Chwaraeon Sir Benfro
Cynorthwyo Ysgolion trwy Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol.
Chwaraeon Sir Benfro
Rhagair
Neges oddi wrth Reolwr Chwaraeon Sir Benfro Mae’r llyfryn hwn wedi cael ei ddylunio i ddarparu trosolwg o’r cymorth y gall Chwaraeon Sir Benfro ei gynnig i ysgolion. Mae gan holl blant ysgolion Sir Benfro yr hawl i gael profiad o fuddion gweithgarwch corfforol cynhwysol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y rhoddir y sgiliau corfforol sylfaenol i blant a phobl ifanc o oed cynnar, a bod llythrennedd corfforol yn sgil datblygu yr un mor bwysig â darllen ac ysgrifennu. Mae cost anweithgarwch i’n gwasanaethau iechyd yn enfawr, ond mae’r gost i les ein pobl ifanc hyd yn oed yn fwy. “Mae 31% o blant Sir Benfro rhwng 4 a 5 oed dros eu pwysau neu’n ordew (bechgyn 34%, merched 28%). Y cyfartaledd cenedlaethol yw 26.5%.” (Iechyd Cyhoeddus Cymru, Rhaglen Mesuriadau Plant, 2013/14)
Gall Chwaraeon Sir Benfro helpu ysgolion i amlygu rhai o’r meysydd allweddol i’w gwella mewn chwaraeon ac addysg gorfforol, ac awgrymu rhaglen wedi’i theilwra i fwrw ymlaen â’r newidiadau hyn.
Ar wahân i’r buddion amlwg i iechyd a sgiliau corfforol gwell, mae addysg gorfforol a chwaraeon yn elfennau hanfodol o addysg gyflawn, sydd â’r gallu i wella perfformiad academaidd, gwydnwch, gallu i ganolbwyntio, gwaith tîm, hunanhyder, sgiliau arweinyddiaeth a chyflogadwyedd pobl ifanc.
Mae angen i ni sicrhau bod chwaraeon ysgol yn ddeniadol, hygyrch a fforddiadwy, a bod yr unigolion sydd â chyfrifoldeb dros gyflwyno chwaraeon ysgol yn hyderus a chymwys i gyflwyno’r pwnc. Os hoffech weithio gyda ni neu drafod y ffordd orau i gyflawni beth sydd ei angen arnoch, cysylltwch â ni. Gyda’n gilydd, gallwn eich helpu i ddatblygu disgyblion hapusach, iachach.
Yn ffodus, mae ysgolion mewn sefyllfa dda i chwarae eu rôl o ran newid diwylliant anweithgarwch. Gall arferion, sgiliau a hyder a ddysgir yn ifanc ddylanwadu ar sut mae pobl yn cymryd rhan am oes. Mae ysgolion yn dweud wrthym fod pobl ifanc neu blant eithriedig â diffyg hunanhyder wedi dod o hyd i rywbeth y gallan nhw ragori ynddo.
Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.
Mae gan Chwaraeon Sir Benfro her glir i wella lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith merched, plant anabl a phlant sy’n byw mewn tlodi, y mae’n rhaid iddynt gael mynediad da at ddarpariaeth o ansawdd er mwyn cyrraedd eu llawn botensial.
Ben Field Rheolwr Chwaraeon Sir Benfro Cyngor Sir Penfro
1
Cynorthwyo Ysgolion trwy Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
Chwaraeon Sir Benfro
Blaenoriaethau Mae rhai pethau’n bwysicach na rhai eraill ac, er mwyn gwneud y gwahaniaeth mwyaf, mae Chwaraeon Sir Benfro wedi amlygu’r 5 blaenoriaeth gwasanaeth ganlynol:
•
Annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol cynhwysol yn amlach a mabwysiadu ffordd o fyw iach yn gyffredinol (3 x yr wythnos ar gyfer pobl o bob oed).
•
Sicrhau bod pob plentyn (11 oed) yn fedrus mewn amgylcheddau seiliedig ar ddŵr.
•
Profiadau chwaraeon o ansawdd uchel mewn ysgolion ar gyfer pob plentyn ar draws pob cyfnod allweddol dysgu.
•
Cynyddu nifer y plant sy’n aelodau o glybiau chwaraeon cymunedol y sector gwirfoddol y tu allan i’r ysgol.
•
Parhau i ddatblygu gweithlu brwd a galluog, gan gynnwys gwella ansawdd a nifer y gwirfoddolwyr sy’n gysylltiedig â chwaraeon.
Yn rhan o’r blaenoriaethau hyn, byddwn yn canolbwyntio ar gynyddu cyfranogiad a gwella ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer merched, y rheiny ag anabledd, a’r rheiny sy’n byw mewn tlodi. 2
Chwaraeon Sir Benfro
Chwaraeon Sir Benfro
Pwy ydym ni? Ben Field
Rheolwr Chwaraeon Sir Benfro
Alan Jones
Swyddog Datblygu Chwaraeon/Swyddog Datblygu Golff
Lois Hilling
Swyddog Datblygu Chwaraeon
Russell Jones
Swyddog Datblygu Chwaraeon
Matt Freeman
Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol/Swyddog Datblygu Criced
Joanne Williams
Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol
Angela Miles
Swyddog Chwaraeon Anabledd
Amanda John
Swyddog Pobl Ifanc Egnïol. Tyddewi
Barry John
Swyddog Pobl Ifanc Egnïol. Aberdaugleddau
Dan Bellis
Swyddog Pobl Ifanc Egnïol. Abergwaun/ S.T.P
Elgan Vittle
Swyddog Pobl Ifanc Egnïol. Crymych
Rominy Colville
Swyddog Pobl Ifanc Egnïol. Tasker Milward
Wyndham Williams
Swyddog Pobl Ifanc Egnïol. Dinbych-y-pysgod
Menna Kerrison
Swyddog Pobl Ifanc Egnïol. Penfro
Chwaraeon Sir Benfro
Cysylltu â ni Os hoffech weithio gyda ni, cysylltwch â ni ar:
f: 01437 776191 e: sportpembrokeshire@pembrokeshire.gov.uk www.pembrokeshire.gov.uk/sport Hoffwch ni ar Facebook
Facebook/chwaraeonpembrokeshire
Dilynwch ni ar Twitter
@chwaraeonpembs
I gael copi o’r cyhoeddiad hwn mewn Braille, mewn print mwy bras, tâp sain neu mewn iaith arall, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro ar 01437 776613. 3
Cynorthwyo Ysgolion trwy Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
Chwaraeon Sir Benfro
Pa mor dda ydym ni? Gwirioni ar Chwaraeon =
CYFRANOGI
cynhelir ar ffurf gweithgarwch trefnedig, ar wahân i amser cwricwlwm, 3 gwaith neu fwy yr wythnos.
Disgyblion sy’n gwirioni ar chwaraeon Disgyblion sy’n gwirioni ar chwaraeon
100% 70%
89% 80%
63%
60% 50%
60% 40% 36% 30%
40%
20% 20%
10%
22%
0%
0%
Ysgolion Uwchradd
Ysgolion Cynradd
RHYW
Yn ysgolion cynradd Sir Benfro, mae bwlch cyfranogi o 67% rhwng yr ysgol uchaf a’r ysgol isaf.
Yn ysgolion uwchradd Sir Benfro, mae bwlch o 27% rhwng yr ysgol uchaf a’r ysgol isaf.
Disgyblion sy’n gwirioni ar chwaraeon (yn ôl rhyw)
Disgyblion sy’n gwirioni ar chwaraeon (yn ôl rhyw) 70%
100%
66% 60%
86%
80%
60%
50%
75%
40% 40%
60%
30%
40%
Bechgyn
31%
Merched 23%
20%
Bechgyn
20% 21%
10%
Merched
0%
0%
Ysgolion Uwchradd
Ysgolion Cynradd
Mae bwlch cyfranogi rhwng y rhywiau o 6% yn nifer y disgyblion ‘Gwirioni ar Chwaraeon’ yn ysgolion cynradd Sir Benfro
Mae bwlch cyfranogi rhwng y rhywiau o 10.5% yn nifer y disgyblion ‘Gwirioni ar Chwaraeon’ yn ysgolion uwchradd Sir Benfro
4
Chwaraeon Sir Benfro
“
I gynnal iechyd lefel sylfaenol, mae angen i blant a phobl ifanc rhwng 5 ac 18 oed gyflawni o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol cymedrol i ddwys, bob dydd.
”
(canllawiau’r GIG)
y plant sy’n aelodau o glybiau chwaraeon cymunedol y sector gwirfoddol y tu allan i’r ysgol.
AELODAETH CLWB
ALLGYRSIOL
Allgyrsiol = Clybiau chwaraeon ysgol y tu allan i’r cwricwlwm arferol.
Cyfranogi’n aml mewn chwaraeon allgyrsiol (o leiaf unwaith yr wythnos) 100% 85%
80% 60% 40% 20%
Aelodaeth o glwb chwaraeon = Nifer
21%
0%
Ysgolion Cynradd
Yn ysgolion cynradd Sir Benfro, mae bwlch o 64% rhwng yr ysgol uchaf a’r ysgol isaf.
Aelodaeth o Glwb Chwaraeon 100%
95%
80% 60% 40%
43%
20% 0%
Ysgolion Cynradd
Yn ysgolion cynradd Sir Benfro, mae bwlch o 52% rhwng yr ysgol uchaf a’r ysgol isaf.
Aelodaeth o Glwb Chwaraeon
Cyfranogi’n aml mewn chwaraeon allgyrsiol (o leiaf unwaith yr wythnos)
80% 75%
70% 60%
60%
56%
50% 40%
40%
46%
30%
32%
20%
20%
10% 0%
0%
Ysgolion Uwchradd
Ysgolion Uwchradd
Yn ysgolion uwchradd Sir Benfro, mae bwlch o 27% rhwng yr ysgol uchaf a’r ysgol isaf.
Yn ysgolion uwchradd Sir Benfro, mae bwlch o 24% rhwng yr ysgol uchaf a’r ysgol isaf.
Canfyddiadau arolwg chwaraeon ysgol Chwaraeon Cymru 2015 ar gyfer Sir Benfro. Os gwnaethoch gwblhau’r arolwg chwaraeon ysgol ac yr hoffech wybod beth yw safle’r ysgol o’i chymharu ag ysgolion eraill yn Sir Benfro a Chymru, cysylltwch â ni. 5
Cynorthwyo Ysgolion trwy Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
Chwaraeon Sir Benfro
Sut gallwn ni wneud Astud ia e th a u A c h os Merched (Clwb Pêl-droed Merched Fishguard Sports) Mae Clwb Pêl-droed Merched Abergwaun, a lansiwyd yn 2007, wedi creu cysylltiadau helaeth ag ysgolion lleol yn ardal Abergwaun a’r dalgylch. Fe wnaeth Dan Bellis, Swyddog Pobl Ifanc Egnïol Chwaraeon Sir Benfro, gynnal arolwg o ferched Ysgol Bro Gwaun i ddarganfod hoffterau chwaraeon y disgyblion. O ganlyniad uniongyrchol i’r arolwg, dechreuwyd cynnal sesiynau pêl-droed allgyrsiol i ferched yn yr ysgol. Er mwyn cynnal y gweithgaredd, sefydlodd Dan gyswllt â Chlwb Pêl-droed Fishguard Sports, a oedd yn falch iawn o helpu i greu clwb merched newydd.
Dywedodd un rhiant, y mae ei ferch yn chwarae i’r clwb, “Roedd fy merch yn ei chael hi’n anodd gwneud ffrindiau pan ddechreuodd yn yr ysgol uwchradd. Roedd yn eithaf swil ac yn dioddef diffyg hyder. Mae’r tîm pêl-droed i ferched wedi caniatáu iddi wneud ffrindiau newydd. Mae cymorth ac arbenigedd yr hyfforddwyr wedi gwneud gwahaniaeth mawr iddi, ac maent wedi ei hannog i ddatblygu ei phêl-droed.” Dywedodd Dan Bellis, Swyddog Pobl Ifanc Egnïol Chwaraeon Sir Benfro, “Yn sgil ymchwil, rydym yn gwybod bod merched yn tynnu nôl o chwaraeon, ac nid yw’r sefyllfa’n unigryw i Sir Benfro, ond rydym yn benderfynol o fynd i’r afael â hi. Mae’r clwb wedi creu cysylltiadau llwyddiannus â holl ysgolion bwydo Ysgol Bro Gwaun, a holl ysgolion eraill gogledd y sir, sy’n sylfaenol ar gyfer twf y gêm. I annog y merched, mae’r clwb wedi canolbwyntio ar feithrin amgylchedd o ymddiriedaeth a pharch. Rydym yn gwrando ar beth mae’r merched eisiau a gadael i hynny ffurfio beth rydym yn ei wneud. Rydym yn ceisio sicrhau bod pob merch sy’n dod i’r clwb yn cael amser gwych!”
Ar hyn o bryd, mae Cynghrair Merched Sir Benfro yn cynnwys 7 tîm a dros 50 o chwaraewyr yn cystadlu, ac mae’r clwb yn tyfu’n wythnosol, wrth i ferched newydd gael eu hysbrydoli i roi cynnig ar y gêm. Gyda chymorth grantiau’r Gist Gymunedol, mae’r clwb wedi gallu gosod ei hun ym mhen blaen y gêm i ferched yn Sir Benfro. Mae’r clwb wedi croesawu’r her o gyflwyno mwy o ferched i’r gêm yn ifanc.
Sgiliau Echddygol Sylfaenol (Ysgol Gynradd Casblaidd) Penderfynodd Mrs Wendy Raymond, Pennaeth Ysgol Gynradd Casblaidd, ddefnyddio gwasanaeth addysg gorfforol beripatetig Chwaraeon Sir Benfro i wella sgiliau echddygol sylfaenol yn ei hysgol.
sicrhau y byddai pob agwedd ar y cwricwlwm yn cael ei chynnwys, o gemau tîm i gymnasteg.” Mae’r sesiynau yng Nghasblaidd yn targedu disgyblion o ddosbarth meithrin rhan-amser i flwyddyn 6, ac mae llythrennedd corfforol yn ffocws allweddol ar gyfer yr ysgol.
Dywedodd Mrs Raymond, “Penderfynais ddefnyddio’r gwasanaeth i sicrhau bod fy nisgyblion yn cael y gwersi addysg gorfforol gorau posibl gan arbenigwr. Roeddwn i eisiau i addysg gorfforol fod yn bwnc oedd yn cael llawer o flaenoriaeth, a addysgwyd bob wythnos (p’un ai a yw’n glawio neu’n oer!), ac roeddwn i eisiau
“Mae’r effaith ar sgiliau echddygol sylfaenol y disgyblion yn glir. Pan aeth disgyblion blwyddyn 5 a 6 ar daith breswyl i Langrannog, dangosodd y disgyblion hynny â dyspracsia a’r rheiny â hyder isel, sgiliau da ar y wal ddringo, abseilio a 6
Chwaraeon Sir Benfro
gwahaniaeth? Prydau Ysgol am Ddim (PYDd) (Ysgol Gymunedol Doc Penfro) Cynyddodd presenoldeb y grŵp targed o 88.93% i 93.27%.
Penderfynodd Ysgol Gymunedol Doc Penfro ddefnyddio rhan o’u grant amddifadedd disgyblion i gynyddu chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith ei dysgwyr dan anfantais.
Dywedodd Carrie Slack, Swyddog Chwaraeon Sir Benfro, “Yn Ysgol Doc Penfro, rydym wedi ceisio creu cyfleoedd mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar, a fydd yn cael effaith ar les corfforol a’r gallu i wneud dewisiadau iach ynghylch ffordd o fyw.”
Dywedodd Mrs Michelle Thomas, Pennaeth Ysgol Gymunedol Doc Penfro, “Caiff ei gydnabod yn eang y gall plant o gefndiroedd dan anfantais gael mynediad cyfyngedig at gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol, y mae plant o gefndiroedd mwy cyfoethog yn eu cymryd yn ganiataol. Yn ein hysgol, penderfynom ddefnyddio athrawon a hyfforddwyr Chwaraeon Sir Benfro a allai ennyn diddordeb ein disgyblion trwy eu hoffter eu hunain o chwaraeon ac a allai fod yn fodelau rôl ar gyfer y pwnc.”
Dywedodd Mrs Michelle Thomas, Pennaeth Doc Penfro, “Ers rhoi’r sesiynau hyn ar waith yn yr ysgol, rydym wedi gweld newid sylweddol yn agwedd, ymddygiad a phresenoldeb plant. Mae’r plant wedi teimlo’n frwdfrydig ac awdurdodedig gan fod ganddynt fwy o ymreolaeth yn y sesiynau hyn, sydd ddim yn rhy gyfarwyddol ac yn caniatáu i’r disgyblion fod yn greadigol. Mae rhedeg rhydd wedi annog parch at bobl eraill, cymryd tro a bod yn ymwybodol o bobl eraill wrth fwynhau rhyddid symud. Trwy ddarparu ymyriadau mewn addysg gorfforol a gweithgarwch corfforol, mae hyder, brwdfrydedd a dyheadau'r bobl ifanc targedig wedi gwella.”
Mae gwasanaeth Chwaraeon Sir Benfro wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer clybiau bore, amser cinio ac ar ôl ysgol, yn targedu plant e-PYDd, yn enwedig y rheiny â phresenoldeb gwael. Cynhaliwyd arfarniad hefyd, er mwyn mesur yr effaith y mae’r gweithgareddau cyfoethogi y tu allan i oriau ysgol hyn wedi’i chael ar ein dysgwyr.
thrampolinio. Rwyf wir yn credu mai’r rheswm dros hyn yw cyflwyno sgiliau’n gyson ac yn dargedig yn ystod sesiynau addysg gorfforol,” meddai Mrs Raymond. Dywedodd Amanda John, Swyddog Chwaraeon Sir Benfro, sy’n cyflwyno addysg gorfforol yng Nghasblaidd, “Mae llythrennedd corfforol yn sylfaen i bopeth rydym ni’n ei wneud, ac mae’n sicrhau bod plant yn datblygu’r sgiliau cywir yn yr amgylchedd cywir. Bydd gan y plant yng Nghasblaidd y gallu a’r hyder nawr i gymryd rhan mewn nifer o chwaraeon a gweithgareddau gwahanol wrth iddynt fynd yn hŷn.” 7
Cynorthwyo Ysgolion trwy Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
Chwaraeon Sir Benfro
Sut gallwn ni wneud Astu d iaet h a u A c h o s Cynhwysiant Lansiwyd Clwb Pêl-fasged Cadair Olwyn Hwlffordd, sydd wedi’i leoli yn neuadd chwaraeon Ysgol Syr Thomas Picton, yn 2010, ar ôl i Angela Miles, Swyddog Chwaraeon Sir Benfro, amlygu galw lleol am y gamp. Mae’r clwb yn darparu cyfleoedd cynhwysol ac mae wedi bod yn hynod o lwyddiannus yn ennyn pobl frwdfrydig sydd eisiau rhoi cynnig ar bêl-fasged cadair olwyn.
Dywedodd mam Libi, ”Un prynhawn ddydd Sadwrn, aethon ni i sesiwn blasu Chwaraeon Sir Benfro, lle cafodd Libi ei phrofiad cyntaf o bêlfasged cadair olwyn, a’i chyfle cyntaf i roi cynnig ar gadair chwaraeon. Roedd yn wych ei gweld hi’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Ymunodd Libi â’r clwb ac mae bellach yn chwarae’n rheolaidd gyda hyfforddwyr brwdfrydig a grŵp gwych o chwaraewyr. Yn sgil eu hanogaeth, mae ei hyder, penderfyniad a brwdfrydedd wedi tyfu, ar y cwrt ac oddi arno, ac mae wedi arwain at annibyniaeth newydd. Mae Libi wedi mwynhau rhannu ei chwaraeon a’i ffrindiau o’r ysgol yn arbennig, sydd wedi cael eu croesawu i gydchwarae. Ychydig ar ôl ei phen-blwydd yn 9 oed, dywedodd Libi wrth ei ffisiotherapydd am ei theimladau ynghylch yr ymdeimlad o ryddid a deimlai ar y cwrt, a’r rhwystredigaeth oedd yn gysylltiedig â’i chadair olwyn ei hun, ac, ym mis Chwefror, cafodd gadair ysgafn ar gyfer defnyddiwr egnïol. Nawr, mae’n gallu cael y teimlad o gyflymder, annibyniaeth a rhyddid y mae’n ei gael ar y cwrt pêl-fasged, ym mhob agwedd ar ei bywyd.”
Dechreuodd Libi, 9 oed, o Ysgol Spittal, sy’n dioddef parlys yr ymennydd, gael gwersi nofio a bale, fel ei ffrindiau, pan oedd oddeutu 4 oed; fodd bynnag, wrth iddi eu gwylio nhw’n nofio ymhellach, neidio’n uwch a chydbwyso’n hirach, dechreuodd deimlo’n fwyfwy rhwystredig, a dros y blynyddoedd nesaf, rhoddodd Libi gynnig ar amrywiaeth o chwaraeon, heb ddod o hyd i’r union beth iddi hi.
Dywedodd Angela Miles, Swyddog Chwaraeon Sir Benfro, “Rydym wedi cyflwyno pêl-fasged cadair olwyn mewn ysgolion uwchradd ac wedi darparu sesiynau blasu allgyrsiol ar gyfer pobl ifanc, er mwyn iddyn nhw gael blas ar y gamp gyflym a chyffrous hon. Trwy hyn, gobeithiwn annog llawer mwy o chwaraewyr i gymryd rhan yn y gamp.”
8
Chwaraeon Sir Benfro
gwahaniaeth? Llais y Disgybl (Cyngor Chwaraeon Newydd yn Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau) Mae Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau wedi ceisio caffael safbwyntiau ei phobl ifanc trwy greu Cyngor Chwaraeon Ysgol. Ym mis Ionawr 2015, etholwyd 12 disgybl o flynyddoedd 7 i 11 gan y penaethiaid blwyddyn. Cynhelir y cyfarfodydd yn fisol, ar fore dydd Mercher, yn ystod gwers 1, a chânt eu cadeirio gan Barry John, Swyddog Pobl Ifanc Egnïol Chwaraeon Sir Benfro. Gwahoddir llysgenhadon ifanc arian yr ysgol i fynychu hefyd. Mae’r cynrychiolwyr yn llais ar gyfer eu grwpiau blwyddyn eu hunain, a gall y llais torfol hwn fod yn hynod o ddylanwadol wrth benderfynu pa ddarpariaeth chwaraeon i’w chyflwyno yn yr ysgol. Dywedodd Barry John, Swyddog Chwaraeon Sir Benfro, “Mae’r Cyngor Chwaraeon wedi rhoi llawer mwy o bwysigrwydd ar lais y disgybl, gan alluogi plant i ddweud eu dweud yn barhaus ynghylch y mathau o weithgareddau y cânt gymryd rhan ynddynt. Diben y prosiect cyntaf a amlygwyd yw cynyddu cyfranogiad ymhlith merched blwyddyn 7 ac 8. Bydd holiadur yn cael ei ddosbarthu i’w lenwi gan y merched, er mwyn amlygu gweithgareddau i’w cynnal ym mis Medi.”
Dywedodd Catrin Bowen, athro addysg gorfforol yn Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau, “Mae’r holl ddisgyblion yn ymwybodol o’r ffordd y gellir defnyddio’r Cyngor Chwaraeon i achosi newid. Yn y pen draw, rydym ni eisiau gwella profiadau chwaraeon cymaint â phosibl. Os yw plant yn cael dweud eu dweud ynghylch beth sy’n cael ei ddarparu, bydd yn arwain at unigolion mwy hyderus a mwy egnïol.”
Mae aelodau’r Cyngor Chwaraeon newydd yn cyflwyno gwasanaethau, yn diweddaru hysbysfyrddau, yn awgrymu digwyddiadau a chlybiau newydd, yn cynorthwyo Swyddog Pobl Ifanc Egnïol Chwaraeon Sir Benfro ac yn gwrando ar syniadau disgyblion eraill. Yn aml, mae plant o’r Cyngor Chwaraeon yn arwain sesiynau, felly maen nhw’n dysgu sgiliau hyfforddi ac arwain newydd. 9
Cynorthwyo Ysgolion trwy Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
Chwaraeon Sir Benfro
Sut gallwn ni wneud Astud ia e th a u A c h o s Cymorth Ymddygiad (Canolfan Ddysgu Penalun) Dywedodd Mrs Sian Williams, Pennaeth Canolfan Ddysgu Penalun, “Roeddwn yn aruthrol o falch o’r adborth a dderbyniom gan yr RNLI yn ystod rhaglen ‘Hit the Surf’. Cysylltwyd â nifer o aelodau o staff gan y rheiny a oedd yn cynnal y cwrs ynghylch lefelau ardderchog o ymgysylltiad y disgyblion, a safon uchel eu hymddygiad. Fel y gallwch ddychmygu, o ystyried ein cefndir, mae hyn yn rhywbeth eithaf rhyfeddol.”
Yng ngwanwyn 2015, dechreuodd Chwaraeon Sir Benfro weithio gyda disgyblion a staff Canolfan Ddysgu Penalun, gyda’r nod o ennyn y disgyblion i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a’u hannog i gyrraedd eu llawn botensial. Yn y Ganolfan Ddysgu, mae’r disgyblion yn cyflwyno anghenion dysgu cymhleth, ymddygiad heriol ac anawsterau emosiynol. Mae 64% o’r disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim. Yn aml, nid yw’r disgyblion wedi gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol a gynigir gan ysgolion prif ffrwd yn sgil ymddygiad heriol.
Wrth sôn am sut gall gweithgarwch corfforol greu amgylchedd unigryw, lle mae gan blant o bob gallu corfforol ac academaidd y potensial i ddod yn egnïol a chysylltiedig, dywedodd Mrs Williams, “Mae lles y disgyblion wedi cynyddu’n sylweddol gan fod llwyddiant wedi hybu hunan-barch. Mae’r plant yn awyddus i fynychu ac yn edrych ymlaen at weithgareddau. Mae’r disgyblion wedi mynd o gael cyfleoedd cyfyngedig iawn o ran chwaraeon ac ymarfer corff, i allu cael mynediad at nifer o fathau amrywiol yn rheolaidd.”
Dywedodd Wyndham Williams, Swyddog Pobl Ifanc Egnïol, “Mae Chwaraeon Sir Benfro wedi darparu amgylchedd diogel a pharchus i blant gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys: Ras Traeth Dinbych-y-pysgod, Hit the Surf, dodge ball, gwersi golff yn Trefloyne a Tour de Tenby. Yn ystod y ras ar y traeth, roedd yn amlwg nad oedd llawer o’r disgyblion erioed wedi bod i draeth o’r blaen, na chael profiad o’r teimlad o gerdded ar dywod.”
10
Chwaraeon Sir Benfro
gwahaniaeth?
Effaith hyfforddi staff ysgol (Ysgol Croesgoch) yn cynnwys 2 slot yn para 40 munud, un ohonynt yn ystod amser y cwricwlwm ac un amser cinio. Yn raddol, trosglwyddwyd y gwersi yn ôl i aelod staff yr ysgol yn ystod cyfnod y rhaglen, wrth i’w sgiliau a’i hyder ddatblygu.
Nod y prosiect hwn oedd uwch sgilio aelod o staff yr ysgol er mwyn gwella ei hyder yn cyflwyno addysg gorfforol. Gan gydnabod y gall fod yn anodd gweithredu beth sy’n cael ei ddysgu ar gwrs DPP yn ôl yn yr ysgol, bu modd i aelod o staff ddysgu oddi wrth Amanda John, Swyddog Chwaraeon Sir Benfro, yn ei amgylchedd ysgol ei hun.
Dywedodd Mrs J. Evans, Pennaeth Ysgol Croesgoch, “Mae hunan-barch y grŵp targed hwn wedi gwella’n sylweddol, fel y gwelir yn yr arolwg PASS. Hefyd, mae’r asesiad sgiliau echddygol (Portwood) yn dangos gwelliant ymhlith y grŵp targed.”
Amlygwyd rhai disgyblion gan y Pennaeth a’r cydlynydd addysg gorfforol. Roedd gan rai ohonynt ddiffyg hyder neu frwdfrydedd, ac roedd gan eraill sgiliau echddygol bras gwael. Roedd yr aelod staff a amlygwyd yn allweddol i lwyddiant y prosiect.
Dywedodd Amanda John, Swyddog Chwaraeon Sir Benfro, “Mae gan Ysgol Croesgoch aelod o staff sydd bellach yn teimlo’n fwy hyderus i gyflwyno sesiynau o ansawdd uchel, ac mae’n gallu rhannu’r arfer da hwn ymhlith ei chydweithwyr.”
Dewiswyd 10 o fechgyn a merched. Cyflwynodd Swyddog Chwaraeon Sir Benfro floc o sesiynau a oedd yn para 5 wythnos, oedd 11
Cynorthwyo Ysgolion trwy Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
Chwaraeon Sir Benfro
Pa wasanaethau y gallwn Gwasanaeth addysg gorfforol beripatetig
O dan gytundeb lefel gwasanaeth blynyddol, mae Chwaraeon Sir Benfro yn darparu athrawon a hyfforddwyr chwaraeon o ansawdd da i ysgolion cynradd Sir Benfro, i gyflwyno addysg gorfforol y Cwricwlwm Cenedlaethol, sesiynau cyfoethogi a chlybiau ar ôl ysgol. Mae buddion y gwasanaeth yn cynnwys gwella llythrennedd corfforol disgyblion, ystod ehangach o ddewisiadau o ran gweithgareddau i ddisgyblion, cysylltiadau rhwng yr ysgolion a chlybiau cymunedol lleol, a chyflwyno addysg gorfforol o ansawdd uchel yn gyson.
Cyfleoedd hyfforddi DPP ar gyfer staff ysgol
Caiff addysg gorfforol a chwaraeon ei haddysgu gan amrywiaeth eang o staff yn ysgolion Sir Benfro. Mae’r staff hyn yn amrywio o’r rheiny â phrofiad arbenigol iawn, i athrawon sydd ag ychydig o brofiad blaenorol o’r pwnc, neu hyfforddwyr sy’n cynnig cryn dipyn o sgil a gwybodaeth, ond gall fod angen cymorth ynghylch sut i sicrhau addysgu a dysgu effeithiol. Mae Chwaraeon Sir Benfro yn darparu ystod amrywiol o gyfleoedd DPP, a all fod yn allweddol i wella ansawdd darpariaeth mewn ysgolion. Gellir darparu hyfforddiant mewn nifer o ffyrdd gwahanol, o fynychu cyrsiau i fentora mewn amgylchedd ysgol. Enghraifft o gyfle o’r fath yw cyflwyno hyfforddiant sgiliau amrywiol i staff ysgolion cynradd.
Rhaglen llysgenhadon ifanc
Trwy’r rhaglen llysgenhadon ifanc, nod Chwaraeon Sir Benfro yw grymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i fod yn fodelau rôl ac arweinwyr trwy chwaraeon. Bydd gan yr ysgolion sy’n cofrestru ar gyfer y rhaglen lysgenhadon efydd ar lefel cynradd a llysgenhadon aur/arian ar lefel uwchradd, sy’n gweithredu fel llais cynrychioliadol ar gyfer chwaraeon yn eu hysgol.
Cydlynu gwyliau, cystadlaethau a digwyddiadau ysgolion
Mae cystadlaethau yn rhan annatod o chwaraeon ysgol ac mae Chwaraeon Sir Benfro yn trefnu ystod eang o ddigwyddiadau o griced i ferched i boccia. Anfonir calendr o ddigwyddiadau i ysgolion ym mis Medi ac mae’r twrnameintiau yn rhoi ffocws i ysgolion ddatblygu cystadleuaeth iach ac, yn aml, cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol.
Cysylltiadau gwell rhwng ysgolion a chlybiau cymunedol
Mae swyddogion yn cysylltu clybiau lleol ag ysgolion, er mwyn i ddisgyblion allu barhau â’u gweithgareddau chwaraeon yn y gymuned ymhell ar ôl iddynt adael yr ysgol. Rydym yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol i feithrin clybiau cynhwysol, cynaliadwy, gyda hyfforddwyr cymwysedig, a’u cyflwyno i safon uchel. Clybiau lle gall pobl ifanc gyrraedd eu potensial a chael hwyl.
Archwilio hoffterau disgyblion
Mae Chwaraeon Sir Benfro yn cynnal archwiliadau blynyddol mewn ysgolion i sicrhau bod disgyblion yn cael dweud eu dweud o ran beth yr hoffent ei wneud. Gall hyn fod y cam cyntaf tuag at achosi newid. 12
Chwaraeon Sir Benfro
ni eu darparu? Chwaraeon cynhwysol
Mae Chwaraeon Sir Benfro yn cynorthwyo ysgolion i gynyddu nifer y bobl ifanc anabl sy’n cymryd rhan reolaidd mewn chwaraeon yn yr ysgol a’r gymuned. Caiff y cwrs addysg gorfforol gynhwysol Sainsburys Active Kids 4 All ei gyflwyno gan Chwaraeon Sir Benfro, ac mae’n helpu ysgolion i sicrhau bod addysg gorfforol yn gynhwysol ac yn agored i bob dysgwr. Mae swyddogion mewn sefyllfa dda i gyfeirio cyfranogwyr anabl at glybiau cynhwysol i sicrhau eu datblygiad parhaus.
Defnydd effeithiol o’r grant amddifadedd disgyblion
Gall ysgolion gael cyngor ymarferol gan Chwaraeon Sir Benfro wrth gynllunio sut i ddefnyddio eu grant amddifadedd disgyblion. Mae gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gyfrwng ardderchog i godi cyflawniad pob disgybl dan anfantais. Mae gennym amrywiaeth ddefnyddiol o enghreifftiau yn dangos sut mae ysgolion wedi defnyddio’r arian hwn i effeithio ar les disgyblion.
Hyfforddiant Arweinyddiaeth Pobl Ifanc Egnïol
Mae Chwaraeon Sir Benfro yn cynnig cyfle i ysgolion uwchradd roi hyfforddiant gwerthfawr i bobl ifanc a chyfle i weithio gyda disgyblion iau, a dylanwadu arnynt. Mae hyfforddiant Pobl Ifanc Egnïol yn caniatáu i fyfyrwyr ddod yn rhan o weithlu chwaraeon mwy y sector gwirfoddol, ac mae hefyd yn darparu sgiliau arweinyddiaeth a allai gynyddu cyflogadwyedd.
Hyfforddiant cyfeillio
Mae’r hyfforddiant hwn yn becyn a ddarperir gan Chwaraeon Sir Benfro ac mae’n cael ei addasu i anghenion yr ysgol. Caiff plant eu dewis i fod ar ddyletswydd amser chwarae ac amser cinio. Bydd y plant hyn yn trefnu gemau, yn dod ag offer allan a’u dychwelyd, yn cadw llygad allan am fwlio, yn chwarae gyda phlant unig, yn helpu gyda mân anghydfodau a.y.y.b. Y bwriad yw rhoi ymdeimlad o gyfrifoldeb i rai o’r plant hŷn, a’u cynnwys nhw mewn datrys problemau a hyrwyddo gweithgarwch corfforol.
13
Cynorthwyo Ysgolion trwy Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
Rhaglen gwarbac Fferm Folly
Rhoddir gwarbac i bob dosbarth mewn ysgol, sy’n cynnwys offer sgiliau amrywiol. Caiff plentyn ei ddewis i fynd â’r gwarbac adref i chwarae gyda’r offer a llunio gêm y gall ei rhannu gyda’i gyfoedion yn ôl yn yr ysgol. Y rhesymeg yw gwella sgiliau sylfaenol ac, felly, cyfranogiad gydol oes mewn chwaraeon.
Gwobrau Chwaraeon Blynyddol Sir Benfro
Cyfle i ysgolion enwebu’r rheiny sy’n haeddu cydnabyddiaeth ledled y sir am eu cyfraniad i chwaraeon.
Grwpiau agored i niwed
Mae rhai ysgolion yn amlygu grwpiau o blant sy’n wynebu rhwystrau at gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac y mae arnynt angen cymorth ychwanegol, ym marn yr ysgol. Gall swyddogion a gyflogir i wneud y gwaith targedig hwn gyda phlant, wella sgiliau echddygol sylfaenol, hunanhyder a gwydnwch, a bydd sgil-effeithiau hyn yn amlwg yn ôl yn yr ystafell ddosbarth.
Gwella a datblygu chwaraeon allgyrsiol
Gall Chwaraeon Sir Benfro gynorthwyo ysgolion i ddatblygu rhaglen allgyrsiol, hwyl, trwy gydol y flwyddyn, sy’n ysgogi ac ysbrydoli pob disgybl. Gan roi pwyslais ar fwynhad, gall darpariaeth sy’n amrywio o godi hwyl i hoci greu amserlen allgyrsiol eang a chytbwys.
Cymorth arolwg chwaraeon ysgol
Gellir cynorthwyo ysgolion trwy’r broses arolwg chwaraeon ysgol, ac ar ôl derbyn eu hadroddiad, gellir eu cynorthwyo i lunio cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’i ganfyddiadau.
Darperir y mwyafrif o’r gwasanaethau a amlygir uchod yn rhad ac am ddim i ysgolion trwy gyllid grant. Gall ysgolion sydd â diddordeb mewn gwasanaethau neu ymyriadau pwrpasol brynu cymorth ac adnoddau ychwanegol. Mae Chwaraeon Sir Benfro yn gweithredu ar sail adfer costau yn unig – nid oes gennym ddiddordeb mewn gwneud elw.
Os hoffech drafod sut gall Chwaraeon Sir Benfro weithio gyda’ch ysgol, ffoniwch 01437 776191 e-bost: sportpembrokeshire@pembrokeshire.gov.uk
14
Chwaraeon Sir Benfro