Creative Connections: Arts and Health Welsh

Page 1

CYSYLltiadau Creadigol

Casgliad o Astudiaethau Achos Arddangos Mentrau Celfyddydol, Iechyd a Llesiant yng Nghymru Gorffennaf 2019


CYFLWYNIAD Yn ystod Gwanwyn 2019 cynhaliodd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru nifer o ddigwyddiadau ‘sioe deithiol’ i hyrwyddo mentrau lleol a chenedlaethol a oedd yn defnyddio’r celfyddydau i hybu iechyd a llesiant yng Nghymru. Mae sail dystiolaeth sy’n datblygu’n gyflym o’r ffyrdd y gall y celfyddydau ddylanwadu ar iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol (gweler y llyfryddiaeth). Defnyddir sbectrwm llawn y celfyddydau mewn lleoliadau cymunedol ac iechyd, gan gynnwys: Cerddoriaeth: Mae manteision cerddoriaeth yn berthnasol i fwynhad goddefol a chyfranogiad gweithredol. Er enghraifft, gall canu i bobl hŷn effeithio ar forâl, ansawdd bywyd sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl, unigrwydd, pryder ac iselder. Mae cerddoriaeth yn cael ei defnyddio mewn amryw o leoliadau gwahanol, yn amrywio o ofal dwys i ofal cymdeithasol a’r gymuned. Mae ymyriadau’n cynnwys datganiadau, gweithdai drymio a chanu mewn corau. Celfyddydau Perfformio: Yn cynnwys unrhyw beth o theatr i ddawns, gall y ‘celfyddydau perfformio’ greu buddion, gan gynnwys cefnogi llesiant emosiynol.

Celfyddydau a Chrefftau Gweledol: P’un a yw’n baentio, cerflunio, creu crefftau neu fathau eraill o gelfyddwaith gweledol a chyffyrddol, mae’r gweithgareddau hyn yn cael eu defnyddio ers tro oherwydd eu gwerth adsefydlu a therapiwtig. Mae tystiolaeth yn dangos y gall gweithgareddau’r celfyddydau gweledol, o bob math, leihau iselder a phryder a chynyddu hyder a hunanhyder ymhlith oedolion. Barddoniaeth, Ysgrifennu Creadigol ac Adrodd Storïau: Mae’r gair llafar ac ysgrifenedig yn gyfryngau ar gyfer mynegi a dylanwadu ar wahanol agweddau ar iechyd a llesiant, o ymgysylltu a chefnogi pobl sy’n byw gyda dementia, i fynd i’r afael â materion cymdeithasol allweddol, megis salwch meddwl, digartrefedd a gofal diwedd oes. Mae’r canllaw byr hwn yn ceisio pwysleisio’r cyfleodd posibl i Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus a’u sefydliadau partner gefnogi eu Cynlluniau Iechyd a Llesiant lleol drwy ddefnyddio sgiliau, arbenigedd a pharodrwydd cynhenid yr unigolion ymroddedig sy’n darparu mentrau arloesol a chyffrous y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant ar hyd a lled Cymru.


Cynnwys Cerddoriaeth: Cerddoriaeth â Gofal mewn Ysbytai yng Nghymru Corws Forget-me-not Corau Sing with Us: Tenovus Live Music Now Donniau Cudd – Canolfan Gerdd Canu ar gyfer Iechyd yr Ysgyfaint (Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint) Côr Un Galon Wrecsam (CAIS) Taiko Cymru Music and the Muse – Gweithdai ar gyfer Llesiant Celfyddydau Perfformio: Meddyginiaeth Berfformio Dance 4 Parkinson’s Strictly Parkinsons Dancing Dawns i Bawb Motion Control Dance Celfyddydau a Chrefftau Gweledol: Oriel yr Aelwyd, Llandochau Re-Live Chapter Voices –Rhaglen sy’n Gyfeillgar i Ddementia cARTrefu Cymru (Preswyliadau artistiaid mewn cartrefi gofal) RAY Ceredigion: Clonc a Chrefft (Craft and Chat) Creu: Hynt Lost in Art (Celfyddydau Gweledol a Dementia) Arts Care Gofal Celf Artisans Collective Communities

Barddoniaeth, Ysgrifennu Creadigol ac Adrodd Storïau: Ffrindiau Darllen (Llenyddiaeth Cymru) People Speak Up: Story Care & Share Bright Flowers PEAK: Caban Sgriblio Preswyliad barddoniaeth mewn uned gofal lliniarol Cymysg: Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru Celf-Able Four in Four Disability Arts Cymru Inside Out Cymru Arts4Dementia


Cerddoriaeth Cerdd â Gofal Cymru Mae Cerdd â Gofal Cymru yn darparu sesiynau cerddoriaeth fyw rhyngweithiol i bobl sy’n derbyn gofal neu driniaeth mewn lleoliadau gofal iechyd ar hyd a lled y DU. Rydym yn ceisio gwneud i bobl deimlo’n dda, un diwn ar y tro. Mae cerddoriaeth yn rhan annatod o’n bywydau. Mae gan bob un ohonom hoff gân neu diwn sy’n ein hatgoffa o amser arbennig neu foment a rannwyd gyda rhywun arall. Ers 1948, mae Cerdd â Gofal Cymru wedi cael y pleser o gyfrannu at a thystio i’r eiliadau hudol y gall cerddoriaeth fyw eu creu mewn unrhyw fath o leoliad gofal. Rydym wedi dysgu y gall rhannu’r profiad o berfformiad cerddorol byw helpu i leihau lefelau pryder, poen ac iselder, yn ogystal â dileu rhwystrau cymdeithasol a diwylliannol. Gwefan: https://mihc.org.uk/wales/ Ffôn: 02920 391415 Facebook: https://www.facebook.com/MiHCUK/ Twitter: https://twitter.com/mihcwales Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Ar draws y DU gyfan.

Corws Forget-me-not Mae Corws Forget-me-not yn elusen fach, sy’n gweithio ar draws Casnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae ein hymarferion côr wythnosol yn agored i bobl ag unrhyw fath o ddementia, sy’n dod gyda ffrind neu aelod o’u teulu fel arfer, ac maent yn ddigwyddiadau cefnogol, sy’n normaleiddio, ac sy’n llawn chwerthin a chanu. Mae gennym gorau cymunedol yng Ngogledd Caerdydd, De Caerdydd a Chasnewydd, corau cartrefi gofal ar gyfer preswylwyr yn Nhŷ Penylan, Tŷ Nazareth a Tŷ Enfys yng Nghaerdydd a Chapel y Grange yng Nghasnewydd. Rydym hefyd yn cynnal côr ar y ward ddementia yn Ysbyty Llandochau.

Gwefan: https://www.forgetmenotchorus.com Ffôn: 02922 362064 Facebook: https://www.facebook.com/ForgetMeNotChorus/ Twitter: https://twitter.com/FMNChorus Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Casnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg


Cerddoriaeth Corau Sing with Us: Tenovus Mae ein corau Sing with Us yn hwyliog, yn gyfeillgar ac yn codi calon, ac maent yn agored i unrhyw un sydd wedi’u heffeithio gan ganser, p’un a ydych yn glaf, yn oroeswr, yn ofalwr neu’n rhywun sydd wedi cael profedigaeth oherwydd canser. Nid oes angen i chi allu darllen cerddoriaeth na bod yn ganwr gwych i ymuno – mae pob llais yn cyfrif. Mae pob un o arweinwyr ein Côr Gofal Canser Tenovus yn gerddorion proffesiynol sy’n gweithio fel rhan o’n Tîm Cymorth Canser ac maent yn cael eu cefnogi gan ein gwirfoddolwyr gwych sy’n gwneud yn siŵr bod pob un o’n haelodau newydd yn cael eu croesawu.

Gwefan: https://www.tenovuscancercare.org.uk/how-we-can-helpyou/sing-with-us/ Ffôn: 02920 768850 Facebook: Twitter: Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Cymru Gyfan

Live Music Now Mae Live Music Now yn fenter ar draws y DU gyfan, a grëwyd gan Yehudi Menuhin ac Ian Stoutzker ym 1977. Bob blwyddyn, mae ein cerddorion yn darparu miloedd o raglenni cerddoriaeth rhyngweithiol mewn cartrefi gofal ac ysbytai ac amrediad o leoliadau cymunedol a gofal iechyd. Rydym hefyd yn gweithio mewn ysgolion arbennig, lle gall cerddoriaeth wneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant a’u teuluoedd. Mae ein cymorth a hyfforddiant arbenigol yn darparu sgiliau a chyflogaeth i gerddorion ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd proffesiynol, ar draws pob math o gerddoriaeth. Mae LMN yn gweithio gydag amrediad eang o bobl sy’n anaml iawn, os o gwbl, yn cael y cyfle i brofi cerddoriaeth fyw. Gwefan: http://www.livemusicnow.org.uk/wales Ffôn: 02920 488654 Facebook: https://www.facebook.com/livemusicnow Twitter: https://twitter.com/livemusicnowuk Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Y DU gyfan


Cerddoriaeth Hidden Talents - Doniau Cudd Sesiynau cerddoriaeth wythnosol integredig i oedolion ag anableddau dysgu. Mae’r sesiynau yn bwysig iawn i’r 30 o oedolion sy’n eu mynychu ar hyn o bryd. Iddynt hwy, mae cerddoriaeth yn ddull o gyfathrebu a mynegi eu hunain ac mae hefyd yn helpu i fagu hyder ac i ddysgu sgiliau newydd.

Gwefan: https://cgwm.org.uk Ffôn: 01286 685 230 Facebook: https://www.facebook.com/cgwmathias/ Twitter: https://twitter.com/cgwmathias Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Gogledd Cymru

Canu ar gyfer Iechyd yr Ysgyfaint Gall cerddoriaeth a gweithgareddau creadigol eraill wneud i chi deimlo’n fwy iach a phositif. Mae tystiolaeth gynyddol sy’n dangos bod canu’n rheolaidd fel rhan o grŵp yn dda i’ch iechyd a’ch llesiant yn gyffredinol. Mae’n ymddangos bod hyn yn effeithiol iawn fel ffordd o wella ansawdd eich bywyd os ydych yn byw gyda chyflwr ar eich ysgyfaint. Bydd y sesiynau Canu ar gyfer Iechyd yr Ysgyfaint yn cwmpasu ymarferion anadlu, caneuon a thechnegau ymlacio amrywiol. Cynlluniwyd y sesiynau i fod yn bleserus a diddorol, yn ogystal â’ch helpu gyda’ch symptomau. Gwefan: https://www.blf.org.uk/support-for-you/singing-for-lunghealth/join-a-group Ffôn: 03000 030 555 Facebook: https://www.facebook.com/singingforlunghealthcardiff/ Twitter: Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Cymru Gyfan


Cerddoriaeth Côr Un Galon Wrecsam Sefydlwyd Côr Un Galon Wrecsam ym mis Medi 2018 ac mae ar gyfer pobl sydd wedi profi digartrefedd, dibyniaeth, problemau iechyd meddwl neu sydd fel arall ar yr ymylon. Mae’r côr yn cael ei gynnal gan CAIS sy’n rhan o’r teulu Choir With No Name.

Gwefan: https://www.cais.co.uk/services/wrexham-one-love-choir/ Ffôn: 01978 314 314 Facebook: https://www.facebook.com/pages/category/Choir/WrexhamOne-Love-Choir-297359604308915/ Twitter: https://twitter.com/WxmOneLoveChoir Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Wrecsam

Taiko Cymru Mae ffocws penodol llawer o’n gwaith yng Nghymru wedi datblygu, o ganlyniad i ysbrydoliaeth gan brofiad proffesiynol Heather ac Ursula fel therapydd cerddoriaeth a therapydd celf, yn y drefn honno, a chan waith blaenorol James ym maes y Celfyddydau ac Iechyd. Yn gweithredu o dan yr enw “GEN~KI” (gen=ffynhonnell~ ki= egni), rydym wedi darparu gweithdai gyda phwyslais ar iechyd a llesiant i sefydliadau sydd yn cynnwys Cymdeithas Strôc Pen-y-bont ar Ogwr a Chymdeithas Gofalwyr Rhondda Cynon Taf.

Gwefan: https://taikowales.com/ Ffôn: 01873 812215 Facebook: https://www.facebook.com/abertaiko/ Twitter: https://twitter.com/abertaiko Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Canolbarth a De Cymru


Cerddoriaeth Music and the Muse Rydym yn grŵp deinamig o ymarferwyr y celfyddydau sydd â phrofiad o arwain gweithdai creadigol, prosiectau cymunedol a digwyddiadau ‘celfyddydau mewn iechyd’ yng Nghymru. Mae’r rhain wedi cynnwys gweithdai cerddoriaeth, hyfforddiant ‘Sut i gynnal gweithdy’, gweithdai llesiant a Hyfforddiant Cymryd Rhan yn y Celfyddydau ar gyfer eiriolaeth a’r Sector Gofal. Gyda sgiliau cyfunol ein grŵp, gallwn ddysgu drymio taiko, drymio samba, trawiadau creadigol a chylchoedd drymiau, canu digyfeiliant ac ysgrifennu caneuon, gallwn ddarparu gweithdai ysgrifennu creadigol, yoga a digwyddiadau ymwybyddiaeth ofalgar neu unrhyw gyfuniad o’r rhain. Gwefan: https://musicandthemuse.com/ Ffôn: 07811628247/07425143038/07984859905 Facebook: https://www.facebook.com/MusicAndTheMuse/ Twitter: Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Canolbarth, Gorllewin a De Cymru

Celfyddydau Perfformio

Performing Medicine yng Nghymru Mae Performing Medicine yn bodoli i gynorthwyo gweithwyr iechyd proffesiynol i ddarparu gofal tosturiol, o ansawdd uchel. Rydym yn mynd ar drywydd y genhadaeth hon drwy hyfforddiant a chyrsiau, ymchwil, eiriolaeth a digwyddiadau cyhoeddus sy’n seiliedig ar y celfyddydau. Mae Performing Medicine yn un o fentrau Clod Ensemble, a sefydlwyd gan Suzy Wilson, ac sy’n cael ei arwain gan dîm bychan, deinamig. Mae ein hagwedd unigryw yn cael ei chyflawni gan grŵp o artistiaid arloesol sy’n defnyddio syniadau a thechnegau o’r celfyddydau perfformio a gweledol. Gwefan: https://performingmedicine.com/ Ffôn: 020 7749 0555 Facebook: Twitter: https://twitter.com/performingmed1 Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Abertawe a De-orllewin Cymru


Celfyddydau Perfformio Dance for Parkinson’s Disease Mae Dance for PD®, a sefydlwyd yn 2001, yn cynnig dosbarthiadau dawnsio arbenigol i bobl â chlefyd Parkinson, eu teuluoedd, ffrindiau a’u partneriaid craidd mewn wyth lleoliad o amgylch Dinas Efrog Newydd a thrwy ein rhwydwaith o is-gwmnïau mewn mwy na 300 o gymunedau mewn 25 o wledydd ar draws y byd. Mae Dance for PD yn gwahodd pobl â chlefyd Parkinson i gael mwynhad a budd o ddawn, a mynd i’r afael yr un pryd â phryderon am symptomau penodol o ran cydbwysedd, gwybyddiaeth, sgiliau motor, iselder a hyder corfforol.

Gwefan: https://danceforparkinsons.org Ffôn: 020 77490555 Facebook: https://www.facebook.com/cgwmathias/ Twitter: https://twitter.com/cgwmathias Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Gogledd Cymru

Strictly Parkinson’s Dancing Mae Parkinsons UK wedi ymuno â chwmni dawns lleol i greu’r digwyddiad Parkinson’s Does Strictly cyntaf. Nid oes angen unrhyw brofiad a gallwn hyd yn oed eich paru gyda phartner, os ydych yn mynd ar eich pen eich hun. Bydd yn rhaid i ddawnswyr ymrwymo i o leiaf un noson o hyfforddiant yr wythnos, am 8-10 wythnos cyn y sioe.

Gwefan: https://www.blf.org.uk/support-for-you/singing-for-lunghealth/join-a-group Ffôn: 03000 030 555 Facebook: https://www.facebook.com/singingforlunghealthcardiff/ Twitter: Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Cymru Gyfan


Celfyddydau Perfformio Dawns I Bawb Dawns i Bawb yw’r sefydliad Dawns Cymunedol ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru ac mae’n datblygu darpariaeth ddawns ar draws siroedd Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Rydym yn cydweithio ac yn creu gyda phobl a chymunedau, ac ymarferwyr dawns amatur a phroffesiynol, coreograffwyr a chwmnïau. Credwn y gall unrhyw un ddawnsio a cheisiwn eirioli manteision dawns i’n cymunedau yng nghyd-destun twf personol, iechyd a llesiant cymdeithasol, rhyngweithio cymdeithasol a chymunedol a hunaniaeth ddiwylliannol.

Gwefan: http://dawnsibawb.org/eng/index.html Ffôn: 01286 685 220 Facebook: https://www.facebook.com/dawnsibawb Twitter: https://twitter.com/dawnsibawb Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Gwynedd, Conwy and Ynys Môn

Motion Control Dance Ers 1997, mae Emma Mallam, sefydlydd Motion Control Dance, yn Ne Cymru, wedi darparu cyfleoedd a phrofiadau mewn cymuned ddawns ym Mro Morgannwg. P’un a yw’n ddawnsio er mwyn cael hwyl, ffitrwydd neu weithio at yrfa broffesiynol, mae wedi gweithio mewn lleoliadau addysgol a chymunedol, yn addysgu cannoedd o blant, pobl ifanc ac oedolion bob blwyddyn. Ei harwyddair yw rhoi ‘Cyfle i Bawb Ddawnsio’. Sefydliad gwych sy’n cael ei redeg gan aelodau â dyfalbarhad a phenderfyniad i helpu pobl o bob oed ac anabledd.

Gwefan: https://www.motioncontroldance.com/ Ffôn: 07725038778 Facebook: https://www.facebook.com/motioncontroldance Twitter: https://twitter.com/MCD_ance Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Bro Morgannwg


Celfyddydau a Chrefftau Gweledol Oriel yr Aelwyd Gyda chefnogaeth gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, rydym, yn datblygu portffolio amrywiol o gelf ac artistiaid, mannau creadigol unigryw fel Oriel yr Aelwyd, rydym yn bywiogi wardiau ein hysbytai gyda cherddoriaeth a lliw. Mae Oriel yr Aelwyd yn ofod arddangos unigryw yng nghanol Ysbyty Llandochau. Dyma’r cyntaf o’i fath yng Nghymru. Rydym yn gweithio gydag artistiaid a grwpiau i gynnal rhaglen amrywiol a helaeth o arddangosfeydd cyffrous, sy’n newid bob ychydig wythnosau. Rydym yn croesawu pob cynnig a chyflwyniad ar gyfer arddangosfa. Un o brif flaenoriaethau rhaglen gelfyddydol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw gwella’r amgylcheddau y mae ein cleifion yn byw ac yn derbyn triniaeth ynddynt yn ystod eu hamser ym maes gofal eilaidd. Gwefan: https://cardiffandvale.art/work/visual-arts/ Ffôn: Facebook: Twitter: Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Caerdydd a Bro Morgannwg

Re-live Mae Re-Live yn elusen sydd wedi ennill gwobrau, sy’n darparu rhaglen ysbrydoledig, ddeinamig o waith Theatr Storïau Byw. Wedi ein lleoli yng Nghaerdydd, rydym yn gweithio gyda phobl a chymunedau, yn eu grymuso i rannu eu profiadau, er mwyn i gynulleidfaoedd hen ac ifanc glywed storïau heb eu hadrodd o’n hoes ni. Mae ein proses greadigol yn tywys pobl ar daith drawsnewidiol ac yn lleoli eu stori yn ganolbwynt y broses. Gall y broses hon fod yn gyffrous, gall rhyddhau a newid bywyd. Mae ein cynyrchiadau theatr wedi cynnwys cyn-filwyr gydag anhwylder straen wedi trawma, pobl â diagnosis o salwch terfynol a phobl sy’n byw gyda dementia. Gwefan: http://www.re-live.org.uk/ Ffôn: Facebook: https://www.facebook.com/ReLiveTheatre/ Twitter: https://twitter.com/Re_Live_Org Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Caerdydd


Celfyddydau a Chrefftau Gweledol Chapter Voices: Rhaglen sy’n Gyfeillgar i Ddementia Mae pobl â dementia yn rhan bwysig o’n cymuned yn Chapter ac rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni, fel lleoliad, yn darparu amgylchedd hamddenol, cefnogol a chynhwysol er mwyn i bobl allu dod at ei gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd. Un o fy nhasgau cyntaf oedd edrych ar yr hyn oedd yn cael ei gynnal yn yr ardal leol i bobl â dementia; yn wreiddiol er mwyn ceisio gwneud yn siŵr nad oedd ein dangosiadau ffilm misol sy’n gyfeillgar i ddementia yn gwrthdaro ag unrhyw glinigau neu grwpiau cymorth rheolaidd eraill. Yn Chapter, ein nod yw dangos y GALLWN wneud gwahaniaeth ac y gallwn ni, fel cymuned, gydweithio i wella ansawdd bywyd, darparu cysur, a lleihau unigedd i bobl â dementia a’r rhai sy’n eu caru. Gwefan: https://www.chapter.org Ffôn: 029 2030 4400 Facebook: https://www.facebook.com/groups/DementiaFriendlyChapter/

cARTrefu Cymru (Preswyliadau artistiaid mewn cartrefi gofal) Mae Cartrefu, yn rhaglen bedair blynedd sy’n ceisio gwella mynediad at brofiadau celfyddydol o safon i bobl hŷn mewn gofal preswyl. Rydym yn rhoi blaenoriaeth i uchelgeisiau artistig ac anghenion pobl hŷn y gwaith dylunio a darparu, gan sicrhau eu bod yn ganolbwynt i’r prosiect hwn, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring.

Gwefan: https://www.gwanwyn.org.uk/cartrefu/ Ffôn: Facebook:

Twitter: https://twitter.com/chaptertweets

Twitter:

Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Caerdydd

Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Cymru Gyfan


Celfyddydau a Chrefftau Gweledol RAY Ceredigion: Clonc a Chrefft

Creu: Hynt

Mae RAY Ceredigion Clonc a Chrefft yn grŵp o oedolion cyfeillgar a chroesawgar sy’n cwrdd i rannu sgiliau crefft, gan ddefnyddio deunyddiau wedi eu hailgylchu yn aml. Clonc a Chrefft – gwneud eitemau crefft diddorol i fynd adref gyda hwy.

Mae Hynt yn gynllun mynediad cenedlaethol newydd sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydol yng Nghymru i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr â nam neu ofynion mynediad penodol ac i’w Gofalwyr a’u Cynorthwywyr Personol. Os oes angen cefnogaeth neu gymorth arnoch i fynychu perfformiad mewn theatr neu ganolfan gelfyddydol, yna efallai y byddwch yn gymwys i ymuno â Hynt. Rydym yn cynnal symposiwm bob blwyddyn ar gyfer ein staff lleoliadau a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio yn y sector. Mae Hynt yn fenter Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n cael ei rheoli gan Creu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru.

Gwefan: https://www.rayceredigion.org.uk/ Ffôn: 01545 570686 Facebook: https://www.facebook.com/Cwtshcrefft/

Gwefan: https://www.hynt.co.uk/en/ Ffôn: Facebook: https://www.facebook.com/hynt2014

Twitter: https://twitter.com/rayceredigion

Twitter: https://twitter.com/we_are_hynt

Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Ceredigion

Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Cymru Gyfan


Celfyddydau a Chrefftau Gweledol Lost in Art (Celfyddydau Gweledol a Dementia) Mae Lost in Art yn brosiect celfyddydau gweledol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Nod y prosiect yw archwilio rôl y celfyddydau gweledol yn mynd i’r afael â materion a all effeithio ar bobl â dementia, gan gynnwys ynysu cymdeithasol, hyder, cyfathrebu ac ansawdd bywyd. Datblygwyd y prosiect gyda chymorth y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor ac roedd yn rhan o brosiect ymchwil Dementia a’r Dychymyg. Gwefan: https://arts4dementia.org.uk Ffôn: 07717540857 Facebook: https://www.facebook.com/Arts4Dementia/ Twitter: https://twitter.com/celf_dcc_arts?lang=en-gb Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Gogledd Cymru

Arts Care Gofal Celf Mae Gofal Celf yn datblygu, rheoli a darparu prosiectau a gweithdai celfyddydol mewn lleoliadau amrywiol, gan gynnwys gwaith ym meysydd iechyd a llesiant, addysg, grwpiau ieuenctid a grwpiau cymunedol, pobl hŷn, pobl ag anableddau, gwyliau a digwyddiadau a’r rhai sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol. Gallwn ddarparu gweithdai a phrosiectau sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o ffurfiau ar y celfyddydau ac rydym bob amser yn barod i siarad â chi a datblygu prosiect gan ddefnyddio ffurfiau ar y celfyddydau ac artistiaid y byddwn yn credu fydd yn gweddu orau i’ch nodau penodol chi. Gwefan: http://www.acgc.co.uk/wordpress/?lang=en Ffôn: 01267 243815 Facebook: https://www.facebook.com/artscaregofalcelf/ Twitter: https://twitter.com/artscare Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Caerfyrddin


Celfyddydau a Chrefftau Gweledol Artisans Collective Communities Sefydlwyd y Cymunedau Crefftau yn ystod 2012 gan grŵp o grefftwyr ac artistiaid lleol a oedd yn trefnu a chymryd rhan mewn marchnadoedd Crefftwyr wythnosol ar Stryd Fawr Prestatyn. Fodd bynnag, canfu’r grŵp yn gyflym iawn bod galw mawr am weithgareddau iechyd a llesiant. Yn arbennig er mwyn galluogi dinasyddion i heneiddio’n dda yn ein hardal leol. Ers agor ym mis Tachwedd 2014 mae’r ganolfan wedi datblygu i fod yn ganolfan gymunedol, oherwydd y galw lleol am y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn awr. Gwefan: https://artisans-collective.org.uk/ Ffôn: Facebook: https://www.facebook.com/Artisans Twitter: https://twitter.com/ArtisanWales Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Prestatyn

Barddoniaeth, Ysgrifennu Creadigol ac Adrodd Storïau Ffrindiau Darllen Wedi ei gyflwyno mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus, cymunedau lleol a sefydliadau gwirfoddol, bwriad y cynllun yw galluogi, cynnwys ac ymgysylltu pobl hŷn a phobl sydd â dementia a Gofalwyr trwy sbarduno sgyrsiau wrth ddarllen. Caiff Ffrindiau Darllen ei gyd-gynhyrchu gyda phobl hŷn, a’i gyflwyno gan wirfoddolwyr.

Gwefan: https://www.literaturewales.org/our-projects/reading-friends/ Ffôn: 029 2047 2266 (Cardiff) & 01766 522 811 (Ty Newydd) Facebook: Twitter: Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Conwy ac Abertawe


Barddoniaeth, Ysgrifennu Creadigol ac Adrodd Storïau People Speak Up: Story Care & Share Cyfarfodydd bob pythefnos i bobl sydd wedi eu heffeithio gan neu sy’n byw gyda chyflwr iechyd neu gymdeithasol. Cyfle i gwrdd â beirdd, awduron a storïwyr mewn gofod diogel dros de a chacen.

Gwefan: https://peoplespeakup.co.uk/story-care-and-share Ffôn: 07972 651920 Facebook: https://www.facebook.com/Peoplespeakup-1585346641515703/ Twitter: Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Llanelli

Bright Flowers Cyfres o chwe sesiwn ysgrifennu creadigol yng Nghaerfyrddin i fenywod sydd wedi goroesi cam-drin domestig, gyda’r awdur Mel Perry, write4word. Mae’r sesiynau’n gyfle i’r cyfranogwyr fynegi eu hunain drwy farddoniaeth a chân er mwyn hyrwyddo cynhwysiad cymunedol, hyder a hunanddatblygiad ehangach a chyflawni canlyniadau creadigol ymarferol ac wedi’u cofnodi. Gwefan: https://www.literaturewales.org/our-projects/ Ffôn: 07814 172 996 Facebook: https://www.facebook.com/Write4Word-255816194466315 Twitter: https://twitter.com/write4word?lang=en Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Caerfyrddin


Barddoniaeth, Ysgrifennu Creadigol ac Adrodd Storïau PEAK: Caban Sgriblio Mae Caban Sgriblio yn gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc o ysgolion a chymunedau ar draws y Mynydd Du. Mae’r gweithdai yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu ac archwilio eu natur greadigol drwy ysgrifennu a ffilm. Mae’n brosiect Diwylliant, Iechyd a Llesiant sy’n cael ei redeg gan Peak a’i ariannu gan Plant mewn Angen y BBC er mwyn rhyddhau potensial plant a phobl ifanc 8 i 18 oed. Yn ystod y 2 ½ flynedd diwethaf, mae Caban Sgriblio wedi gweithio gyda 153 o bobl ifanc ar draws De Powys, Blaenau Gwent a Sir Fynwy: o Ystradgynlais i Bont-y-pŵl. Mae pobl ifanc wedi mwynhau archwilio eu bywydau a’u hymdeimlad o le drwy farddoniaeth a ffilm; gan ddatblygu hyder, datblygu sgiliau cyfathrebu a rhannu eu profiad trwy fod yn greadigol. Gwefan: https://peak.cymru/caban-sgriblio/ Ffôn: 0 1873 811579 Facebook: https://www.facebook.com/peakcymru/ Twitter: https://twitter.com/peakcymru Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Canolbarth a De-ddwyrain Cymru

Preswyliad barddoniaeth mewn uned gofal lliniarol Yn ystod y preswyliad hwn bu’r bardd Mererid Hopwood yn cwrdd â staff a theuluoedd cleifion yn yr Uned Gofal Lliniarol yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn ogystal â’r rhai sy’n derbyn gofal yn y gymuned. O’i thrafodaethau, fe greodd gyfres o gerddi yn archwilio diwedd oes a marwolaeth. Bydd y cerddi’n cael eu defnyddio fel adnodd ar gyfer trafod y themâu anodd hyn, yn arbennig yn ystod hyfforddiant staff ar gyfer ymarferwyr iechyd.

Gwefan: https://peak.cymru/caban-sgriblio/ Ffôn: 01970628848 Facebook: Twitter: Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Aberyswyth


Cymysg Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru Mae Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru yn rhwydwaith sy’n ehangu’n gyflym o gydweithwyr sy’n gwneud gwaith celfyddydol ac iechyd yng Nghymru. Mae’r Rhwydwaith yn cynrychioli aelodau o sectorau’r celfyddydau, iechyd ac Addysg Uwch ac mae’n cynnwys ymarferwyr sy’n gweithio ar draws yr ystod lawn o arfer celfyddydol mewn lleoliadau iechyd, y celfyddydau a lleoliadau cymunedol eraill. Mae’r Rhwydwaith yn ceisio cefnogi, datblygu ac ymchwilio i arfer y celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Mae’n rhwydwaith am ddim sydd ar gael i unrhyw sy’n gweithio yn, neu sydd â diddordeb yn y celfyddydau, iechyd a llesiant. Mae’r aelodau’n cynnwys artistiaid, sefydliadau celfyddydol, gweithwyr iechyd proffesiynol, academyddion, sefydliadau gwirfoddolwyr, noddwyr, cyrff cyhoeddus ac awdurdodau lleol ac mae’n cynrychioli’r amrediad llawn o ffurfiau ac arfer celfyddydol mewn lleoliadau iechyd, y celfyddydau a chymunedol. Gwefan: https://wahwn.cymru/ Ffôn: Facebook: https://www.facebook.com/wahwn Twitter: https://twitter.com/wahwnc Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Cymru Gyfan

Celf-Able Mae Celf-Able yn grŵp sy’n cael ei gynnal gan artistiaid anabl ac anabledd, ym Mhowys. Rydym yn grŵp amrywiol o artistiaid o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Mae rhai wedi derbyn addysg gelf ffurfiol, mae eraill wedi dysgu eu hunain. Mae gan rai ohonynt flynyddoedd lawer o brofiad o greu celf, mae eraill yn newydd i gelf. Mae ein diddordebau celf yn niferus ac amrywiol, rydym wedi paentio, perfformio, cerflunio, ffotograffiaeth, arlunio, argraffu a nifer o weithgareddau eraill. Rydym yn rhannu ein sgiliau, gan ddysgu oddi wrth ein gilydd a dysgu gyda’n gilydd. Yn aml iawn byddwn yn penderfynu beth i’w wneud yn y fan â’r lle! Rydym yn croesawu aelodau newydd, gydag unrhyw fath o nam, neu heb unrhyw namau. Gwefan: http://www.celf-able.org/ Ffôn: 01938 810058 Facebook: https://www.facebook.com/celfable/ Twitter: Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Powys


Cymysg Four in Four Mae Tamsin Griffiths a Paul Whittaker yn artistiaid trawsddisgyblaethol gyda diagnosis Iechyd Meddwl, sy’n gweithio yng Nghaerdydd. Rydym yn creu prosiectau rhyngweithiol cyfranogol sy’n cymylu ffiniau ffurfiau celf a herio canfyddiadau am Iechyd Meddwl, drwy ffurf a chynnwys. Gan weithio ar y cyd, rydym yn uno ein harbenigedd ni o fyd y celfyddydau gweledol, theatr, sain, y gair ysgrifenedig, ffilm, dawns a pherfformiad corfforol. Fel artistiaid sy’n gweithio ym maes Iechyd y Cyhoedd, gwyddom pa mor bwysig yw casglu profiadau a sylwadau’r rhai sydd â phrofiad byw er mwyn ategu’r allbwn creadigol. I’r perwyl hwn, mae ein harfer yn dilyn proses ddylunio ailadroddol. Gwefan: https://www.4in4.co.uk/ Ffôn: Facebook: Twitter: Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Cymru Gyfan

Celfyddydau Anabledd Cymru Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn credu bod gan Bobl Anabl a Byddar gyfraniad cyffrous a gwerthfawr i’w wneud i’r celfyddydau yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag unigolion a sefydliadau i ddathlu amrywiaeth celfyddydau a diwylliant Pobl Anabl a Byddar, a datblygu cydraddoldeb ar draws pob ffurf celf. Rydym yn creu mwy o gyfleoedd i Bobl Anabl a Byddar ddatblygu eu sgiliau yn y celfyddydau; Codi proffil gwaith celf gan Bobl Anabl a Byddar; Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill ar brosiectau sy’n ymwneud â’r celfyddydau; Cynghori ar faterion sy’n ymwneud ag anabledd a’r celfyddydau; Darparu gwasanaeth ymgynghori ar ddatblygiadau polisi a Hyfforddiant Cydraddoldeb ar gyfer y Celfyddydau yn benodol. Gwefan: https://www.disabilityartscymru.co.uk/ Ffôn: 029 2055 1040 Facebook: https://www.facebook.com/disabilityartscymru Twitter: http://www.twitter.com/dacymru Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Cymru Gyfan


Cymysg Inside Out Cymru Yn Inside Out Cymru, rydym yn falch o gynnig gweithdai celfyddydol hirdymor yn y gymuned. Rydym yn awyddus i gefnogi adferiad hirdymor pobl o salwch meddwl, ac mae hyn yn rhywbeth sydd yn cymryd amser. Oherwydd yr agwedd hon, mae ein gweithdai wedi dod yn rhan bwysig o rwydweithiau cymorth pobl ac mae cyfeillgarwch hirdymor yn datblygu. Mae hyn yn ei dro yn helpu i leihau profiad pobl o ynysu cymdeithasol. Yn ogystal â’r gwaith hwn, mae Inside Out Cymru hefyd yn cynnal gweithdai celfyddydol i oedolion ag anableddau dysgu, rhai gweithdai mewn ysbytai ar wardiau iechyd meddwl, yn ogystal ag amrediad o gyrsiau hyfforddiant i artistiaid a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol. Gwefan: https://inside-out-cymru.org/ Ffôn: Facebook: https://www.facebook.com/insideoutcymru Twitter: https://twitter.com/insideoutcymru Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Gwent

Arts 4 Dementia Mae Arts 4 Dementia yn elusen ar lefel y DU sydd â lleoliadau celfyddydol sy’n: Darparu hyfforddiant a datblygu rhaglenni celfyddydol; Grymuso ac ysbrydoli pobl â dementia cynnar a gofalwyr drwy ysgogiad artistig; a Helpu i gynnal bywyd boddhaus, gweithgar gyda’n gilydd, am gyfnod hwy yn y cartref.

Gwefan: https://arts4dementia.org.uk/ Ffôn: 020 7239 4954 Facebook: https://www.facebook.com/Arts4Dementia/ Twitter: https://twitter.com/Arts4Dementia Ardaloedd sy’n cael eu Cynnwys: Wrecsam, Llandudno, Bae Colwyn, Trecelyn a’r Barri


Llyfryddiaeth Davies EA - Why we need more poetry in palliative care. BMJ Supportive & Palliative Care 2018;8:266270. Ar gael yn: https://spcare.bmj.com/content/8/3/266 (Defnyddiwyd ddiwethaf 13/6/19) Gordon-Nesbitt R (2015) - Exploring the Longitudinal Relationship Between Arts Engagement and Health, Pub. Arts for Health, Manchester Metropolitan University, Feb 2015, Ar gael yn: http://www. artsforhealth.org/research/artsengagementandhealth/ArtsEngagementandHealth.pdf ) Defnyddiwyd ddiwethaf 13/6/19 Lankston L, Cusack P, Fremantle C & Isles C (2010) - Visual art in hospitals: case studies and review of the evidence, J R Soc Med. 2010 Dec 1; 103(12): 490–499, Ar gael yn: https://www.ncbi.nlm.nih.gov/ pmc/articles/PMC2996524/ (Defnyddiwyd ddiwethaf 13/6/19) Lowe G (2006) - Health‐related effects of creative and expressive writing, Health Education, Vol. 106 Issue: 1, pp.60-70, https://doi.org/10.1108/09654280610637201 , (Defnyddiwyd ddiwethaf 13/6/19) Mental Health Foundation (2011) - An Evidence Review of the Impact of Participatory Arts on Older People. Pub: Mental Health Foundation, 2011. Ar gael yn: https://baringfoundation.org.uk/wp-content/uploads/2011/04/EvidenceReview.pdf (Defnyddiwyd ddiwethaf 13/6/19) National Institute for Health Care & Excellence (NICE) – Arts & Health. Pub. NICE, 2019, Ar gael yn: https://www.evidence.nhs.uk/search?q=arts+and+health (Defnyddiwyd ddiwethaf 13/6/19) The Health Foundation (2019) – Using Storytelling in Healthcare Improvement: A guide Pub. The Health Foundation. Ar gael yn: https://www.health.org.uk/sites/default/files/Using-storytelling-in-health-care-improvement.pdf (Defnyddiwyd ddiwethaf 13/6/19) The Welsh NHS Confederation (2018) – Arts Health and Wellbeing. The Welsh NHS Confederation. Ar gael yn: https://www.nhsconfed.org/-/media/Confederation/Files/Wales-Confed/Literature-review-of-artsand--health-and-wellbeing.pdf (Defnyddiwyd ddiwethaf 18/7/19) Windle, G. (2019) The impact of engagement with the arts on the health and wellbeing of hospital inpatients with dementia. Doctoral thesis, Royal College of Music. Ar gael yn: http://researchonline. rcm.ac.uk/560/ (Defnyddiwyd ddiwethaf 13/6/19) What Works Well-being (2019) Music, Singing and Adults with Diagnosed Conditions. Pub. What Works Well-being. Ar gael yn: https://whatworkswellbeing.org/product/music-singing-and-adults-with-diagnosed-conditions-2/ (Defnyddiwyd ddiwethaf 13/6/19) What Works Well-being (2019) Visual Arts & Mental Health: Briefing. Pub. What Works Wellbeing. Ar gael yn: https://whatworkswellbeing.org/product/visual-arts-and-mental-health-briefing/ (Defnyddiwyd ddiwethaf 13/6/19)


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.