Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Efwletin - Gorffennaf 2018

Page 1

Gorffennaf 2018


Mam ŵyr orau

Croeso i rifyn Gorffennaf o e-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym yn canolbwyntio y mis hwn ar ‘Fwydo ar y Fron‘. Cynhelir Wythnos Ryngwladol Bwydo ar y Fron rhwng 1 - 7 Awst 2018. Mae bwydo ar y fron yn ateb rhyngwladol sy’n rhoi dechrau cyfartal a theg i bawb mewn bywyd. Mae’n gwella iechyd, llesiant a goroesiad merched a phlant ledled y byd. Amcanion #WBW2018 yw: • Hysbysu pobl ynghylch y cysylltiadau rhwng maeth da, diogelwch bwyd, lleihau tlodi a bwydo ar y fron • Angori bwydo ar y fron fel sylfaen i fywyd • Ymgysylltu ag unigolion a sefydliadau er mwyn creu mwy o effaith • Ysgogi camau i ddatblygu bwydo ar y fron fel rhan o faeth da, diogelwch bwyd a lleihau tlodi

@PHNetworkCymru

Am resymau technegol mae’r rhifyn a oedd yn canolbwyntio ar yr Wythnos Parciau Cenedlaethol wedi’i ohirio tan fis Medi. Cysylltwch â ni gydag unrhyw wybodaeth yr hoffech i ni ei chynnwys ar y wefan neu yn yr e-fwletin drwy gysylltu â ni yn publichealth.network@wales. nhs.uk



Fwydo Ar Y Fron

canolbwyntio ar ‘Fwydo ar y Fron‘.

P’un ag ydych yn feichiog neu os ydych newydd gael babi ac yn ystyried bwydo ar y fron, mae sicrhau’r dechrau gorau posibl yn hollbwysig. Mae penderfynu am ba hyd y byddwch yn bwydo ar y fron yn benderfyniad personol iawn a gall ddibynnu ar nifer o ffactorau. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ac UNICEF yn argymell y dylai babi gael ei fwydo ar y fron yn unig am y chwe mis cyntaf (tua 26 wythnos), ac y dylid parhau i fwydo ar y fron y tu hwnt i hyn gyda bwyd solet am ddwy flynedd neu fwy. Mewn gwirionedd, er bod y rhan fwyaf o fabanod yn cael eu bwydo ar y fron i ddechrau, ychydig iawn o fabanod yn y DU sy’n parhau i fwydo ar y fron y tu hwnt i’r ychydig fisoedd cyntaf oherwydd ni sydd â’r cyfraddau bwydo ar y fron isaf ymhlith unrhyw un o’r gwledydd datblygedig. Mae hyn yn golygu nad yw ein cymdeithas wedi arfer gweld mamau yn bwydo eu babanod ar y fron ac felly nid oes gan ysgolion, colegau, cyflogwyr, teuluoedd a chymunedau ymwybyddiaeth o fwydo ar y fron. Gall hyn wneud y penderfyniad i fwydo ar y fron yn fwy anodd i fam, yn arbennig yn ystod cyfnod o newid, megis dychwelyd i astudio neu i weithio. Mae cefnogaeth a dealltwriaeth o fwydo ar y fron yn cynyddu. Gwyddom fod pob diferyn o laeth y fron a roddir i fabi yn werthfawr a pho hiraf y bydd babi yn bwydo ar y fron, y mwyaf o fanteision fydd i’ch babi ac i chi. Mae pob mis o fwydo ar y fron yn lleihau’r risg o salwch a all achosi i fabanod orfod mynd i’r ysbyty. Mae hefyd yn helpu i ddiogelu babanod rhag bod dros eu pwysau neu’n ordew, sy’n golygu eu bod yn llai tebygol o ddatblygu clefydau fel diabetes yn y dyfodol. (Y Rhwydwaith Bwydo ar y Fron, 2014)



Popeth y Dylech Chi Wybod am Fwydo o’r Fron

Mae tîm Iechyd Cyhoeddus Betsi Cadwaladr mewn cydweithrediad â Cyswllt Conwy a Hawd fron.

Mae’r e-lyfryn, sydd ar gael i’w weld neu ei lawr lwytho o wefan y Bwrdd Iechyd yn darparu gw eu babi a’r gefnogaeth sydd ar gael os ydynt yn penderfynu bwydo ar y fron. Ceir darllenw wedi’u hysgrifennu gan ddefnyddio’r safon Hawdd Ei Ddeall, gan gynnwys defnyddio “Ffoto

Meddai Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol mamau ar draws gogledd Cymru i ganfod gwybodaeth Hawdd Ei Ddeall am fwydo ar y fron rhanddeiliaid fel Cyswllt Conwy a Hawdd Ei Ddeall Cymru a’r manteision y bydd yn dod i fam

Ychwanegodd Liz Fletcher, Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol Gorllewin - Gwasanaethau Plant

“Rydym yn cydnabod bod dewis bwydo ar y fron yn un o’r rhoddion mwyaf gwerthfawr y gall m ac mae cael gwybodaeth a chyngor ar eu pennau eu hunain yn bwysig iawn. “

Rydym yn falch iawn o weld lansiad yr e-lyfryn newydd ardderchog hwn, wedi’i pharatoi gy penderfynu sut i fwydo eu babi, a all eu cefnogi a ble i ddod o hyd i famau eraill yn eu harda Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Siwan.Owens@wales.nhs.uk Mae’r llyfryn i’w weld trwy’r ddolen isod: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/page/85316


dd Ei Ddeall Cymru wedi datblygu adnodd ar-lein i gefnogi mamau yn y gogledd i fwydo ar y

wybodaeth hawdd a hygyrch i helpu mamau i wneud penderfyniad gwybodus am sut i fwydo wyr awgrymiadau yn ymwneud a bwydo ar y fron yn gyffredinol a dolenni i gefnogaeth leol, osymbolau”.

Betsi Cadwaladr: “Rwy’n hynod o falch o’r gwaith cydweithredol sydd wedi’i gyflawni i helpu n. Mae’r adnodd newydd sbon hwn yn dangos pa mor werthfawr yw gweithio’n agos gyda mau sy’n bwydo ar y fron ar draws gogledd Cymru.”

t a Chadeirydd Grŵp Strategol Bwydo Babanod:

mam ei rhoi i’w babi ond hefyd yn gwybod bod rhai mamau yn ei chael hi’n heriol ar y dechrau

yda chyngor Hawdd Ei Ddeal a Ffotsymbolau y gall fod ei angen ar famau pan fyddant yn al sydd hefyd yn bwydo ar y fron. “


Bwydo ar y fron y tu allan i’r cartref - her foesol i famau Ymddiriedolaeth Wellcome ar gyfer y Ganolfan Treialo

Ochr yn ochr â’r ymchwil hwn, fe edrychais hefyd ar sut mae bwydo ar y fron mewn mannau a gwelais fod llawer o gamddealltwriaeth ymhlith y cyhoedd ynglŷn â bwydo ar y fron, a’r ha

Felly, pam fod hyn yn bwysig? Mae llawer o’r gwaith a wna’r GIG ar fwydo ar y fron yn ceisio ne gan lawer o waith ymchwil arall yn y DU a thramor) yn dangos pa mor anodd y mae ein cymd siŵr, os na all mam fwydo ar y fron y tu allan i’r cartref, mae’n mynd i wneud bywyd yn anodd canfod amser i dynnu llaeth i fwydo o botel y tu allan i’r cartref, a babi anhapus nad yw’n cae

Rwy’n parhau i ymchwilio i’r maes hwn, ac rwyf yn agos at gwblhau adolygiad o’r holl ymchwi edrych ar brosiectau, rhaglenni ac ymyriadau sy’n ceisio ei gwneud yn haws i fenywod fwyd werthusiadau nad ydynt wedi’u cyhoeddi mewn llenyddiaeth academaidd, byddwn wir yn gw sydd gennych. Fy nghyfeiriad e-bost yw: GrantA2@cardiff.ac.uk. Rwyf hefyd ar Twitter: @DrAimeeGrant


u! - Aimee Grant, PhD, Cymrawd ISSF on Ymchwil, Prifysgol Caerdydd. Yn 2012, dechreuais wneud gwaith ymchwil ar fwydo babanod am y tro cyntaf. Rwy’n dod o gefndir dosbarth gweithiol Prydeinig ac ni welais unrhyw fenyw yn bwydo ar y fron o gwbl yn ystod fy mhlentyndod. Rwy’n cofio meddwl yn ystod y prosiect cyntaf, pam nad oedd merched yn bwydo ar y fron? Roeddwn yn credu eich bod yn rhoi’r babi yn agos at y fron a byddai popeth yn gweithio. Roeddwn yn anghywir am gymaint o bethau! Y llynedd, cyhoeddais rywfaint o waith ymchwil yn seiliedig ar gyfweliadau gyda pharau o famau/neiniau o dde Cymru mae’r prif ganfyddiadau yn yr animeiddiad hwn , a byddem yn falch iawn pe byddech yn rhannu hyn ar eich cyfryngau cymdeithasol. Fe wnaethom ofyn iddynt ddod â gwrthrychau bob dydd a oedd yn gwneud iddynt feddwl am fwydo babanod, a defnyddio’r rhain i rannu eu profiadau hwy. Cawsom ein synnu o glywed bod merched, cyn gynted â’u bod yn weladwy yn feichiog, yn derbyn sylwadau gan aelodau’r teulu, ffrindiau a dieithriaid ynglŷn â sut y dylent fwydo eu babi. Roedd y sylwadau ymwthgar hyn yn parhau ar ôl i’r babi gael ei eni - roedd pawb eisiau gwybod sut yr oedd y babi’n cael ei fwydo, ac yn cynnig cyngor heb i’r rhieni ofyn amdano. Roedd ein mamau yn ein hastudiaeth o’r farn bod hyn yn ddiflas ac annefnyddiol; i rai roedd wir yn tanseilio eu hyder. Wrth gymharu’r profiad hwn gyda phrofiadau neiniau, roedd yn gwbl wahanol; nid oedd y neiniau wedi derbyn y sylwadau annefnyddiol hyn.

cyhoeddus yn cael ei ystyried ar y cyfryngau cymdeithasol a sylwadau darllenwyr Mail Online, awl cyfreithiol i fwydo ar y fron yng Nghymru a Lloegr.

ewid mamau unigol drwy roi cefnogaeth iddynt. Mae fy ngwaith ymchwil (sydd wedi’i gadarnhau deithas yn ei wneud i famau fwydo ar y fron y tu allan i’r cartref. Fel y gŵyr nifer ohonoch rwy’n d iawn i fam sy’n bwydo ei babi ar y fron; gallai arwain at leihad yn y llaeth a gynhyrchir, ceisio el ei fwydo pan mae’n llwglyd!

il ansoddol sydd ar gael ar brofiadau bwydo ar y fron y tu allan i’r cartref. Y tro nesaf, byddaf yn do eu babanod ar y fron mewn mannau cyhoeddus. Os ydych yn ymwybodol o brosiectau neu werthfawrogi pe byddech yn anfon e-bost ataf gyda manylion unrhyw ddolenni neu adroddiadau


Pecynnau Gwybodaeth Babi a Fi Di-fwg

Os bydd merch yn dewis bwydo ei babi ar y fron fe’i hargymhellir yn gryf i roi’r gorau i sm laeth y fron. Gellir cynghori mamau sy’n cael anhawster rhoi’r gorau i smygu ac sydd eisiau cynghorydd iechyd am fwy o wybodaeth.

Os bydd un rhiant neu’r ddau yn smygu mae hefyd yn bwysig eu bod yn cael cyngor i beidio ydynt yn smygu, wedi yfed alcohol yn ddiweddar, neu os ydych yn cymryd meddyginiaeth sy

Mae ASH Cymru wedi gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dechrau’n Deg a bydwr gwybodaeth pwrpasol ar gyfer rhoi’r gorau i smygu i helpu i gefnogi merched beichiog.

Rydym wedi cynhyrchu mwy na 10,000 o gopïau a anfonwyd at ysbytai ABMU – Singleton, Powys. Mae’r rhain wedi’u cynnwys ym mhecynnau gwybodaeth am feichiogrwydd bounty a

Os ydych yn chwilio am fwy o wybodaeth/adnoddau am Ymgyrch Babi a Fi Di-fwg ASH Cymr


mygu er lles ei hiechyd hi a’r babi, oherwydd bydd ei babi yn cael cyswllt â’r nicotin drwy bwydo ar y fron i ddefnyddio therapi disodli nicotin (NRT) gan eu meddyg teulu neu ofyn i’w

o rhannu gwely gyda’u babi. Mae’n hysbys bod hyn yn cynyddu’r risg o SIDS, yn arbennig os y’n gwneud i chi gysgu’n drymach.

ragedd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) i ddatblygu llyfrynnau

Castell-nedd Port Talbot ac ysbyty Tywysoges Cymru, yn ogystal â Bwrdd Addysgu Iechyd a roddir i bob merch feichiog yn eu hapwyntiad cofrestru gyda bydwraig.

ru, cysylltwch â Kimberley@ashwales.org.uk.


Hynt a Helynt Bwydo ar y Fron

O ganlyniad i ffeministiaeth, mae mamau sy’n gweithio wedi cael mynediad at lwybrau gyrfa newy Er bod cyflogwyr yn cynnig absenoldeb sylweddol i rieni, gallai fod angen mwy o gymorth ar ymddangos, mae’r egni a’r sylw y mae angen i’w mam roi iddynt yn aruthrol. Bwydo ar y fron yw un o’r prif fuddsoddiadau egni y bydd merch yn ei wneud ar ôl rhoi genedigaeth i’w babi. Hyd yn oed ar ôl iddynt ddychwelyd i’w gweithle, mae angen i famau newydd dreulio eu horiau cinio i ddefnyddio pympiau’r fron i storio llaeth ar gyfer bwydo eu babi yn nes ymlaen. Mae ymgyrchoedd bwydo ar y fron gan y GIG yn annog pob merch i fwydo eu babi ar y fron am o leiaf chwe mis. Mae angen chwe mis o laeth eu mam ar bob babi newydd-anedig er mwyn cael dechrau da mewn bywyd, ond a all pob mam wneud hynny? Mae mwy a mwy o ferched yn dewis aros cyn cael plant hyd nes y byddant wedi datblygu eu gyrfaoedd. Mae hyn yn golygu bod mwy o famau newydd yn cael eu heffeithio gan heriau bwydo ar y fron pan fyddant yn hŷn. Sut brofiad yw bwydo eich babi newydd-anedig ar y fron pan fyddwch yn eich 40au? Y person perffaith i drafod bwydo ar y fron yn iau ac yn eich 40au yw Sofia. Roedd Sofia yn ddigon dewr i rannu ei heriau gyda gonestrwydd eofn. Disgrifiodd sut yr oedd bod yn fam am yr ail waith yn wahanol iawn. Yn ffodus, mae ei swydd wedi rhoi’r hyblygrwydd a oedd ei angen arni yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf i barhau i weithio wrth fagu ei babi gyda’i gŵr. Yr hyn sy’n syfrdanol am ei stori yw y tro cyntaf iddi ddod yn fam, roedd Sofia yn 19 oed ac mae wedi cael ei hail fabi yn awr yn 40 oed. Rhannodd ei phrofiadau gyda ni a mwy! https://www.publichealthnetwork.cymru/files/1515/3251/8394/The_Odyssey_of_ Breastfeeding_Interview.pdf

Cymorth Bwydo ar y Fron ymysg Mamau yn Aberhondd

Mae BIBS Aberhonddu yn cefnogi mamau sy’n bwydo ar y fron a’u teuluoedd yn Aberhonddu a bydwraig neu’r ymwelydd iechyd. Rydym yn cyfarfod bob dydd Iau yn y Muse yn Aberhonddu ( yn sefydlu bwydo ar y fron neu unrhyw bryd yn ystod eu cyfnod yn bwydo ar y fron. Mae ein ce ddi-duedd i helpu mamau i gyrraedd eu nodau bwydo ar y fron. Nid oes rhaid eich bod yn c gyda mamau eraill sy’n bwydo ar y fron. Mae croeso i frodyr a chwiorydd hŷn ddod i chwarae problemau y mae mamau’n eu hwynebu, yn arbennig yn y diwrnodau cynnar. Mae gennym gas

Yn ogystal â’r sesiynau galw heibio wythnosol, gall mamau gael cefnogaeth trwy’r cyfryngau BreconBIBS. Mae hwn yn llwyfan defnyddiol i famau gael cymorth oherwydd, hyd yn oed yng n bwydo ac o leia’n gallu rhoi rhywfaint o anogaeth. Mae Facebook hefyd yn cyrraedd cynulleidf fater penodol. Mae’n rhoi sicrwydd mawr yn aml i wybod bod rhywun arall wedi cael problem d

Gellir hefyd cysylltu â BIBS Aberhonddu trwy anfon ebost at bbibs@hotmail.co.uk a thrwy ein g


ydd a rhwydweithiau proffesiynol a diwydiannau a oedd yn rhai gwrywaidd yn draddodiadol. ferched â babanod newydd-anedig. Waeth pa mor fach y mae babi newydd-anedig yn

du

a’r cyffiniau, gyda mamau’n gallu hunangyfeirio neu gael gwybod amdanom ni oddi wrth eu (10am -12 canol dydd) i gael cymorth wyneb yn wyneb ar gyfer mamau sydd angen cymorth efnogwyr cymheiriaid sydd wedi cael eu hyfforddi yn rhoi cymorth a gwybodaeth gyfeillgar, cael anhawster i alw heibio; mae llawer o famau’n dod bob wythnos am sgwrs gyfeillgar a darperir lluniaeth. Am ein bod i gyd wedi bwydo ein babanod ar y fron, rydym yn deall y sgliad o lyfrau bwydo ar y fron a phympiau i’w benthyg am ffi fach.

u cymdeithasol gan ddefnyddio ein tudalen gaeëdig ar Facebook, facebook.com/groups/ nghanol y nos, mae’n debygol (er nad yw wedi ei warantu) y bydd rhywun arall ar ddihun yn fa eang o famau sy’n bwydo ar y fron gydag amrywiaeth o ymagweddau gwahanol tuag at debyg a’i goresgyn.

gwefan www.breconbibs.co.uk.


Gwyliwch, Gwrando A Dysgu Podlediadau Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod gennym gyfres newydd o bodlediadau i chi wrando arnynt ar ein gwefan. Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau i gynhyrchu podlediadau sydd ar gael i’w lawrlwytho a gallwch wrando arnynt ar hyd y lle. Mae’r holl bodlediadau ar gael ar adran ‘Get Involved’ y wefan.

Youtube Iechyd Meddwl yn y Gweithle: Defnyddio Arfer Gorau


Ar Y Grawnwin

Tîm Polisi Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio Hyb Iechyd Brexit

Yn dilyn refferendwm ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd ym Mehefin 2016, mae Tîm Polisi Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal ‘Rhestr Ddarllen’ o ganllawiau, ymchwil ac adroddiadau Seneddol yn gysylltiedig â Brexit, iechyd a phenderfynyddion ehangach iechyd.

Gyda’r Rhestr Ddarllen hon bellach yn cynnwys dros 1000 o gyfeiriadau, mae’r Tîm Polisi wedi datblygu gwe-dudalennau thematig i hysbysu gweithwyr iechyd y cyhoedd proffesiynol am y prif faterion sy’n gysylltiedig ag iechyd y boblogaeth a pherthynas y DU gydag Ewrop a’r byd yn y dyfodol. Mae Hyb Brexit, sy’n cael ei lansio heddiw, yn cynnwys tudalennau dwyieithog ar y canlynol: • • • • • • • • • • • •

Brexit ac Amaethyddiaeth Brexit ac Yddysg Brexit ac Chydraddoldeb a Hawliau Dynol Brexit a Bwyd Brexit a’r Gwasanaethau Gofal Iechyd Brexit a Diwydiant Brexit ac Ymchwil Brexit a’r Amgylchedd Brexit a Thrafnidiaeth Brexit a Masnach Brexit a Chymru Brexit a Gwaith

Gan roi sylw ar y gwedudalennau, dywedodd Dr. Sumina Azam, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, yr Is-adran Bolisi: “Er bod trafodaethau Brexit yn dal ar y gweill, mae goblygiadau posibl y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn sylweddol, yn arbennig pan gaiff ei ystyried trwy lens penderfynyddion ehangach. Trwy ddatblygu Hyb Iechyd Brexit, ein gobaith yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i weithwyr proffesiynol am y dystiolaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf yn ymwneud â’r effeithiau posibl hyn ar eu meysydd ymarfer.”

Mae Rhestr Ddarllen Brexit Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cael ei rhannu’n wythnosol gyda chydweithwyr yn y sefydliad, a hefyd ymysg gweithwyr proffesiynol yn y DU ac Iwerddon trwy Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus y DU. Cynhelir Hyb Iechyd Brexit ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, y rhwydwaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar faterion iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth am Hyb Iechyd Brexit, neu i danysgrifio i ddiweddariadau wythnosol Rhestr Ddarllen Brexit, cysylltwch ag Adam Jones.


Ydych chi’n byw gydag Arthritis?

YMUNWCH Â NI

Cadw’n Heini gydag Arthritis

Manteisio ar ffyrdd hwyl i gynyddu symudedd pobl gydag arthritis. Eglwys Fethodistaidd Wesley, Heol Gefn, Y Drenewydd. AM DDIM. DOES DIM ANGEN CADW LLE. YN DECHRAU DDYDD GWENER GORFFENNAF Y 13EG 2018 Cysylltwch gyda- Christine Heathcote - E-bost: getactive@arthritiscare.org.uk

Tel: 02920 444155

‘Does dim angen imi egluro beth ydy arthritis i unrhyw un—mae pawb yn deall sut rydw i’n teimlo.’

Llinell Gymorth am ddim: 0808 800 4050 neu ewch i


YN DECHRAU DDYDD GWENER, GORFFENNAF Y 13EG 2018

Gorffennaf y 13eg Grŵp Cefnogi Gweithgareddau ac Arddangosiad Gweithgareddau — LANSIAD Gorffennaf yr 20fed a’r 27ain ac Awst y 3ydd Boccia Awst y 10fed Grŵp Cefnogi Gweithgareddau - Bydd paned ar gael Awst yr 17eg a’r 24ain a Medi’r 7fed Boccia Medi’r 14eg Grŵp Cefnogi Gweithgareddau - Bydd paned ar gael Medi’r 21ain a’r 28ain a Hydref y 5ed Cadw’n heini mewn Cadeiriau Hydref y 12fed Grŵp Cefnogi Gweithgareddau - Bydd paned ar gael Hydref y 19eg a’r 26ain a Thachwedd yr 2il Cadw’n heini mewn Cadeiriau Tachwedd y 19eg Grŵp Cefnogi Gweithgareddau - Bydd paned ar gael

Cysylltwch gyda- Christine Heathcote - E-bost: getactive@arthritiscare.org.uk

Tel: 02920 444155


Clywed si #Podcast: Pip Ford, Rheolwr Materion Cyhoeddus a Pholisi Cymru Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi Yn y bennod hon rydym yn siarad â Pip Ford, Rheolwr Materion Cyhoeddus a Pholisi Cymru Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi. Mae’n trafod eu hymgyrch newydd, ‘Love Activity, Hate Exercise?’ a ddyluniwyd gyda chleifion a ffisios i annog y genedl i symud. Dengys tystiolaeth fod bod yn egnïol yn gorfforol o fudd i’ch iechyd corfforol a meddyliol, ond mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd gwneud cymaint ag yr hoffent. Nod yr ymgyrch yw helpu’r cyhoedd i oresgyn y rhwystrau hyn trwy gyngor ac arweiniad arbenigol gan ffisiotherapyddion.

Amser Sgrîn yn cael ei Gysylltu ag Arferion Bwyta Afiach ymhlith Plant Mae astudiaeth newydd wedi canfod bod amser sgrin plant pump a chwech oed yn gysylltiedig â bwyta nifer isel o ffrwythau a llysiau a bwyta llawer o fyrbrydau nad ydynt yn iach, er enghraifft creision, siocled a bisgedi. Mae’r ymchwil, sy’n cael ei arwain gan Dr Emma Haycraft, o Ysgol Chwaraeon, Ymarfer Corff a Gwyddorau Iechyd Prifysgol Loughborough a’r NCSEM-EM, hefyd yn awgrymu bod arferion defnyddio technoleg a bwyta y rhieni eu hunain yn dylanwadu ar ymddygiad eu plant.

Glanrhyd – Yr ysbyty cyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr y Faner Werdd Ysbyty sy’n gofalu am natur yn ogystal â gofalu am bobl yw’r ysbyty cyntaf yng Nghymru i dderbyn gwobr y Faner Werdd. Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw’r ail ysbyty yn y DU i dderbyn y wobr, sy’n cydnabod y parciau a’r mannau gwyrdd gorau.

Cydweithio i symud y genedl – maniffesto newydd ar gyfer cerdded a beicio Fel rhan o gynghrair o sefydliadau blaenllaw cerdded a beicio’r DU, lansiodd Y Cerddwyr y maniffesto ‘Symud y Genedl’ yng nghynhadledd Dinasoedd Beicio ym Manceinion.


Alcohol Plant a phobl ifanc Cymunedau addysg yr amgylchedd Gamblo rhyw digartrefedd ffordd o fyw iechyd mamau a’r newydd-anedig iechyd meddwl Clefydau anhrosglwyddadwy maeth pobl hyn iechyd y geg rhieni Pobl ag anableddau fferylliaeth gweithgaredd corfforol Polisi tlodi carcharorion ymchwil a thystiolaeth iechyd rhywiol rhywioldeb ysmygu camddefnyddio sylweddau diweithdra cyn-filwyr trais A chamdriniaeth gwaith


beth sy’n digwydd

Awst 1

2

3

6

7

8

9

10

13

14

15

16

17

23

24

20

21

22

Cynhadledd Ryngwladol Iechyd y Cyhoedd Byd-eang

Cynhadledd Ryngwladol Iechyd y Cyhoedd Byd-eang

Cynhadledd Ryngwladol Iechyd y Cyhoedd Byd-eang

Cynhadledd Ryngwladol Iechyd y Cyhoedd Byd-eang

Prifysgol Wolverhampton

Prifysgol Wolverhampton

Prifysgol Wolverhampton

Prifysgol Wolverhampton

27

28

29

30

31


rhifyn nesaf Atal Hunanladdiad y Byd


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.