Cylchlythyr ysgolion cymraeg yr andes

Page 1

Mai 2014 Bienvenidos! Croeso mawr i rifyn cyntaf Cylchlythyr Ysgolion Cymraeg Yr Andes at blant ysgolion Cymru sydd â rhywbeth at ddant pawb—cyfweliadau, cornel athrawon, cerddoriaeth a chyfle i ddysgu mwy am y plant a’r bobl ifanc sydd yn byw yma yn Esquel a Threvelin.

Yn y rhifyn hwn: Taith o gwmpas Esquel - tudalen 3 Diwrnod ym mywyd Ryan a Francis tudalen 4 Y teulu Austin - tudalen 10 .......... y mucho más!

Patagonia Ble mae Patagonia? Yn yr Ariannin, De America Pam fo pobl yn siarad Cymraeg yno? Ymfudodd

nifer o Gymry i Batagonia yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg

Oes cymunedau Cymreig mewn gwledydd eraill hefyd? Oes, mae cymunedau Cymreig mewn llefydd

megis Pennsylvania ac ardaloedd eraill UDA neu Awstralia, ond mae'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn fwy amlwg yn y Wladfa.

Wyddoch chi y bydd trigolion y Wladfa Gymreig, a nifer o bobl yng Nghymru yn dathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa yn 2015?

Eluned Evans Grandis 1


Mae Esquel yn atynnu nifer o ymwelwyr sy’n mynd i sgïo yn La Hoya, sydd tua 13km i ffwrdd. Yma hefyd mae diwedd y rheilffordd hanesyddol La Trochita, gyda’r trên stêm enwog yn gadael ar ei daith i Nahuel Pan. Yma ceir Canolfan Gymraeg Esquel lle cynhelir gwahanol ddigwyddiadau ac yma hefyd mae adain Esquel o Ysgol Gymraeg yr Andes lle cynhelir dosbarthiadau a gweithgareddau Cymraeg gyda phlant ac oedolion. Drws nesaf mae Capel Seion lle ceir oedfaon drwy gyfrwng y Gymraeg yn fisol.

Rhyw hanner awr ar y bws o Esquel mae tref hanesyddol Trevelin. Mae ymwelwyr o bob rhan o’r byd yn heidio yma i gael te prynhawn yn un o’r tai te lle cewch de traddodiadol Cymreig gyda bara menyn, caws, jam cartre, cacennau, sgons a digon o de! Yma mae Ysgol Gymraeg Trevelin sy’n cynnig dosbarthiadau Cymraeg i oedolion yn ogystal ag i blant o bob oed. Drws nesaf mae Capel Bethel sydd mewn lleoliad prydferth iawn wrth droed yr Andes. Fel Capel Seion Esquel, cynhelir oedfaon yma yn gyson.

Athrawon y plant

Jessica

Judith

Marina

Eluned

Sara Diana 2

Isaías


Gwybodaeth Gyffredinol am Yr Ariannin Prif ddinas: Buenos Aires Poblogaeth: 41 miliwn Arian: Y peso Iaith: Sbaeneg, Cymraeg a ieithoedd brodorol

Talaith yn yr Ariannin yw Chubut. Mae hi'n rhan o Batagonia ac yn cynnwys y Wladfa Gymreig.

Dewch am daith o gwmpas Esquel gyda Maxi a Jere. Awn o gwmpas Trevelin yn y rhifyn nesaf! Un o’r siopau siocledi sy’n y dre. Mmmmmmm, blasus! Ysgol Gymraeg Esquel

Capel Seion Esquel

Mwynhau hufen iâ yn y parc

Archfarchnad fawr y dre - La Anonima

Banc Patagonia

Y trên bach!

Y Swyddfa Dwristaidd 3

Siop Gymreig La Galesa


Diwrnod ym mywyd..................Ryan (Esquel) Dw i’n codi am 7 o’r gloch, wedyn dw i’n cael brecwast ac yn mynd i’r ysgol am hanner awr wedi saith. Dw i’n cerdded yn ôl am ugain munud i un. Yn ôl yn y tŷ, dw i’n cael cinio efo’r teulu ac wedyn dw i’n mynd i’r ffarm i helpu fy nhad tan hanner awr wedi pump. Ar ôl hynny rhaid i fi fynd i’r dosbarth Cymraeg o 6:30 tan 8:00. Yn y nos fel arfer, dw i’n chwarae pelota paleta (gêm sy’n dod yn wreiddiol o wlad y Basg).

Diwrnod ym mywyd.................Francis (Trevelin) 8:00 – Dw i’n codi 8:30 – Dw i’n bwyta tost ac yn yfed te 9:00 – Dw i’n mynd i wneud gymnasteg 10:00 – Dw i’n edrych ar y pêl droed 12:00 – Dw i’n bwyta cinio 13:00 – Dw i’n mynd i’r ysgol (Ysgol 705) 18:45 – Dw i’n mynd i’r Ysgol Gymraeg 20:15 – Dw i’n mynd i’r Clwb Dawnsio Gwerin 23:00 – Dw i’n cysgu Dyma lun ohona i, grŵp arddegau Ysgol Gymraeg Trevelin a’n hathrawon Sara, Jessica ac Eluned yn cyd-adrodd yn Eisteddfod Trevelin y llynedd. Erbyn i chi ddarllen hwn, byddwn ni wedi cystadlu (ac ennill gobeithio!) yn Eisteddfod Trevelin 2014. Byddwn ni hefyd yn dawnsio gwerin yn yr Eisteddfod. Mae Clwb Dawnsio Gwerin bob nos Iau a Jessica sy’n ein dysgu. Dyn ni’n perfformio yn yr Eisteddfod, mewn cyngherddau a mewn priodasau. Dw i’n hoffi dawnsio! Fi!

Cornel gerddoriaeth......gan Daiana Mancilla (Trevelin) Helo, Daiana dw i! Dyma’r caneuon sy’n boblogaidd yn Yr Ariannin ar hyn o bryd - Wake me up gan Avicii, Counting Stars gan OneRepublic a Radioactive gan Imagine Dragons. Dyn ni’n gwrando ar lawer o gerddoriaeth Saesneg yma! Yn Sbaeneg, mae Vivir la vida gan Marc Anthony yn boblogaidd iawn iawn iawn! Ewch ar youtube i wrando ar y gân hon! 4


Rysáit yr athro..............Jam llaeth (dulce de leche) Mae gennym ni’r Archentwyr ddant melys iawn, a does dim byd gwell na jam llaeth ar fisgedi neu mewn cacen neu (fy ffefryn) yn syth o’r jar!!!! Mae’n debyg i garamel, ond yn fwy blasus o lawer. Gallwch wneud jam llaeth eich hunain (gyda help oedolyn) yn hawdd: 1 tun o ‘sweetened condensed milk’ Tynnwch y label oddi ar y tun Torrwch ddau dwll (un bob ochr) ar dop y tun gydag agorwr tuniau Rhowch y tun mewn sosban neu bot a llenwch y sosban â dŵr (2.5 cm o dop y tun). Peidiwch â gadael i’r dŵr fynd yn is na hyn wrth iddo goginio, a pheidiwch â’i lenwi gormod chwaith achos dych chi ddim eisiau i ddŵr fynd mewn i’r tyllau ar y top! Gallwch roi clwtyn dan y tun fel na fydd yn gwneud gormod o sŵn wrth goginio. Rhowch ar wres canolig/uchel ac arhoswch i’r dŵr fudferwi, yna trowch y gwres i lawr. Os fydd peth o’r llaeth wedi dianc o’r tyllau yr adeg hon, defnyddiwch lwy i gael gwared ohono. Gadewch y llaeth i droi’n jam llaeth – bydd yn cymryd tua tair awr. Ond COFIWCH gadw llygad ar y dŵr. Pan fydd yr amser fyny, defnyddiwch fenig i dynnu’r tun allan, agorwch y tun yn ofalus gydag agorwr tuniau, arllwyswch y cynnwys mewn i fowlen a chymysgwch y cyfan. Riquísimo!!!! Isaías Grandis

Dathlu’r Pasg ym Mhatagonia Yn ystod y Pasg, mae Mam yn rhoi siocled wedi toddi mewn moldiau ac ar ôl iddyn nhw ddod allan o’r oergell, dyn ni’n eu haddurno – rhai yn las a rhai yn goch a rhai yn felyn. Dyn ni’n bwyta 3 neu 4 ŵy Pasg yr un. Rhaid i ni fwyta’n gyflym iawn neu gadw’r wyau mewn lle diogel yn y tŷ achos dyn ni’n bedwar brawd a dyn ni i gyd yn hoffi siocled! Mae ‘acto’ yn yr ysgol hefyd gyda chanu a dawnsio a rhai o’r plant yn gwisgo i fyny fel cwningod (ond dim ni!!!!) Maxi a Jere (Esquel)

A dyma sut maen nhw’n dathlu’r Pasg mewn tref o’r enw Bariloche (sydd tua 3 awr a hanner o daith yn y car o Esquel)..............gydag ŵy Pasg mwya’r byd!!!!!!!!

5


6


Dosbarth Wlpan 2 Esquel - ‘Ffrindiau’ Enw: Jeremias Knobel Enwau fy ffrindiau: Pablo a Gonza Oed: 15 Ers faint ydych chi’n ffrindiau?: Gonza-yn ffrind erioed a Pablo-ers dechrau ysgol uwchradd. Oes llysenw gyda ti?: Oes, mae pobl yn galw fi’n Jere, Nobel a Kanobel. Beth wyt ti’n hoffi gwneud yn dy amser hamdden?: Dw i’n hoffi chwarae rygbi, eirafyrddio a chwarae’r gitar. Beth yw dy hoff air/eiriau yn y Gymraeg?: Chwarae a cherddoriaeth achos maen nhw’n gwneud fi’n hapus. Pa gerddoriaeth wyt ti’n hoffi?: Dw i’n hoffi Roc Cenedlaethol, Rock ‘n’ Roll, The Rolling Stones a The Police. Enw: Imanol Herrera Oed: 13 Ysgol: Ysgol 758, Esquel, Patagonia Enwau fy ffrindiau: Emiliano a Manuel Pa gerddoriaeth wyt ti’n hoffi?: Dw i’n hoffi pop, gwerin ac hefyd Porta, Eminem a Rojos. Beth ydy dy hoff liw?: Dw i’n hoffi gwyrdd. Oes llysenw gyda ti?: Oes, mae pobl yn galw fi’n Ima. Beth wyt ti’n hoffi gwneud yn dy amser hamdden?: Dw i’n hoffi chwarae rygbi. Beth wyt ti’n hoffi gwneud gyda dy ffrindiau?: Dw i’n hoffi chwarae gitar a gwrando ar y radio gyda nhw.

Helo

! De

wi P eter sen b J on yw y yn Y es d n Nh sgol wia r e G v ymr elin i’r C dym a a dw ylch eg T a fy r Ti a chw i’n m evel Mei aer F y i nam i yno nd i’ thri Ser r n . a Y en. e â Mae sgol f chyf J on y c sawl es. M Feit hwa enw er f hrin un o au C ae f Ysgo ach ’ y r y m p m r la yn m l Gy aeg am, mra ynd fel W nt sy’n Jes eg T sica m y i l n l reve iams d i’r yn a , Eva lin. thra Ta-t wes ns a a, ch yn au c hau! !! Dyn

7

ni’n


Yn fy mhen y mae dwy ffenest i weld y byd yn well, drwy’r naill rwy’n gweld ‘montañas’, drwy’r llall y moroedd pell. Drwy un rwy’n cyfri’r blodau gan ddweud ‘un, dau, tri’ o hyd, drwy’r llall rwy’n cyfri’r adar sy’n ‘uno, dos, tres’ uwch y byd. Rwy’n agor un a gweiddi: ‘Helo ‘na! Sut wyt ti?’ O’r llall rwy’n mentro holi: ‘Tienes algo para mi?’ At y naill fe ddaw ‘mis amigos’ â’u ‘sonrisas’ yn chwerthin iach, at y llall daw’r straeon doniol gan griw o ffrindiau bach. A rhwng y ddwy rwy’n gwybod ‘mod i’n gyfoethog iawn— mae gen i ddau o bopeth, mae ‘myd i gyd yn llawn! Mererid Hopwood (Juan y guanaco a cherddi eraill, golygydd: Esyllt Nest Roberts de Lewis)

Wyddoch chi........... pa frawddeg mae plant Ysgol Gymraeg Trevelin yn ei ddysgu yn gyntaf? “Ga i fisgedi os gwelwch yn dda?!”

8


Cyfweliad gyda......... Mike Winter MIKE dw i, dw i’n 15 oed, a dw i’n mynd i ysgol 735 (does ganddo fo ddim enw, dim ond rhif). Beth dw i’n hoffi’i wneud fwyaf yn fy amser hamdden ydy chwarae cerddoriaeth: fy ffefryn ydy’r fiola a dw i mewn grŵp o 14 person sy’n chwarae’r ffidil, y fiola a’r cello, yn Nhrevelin. Hefyd, dw i’n hoffi arlunio, ac o ran chwaraeon, dwi’n hoffi nofio, pêl-droed, a reidio’r beic. Dw i’n hoffi darllen hefyd; nofelau, y Beibl... Ces i fy ngeni yn Esquel, Chubut. Pan oeddwn i’n flwydd oed, aethon ni i Lundain am flwyddyn a hanner, achos cafodd fy nhad waith yno fel meddyg. Daethon ni yn ôl i’r Ariannin am flwyddyn, cyn symud unwaith eto, i Fangor, Cymru, oherwydd gwaith fy nhad. Aethon ni (tri brawd a fi) i’r ysgol yna, a setlon ni yna. Wnes i’r ysgol gynradd i gyd ym Mangor; yn gyntaf yn Ysgol y Faenol, wedyn symudais i i Ysgol Ein Harglwyddes, ac arhosais i yno tan flwyddyn pump. Ym mlwyddyn pump, es i i’r uned iaith yn Ysgol Maesincla, yng Nghaernarfon, am dymor. Dysgais i lawer o Gymraeg yno, a ges i amser gwych. Wedyn, symudais i i Gae Top, ym Mangor. Ces i flwyddyn hyfryd yno. Felly, ar ôl gwneud ysgol gynradd yng Nghymru, dechreuais i’r ysgol uwchradd yn Friars. Tri mis yn Friars cyn dychwelyd i Esquel, i aros yn Rhagfyr 2009. Dechreuais i’r ysgol uwchradd eto, a dyma fi... Anghofiais ran fawr fawr o fy Nghymraeg, ond dw i’n mynd i ddosbarth Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes Esquel gyda Gladys ac Eluned ers blwyddyn ac mae bob dim yn dod yn ôl, a dw i wedi dysgu llawer o bethau newydd hefyd!

Yr Andes, Patagonia

9


Helo!!!! Soraya, Luis a Rhys dyn ni. Dyn ni’n byw yn Esquel yn agos iawn i fynyddoedd Yr Andes. Dyma lun o’r gwyliau olaf gawson ni ar lan y môr. Er bod ni’n byw yn Esquel dyn ni´n dwlu ar y môr! Mae Luis a fi yn siarad Cymraeg a mae Rhys wedi dechrau dysgu. Wel, dechreuodd e fynd i´r Cylch Babanod yn gyntaf a nawr mae e’n mynd i’r Ysgol Feithrin. Tair oed yw e. Mae Luis a fi wedi bod yng Nghymru. Bues i dairgwaith a buodd Luis ddwy waith. Arhosais i ddau fis yn Llanbed a gwnes i gwrs WLPAN ym 1998. Yr ail dro bues i yng Nghaerdydd a gwnes i’r Cwrs Tiwtoriaid, hefyd ymwelais i ag Ysgol Y Strade yn Llanelli. Ysgol neis iawn. Ar ôl deng mlynedd, es i Gaerdydd eto. Y tro hwn arhosais i am chwe mis, ac astudiais i’r Cwrs Uwch a’r Cwrs Meistroli ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd y profiad yn fendigedig ! Nid dim ond astudio oedd fy mywyd yno, ond helpu mewn gwesty a chymdeithasu gyda phobl o wahanol rannau o’r byd. Wel, buodd Luis yng Nghymru am chwe mis yr ail dro, helpodd yn Uned 5, S4C. Cafodd e brofiad neis iawn yna. Gwellodd ei Gymraeg yn fawr iawn oherwydd defnyddiodd yr iaith bob dydd. Pam ddechreuon ni ddysgu’r iaith? Oherwydd mae’r ddau ohonon ni’n dod o deuluoedd Cymreig. Daeth fy hen hen daid, o’r enw Rhys Williams a’i deulu i Batagonia ym 1867; a daeth cyndad Luis, o’r enw Thomas Tegai Austin ar y Mimosa i Batagonia hefyd. Dyna pam mae Luis a fi wedi rhoi enw Cymraeg i’n mab, achos dyn ni’n teimlo bod yn rhaid i ni gadw traddoddiad ein cyndadau.

Am wybod mwy amdanom ni ac am y bobl sydd yn byw yn Yr Andes? Ewch i ‘YouTube’ a theipiwch Menter Patagonia Yr Andes a chewch weld nifer o fideos ............ac mae mwy ar y ffordd!

10


Cornel Sbaeneg ¡Hola! - Helo! ¿Qué tal? – Sut wyt ti? ¡Estoy bien gracias! – Dw i’n iawn diolch! ¡Buenos días! – Dydd da! ¡Buenas tardes! – Prynhawn da! Por favor - Os gwelwch yn dda (Muchas) Gracias – Diolch (yn fawr) ¡De nada! – Croeso/peidiwch â sôn! ¡Mucho gusto! – Braf cwrdd â ti/chi! ¿Dónde está el baño? Ble mae’r tŷ bach? Disculpame - Mae’n flin gyda fi No hablo mucho Castellano - Dw i ddim yn siarad llawer o Sbaeneg No sé - Dw i ddim yn gwybod ¡Hasta luego! ¡Adiós¡ ¡Chau chau! - Hwyl am y tro! / Hwyl fawr!

Gobeithio wnaethoch chi fwynhau dysgu amdanom ni. Tan tro nesaf, neu fel yr ydym ni’n dweud yma, chau chau!!!!!!!!!!!

11


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.