Adroddiad Blynyddol 2018

Page 1

Adroddiad Blynyddol 2018


1.4K o ddilynwyr Twitter

261 hoffi Facebook

Y Cyfryngau Cymdeithasol

4,835 o drydariadau

18 trac

Podlediadau

Digwyd

559 rhediad Gwrandawyr o 37 o wledydd 12 Digwyddiad bob blwyddyn

Dr 50 o fyny flwy


1197 o ddefnyddwyr cofrestredig

Gwefan

Dros 24k o ddefnyddwyr y flwyddyn

Dros 10k rhediad y flwyddyn

E-fwletin

ddiadau

ros 00 ychwyr yddyn

Dros 66k golwg ar dudalennau y flwyddyn

678 golwg ar ffrydiau byw y flwyddyn

Darllenwyr o fwy na 25 o wledydd

Rhifyn gafodd ei ddarllen fwyaf: Gordewdra Plentyndod


Cynnwys CYFLWYNIAD 3 1. AMCANION AR GYFER 2017 / 2018 3 2. GRŴP CYNGHORI/ GRŴP CYFEIRIO/ HYRWYDDWYR LLEOL 4 3. AELODAETH 5 4. GWEFAN 5 5. PECYN CYMORTH A CHRONFA DDATA ARFER DA 5 6. CYNADLEDDAU, SEMINARAU A DIGWYDDIADAU 6 7. STRATEGAETH CYFATHREBU AC YMGYSYLLTU 13 8. CYNLLUNIAU I’R DYFODOL 13 9. MWY O WYBODAETH 14


Cyflwyniad Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth. Er gwaethaf yr hinsawdd cyffredinol o gyni ac adnoddau sy’n lleihau, mae gwaith rhagorol y tîm a chefnogaeth arbennig ein haelodau wedi ein galluogi i barhau i ddarparu ystod o gefnogaeth o ansawdd uchel fel y gwelir o’r adborth gan ein partneriaid a’n haelodau. Mae cryfder y rhwydwaith yn arbenigedd ac ymgysylltiad ein haelodau ac rydym yn parhau i weld hynny trwy’r digwyddiadau yr ydym wedi eu hwyluso a’r cyfraniadau rhagorol yr ydym yn eu derbyn yn rheolaidd ar gyfer ein e-fwletinau, ein podlediadau a’n nodweddion gwefan poblogaidd. Mae’r model grymuso democrataidd yr ydym wedi ei fabwysiadu wedi golygu bod yr aelodau eu hunain wedi llunio’r digwyddiadau yr ydym yn eu hwyluso, y meithrin gallu yr ydym yn ceisio ei gynnig a datblygiadau’r wefan a’r gwasanaethau eraill yr ydym yn eu darparu. Ac fel arfer, yr ymgysylltu gweithredol, brwdfrydig hwn sy’n ein hysgogi. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni anghenion ein haelodau ac yn datblygu’r rhwydwaith mewn ffordd effeithiol ac ymgysylltiol, gofynnwyd i gydweithwyr o’r isadran ymchwil gynnal gwerthusiad cynhwysfawr a gynhaliwyd yn ystod haf 2017 a’i gyhoeddi ym Mawrth 2018. Roedd hwn yn nodi ein bod yn darparu gwasanaeth gwerthfawr gyda llawer o adborth cadarnhaol. Fodd bynnag, mae yna feysydd y mae angen i ni eu gwella neu eu datblygu ymhellach a bydd y tîm yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r materion hyn dros y deuddeg mis nesaf.


Amcanion ar gyfer 2017 Nod Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yw creu rhwydwaith o ddiddordeb ar gyfer pawb sy’n gweithio ar faterion iechyd y cyhoedd yng Nghymru gyda chyngor, gwybodaeth a chefnogaeth amserol, o ansawdd. Mae ei amcanion fel a ganlyn: • Darparu a chynnal porth gwe ymgysylltiol a deniadol sy’n rhoi mynediad uniongyrchol i wybodaeth gynhwysfawr am iechyd y cyhoedd, eitemau newyddion cyfredol a newyddion sy’n dod i’r amlwg, ffrydiau fideo, briffiau ymchwil a thystiolaeth a chymunedau o ddiddordeb. • Er mwyn helpu i lywio a chefnogi datblygiad polisi iechyd y cyhoedd ac arfer gorau o ran iechyd y cyhoedd trwy ystod o ddigwyddiadau amserol chwarterol yn cynnwys seminarau a chynadleddau. • Hybu a chefnogi arfer da ym maes iechyd y cyhoedd trwy ddatblygu a lledaenu pecyn cymorth a chronfa ddata arfer da ar-lein y gellir ei lawrlwytho. • Ymateb mewn ffordd gyfredol i faterion iechyd y cyhoedd newydd a rhai sydd yn dod i’r amlwg gyda fforymau rhyngweithiol a’r cyfle i gymryd rhan mewn cymunedau ar-lein. Mae cylch gwaith y rhwydwaith yn cynnwys: • Darparu cymorth ac arweiniad i weithlu ehangach iechyd y cyhoedd. • Trefnu a hyrwyddo digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol ar destun thema iechyd y cyhoedd. • Creu a lledaenu e-fwletinau i aelodau cofrestredig o’r rhwydwaith. • Datblygu a chynnal cyfres o gronfeydd data i gefnogi ymarferwyr yn eu datblygiad iechyd y cyhoedd parhaus. • Hyrwyddo a chefnogi arfer da mewn mentrau iechyd y cyhoedd


Grŵp Cynghori, Grŵp Cyfeirio a Hyrwyddwyr Lleol Sefydlwyd Grŵp Cynghori i oruchwylio ac arwain gwaith Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r grŵp amlddisgyblaethol yn cynrychioli aelodau’r Rhwydwaith, ac yn ceisio annog pobl i weithio’n fwy cydweithredol yng Nghymru. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr ar draws sectorau, disgyblaethau a daearyddiaethau sydd â rôl i’w chwarae yn gwella iechyd y boblogaeth yng Nghymru. Mae ‘Cylchoedd gorchwyl’ a ‘datganiadau o ymrwymiad’ wedi eu sefydlu ar gyfer aelodau’r grŵp a chawsant eu cytuno a’u cadarnhau yn y cyfarfod agoriadol ar 24 Mawrth 2016 a’u hadolygu ym mis Chwefror 2018. Mae’r grŵp Cynghori’n cyfarfod yn chwarterol ac yn seinfwrdd gwerthfawr i’r tîm, gan sicrhau ein bod yn cadw ein ffocws, yn bodloni anghenion ein haelodau ac yn parhau i esblygu a gwella. Amlygodd yr alwad wreiddiol ar gyfer gwirfoddolwyr ar gyfer y Grŵp Cynghori frwdfrydedd ac ystod y diddordebau a’r profiad ymysg aelodau na allai’r Grŵp Cynghori ar ben ei hun, fanteisio’n llawn arnynt, felly mae ‘Grŵp Cyfeirio’ ehangach o aelodau wedi cael ei sefydlu hefyd. Maent yn darparu carfan o brofiad a gwybodaeth eang y gall tîm y rhwydwaith ei ddefnyddio pan fydd gan aelodau gwestiynau neu angen cyngor sydd y tu hwnt i’w harbenigedd proffesiynol. Mae’r ddau grŵp wedi bod yn werthfawr yn ein helpu i lunio a llywio datblygiad y rhwydwaith. Mae manylion aelodau’r grŵp Cynghori a Chyfeirio ar gael yn: http://www.publichealthnetwork.cymru/en/about-us/public-health-network-cymru-advisory-group/ Agwedd newydd bwysig ar y rhwydwaith yw ei rôl yn cefnogi a hyrwyddo gwaith aelodau ar y lefel leol ac er mwyn gwella’r cysylltiadau ar y lefel hon a chafodd nifer o wirfoddolwyr eu recriwtio i weithredu fel ‘Hyrwyddwyr Lleol’. Eu rôl yw gweithredu fel cyfrwng i’r rhwydwaith sianelu gwybodaeth yn ôl i dîm y rhwydwaith er mwyn gallu ei rannu’n ehangach tra’n rhaeadru gwybodaeth hefyd o’r tîm yn ôl i’r ardal leol.


Aelodaeth Cafodd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru ei lansio ym Mai 2015. Ers hynny, mae niferoedd aelodau cofrestredig y rhwydwaith yn dal i gynyddu gyda thros 1162 o aelodau ar 31 Mawrth 2018. Mae aelodau cofrestredig o’r Rhwydwaith yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgaredd Iechyd y Cyhoedd ar draws Cymru. Mae hyn yn cynnwys e-fwletinau, mynediad i nodweddion aelodau yn unig ar y rhwydwaith, gwahoddiadau i gynadleddau a seminarau a gynhelir gan Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’r cyfle i lywio seminarau a chynadleddau i’r dyfodol. Mae ystod eang o weithwyr proffesiynol wedi eu cofrestru gyda’r rhwydwaith yn cynnwys Gweithwyr Cymunedol, Gweithwyr Proffesiynol Amgylcheddol, Rheolwyr Ward, Rheolwyr Prosiect, Cyfarwyddwyr, Therapyddion Galwedigaethol, Ymarferwyr Iechyd y Cyhoedd ac Athrawon o bob sector a rhan o Gymru a thu hwnt.


Gwefan Mae’r wefan www.publichealthnetwork.cymru wedi parhau i esblygu, gydag thudalennau testun, newyddion a digwyddiadau newydd yn cael eu hychwanegu’n ddyddiol, cyfeiriadur gwasanaeth ac adnoddau estynedig a’r swyddogaethau rhyngweithiol canlynol: • Pecyn cymorth a chronfa ddata Arfer Da sy’n rhoi gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer ymarferwyr • Fideos ychwanegol i’r rhan fwyaf o’r tudalennau testun Er gwaethaf ychydig o rwystrau datblygiadol, llwyddodd y wefan i ymgorffori nifer o safleoedd ‘cysylltiedig’ yn cynnwys Uned Asesu Effaith ar Iechyd Cymru; Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd; y Gymuned Ymchwil a Datblygu; Canolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth a ‘Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif’. Yn ogystal mae ardaloedd o’r wefan wedi eu dyrannu i ‘Gymunedau o Ddiddordeb’ cysylltiedig yn cynnwys ‘Sgiliau Maeth am Oes’, ‘Lles Cenedlaethau’r Dyfodol’, ‘Rhwydwaith Amgylchedd ac Iechyd Cymru’ a ‘Brexit ac Iechyd y Cyhoedd’. Mae edrych ymlaen at ein ceisiadau i greu ymgysylltu trwy ‘fforymau’r wefan wedi bod yn anodd am amrywiaeth o resymau ac felly cafwyd mwy o bwyslais ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, yn arbennig Facebook, Twitter ac Instagram. Mae hyn hefyd wedi ein galluogi i ddefnyddio’r dechnoleg i ‘ffrydio’ ein digwyddiadau yn fyw. Mae’r datblygiad diweddaraf wedi arwain at sefydlu cyfres o Bodlediadau, sydd bellach yn cynnwys podlediadau ar: • Rhagfynegwyr Dementia – Lleihau’r risg gan yr Athro Peter Ellwood • Anableddau Dysgu mewn Ysbytai – Claire Jenkins a Joanne Edwards • Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant yng Nghymru a Thu Hwnt – Dr Christoph Hamelmann (WHO)Sexual Health – Dr Darren Cousins • Iechyd Rhywiol – Dr Darren Cousins • Alcohol a Phobl Hŷn – Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda. – Richard BroadwayHealthy • Heneiddio’n Iach – Robert Saddler • Hapchwarae – Wynford Ellis Owen (Yr Ystafell Fyw) • Cyffuriau ac Alcohol – Matthew Rafferty ac Andrew Misell • Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod – Yr Athro Mark Bellis • Trawsrywedd a mynediad i ofal iechyd – Jenny-Ann Bishop • Diogelwch yn yr haul a chanser y croen – Maura Matthews a Dr Rachel Abbott • Iechyd Meddwl: Cyfweliad Cymunedau yn Gyntaf – Ross Thomas a Ceri Smith • Iechyd y Galon: Cyfweliad Sefydliad Prydeinig y Galon – Ruth Coombes


E-fwletinau Mae’r tîm yn dal i ddarparu e-fwletinau misol i bob aelod. Mae’r rhain hefyd ar gael ar y wefan. Darperir yr e-fwletinau ar fformat ‘Ansawdd Uchel’ a pdf y gellir ei lawrlwytho. Mae pob rhifyn ar thema (Nodwedd Dan Sylw), fel arfer yn gysylltiedig â diwrnod iechyd cenedlaethol neu ryngwladol gydag erthyglau a nodweddion perthnasol wedi eu cyflenwi gan aelodau a rhanddeiliaid. Fodd bynnag, mae hefyd yn cynnwys ystod o wybodaeth gyfredol gyffredinol ar iechyd y cyhoedd yn cynnwys: ’Cael ei Holi’ sy’n amlygu naill ai aelod o’r rhwydwaith neu hysbysydd allweddol iechyd y cyhoedd yng Nghymru; ‘Straeon’ sydd yn dangos datblygiadau lleol a chenedlaethol; Crynodeb o’r Newyddion a ‘Digwyddiadau’ i ddod.

June 2017

Pecyn Cymorth a Chronfa Ddata Arfer Da

Mewn ymgais i rannu ymarfer a gwersi a ddysgwyd, mae’r rhwydwaith wedi sefydlu cronfa ddata ‘Ymarfer a Rennir’ ar y wefan lle gall aelodau cofrestredig lanlwytho prosiectau, rhaglenni a mentrau. Er mwyn cynyddu proffil ac ymwybyddiaeth o’r rhain ymhellach, ceir enghraifft ym mhob e-fwletin a bydd digwyddiadau’r sioe deithiol flynyddol yn neilltuo amser i brosiectau lleol. I gefnogi ymarferwyr ac eraill, ac i hybu arfer gorau, ceir adnoddau hefyd y gellir eu llwytho i lawr yn cynnwys ‘pecyn cymorth hunanasesu’ sydd ar gael yn yr adran Ymarfer a Rennir. Mae 26 o brosiectau wedi eu hamlygu ar hyn o bryd. Mae mwy o fanylion am ymarfer a rennir ar gael yn: http://www. publichealthnetwork.cymru/en/good-practice-directory


Cynadleddau, Seminarau a Digwyddiadau Egwyddor pwysig a sefydlwyd gan y rhwydwaith yw ymateb i anghenion aelodau a chynyddu’r cyfleoedd i aelodau gweithredol ymgysylltu. Un ffordd yr ydym wedi gwneud hynny yw trwy ofyn i aelodau bleidleisio am eu dewisiadau ar gyfer y gyfres seminarau blynyddol lle mae 3 seminar yn cael eu hwyluso bob blwyddyn. Mae’r broses hon wedi bod yn boblogaidd iawn a chawsom dros 121 o ymatebion i’r bleidlais ddiwethaf sydd yn llywio’r seminarau ar gyfer 2018/19. Y dewisiadau mwyaf poblogaidd a’r rhai fydd yn dod yn seminarau ar gyfer y flwyddyn nesaf yw: Maeth yn y Blynyddoedd Cynnar, Meddwl i’r Dyfodol ac Iechyd Meddwl yn y Gweithle. Cafwyd 140 o ymatebion i’r gwahoddiad i bleidleisio ar gyfres 2017/18, oedd yn cyflwyno seminarau ar: Mynychodd 48 o gynadleddwyr y seminar Newid Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor ar 4 Mai 2017. Wedi ei gadeirio gan Malcolm Ward o Iechyd Cyhoeddus Cymru, agorwyd y seminar gan yr Athro Rob Roger sydd wedi ei leoli yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor. Dilynwyd hyn gan ddau gyflwyniad yn canolbwyntio ar alcohol. Rhoddodd Marc Mordey o Alcohol Concern gyflwyniad o’r enw ‘Barddoniaeth, pêl-droed, dawnsio neuadd, a ffyrdd eraill o leihau niwed alcohol’ i fynd i’r afael ag ymddygiad alcohol. Rhoddodd yr Athro Miles Cox o Brifysgol Bangor gyflwyniad ar ‘Effeithiau Gwahaniaethol a Chwrs Arleisiol Hyfforddiant Sylwadol ac Ysgogiadol ar Yfed Eithafol.’ Roedd y ddau gyflwyniad nesaf yn canolbwyntio ar hapchwarae. Cyflwynodd yr Athro Simon Dymond o Brifysgol Abertawe gyflwyniad o’r enw ‘Ble yn y byd mae hapchwarae? Safbwynt Cymru’ a siaradodd Wynford Ellis Owen o Ystafell Fyw Caerdydd am ‘Trechu’r Ods – menter i helpu hapchwaraewyr eithafol.’ Canolbwyntiodd y cyflwyniadau terfynol ar gamddefnyddio sylweddau gyda chyflwyniadau gan Dr Wolf Livingston o Brifysgol Glyndŵr ar ‘Gamddefnyddio Sylweddau: Dadansoddi cyfraniad polisi a darpariaeth i ganlyniadau’ a hefyd Dr Lee Hogan o’r enw ‘Hwyluso adferiad i mewn i driniaeth.’


Yn sesiwn y prynhawn cafwyd 3 sesiwn baralel: • Therapi Derbyn ac Ymrwymo (ACT) ar gyfer camddefnyddio sylweddau: Dr Lee Hogan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr / Prifysgol Bangor • Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif: Rhiannon Hobbs, Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru • Cyfweld Ysgogiadol a Chwnsela - ‘Rhaglen Gwella a Datblygu Bywyd ar gyfer lleihau yfed.’: Dr Steven Hosier, Prifysgol Bangor Mae fideos o’r cyflwyniadau a fideo cryno o’r diwrnod ar gael yn: https://www.publichealthnetwork.cymru/en/get-involved/sound-and-vision?topic-areas%5B%5D=2358&keywords= Yr ail seminar yn 2017 oedd Meddyliau Iach ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol: Hybu Lleihau’r Risg o Ddementia. Cynhaliwyd y digwyddiad, wedi ei gadeirio gan Daisy Cole, Cyfarwyddwr Llesiant a Grymuso gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd ar 14 Rhagfyr. Mynychodd 37 o gynadleddwyr gyda 50 arall yn dilyn y ffrwd fyw ar Twitter. Cyflwynodd yr Athro Peter Elwood OBE, Ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd, y cyflwyniad cyntaf. Enw cyflwyniad Peter oedd ‘Rhagfynegwyr Dementia – Lleihau’r Risg’. Roedd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar y gwaith yr oedd ef a’r Is-adran Meddygaeth Poblogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ei wneud ar Astudiaeth Cohort Caerffili. Yn dilyn hyn, cyflwynodd Phill Chick, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Uned Gyflenwi Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMUHB), ‘Gwneud Lleihau’r Perygl o Ddementia yn Flaenoriaeth i Gymru’. Roedd cyflwyniad Phill yn cynnwys lleihau risg a pham y dylai fod yn flaenoriaeth, i bwy a beth oedd wedi cael ei wneud hyd yn hyn. Roedd y cyflwyniad terfynol yn drosolwg byr o raglen gwirfoddolwyr ‘In Your Shoes - We Get It’ a gyflwynwyd gan Sue Phelps, Cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer Cymru gyda Nigel, gŵr bonheddig sy’n byw gyda dementia. Rhoddodd Nigel gipolwg personol i’r cynadleddwyr ar ei brofiadau o fyw gyda dementia a’r stigma yn ei gylch. Mae cyflwyniadau unigol ar gael ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru https:// www.publichealthnetwork.cymru/en/get-involved/past-event/healthy-minds-for-future-generations-promoting-dementia-risk-reduction/ Ar ôl yr egwyl am ginio, cymerodd y cynadleddwyr ran mewn 3 gweithdy paralel: • Bod yn Egnïol Trwy Gydol Bywyd – Offeryn i helpu i leihau’r perygl o ddementia a helpu’r rheiny gyda dementia wedi ei hwyluso gan Chwaraeon Cymru • Dementia a Rôl ein Cyfoeth Naturiol wedi ei hwyluso gan Gyfoeth Naturiol Cymru • Amgueddfeydd sy’n gyfeillgar i ddementia wedi ei hwyluso gan Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru.


Rôl Gweithwyr Iechyd Perthynol i Iechyd ym Maes Iechyd y Cyhoedd oedd ffocws y seminar terfynol. Denodd y seminar, a gynhaliwyd yn Neuadd Brangwyn yn Abertawe ar 14 Mawrth 2018 wedi ei chadeirio gan Judi Rhys, cyfarwyddwr anweithredol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, 43 o gynadleddwyr gydag 84 arall yn dilyn y ffrwd fyw ar Twitter. Agorwyd y diwrnod gan Dr Gill Richardson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Soniodd Gill am rôl Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a sut maent yn rhan bwysig o Iechyd y Cyhoedd. Dilynwyd hyn gan ddau gyflwyniad, Judith John – Pwyllgor Cynghori ar Therapi Cymru a Linda Hindle – Arweinydd Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Arweinydd Ymgysylltu Cenedlaethol, Gwasanaethau’r Heddlu, Tân ac Ambiwlans Public Health England. Soniodd Judith am y Fframwaith Strategol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a’r ffordd y maent mewn safle allweddol yng Nghymru i sefydlu egwyddorion gofal iechyd ataliol ar draws yr ystod o wasanaethau a thrwy eu cysylltiadau gyda niferoedd sylweddol o’r boblogaeth, er mwyn gwneud cyfraniad gwerthfawr i ganlyniadau iechyd y cyhoedd. Rhoddodd Linda gyflwyniad ar ‘Dystiolaeth ac Effaith Cyfraniad Proffesiynau Perthynol i Iechyd i Iechyd y Cyhoedd’. Rhannodd Linda wybodaeth am rôl a llwyddiannau Proffesiynau Perthynol i Iechyd yn Lloegr a’r hyn sydd wedi cyfrannu at y llwyddiannau hynny. Cynhaliwyd tri gweithdy yn ystod y prynhawn yn cynnwys ‘Datblygu’r Gweithlu’; ‘Arddangos Effaith’; ac ‘Iechyd a Llesiant ar Draws y GIG’.


Sioe Deithiol Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017 – ‘Ymarfer Addawol’ Nodwedd reolaidd a phwysig o raglen y rhwydwaith yw’r ‘sioe deithiol’ flynyddol. Mae hon yn gyfle i fynd â’r rhwydwaith allan ar draws Cymru i ymgysylltu ag aelodau yn eu lleoliadau. Mae’r amcanion yn cynnwys hyrwyddo’r rhwydwaith, cael safbwyntiau gan aelodau a llywio datblygiad parhaus y rhwydwaith er mwyn iddo fodloni’r anghenion sy’n cael eu cyfleu gan aelodau. Fodd bynnag, er bod ffocws sioeau teithiol blaenorol ar hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r rhwydwaith, teimlwyd ar ôl 2 flynedd o ddatblygiad y dylai’r ffocws symud i amlygu gwaith yr aelodau. Felly, thema digwyddiadau 2017 oedd ‘Ymarfer Addawol’ gyda phwyslais ar arddangos yn lleol mewn mentrau. Cynhaliwyd y digwyddiadau yng Nghaerdydd (Canolfan yr Holl Genhedloedd), Rhaeadr (Gwesty Cwm Elan), Cyffordd Llandudno (Canolfan Fusnes Conwy) a Chaerfyrddin (Canolfan Halliwell) trwy gydol Mai 2017 Canolbwyntiodd rhan gyntaf y diwrnod ar roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau presennol a chyflwyno aelodau newydd i’r Rhwydwaith a’i swyddogaethau. Rhoddodd Malcolm Ward, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd a Rheolwr y Rhwydwaith, drosolwg o’r Rhwydwaith, sut mae wedi datblygu er 2015 ac amlygodd rhai o’r cynadleddau a’r seminarau allweddol, y mae’r Rhwydwaith wedi bod yn gysylltiedig â’u trefnu yn ystod y cyfnod hwn. Dangoswyd fideo ‘Powerpoint’ byr hefyd yn amlygu rhai o swyddogaethau’r Rhwydwaith yn cynnwys yr e-fwletinau a’r fforymau wedi eu diweddaru. Roedd rhan sylweddol o sesiwn y bore yn canolbwyntio ar arddangos prosiectau lleol a’u gwaith. Roedd hyn unwaith eto mewn ymateb i adborth o ddigwyddiadau 2016 lle’r amlygodd y rheiny wnaeth fynychu eu bod eisiau cyfle i rannu eu gwaith a rhwydweithio gyda phrosiectau eraill o’u hardal. Cafodd prosiectau gyfle naill ai i gyflwyno eu gwaith o fewn cyfnod neilltuol o 10 munud a / neu ddarparu stondin arddangos oedd ar gael i’w weld trwy gydol y dydd. Cafwyd ymateb da i’r adran hon a gellir gweld y prosiectau oedd yn arddangos eu gwaith yn y tabl isod. Roedd hwn hefyd yn gyfle i hyrwyddo’r Pecyn Cymorth a’r Cyfeiriadur Ymarfer a Rennir ymhellach, ac mae nifer o’r prosiectau wedi ychwanegu eu manylion i’r Cyfeiriadur ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ers i’r digwyddiadau gael eu cynnal. Awgrymodd adborth gan ddigwyddiadau sioeau teithiol blaenorol fod aelodau eisiau i’r Rhwydwaith gyflwyno mwy o hyfforddiant. Felly yn dilyn cinio, gwahoddwyd y mynychwyr i fynychu sesiwn ymwybyddiaeth Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) o dan arweiniad Carol Waldron, Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rhoddodd y sesiwn ddwy awr hon gyfle i bobl ganfod mwy am MECC a’r hyn y mae’n ei gynnwys, a chyflwyniad i wefan newydd MECC sydd yn cynnwys nodweddion fel e-ddysgu. Yn ystod pob digwyddiad, mynychodd cynrychiolydd o un o’r Timau Iechyd y Cyhoedd lleol hefyd i roi manylion am wybodaeth ynghylch sut i gael hyfforddiant pellach.


Prosiectau a arddangosodd eu gwaith Mynychodd cyfanswm o 80 o aelodau’r 4 digwyddiad yn cynnwys cynadleddwyr o Fyrddau Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Awdurdodau Lleol, y Sector Academaidd a’r Trydydd Sector.

Caerdydd • • • • • • • • •

Ynglŷn ag Ap Me Autism Athletic Creations Caerdydd Autism Soundwalk Sefydliad Prydeinig y Galon Cymdeithas Tai Derwen Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda Ovarian Cancer Action Switched On (PHT Caerdydd a’r Fro) Tîm Allgymorth Iechyd Rhywiol YMCA a Chynllun CERDYN-C Caerdydd

Conwy • • • • • • • • • •

Gofal Arthritis yng Nghymru Sefydliad Prydeinig y Galon Llinell gymorth C.A.L.L. / Dementia Cymru / DAN 247 Gofal a Thrwsio CONTACT , Siop Wybodaeth Wrecsam, Gwasanaeth Iechyd Rhywiol Pobl Ifanc DAISY (System Dehongli Mynediad Digidol) Nyth/Nest – Cynllun Tlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru FPA Jiwsi Rhedeg Cymru Ymgyrch SEXtember

Rhaeadr • • • • • • •

Sefydliad Prydeinig y Galon Arts 4 Wellbeing Deiet neu Anhwylder? Gofal Arthritis yng Nghymru Imiwneiddiadau – O’r Crud i’r Bedd Rhedeg Cymru Rhoi’r Gorau i Smygu yn Ystod Beichiogrwydd

Caerfyrddin

• Sefydliad Prydeinig y Galon • Cynghorwyr Ffordd o Fyw Iach • Gwiriadau Diogelwch Tân yn y Cartref / Byw’n Ddiogel, yn Iach ac yn Annibynnol (SWAIL) • Rhedeg Cymru • Ovarian Cancer Action • Lles Drwy Waith • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant


Cynhadledd Genedlaethol – Iechyd Rhywiol yng Nghymru ar gyfer y Genhedlaeth Bresennol a Chenedlaethau’r Dyfodol. Cynhaliwyd cynhadledd y rhwydwaith eleni ar 22 Mawrth yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd. Gyda’r teitl ‘Iechyd Rhywiol yng Nghymru ar gyfer y Genhedlaeth Bresennol a Chenedlaethau’r Dyfodol, archwiliodd y gynhadledd faterion a nodwyd yn Adolygiad diweddar Llywodraeth Cymru o Iechyd Rhywiol yng Nghymru. Agorwyd y diwrnod gan Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru. Siaradodd Dr Atherton am ei brofiadau blaenorol yn ogystal â’r heriau yr ydym yn eu hwynebu ar draws Cymru a’r ffordd y mae gwasanaethau o dan bwysau gyda’r galw cynyddol. Aeth i’r afael ag ataliaeth yng nghyd-destun STI, beichiogi yn yr arddegau a diagnosis cynnar ar gyfer triniaeth, yn ogystal ag ystyried sut y gallwn gyfathrebu’n well gyda’r cyhoedd er mwyn osgoi stigma’n ymwneud â chlefydau. Dilynwyd hyn gan ddau gyflwyniad: cyflwynodd Dr Giri Shankar, Ymgynghorydd Arwain ar gyfer Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, wybodaeth yn ymwneud â’r Adolygiad Iechyd Rhywiol diweddar yn cynnwys yr amcanion, y fethodoleg a ddefnyddiwyd, prif ganfyddiadau a’r camau nesaf yn dilyn hyn. Rhoddodd Adam Jones, Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd (Polisi), Iechyd Cyhoeddus Cymru a Dr Rachel Drayton, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gyflwyniad ar y Rhaglen Proffylactig Cyn Cyswllt PrEPP yng Nghymru. Yna cafwyd pedwar gweithdy mewn sesiwn baralel yn cynnwys: • Chlamydia Swab Sych / Prawf Gonorea yn y Gymuned • Arferion Ysgol sydd yn Bwysig i Iechyd Rhywiol Myfyrwyr: Dadansoddiad o Arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yng Nghymru • Cyflwyno rhaglenni addysg iechyd rhywiol i bobl ifanc agored i niwed mewn lleoliadau addysg a chymunedol. • Rhyw, Rhianta a Phobl ag Anabledd Dysgu Dechreuodd sesiynau’r prynhawn gyda chyflwyniad ar ‘Gydberthynas iach yn y Cwricwlwm Cymreig’ gan Dr. Honor Young o DeCIPHER ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd Dr Young hefyd yn aelod o’r Panel Cydberthynas iach a helpodd i lywio’r cwricwlwm Cymreig newydd. Roedd cyflwyniad olaf y dydd gan Dr. Laetitia Zeeman o Brifysgol Brighton. Cyflwynodd Dr. Zeeman y canfyddiadau o ymchwil Iechyd ar gyfer LGBTI a gomisiynwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd. Astudiaeth beilot oedd hon a gynhaliwyd dros 2 flynedd a daeth i ben ym Mawrth 2018. Y nod oedd i leihau anghydraddoldebau iechyd ymysg pobl LGBTI. Mae cyflwyniadau a fideos unigol o’r diwrnod ar gael trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk neu gellir cael mynediad iddynt ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.


Partneriaid a rhanddeiliaid Yn ogystal â digwyddiadau’r rhwydwaith ei hun, rydym wedi cyfrannu at ystod o ddigwyddiadau eraill yn cynnwys: • Unwaith eto, cefnogodd y rhwydwaith gydweithwyr o’r Is-adran Ymchwil i gyflwyno eu Digwyddiad Arddangos ymchwil blynyddol. Cynhaliwyd digwyddiad 2018 o’r enw ‘Ymchwil, Polisi ac Ymarfer Iechyd y Cyhoedd: Ymchwil gydag Effaith’ yn Adeilad Haydn Ellis ym Mhrifysgol Caerdydd ar 8 Mawrth 2018. Denodd y digwyddiad 110 o gynadleddwyr gyda 290 arall yn dilyn y ffrydio byw ar Twitter. • Gweithiodd y rhwydwaith gyda chydweithwyr o’r Is-adran Bolisi ac o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd i gynnal 11eg darlith flynyddol Julian Tudor Hart. Cynhaliwyd y ddarlith yn adeilad Julian Hodge ym Mhrifysgol Caerdydd ar 16 Tachwedd 2017 ac roedd yn cynnwys yr Athro Syr Michael Marmot a gyflwynodd ‘The health gap: the challenge of an unequal world’. Mynychodd tua 300 o gynadleddwyr gyda 74 arall yn gwylio’r ffrydio byw neu ei recordiad wedi hynny. Mae fideo o’r ddarlith ar gael yn https://www.publichealthnetwork.cymru/en/get-involved/past-event/julian-tudor-hart-lecture-2017/ • Gweithiodd tîm y rhwydwaith gyda chydweithwyr ar draws y gyfarwyddiaeth i helpu i hwyluso ymweliad astudio ar gyfer cydweithwyr Ewropeaidd fel rhan o brosiect VulnerABLE wedi ei ariannu gan yr UE. Cymerodd 20 o gyfranogwyr o 5 gwlad Ewropeaidd ran yn yr ymweliad deuddydd oedd yn canolbwyntio ar ‘Gydgynhyrchu a grwpiau agored i niwed’ ar 6 a 7 Gorffennaf 2017. Yn ogystal â sesiynau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Hyb Gwyddorau Bywyd, ymwelwyd â phrosiect Gweithredu yng Nghaerau a Threlai (ACE) yng Nghaerdydd hefyd. • Helpodd y tîm i hwyluso Gweithdy rhagolwg yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 20 Hydref 2017. Cymerodd 32 o gyfranogwyr ran yn y gweithdy a gyflwynwyd gan Dr Henk Hilderink o RIVM (Sefydliad Cenedlaethol yr Iseldiroedd dros Iechyd y Cyhoedd a’r Amgylchedd). • Cynrychiolwyd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd mewn nifer o ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan randdeiliaid a phartneriaid yn cynnwys diwrnodau Croeso, Ymgysylltu, Rhwydweithio a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru lle darparwyd stondin a recriwtiwyd aelodau newydd o’r rhwydwaith.


Adroddiadau Adroddiad Gwerthuso Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Cynhaliodd y rhwydwaith werthusiad cynhwysfawr i sicrhau ei fod yn bodloni ei amcanion a’i fod yn bodloni amcanion ei aelodau a’i randdeiliaid. Cynhaliwyd y gwerthusiad trwy gydol yr haf ac roedd yn cynnwys holiadur ar-lein, cyfres o gyfweliadau ffôn lled-strwythuredig a grŵp ffocws gydag aelodau o’r grŵp cynghori. Daeth adborth a gasglwyd oddi wrth 139 o aelodau gan ddefnyddio cymysgedd o arolygon ar-lein, cyfweliadau dros y ffôn a grŵp ffocws i’r casgliad “Ar y cyfan, mae gwaith y Rhwydwaith yn cael derbyniad cadarnhaol gan aelodau a’r rhanddeiliaid. Mae rhan fwyaf o nodau ac amcanion y Rhwydwaith yn cael eu bodloni i ryw raddau er bod rhywfaint o le i wella mewn meysydd fel hwyluso trafodaethau y mae aelodau’n cymryd rhan ynddynt, helpu i ddarparu cydweithrediadau yn y dyfodol ac os yn bosibl, codi ymwybyddiaeth o waith Iechyd Cyhoeddus Cymru i bartneriaid ‘nad ydynt yn rhai traddodiadol’. Webinarau Wrth i ni barhau i ddatblygu i fodloni anghenion ein haelodau, rydym yn parhau i chwilio am ffyrdd newydd o annog ymgysylltu gweithredol. Er nad yw webinarau’n gysyniad newydd, nid ydynt wedi cael eu cynnwys o’r blaen ymysg y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ac felly ymchwiliodd cynhyrchydd cynnwys y rhwydwaith y posibilrwydd o’r cyfrwng hwn. Mae wedi llunio canllaw ‘sut i’ defnyddiol o ganlyniad i’r ymchwiliadau hyn.


Cynlluniau i’r Dyfodol Mae’n amlwg bod y cyfryngau cymdeithasol wedi rhoi cyfle i wella ymgysylltu â’n haelodau ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn dal i’w ddefnyddio wrth symud ymlaen. Mae aelodau yn y gorffennol wedi gofyn am fwy o hyfforddiant a chyfleoedd datblygiad personol a byddwn yn parhau i archwilio’r posibilrwydd o’r rhain trwy ein digwyddiadau a chan ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar gael i ni. Ein gobaith yw gallu darparu cyfleusterau Webinar i aelodau a chlymu’r rhain i mewn i rai o’n digwyddiadau. Rydym yn ceisio datblygu ein gwefan yn barhaus ac ymddengys bod ein strategaeth cyfryngau cymdeithasol yn helpu trwy ddarparu proffil uwch gyda llawer o randdeiliaid allanol a sefydliadau o’r un anian, yn ogystal â chynyddu ein hygyrchedd i aelodau presennol a newydd. Byddwn yn parhau i ddarparu ein cyfres seminarau wedi ei llywio gan yr aelodau yn ogystal â chynhadledd genedlaethol. Byddwn hefyd yn ceisio ymgysylltu partneriaid priodol wrth ddatblygu a chyflwyno’r digwyddiadau hyn. Mae’r testunau seminar sydd wedi eu de is gan aelodau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys: Maeth yn y Blynyddoedd Cynnar; Meddwl i’r Hirdymor: Rhagweld y Dyfodol; Iechyd Meddwl yn y Gweithle a Phobl Hŷn ac Ynysu Cymdeithasol. Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu cyfle lleol i aelodau rannu a hyrwyddo eu gwaith trwy ein sioeau blynyddol gyda thema, fydd, ar gyfer 2018, ar Arddangos Cynaliadwyedd mewn partneriaeth â’n cydweithwyr o’r Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd.


Mwy o Wybodaeth

Mae mwy o wybodaeth am bob agwedd ar y rhwydwaith yn cynnwys proses gofrestru syml, am ddim, ar-lein ar wefan y rhwydwaith yn: http://www.publichealthnetwork.cymru/en/ (Saesneg) neu http://www.publichealthnetwork.cymru/cy/ (Cymraeg) Neu drwy anfon e-bost publichealth.network@wales.nhs.uk Yn ogystal, ceir cyfrifon Facebook, Twitter a YouTube.


Mae’r tÎm yn cynnwys Malcolm Ward Malcolm.Ward2@wales.nhs.uk

Marie Griffiths Marie.Griffiths2@wales.nhs.uk

Catherine Evans Catherine.Evans10@wales.nhs.uk

Sarah James Sarah.James10@wales.nhs.uk

Jamie Lee-Wyatt Jamie-Lee.Wyatt@wales.nhs.uk

Rebecca Winslade Rebecca.Winslade@wales.nhs.uk Sorin Annuar Sorin.Annuar@wales.nhs.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.