Mae'r cynllun hwn yn cyflawni ein dyletswydd o dan Adran 9 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i bennu a chyhoeddi amcanion lles. Mae'r cynllun hwn hefyd yn cyflawni ein dyletswyddau o dan Ran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i sicrhau gwelliant parhaus.
I gael copi o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille, tâp sain neu iaith arall, cysylltwch â: Jackie Meskimmon ar 01437 776613. Rydym bob amser yn awyddus i glywed eich barn. Os oes gennych unrhyw adborth ar y cynllun hwn, neu os hoffech ddylanwadu ar ddatblygiad amcanion lles yn y dyfodol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod. Gallwch olrhain ein perfformiad diweddar yn erbyn y cynllun hwn drwy edrych ar adroddiadau rheoli perfformiad integredig sy'n mynd i'r Cabinet a'n Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu bob chwarter. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Dan Shaw Rheolwr Cynllunio Corfforaethol Cyngor Sir Penfro Neuadd y Sir Hwlffordd Sir Benfro SA61 1TP Ffôn: 01437 775857 policy@pembrokeshire.gov.uk www.pembrokeshire.gov.uk
Graffeg o'r "Essentials Guide" a ddefnyddiwyd gyda chaniatâd caredig gan Lywodraeth Cymru © Hawlfraint y Goron 2015 LlC 25447
Rhagair Mae'r Cynllun hwn yn edrych ymlaen at sut y byddwn yn ymateb i'r heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol. Cafodd ei gynhyrchu cyn Etholiadau Mai 2017 a Chynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro a fydd yn cael ei gytuno yn ystod Gwanwyn 2018 ac mae cynllun eleni yn ddogfen bontio. Rwy'n hyderus yn dilyn yr etholiadau, y bydd Cyngor newydd yn dymuno datblygu’r cynllun hwn. Mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn datblygu ar y cynnydd da a wnaed gennym yn y pum mlynedd diwethaf. Yn 2016 cawsom ein graddio fel y Cyngor oedd yn perfformio fel yr ail orau yng Nghymru ac am y ddwy flynedd olynol ddiwethaf rydym wedi bod ymhlith y Cynghorau sydd wedi gwella fwyaf yng Nghymru.
Mae canlyniadau addysg ar gyfer TGAU yn gwella ac rydym yn cydnabod bod angen iddynt wella ymhellach Rydym wedi buddsoddi mewn gwasanaethau sy'n atal anghenion rhag gwaethygu mewn gofal cymdeithasol plant ac oedolion yn ogystal ag mewn lles addysg. Mae hyn yn cyflenwi'r mathau o gefnogaeth y mae ar bobl ei eisiau. Gallwn hefyd ddangos lle mae eisoes yn gwneud arbedion Yr ydym yn darparu gwasanaethau cymdeithasol effeithiol i blant, sy'n diogelu plant ac yn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed wrth gefnogi teuluoedd yr un pryd Mae gennym un o'r cyfraddau ailgylchu uchaf (ac un o’r cyfraddau gwaredu gwastraff i safleoedd tirlenwi isaf) yng Nghymru
Rydym yn ymdrin â'r materion a godwyd am ein llywodraethu yn Asesiad Corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru ac rwyf wedi bod yn falch o weld y cynnydd a wnaed yn cael ei adrodd drwy'r Cabinet Bydd ein rhaglen drawsnewid yn rhoi ffurf i drefniadaeth y Cyngor ei hun fel y gall barhau i wella lles pobl a dal ati i wneud arbedion.
Cynnwys Beth yw Cynllun Corfforaethol Cyngor Sir Penfro? .......................................................................... 5 Ein cyd-destun ariannol.................................................................................................................... 7 Cynnwys ........................................................................................................................................... 8 Asesiad lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro ........................................................... 8 Arolwg cyfunol am y gyllideb ac amcanion lles .......................................................................... 10 Ystyried y tymor hir ........................................................................................................................ 11 Tueddiadau demograffig ............................................................................................................ 11 Tueddiadau economaidd ............................................................................................................ 11 Tueddiadau tai ............................................................................................................................ 12 Tueddiadau amgylcheddol ......................................................................................................... 13 Tueddiadau cymdeithasol .......................................................................................................... 14 Tueddiadau o ran cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus .............................................................. 14 Ein hymateb i'r tymor hir............................................................................................................ 15 Ataliol ............................................................................................................................................. 17 Integreiddio ein Cynllun Corfforaethol i mewn i bolisïau eraill ..................................................... 18 Cysylltu ein hamcanion lles â'r amcanion lles cenedlaethol ...................................................... 19 Ein Hamcanion Lles ........................................................................................................................ 20 Trawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau ............................................................ 20 Egwyddorion ein Model Gweithredu Targedau ..................................................................... 21 Ein rhaglen drawsnewid ......................................................................................................... 22 Trawsnewid ffrydiau gwaith................................................................................................... 23 Amcan lles 1: Codi safonau cyflawniad cyffredinol ....................................................................... 26 Amcan lles 2: Cymunedau iach ...................................................................................................... 31 Cymunedau a gefnogir gan dai fforddiadwy ac addas ............................................................... 31 Gwella gofal cymdeithasol ......................................................................................................... 34 Amcan lles 3: Cynyddu cynhyrchiant yr economi ac ymdrin â materion adfywio ......................... 38 Amcan lles 4: Diogelu ein hamgylchedd ........................................................................................ 41 Amcan lles 5: Cymunedau hunan gynhaliol a bywiog .................................................................... 44 Dyfyniad o'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ................................................................................ 46
Beth yw Cynllun Corfforaethol Cyngor Sir Penfro? Mae ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2017/18 yn edrych i'r dyfodol ac yn nodi sut y byddwn yn cynllunio ac yn rheoli gwasanaethau mewn ffordd fwy cynaliadwy. Mae'r Cynllun Corfforaethol yn un o’r ffyrdd y byddwn yn cyflawni'r weledigaeth a gytunwyd gennym ym mis Gorffennaf 2016 "Gweithio gyda'n gilydd i wella bywyd yn Sir Benfro" Mae ein Cynllun Corfforaethol yn un o ofynion Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol 2015. Prif nod y Ddeddf yw gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn nodi saith nod llesiant cenedlaethol, ac mae gennym ni a sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus eraill ddyletswydd i gyfrannu at y rhain.
Nodau llesiant
Bydd y Ddeddf yn gwneud i’r Cyngor a'r cyrff cyhoeddus eraill a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am y tymor hir, gweithio'n well gyda phobl a chymunedau a'i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu ymagwedd fwy cydgysylltiedig. Nid yw deddfwriaeth hŷn, oedd yn pennu sut rydym yn cynllunio ar gyfer y dyfodol o’r enw Rhan 1 Mesur Llywodraeth Leol 2009, wedi ei diddymu. Yn ei hanfod gall y ddyletswydd yn y Ddeddf hon i gynhyrchu Amcanion Gwella gael eu hymgorffori yn ein hamcanion Llesiant newydd. Rydym yn rhagweld y bydd Mesur 2009 yn cael ei diddymu, ond mae'n debygol o fod mewn grym tan 2020. Nid yw'r Cynllun Corfforaethol yr un fath â'r cynllun Lles, sydd hefyd yn ofynnol o dan y Ddeddf. Er bod y ddwy ddogfen yn debygol o fod yn debyg i’w gilydd, bydd y cynllun Lles yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro, ac ni fydd yn cael ei gynhyrchu tan fis Mawrth 2018. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro yn canolbwyntio ar gynhyrchu asesiad lles a bydd yn gofyn barn pobl am hyn yn ystod Chwefror a Mawrth 2017. Bydd etholiadau ar gyfer gweinyddiaeth newydd i'r Cyngor ym mis Mai 2017, a mater i’r Cyngor newydd hwn fydd penderfynu ar ei flaenoriaethau, ei weledigaeth a sut y bydd y cynllun hwn yn cael ei weithredu. Rydym yn rhagweld y bydd y Cyngor newydd yn dymuno adolygu'r cynllun hwn erbyn yr Hydref i ddechrau ar y broses o gynllunio corfforaethol ac ariannol ar gyfer 2018/19.
Ein cyd-destun ariannol Mae ein sefyllfa ariannol yn heriol iawn. Ein hamcangyfrif presennol yw bod yna fwlch cyllido sydd yn o leiaf £45.3m sydd angen ei lenwi dros y pedair blynedd nesaf ar ben y bwlch o £41.5m a oedd wedi cael ei lenwi dros y tair blynedd flaenorol. Nid ni yn unig sy’n wynebu’r raddfa hon o her ariannol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o sefydliadau eraill er mwyn gwneud Sir Benfro yn lle gwell. Mae llawer o'r rhain yn sefydliadau cyhoeddus ac maent hwythau hefyd yn profi gostyngiadau yn eu cyllidebau. Bydd cyllideb 2017/18 yn gweld cynnydd bychan yn ein gwariant net i £204,807,000. Mae hyn tua 0.7% yn uwch na’n hamcangyfrif diwygiedig ar gyfer gwariant net yn 2016/17. Mae hyn yn debygol o fod yn seibiant dros dro ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio am galedi pellach yn y dyfodol. Y rheswm pam rydym wedi gwneud, ac yn parhau i wneud ymdrechion o'r fath i leihau ein gwariant yw bod y swm o arian allanol yn lleihau mewn termau arian parod tra bod y galw am wasanaethau, a’r gost o’u darparu yn cynyddu. Mae'r gost o ddarparu'r un lefel o wasanaeth yn debygol o gynyddu. Mae hyn oherwydd y bydd costau cyflogaeth (megis cyfraniadau pensiwn y cyflogwr a gweithredu'r cyflog byw cenedlaethol) yn cynyddu. Mae'r galw am rai gwasanaethau, yn enwedig gofal cymdeithasol i oedolion yn debygol o gynyddu. Mae'r wasgfa hon ar adnoddau yn ein gorfodi ni i feddwl yn wahanol. Mae'n debygol y bydd gostyngiadau mewn gwasanaeth, ond, gallai gweithio'n wahanol arwain at yr un canlyniadau, neu well canlyniadau gyda chyllideb lai. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn deddfu ar gyfer sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau, gan gynnwys penderfyniadau ariannol. I fodloni'r egwyddor datblygu cynaliadwy, mae'n rhaid i ni geisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu bodloni heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Mae gan y Ddeddf bum egwyddor, sydd os dilynir hwy, yn golygu ei bod yn debygol iawn y byddwn yn cyflawni ein dyletswydd o ran datblygu cynaliadwy:
Cynnwys
Tymor hir
Atal
Integreiddio
Cydweithio
Mae'r adrannau nesaf yn crynhoi sut yr ydym wedi cymryd y rhain i ystyriaeth wrth ddatblygu'r cynllun hwn. Er bod yr holl egwyddorion hyn yn bwysig, mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn glir bod cynnwys pobl yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt a'u cymunedau yn elfen hanfodol yn y ffordd newydd hon o weithio.
Cynnwys Mae'r adran hon yn disgrifio sut yr ydym wedi cynnwys pobl ac wedi ymgynghori ynghylch ein hamcanion lles. Mae hyn yn rhan allweddol o'r broses ar gyfer datblygu’r cynllun hwn.
Asesiad lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro Mae darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Gorllewin Cymru wedi bod yn cydweithio i asesu cyflwr lles pobl leol a chymunedau, yn awr ac ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi defnyddio'r adborth a gawsom gan bobl, cymunedau a rhanddeiliaid lleol ynghyd â ffeithiau a ffigurau eraill sydd gennym, i ddatblygu cyfres o amcanion lles. Cynhelir ymgynghoriad ynghylch hyn ar hyn o bryd. Dros yr haf, buom yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn ogystal â'r Bwrdd Iechyd ei hun i ddatblygu arolwg lles. Yn ogystal, fe wnaethom gynnal digwyddiadau mwy anffurfiol lle cafodd pobl eu hannog i roi eu barn am yr hyn a oedd yn bwysig i'w lles. Cawsom nifer fawr o ymatebion i'r arolwg (2,282 o bobl o Sir Benfro) ac roedd proffil demograffig yr ymatebwyr yn cyfateb yn fras i broffil demograffig Sir Benfro ei hun. Roedd yr arolwg yn eang a bydd canlyniadau mwy manwl yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau gwe Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro http://www.pembrokeshire.gov.uk/content.asp?nav=101,2434,2438&parent_directory_id=646. Y canfyddiadau allweddol oedd bod pobl yn pryderu am eu lles. Yr agwedd ar hyn y mae pobl yn ei gwerthfawrogi fwyaf yw teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain. Roedd agweddau eraill ar hyn, megis y cyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau, yn dal i gael eu hystyried yn bwysig, ond yn llai felly na diogelwch neu bobl yn cytuno’n dda gyda'i gilydd. Pan ofynnwyd a fyddai gwella mynediad at amrywiaeth o wasanaethau yn gwella hapusrwydd, signal ffonau symudol a gwasanaethau cyhoeddus ddaeth i’r brig. Gwell mynediad at y rhyngrwyd a theulu a ffrindiau a gafodd y sgôr ail uchaf. Roedd ymatebwyr yn meddwl bod y cysylltiad rhwng hapusrwydd a gwella mynediad i gludiant cyhoeddus yn ogystal â gwella mynediad i grwpiau cymunedol yn llai cryf.
O ran tai, cytunai ymatebwyr fod eu tŷ yn bodloni eu hanghenion a'i fod mewn cyflwr da. Roedd barn ynghylch a allai pobl fyw yn eu cartrefi cyhyd ag y dymunent yn rhanedig gyda phobl mewn tai rhent preifat yn llawer llai tebygol o gytuno. Roedd pobl yn llai hyderus y byddai eu cartref yn diwallu eu hanghenion yn y dyfodol ac y byddent yn gallu dod o hyd i lety addas pe bai angen. Roedd ymatebwyr mewn llety oedd yn cael ei rentu’n breifat (ac i raddau llai, rhent cymdeithasol) yn llai hyderus am eu sefyllfa tai yn y dyfodol. Dywedodd bron i draean yr ymatebwyr fod ganddynt broblem iechyd sy'n effeithio ar eu lles. Yr effaith ar fywydau’r bobl hyn yw nad yw dros eu hanner mwyach yn gallu gwneud pethau yr oeddent yn arfer eu mwynhau. Dywedodd traean fod eu salwch yn rhoi straen ar berthynas bersonol a dywedodd cyfran debyg bod arnynt angen cymorth ychwanegol i fyw eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae tua naw o bob deg o bobl sydd angen cymorth ychwanegol yn dibynnu ar ofal anffurfiol gan deulu a ffrindiau. Mae'r ystadegyn hwn yn amlygu’r rôl holl bwysig y mae gofalwyr yn ei chyflawni wrth fodloni anghenion a dywedodd ychydig dros draean y bobl eu bod nhw yn darparu gofal di-dâl. Yn gyffredinol, dywedodd dros dri chwarter y bobl oedd yn derbyn gofal (gan gynnwys y rhai sy'n derbyn gofal cymdeithasol ffurfiol) fod y gofal a gawsant yn diwallu eu hanghenion. Roedd ymatebwyr yn gwerthfawrogi’r amgylchedd gyda thirwedd / golygfeydd, traethau a llefydd i gerdded / beicio yn cyrraedd y tri uchaf. Mannau gwyrdd, mannau i dyfu bwyd a mannau i chwarae oedd â'r graddfeydd isaf. Roedd ymatebwyr yn bryderus iawn am ailgylchu / gwastraff, sbwriel a thipio anghyfreithlon. Roedd ymatebwyr yn weddol bryderus ynghylch bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd ac roedd lefelau is o bryder ynglŷn â llifogydd. Roedd yr arolwg yn holi am gamau roedd pobl wedi eu cymryd i warchod yr amgylchedd. Mae ailgylchu yn sefyll allan fel y pwnc a grybwyllwyd amlaf. Soniwyd hefyd am leihau ynni a phrynu bwyd lleol gan dros chwech o bob deg o ymatebwyr. Ar y cyfan, mae awydd i gymryd rôl fwy gweithredol i leddfu materion amgylcheddol. Gofynnwyd i ymatebwyr am eu barn am les diwylliannol. Treftadaeth a hanes yw'r agwedd ar ddiwylliant y mae pobl yn meddwl sydd bwysicaf. Roedd ymatebwyr yn tueddu i wahaniaethu’n fawr iawn rhwng dylanwadau diwylliannol eraill er bod ffydd a chrefydd yn cael eu hystyried yn llai pwysig. Roedd tua un o bob pump o bobl yn crybwyll diffyg amser fel y rheswm pam nad oeddent yn defnyddio mwy ar y gwasanaethau diwylliannol.
Arolwg cyfunol am y gyllideb ac amcanion lles Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad am farn pobl am amcanion lles yn ogystal ag ar gynigion y gyllideb yn dechrau ar ddiwedd mis Tachwedd 2016 ac yn cau ddechrau mis Ionawr 2017. Cafodd barn am amcanion lles a syniadau am arbedion i'r gyllideb eu cynnwys yn yr un holiadur. Yn ogystal, cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar gyfer trigolion yn ogystal â rhanddeiliaid eraill yn ystod Rhagfyr 2016. Mae crynodeb o'r adroddiad hwn yn rhan o bapurau cyllideb 2017/18 (Cabinet, 13 Chwefror, 2017 a’r Cyngor 2 Mawrth, 2017). Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ddiwedd mis Tachwedd a dechrau Rhagfyr ledled Sir Benfro ar y gyllideb a’r amcanion lles. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar-lein hefyd a daeth hwn i ben ar 6 Ionawr, 2017 a denodd 611 o ymatebion. Mae'r prif ganlyniadau o'r prif ymgynghoriadau ar-lein yn cael eu nodi isod. Mae'n werth nodi bod y cyfarfodydd cyhoeddus wedi dod yn ôl gyda blaenoriaethau cymharol ychydig yn wahanol gyda Mynediad at Wasanaethau (Ffyrdd Newydd o Weithio) a Llywodraethu yn gyffredinol yn cael blaenoriaeth uwch, ond hefyd yn cael eu hystyried fel thema drawsbynciol a oedd yn sail i’n hamcanion eraill.
Maes posibl Cyrhaeddiad addysgol Datblygu Gofal Cymdeithasol Tai Gwastraff ac Ailgylchu Trechu Tlodi Yr Amgylchedd Lleol Canol Trefi ac Adfywio Mynediad at Wasanaethau (Ffyrdd Newydd o Weithio) Yr Amgylchedd Byd-eang Llywodraethu
Perfformiad cymharol Uchel iawn Uchel
Canolig
Isel
Ystyried y tymor hir Mae'r Ddeddf yn ein herio i feddwl ynghylch y mathau o wasanaethau y bydd eu hangen yn y dyfodol, nid dim ond yr hyn sydd ei angen ar hyn o bryd. Rydym yn disgwyl adroddiad ar dueddiadau gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Efallai na fydd hwn yn cael ei gynhyrchu mewn pryd i fod yn sail ar gyfer cynllun eleni, ond bydd yn sylfaen ar gyfer y cynllun Lles pan fydd hwn yn cael ei fabwysiadu yn 2018. Gallem ddisgwyl yn rhesymol iddo roi sylwadau am y canlynol:
Tueddiadau demograffig Mae disgwyliad oes yn cynyddu. Yn 1991/93 roedd disgwyliad oes dynion yn Sir Benfro yn 74.2 mlynedd, ond erbyn 2012/14 roedd hyn wedi cynyddu i 79.7. Roedd sefyllfa gymharol Penfro i awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a Lloegr yn parhau heb newid. Yn amlwg, mae hyn yn gadarnhaol iawn ac yn fater i'w groesawu, ond un o effeithiau hyn yw bod nifer y bobl oedrannus yn cynyddu ac felly hefyd y galw am wasanaethau gofal cymdeithasol. Mae hyn oherwydd bod disgwyliad oes iach yn cynyddu ar gyfradd arafach na disgwyliad oes yn ei gyfanrwydd. Mae gan hyn oblygiadau clir ar gyfer gofal cymdeithasol yn ogystal â thai. Y duedd hirdymor ar gyfer disgwyliad oes yw y bydd yn parhau i gynyddu, er ar raddfa arafach nag yn y gorffennol. O fewn y darlun cyffredinol hwn, mae'n bosibl y gallai gwahaniaethau mewn disgwyliad oes rhwng gwahanol gymunedau gynyddu. Er enghraifft, mae cynnydd mewn gordewdra, a fydd yn tueddu i arafu neu wrthdroi cynnydd mewn disgwyliad oes, yn llawer mwy amlwg ymysg pobl sydd ag incwm isel. Mae nifer y plant yn gostwng fel cyfran o gyfanswm y boblogaeth. Yn 1971 roedd 33% o'r boblogaeth o dan 20 oed, erbyn 2011, roedd hyn wedi gostwng i 23%. Gan fod poblogaeth Sir Benfro yn aros yn ei unfan yn fras, mae hyn yn golygu bod nifer y bobl ifanc yn gostwng gyda goblygiadau amlwg ar gyfer nifer y lleoedd ysgol y mae angen i ni eu darparu.
Tueddiadau economaidd Yn y degawdau diwethaf, mae dinasoedd wedi tueddu i ddod yn fwy pwysig fel ysgogwyr twf economaidd, yn enwedig ar gyfer diwydiannau uwch-dechnoleg a gwerth uchel. Mae gan hyn y potensial i ehangu'r bwlch mewn cynhyrchiant rhwng Sir Benfro, sydd yn bellach o gytrefi mawr, a'r dinasoedd mawr. Mae gan Sir Benfro gyfraddau cynhyrchiant cymharol isel fesul swydd o'i gymharu â gweddill Bae Abertawe, Lloegr neu weddill y DU. Mae'r ffocws ar Sir Benfro fel rhan o Ddinas-Ranbarth ehangach Bae Abertawe yn un ffordd o ymdrin â hyn.
Mae prif gyflogwyr sector preifat Sir Benfro yn tueddu i fod mewn sectorau lle mae'r duedd am dwf mewn cyflogaeth yn statig. Y prif eithriadau yw’r sectorau bwyd a llety sydd ill dwy yn cynnal y diwydiant twristiaeth. Yn y tymor canolig i hir mae penderfyniad y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd yn debygol o arwain at nifer fawr o newidiadau i'r ffordd y mae'r economi yn perfformio. Mae Sir Benfro wedi derbyn cefnogaeth arian strwythurol ers yr 1990au. Yn ogystal, bydd goblygiadau i amaethyddiaeth, sy'n derbyn cymorth gan yr UE ac yn rhan bwysig o'r economi leol yn ogystal â llunio tirwedd Sir Benfro. Mae economi Sir Benfro yn gymharol hunangynhwysol ar hyn o bryd; hynny yw mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw yn Sir Benfro yn gweithio yn Sir Benfro. Er bod cynnydd mewn gweithio gartref (ac felly’r posibilrwydd i safle gwaith pobl fod gryn bellter o Sir Benfro) i’w weld yng Nghyfrifiad 2001 a 2011, mae'r cynnydd yn dod o sylfaen isel iawn. Mae buddsoddiad sylweddol mewn band eang yn cael ei gynllunio a gallai hyn arwain at gynnydd mewn gweithio o'r cartref. Bydd hyn yn galluogi Sir Benfro i farchnata ei ansawdd bywyd uchel fel ffactor wrth ddenu trigolion newydd Ochr yn ochr â'r cynnydd mewn ynni adnewyddadwy, yn y tymor hir gallem ddisgwyl i'r sector petrocemegol ddirywio o ran pwysigrwydd fel cyflogwr. Mae'n werth nodi yn y tymor canolig bod buddsoddi mewn gwres a phŵer cyfunol ychwanegol yn cael ei gynllunio ym mhurfa Valero.
Tueddiadau tai Mae aelwydydd yn tueddu i fod yn llai nag yr oeddent yn ystod degawdau blaenorol. Mae hyn yn golygu bod angen mwy o dai i ddarparu ar gyfer yr un nifer o bobl a bod y mathau o dai sydd eu hangen yn newid. Nid ydym yn sicr o gyfeiriad y duedd hon gan fod oedolion ifanc yn awr yn llawer mwy tebygol o barhau i fyw gyda'u rhieni nag yr oeddynt mewn degawdau blaenorol. Mae cyfran y cartrefi sy’n eiddo i berchen feddianwyr yn gostwng ac mae cyfran y cartrefi rhent preifat yn cynyddu. Er bod nifer y cartrefi sydd yn y sector rhentu cymdeithasol wedi bod yn sefydlog ac yn awr yn dechrau cynyddu, mae cyfran yr holl gartrefi sy’n gartrefi rhent cymdeithasol wedi gostwng dros amser. Mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn perfformio'n dda o ran darparu tai fforddiadwy. Wrth i nifer y bobl hŷn gynyddu, mae'n debygol y bydd galw ychwanegol am dai wedi'u haddasu neu dai cysgodol. Wrth iddi ddod yn haws i gwrdd ag anghenion pobl fregus yn eu cartrefi eu hunain, bydd y lefel o gefnogaeth y bydd angen i dai gwarchod ei chynnig yn uwch. Er bod digartrefedd wedi cynyddu’n arw mewn rhannau o Loegr yn y pum mlynedd diwethaf, nid yw nifer yr achosion o ddigartrefedd yn Sir Benfro wedi newid (mae newidiadau mewn
diffiniadau deddfwriaethol yn golygu na all ein ffigurau diweddaraf gael eu cymharu â ffigurau blynyddoedd cynharach). Gan fod digartrefedd yn cael effaith mor fawr ar les pobl, mae'n faes sy'n cael ei gadw dan adolygiad.
Tueddiadau amgylcheddol Ar draws y byd, mae'r defnydd parhaus o danwyddau ffosil a newidiadau i’r modd y mae tir yn cael ei reoli yn newid ein hinsawdd ac yn arwain at dymheredd byd-eang uwch. Mae'r wyddoniaeth sydd wrth wraidd rhagfynegiadau yn gymhleth ac mae canlyniadau modelau yn ansicr, ond gallwn ddisgwyl gweld lefelau'r môr yn codi (tua 1mm y flwyddyn), y tywydd yn gyffredinol yn gynhesach, gyda glawiad uwch yn y gaeaf. Rydym yn debygol o brofi llawer mwy o ansicrwydd ym mhatrymau’r tywydd gyda digwyddiadau tywydd eithafol yn digwydd yn amlach. Bydd effaith y newidiadau hyn yn fawr dros amser. Er enghraifft, mae newid yn yr hinsawdd yn debygol o ysgogi mudo rhyngwladol ychwanegol, ond nid yw'n bosibl rhagweld beth allai hyn ei olygu i Sir Benfro. Bydd effeithiau newid yn yr hinsawdd, megis mwy o berygl llifogydd, yn rhoi straen ar seilwaith priffyrdd ac adeiladau a fydd yn golygu y bydd yn rhaid cael buddsoddiad ychwanegol. Mae yna hefyd botensial i rai cyfleoedd; gallai newid yn yr hinsawdd roi mantais gystadleuol i'n diwydiant twristiaeth. O'r holl adnoddau naturiol yr ydym yn dibynnu arnynt, mae dŵr glân yn sefyll allan fel rhywbeth na ellir yn hawdd gwneud hebddo. Mae storio symiau sylweddol o ddŵr hefyd yn gostus. Gall newidiadau yn yr hinsawdd roi straen ar y cyflenwad dŵr yn Sir Benfro, ond mae hyn yn debygol o fod yn llawer mwy o broblem yn ardaloedd mwy poblog y DU, megis y de-ddwyrain. Gallai hyn arwain at fanteision cystadleuol. Er bod newidiadau yn y modd y mae cymorthdaliadau yn gweithio wedi arwain at saib mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy yn y tymor byr, yn y tymor hir gallwn ddisgwyl tueddiad parhaus i ffwrdd oddi wrth gynhyrchu tanwydd ffosil a thuag at ffynonellau ynni mwy cynaliadwy. Bydd y posibilrwydd o ddatblygu morlyn llanw ym Mae Abertawe yn creu cyfleoedd ar gyfer y gadwyn gyflenwi ynni morol lleol yn ogystal â datblygu Gorllewin Cymru fel ardal o arbenigedd lleol. Mae Sir Benfro yn adnabyddus am ansawdd ei bioamrywiaeth. Mae adroddiad Cyflwr Bywyd Gwyllt 2016 yn tynnu sylw at y ffaith er y bu rhai llwyddiannau a bod rhai nodweddion bellach yn gwella, bod y rhan fwyaf o'r nodweddion a aseswyd mewn cyflwr gwael neu gymedrol a bod y duedd gyffredinol yn dal yn dirywio. Nid oes unrhyw un rheswm pam mae hyn yn wir, ond colli cynefinoedd, neu gynefinoedd yn cael eu difrodi drwy newid rheolaeth yw’r achosion mwy cyffredin fel arfer. Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae'r nodweddion a aseswyd fel rhai mewn cyflwr da neu rai sy’n gwella i gyd wedi bod yn destun ymdrechion cadwraeth parhaus.
Mae tystiolaeth bod ansawdd y dŵr yn nalgylch Cleddau yn is-optimaidd, a bod nodweddion pwysig yr Ardal Cadwraeth Arbennig hon yn dirywio o ganlyniad i lefelau uwch o nitradau yn y dŵr nag a fyddai'n digwydd yn naturiol. Bwriedir i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Barthau Perygl Nitradau wrthdroi'r duedd hon er y gallai’r goblygiadau fod â chanlyniadau pellgyrhaeddol ar gyfer yr economi amaethyddol a'r dirwedd yn y Sir. Er bod ansawdd aer yn Sir Benfro yn dda ar y cyfan, cafodd parthau rheoli ansawdd aer eu datgan mewn rhannau o Hwlffordd a Phenfro. Yn genedlaethol, mae ansawdd aer yn dod yn fater gwleidyddol pwysicach.
Tueddiadau cymdeithasol Dros amser, mae tueddiadau mewn gwaith a lles yn dueddol o drosglwyddo cyfoeth rhwng gwahanol rannau o gymdeithas. Mae tuedd gynyddol o ran anghydraddoldeb incwm a chyfoeth. Mae cyfran o incwm a chyfoeth y DU a gedwir gan bobl sy'n gyfoethog iawn wedi cynyddu. Mae yna hefyd drosglwyddo cyfoeth rhwng cenedlaethau. Mae newidiadau i fudddaliadau wedi tueddu i gael effaith ar deuluoedd sy'n gweithio. Ar y llaw arall, mae budddaliadau pensiynwyr wedi tueddu i gael eu diogelu. Disgwylir i bobl ifanc gyfrannu tuag at gost addysg uwch er na wnaeth eu rhieni hynny, neu o leiaf ddim i'r un graddau. Mae’r oedran y mae pobl fel arfer yn gallu fforddio prynu cartref wedi cynyddu ac mae'r blaendal y bydd ar brynwr tro cyntaf ei angen i sicrhau morgais hefyd wedi cynyddu. Er bod y cysylltiad rhwng lles ac anghydraddoldeb incwm yn gymhleth (a dadleuol) mae astudiaethau yn aml yn dangos bod cymdeithasau sydd â gwahaniaethau cymharol fach rhwng y rhai ar incwm uchel ac isel yn tueddu i fod â lefelau uwch o les.
Tueddiadau o ran cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus Fel gwasanaethau sector preifat a'r trydydd sector, bydd gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i esblygu a gwneud defnydd o dechnolegau newydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ar gael y tu allan i oriau gwaith, ac iddynt fod ar gael drwy'r rhyngrwyd. Bydd hyn hefyd yn ei gwneud yn bosibl i arbedion effeithlonrwydd gael eu gwneud. Mae tueddiad clir i wneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy atebol a phersonol. Gellir gweld hyn yn glir yng ngofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Mae yna hefyd duedd i weld y gwasanaethau y mae cyrff cyhoeddus yn eu darparu fel bod yn rhan o ystod eang o wasanaethau a ddarperir gan ofalwyr, teuluoedd, cymunedau a'r sector preifat sy'n cyfrannu at ganlyniadau cyffredinol lles. Bydd angen i sefydliadau cyhoeddus ddefnyddio gwybodaeth yn fwy effeithiol er mwyn addasu gwasanaethau; bydd darparu neu gomisiynu gwasanaethau anwahaniaethol i gyd gyda’i gilydd yn llawer llai tebygol o gwrdd â dyheadau dinasyddion.
Mae'r tueddiadau presennol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn pwyntio at ostyngiad parhaus yn yr adnoddau sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus mewn termau real. Gallwn ddisgwyl hefyd, hyd yn oed os canfyddir mesurau effeithlonrwydd sylweddol, y bydd swm yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i gynyddu mewn termau real er mwyn ateb y galw cynyddol gan boblogaeth sy'n heneiddio. Mae hyn yn debygol o wasgu'r adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae'n debygol y bydd gwasanaethau yn y man darparu yn parhau i gael eu cyflenwi gan ystod o wahanol fathau o sefydliadau: preifat, y trydydd sector, yn ogystal â darparu gwasanaethau yn uniongyrchol gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus fel y gwnaed yn draddodiadol. Mae perchnogaeth breifat a buddsoddi yn yr hyn oedd yn wasanaethau cyhoeddus yn debygol o barhau (mae cartrefi gofal yn enghraifft dda). Mae'n debygol y bydd diddordeb yn parhau mewn darparu mwy o wasanaethau cyhoeddus drwy sefydliadau cymunedol, cydfuddiannol neu drydydd sector. Er y gallai hyn arwain at ffyrdd mwy arloesol o ddiwallu angen, mae hefyd yn debygol o arwain at batrwm mwy amrywiol o gyflwyno gwasanaethau. Gallai hyn fod â goblygiadau ar gyfer cymunedau difreintiedig sydd â llai o allu i gamu i mewn i gyllido, cyfrannu at neu gyflenwi'r hyn oedd yn wasanaethau cyhoeddus. Mae yna duedd i lai o wasanaethau cyhoeddus fod am ddim yn y man darparu gyda mwy o wasanaethau yn gweithredu ar sail adennill cost lawn. Mae i ba raddau y mae'r duedd hon yn parhau yn gysylltiedig â derbynioldeb gwleidyddol cyflwyno ffioedd yn ogystal ag i ba raddau y mae pobl yn barod i dalu trethi cyffredinol ychwanegol er mwyn cynnal gwasanaethau am ddim yn y man darparu. Bydd angen hefyd i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus ystyried polisïau consesiynau a cheisio deall yr effaith gronnus bosibl wrth i wahanol sefydliadau gynyddu taliadau defnyddwyr ar deuluoedd unigol. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn 'Diwygio llywodraeth leol: Cadernid ac adnewyddiad’. Dyma ddatganiad o fwriad Llywodraeth Cymru ynghylch dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru. Mae'r cynigion presennol yn awgrymu y dylai nifer o wasanaethau megis Datblygu Economaidd a Chynllunio gael eu cyflenwi ar lefel ranbarthol. Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 11 Ebrill 2017.
Ein hymateb i'r tymor hir Mae ein hamcanion lles yn ymateb i'r heriau tymor hwy sy'n ein hwynebu. Er enghraifft, ein hymateb i newid demograffig yw newid ffocws ein gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion fel y gallant ymateb i alw cynyddol a gwneud hynny mewn ffordd sy'n cwrdd â dyheadau cwsmeriaid yn well. Yn yr un modd, rydym wedi blaenoriaethu buddsoddiad cyfalaf fel ei fod yn cefnogi cynlluniau ad-drefnu ysgolion er mwyn i ni fod yn adeiladu ysgolion sy'n ateb gofynion yr unfed ganrif ar hugain.
Ein hymateb i'r tueddiadau economaidd yw ehangu ein ffocws blaenorol ar adfywio canol trefi i un sy'n edrych ar gynhyrchiant yr economi leol yn ei chyfanrwydd. Mae ein dull yn cyd-fynd â’r duedd debygol o weithio rhanbarthol ar gyfer datblygu economaidd a bydd yn pwysleisio gweithio drwy Ddinas Ranbarth Bae Abertawe. Ar gyfer tai, mae ein hymagwedd yn cydnabod bod cymarebau uchel prisiau tai i incwm yn ei gwneud yn anodd i bobl ifanc aros yn eu cymunedau eu hunain. Mae ein blaenoriaeth hirsefydlog o ddarparu mwy o dai fforddiadwy yn ymateb i hyn. Trwy weithio gyda chymdeithasau tai, yn ogystal â sicrhau cyfraniadau gan ddatblygwyr, rydym yn cyflenwi tua 100 o gartrefi ychwanegol bob blwyddyn. Rydym hefyd wedi cydnabod y bydd angen mwy o waith yn y dyfodol ar y sector rhentu preifat. Mae ein hagwedd at yr economi a swyddi yn cydnabod yr heriau hirdymor parhaus sy'n wynebu Sir Benfro. Trwy weithio gydag awdurdodau lleol eraill ar sail ranbarthol, rydym yn gobeithio cynyddu cynhyrchiant a gwella'r seilwaith sy'n cefnogi'r economi megis band eang cyflymder uchel sy'n mynd i'r afael ag anfanteision cystadleuol yn y tymor hir. Rydym yn addasu i'r newid yn yr hinsawdd drwy roi mesurau diogelu rhag llifogydd ychwanegol yn eu lle a fydd yn effeithiol yn y tymor hir neu, mewn achosion eraill, rydym yn ystyried cynlluniau a fydd yn dychwelyd tir at natur pan na ellir cyfiawnhau cost ac effaith weledol amddiffynfeydd rhag llifogydd sy'n bodloni bygythiadau tymor hir. Rydym yn parhau i leihau faint o garbon deuocsid a gynhyrchir gennym. Rydym wedi cynnwys amcan lles ar gymunedau hunan gynhaliol a bywiog. Mae hwn yn faes anodd i ni ddylanwadu arno ac mae llawer o’r materion tymor hwy hyn sy'n ein hwynebu yn gofyn am weithio mewn partneriaeth. Rydym yn rhagweld wrth i gynllun lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gael ei ddatblygu y byddwn yn ailedrych ar y maes hwn eto. Mae ein rhaglen drawsnewid yn adlewyrchu'r heriau tymor hwy y mae sefydliadau cyhoeddus yn eu hwynebu. Er nad yw hyn yn amcan lles, rydym wedi cynnwys crynodeb o'r gwaith y bwriadwn ei wneud fel rhan o'r cynllun hwn.
Ataliol Mae gan y blaenoriaethau yr ydym wedi eu dewis y potensial i atal problemau rhag digwydd neu leihau effaith problemau sydd yn digwydd. Caiff rhai enghreifftiau o'r camau gweithredu yr ydym yn eu cymryd eu rhestru isod. Cyrhaeddiad addysgol: Rydym yn gwybod mai paratoi pobl ifanc gyda sgiliau yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau'r siawns y bydd y person hwn yn profi tlodi. Mae gwella lefelau sgiliau hefyd yn strategaeth tymor hir effeithiol ar gyfer mynd i'r afael ag amddifadedd cymunedol. Datblygu economaidd a chynyddu cynhyrchiant: Trwy weithio gyda phartneriaid i wella'r seilwaith ar gyfer ein heconomi, fel band eang, rydym yn helpu i atal dirywiad yn nifer y swyddi yn y dyfodol yn ogystal â chefnogi creu swyddi newydd o ansawdd da. Ymyrraeth gynnar mewn gofal cymdeithasol: Trwy gynnig gwasanaethau neu ymyrryd yn gynharach, rydym yn gallu lleihau'r angen am ofal parhaus a reolir. Ar gyfer gwasanaethau plant, ein Tîm o Amgylch y Teulu yw un o'r ffyrdd allweddol y mae hyn yn cael ei gyflenwi a gallwn bwyntio at leihad yn y galw am wasanaethau, diolch i waith y Tîm. Ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion, rydym yn buddsoddi mewn gwasanaethau sy'n helpu pobl i barhau i fyw yn eu cymunedau eu hunain. Rydym yn gwybod bod hyn yn helpu pobl sydd â chyflyrau cronig, neu sy'n fregus, i fyw'n annibynnol yn hirach. Gallwn ddangos effeithiolrwydd gwasanaethau ail-alluogi o ran lleihau faint o ofal sydd ei angen ar bobl. Rheoli gwaith cynnal a chadw yn fwy effeithiol: Er enghraifft mae ein Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn trefnu buddsoddiad amserol i leihau costau cynnal a chadw yn y dyfodol ac i atal ôlgroniadau o waith atgyweirio rhag datblygu. Bydd buddsoddi mewn system rheoli priffyrdd yn gwella'r wybodaeth sydd gennym ac yn caniatáu gwell cynllunio. Yr Amgylchedd: Drwy weithredu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr fel carbon deuocsid a methan (er enghraifft drwy ddefnyddio dewisiadau amgen i safleoedd tirlenwi a chompostio gwastraff bwyd) rydym yn lleihau’r effaith a gawn ar newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Tai: Mae tai o ansawdd da yn benderfynydd allweddol o ran iechyd y cyhoedd. Byddwn yn buddsoddi mewn system newydd i atgyweirio tai fel y gallwn wella cyflwr ein stoc ein hunain. Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn tai mwy fforddiadwy.
Integreiddio ein Cynllun Corfforaethol i mewn i bolisïau eraill Yn y dyfodol, bydd ein Cynllun Corfforaethol yn cael ei arwain gan Gynllun Lles Sir Benfro (mae hwn yn gynllun amlasiantaethol a bydd felly yn gallu mynd i'r afael â phroblemau cyffredinol). Mae Cynllun Corfforaethol eleni yn ddogfen drosiannol ac mae'n adlewyrchu blaenoriaethau hir-sefydlog (er enghraifft, mae Cyrhaeddiad Addysgol, Gwella Gofal Cymdeithasol ac Adfywio wedi bod yn Amcanion Gwella mewn blynyddoedd blaenorol). Bydd y Cynllun Corfforaethol yn parhau i gael ei ddatblygu ochr yn ochr â'n Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i flaenoriaethau gael eu hadlewyrchu mewn dyrannu adnoddau cymharol. Bydd hefyd yn sicrhau bod yr hyn rydym yn ei wneud yn parhau i fod yn fforddiadwy yn y tymor hir. Bydd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig hefyd yn adlewyrchu ein cynnydd gyda’n hagenda trawsnewid. Mae'r Cynllun Corfforaethol yn adlewyrchu ein rhaglen drawsnewid a sut y byddwn yn gweithredu'r egwyddorion yn ein Model Gweithredu Targedau (y glasbrint lefel uchel ynghylch sut rydym yn disgwyl i’n sefydliad edrych). Mae'r Cynllun Corfforaethol yn cydnabod pwysigrwydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 a sut mae hyn yn rhoi llais y defnyddiwr ac ataliad wrth galon gofal cymdeithasol. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol eraill a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r Cynllun Corfforaethol yn adlewyrchu neu'n rhagweld ystod o ofynion deddfwriaethol newydd eraill gan gynnwys Deddf Tai (Cymru) 2015 a’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Cydweithio: Gweithio gyda sefydliadau eraill Rydym eisoes yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill ar gyfer gwasanaethau allweddol megis Addysg, gwasanaethau cymdeithasol a gwastraff. Mae consortiwm ERW yn gydbwyllgor gyda chyfansoddiad cyfreithiol sy’n cynnwys ni ein hunain, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phowys i weithio gyda'i gilydd i gytuno ar strategaeth a chynllun busnes rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion. Fe wnaeth Estyn, y rheoleiddiwr safonau addysg, arolygu ERW a rhoddodd adroddiad da iddo. Rydym yn gweithio gyda'r ddau awdurdod lleol arall sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ofal cymdeithasol. Er enghraifft, mae diogelu oedolion a phlant yn cael eu trefnu ar lefel ranbarthol. Bydd gweithio rhanbarthol ar gyfer gofal cymdeithasol yn camu i fyny gêr yn ystod 2017/18 gyda chyflwyno cyllidebau cyfun ar gyfer rhai gwasanaethau. Rydym yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion ar wasanaethau gwastraff ac yn ymchwilio a fyddai gwasanaeth ar y cyd yn ei gwneud yn bosibl i wneud arbedion. Rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus yn Sir Benfro. Mae gennym berthynas waith agos gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, er enghraifft, rydym yn rhannu system TG ar gyfer cynllunio. Rydym yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Tai Sir Benfro ar ddarparu tai fforddiadwy, ac rydym hefyd yn gweithredu cofrestr dai ar y cyd gyda nhw a chymdeithas dai arall.
Cysylltu ein hamcanion lles â'r amcanion lles cenedlaethol Yn yr adran sy'n dilyn, rydym wedi dangos sut mae pob un o'n pump amcan lles, yn ogystal â'n rhaglen drawsnewid, yn cyd-fynd â'r saith nod lles cenedlaethol. Mae pob un o'n hamcanion lles yn cyfrannu at nifer o nodau lles cenedlaethol. Mae rhai megis cynyddu cyrhaeddiad addysgol yn ymdrin â phob un o'r saith.
Ein Hamcanion Lles Mae'r adran hon yn disgrifio ein hamcanion lles eang, yn ogystal â'r amcanion gwella mwy penodol sy'n eistedd oddi tanynt. Rydym yn rhagweld y bydd ein hamcanion lles yn parhau i newid a datblygu wrth i Gynllun Lles Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Sir Benfro esblygu. Rydym hefyd yn rhagweld, yn dilyn etholiadau'r Cyngor ym mis Mai 2017, y bydd y Cyngor newydd yn dymuno ail-edrych ar yr amcanion Lles. Efallai y bydd hefyd yn dymuno egluro'r egwyddorion a fabwysiadwyd gennym ar gyfer sut y dylai'r Cyngor drefnu ei wasanaethau. Ein hamcanion Lles yw:
Codi safonau cyflawniad cyffredinol Cymunedau iach. Caiff hyn ei gefnogi gan ddau amcan: cymunedau a gefnogir gan dai fforddiadwy a phriodol a gwella gofal cymdeithasol Cynyddu cynhyrchiant yr economi ac ymdrin â materion adfywio Diogelu ein hamgylchedd Cymunedau hunangynhaliol a bywiog
Yn ogystal â'n hamcanion Lles, rydym wedi gosod amcan trawsbynciol o'r enw trawsnewid ynghylch sut y bydd y Cyngor yn newid ei wasanaethau.
Trawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau
Nodau Lles
Cymru Gydnerth
Cymru Iachach
Cymru sy’n Fwy Cyfartal
Cymru o Gymunedau Cydlynus
Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu
Cymru Lewyrchus
Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fydeang
Mae trawsnewid, neu weithredu newidiadau er mwyn gwella effeithlonrwydd a darparu gwasanaethau wrth fodloni heriau ariannol y dyfodol, yn sail i'r holl amcanion Lles yn y cynllun hwn. Rydym wedi rhoi hyn ar flaen y cynllun gan ein bod wedi datblygu egwyddorion trawsbynciol sy'n dylanwadu ar sut y byddwn yn bodloni ein holl amcanion Lles. Mae'r ffrydiau gwaith isod yn datblygu ar y gwaith a wnaed drwy gydol 2016/17 fel rhan o'n Ffyrdd Newydd o Weithio a’n hamcanion gwella Llywodraethu. Er bod llawer o'r camau gweithredu a gynlluniwyd ar gyfer Llywodraethu naill ai'n gyflawn, neu'n agos at fod yn gyflawn, mae cynnydd ar y broses drawsnewid wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl. Mae camau gweithredu allweddol ar gyfer y ddau wedi cael eu cynnwys yn yr ymateb i argymhellion a gynhwyswyd yng Nghynllun Gweithredu Asesiad Corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru sy'n cael ei adrodd i'r Cabinet yn chwarterol.
Rydym yn ymgynghori ynghylch a ddylai llywodraethu barhau i fod yn amcan gwella. Dengys canlyniadau'r ymgynghori a gynhaliwyd nid yn unig mai llywodraethu oedd y flaenoriaeth a sgoriwyd isaf ond hefyd bod y nifer lleiaf o bobl wedi cytuno y dylai fod yn flaenoriaeth. Roedd rhai ymatebwyr, er eu bod yn cydnabod bod gwella llywodraethu yn bwysig, yn amau a ddylai hyn fod yn amcan lles gan ei fod yn gymwys ar gyfer y sefydliad ei hun. Roedd barn pobl a ddaeth i'n cyfarfodydd cyhoeddus ychydig yn wahanol. Credai rhai pobl fod llywodraethu yn rhan annatod o Ffyrdd Newydd o Weithio (gwneud newidiadau hirdymor i wasanaethau), a bod y rhain yn drawsbynciol ac yn tanategu’r holl amcanion lles eraill. Fe wnaeth sylwadau eraill a gawsom bwysleisio’r angen i brosesau gwneud penderfyniadau fod yn dryloyw a gwybodus, i aelodau fod wedi'u hyfforddi'n dda, ac i ni fod yn atebol am ein gweithredoedd.
Egwyddorion ein Model Gweithredu Targedau Ym mis Chwefror 2016, cytunodd y Cyngor ynghylch yr egwyddorion a fydd yn sail i’r hyn fydd ein sefydliad yn edrych yn debyg iddo yn y dyfodol, a beth fydd ei berthynas sylfaenol â dinasyddion, cwsmeriaid a phartneriaid. Mae'r egwyddorion hyn yn sail i sut rydym yn trawsnewid y sefydliad.
Cwsmeriaid: Byddwn yn ehangu'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i gwsmeriaid trwy hunanwasanaeth ar-lein. Byddwn yn safoni prosesau fel ei bod yn haws datrys ymholiadau yn y 'swyddfa flaen'. Bydd angen i ni symleiddio cofnodion cwsmeriaid.
Y Sefydliad: Byddwn yn parhau i adolygu strwythurau presennol, gan symud i ffwrdd oddi wrth adrannau sydd wedi eu trefnu o amgylch proffesiynau. Bydd angen i ni adennill mwy o gost mwy o wasanaethau. Byddwn hefyd yn mabwysiadu dull llawer mwy hyblyg at bwy sy’n darparu gwasanaethau ac yn gweithio gyda neu drwy sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, preifat neu'r trydydd sector.
Pobl: Bydd mwy o'n gweithwyr yn gweithio’n generig (bydd rolau swyddi presennol yn cael eu cyfuno gyda'i gilydd). Byddwn yn cefnogi sefydliad sy'n fwy grymus ac yn hwyluso cyflogeion i weithio'n fwy hyblyg ac o wahanol leoliadau.
Lleoliad: Byddwn yn cydgrynhoi ble rydym yn darparu gwasanaethau ohonynt, gyda Hwlffordd fel y lleoliad canolog a gefnogir gan gyfres o swyddfeydd lloeren mewn lleoliadau ar draws Sir Benfro. Byddwn hefyd yn ystyried rhannu llety gyda sefydliadau partner eraill.
Digidol: Byddwn yn gwneud ymrwymiad clir i ddefnyddio technolegau sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau. Byddwn yn ystyried sefydlu un cofnod cwsmer ar gyfer ein cwsmeriaid er mwyn lleihau dyblygu.
Llywodraethu: Byddwn yn symleiddio'r broses o wneud penderfyniadau ac yn canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau. Byddwn yn egluro swyddogaethau Swyddogion ac Aelodau ac yn parhau gyda'r trefniadau craffu sy'n cefnogi rhaglen waith y Cabinet, gan er enghraifft ail-ganolbwyntio’r gwaith craffu ar ddal partneriaethau i gyfrif. Byddwn yn annog yr Aelodau i ganolbwyntio ar gyfrifoldebau strategol ac ar gyflawni'r canlyniadau gorau i bawb yn Sir Benfro.
Ein rhaglen drawsnewid Mae ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig, sy'n cael ei gynhyrchu ochr yn ochr â'n cyllideb ac sy’n cael ei grynhoi ar ddiwedd y cynllun hwn, yn cynnwys ein rhaglen drawsnewid. Datblygwyd hwn dros 2016/17 ac mae wedi tynnu ar adroddiad diagnostig a gytunwyd ar ddechrau'r flwyddyn honno. Rydym wedi datblygu un ar ddeg o ffrydiau gwaith fel fframwaith ar gyfer rheoli a monitro prosiectau.
x
x x
x
x x
x
x
x
x
x x
x x
x
Portffolio Buddsoddi
x x
x x x x
x
Cydweithio
Rheoli Asedau yn Ystwyth
Cwsmeriaid Gwybodaeth Digidol
Blaenoriaethu Gwasanaethau
Caffael
Strategol a Chefnogaeth
Cwsmeriaid Sefydliad Pobl Lleoliad Digidol Llywodraethu
Rheoli’r Sefydliad
Incwm
Mae'r tabl isod yn dangos sut mae egwyddorion ein Model Gweithredu Targedau yn cyd-fynd â’r ffrydiau gwaith trawsnewid. Mae'r tabl yn pwysleisio bod y ffrydiau gwaith a’r egwyddorion yn gydgysylltiedig.
x x x x
x
Byddwn yn creu capasiti o fewn ein sefydliad ein hunain i drefnu, hwyluso a chydlynu’r newid hwn. Rydym wedi penodi Pennaeth Trawsnewid yn ddiweddar i arwain y gwaith hwn. Mae bwrdd trawsnewid trawsbleidiol wedi cael ei sefydlu, a bydd hwn yn darparu goruchwyliaeth ac yn gallu dod â ffocws mwy amserol a manwl i gynorthwyo’r Cabinet a’r Pwyllgorau Craffu.
Mae angen inni hefyd fuddsoddi mewn rhai systemau swyddfa gefn a fydd yn angenrheidiol i gefnogi newid. Mae enghreifftiau yn cynnwys nodi a chaffael system rheolaeth ariannol a phrynu-i-dalu newydd, y systemau sy'n sail i'n gwefan, yn ogystal â'r system Rheoli Cofnodion Cwsmeriaid (CRM) a ddefnyddir gan ein Canolfan Cyswllt. Bydd angen i ni flaenoriaethu buddsoddi mewn prosiectau TG mawr yn ystod 2017/18 er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o arbenigedd datblygu technoleg gwybodaeth. Bydd angen i ni ystyried sut yr ydym yn cefnogi ein gweithwyr i wneud y newidiadau hyn. Rydym yn datblygu strategaeth datblygu'r gweithlu er mwyn egluro'r dull y byddwn yn ei gymryd at reoli newid. Byddwn yn cynnwys Undebau Llafur a rhanddeiliaid perthnasol eraill wrth ddatblygu'r strategaeth hon a gweithredu newid.
Trawsnewid ffrydiau gwaith Mae ein ffrydiau gwaith trawsnewid, ochr yn ochr â chrynodeb o'r gwaith yr ydym yn bwriadu ei wneud yn ystod y 12 mis nesaf yn cael eu nodi isod. Twf Incwm ac Adennill Costau Llawn
Rheoli’r Sefydliad
Rydym yn mabwysiadu strategaeth Ffioedd a Thaliadau ym Mehefin 2016. Cafodd blaenraglen waith ar gyfer 2017/18 ei chynhyrchu. Y prif linynnau yw: Symud tuag at adfer costau llawn drwy godi ffi am y gwasanaethau hynny lle y gallwn wneud hynny a lle mae'n briodol gwneud hynny Adolygu polisïau consesiynau ar draws yr holl wasanaethau perthnasol Annog pobl i dalu ymlaen llaw am ddefnyddio gwasanaethau i leihau'r pwysau ar Fân Ddyledwyr Cynhyrchu mwy o incwm gan denantiaid (lle bo'n briodol) rhentu ystafelloedd a chyfleusterau eraill Adolygu sut rydym yn codi tâl am ofal cymdeithasol (mae'r taliadau hyn yn cael eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru) Rydym yn rhagweld y byddwn yn y dyfodol yn cyflogi llai o bobl. Mae'r modd yr ydym yn mynd ati i gyflawni’r broses hon yn allweddol i gynnal morâl ein gweithlu yn ogystal ag i wneud arbedion. Byddwn yn: Datblygu strategaeth datblygu’r gweithlu. Bydd adroddiad i’r Cabinet ym mis Mawrth 2017 yn amlinellu'r broses ar gyfer ei gytundeb Parhau â'n polisi o reoli swyddi gwag a chraffu’n drylwyr ar lenwi swyddi gwag Lleihau rhwymedigaethau diswyddo posibl drwy ail-leoli staff sydd mewn perygl o gael eu diswyddo
Caffael a Rheoli yn ôl Categori
Blaenoriaethu Gwasanaethau
Rheoli Cwsmeriaid Rheoli Gwybodaeth
Ail-ddylunio a alluogir yn ddigidol
Strategol a Chymorth
Rydym yn gweithio gyda Chyngor Dinas Caerdydd i gyflwyno Caffael Rheoli Categorïau ar draws naw categori o wariant. Rydym yn hyderus y bydd hyn yn sicrhau arbedion dros gyfnod y cynllun ariannol tymor canolig ac y bydd adolygiad trylwyr o'n prosesau caffael yn sicrhau eu bod yn cael eu cynnal mewn modd teg, cynaliadwy, wrth sicrhau’r effeithlonrwydd mwyaf posibl. Byddwn yn diwygio’r adran o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n ymwneud â chontractau ac yn creu un set o Reolau Gweithdrefnau Contractau sy'n gydnaws â deddfwriaeth gyfredol. Byddwn yn adolygu'r holl wasanaethau i weld a oes lle i wneud arbedion trwy leihau lefelau gwasanaeth gan archwilio cyfleoedd masnachu a thrwy gyflwyno modelau amgen o ddarparu gwasanaethau. Bydd y ffrydiau gwaith hyn yn cael eu cymryd gyda'i gilydd gan y bydd angen i ni symud ymlaen gyda’r tri er mwyn i brosiectau sicrhau arbedion a /neu welliannau yn y ffordd yr ydym yn cyfathrebu â chwsmeriaid. Bydd hwn yn brosiect tymor canolig a bydd angen buddsoddiad sylweddol mewn technoleg gwybodaeth. Mae prosiectau enghreifftiol yn cynnwys: Cyflwyno system rheoli priffyrdd newydd. Rydym eisoes yn defnyddio systemau cyfrifiadurol ar gyfer rhai agweddau ar gynnal a chadw strwythur y priffyrdd, megis pontydd. Byddwn yn cyflwyno meddalwedd newydd ochr yn ochr â newidiadau i arferion gwaith i leihau gwaith papur a gwella cofnodi gwybodaeth ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd arferol. Bydd hyn yn cynyddu effeithlonrwydd gan y byddwn yn gallu atgyweirio llawer mwy o ddiffygion mewn priffyrdd, fel ceudyllau, mewn un ymweliad, a bydd hefyd yn helpu i wella cyflwr y priffyrdd yn y tymor hir. Adolygu ein prosesau rheoli cyswllt â’r cwsmer i edrych ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd er mwyn lleihau dyblygu posibl er enghraifft wrth roi manylion cwsmeriaid i mewn i wahanol systemau. Cyflwyno’r hyn sy’n cyfateb i Fy Nghyfrif ar gyfer busnesau a pharhau i gynyddu ystod y gwasanaethau y gellir cael mynediad iddynt ar-lein i gynyddu darpariaeth y gwasanaeth digidol. Byddwn yn ystyried sut y mae cymorth a phrosesau swyddfa gefn yn gweithio a'r ffordd fwyaf priodol i weithredu hyn. Byddwn yn datblygu diffiniad clir o rolau a chyfrifoldebau ar gyfer swyddogaethau swyddfa gefn.
Rheoli Asedau yn Ystwyth
Cydweithio a Gwasanaethau a Rennir
Portffolio buddsoddi
Byddwn yn datblygu strategaeth lleoliadau i archwilio model both ac adenydd ar gyfer lle rydym yn gosod swyddfeydd cyhoeddus yn y dyfodol (rydym wedi braslunio’r egwyddorion yn ein model gweithredu targedau). Byddwn yn gwneud gwaith ymgysylltu cychwynnol dros yr haf gan ymgynghori'n ffurfiol ar opsiynau yn dilyn yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Byddwn yn parhau i gydgrynhoi cyflogeion mewn llai o adeiladau. Byddwn yn gadael Haverfordia House a swyddfeydd yn Sgwâr yr Alarch. Byddwn yn symud ymlaen gydag adolygiad o asedau i ryddhau eiddo y gwyddom sy'n debygol o fod yn ddiangen. Byddwn yn parhau i weithredu gweithio ystwyth er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o ofod swyddfa ac i gynnig mwy o hyblygrwydd i'r gweithwyr o ran sut y maent yn gweithio ac yn cydbwyso gofynion y gwaith a’r cartref. Byddwn yn parhau i archwilio cyfleoedd i gydweithio gyda chyrff eraill yn y sector cyhoeddus er mwyn gwneud arbedion effeithlonrwydd, cysoni blaenoriaethau’n well a symleiddio sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu. Rydym yn rhagweld y bydd angen i ni hefyd ymateb i gynigion gan Lywodraeth Cymru ar drefniadau gweithio rhanbarthol gwell (rhagwelir y bydd yr ymgynghoriad yn digwydd yn ystod mis Chwefror 2017 gyda gweithredu’r argymhellion yn ymestyn i mewn i'r tymor canolig). Byddwn yn adolygu sut yr ydym yn buddsoddi’r cronfeydd sydd gennym fel buddsoddiadau neu wrth gefn er mwyn ennill cyfradd uwch o enillion a rheoli risg yr un pryd
Yn ychwanegol at y gwaith trawsnewid hwn, byddwn yn ymgymryd â nifer o gamau gweithredu ar wella llywodraethu. Rydym wedi comisiynu gwerthusiad o'r newidiadau yr ydym wedi'u gwneud i'n system graffu ym Medi 2016. Rydym yn rhagweld y bydd yr adroddiad hwn ar gael erbyn mis Mai 2017, a bydd yn helpu i’n hysbysu a oes angen i’r newidiadau a wnaethom i’r strwythurau Trosolwg a Chraffu gael eu haddasu Byddwn yn cynnal rhaglen helaeth o sefydlu a hyfforddi Aelodau yn dilyn etholiadau Mai 2017. Mae manylion am hyn eisoes wedi cael eu hadrodd i'n Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn Ionawr 2017.
Amcan lles 1: Codi safonau cyflawniad cyffredinol
Nodau Lles
Cymru Gydnerth
Cymru Iachach
Cymru sy’n fwy Cyfartal
Cymru o Gymunedau Cydlynus
Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu
Cymru Lewyrchus
Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fydeang
Ein gweledigaeth ar gyfer addysg yw "sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cyfrannu ac yn cyflawni mwy nag yr oeddent yn meddwl oedd yn bosib". Ein huchelgais yw bod canlyniadau addysg y gorau yng Nghymru ac yn cyfateb i rai o'r awdurdodau mwyaf llwyddiannus yn Lloegr, gyda phroffiliau economaidd-gymdeithasol tebyg. Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth, fe wnaethom nodi pum amcan hirdymor ar gyfer y Gyfarwyddiaeth a chymuned ehangach Sir Benfro i sicrhau bod ffocws parhaus ar wella deilliannau i ddysgwyr yn Sir Benfro: Cefnogir hyn gan strategaeth ag iddi sail eang sy'n cydnabod rôl ganolog lles y disgyblion ac yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael pan fo ei hangen. Cefnogir hyn gan bum amcan a saith ffrwd gwaith sy'n cael eu datblygu gan swyddogion arweiniol mewn Addysg.
Mae pob myfyriwr yn barod i ddysgu ac yn cyflawni ar draws ystod eang o ddysgu a meysydd profiad Mae pob myfyriwr yn wydn ac yn cael ei gefnogi i ddatblygu ei les meddyliol ac emosiynol Mae'r holl fyfyrwyr yn ymgysylltu ac yn cymryd rhan ac yn gallu cyflawni eu potensial waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau. Mae’r holl randdeiliaid lleol yn cyfrannu'n gadarnhaol at uchelgeisiau a dyheadau dysgwyr yn Sir Benfro Cyfarwyddiaeth sy'n ymateb i newidiadau yn y dyfodol ac sydd â'r gallu i addasu a rheoli galw yn effeithiol
Byddwn yn cefnogi cyrff Llywodraethu i sicrhau bod ganddynt y gallu a'r sgiliau i gynnig her a chymorth i’w hysgolion a chodi dyheadau a chyflawniad ym mhob cyfnod allweddol ac i’n holl blant a phobl ifanc. Rydym wedi dewis yr amcan hwn gan fod gwella cyrhaeddiad disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4, yn enwedig mewn Cymraeg neu Saesneg a mathemateg yn bwysig oherwydd ei fod yn agor mwy o gyfleoedd i ddysgwyr mewn addysg bellach, hyfforddiant a/neu waith nag a allent fod yno fel arall. Dangosodd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym fod mwy o bobl yn
meddwl mai cadw addysg oedd y flaenoriaeth uchaf o gymharu â'r holl rai posibl eraill. Mae'r sylwadau a gawsom yn pwysleisio y dylai hyn fod yn flaenoriaeth a bod angen i berfformiad presennol wella. Pwysleisiodd tua chwarter y sylwadau fod mwy i addysg na chyrhaeddiad, bod pynciau galwedigaethol yn bwysig ac y dylem roi blaenoriaeth i sgiliau ar gyfer cyflogaeth. Ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen (plant 7 oed) mae’r darlun dros y pedair blynedd diwethaf yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda chanlyniadau uwch na chyfartaledd Cymru rhwng 2013 ac 2015 a’r awdurdod wedi dod yn 5ed ymhlith ALlau ar draws Cymru. Yn 2016, cyflawnodd 86.5% o’n plant 7 oed ar y lefel Cyflawniad disgwyliedig ar lefelau uwch y Cyfnod Sylfaen yn gyffredinol yn unol â chyfartaledd Cymru, ac mae'r bylchau rhwng cyflawniad bechgyn a merched yn llai nag y maent yn genedlaethol. Mae cyflawniad plant sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim ar y lefel ddisgwyliedig wedi cymharu'n dda â'r cyfartaledd cenedlaethol ac roedd yn well rhwng 2012 a 2015, ond gostyngodd yn 2016. Blaenoriaeth arbennig ar gyfer gwella i’r grŵp oedran hwn yw gweithio gydag ysgolion i sicrhau bod asesiadau athrawon yn gadarn a bod perfformiad plant sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn cael ei fonitro'n ofalus. Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 (plant 11 oed) mae cyflawniad ar y lefel ddisgwyliedig wedi bod yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol mewn pump o'r saith mlynedd diwethaf. Yn 2016, cyflawnodd 87.1% o'n plant 11 oed ar y lefel ddisgwyliedig. Mae cyflawniad ar y lefelau uwch mewn Saesneg a Gwyddoniaeth yn fras wedi bod yn unol â'r cyfartaledd cenedlaethol ond ar gyfer Cymraeg iaith gyntaf mae cyflawniad wedi bod yn gyson is na'r cyfartaledd cenedlaethol dros y pum mlynedd diwethaf. Fe wnaeth cyflawniad mewn Mathemateg wella yn 2016, ond nid ar y gyfradd a welwyd yn genedlaethol. Mae'r bylchau rhwng cyflawniad merched a bechgyn yn llai nag yn genedlaethol. Mae cyflawniad Dangosydd Pwnc Craidd (DPC) plant sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim ar y lefel ddisgwyliedig wedi bod ychydig yn uwch nag yn genedlaethol ar gyfer 3 o'r 4 blynedd diwethaf. Mae cyflawniad uwchlaw'r lefel ddisgwyliedig wedi bod ychydig yn is nag yn genedlaethol, gyda gwelliant bychan yn 2016. Ar y cyfan, er bod Sir Benfro yn cyflawni ar oddeutu’r cyfartaledd cenedlaethol, nid yw hyn yn adlewyrchu lle y dylai canlyniadau disgwyliedig ar gyfer Sir Benfro fod, a dylid cael ffocws ar wella’r canlyniadau hyn. Blaenoriaeth arbennig ar gyfer gwella ar gyfer y grŵp oedran hwn yw ynghylch y Gymraeg, megis adolygu darparu cymorth ar gyfer disgyblion sy'n symud i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg pan nad y Gymraeg yw eu mamiaith a gweithio'n agos gydag ysgolion sy'n cyflwyno asesiadau Cymraeg fel mamiaith i nodi cyfleoedd i wella canlyniadau. Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 (14 oed) fe wnaeth 85.4% o'n disgyblion 14 oed gyflawni ar y lefel ddisgwyliedig yn 2016 - mae hyn yn rhoi Sir Benfro yn y 15fed safle ymhlith ALlau Cymru. Ond mae cyflawniad ar y lefelau uwch, er ei fod yn dal i godi, wedi bod yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol dros y tair blynedd diwethaf. Mae'r bwlch rhwng cyflawniad merched a bechgyn yn llai nag yn genedlaethol. Fe wnaeth cyflawniad plant sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am
Ddim ar y lefelau disgwyliedig ac yn uwch na'r lefel disgwyliedig ostwng yn 2016 i ymhell islaw cyfartaleddau Cymru yn 2015. Ein blaenoriaeth ar gyfer rhoi cefnogaeth ar gyfer y grŵp oedran hwn yw sicrhau bod y grant amddifadedd disgyblion yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i roi darpariaeth ar gyfer y disgyblion mwyaf galluog i sicrhau eu bod yn cyflawni ar y lefelau uchaf. Diwedd Cyfnod Allweddol 4 (plant 15/16 oed), yn ddi-os yw lle mae’r her fwyaf. Er bod tair blynedd o dueddiadau gwelliant ar draws y rhan fwyaf o ddangosyddion allweddol, nid yw'r gwelliant yn ddigon cyflym nac yn ddigonol ym mhob ysgol ac, o ganlyniad, mae gormod o amrywiad yn y cynnydd ar draws ysgolion. Yn 2016, cyflawnodd 59% o'n pobl ifanc 15 oed y dangosydd Lefel 2 (L2i) gan gynnwys mewn Cymraeg / Saesneg a Mathemateg. Roedd hyn yn welliant o 5% o 2015 ac yn welliant o 6% mewn tuedd tair blynedd. Symudodd hyn y safle terfynol o 16 i 12, ond roedd yn dal i fod yn 4% yn is na disgwyliad Llywodraeth Cymru o ran perfformiad yn 2016. Mae chwech o'r wyth ysgol uwchradd wedi gwella ers eu canlyniadau yn 2015. Yn 2015, cyflawniad L2i plant cymwys am Brydau Ysgol am Ddim Sir Benfro oedd 25% bron i 7 pwynt canran yn is na chyflawniad plant tebyg yn genedlaethol. Yn 2015, aeth llai na hanner y myfyrwyr ymlaen i ddarpariaeth Chweched Dosbarth mewn ysgolion, gyda 3% yn symud ymlaen i swyddi dan hyfforddiant, ac 1.7% i brentisiaethau; mae’r niferoedd sy’n manteisio ar y ddau lwybr olaf yn uwch na chyfartaledd Cymru. Mae twf yn y llwybrau hyn yn ganlyniad i ymgysylltiad rhagweithiol Sir Benfro wrth gyflwyno gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd am yrfaoedd i'w disgyblion Blwyddyn 11. Canolbwyntir ar sicrhau bod cyflymder y gwelliant yn cael ei gynnal a'i gyflymu a bod gan ysgolion y mae eu perfformiad yn is na'r canlyniadau a ddisgwylir yng Nghymru gynlluniau cymorth unigol sy'n cael eu monitro yn rheolaidd. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar ddefnydd effeithiol o’r grant amddifadedd disgyblion.
Parhau i wella safonau cyflawniad ar gyfer disgyblion trwy rannu rhagoriaeth rhwng ysgolion a thargedu adnoddau. Gwella lles ar gyfer disgyblion a staff yn ein hysgolion drwy rannu rhagoriaeth rhwng ysgolion a thargedu adnoddau. Parhau i wella arweinyddiaeth mewn ysgolion trwy rannu rhagoriaeth rhwng ysgolion a thargedu adnoddau. Parhau i wella safonau addysgu trwy rannu rhagoriaeth rhwng ysgolion a thargedu adnoddau. Sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer dysgwyr sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim. Byddwn yn adolygu cynllunio ysgol ar gyfer defnyddio’r Grant Amddifadedd Disgyblion er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu canllawiau arfer gorau. Lleihau nifer y bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol ym mlwyddyn 11, 12 a 13 Nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant.
Gwella canlyniadau ar gyfer dysgwyr ôl-16 drwy fwy o gydweithredu rhwng ysgolion, Coleg Sir Benfro, darparwyr hyfforddiant a busnesau. Ystyried goblygiadau’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a sicrhau cydymffurfiad a sicrhau canlyniadau uchelgeisiol ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Symud ymlaen gyda'r rhaglen moderneiddio ysgolion drwy gwblhau'r adeilad ysgol newydd ar gyfer ysgol gynradd newydd yn Hakin a Hubberston, ysgol gynradd newydd ar gyfer penrhyn Angle, codi adeilad newydd ar gyfer Ysgol Bro Gwaun, ysgol newydd ar gyfer Ysgol Penfro a’r Ysgol Gymraeg newydd yn Hwlffordd Dechrau datblygu rhaglen newydd i foderneiddio ysgolion yn barod ar gyfer yr haen nesaf o gyllid ysgolion yr 21ain ganrif i gychwyn yn 2019/20.
Fframwaith monitro Disgrifiad % yr holl ddisgyblion (gan gynnwys y rhai yng ngofal yr awdurdod lleol) mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 15 oed ar y 31 Awst blaenorol sy'n gadael addysg orfodol, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith heb gymhwyster allanol cymeradwy % yr holl ddisgyblion yng ngofal yr awdurdod lleol mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 15 oed ar y 31 Awst blaenorol sy'n gadael addysg orfodol, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith heb gymhwyster allanol cymeradwy % y disgyblion a aseswyd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, sy'n cyflawni'r Dangosydd Pynciau Craidd, fel y penderfynir gan Asesiadau Athrawon % y disgyblion sy'n gymwys i'w hasesu ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, sy'n cyflawni'r Dangosydd Pynciau Craidd, fel y penderfynir gan Asesiadau Athrawon % y disgyblion a aseswyd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, sy'n cael Asesiad Athro yn y Gymraeg (iaith gyntaf) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 % y disgyblion a aseswyd mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, sy'n cael Asesiad Athro yn y Gymraeg (iaith gyntaf) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 Cyfartaledd y sgôr pwyntiau ar gyfer disgyblion 15 oed ar y 31 Awst blaenorol, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol % y datganiadau terfynol o angen addysg arbennig a gyhoeddwyd o fewn 26 wythnos, gan gynnwys eithriadau % y datganiadau terfynol o angen addysg arbennig a gyhoeddwyd o fewn 26 wythnos, ac eithrio eithriadau % presenoldeb disgyblion mewn ysgolion cynradd % presenoldeb disgyblion mewn ysgolion uwchradd
Targed 2017 0%
0%
89.4%
87.4% 19.2% 13.8% 550 92.0% 100.0% 95.5% 94.5%
Disgrifiad % y disgyblion 15 oed ar y 31 Awst blaenorol a gyflawnodd y trothwy Lefel 2 gan gynnwys gradd TGAU A*-C mewn Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg % o bobl ifanc 16 oed nad ydynt mewn addysg na chyflogaeth (NEET) Cyfradd y gwaharddiadau am bob 1000 o ddisgyblion ar gyfer disgyblion 5 oed a throsodd o 5 diwrnod neu lai Cyfradd y gwaharddiadau am bob 1000 o ddisgyblion ar gyfer disgyblion 5 oed a throsodd o 6 diwrnod neu fwy % y disgyblion sy'n cyflawni’r canlyniad disgwyliedig (O5+) yn y Cyfnod Sylfaen yn LLC % y disgyblion sy'n cyflawni’r canlyniad disgwyliedig (O5+) yn y Cyfnod Sylfaen yn MD % y disgyblion sy'n cyflawni’r canlyniad disgwyliedig (O5+) yn y Cyfnod Sylfaen mewn FPOI Monitro Lefel 1 Cyfnod Allweddol 4 - canran disgyblion Blwyddyn 11 yn cyflawni 5 TGAU % y disgyblion yn mynychu llai na 80% yr amser
Targed 2017 65.0% 2.7% 33.0 1.0 90.2% 91.5% 89.0% 96.3% Targed i'w osod
% y bwlch rhwng cyrhaeddiad i fyfyrwyr cymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai sydd ddim yn: Y Cyfnod Sylfaen % y bwlch rhwng cyrhaeddiad i fyfyrwyr cymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai sydd ddim yn: Cyfnod Allweddol 2 % y bwlch rhwng cyrhaeddiad i fyfyrwyr cymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai sydd ddim yn: Cyfnod Allweddol 3 % y bwlch rhwng cyrhaeddiad i fyfyrwyr cymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai sydd ddim yn: Cyfnod Allweddol 4 % o ddisgyblion 7 - 16 oed a ddiffinnir fel rhai sydd 'Wedi Gwirioni ar Chwaraeon' (yn cymryd rhan mewn chwaraeon 3 gwaith neu fwy'r wythnos y tu allan i'r cwricwlwm) Data bob dwy flynedd 2015 % y disgyblion sy'n cymryd rhan o leiaf unwaith mewn chwaraeon mewn clwb y tu allan i'r ysgol Data bob dwy flynedd 2015
10% 14% 21% 30% 50% 82%
Beth allwch chi ei wneud i helpu? Dylai rhieni a gofalwyr fod â dyheadau uchel ar gyfer eu plant a chyfrannu'n weithredol at, a chymryd diddordeb yn, addysg eu plant. Hoffem gael eich cefnogaeth i sicrhau bod plant yn mynd i'r ysgol, yn barod i ddysgu ac yn awyddus i gymryd rhan. Byddwn yn annog cymunedau i gefnogi eu hysgolion drwy ystod o gyfleoedd gwirfoddoli e.e cefnogi gweithgareddau chwaraeon yn yr ysgol, gwirfoddoli mewn ysgolion neu fod yn llywodraethwr ysgol.
Amcan lles 2: Cymunedau iach Rydym wedi gosod dau amcan penodol i sicrhau bod ein cymunedau yn iach. Mae amrywiaeth eang o ffactorau sy'n effeithio ar iechyd, ond ymysg y cyfraniadau cryfaf y mae ein gwasanaethau yn eu gwneud i'r agenda hwn yw gofal cymdeithasol i oedolion a thai.
Cymunedau a gefnogir gan dai fforddiadwy ac addas
Nodau Lles
Cymru Gydnerth
Cymru Iachach
Cymru sy’n fwy Cyfartal
Cymru o Gymunedau Cydlynus
Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu
Cymru Lewyrchus
Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fydeang
Mae gennym weledigaeth hir-sefydlog ar gyfer tai a gellir crynhoi hon fel cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ac addas. Yn y tymor byr y blaenoriaethau yw mynd i'r afael â digartrefedd, cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a sicrhau bod tai yn bodloni anghenion grwpiau sy'n agored i niwed. Yn y tymor hwy, roedd y weledigaeth yn ystyried pob cartref fel mannau da i fyw ynddynt sy'n briodol ar gyfer y lle mae pobl mewn bywyd ac mewn amgylchedd cynhwysol. Mae tai gweddus yn gwneud cyfraniad sylweddol at les yn y presennol a'r dyfodol. Mae'r farchnad dai hefyd yn dylanwadu'n gryf ar sut mae cymunedau yn datblygu ac yn cynnal eu hunain. Mae cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ac addas wedi bod yn un o'n nodau tymor hir yn ein Cynllun Integredig Sengl ac yn ystod oes y cynllun hwn, mae newidiadau i sut mae tai yn cael eu hariannu wedi digwydd, gan ein rhoi mewn sefyllfa lawer gwell i fodloni’r dyheadau tymor hir o gynyddu'r cyflenwad o dai addas. Mae'r cynnydd cyflym a sylweddol mewn prisiau tai a ddigwyddodd rhwng 2000 a 2008 wedi arafu. Mae prisiau tai yn codi a gostwng ychydig o fis i fis, ond maent yn debyg iawn i'w lefelau yn 2010. Mewn cyferbyniad, mae prisiau tai wedi cynyddu tua 30% yn y DU gyfan yn ystod y cyfnod hwn. Er gwaethaf hyn, mae gan Sir Benfro brisiau tai uchel o hyd o’i gymau â chymhareb yr enillion cyfartalog yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn un o 11 o gynghorau yng Nghymru sydd wedi cadw ei Dai Cyngor ei hun. Rydym yn gweithio'n agos gyda chymdeithasau tai i ddarparu tai cymdeithasol, er enghraifft, mae’r system Choice Homes ar gyfer gosod tai cymdeithasol gwag yn cael ei rhannu rhyngom ni a chymdeithasau tai. Mae nifer y cartrefi yn y sector rhentu cymdeithasol yn dechrau cynyddu ac mae 80 o unedau newydd ar gyfartaledd wedi cael eu hadeiladu bob blwyddyn dros y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn yn gyfradd uwch na llawer o awdurdodau gwledig eraill. Ond mae’r tai hyn wedi tueddu i gael eu darparu yn y prif drefi yn unol â blaenoriaethau’r Cynllun Datblygu Lleol. Yn y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi prynu nifer fechan o gyn dai’r awdurdod lleol yn ôl oddi wrth unigolion preifat.
Ar wahân i ddarparu cartrefi yn uniongyrchol ar rent, rydym yn darparu gwasanaethau digartrefedd (y rheswm mwyaf cyffredin i bobl bod mewn perygl o fod yn ddigartref yw fod tenantiaeth y sector preifat yn dod i ben) yn ogystal â helpu pobl i addasu eu cartrefi drwy Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl sy'n helpu pobl ymdopi am gyfnod hwy yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r arolwg asesu Lles yn cyfeirio at denantiaid yn y sector rhentu preifat yn cael pryderon ynghylch a fydd eu cartref yn diwallu eu hanghenion tai yn y dyfodol. Mae pryderon hefyd wedi cael eu codi gan berchen-feddianwyr preifat hŷn o ran a all eu cartref ddiwallu eu hanghenion yn y dyfodol. Er bod lefel y pryder yn llai acíwt, o ran rhifau, mae yna nifer cymharol fawr o berchen-feddianwyr hŷn yn Sir Benfro. Canfu'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym fod tai yn ddewis poblogaidd fel blaenoriaeth. Y mater a grybwyllwyd amlaf gan ymatebwyr (tua 40%) oedd cynyddu argaeledd tai cymdeithasol, yn enwedig tai i bobl leol yn ogystal â'r Cyngor ei hun yn dechrau adeiladu cartrefi. Rhoddodd nifer llai o bobl (tua 10%) sylwadau ar dai yn y sector preifat ac roedd y sylwadau hyn yn gymysg, gyda rhai ymatebwyr yn awgrymu bod mwy o reolaeth dros y sector yn syniad da, ac eraill yn dweud y gallai mwy o reoleiddio arwain at grebachu yn niferoedd y cartrefi ar rent. Dywedodd nifer tebyg o bobl bod angen i ni gymryd camau i leihau nifer yr ail gartrefi a’r cartrefi gwag. Mae'r rhent sy’n cael ei gasglu o renti tai Cyngor yn cyllido’r gwasanaeth hwn, ac mae ganddo ei Gynllun Busnes Refeniw Tai ei hun. Yn hanesyddol, mae rhenti tai cyngor yn Sir Benfro wedi bod yn isel, ond mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ni eu cynyddu i lefelau rhent meincnod sy'n cyfateb i’r lefelau rhent y byddai cymdeithas tai yn eu codi. Rydym yn raddol yn cyflwyno’r cynnydd hwn dros y tymor hir fel bod y newid yn fwy fforddiadwy. Mae newidiadau sylweddol wedi'u gwneud i'r modd y mae Tai Cyngor yn cael eu hariannu fel y gall y Cyngor gydag arian ychwanegol barhau i gynnal a gwella ei dai ac yn y tymor canolig neu'r tymor hir, ystyried adeiladu cartrefi ychwanegol. Mae Cymdeithasau Tai yn parhau i fod yn bwysig o ran darparu tai fforddiadwy ychwanegol drwy Grantiau Llywodraeth Cymru a'u trefniadau benthyca eu hunain. Rydym wedi penderfynu codi tâl premiwm o 50% ar y Dreth Gyngor ar berchnogion ail gartrefi a bydd yr elw yn mynd tuag at dai fforddiadwy a gwasanaethau cymunedol. Mae'r system gynllunio yn parhau i ddenu cyfraniadau sydd hefyd yn cael eu defnyddio i ddarparu mwy o dai fforddiadwy. Mae'r adnoddau ar gyfer gwasanaethau gorfodi tai'r sector preifat wedi gostwng ac mae cyflenwi’r gwasanaeth hwn yn parhau i fod yn heriol.
Byddwn yn parhau i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Byddwn yn defnyddio hanner yr incwm ychwanegol o Dreth y Cyngor ail gartrefi ar gyfer hyn. Byddwn yn ystyried a ddylid cyflwyno premiwm Treth y Cyngor ar eiddo sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir. Byddwn yn ehangu nifer y stoc tai cymdeithasol trwy ddefnyddio’r Grant Tai Cymdeithasol a chytundebau cynllunio (a elwir hefyd yn gytundebau Adran 106).
Byddwn yn gwella'r ffordd rydym yn rheoli ein stoc tai ein hunain. Y camau allweddol fydd ymchwilio i brynu system newydd i gefnogi gwaith trwsio a chynnal a chadw tai. Mae systemau modern yn galluogi cwsmeriaid i archebu ac olrhain atgyweirio i'w cartrefi ar-lein yn ogystal â dros y ffôn a fydd yn fwy cyfleus iddyn nhw yn ogystal â'n galluogi ni i fod yn fwy effeithlon o ran trefnu gwaith atgyweirio. Byddwn hefyd yn buddsoddi mwy o adnoddau yn y gwasanaeth rheoli tenantiaethau ac yn gwella ein proses rheoli unedau gwag. Byddwn yn gweithio gyda landlordiaid preifat i wella ansawdd a rheolaeth y sector rhentu preifat fel cymryd camau gorfodi priodol yn erbyn landlordiaid nad ydynt yn cydymffurfio â Chynllun Rhentu Doeth Cymru. Byddwn yn helpu landlordiaid i baratoi ar gyfer cyflwyno contractau meddiannu newydd o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Byddwn yn gwella'r ffordd yr ydym yn darparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl i'n cwsmeriaid er mwyn eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach. Byddwn yn datblygu gwasanaethau tai cysgodol ychwanegol neu amgen yn y sir mewn partneriaeth â Chymdeithasau Tai. Yn ystod 2017/18 rydym yn rhagweld y bydd nifer fechan o deuluoedd sy’n Ffoaduriaid o Syria yn ymgartrefu yn Sir Benfro. Er na fyddwn yn cartrefu’r ffoaduriaid o Syria yn uniongyrchol, byddwn yn gweithio gyda'r Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a sefydliadau lleol sy'n croesawu ffoaduriaid (Cynlluniau Noddi Cymunedol) er mwyn sicrhau bod ffoaduriaid yn cael eu setlo ac yn cael eu hintegreiddio i'r gymuned.
Fframwaith monitro
Cynyddu nifer y tai fforddiadwy a ddarperir bob blwyddyn. Lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i roi Grant Cyfleusterau i'r Anabl. Lleihau'r amser cyfartalog y mae'n ei gymryd i ail-osod cartref.
Beth allwch chi ei wneud i helpu? Os ydych yn rhentu eich cartref oddi wrthym, ac ar hyn o bryd yn talu drwy arian parod, ystyriwch ddebyd uniongyrchol. Mae'n symlach ac mae'n costio llai i'w gasglu. Felly, y mwyaf o arian yr ydym yn ei arbed, y mwyaf y gallwn fuddsoddi mewn gwella ein gwasanaeth i chi. Os ydych yn ystyried gosod eiddo ar rent, neu bod gennych chi denantiaid ar hyn o bryd, ond nad ydych wedi cofrestru, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cyfeirio at wybodaeth am ddeddfwriaeth newydd. Os ydych mewn perygl o fod yn ddigartref, neu’n ei chael hi'n anodd fforddio eich llety, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Gorau po gyntaf y gallwn roi cyngor i chi, oherwydd y mwyaf tebygol yw hi wedyn y gallwn eich helpu i ddatrys problemau.
Gwella gofal cymdeithasol
Nodau Lles
Cymru Gydnerth
Cymru Iachach
Cymru sy’n fwy Cyfartal
Cymru o Gymunedau Cydlynus
Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu
Cymru Lewyrchus
Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fydeang
Ein gweledigaeth yw model o ofal cymdeithasol yn seiliedig ar egwyddorion gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a hyrwyddo annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol. Rydym wedi cofleidio'r pedair egwyddor sy'n sail i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a bydd y rhain yn sail i'r ffordd yr ydym yn newid gwasanaethau:
Pobl - rhoi'r unigolyn yn y canol drwy roi llais cryfach a rheolaeth iddynt dros wasanaethau y maent yn eu derbyn Lles - cefnogi pobl i gyflawni eu lles eu hunain gan ddatblygu ar amgylchiadau, galluoedd, rhwydweithiau a chymunedau unigolyn Ymyrraeth gynharach - rhagor o wasanaethau ataliol, cefnogi pobl cyn i'w hanghenion fynd yn argyfyngus Gweithio gyda'n gilydd - gweithio’n gryfach mewn partneriaeth rhwng yr holl bartïon sy'n gysylltiedig
Yn unol â gofynion Deddf 2014, byddwn yn canolbwyntio sylw ar: atal; ymyrryd yn gynnar; gan roi llais, gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth effeithiol i gwsmeriaid; cyd-gynhyrchu a'r trydydd sector; comisiynu; sicrhau ansawdd a diogelu. Er bod yr heriau sydd gennym yn fwyaf amlwg ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion, mae'r dulliau hyn yr un mor ddilys ar gyfer gwneud gwelliannau mewn gofal cymdeithasol i blant. Mae Gwella Gofal Cymdeithasol i Oedolion wedi bod yn un o'n hamcanion gwella ers 2013/14. Rydym wedi gwneud nifer o newidiadau i'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu yn y cyfnod hwn, ac wedi lleihau'r gyfradd y mae'r gyllideb yn cynyddu. Ond mae'r galw am ofal cymdeithasol i oedolion yn parhau i godi o ganlyniad i boblogaeth sy'n heneiddio. Er y gallwn fod yn hyderus y bydd y math o fentrau yr ydym yn eu rhoi ar waith yn effeithiol, mae'n cymryd mwy o amser na'r disgwyl i hyn arwain at ostyngiad yn y galw am ddulliau traddodiadol o ddiwallu anghenion, megis gofal preswyl. Canfu'r arolwg asesu lles bod pobl sy'n fwy tebygol o fod yn gwsmeriaid gofal cymdeithasol, fel pobl sy'n anabl neu sy'n oedrannus yn llai tebygol o gytuno bod ganddynt gyfleoedd i ddylanwadu ar benderfyniadau. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd rhoi mwy o lais i bobl am eu gofal. Canfu'r arolwg hwn fod gan tua thraean o bobl broblem gyda'u hiechyd a bod hynny’n cael effeithiau ar
draws eu bywydau. Er enghraifft, mae'r arolwg yn dangos yn glir bod afiechyd yn rhoi straen anghymesur ar berthnasoedd personol gofalwyr. Mae'r arolwg yn dangos yn glir bod y rhan fwyaf o ofal yn cael ei ddarparu yn anffurfiol drwy deuluoedd y gymuned. Mae 85% o'r bobl hynny sydd angen gofal yn cael elfen ohono wedi ei ddarparu gan eu teulu gyda 33% yn cael gofal gan ffrind. Y ffigur cymharol ar gyfer pobl sy'n derbyn gofal a gomisiynwyd gan y Cyngor yw 11% yn unig. Canfu'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym fod gwella gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth uchel a chredai bron i 90% o bobl y dylai fod yn flaenoriaeth. Cawsom ychydig dros 70 o sylwadau a oedd yn ymdrin ag ystod eang o faterion. Nododd tua chwarter y sylwadau fod pobl yn cytuno y dylai fod yn flaenoriaeth neu fod ar ofal cymdeithasol angen arian ychwanegol. Awgrymodd llawer o'r sylwadau ein bod yn parhau â'r gwaith yr ydym eisoes yn ei gynllunio, er enghraifft i weithio'n agosach â'r GIG a'r trydydd sector, er mwyn lleihau dibyniaeth a chanolbwyntio ar atal, ac i ymdrin â materion recriwtio. Roedd tua 10% o sylwadau yn feirniadol o ansawdd y gofal sy'n cael ei gomisiynu gennym ni ar hyn o bryd. Mae'r camau gweithredu y bwriadwn eu cymryd yn ystod 2017/18 yn estyniad o'r prosiectau yr ydym wedi eu cyflawni mewn blynyddoedd cynharach.
Lleihau nifer y bobl a roddwn mewn lleoliadau cartrefi nyrsio neu ofal preswyl. Byddwn yn gwneud hyn drwy symud i ffwrdd oddi wrth fodelau traddodiadol o ofal a chefnogaeth tuag at ffocws ar gymorth ataliol, yn seiliedig ar asedau. Rydym yn gwybod ein bod yn gwario cyfran uwch o'n cyllideb ar hyn nag awdurdodau eraill ac rydym yn rhagweld y gallwn leihau nifer y bobl a leolir mewn llety o ryw 10% dros y ddwy flynedd nesaf. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn buddsoddi ymhellach ym maes gofal cartref i ddatblygu modelau cymorth gwell a bydd hefyd angen buddsoddi mewn atebion trydydd sector yn y gymuned er mwyn gwella annibyniaeth yn y gymuned. Adolygu ein defnydd o leoliadau mewn Cartrefi Preswyl y tu allan i Sir Benfro ar gyfer y plant hynny sydd ag anghenion cymhleth. Trwy ddatblygu capasiti ar gyfer lleoliadau maeth yn Sir Benfro, a thrwy sicrhau bod cefnogaeth ar gael i deuluoedd rydym yn hyderus y gallwn gyflawni canlyniadau gwell ar gyfer plant ag anghenion cymhleth yn ogystal â gwneud arbedion. Cytuno ar strategaeth newydd i gefnogi anghenion pobl ag anableddau dysgu. Byddwn hefyd yn gweithio i leihau nifer y bobl ag anableddau dysgu sy'n cael eu gosod mewn llety preswyl a sicrhau bod cymorth ychwanegol ar gael yn y gymuned. Cyflwyno datrysiad Monitro Galwadau Electronig canolog i'w ddefnyddio gan ddarparwyr gofal cartref i glocio i mewn ac allan o ymweliadau gofal cartref a gynlluniwyd. Bydd hyn yn arwain at fwy o gysondeb o ran amseroedd galw i’r cwsmer ac yn lleihau unrhyw bosibilrwydd o golli galwadau. Bydd hefyd yn rhoi data o ansawdd gwell i ni am ddarparu gwasanaethau a fydd yn arwain at adolygiadau cwsmeriaid mwy amserol.
Gweithio gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd i gynnal asesiadau gofal iechyd parhaus i sicrhau bod cost pecynnau gofal yn cael ei ddyrannu rhyngom ni a'r Bwrdd Iechyd yn briodol. Gwneud mwy o ddefnydd o ddewisiadau gofal o fewn y gymuned yn hytrach na gofal cartref, yn enwedig ar gyfer y cwsmeriaid hynny sy'n derbyn pecyn gofal o lai na phum awr yr wythnos. Mae angen newid diwylliannol sylweddol yn ogystal â buddsoddiad mewn gwasanaethau cymunedol er mwyn i'r strategaeth hon fod yn llwyddiannus. Gwneud nifer o arbedion effeithlonrwydd megis hyfforddi mwy o weithwyr cymdeithasol ar sut i ymgymryd ag Asesiadau Safonau Amddifadu o Ryddid er mwyn lleihau dibyniaeth ar staff asiantaeth, ail-asesu pecynnau gofal sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd gan ddau o bobl i weld a fyddai gwneud defnydd gwell o offer yn ei gwneud yn bosibl i ofal gael i ddarparu gan un gofalwr, sicrhau y gwneir y gorau o adnoddau ail-alluogi o dan y contract presennol gyda’n darparwr allanol; ac adolygu contractau gyda mudiadau trydydd sector er mwyn sicrhau bod y rhain yn canolbwyntio ar yr agenda ataliol a’u bod yn darparu gwybodaeth a chyngor o ansawdd da. Parhau gyda'r gostyngiad graddol yn nifer y plant sy'n derbyn gofal a leolir mewn lleoliadau gofal preswyl y tu allan i Sir Benfro a diwallu anghenion y plant hyn drwy eu gosod gyda Gofalwyr Maeth fel darpariaeth gofal amgen. Bydd hyn yn gwireddu arbedion a chydnabyddir y cyflawnir canlyniadau gwell i blant mewn amgylchedd teuluol nag ar gyfer y rhai mewn gofal preswyl /grŵp. Parhau i sicrhau bod y cyfnod pontio i fyd oedolion i Blant sy’n Derbyn Gofal neu leihau darpariaeth gofal yn raddol yn hyrwyddo annibyniaeth ac yn cael ei gwblhau. Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal yn Sir Benfro wedi gostwng o ganlyniad i waith ataliol ac yn is nag mewn awdurdodau eraill.
Fframwaith monitro Mae fframwaith monitro cenedlaethol wedi cael ei ddatblygu ar gyfer y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar gyfer plant ac oedolion. Mae hyn yn dibynnu ar arolwg blynyddol o gwsmeriaid y gwasanaethau cymdeithasol i blant ac i oedolion. Mae rhan gyntaf y fframwaith hwn yn mesur canlyniad y gofal yr ydym wedi ei roi ar waith a chafodd gwaith maes ar gyfer hyn ei gyflawni ym mis Hydref 2016. Rydym yn rhagweld y byddwn yn ystod rhan gyntaf 2017/18 yn cael canlyniadau o awdurdodau eraill a fydd yn ein galluogi i roi canlyniadau ein harolwg mewn cyd-destun.
Disgrifiad
Targed 2017
% yr ymholiadau amddiffyn oedolion a gwblhawyd o fewn amserlenni statudol
Bydd targed yn cael ei osod yn gynnar yn 17/18 Bydd targed yn cael ei osod yn gynnar yn 17/18 Bydd targed yn cael ei osod yn gynnar yn 17/18 Bydd targed yn cael ei osod yn gynnar yn 17/18 Bydd targed yn cael ei osod yn gynnar yn 17/18
Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal (DToC) am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o'r boblogaeth 75 oed neu drosodd % yr oedolion a wnaeth gwblhau cyfnod o ailalluogi; ac sydd â phecyn llai o ofal a chefnogaeth 6 mis yn ddiweddarach % yr oedolion a gwblhaodd gyfnod o ailalluogi; ac nad oes ganddynt becyn o ofal a chefnogaeth 6 mis yn ddiweddarach % yr oedolion sydd wedi derbyn cymorth gan y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth ac nad ydynt wedi cysylltu â'r gwasanaeth eto yn ystod y flwyddyn.
Yn ogystal, rydym yn monitro dau ddangosydd cyd-destunol. Ni fyddwn yn gosod targedau ar gyfer y rhain. Yn hytrach, bydd y ddau ddangosydd hyn yn rhoi cipolwg i ni ar lefel y galw yn y dyfodol
Hyd cyfartalog yr amser y mae pobl hŷn (65+) yn cael eu cefnogi mewn cartrefi gofal preswyl Oedran cyfartalog oedolion sy’n cael eu derbyn i gartrefi gofal preswyl.
Beth allwch chi ei wneud i helpu Cadw'n heini ac yn egnïol, yn enwedig wrth i chi fynd yn hŷn, yw'r ffordd orau o osgoi cyflyrau cronig a all arwain at eiddilwch. Cofiwch, os ydych dros 60 oed, gallwch ddefnyddio ein pyllau nofio ar lawer o adegau yn ystod y dydd am ddim (ac os ydych yn byw ar lwybr bws, gwnewch gais am docyn bws am ddim, ac mae'r cludiant wedi cael ei ddatrys hefyd!) Gall unigrwydd dynnu pobl i lawr. Os gallwch chi sbario amser i wirfoddoli, cysylltwch â biwro gwirfoddoli PAVS am gyfleoedd i weithio gyda sefydliadau sy'n cefnogi pobl sydd wedi'u hynysu. Os yw eich cylch o ffrindiau yn cau, peidiwch â dioddef yn dawel, cysylltwch â ni i gael manylion am sefydliadau sy'n gallu eich helpu i gyfarfod â phobl eraill. Os ydych yn ofalwr, cysylltwch â ni fel y gallwn drefnu asesiad o unrhyw anghenion a allai fod gennych.
Amcan lles 3: Cynyddu cynhyrchiant yr economi ac ymdrin â materion adfywio
Nodau Lles
Cymru Gydnerth
Cymru Iachach
Cymru sy’n fwy Cyfartal
Cymru o Gymunedau Cydlynus
Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu
Cymru Lewyrchus
Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fydeang
Ein gweledigaeth yw gwneud Sir Benfro yn lle sy’n economaidd gystadleuol, cynhyrchiol a llewyrchus gydag economi gynaliadwy sy’n cefnogi incymau a chyflogaeth a thwf economaidd. Yr unig ffordd y gallwn gyflawni hyn yw os yw'n cael ei danategu gan fentrau newydd llwyddiannus, sy’n cefnogi busnesau presennol i dyfu a thrwy ddenu rhai newydd i Sir Benfro. Ni allwn gyflawni hyn oni bai ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â busnesau a sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus megis Llywodraeth Cymru a darparwyr addysg a hyfforddiant. Mae Strategaeth Datblygu Economaidd Sir Benfro a fabwysiadwyd yn ddiweddar yn rhoi fframwaith i gefnogi a datblygu economi'r Sir. Ond mae nifer yr argymhellion ynddi yn eang ac y tu hwnt i allu'r awdurdod lleol i’w trin ar ei ben ei hun. Bydd angen i ni hefyd fod â rhywfaint o hyblygrwydd o ran y prosiectau yr ydym yn ymgymryd â hwy gan fod llawer o'r gwaith yn y maes hwn yn cael ei wneud gan y sector preifat ac yn fasnachol sensitif. Y cyd-destun cyffredinol ar gyfer economi Sir Benfro yw er bod lefelau diweithdra yn gymharol isel, bod cynhyrchiant hefyd yn isel, fel y mae ar gyfer gweddill ardal Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, sy'n golygu bod yr economi leol yn gweithredu ar tua 75% o'i photensial. Ni fydd cynhyrchiant yn cynyddu oni bai ein bod yn cymryd camau i arallgyfeirio sylfaen economaidd y Sir a chymryd camau i ymdrin â sgiliau. Os nad ydym yn cynyddu argaeledd y swyddi o ansawdd da yn y tymor hir, yna mae'n ei gwneud yn fwy tebygol y bydd nifer anghymesur o bobl ifanc yn gadael Sir Benfro, a fydd â goblygiadau ar gyfer strwythur oed y Sir. Gan edrych i'r dyfodol, bydd yr ail-addasu strwythurol hwn yn golygu y byddwn yn canolbwyntio cefnogaeth ar y sectorau hynny lle mae gan y Sir gryfderau a lle mae'r duedd ar gyfer twf parhaus. Mae'r rhain yn cynnwys ynni morol ac ynni adnewyddadwy, bwyd, twristiaeth a hamdden a gallai ansawdd uchel ein bywyd gael ei ddefnyddio i ddenu gweithwyr mewn diwydiannau creadigol neu rai sy'n seiliedig ar wybodaeth fel mewnfuddsoddwyr gyda gwerth ychwanegol uchel. Bydd y sector iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn faes twf mewn cyflogaeth. Mae adfywio canol ein trefi wedi bod yn un o'n blaenoriaethau ers 2013/14. Y rhesymeg dros hyn yw bod canol ein trefi yn tanberfformio, gyda'r prif ganol trefi â chyfraddau swyddi manwerthu gwag sy’n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Y dull o weithio yw trwy bartneriaeth, ac erbyn mis Ebrill 2017 bydd cynlluniau yn mynd rhagddynt yn dda ar gyfer pob un o chwe thîm y trefi. Bydd
gwerthusiad o'r cynnydd hyd yma yn cael ei gomisiynu a chyflwynir adroddiadau yn gynnar yn y flwyddyn ariannol nesaf. Yn seiliedig ar y gwerthusiadau yr ydym wedi'i wneud hyd yn hyn, nid yw perfformiad economaidd cymharol canol y prif drefi yn gwella eto ac mae gan Hwlffordd, Aberdaugleddau a Doc Penfro i gyd gyfraddau o swyddi gwag mewn manwerthu sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Nododd ymatebwyr i'n harolwg am amcanion y gyllideb a lles fod mynd i'r afael ag adfywio canol trefi yn flaenoriaeth ganolig. Roedd tua chwarter y sylwadau a gawsom yn cytuno y dylai fod yn flaenoriaeth, gyda thua hanner y rhain yn dweud bod canol trefi yn edrych wedi dirywio Roedd ychydig dros draean sylwadau’r ymatebwyr yn awgrymiadau ymarferol ar gyfer sut y gallai canol trefi gael eu gwella, megis drwy wrthsefyll datblygiadau y tu allan i’r dref, lleihau ardrethi busnes, gostwng taliadau meysydd parcio a gweithio mwy gyda sefydliadau eraill. Roedd ychydig dros draean y sylwadau yn eu hanfod yn anghytuno y dylai hyn fod yn flaenoriaeth. Nododd dros hanner y sylwadau hyn fod ein hagwedd at hyn wedi bod yn aneffeithiol hyd yn hyn. Sylwadau eraill oedd bod hyrwyddo swyddi yn flaenoriaeth fwy gwerth chweil neu fod y buddsoddiad sydd ei angen yn anodd ei gyfiawnhau o’i ystyried ochr yn ochr â blaenoriaethau eraill y Cyngor. Roedd rhai pobl yn credu y dylai datblygiadau y tu allan i’r dref gael eu hannog ac y dylid dod o hyd i ddefnydd amgen ar gyfer canol trefi. Bydd angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol i fynd i'r afael â materion cynhyrchiant ac adfywio. Bydd angen i ni ddenu buddsoddiad o’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Gan edrych i'r dyfodol, mae yna nifer o heriau, ac mae'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn ychwanegu ansicrwydd pellach ynghylch lefelau adnoddau yn y tymor canolig a'r tymor hir. Bydd angen i ni ystyried hefyd sut yr ydym yn darparu cymorth refeniw digonol. Ar y cyfan, ac i gydnabod pwysau ar gyllidebau, er mwyn gwneud y mwyaf o'r gefnogaeth ar gyfer yr amcan lles hwn, rydym wedi penderfynu peidio â gwneud trechu tlodi yn amcan lles hefyd. Byddai ceisio gwneud yn gwanhau adnoddau i'r pwynt lle na fyddai’r naill agenda na'r llall yn cael ei gyflwyno'n effeithiol.
Symud ymlaen gyda chais Dinas-ranbarth Bae Abertawe am Fargen Ddinesig 'Arfordir Rhyngrwyd’. .. Mae hon yn rhaglen o gydweithio preifat / cyhoeddus 15 mlynedd sy’n werth tua £1.3bn i fynd i'r afael â thanberfformiad economaidd y rhanbarth drwy fuddsoddi yn seilwaith digidol y rhanbarth. Rydym yn rhagweld y byddwn yn clywed a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus yn gynnar yn y flwyddyn ariannol nesaf. Os bydd yn llwyddiannus, y tasgau cyntaf fydd sefydlu cydbwyllgor rhwng y pedwar awdurdod ym Mae Abertawe er mwyn darparu llywodraethu effeithiol. Gweithio gydag Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau i ddarparu parc bwyd yn Llwynhelyg. Bydd hyn yn darparu adeiladau o ansawdd uchel ar gyfer nifer o fusnesau bwyd ac yn eu galluogi i ehangu. Galluogi a hwyluso buddsoddiad y sector cyhoeddus a'r sector preifat i Hwlffordd er mwyn adfywio Canol y Dref. Mae prosiectau yn cynnwys y Llyfrgell Sirol newydd. Byddwn yn ystyried ceisiadau cynllunio sy'n ymwneud â sinemâu
Datblygu uwchgynlluniau yn y pum "Timau Trefi" eraill heblaw Hwlffordd er mwyn cadarnhau’r gwaith y mae’r Timau wedi ei wneud. Ystyried sut y byddwn yn darparu cymorth a gwasanaethau hyrwyddo ar gyfer y Diwydiant Twristiaeth. Gweithio gydag ystod o randdeiliaid i annog prosiectau allweddol sy'n cynyddu twristiaeth gwerth uchel a chadw Sir Benfro fel cyrchfan ddeniadol ar gyfer twristiaeth. Ystyried dyfodol cyllid adfywio ar ôl Brexit. Rydym yn rhagweld wrth i drafodaethau Brexit symud ymlaen, y bydd angen i ni ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch sut y bydd unrhyw arian a geir yn lle arian yr UE yn gweithio. Parhau i wella seilwaith y sir er mwyn gwella mynediad i farchnadoedd. Rydym yn disgwyl cwblhau rhan olaf pecyn o welliannau gwerth £13m o'r A477 at burfa Valero pan fydd Ffordd Liniaru Maiden Well wedi ei chwblhau. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru sy'n bwriadu ymgymryd â'r broses statudol ar gyfer ffordd osgoi Llanddewi Felffre i Benblewin ar yr A40 yn ystod 2017/18 cyn y dyddiad cychwyn adeiladu disgwyliedig yn Hydref 2018.
Monitro Nid yw'n hawdd monitro sut rydym yn dylanwadu ar yr economi. Nid yw cywirdeb ac argaeledd data canlyniadau ar gyfer Sir Benfro (fel cyfraddau cyflogaeth, cyfraddau diweithdra a chynhyrchiant) cystal ag ar gyfer amcanion lles eraill. Mae nifer o gerrig milltir y byddwn yn eu monitro i fesur ein llwyddiant yn y maes hwn:
Penderfynu ar gais Dinas-Ranbarth Bae Abertawe - yr Arfordir Rhyngrwyd, Datblygu Parc Bwyd Llwynhelyg Cyhoeddi uwch gynlluniau ar gyfer pump o ganol trefi ychwanegol Perfformiad prosiect Treftadaeth Trefwedd Hwlffordd a Chronfa Benthyciadau Canol y Trefi Nifer yr unigolion a gefnogir mewn rhaglenni dysgu yn y gwaith, hyfforddiant a mentora Cwblhau Ffordd Liniaru Maidenwells Nifer y prosiectau twristiaeth newydd a gefnogir.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, byddwn yn monitro cyfraddau swyddi gwag yng nghanol trefi. Beth allwch chi ei wneud i helpu? Nod y Cyngor yw gweithio'n agos gyda busnesau lleol ar draws y Sir. Os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau ar gyfer gwella canol trefi neu ynghylch sut i fynd i'r afael â’n heriau economaidd ehangach, beth am ymuno â’n Panel Busnes neu gysylltu â thîm adfywio'r Cyngor?
Amcan lles 4: Diogelu ein hamgylchedd
Nodau Lles
Cymru Gydnerth
Cymru Iachach
Cymru sy’n fwy Cyfartal
Cymru o Gymunedau Cydlynus
Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu
Cymru Lewyrchus
Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fydeang
Mae gan Sir Benfro amgylchedd o ansawdd uchel. Mae hyn yn sail i'n diwydiant twristiaeth, ac mae wedi cael ei werthfawrogi gan drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae gan Sir Benfro nifer cymharol fawr o ardaloedd sy'n cael eu gwarchod gan ddynodiadau amgylcheddol cenedlaethol neu ryngwladol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill er mwyn diogelu ein hamgylchedd ac mae llawer o swyddogaethau allweddol yn cael eu cyflawni gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae ein hamgylchedd yn wynebu nifer o heriau. Daeth ein hadroddiad diweddaraf ar Gyflwr Bywyd Gwyllt, sef adolygiad pum mlynedd ar iechyd cynefinoedd a rhywogaethau allweddol, i'r casgliad, er bod rhai llwyddiannau, fod y rhan fwyaf o'r nodweddion a aseswyd mewn cyflwr gwael neu gymedrol ac mae'r duedd gyffredinol yn dal i ddirywio. Mae gan Sir Benfro yr arfordir ail hwyaf o unrhyw sir yng Nghymru, ac rydym wedi gweithio gyda Chynghorau a chyrff cyhoeddus eraill i ddatblygu cynlluniau rheoli traethlin i ymdrin â heriau i addasu yn y tymor hir. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cyflwyno dyletswydd arnom i 'geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth' i'r graddau y mae'n gyson ag ymarfer y swyddogaethau hynny'n briodol. Wrth wneud hynny, mae'n rhaid i ni hefyd geisio 'hyrwyddo cadernid ecosystemau'. Byddwn yn cyhoeddi sut y byddwn yn ymateb i'n dyletswydd yn ystod 2017/18. Mae gennym ddyletswydd i leihau faint o garbon deuocsid yr ydym yn ei allyrru o 3% bob blwyddyn ac rydym wedi mynd y tu hwnt i’r targed hwn yn gyson a gallwn dynnu sylw at lwyddiannau i’r agenda hon. Mae cynlluniau effeithlonrwydd a chynhyrchu ynni wedi arbed allyriadau carbon deuocsid yn ogystal â gwneud arbedion effeithlonrwydd ariannol. Ein dull fu penderfynu pa ddulliau o gynhyrchu ynni sy’n talu’n ôl orau o ran y cyfalaf a fuddsoddwyd. Mae'r cyfrifiad hwn yn cynnwys rhwymedigaethau parhaus am waith cynnal a chadw. Mae rheoli gwastraff a lleihau gwastraff drwy gyfraddau ailgylchu uchel yn un o'r ffyrdd yr ydym yn gwarchod yr amgylchedd. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw bod Cymru yn dod yn wlad sy'n ailgylchu llawer iawn erbyn 2025 ac yn wlad ddiwastraff erbyn 2050. Rydym wedi gwneud cynnydd da ar wastraff ac rydym yn un o'r awdurdodau lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran ailgylchu a dargyfeirio gwastraff y bagiau duon i ffwrdd o dirlenwi. Er bod ein cyfradd ailgylchu eisoes yn rhagori ar ein targed statudol ar gyfer 2019/2020, heb ddatblygiadau arwyddocaol pellach mae’n bosibl na fydd y gwasanaeth yn cyrraedd y gyfradd o 70% o ailgylchu sy’n ofynnol erbyn 2024/25. Bydd angen i'r gwasanaeth wneud hyn gyda llai o adnoddau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cynghorau i ailgylchu mwy o wastraff drwy grantiau. Mae'r grantiau hyn wedi lleihau, ac rydym yn rhagweld y byddwn yn gwneud arbedion mewn gwastraff o tua £1.2m yn y pedair blynedd nesaf (ac mae hyn yn dilyn arbedion o £1.43m dros y tair blynedd diwethaf). Ystyrir cyfleoedd ychwanegol i greu incwm, er enghraifft gydag awdurdodau eraill, ar gyfer trefniadau gwaredu gwastraff a sicrhau bod busnesau yn defnyddio gwasanaethau gwastraff masnachol. Mae angen i ni gydymffurfio â deddfwriaeth newydd (Deddf yr Amgylchedd) sy'n rhoi pwerau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i bennu’n union sut y bydd y gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn gweithio, fel mynnu bod gwahanol ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn cael eu casglu ar wahân o ymyl y ffordd. Nid ydym yn disgwyl bod â rhagor o fanylion am hyn tan y Gwanwyn 2017. Ymgynghorwyd ynghylch dwy flaenoriaeth bosib sy'n ymwneud â'r amgylchedd, un sy'n ymwneud â'r amgylchedd lleol a'r llall yn ymwneud â materion mwy byd-eang. Ymgynghorwyd hefyd yn fwy manwl ar ystod o gwestiynau am gasglu gwastraff ac ailgylchu. Cymharol ychydig o bobl oedd yn meddwl bod canolbwyntio ar faterion amgylcheddol byd-eang yn flaenoriaeth uchel. Fe wnaeth sylwadau a dderbyniwyd o ran syniadau am yr amgylchedd byd-eang dynnu sylw at y ffaith fod materion amgylcheddol byd-eang megis lleihau ôl-troed carbon Sir Benfro, wedi'u cysylltu'n annatod â'r amgylchedd lleol. Gwnaeth nifer o bobl awgrymiadau ymarferol ar gyfer prosiectau am ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil technoleg newydd i gynhyrchu ynni mwy cynaliadwy. Cymharol ychydig o bobl a wnaeth sylwadau oedd yn ymwneud â bioamrywiaeth. Lle cafodd materion eu codi, megis ein hymateb i Barthau Perygl Nitradau, roedd barn yn tueddu i gael ei rhannu rhwng y rheiny oedd yn cefnogi eu cyflwyno a'r rhai oedd o'r farn y byddent yn niweidiol. Bydd ymatebion am gasglu gwastraff yn sail i adolygiad ar y cyd gyda Chyngor Sir Ceredigion i archwilio a allai gwasanaeth ar y cyd gyda gwahanol lwybrau casglu gwastraff arwain at arbedion. Bydd Ein Pwyllgor Polisi, Trosolwg a Chraffu yn ystyried canfyddiadau'r arolwg ym mis Mawrth. Bydd newid sut mae sbwriel yn cael ei gasglu yn golygu ymgysylltu ymhellach â chwsmeriaid, yn ogystal â buddsoddiad cyfalaf mewn offer newydd. Bydd unrhyw benderfyniad i newid yn cael ei gymryd gan Gyngor newydd yn dilyn etholiadau Mai 2017. Mae adnoddau ar gyfer y meysydd hyn yn parhau i fod yn broblem. Mae gweithio i wella / gwarchod bioamrywiaeth o reidrwydd yn weithgaredd partneriaeth ac rydym yn ffodus bod Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Benfro wedi gallu tynnu ar adnoddau grŵp o wirfoddolwyr medrus ac ymroddedig. Yr ydym yn dibynnu ar gyllid cyfalaf ar gyfer addasu Niwgwl. Byddai Parth Perygl Nitradau yn creu pwysau am fuddsoddiad cyfalaf yn ein ffermydd eu hunain.
Mae'r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd yn cynnwys:
Edrych ar sut yr ydym yn gofalu am y tir rydym yn ei reoli i greu coridorau bywyd gwyllt. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i rywogaethau symud o un ardal i'r llall ac yn gwneud poblogaethau presennol o rywogaethau allweddol yn fwy gwydn. Lleihau'r perygl bod llifogydd yn achosi niwed. Y prosiect mawr yr ydym yn gweithio arno yw dewis amgen i'r draethell yn Niwgwl, gan ail-alinio ffordd yr arfordir i mewn i’r tir efallai. Bydd ymarfer cynllunio mawr yn cael ei gwblhau mewn pryd ar gyfer dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Byddwn hefyd yn symud ymlaen gyda chynllun amddiffyn rhag llifogydd yn Aber Bach. Hwyluso’r newidiadau sydd eu hangen os yw dalgylch Cleddau yn cael ei ddatgan yn Barth Perygl Nitradau. Bydd effaith mwyaf hyn ar ffermwyr, ond bydd hefyd yn cael effaith arnom ni ein hunain, er enghraifft, rydym yn rhagweld y byddwn yn derbyn mwy o geisiadau ar gyfer morlynnoedd slyri. Mae gennym hefyd 45 o ddaliadau amaethyddol a bydd datgan y parth yn golygu y bydd angen buddsoddiad ychwanegol yn y rhain. Cynyddu effeithlonrwydd ynni drwy fuddsoddi mewn goleuadau mwy effeithlon megis rhai LEDs, systemau gwresogi mwy effeithlon ac inswleiddio gwell a mwy o ffocws ar newid ymddygiad o ran effeithlonrwydd ynni (ee ‘eiriolwr dros ynni’ ymysg staff ac ymgyrchoedd ‘diffodd a gostwng’). Cynyddu'r gyfran o ynni a ddefnyddiwn sy'n cael ei gynhyrchu gennym ni ein hunain drwy ddulliau carbon isel neu ddi-garbon. Mae cynlluniau yn cynnwys gosod paneli solar ffotofoltäig ar ysgolion newydd, gosod bwyleri gwres a phŵer cyfun yn lle hen systemau gwresogi ac ystyried defnyddio bwyleri bio-màs. Gweithio gydag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Ynni Morol Cymru, UK Catapult a Wave Hub i symud ymlaen gyda'r parth arddangos ariâu tonnau’r môr a’r cyfleusterau profi ynni morol ar y tir fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Archwilio'r potensial ar gyfer datblygiadau tai fforddiadwy cost isel neu garbon-isel. Parhau i fonitro parthau rheoli ansawdd aer yng nghanol trefi Hwlffordd a Phenfro. Ystyried sut y gallwn weithio gydag awdurdodau cyfagos er mwyn parhau i gynyddu cyfraddau ailgylchu a gwneud arbedion effeithlonrwydd yr un pryd.
Monitro Byddwn yn parhau i fonitro'r gwaith o leihau ein hallyriadau carbon deuocsid. Byddwn yn parhau i fonitro cyfres o ddangosyddion ar gyfer gwastraff fel % y deunydd sy’n cael ei ailgylchu a’r tunelli metrig o wastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi. Beth allwch chi ei wneud i helpu Defnyddio ein gwasanaethau ailgylchu, yn enwedig ailgylchu gwastraff bwyd, fel y gallwn leihau faint o hyn a roddir yn wastraff mewn bagiau duon.
Amcan lles 5: Cymunedau hunan gynhaliol a bywiog
Nodau Lles
Cymru Gydnerth
Cymru Iachach
Cymru sy’n fwy Cyfartal
Cymru o Gymunedau Cydlynus
Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu
Cymru Lewyrchus
Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fydeang
Mae'r Cyngor yn cynrychioli sylfaen eang o gymunedau. Mae gan rai hunaniaeth sydd wedi ei wreiddio yn eu naws am le a lle maen nhw ar y map, mae gan eraill hunaniaethau sy'n cael eu ffurfio gan eu diddordebau neu brofiadau a rennir. Mae’r Iaith Gymraeg, diwylliant, chwaraeon a hamdden (gan gynnwys mynediad at y gwasanaethau a ddarparwn) yn ogystal â'r graddau y mae gan bawb yn y cymunedau hyn fynediad at y pethau hyn, yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl. Mae lles pobl yn ddibynnol arnyn nhw yn gallu gwneud pethau y maent yn mwynhau eu gwneud. Mae'r amcan Lles hwn yn ategu ein hamcan lles ‘cymunedau iach'. Nid oes un sefydliad a fydd yn cyflawni hyn ac rydym yn rhagweld bod hon yn thema a fydd yn cael ei chynnwys o fewn cynllun lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn wir, mae’r rhan fwyaf o'r gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud neu'r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio yn cael eu darparu gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Rydym yn rhagweld y byddwn yn ail-ystyried yr amcan lles hwn wrth i gynllun lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gael ei ddatblygu drwy gydol 2017/18. Byddwn yn cyflawni nifer o gamau i liniaru tlodi. Bydd newidiadau mawr yn y modd mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i bobl a chymunedau mewn ardaloedd o amddifadedd lluosog y flwyddyn nesaf. Bydd rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn arafu ac yn dod i ben yn ystod 2017/18. Mae grantiau eraill Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd hefyd yn newid. Er bod newidiadau i sut mae budd-daliadau yn gweithio wedi cael eu gohirio, mae newidiadau pellach i fudd-daliadau yn debygol yn ystod 2017/18. Un o'r dylanwadau mwyaf y gallwn ei gael ar dlodi yw drwy godi cyrhaeddiad addysgol, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r camau gweithredu hyn yn cael eu cynnwys yn ein hamcan lles ar gyfer cyrhaeddiad addysgol. Yn ogystal, bydd cynyddu argaeledd swyddi yn lleol gan ymestyn dyheadau pobl ifanc yn trechu tlodi a diffyg uchelgais. Rydym yn datblygu ystod o brosiectau i gefnogi gweithgaredd diwylliannol:
Yn dilyn gwerthusiad manwl o'r opsiynau ac astudiaeth dichonolrwydd dros ddeuddeg mis, mae'n debygol y bydd y Cabinet yn penderfynu peidio â chefnogi Ymddiriedolaeth ar gyfer Gwasanaethau Diwylliant a Hamdden. Bydd archwiliad ehangach o'r rhain, yn
ogystal â gwasanaethau eraill, bellach yn ffurfio rhan o raglen Trawsnewid y Cyngor ar gyfer 2017/18. Byddwn yn cwblhau prosiect Llyfrgell y Sir newydd yn ystod 2017/18. Byddwn yn archwilio'r opsiynau ar gyfer Scolton Manor yn ogystal ag ar gyfer canolfan dreftadaeth flaenllaw er mwyn gwneud y gorau o'r casgliadau hanesyddol yr ydym yn eu dal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Byddwn yn cyflwyno cais ar gyfer Dinas Tŷ Ddewi yng nghystadleuaeth Prifddinas Diwylliant y DU 2021.
Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau cyfagos i symud ymlaen gyda chynllun gweithredu cydlyniant cymunedol De Orllewin Cymru. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â gwahaniaethu ac aflonyddu yn enwedig troseddau casineb, cefnogaeth ar gyfer y gymuned sipsiwn a theithwyr (sef ein lleiafrif ethnig unigol mwyaf). Byddwn hefyd yn gweithio i ddeall yn well yr effaith bosibl y mae ein penderfyniadau yn ei gael ar grwpiau agored i niwed. Mae hyn yn allweddol i sicrhau cyfle cyfartal a byddwn hefyd yn symud ymlaen gyda gwaith ar ein cynllun cydraddoldeb strategol. Byddwn yn datblygu strwythurau cydweithio rhanbarthol i ymdrin â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Rydym yn rhagweld y bydd gweithio'n rhanbarthol yn parhau i fod yn fwy pwysig ar gyfer Diogelwch Cymunedol yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i weithredu Safonau’r Gymraeg yn y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau. Mae hyn yn newid sylfaenol o ran y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu wyneb-yn-wyneb (er enghraifft yn y derbynfeydd), sut rydym yn cyfathrebu â chwsmeriaid dros y ffôn, trwy lythyr ac e-bost, yn ogystal â sut y caiff gwasanaethau eu cynllunio. Byddwn yn cynnal rhaglen hyfforddiant helaeth ar gyfer y Gymraeg gyda'n staff yn ystod 2017/18 a thu hwnt er mwyn cyrraedd y safonau hyn. Monitro Byddwn yn monitro cynnydd ein prosiectau diwylliant fel y Llyfrgell Sir newydd. Byddwn yn adrodd yn flynyddol am ein cynnydd tuag at Safonau’r Gymraeg i Gomisiynydd y Gymraeg. Beth allwch chi ei wneud i helpu Cymryd rhan wrth gyflwyno a llunio ein cynnig diwylliannol. Mae grwpiau cymunedol yn helpu i gynnal llyfrgelloedd mewn rhai cymunedau.
Dyfyniad o'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig Mae adran cyd-destun ariannol y cynllun hwn yn amlinellu'r her ariannol allweddol sy'n ein hwynebu. Mae’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) 2017-18 i 2020-21 yn nodi'r her ariannol i'r Cyngor dros y pedair blynedd nesaf, yn ogystal â nodi ei gynlluniau a’i atebion ar gyfer ymateb i'r her ariannol hon. Mae'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn rhan annatod o broses cynllunio strategol gyffredinol y Cyngor ac yn cysylltu â chynlluniau allweddol, gan gynnwys y Cynllun Corfforaethol. Bydd y Cabinet yn gwneud argymhelliad i'r Cyngor yn ei gyfarfod ar Chwefror 13 am Gyllideb 2017/18, y Cyfrif Refeniw Tai, y Rhaglen Gyfalaf a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Mae'r wybodaeth isod yn seiliedig ar yr adroddiadau y bydd y Cabinet yn eu hystyried cyn iddynt gael eu penderfynu yn y Cyngor ar 2 Mawrth, 2017. Mae'r bwlch cyllido a ragwelir o 2017-18 i 2020-21, yn seiliedig ar ein dealltwriaeth o'r sefyllfa fwyaf tebygol (gostyngiad o 0.1% ar gyfer Cyllid Allanol Cyfun 2017-18 a 3.0% o ostyngiadau ar gyfer 2018-19 i 2020-21) i’w weld isod. Blwyddyn Bwlch Ariannu a Ragwelir Treth y Cyngor (5% o gynnydd a chynnydd i'r sylfaen) Cyfraniad o Dreth y Cyngor ar Ail Gartrefi (Cymunedol) Gostyngiadau cost / Effeithlonrwydd
2016/17 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21 Cyfanswm 16.3
10.7
12.1
11.6
10.9
45.3
(2.5)
(2.7)
(2.4)
(2.5)
(2.6)
(10.2)
-
(0.6)
-
-
-
(0.6)
13.8
7.4
9.7
9.1
8.3
34.5
Er ein bod wedi pontio bwlch ariannu sylweddol yn 2014-15, 2015-16 a 2016-17, mae maint y bwlch ariannu o £45.3m ar gyfer cyfnod pedair blynedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig 201718 i 2020-21 yn sylweddol a bydd yn heriol iawn. Bydd angen i ni weithredu newidiadau eang i wasanaethau ac rydym yn datblygu rhaglen drawsnewid er mwyn gwneud y newidiadau hyn. Cafodd £10.8m (31.3%) o'r £34.5m o ostyngiadau cost gofynnol / effeithlonrwydd / trawsnewidiadau i wasanaeth dros gyfnod o bedair blynedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig eisoes eu nodi a'u dyrannu i feysydd gwasanaeth penodol.
Y man cychwyn ar gyfer lleihau costau, effeithlonrwydd a thrawsnewid gwasanaethau ar gyfer 2017/18 oedd canran o ostyngiad ar gyllideb 2016/17. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn gwneud arbedion drwy ein rhaglen drawsnewid. Bydd arbedion yng nghyllideb 2017/18 yn cael eu hailfuddsoddi yn y rhaglen. Mae'r tabl isod yn amlinellu sut y mae'r rhaglen drawsnewid yn mynd i weithio ar draws gwahanol ffrydiau gwaith ac ar draws gwahanol flynyddoedd ariannol. Mae'r rhaglen hon yn ddarostyngedig i newid.
Twf Incwm ac Adennill Costau Llawn Rheoli'r Sefydliad Caffael a Rheoli Categorïau Blaenoriaethu Gwasanaethau Rheoli Cwsmeriaid Rheoli Gwybodaeth - Yn gynwysedig mewn Ffrydiau Gwaith Eraill Ail-ddylunio a Alluogwyd yn Ddigidol Strategol a Chymorth Rheoli Asedau yn Ystwyth Cydweithio a Gwasanaethau a Rennir Portffolio Buddsoddi Cyfanswm
17-18 £m 4.0 1.0 3.9
0.2 -
*9.1
18-19 £m -
19-20 £m -
20-21 Cyfanswm £m £m 4.0 1.0 3.9 3.2 3.2 2.6 2.6 Yn gynwysedig mewn ffrydiau gwaith eraill 14.2 14.2 1.5 1.5 0.2 Ffrwd gwaith newydd Ffrwd gwaith newydd 21.5 30.6
Mae'r tabl drosodd yn grynodeb o'n hamcangyfrifon ar gyfer gwariant refeniw net ar gyfer 2017/18 yn seiliedig ar y cynigion y bydd y Cabinet yn eu hystyried yn ei gyfarfod ar 13 Chwefror, 2017. Un o'r gostyngiadau mwyaf yn y gwariant arfaethedig yw ar gyfer addysg. Mae hyn yn adlewyrchu lleihau nifer y disgyblion yn ein hysgolion Bydd unrhyw arbedion "Trawsnewid / Arbedion yn y Flwyddyn" yn ystod y flwyddyn yn cael eu symud i’r gronfa wrth gefn a'u defnyddio i bontio'r bwlch ariannu yn y dyfodol (gweler Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2017-18 i 2020-21). Mae hyn wedi ei nodi â seren * . Mae cyfraniad o Dreth y Cyngor ar Ail gartrefi tuag at elfennau Cefnogi Gwasanaethau Lleol (Cymuned) y gyllideb refeniw yn cael ei ddangos o fewn meysydd gwasanaeth unigol. Mae hyn wedi ei farcio â dwy seren **. 2016-17 Net Gwreiddiol Gwariant £000’s 87,116 12,969 44,666 1,037 8,043 6,673 1,776 11,202 7,450 6,143 225 (400) 186,900 7,021 (509) 8,732 202,144
CRYNODEB
Gwasanaethau Addysg Social Care – Children Social Care – Adults Cronfa Gyffredinol Tai Cyfrif Refeniw Tai (wedi’i glustnodi) Gwasanaethau Priffyrdd a Chludiant Diwylliant a Gwasanaethau Cysylltiedig Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu Gwasanaethau Amgylcheddol Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor Gwasanaethau Canolog, Corfforaethol a Democrataidd Eraill Gwasanaethau Llys Trawsnewid / Arbedion yn y Flwyddyn * Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi (Cymuned) ** CYFANSWM CYLLIDEBAU GWASANAETH Ardollau Incwm Buddsoddiad Net Costau Ariannu Cyfalaf (Gan gynnwys MRP) GOFYNIAD CYLLIDEB Y CYNGOR
2017-18 Amcangyfrif net Gwariant £000’s 85,679 12,876 47,832 1,043 8,148 6,651 1,849 11,415 7,390 6,314 270 (100) (600) 188,767 7,190 (350) 9,200 204,807
Mae ein hamcangyfrif o wariant ar y Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei ddangos isod. Mae hwn yn gyfrif ar wahân i gyllideb y Gronfa Gyffredinol uchod ac mae incwm y Cyfrif Refeniw Tai o renti yn cydbwyso ei wariant.
Incwm Rhenti - Anheddau Rhenti - Nid Anheddau Taliadau am Wasanaeth a Chyfleusterau Llog Derbyniadwy CYFANSWM YR INCWM Gwariant Rheoli a Gwaith Cynnal a Chadw Arferol Neilltuadau i'r Cronfeydd Wrth Gefn - Gwelliannau Cyfalaf Rhenti, Ardrethi, Trethi ac Eraill Cymhorthdal CRT (HRA) sy'n daladwy Darpariaeth ar gyfer Dyledion Drwg ac Amheus CYFANSWM Y GOST Addasiad Cyllido Cyfalaf CYFANSWM Y GWARIANT Net (Gwarged) / Diffyg am y Flwyddyn
Amrywiant Amcangyfrif Gwreiddiol Gwreiddiol 17/18 llai (FS1) 2017Gwreiddiol 2018 16/17 £000
Alldro 2015-16
Cyllideb Wreiddiol 20162017
Alldro Amcanol 20162017
£000
£000
£000
(19,825) (345)
(20,355) (356)
(20,455) (356)
(21,370) (361)
(1,015) (5)
(876)
(890)
(1,022)
(1,032)
(142)
(4) (21,050)
(8) (21,609)
(4) (21,837)
(5) (22,768)
3 (1,159)
10,922
11,994
11,664
12,373
379
3,973
3,335
3,904
4,029
694
40
37
36
37
0
(3)
0
0
0
0
63
405
350
413
8
14,996 6,054
20,890 5,838
15,954 5,883
16,782 5,916
1,081 78
21,050
21,609
21,837
22,768
1,159
(0)
0
0
0
0
Mae Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yn cael ei dangos isod. Rydym yn bwriadu gwario dros £50m ar Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Is-adran y Gwasanaeth Addysg Gofal Cymdeithasol Priffyrdd a Chludiant Cyfrif Refeniw Tai (HRA) Cronfa'r Cyngor Tai Diwylliant a Gwasanaethau Cysylltiedig Cynllunio a Datblygu Amgylcheddol Corfforaethol Rhaglen Graidd Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Arian Cyfatebol Prosiectau Cyfanswm
Diwygiedig 2016/17 1,547 725 6,904 8,206 1,835
Amcangyfrif Gwreiddiol 2017/18 1,220 172 6,253 12,954 1,174
Dangosol 2018/19 589 50 5,426 12,392 1,224
1,321
3,453
1,180
2,337 1,239 1,648 25,762 30,363 0 56,125
3,849 1,198 1,263 31,536 54,226 0 85,762
836 1,000 1,207 23,904 11,143 0 35,047