yn sail i’r gwaith hwn yw fod campws sy’n herio ac yn mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol, hefyd yn amgychedd lle mae’r rheiny sy’n dioddef troseddau trais rhywiol yn fwy tebygol o deimlo y gallant reportio’r digwyddiad. Diolch i grant o £25,000 gan Lywodraeth Cymru, a thair blynedd ar ôl lawnsio adroddiad Marciau Cudd a’n sbardunodd i weithredu, mae Cymru wedi bod ym mlaen y gad yn y frwydr i roi terfyn ar lefelau brawychus o aflonyddu, stelcio a thrais rhywiol yn erbyn myfyrwragedd. Nod ein prosiect eleni oedd mynd â’r gwaith yma un
www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg
Byddai polisi traws-sefydliannol o’r fath yn datblygu sawl ffordd y gall sefydliadau ac undebau myfrywyr ledled Cymru weithio gyda’i gilydd i atal trais ac aflonyddu pellach, sicrhau y gall myfyrwyr oll gael mynediad i wasanaethau cymorth os ydynt yn dioddef troseddau rhywiol, ac annog reportio digwyddiadau o’r fath.
Rhaid i’r polisi’n ddangos sut y byddai sefydliadau’n gweithio gyda’r asiantaethau perthnasol i sicrhau fod myfyrwyr yn gallu cael mynediad i wasanaethau, reportio aflonyddu a gosod allan sut yn union y byddai’r sefydliad yn ymdrin â gweithred dreisiol wedi ei chyflawni gan fyfyriwr arall.
Byddai’r ymagweddiad hon yn gosod allan sut y bydd y sefydliad a’r undeb myfyrwyr yn datblygu ac yn cynnal gweithgareddau sydd â’r nod o newid meddylfryd a chodi ymwybyddiaeth o’r trais sy’n wynebu menywod. Byddai hefyd yn galluogi myfyrwyr a staff i nodi ac ymdrin yn effeithiol ag aflonyddu yn erbyn myfyrwragedd. Byddai’n ystyried y defnydd o gefnogaeth gan gyfoedion i helpu sicrhau fod gwasanaethau diogeledd ar y campws yn addas yn nhermau gwneud i fyfyrwyr deimlo’n ddiogel. Mae’n bwysig cofio y byddai’r polisi’n dangos sut y byddai sefydliadau’n gweithio gydag asiantaethau perthnasol i sicrhau fod myfyrwyr yn gallu cael mynediad i wasanaethau a reportio aflonyddu ac ymosodiadau,
13
ynghyd â gosod allan sut yn union y byddai’r sefydliad yn ymdrin â gweithred dreisiol wedi ei chyflawni gan fyfyriwr arall.
Dylid fod disgwyl i sefydliadau gyfathrebu eu polisi a’u strategaeth ar aflonyddu rhywiol, trais rhywiol a stelcio mewn ffordd sydd wedi ei hanelu at atal troseddwyr, nid beio dioddefwyr.
Mae ein hargymhellion ar gyfer sefydliadau parthed â mynd i’r afael â’r materion hyn yn cynnwys y canlynol: • Dylai fod gan bob prifysgol a choleg/sefydliad addysg bellach yng Nghymru strategaeth ar gyfer amddiffyn eu myfyrwyr a’u staff rhag aflonyddu rhywiol, trais a stelcio. Dylai hyn fod yn berthnasol i fyfyrwyr oll, ond dylid cydnabod mai problem ag iddi elfen ryweddol yw hon ac y dylid cymryd camau priodol i fynd i’r afael â’r agwedd hon. • Mae myfyrwyr ac undebau myfyrwyr yn rhan o’r ateb i’r materion hyn, a dylent fod yn bartneriaid mewn datbygu strategaethau o’r fath. • Mae angen i strategaethau traws-sefydliannol o’r fath i gynnwys: • Pob proses ddisgyblu ar draws pob adran • Unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau sy’n gysylltiedig â’r sefydliad, boed ar neu oddi ar y campws • Llety – er enghraifft, dylai pob tenant arwyddo côd ymddygiad sy’n ymwneud ag aflonyddu rhywiol a stelcio, yn ogystal â thrais
14
• Rhannu gwybodaeth ar draws adrannau – fel y gellir nodi patrymau ymddygiad ac unigolion sy’n troseddu dro ar ôl tro, gynted â phosibl • Dylai sefydliadau gynnal adolygiad o’r amgylchedd ar eu campws yn nhermau pa mor dda mae’n sicrhau diogelwch eu myfyrwyr, gan roddi sylw penodol i ddiogeledd llety. • Dylai pob polisi a phroses ganolbwyntio ar y dioddefwyr, er enghraifft: • Ni ddylai fod yn ddiangen o anodd i fyfyriwr symud i lety gwahanol os ydynt wedi dioddef ymddygiad bygythiol neu dreisiol. • Dylai’r ffordd y caiff polisïau eu gweithredu wneud i ddioddefwyr deimlo’n hyderus fod pobl yn mynd i’w cymryd o ddifrif. • Dylid fod disgwyl i sefydliadau gyfathrebu eu polisi a’u strategaeth ar aflonyddu rhywiol, trais rhywiol a stelcio mewn ffordd sydd wedi ei hanelu at atal troseddwyr, nid beio dioddefwyr. Dylai’r wybodaeth hon fod ar gael mewn llawlyfrau myfyrwyr, ar y wefan, mewn pecynnau croeso a.y.b. Dylent hefyd gynhyrchu gwybodaeth sy’n cyfeirio myfyrwyr at wasanaethau allanol megis Canolfannau Cyfeirio ar gyfer Ymosodiadau Rhywiol a llinell-gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan.
Nid yw ein gweledigaeth ar gyfer gwlad o brifysgolion a cholegau sydd ag egwyddorion craidd o fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol, stelcio a thrais rhywiol, yn un amhosibl, ac mae amryw o sefydliadau eisoes wedi ymuno â ni. Mae hyn yn fwy na rhywbeth ‘rwyf yn hoffi ei ddychmygu; hwn yw’r dyfodol ‘rwyf yn gwybod y gallwn ni ei sicrhau.
www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg
MEDDYLIWCH | MAWRTH 2013
Partneriaid mewn addysg Dylai myfyrwyr ddisgwyl cael mwy o hyblygrwydd a hunan-reolaeth yn y dyfodol. Ond mae angen i’r sefydliadau – yn ogystal â myfyrwyr – i bwyso’n galetach er mwyn gwneud hyn yn realiti.
Dr Helena Lim, Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros Gymru a Gogledd Iwerddon yn yr Academi Addysg Uwch ae sefydliadau addysg uwch Cymru ar hyn o bryd yn gweithio’n glòs gyda’r Academi Addysg Uwch (AAU) ar brosiect cyfoethogi sylweddol Cyfeiriadau at y Dyfodol ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru. Nod y prosiect hwn yw gwella meysydd penodol o brofiad dysgu myfyrwyr drwy annog staff a myfyrwyr ar y cyd i rannu arferion gorau a chreu syniadau a modelau ar gyfer blaengarwch mewn dysgu ac addysgu.
M
Mae i’r thema gyfoethogi gyfredol, Graddedigion ar gyfer ein Dyfodol, dair cainc o waith: myfyrwyr fel partneriaid; dysgu ar gyfer cyflogaeth; a dysgu mewn cyflogaeth. Drwy’r gwaith hwn, y gobaith yw y bydd y sector addysg uwch yng Nghymru yn cychwyn ar daith gyfoethogi barhaus a fydd yn arwain at newid cadarnhaol sylweddol yn natur a darpariaeth addysg uwch yng Nghymru yn y ffyrdd canlynol: myfyrwyr fel partneriaid; dysgu wedi ei wella drwy dechnoleg; dysgu hyblyg a hygyrch; a phartneriaethau AU ac AB.
Myfyrwyr fel partneriaid Y nod yw mynd tu hwnt i hysbysu ac ymgynghori â myfyrwyr parthed ag ansawdd eu profiad addysgol. Yn hytrach, eu cynnwys yn fwy uniongyrchol mewn llunio penderfyniadau ar fentrau strategol sylweddol. Un her allweddol yn hyn o beth yw sut i ymgysylltu corff y myfyrwyr yn ei gyfanrwydd yn y broses hon. Mae angen i staff ac undebau myfyrwyr ddatblygu ffyrdd o sicrhau eu bod yn clywed llais y mwyafrif
www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg
Mae’r AAU wedi mynd ati’n ddiweddar i drefnu cynhadledd gyda’r nod o ddod â staff a chynrychiolwyr allweddol at ei gilydd i ystyried sut y gallai myfyrwyr chwarae rhan fwy gweithredol mewn llunio penderfyniadau.
tawel. Mae’r AAU wedi mynd ati’n ddiweddar i drefnu cynhadledd gyda’r nod o ddod â staff a chynrychiolwyr myfyrwyr allweddol at ei gilydd i ystyried sut y gallai myfyrwyr chwarae rhan fwy gweithredol mewn llunio penderfyniadau. Mae hon yn enghraifft o sut y gall myfyrwyr gyfrannu at ddatblygiadau strategol os y cânt gyfle i lunio a dylanwadu ar y gyfres nesaf o strategaethau dysgu ac addysgu ym mhrifysgolion Cymru. Bydd yr AAU yn annog ymagweddiad o’r fath pan y caiff y gyfres nesaf o strategaethau eu datblygu yn 2014. Uchelgais arall yw cynhyrchu myfyrwyr a graddedigion sy’n ddysgwyr hunan-reolus, sy’n gallu adlewyrchu ar yr hyn maent wedi ei ddysgu a sy’n
15
meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth a fydd yn gwella eu cyflogadwyedd. Mae’r ddwy gainc o waith sy’n perthyn i Cyfeiriadau at y Dyfodol wedi eu ffocysu ar
llechi, e-gyflwyno holl waith cwrs, y defnydd o
ymchwilio i ymagweddiadau blaengar tuag at ddysgu ar gyfer cyflogaeth a dysgu ar gyfer y rheiny sydd
rwydweithio cymdeithasol ar gyfer trafod aseiniadau a thasgau, datblygu amgylcheddau dysgu wedi eu
mewn cyflogaeth a sy’n astudio rhan-amser.
personoli ar sail platform dysgu haniaethol, a hyrwyddo adnoddau fideo a podcast. Mae yno lefel
Un o elfennau allweddol yr ymagweddiad hon yw annog myfyrwyr i gymryd mwy o reolaeth dros eu dysgu. Un o’r nodweddion fyddai sicrhau fod myfyrwyr, yn ystod cyfnod cynnar eu hastudiaethau, yn meithrin y sgiliau angenrheidiol i gynnal eu hymchwil a’u harchwiliadau eu hunain. Drwy gyflwyno dysgu sy’n seiliedig ar ymchwil yn gynnar yn y broses, bydd myfyrwyr mewn gwell sefyllfa i fod yn ddysgwyr annibynnol, sef y math o raddedigion mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Bydd yr ymagweddiad hon hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr gael mwy o fewnbwn i gynllunio rhaglenni ac, yn fwy dadleuol, asesiad. Mae’n bosibl y gall rhoddi mwy o lais i fyfyrwyr mewn cynllunio ac asesu fynd i’r afael â’r broblem barhaus a amlygir gan yr ACF o sgôr boddhad isel a gyfer asesiad ac adborth.
Drwy gyflwyno dysgu sy’n seiliedig ar ymchwil yn gynnar yn y broses, bydd myfyrwyr mewn gwell sefyllfa i fod yn ddysgwyr annibynnol, sef y math o raddedigion mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Dysgu wedi ei wella drwy dechnoleg Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae sefydliadau, gyda chymorth yr AAU drwy brosiect Gwella, wedi buddsoddi’n drwm mewn sefydlu technolegau i gynorthwyo dysgu tu hwnt i’r ‘stafell-ddosbarth.
16
Mae’r canlynol ymhlith y datblygiadau diweddaraf: darparu defnyddiau dysgu ar gyfer ffonau smart a
gynyddol o lythrennedd digidol ymhlith myfrywyr sy’n mynd i mewn i addysg uwch, yn aml lefel uwch na sydd gan staff mewn sefydliadau. Gall hyn fod yn gyfle ar gyfer mwy o gydweithrediad rhwng staff a myfyrwyr, gyda myfyrwyr yn cyfrannu at fentrau datblygiad staff mewn llythrennedd digidol.
Dysgu hyblyg a hygyrch Er mwyn cymryd mantais lawn o’r datblygiadau technolegol y cyfeiriwyd atynt uchod, mae sefydliadau yn darparu rhaglenni astudiaeth mwy hyblyg, sy’n hygyrch i fyfyrwyr sy’n astudio ar y campws, neu yn y gweithle, neu gartref, neu mewn canolfan gymunedol. Gall rhaglenni gynnwys naill ai dysgu ar gyfer cyflogaeth, e.e. ar leoliad gwaith, neu ddysgu mewn cyflogaeth, sy’n gallu cynnwys cynlluniau hyfforddiant a drefnir yn fewnol gan gwmnïau, a gaiff eu hachredu gan y brifysgol. Fel hyn, gall y sawl a gyflogir ennill credyd am ddysgu yng nghyd-destun eu gwaith. Gyda chystadleuaeth gynyddol yn y sector AU o gyfeiriad darparwyr preifat, mae’n bosibl y bydd grym y farchnad yn gorfodi sefydliadau AU cyhoeddus i ddarparu dysgu mwy hyblyg a hygyrch.
Partneriaethau addysg bellach ac uwch Ers 2002, mae pedair partneriaeth ranbarthol o brifysgolion a cholegau AB Cyrraedd yn Ehangach wedi bod yn hyrwyddo mynediad i AU drwy lwybrau AB-AU penodol, neu drwy gysylltiadau i’r llwybrau 1419 cenedlaethol. Cafodd y bartneriaeth rhwng AB ac AU hwb ychwanegol pan y cyflwynwyd graddau sylfaenol yn 2011. Mae’r cydweithrediad cynyddol rhwng y sectorau AB ac AU yn codi’r posibilrwydd, rhywbeth mae UCM Cymru eisoes yn ei gydnabod, o’r ddwy sector yn uno.
www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg
Mae’r ffaith fod Cymru’n wlad fach o fantais mewn llunio uniad o’r fath rhwng AB ac AU, a fyddai’n caniatáu gwell cyfleoedd ar gyfer trosglwyddo o’r naill i’r llall. Y myfyriwr yn 2020 Felly, beth mae hyn i gyd yn ei olygu i fyfyrwyr ymhen pump neu ddeg mlynedd? Yn gyntaf, gallant ddisgwyl mynediad ehangach a rhwyddach i mewn i addysg uwch drwy lwybrau ôl-16 wedi eu darparu drwy addysg bellach ac uwch, neu drwy ddysgu yn y gweithle. Dylai myfyrwyr ddisgwyl bod yn gallu newid eu hastudiaethau er mwyn iddynt fod yn addas i’w hanghenion, ac er mwyn symud ymlaen ar gyflymder sy’n cymryd eu hamgylchiadau i ystyriaeth. Bydd disgwyl iddynt gymryd mwy o reolaeth dros eu dysgu drwy gael mynediad i ddeunydd drwy gyfryngau digidol, cymryd rhan yn y drafodaeth gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a bod yn gyd-gynhyrchwyr o’u dysgu eu hunain. Dylent fod yn chwarae rhan weithredol mewn cynllunio a datblygu’r cwricwlwm, ynghyd â’r drafodaeth strategol a llunio penderfyniadau o fewn i’r sefydliad.
Dylai myfyrwyr fod yn gallu newid eu hastudiaethau er mwyn iddynt fod yn addas i’w hanghenion, ac er mwyn symud ymlaen ar gyflymder sy’n cymryd eu hamgylchiadau i ystyriaeth.
www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg
Serch hynny, nid yw’r newidiadau hyn yn debygol o ddigwydd mewn modd goddefol. Bydd angen i fyfyrwyr fynd ati o ddifrif i sicrhau fod myfyrwyr yn cael eu gwerthfawrogi fel partneriaid dylanwadol mewn datblygiadau sefydliannol.
Mae’n eglur o strategaethau dysgu ac addysgu mewn sefydliadau fod staff a rheolwyr wedi ymrywmo i wella profiad myfyrwyr.
Mae gan staff a rheolwyr agenda brysur ac mae’n bosibl na chaiff y model o fyfyrwyr fel partneriaid y sylw canolog y dymuna myfyrwyr ei weld. Serch hynny, mae’n eglur o strategaethau dysgu ac addysgu mewn sefydliadau, eu bod wedi ymrywmo i wella profiad myfyrwyr.
Efallai ei bod yn ymddangos fel pe bai’r drws ar gau ond nid yw wedi ei gloi, a bydd rhaid i fyfyrwyr wthio’r drws i sicrhau fod newidiadau’n digwydd. Mae’r AAU yn gobeithio parhau i gynorthwyo myfyrwyr a sefydliadau i gyflwyno a sefydlu ymagweddiadau newydd tuag at ddysgu ac addysgu.
17
MEDDYLIWCH | MAWRTH 2013
Cyfranogwch ^n â sut beth y dylai addysg Oes gennych chi unrhyw syniadau yngly ôl-16 fod yng Nghymru? ‘Rydym yn gwahodd unrhyw un i gymryd rhan – yn arbennig myfyrwyr.
‘Rwyf yn fyfyriwr. Sut allaf i gymryd rhan? Rydym wastad yn recriwtio myfyrwyr i wasanaethu ar y Comisiwn Dychmygwch Addysg. Mae’r Comisiwn yn cyfarfod bob 6-8 wythnos i glywed gan arbenigwyr ^n â sut y gallai system ac i drafod syniadau yngly addysg Cymru fod yn y dyfodol. Os ydych yn feddyliwr blaengar, gallai hwn fod yn gyfle gwych i gyfranogi ym mudiad y myfyrwyr.
‘Rwyf yn gweithio yn y sector addysg. Sut allaf i gymryd rhan? Mae Comisiwn Dychmygwch Addysg yn chwilio am bobl sydd ag arbenigedd parthed â’r system addysg gyfredol ar gyfer pobl dros 16 oed, sy’n fodlon ^ p, ond yn bywsicach na hynny, sy’n annerch y grw gallu cyflwyno syniadau newydd ar sut y gallai’r system honno wella. Os ydych yn gyfarwyddwr mudiad o fewn i’r sector neu’n swyddog prosiect, mae eich syniadau chi’n cyfrif. Mae’r Comisiwn eisiau clywed gennych.
‘Rwyf yn dysgu pobl yng Nghymru. Sut allaf i gymryd rhan? Mae ein Comisiwn eisiau clywed gennych. ‘Rydym yn chwilio am bobl sydd ag arbenigedd yn y ‘stafellddosbarth, ond sydd hefyd â syniadau unigryw ^n â sut i wella’r profiad hwnnw. Os ydych yn yngly
dysgu cwrs cymunedol ar fin-nos, neu’n Athro mewn prifysgol sy’n darlithio i gannoedd bob wythnos, mae eich syniadau’n bwysig. Cysylltwch â ni ar bob cyfrif.
‘Rwyf yn gweithio mewn maes arall, megis busnes, elusen, cwmni trafnidiaeth neu delathrebu. Sut allaf i gymryd rhan? Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gennych chi. Nid yw addysg yn gweithredu mewn gwagle. Mae ein Comisiwn eisiau rhoddi sylw manwl i’r meysydd hynny sy’n gysylltiedig â gwneud i’r system addysg weithio i fyfyrwyr ac i Gymru. Gallech fod mewn busnes sydd ^n â sut mae addysg yn â syniadau unigryw yngly gweithio mewn partneriaeth i greu cyflogaeth. Gallech fod yn gwmni cludiant neu’n gyngor lleol sydd â syniadau ar sut i wella rhwydweithiau trenau a bysiau er mwyn galluogi myfyrwyr i deithio i’w campws lleol. Neu, gallech fod yn arbenigwr telathrebu sydd â syniadau blaengar ar gyfer pontio’r gagendor digidol ar gyfer pobl na allant deithio i’r campws. ‘Does dim rhaid i chi fod yn gweithio mewn addysg i ddychmygu sut y gall fod yn well yng Nghymru.
Cysylltwch â ni. Dywedwch wrthym pwy ydych chi a sut yr hoffech gyfrannu.
Dychmygwch Addysg www.nusconnect.org.uk/dychmygwchaddysg UCM Cymru, 2il lawr, Adeiladau Cambrian,Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FL ffôn. 02920435390 e-bost. office@nus-wales.org.uk @ucmcymru
18
www.facebook.com/ucmcymru