Deaf Awareness pdf welsh hq

Page 1

Ebrill 2017


Croeso i’r e-fwletin Croeso i rifyn mis Ebrill o efwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Pwyslais y mis yma yw Ymwybyddia eth o fod yn Fyddar. Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar Cyngor y DU yn ymgyrch unigryw gyda chymaint o sefydliadau gwahanol yn cymryd rhan ynddo, bob un yn gallu hyrwyddo ei waith ei hun o fewn sbectrwm eang bod yn fyddar. Cynhelir yr wythnos rhwng 15 – 21 Mai 2017. Yn ein hadran ‘Dan Sylw’ y mis yma byddwn yn sgwrsio â chydweithwyr o Ganolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG sydd wedi ei lleoli yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r digwyddiadau i ddod gan Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys ein seminar Newid Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus a’n sioe deithiol flynyddol a gynhelir yn ystod Mai 2017. Enw’r sioe eleni yw ‘Ymarfer Addawol’ a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhwydwaith, yn arddangos nifer o brosiectau lleol ledled Cymru yn ogystal â darparu elfen hyfforddiant i’r diwrnod. Mae’r hyfforddiant eleni yn canolbwyntio ar ‘Wneud i Bob Cyswllt Gyfrif’. Mae manylion ynghylch sut i gofrestru ar gael yn efwletin y mis yma. Byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau dros y flwyddyn felly cadwch lygad ar y wefan ac efwletinau yn y dyfodol am fwy o wybodaeth. Yn olaf, os oes gennych unrhyw eitemau newyddion neu ddigwyddiadau yr hoffech eu gweld yn cael eu cynnwys yn rhifyn mis nesaf anfonwch e-bost at publichealth.network@wales.nhs.uk


@PHNetworkcymru

/publichealthnetworkcymru

www.publichealthnetwork.cymru


Diffodd


y sain

Pwyslais ar Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar Mae’r efwletin y mis yma yn canolbwyntio ar Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar, sydd yn ymgyrch a gynhelir yn flynyddol rhwng 15 – 21 Mai. Trefnir yr ymgyrch gan Gyngor y DU ar Fod yn Fyddar, sef y corff mantell ar gyfer sefydliadau gwirfoddol sydd yn gweithio gyda phobl fyddar yn y DU. Eu cenhadaeth yw cynorthwyo sefydliadau a’r sector yn gyffredinol i gynyddu’r effaith gadarnhaol y maent yn ei gael ar gyfer pobl fyddar. ‘Dathliad’ yw’r thema ar gyfer yr wythnos eleni, ac mae ystod newydd o bosteri bellach ar gael i’w llwytho i lawr ar dudalen gyhoeddusrwydd Cyngor Byddardod y DU. Mae hyn yn dilyn ymlaen o thema’r llynedd ‘Diben Cyffredin’, sydd yn dathlu cydweithrediadau ar Ymwybyddiaeth, Addysg, Cyflogaeth Gwybodaeth, Gwasanaethau ac Ataliaeth. Y nod cyffredinol yw hyrwyddo gwaith yr aelod-sefydliadau trwy wefan Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar lle gall sefydliadau roi cyhoeddusrwydd i’w digwyddiadau yng nghalendr Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar. Os ydych yn cymryd rhan yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Fod yn Fyddar, mae croeso i chi ddefnyddio logo Wythnos Ymwybyddiaeth o Fod yn Fyddar ar eich deunydd cyhoeddusrwydd chi. Mae croeso i chi ddefnyddio’r Datganiad i’r Wasg gan ddefnyddio logo a manylion cyswllt eich sefydliad chi. http://deafcouncil.org.uk/daw-press-release-2017/


Arolwg Blynyddol Gweithredu ar Golli Clyw 2017 Mae arwolg blynyddol Gweithredu ar Golli Clyw yn offeryn gwerthfawr i ganfod beth sydd yn bwysig i’w haelodau. Mae’r arolwg yn rhoi mewnwelediad i’r materion cyffredinol sy’n effeithio ar bobl sydd wedi colli eu clyw. Mae’r wybodaeth yn helpu i lywio’r ffordd y caiff gwasanaethau a pholisïau eu datblygu ac mae’n golygu y gellir targedu eu hymgyrchoedd a darpariaeth gwasanaeth yn agosach. Mae Gweithredu ar Golli Clyw hefyd yn defnyddio’r canfyddiadau wrth ysgrifennu ymatebion i ymgynghoriadau’r Llywodraeth. Cynhaliwyd yr arolwg bob blwyddyn er 2005, ac anfonir holiadur i ryw 22,000 o bobl ynghyd â chylchgrawn i aelodau Gweithredu ar Golli Clyw. Mae mwy o fanylion am Weithredu ar Golli Clyw, yr arolwg a sut i ymuno ar gael yn www.actiononhearingloss.org.uk

LLEISIAU COLL Adroddiad y Lleng Brydeinig Frenhinol ar broblemau clyw ymysg personél a chyn-filwyr Mae ymchwil y Lleng Brydeinig Frenhinol yn dynodi bod cyn-filwyr y DU o dan 75 oed tua thair gwaith a hanner yn fwy tebygol na’r boblogaeth yn gyffredinol o nodi anawsterau clyw. Mae’r adroddiad yn dadlau y dylai cyn-filwyr o oed gweithio sydd wedi colli eu clyw oherwydd eu Gwasanaeth fod yn gymwys am ‘driniaeth arbennig’, yn unol ag egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog. Mae gan yr adroddiad hwn dri phrif argymhelliad i’r Llywodraeth: • Gwlluogi cyn-filwyr o oed gweithio i gael mynediad i gymhorthion clyw gradd uwch, yn cynnwys cymhorthion ‘yn y glust’, a sicrhau y gall pob cyn-filwr gael cymhorthion a roddwyd gan yr MOD wedi ei gwasanaethu a’u hadnewyddu am ddim • Digolledu personél a chyn-filwyr yn iawn am y niwed a achoswyd i’w clyw gan Wasanaeth milwrol, gan ystyried, nid yn unig y niwed a achoswyd wrth Wasanaethu, ond hefyd am y gwahaniaeth rhwng gallu cyn-filwr o oed penodol i glywed o’u cymharu â’u cyfoedion nad ydynt yn gyn-filwyr • Ymrwymo i fuddsoddiad cynaliadwy, hirdymor yng Nghanolfan EARSHOT, i alluogi rhaglen ymchwil gynhwysfawr ar golli clyw yn ymwneud â Gwasanaeth i gael ei sefydlu Ceir manylion llawn yn: http://www.britishlegion.org.uk/media/2282/lostvoiceshearinglossreport.pdf


Clust i Wrando 2017 Ym mis Mehefin eleni, bydd Prifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd un-dydd ar gyfer unigolion a theuluoedd sy’n dioddef o fyddardod ac anawsterau clyw. Cynhelir yr achlysur ar ddydd Sadwrn, Mehefin 17eg (2017) o 10.00 a.m. hyd at 3.30 p.m. yn Neuadd Powis, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG. Yn dilyn llwyddiant y gynhadledd y llynedd, hon fydd y 5ed gynhadledd o’i bath yng ngogledd Cymru. Diben yr achlysur yw dwyn unigolion a theuluoedd ynghyd i gymdeithasu, i drafod y maes, i rannu eu profiadau ac i wrando ar siaradwyr sy’n arbenigo ar y testun. Yn dilyn yr awr ginio, fe fydd hefyd cyfnod o ‘Holi ac ateb’ a chyfle i unigolion i ofyn cwestiwn, gofyn am gyngor ac i annog eraill. Bydd nifer o asiantaethau a sefydliadau lleol a chenedlaethol sy’n cefnogi’r byddar yn bresennol yno drwy gydol y dydd. Siaradwyr y gynhadledd eleni fydd: Sarah Matthews, Cymdeithas y Byddar yng Ngogledd Cymru ‘Action on Hearing’ Neges fideo gan Joe Allen (chwaraewr pêl-droed Cymru a Stoke City) Côr Arwyddo Wrecsam Martin Walker [Coleg Llandrillo Menai] a Delyth Murphy [Canolfan Ehangu Mynediad, Prifysgol Bangor] yn ogystal â sawl siaradwr lleol fydd yn rhannu eu profiadau. Gwelir fod dros 200 o deuluoedd yng ngogledd Cymru yn unig sy’n dioddef oherwydd problemau byddardod, ac yn ôl adroddiadau diweddar yn y wasg, mae’n amlwg fod siaradwyr Cymraeg yn gwynebu mwy o drafferthion na’r gymdogaeth ddi-Gymraeg. Trefnwyd y gynhadledd er mwyn cynnal trafodaeth ranbarthol, a fydd gobeithio yn dylanwadu ar Lywodraeth Cymru ac yn rhoi bod i newid yn y drefn bresennol. Y gobaith yw y gwelir gwelliant yn y gefnogaeth fydd ar gael ar gyfer y byddar yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn. Bydd Arwyddwyr (BSL) a phalan-teipyddion yn bresennol drwy gydol y dydd. Y mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim i bawb a darperir te/coffi/sudd a.y.b. Gofynnir i’r sawl sy’n dod i’r gynhadledd ddod â phecyn bwyd ar gyfer cinio, yn unig. Os carech chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad, fe ddylech gysylltu gyda Iona Rhys ar (01248) 382255 neu drwy ebost – i.r.cooke@bangor.ac.uk


Gweithredu ar Golli Clyw: Gwobrau Rhagoriaeth Cymru Cynhelir Gwobrau Rhagoriaeth Cymru mewn digwyddiad amser cinio ar 5 Mai 2017 yng Ngwesty a Sba Dewi Sant, Bae Caerdydd. Mae’r Gwobrau’n cydnabod y sefydliadau hynny sydd yn mynd ymhellach er mwyn bod yn hygyrch i bobl yng Nghymru sydd yn fyddar neu wedi colli eu clyw. Mae’r broses ymgeisio bellach wedi cau ond mae tocynnau ar werth ar gyfer y cyfle gwych hwn i unigolion sy’n ymwneud â chydraddoldeb a hygyrchedd i rwydweithio gydag unigolion blaenllaw yn y maes. Mae’r enillwyr blaenorol yn cynnwys Western Power Distribution a enillodd yn 2016, ar ôl iddynt gael eu canmol gan y beirniaid am eu ‘rhagoriaeth gyffredinol’ a’u hymgysylltu rhagorol gyda’r materion yn ymwneud â bod yn fyddar. Mae’r enillwyr blaenorol hefyd wedi cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r elusen RNIB. Eleni, ceir pedwar categori sylfaenol: Rhagoriaeth Gwasanaeth a noddir gan gyfreithwyr Hugh James P’un ai’n siop leol, yn fusnes mawr neu’n wasanaethau cyhoeddus, mae’r categori hwn ar gyfer y sefydliadau hynny sydd yn mynd ychydig ymhellach wrth ddarparu gwasanaeth i bobl sydd yn fyddar, wedi colli eu clyw neu’n dioddef o dinitws. Byddwn hefyd yn ystyried a yw pobl sydd yn fyddar neu’n drwm eu clyw yn gyflogedig, a sut y caiff y bobl hyn eu cefnogi yn y gwaith. Rhagoriaeth mewn Iechyd Gallai hyn fod yn feddygfa, optegydd, deintydd, bwrdd iechyd neu unrhyw sefydliad arall sydd yn cynnig gwasanaethau iechyd. Mae’r categori hwn yn gwobrwyo’r rheiny sydd yn sicrhau bod pobl fyddar yn cael cefnogaeth pan fyddant yn sâl neu’n wynebu materion yn ymwneud ag iechyd. Unwaith eto, os yw sefydliad yn cyflogi pobl sydd yn fyddar neu’n drwm eu clyw, byddwn yn edrych ar hynny hefyd. Rhagoriaeth yn y Celfyddydau ac Adloniant Beth bynnag yw’r maint, mae’r categori hwn yn cydnabod sefydliadau a lleoliadau’r celfyddydau, bwytai, grwpiau theatr, sinemâu ac eraill sy’n cyflogi pobl fyddar a/neu’n sicrhau y gall pobl fyddar neu drwm eu clyw fwynhau diwylliant a gweithgareddau hamdden. Dewis y Bobl a noddir gan Gocompare.com Bydd y categori hwn yn cynnwys y rheiny sydd ar y rhestr fer ar gyfer y categorïau uchod a’r cyhoedd fydd yn pleidleisio am yr enillydd. Gallwch bleidleisio dros Wobr Dewis y Bobl yma. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, anfonwch e-bost at wales@hearingloss.org.uk neu ffoniwch 029 2033 3034. Dilynwch ni ar Twitter a Facebook i gael y wybodaeth ddiweddaraf.


Safon Gwybodaeth newydd ar gyfer GIG Cymru Mae Bwrdd Prosiect newydd wedi cael ei sefydlu i oruchwylio datblygiad Safon Gwybodaeth ar gyfer GIG Cymru. Gallwch ganfod mwy isod am y ffordd y bydd ymgysylltu a gwrando ar bobl â cholled synhwyraidd yng Nghymru yn ganolog i lunio’r Safon newydd. Nid oes gan GIG Cymru unrhyw system unigol ar hyn o bryd ar gyfer casglu a chofnodi anghenion cyfathrebu cleifion â nam ar eu synhwyrau. Mae hyn yn golygu nad oes llawer o wybodaeth o’r math yma’n cael ei gyfleu a’i gofnodi mewn meddygfeydd ac adrannau ysbyty fel mater o drefn. Mae hefyd yn golygu y gall fod yn anodd i wybodaeth am anghenion cyfathrebu claf gael eu rhannu’n effeithiol gyda a rhwng meddygfeydd, adrannau ysbyty, Gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a gwasanaethau gofal iechyd eraill. Caiff pwysigrwydd cofnodi a rhannu gwybodaeth am anghenion cyfathrebu claf ei gydnabod yn eang yn Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth i Bobl sydd â Nam ar eu Synhwyrau. Er mwyn cyflawni’r Safonau yn llawn, mae Bwrdd Prosiect newydd wedi cael ei sefydlu, wedi ei gadeirio gan Lywodraeth Cymru, i oruchwylio’r gwaith o gyflwyno Safon Gwybodaeth newydd ar gyfer GIG Cymru. Bydd y Safon yn ei wneud yn ofynnol i feddygfeydd a gwasanaethau ysbyty i gyfleu, cofnodi, pwysleisio a rhannu anghenion cleifion â nam ar eu synhwyrau. Mae GIG Lloegr yn ddiweddar iawn wedi cyflwyno eu ‘Safon Gwybodaeth Hygyrch’ eu hunain, a rhoddodd Sarah Marsay, Rheolwr Ymgysylltu â’r Cyhoedd, gyflwyniad i Grŵp Uwch Swyddogion Cymru Gyfan ar 18 Ionawr 2017 er mwyn rhannu’r ymagwedd hon gan GIG Lloegr a’r hyn yr oeddent wedi ei ddysgu wrth weithredu eu Safon eu hunain. Mae ystod o wybodaeth, canllawiau ac adnoddau hyfforddiant ar gael yn https://www.england.nhs.uk/ourwork/accessibleinfo/ a bydd y rhain yn helpu i lywio a chefnogi’r gwaith yng Nghymru. Mae’n bwysig iawn bod y Safon newydd yn gweithio i bawb â nam ar eu synhwyrau yng Nghymru. Gofynnir i gleifion â nam ar eu synhwyrau ddisgrifio eu hanghenion cyfathrebu a gwybodaeth a chynhelir rhaglen o ymgysylltu trwy gyfarfodydd, cyfathrebu electronig a’r cyfryngau cymdeithasol ynghyd a datblygu’r Safon er mwyn sicrhau bod pobl â nam ar eu synhwyrau yng Nghymru yn gwybod am y Safon newydd, yn deall ei ddiben ac yn cael pob cyfle i lunio a dylanwadu ar ei ddyluniad. Cyfarfu Grŵp Cyfeirio gydag aelodau o’r Gymuned Nam Synhwyraidd am y tro cyntaf ym mis Chwefror a Mawrth yng Nghaerdydd, Llanelli a’r Rhyl. Os hoffech gael mwy o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan yn y gwaith hwn, cysylltwch â Michelle.Fowler3@wales.nhs.uk


‘Mae’n Gwneud Synnwyr’ gan Junaid Iqbal, Arweinydd Profiad Defnyddwyr Gwasanaeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Hollie Young, Rheolwr Prosiect Cydraddoldeb, Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG Mae dros 600,000 o bobl â nam ar eu clyw neu eu golwg yng Nghymru. Nod “Mae’n Gwneud Synnwyr” o ganlyniad uniongrchol i ‘Safonau Cymru Gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau’ yw sicrhau nad oes angen i bobl yng Nghymru sydd yn fyddar, â nam ar eu clyw, yn ddall neu’n rhannol ddall orfod wynebu rhwystrau diangen wrth ddefnyddio gofal iechyd oherwydd y nam ar eu golwg a/neu eu clyw. Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, mae dyletswydd gyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol er mwyn sicrhau cydraddoldeb mynediad i wasanaethau gofal iechyd ar gyfer pobl anabl. Mae angen i gyrff cyhoeddus weithredu’n gadarnhaol er mwyn bodloni pob angen mynediad a chyfathrebu. Mae Safon Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth i bobl â nam ar eu synhwyrau yn nodi fframwaith i gefnogi cyflenwi’r gwasanaeth y dylai pobl â nam ar eu synhwyrau ei ddisgwyl pan fyddant yn cael mynediad i ofal iechyd. Mae’r safonau hyn yn berthnasol i oedolion, pobl ifanc a phlant. Yn ystod mis ymgyrchu Tachwedd, anogwyd pobl â nam ar eu synhwyrau i: • • •

Ddweud wrth feddygon, nyrsys, parafeddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sut y byddai’n well ganddynt gyfathrebu. Gofyn i gael gwybodaeth ar eu fformat dewisol, yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydain, print mawr neu Braille. Rhannu eu pryderon os nad ydynt yn cael hyn.

Gofynnwyd i’r holl staff mewn byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau GIG a meddygfeydd i: • • •

Ganfod o’r modiwl e-ddysgu Nam Synhwyraidd ‘Trin Fi’n Deg’ y ffyrdd mwyaf effeithiol o gyfathrebu gyda phobl sydd yn fyddar neu’n drwm eu clyw, yn ddall neu’n rhannol ddall neu sydd ag anghenion cyfathrebu eraill. Gofyn i gleifion sut yr hoffent gyfathrebu gyda nhw. Cynnig rhoi’r wybodaeth ar y fformat sydd ei angen ar bobl, yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL), print mawr, yn electronig neu mewn Braille.

Yn ystod mis yr ymgyrch, hwylusodd GIG Cymru nifer o sesiynau i amlygu’r mater pwysig o degwch mynediad ac ymwybyddiaeth a’r ffordd y gall newidiadau bach yn y ffordd yr ydym i gyd yn rhyngweithio â’n gilydd gael effaith gadarnhaol. Am fanylion llawn y digwyddiadau ar draws GIG Cymru, ewch i; http://www.equalityhumanrights.wales.nhs.uk/it-makes-sense-2016 Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, cafodd cyflogeion a sefydliadau partner eraill gyfle i fynychu nifer o sesiynau codi ymwybyddiaeth trwy gydol mis Tachwedd. Teimlwyd y dylai pawb ledled Cymru gael ymwybyddiaeth sylfaenol o nam synhwyraidd a chyda hyn mewn golwg, hysbysebwyd y cyrsiau hefyd i bartneriaid trydydd sector a grwpiau cymunedol lleol. Cafwyd presenoldeb da yn y sesiynau a nododd 100% o’r rheiny a fynychodd bod y sesiynau’n rhagorol.


Cafodd y sesiwn gyntaf ei chyflwyno gan Guide Dogs Cymru a rhoddodd drosolwg o brofiad rhywun â nam ar eu golwg. Roedd y sesiwn yn ymgorffori elfen ymarferol boblogaidd iawn, oedd yn gofyn i staff wisgo mwgwd a chael eu tywys o amgylch ein swyddfeydd newydd yng Nghaerdydd. Nododd llawer o gydweithwyr syniad o golli grym a’r ffordd y gall y pethau bychain yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol gael effaith sylweddol ar rywun â nam ar eu golwg. Roedd y sesiynau eraill yn cynnwys Cydraddoldeb Byddardod gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain, Ymwybyddiaeth o Nam Synhwyraidd BME gan Sight Cymru ac Ymwybyddiaeth o Fod yn Fyddar a bod yn Ddall gan Deafblind Cymru. Yn y sesiwn olaf, rhannodd dau aelod o staff â nam synhwyraidd ac aelod o staff sydd â phlentyn â nam synhwyraidd eu profiadau o weithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Disgrifiodd adborth gan staff y ffordd yr oedd y sesiwn wedi gwella eu dealltwriaeth o’r ffordd y mae nam synhwyraidd yn effeithio ar gydweithwyr yn y gweithle a’r hyn y gellir ei wneud i gefnogi cynhwysiant. Dywedodd un cyfranogwr “Rwy’n teimlo y byddem yn fwy parod yn y dyfodol i wybod sut i gefnogi rhywun â nam synhwyraidd yn y gweithle. Mae hefyd wedi fy helpu i ddeall pa mor bwysig ydyw i roi isdeitlau ar y fideos yr ydym yn eu cynhyrchu ac ystyried hygyrchedd bob amser.” Os hoffech gefnogi ymgyrch Iechyd Cyhoeddus Cymru y flwyddyn nesaf, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau, cysylltwch â Junaid.Iqbal@wales.nhs.uk


Deafness - some facts 1 in 6 people in the UK are affected by hearing loss (@ 10 million) 6.5 million of these are aged 60 and over 3.7 million are of working age Around 2 million people in the UK have hearing aids About 800,000 are severely or profoundly deaf Adults and children who are deaf or hard of hearing face communication barriers which can cause: Lack of confidence Exclusion from society Depression

Isolation Unemployment

TECHNOLOGY AND THE WAY WE COMMUNICATE is HELPING to CHANGE THIS

Deaf Awareness Week is co-ordinated by the UK Council on Deafness Registered Charity No. 1038448 www.deafcouncil.org.uk


Newid Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus 4 Mai 2017 Prifysgol Bangor – Darlith Bontio 2 Nod y seminar yw • • •

Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Newid Ymddygiad mewn perthynas ag ymddygiad caethiwus Dysgu mwy am y dystiolaeth bresennol a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg Adnabod blaenoriaethau ar gyfer ymchwil ac ymarfer i’r dyfodol

Agorir y seminar gan yr Athro Robert Rogers: Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor. Cynhelir y gweithdai canlynol yn ystod y prynhawn: • • •

Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) Therapi Derbyn ac Ymrwymo (ACT) a chamddefnyddio sylweddau Cyfweld Ysgogiadol a Chwnsela

I archebu lle, defnyddiwch Wefan Eventbrite


Cael Ei Holi Dan sylw y mis yma mae gennym Tracey Good, Cyfarwyddwr Dros Dro, Tara Lewis, Cynorthwy-ydd Gweinyddol a Michelle Fowler, Rheolwr Prosiect Cydraddoldeb o Ganolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG sydd wedi ei lleoli yn Iechyd Cyhoeddus Cymru

Beth yw eich maes arbenigedd?

Mae Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG yn adnodd strategol ar gyfer sefydliadau’r GIG sy’n eu helpu i feithrin gallu a galluogrwydd er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni anghenion amrywiol cleifion a staff wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau iechyd. Nod cryn dipyn o’n gwaith yw hybu dysgu, gweithio’n gydweithredol ac arfer gorau yn ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol ar draws y GIG a’r gwasanaeth cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Mae cyfathrebu da yn hanfodol ar gyfer gofal iechyd diogel ac effeithiol. Ers cyhoeddi Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth i bobl sydd â nam ar eu Synhwyrau ym mis Rhagfyr 2013, rydym wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau’r GIG a phartneriaid y trydydd sector i gyflawni’r newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod cleifion â nam ar eu clyw a/neu eu golwg yn ddiogel ac yn cael gofal da. Mae’r Ganolfan yn cynnal Grŵp Cymru gyfan sydd yn cyfarfod bob chwarter gydag aelodau o bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth GIG, Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector. Mae gan dri aelod o’r tîm, Tracey, Tara a Michelle i gyd brofiad personol o fyw gyda nam ar eu clyw.

Mae’r e-fwletin y mis yma yn pwysleisio Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar sydd â’r thema ‘Diben Cyffredin’. Beth yn eich barn chi allai Cymru fod yn ei wneud i gefnogi’r rheiny sydd yn fyddar neu â nam ar eu clyw?

Mae bron 500,000 o bobl yng Nghymru yn fyddar neu â nam ar eu clyw, mae hynny’n gyfwerth ag 1 mewn 6 o bobl. Er bod nam ar y clyw yn effeithio ar bobl o bob oed, mae’n fwy amlwg wrth i bobl fynd yn hŷn ac wrth i bobl fyw’n hwy, bydd nifer y bobl sy’n cael eu heffeithio gan nam ar y clyw yn parhau i gynyddu. Mae’r gymuned fyddar yn amrywiol iawn. Gall rhai pobl a aned yn fyddar neu sydd wedi mynd yn fyddar yn ifanc iawn ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel iaith gyntaf ac mae eu hanghenion cyfathrebu a gwybodaeth yn wahanol i’r rheiny sydd wedi colli eu clyw yn oedolion. Mae gan lawer o bobl hefyd nam synhwyraidd deuol ac wedi colli eu clyw a’u golwg. Bydd gan bobl sydd yn fyddar neu â nam ar eu clyw gyflyrau iechyd eraill hefyd ac oherwydd rhwystrau cyfathrebu, maent yn fwy tebygol o fod ag iechyd meddwl gwael ac wedi eu hynysu’n gymdeithasol. Os oes gan bawb rywfaint o ymwybyddiaeth o’r ffordd i gyfathrebu’n effeithiol gyda phobl fyddar, byddai’n mynd yn bell yn yr ymgais i wneud i’r gymuned hon deimlo ei bod wedi ei chynnwys ac yn gallu cymryd rhan mewn cymdeithas yn yr un ffordd â phawb arall.


Gall gwneud addasiadau bach i’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu wneud gwahaniaeth gwirioneddol i rywun sydd yn fyddar neu wedi colli eu clyw.

Pa awgrymiadau fyddech chi’n eu rhoi i aelodau sydd yn hybu neu’n cymryd rhan yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Fod yn Fyddar? Byddem yn annog pawb i gefnogi Ymgyrch GIG Cymru ‘Mae’n Gwneud Synnwyr’ sydd yn ceisio gwella profiad cleifion â nam ar eu synhwyrau trwy sicrhau bod eu hanghenion cyfathrebu a gwybodaeth yn cael eu bodloni. Gall aelodau: • Gael gwybodaeth trwy ein modiwl e-ddysgu yn www.learning.wales.nhs.uk a ffilm ein hymgyrch yn www.equalityhumanrights.wales.nhs.uk/It-makes-sense-2016 am y ffyrdd mwyaf effeithiol o gyfathrebu gyda phobl sydd yn fyddar neu’n drwm eu clyw; • Gofyn i bobl sut byddent yn dymuno cyfathrebu; • Cynnig rhoi gwybodaeth ar fformat sydd yn hygyrch i’r unigolyn.

Gallai aelodau hefyd ddysgu rhywfaint o BSL sylfaenol; canfod mwy am hyfforddiant ymwybyddiaeth o fod yn fyddar ac ymgysylltu â sefydliadau fel Gweithredu ar Golli Clyw Cymru, Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, Cyngor Pobl Fyddar Cymru, Deafblind Cymru, Hearing Link a Chymdeithas Genedlaethol Plant Byddar (NDCS).

Pe byddech yn cael 3 dymuniad, beth fyddent?

Rydym wedi bod yn ddigywilydd a gofyn am 4 dymuniad, sef: 1. Bod pobl fyddar yn cael mynediad cyfartal i wybodaeth a mwy o wybodaeth mewn BSL a mwy o ddefnydd o isdeitlau, adrodd llais i destun a chapsiynau byw. 2. Mwy o bobl fyddar mewn gwaith. Mae pobl fyddar 4 gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddi- waith na pherson sydd yn clywed. Mae cael cydweithwyr byddar yn eich tîm yn ffordd ef feithi ol iawn o godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth. 3. Dyllid ychwanegu BSL at y cwricwlwm addysg fel bod pobl ifanc yn cael cyfle i ddatblygu gyrfa fel Dehonglwyr BSL a bod gan fwy o bobl sgiliau BSL sylfaenol 4. Bod gan blant byddar yng Nghymru fynediad i addysg trwy eu hiaith eu hunain - BSL - a bod gan eu rhieni fynediad i gyrsiau BSL heb orfod talu.

Beth yw eich diddordebau personol? Michelle - Chwaraeon Byddar Cymru (rwy’n chwarae golff a bowls). Rwy’n gwisgo sawl ‘cap’ yn y gymuned Fyddar. Rwyf yn aelod o glwb Byddar Pen-y-bont ar Ogwr ac yn Eiriolwr arbenigol ar gyfer y gymuned Fyddar trwy fy ngwaith gyda’r BDA. Rwyf yn angerddol am faterion Byddar fel Dementia a bod yn Fyddar a chefnogi pobl sydd â phroblemau yn cael mynediad i wasanaethau Tara – Rwyf wrth fy modd yn cerdded gyda fy nghŵn. Treulio amser gyda theulu a ffrindiau a therapi siopa bob nawr ac yn y man. Tracey – Rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o’m bywyd yn ceisio bod yn rhugl yn Gymraeg a Ffrangeg. Rwyf yn astudio BSL Lefel 1 er mwyn gallu cyfathrebu gyda fy ffrindiau o’r Gymuned Fyddar. Mae gennyf hefyd dŷ mewn pentref bach ger Bordeaux ac rwyf wrth fy modd yn treulio amser yno yn gwneud dim byd!


Pyncia Llosg Mae rhan hwn i’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglyn a gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiaddau! Os ydych chi’n dynuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost at publichealth.network@wales.nhs.uk Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!

Mae gwefan newydd Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) bellach yn weithredol!

Mae’n bleser gan y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) gyhoeddi achlysur lansio ei gwefan newydd. Lleolir yr IHCC o fewn yr Is-adran Iechyd Rhyngwladol, Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n ganolbwynt ar gyfer rhannu gwybodaeth, cyfnewid gwybodaeth, cydweithredu a rhwydwaithio i Gymru ar draws y DU, Ewrop a’r byd. Mae’r IHCC yn hybu, hwyluso a chefnogi cyfleoedd ar gyfer cydweithredu rhyngwladol, meithrin partneriaethau a chreu incwm er mwyn cael y manteision gorau posibl i Gymru a lleihau dyblygu ymdrechion ac adnoddau. Bydd y wefan newydd: • Yn rhoi gwybodaeth i chi am yr IHCC a’n gwaith. • Yn eich hysbysu ynghylch digwyddiadau i ddod ac wedi bod a’r newyddion Cenedlaethol/ rhyngwladol diweddaraf, Gallwch hefyd gyflwyno eitem newyddion neu ddigwyddiad. • Darparu adnoddau ynghylch sut i weithio’n rhyngwladol a dysgu am y gwaith iechyd rhyngwladol diweddaraf sydd yn digwydd ledled Cymru gan ddefnyddio Cronfa Ddata Partneriaeth Iechyd Rhyngwladol Cymru. Gallwch hefyd lanlwytho gwybodaeth am eich prosiect neu bartneriaeth ar y gronfa ddata trwy lenwi ein ffurflen ar-lein. • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am raglenni cyllid i gefnogi eich gwaith rhyngwladol. • Eich galluogi i chwilio am gyhoeddiadau, offer neu sefydliadau sydd yn gysylltiedig â gwaith rhyngwladol gan ddefnyddio ein hadnoddau a chyfeiriaduron gwasanaeth. Gallwch danysgrifio i’n e-fwletin a derbyn rhifynnau blaenorol. Gobeithio byddwch yn mwynhau ein gwefan newydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu awgrymiadau, llenwch ein ffurflen ar-lein neu anfonwch e-bost at yr IHCC.


Ymarfer a Rennir Prosiect y mis yw Prosiect Jiwsi Mae Jiwsi yn wasanaeth addysg a hyfforddiant iechyd rhywiol gan yr FPA a ariennir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Mae’n cyflwyno addysg rhyw a chydberthynas (SRE) i grwpiau o bobl ifanc agored i niwed mewn lleoliadau addysg a chymunedol a rhaglenni hyfforddiant SRE i staff BIPBC ledled Gogledd Cymru. Egwyddorion y Gwasanaeth: • Darparu rhaglen addysg wedi ei strwythuro sy’n cyflwyno addysg rhyw a chydberthynas ac ymwybyddiaeth iechyd rhywiol i staff Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr a staff partner perthnasol • Cyflenwi rhaglenni addysg rhyw a chydberthynas yn ôl yr angen mewn lleoliadau addysg a chymunedol gyda phobl ifanc o dan 25 oed • Galluogi gwaith partneriaeth trwy gyfranogiad ac ymgysylltu â sefydliadau statudol ac annibynnol Rhaglenni iechyd rhywiol addysg a chymunedol gyda phlant a phobl ifanc. Os hoffech ychwanegu eich prosiect eich hun i’r Cyfeiriadur Ymarfer a Rennir mae ffurflen ar-lein hawdd (sydd ond ar gael i aelodau) ac unwaith y caiff ei chymeradwyo gan un o’r cydlynwyr, bydd eich prosiect wedyn yn ymddangos ar y cyfeiriadur. Mae Pecyn Cymorth Hunanasesu hefyd y gellir ei argraffu neu ei lenwi ar-lein ac mae’n galluogi cydlynwyr i sicrhau ansawdd y datblygiad a darpariaeth prosiectau newydd a phresennol. Os oes angen cymorth arnoch yn cwblhau’r pecyn cymorth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag un o’r cydlynwyr yn publichealth.network@wales.nhs.uk

Mae Gennym Ddoniau

Mae Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG yn eich gwahodd i fynychu ei digwyddiad ‘Mae Gennym Ddoniau’ a gynhelir ar 18 Mai yn yr Urdd, Bae Caerdydd. Pwy ddylai fynychu: • Unrhyw un sydd â diddordeb yn cynyddu amrywiaeth yn y gweithle, ac yn arbennig • Rheolwyr (ar bob lefel) • Y Gweithlu ac ymarferwyr DG • Unrhyw un sydd yn gysylltiedig â recriwtio Canolbwynt y digwyddiad yw arddangos yr ystod eang o ddoniau sydd gennym yma yng Nghymru. Trwy gydol y dydd, bydd sefydliadau ac unigolion yn rhannu’r ffaith y gall gwneud addasiadau bach i’r ffordd yr ydym yn recriwtio ac yn datblygu pobl greu mwy o amrywiaeth a gweithleoedd cynhwysol. Trwy ddrama, barddoniaeth a phrofiadau bywyd go iawn, bydd y cyfranogwyr yn cael cyfle i feddwl am rai o’r rhwystrau i gyflogaeth sydd yn dal i fodoli mewn cymdeithas ac ystyried gweithredoedd unigol i wneud newid cadarnhaol. Bydd fformat y dydd ar arddull theatr ac yn ogystal â drama, barddoniaeth a straeon, bydd y cyfranogwyr yn cael cyflwyniadau gan: • • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, • Comisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol • Yr Adran Gwaith a Phensiynau • Engage to Change • Women Connect 1st • Stonewall Cymru Am fwy o fanylion ac i gofrestru ar gyfer mynychu, cysylltwch â Tara Lewis, Cynorthwy-ydd Gweinyddu, Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG trwy tara.lewis@wales.nhs.uk


Sight Cymru’n cael ei gydnabod fel prif elusen iechyd a lles cymunedol

Mae elusen Gymreig wedi ennill gwobr flaenllaw am ei chyflawniadau yn cefnogi pobl â nam ar eu golwg a chodi ymwybyddiaeth o faterion iechyd y llygaid. Mae Sight Cymru wedi curo dros 400 o sefydliadau ar draws y DU i fod yn un o 10 enillydd Gwobrau GSK IMPACT 2017, gwobr genedlaethol sy’n cydnabod rhagoriaeth ymysg elusennau sydd yn gwella iechyd a lles yn eu cymunedau. Bydd yr elusen yn derbyn £30,000 mewn cyllid fel rhan o’i gwobr, yn ogystal â chymorth a datblygiad arbenigol gan Gronfa’r Brenin. Amcangyfrifir bod 107,000 o bobl yng Nghymru yn ddall, yn rhannol ddall neu mewn perygl o golli eu golwg, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn bobl hŷn sydd â chyflyrau iechyd eraill yn aml, fel nam ar eu clyw a dementia. Awgrymodd astudiaeth yn ddiweddar fod 43 o’r rheiny sydd wedi colli eu golwg yn mynd ymlaen i ddioddef iselder. Mae Sight Cymru, a sefydlwyd ym 1865, yn cefnogi’r rheiny sydd wedi neu yn colli eu golwg i fyw’n annibynnol. Mae hefyd yn addysgu cymunedau i atal nam ar y golwg y gellir ei osgoi ac yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol a gofalwyr i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae gwasanaeth adsefydlu yr elusen yn trefnu ymweliadau â’r cartref ar gyfer pobl â nam ar eu golwg er mwyn eu helpu yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Daeth astudiaeth academaidd ddiweddar o wasanaeth Sight Cymru i’r casgliad ei fod yn ddylanwad effeithiol a chadarnhaol ar y rheiny sydd yn derbyn y cymorth. Mae Sight Cymru hefyd yn gweithio gydag ysgolion i annog iechyd llygaid da. Arweiniodd ymweliad ag un ysgol at 330 o blant yn ymweld ag optometrydd am y tro cyntaf, gyda 108 yn dychwelyd gyda lensys ar bresgripsiwn. Mae’r elusen yn rhagweithiol yn rhoi cymorth i bob cymuned, am y gall pobl o rai cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig fod chwe gwaith yn fwy tebygol o brofi nam ar eu golwg oherwydd y cyfraddau uwch o ddiabetes math 2, glawcoma, a dirywiad macwlaidd yn ymwneud ag oed. Mae Sight Cymru yn arwain menter MEGAFOCUS Llywodraeth Cymru, sydd yn gweithio gyda mosgiau, temlau ac ysgolion i sicrhau bod pobl o bob grŵp ethnig yn deall y peryglon i iechyd y llygaid ac yn gwybod sut i’w lleihau trwy ffordd o fyw iachach. Dywedodd Katie Pinnock, Cyfarwyddwr Partneriaethau Elusennol y DU ac Iwerddon yn GSK: ‘Mae Sight Cymru yn gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi’r rheiny sydd wedi eu heffeithio gan nam ar eu golwg i aros yn iach ac yn annibynnol. ‘Mae’r elusen wedi ymrwymo i iechyd a lles y rheiny â nam ar eu llygaid ac mae hefyd yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd y llygaid. Cafodd y beirniaid eu plesio’n benodol gan gydnabyddiaeth Sight Cymru o bwysigrwydd gweithio gyda holl gymunedau amrywiol Cymru.’ Dywedodd Sharon Beckett, Prif Weithredwr Sight Cymru: ‘Rydym yn hynod o falch o fod wedi ennill Gwobr GSK IMPACT. Mae’n anrhydedd mawr i Sight Cymru ac mae’n dangos gwaith caled ein holl staff a’n gwirfoddolwyr. ‘Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith mai ni yw’r unig asiantaeth colli golwg cyfan gwbl Gymreig sydd yn darparu gwasanaethau ar hyd a lled y wlad. Byddwn yn defnyddio’r wobr hon a’r cyfleoedd datblygu a ddaw yn ei sgil i sicrhau ein bod yn parhau i roi cymorth i’r rheiny sydd wedi eu heffeithio gan nam ar y golwg.’ Mae datblygu arweinwyr yn y sector elusennau yn nod pwysig i raglen Gwobrau GSK IMPACT, sydd bellach wedi bod yn weithredol ers 20 mlynedd, a bydd gan Sight Cymru fynediad i ddatblygiad hyfforddiant ac arweinyddiaeth wedi ei deilwra ar gyfer ei anghenion. Fe’i gwahoddir hefyd i ymuno â Rhwydwaith Gwobrau GSK IMPACT, rhwydwaith cenedlaethol o fwy na 70 o elusennau iechyd a lles blaenllaw sydd yn cydweithio i ddatblygu eu harweinwyr, dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio a chefnogi eraill. Bydd Sight Cymru yn derbyn y wobr mewn seremoni a gynhelir yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain ar ddydd Iau 18 Mai, ynghyd â naw enillydd arall Gwobrau GSK IMPACT.


Sioe Deithiol Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017 Arferion Addawol Cyfres o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod mis Mai 2017 yw ‘Arferion Addawol. Eu nod yw rhoi: • • •

Diweddariad ar ddatblygiadau o fewn Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Darparu lle i rwydweithio a chyfle i brosiectau lleol arddangos eu gwaith Cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn ymwybyddiaeth fer ar ‘Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif’ Os oes gennych brosiect yr hoffech ei hyrwyddo, cysylltwch â ni a: publichealth.network@wales.nhs.uk.

Mae’r digwyddiadau’n rhad ac am ddim a darperir cinio bwffe ym mhob un o’r lleoliadau. Dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch eich lle yn gynnar. Cliciwch ar un o’r digwyddiadau canlynol i gofrestru trwy Eventbrite: 10 Mai – Canolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd 18 Mai – Canolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno 24 Mai – Gwesty Elan Valley, Rhaeadr 25 Mai – Canolfan Halliwell, Caerfyrddin


Crynodeb o’r Newyddion

Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion Iawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ysmygu Helpa Fi i Stopio Efallai eich bod chi’n ymwybodol bod Llywodraeth Cyrmu wedi gosod targed uchelgeisiol i drin 5% o ysmygwyr yng Nghymru trwy wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu’r GIG a gostwng cyffredinolrwydd ysmygu i 16% erbyn 2020.

Maeth Gwella gofal bwyd a maeth Mae’r cwrs hwn ar gyfer pawb sy’n gweithio gyda phobl hŷn. Nod y cwrs yw cynyddu gwybodaeth a sgiliau mewn bwyd a maeth.

Gweithgaredd Corfforol Lansiad swyddogol ‘Milltir y Dydd’ yng Nghymru Mae sêr chwaraeon ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus wedi dod ynghyd i lansio cynllun Milltir y Dydd yn swyddogol yng Nghymru, yn Ysgol Gynradd Pontllan-fraith yn y Coed-duon ar Iau 30 o Fawrth.

Clic


Iechyd Mamau a’r Newydd-anedig Ymgyrch Beichiogrwydd Mwy Diogel Cymru Lansiwyd ymgyrch Beichiogrwydd Mwy Diogel Cymru mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Mamolaeth Cymru ddydd Mawrth 28 Mawrth yn y gweithdy Beichiogrwydd Mwy Diogel Cymru.

Yr Amgylchedd Naturiol Gweledigaeth i Gymru Mae Cerddwyr Cymru wedi lansio eu gweledigaeth ar gyfer cerdded yng Nghymru ac maent wedi gwahodd pobl i fynd am dro ar draws y map mwyaf o Gymru a grëwyd erioed.

ciwch yma am mwy o ddigwyddiadau ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Mai

04 04 04 08 09 1 0

Newid Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus Prifysgol Bangor, Bangor

14eg Gynhadledd Imiwneiddio Cymru Stadiwm SSE SWALEC, Caerdydd

IDIGWYDDIAD GOFAL RHAGWEITHIOL INTEGREDIG Y gynhadledd ar gyfer cleifion a gweithwyr gofal iechyd sylfaenol, cymunedol ac integredig proffesiynol Parc Y Scarlets, Llanelli Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl y Sefydliad Iechyd Meddwl: Byw gyda Newid Ar Draws y DU Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant Caerdydd

Iechyd Meddwl Heddiw Cymru 2017 Arena Motorpoint, Caerdydd

C ar w


10 13 15 18 24 24 25

Sioe Deithiol Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017 – Arferion Addawol All Nations Centre, Caerdydd Cymdeithas Iechyd Rhywiol ac Atal Cenhedlu Cymru Gwesty’r Village, Abertawe

Wythnos Cerdded i’r Ysgol Ar Draws y DU

Sioe Deithiol Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017 – Arferion Addawol Conwy Business Centre, Conwy Sioe Deithiol Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017 – Arferion Addawol Elan Valley Hotel, Nr Rhayader, Powys Gwella Iechyd Meddwl Pobl Ifanc: Hyrwyddo Ymagwedd Gydlynus tuag at Anhwylderau Bwyta Gwesty Strand Palace, Llundain Sioe Deithiol Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017 – Arferion Addawol Canolfan Halliwell, Prifysgol de Cymru, Caerfyrddin

Cliciwch yma am mwy o ddigwyddiadau wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Y Bwrlwn Iechyd UHear

Mae UHear yn brawf sgrinio colli clyw sy’n eich galluogi i brofi eich clyw er mwyn pennu a yw o fewn yr ystod arferol neu a ydych o bosibl yn colli eich clyw. Mae hyn yn cysylltu â’r myth mai dim ond pobl hŷn sydd yn colli eu clyw ac mai arwydd o henaint yn unig ydyw. Felly, gall pobl o bob oed bellach wirio eu clyw a chael gwared ar y myth.

Signstation Gwefan am ddim a ddatblygwyd gan Ganolfan Astudiaethau Byddardod, Prifysgol Bryste. Mae’r wefan hon wedi ei neilltuo ar gyfer y bobl hynny sydd eisiau gwybod mwy am Iaith Arwyddion Prydain a phobl Fyddar.


Cysylltu â Ni Publichealth.network@wales.nhs.uk Rhif 2 Capitol Quarter Llawr 5 Tyndall Stryd Caerdydd CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf afonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk Dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.


Next Edition: Food Safety



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.