Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Awst 2016

Page 1

Awst 2016


Croseo i’r e-fwletin Croeso i rifyn mis Awst o E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Pwyslaid y mis yma yw Dementia yn barod ar gyfer mis Alzheimer y Byd a gynhelir ym mis Medi 2016, sydd yn ymgyrch rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth a herio stigma. Mae effaith Mis Alzheimer y Byd yn tyfu, ond mae’r stigmateiddio a’r wybodaeth wallus yn ymwneud â dementia yn dal yn broblem fyd-eang. Fis diwethaf, cynhaliwyd seminar ar ‘Iechyd yn y Gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsryweddol’. Roedd presenoldeb da yn y digwyddiad a chawsom adborth cadarnhaol iawn. Gellir gweld fideo yn crynhoi’r digwyddiad ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym hefyd wrthi’n datblygu ein podlediad cyntaf o gyflwyniadau’r digwyddiad fydd ar gael yn fuan. Mae ein pleidlais ddiweddaraf ar destun seminar yn dal ar agor ar Twitter. Mae’r bleidlais hon yn gofyn i aelodau bleidleisio dros y testunau seminar i ddod. Rydym wedi cael ymateb gwych hyd yn hyn. Mae’r testunau’n cynnwys iechyd Mudwyr, Atal HIV, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a defnyddio Aps a’r Cyfryngau Cymdeithasu ym maes iechyd. Gallwch gael mwy o fanylion a phleidleisio yn yr adran ‘Health Buzz’. Yn olaf, os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau yr hoffech i ni eu cynnwys yn rhifyn mis nesaf anfonwch ebost publichealth.network@wales.nhs.uk


www.publichealthnetwork.cymru @PHNetworkcymru

/publichealthnetworkcymru


For


rget me not Pwyslais ar Ddementia Mae’r pwyslais y mis yma ar gefnogi pumed Mis Alzheimer y Byd™, ymgyrch rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth a herio stigma, a gynheir ym mis Medi 2016. Cafodd gwefan Mis Alzheimer y Byd ei lansio ar ddiwedd Gorffennaf 2016. Y thema ar gyfer Mis Alzheimer y Byd 2016 yw Cofiwch Fi. I gymryd rhan trwy rannu eich hoff atgofion neu atgofion o anwylyn ar y cyfryngau cymdeithasu fis Medi, defnyddiwch yr hashnodau #RememberMe #WAM2016. I ddangos cefnogaeth bellach, gofynnwch i bob aelod o’ch tîm greu nodyn gludiog neu neges i gefnogi Mis Alzheimer y Byd a’i arddangos gyda balchder gan ddefnyddio’r pecynnau cymorth hyrwyddo ar wefan Mis Alzheimer y Byd


Pecyn cymorth dementia i helpu cleifion, gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd Mae cronfa ddata gynhwysfawr ar-lein yn cynnwys y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf ar yr hyn sy’n gweithio ym maes gofal a thriniaeth dementia wedi cael ei datblygu gan ymchwilwyr yn Uned Ymchwil Gwasanaethau Cymdeithasol Personol, Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain (PSSRU yn LSE).Y pecyn cymorth, a lansiwyd ar 3 Awst, a ddyfeisiwyd gan Adelina Comas-Herrera, David McDaid, yr Athro Martin Knapp a chydweithwyr, yw’r cyntaf o’i fath yn fyd-eang. Mae’r Pecyn Cymorth Tystiolaeth Dementia yn dod â thros 3,000 o erthyglau cyfnodolion a 700 o adolygiadau astudiaethau ymchwil ynghyd. Datblygwyd y Pecyn Cymorth fel rhan o brosiect MODEM (Modelu Canlyniad ac Effaith Cost Ymyriadau ar gyfer Dementia), gyda chyllid ychwanegol gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Caiff prosiect ehangach MODEM ei ariannu gan yr ESRC a’r NIHR fel rhan o’u menter Gwella Gofal Dementia. Y nod yw gwneud yr holl wybodaeth yma ar gael yn gyhoeddus ar ffurf sydd yn glir ac yn hawdd i’w deall i gleifion dementia, eu teuluoedd a gofalwyr di-dâl yn ogystal â staff sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hefyd o fudd i academyddion a’r rheiny sy’n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau yn lleol ac yn genedlaethol. Dementia yw’r prif achos sydd yn tyfu gyflymaf o anabledd yn gysylltiedig ag iechyd ar draws y byd, ac mae’r effeithiau iechyd, cymdeithasol ac economaidd yn cynyddu oherwydd poblogaeth sy’n heneiddio. Mae tua 850,000 o bobl yn y DU yn dioddef o’r cyflwr, ffigur y mae disgwyl iddo gynyddu i 2 filiwn erbyn 2051. Nid oes unrhyw wellhad i dementia ar hyn o bryd, sydd yn gysylltiedig â dirywiad gwybyddol parhaus fel colli cof a materion ymddygiadol yn aml. Yn lle hynny, mae gwasanaethau gofal iechyd yn canolbwyntio ar arafu datblygiad dementia gan ddefnyddio dulliau gofal gwahanol. Bydd y pecyn cymorth newydd hwn yn helpu’r rheiny sy’n gysylltiedig â datblygu gwasanaethau a thriniaethau ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Trwy chwilio’r gronfa ddata ar-lein, byddant yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch pa wasanaethau a thriniaethau sy’n effeithiol a beth yw eu cost. Bydd yn eu galluogi i wirio pa mor gryf yw’r dystiolaeth dros driniaeth benodol neu i nodi faint yn fwy o ymchwil sydd ei hangen.

Arolwg Gofal yn y Cartref Yr Hydref hwn, bydd Cymdeithas Alzheimer yn lansio ei thrydydd adroddiad ar ofal yn y cartref fel rhan o’r Ymgyrch Unioni Gofal Dementia. Os ydych chi, rhywun yr ydych yn gofalu amdanynt, neu gyfaill wedi cael profiad o ofal yn y cartref, gwnewch ein harolwg 5 munud er mwyn rhannu eich stori gyda ni a helpu i greu darlun cywir o ofal yn y cartref yn y DU.


Yr Actores Carey Mulligan yn cael ei phenodi’n Llysgennad Dementia Byd-eang cyntaf y DU gan y Gymdeithas Alzheimer a Jeremy Hunt Nododd datganiad i’r wasg gan Lywodraeth y DU ar 16 Awst y bydd Carey, yn rhinwedd ei swydd newydd, yn tynnu sylw rhyngwladol at fuddion gwneud cymunedau yn gyfeillgar i ddementia, ac yn rhoi pwyslais o’r newydd ar raglen Cyfeillion Dementia y Gymdeithas Alzheimer yn Lloegr. I nodi’r cyhoeddiad, treuliodd Carey amser gyda’r Gweinidog Iechyd Jeremy Hunt ym Maes Awyr Heathrow, sydd yn ceisio troi’n faes awyr cyfeillgar i ddementia cyntaf y byd, i arwain sesiwn hyfforddiant Cyfeillion Dementia ar gyfer staff y maes awyr. Nododd rôl y DU fel arweinydd byd-eang ym maes dementia ac amlinellodd ei chynlluniau i hyrwyddo hawliau pobl â dementia ar draws y byd. Mae’r maes awyr yn darparu profiad personol i deithwyr â dementia lle gallant, cyn eu taith, gymryd rhan mewn taith 360 gradd rithwir a chael ardaloedd tawel a therapiwtig i aros yn y maes awyr. Mae Heathrow hefyd wedi addo y bydd bob un o’r 76,000 o staff sy’n cael cyswllt â chwsmeriaid yn ymwybodol o ddementia, trwy sesiynau, hyfforddiant ac adnoddau ar-lein Cyfeillion Dementia. Nod Carey yw ysbrydoli ac ymgysylltu arweinwyr y byd i fynd i’r afael â stigma a hyrwyddo dealltwriaeth o ddementia, cyflwr y mae ei mam-gu yn byw gydag ef. Ei gweithred gyntaf yn ei swydd newydd fydd nodi Diwrnod Alzheimer y Byd ar 21 Medi trwy gyflwyno sesiwn Cyfeillion Dementia i grŵp ieuenctid yn Los Angeles er mwyn creu ymwybyddiaeth gwell o’r cyflwr ymysg pobl ifanc.Daw cyhoeddi rôl newydd Carey Mulligan wrth i’r llywodraeth lansio ei Atlas Dementia Newydd. Mae’r map rhyngweithiol hwn o Loegr yn galluogi pobl i wneud cymariaethau ynghylch ansawdd gofal dementia yn eu hardal nhw, ar faterion fel ataliaeth, diagnosis a chymorth. Yr wythnos hon hefyd, bydd Cynlluniau Peilot Dementia newydd Gwiriadau Iechyd y GIG yn cael eu lansio. Mae Public Health England yn gweithio gydag Ymchwil Alzheimer y DU a Chymdeithas Alzheimer i ymestyn cydran lleihau’r perygl o dementia Gwiriadau Iechyd y GIG i bob person 40-64 oed mewn sefleoedd yn Birmingham, Bury, Dinas Manceinion a Dinas Southampton. Bydd hyn yn golygu y bydd dros 250 o bractisau meddygon teulu yn codi ymwybyddiaeth ynghylch lleihau’r perygl o ddementia ymysg pobl canol oed fel rhan o’r gwiriad iechyd am y tro cyntaf. Er 2013, mae dros 1.6 miliwn o bobl wedi cytuno i fod yn Gyfaill Dementia, a bellach mae dros 150 o gymunedau sy’n gyfeillgar i ddementia yn Lloegr yn unig. Gobaith Cymdeithas Alzheimer yw cael 4 miliwn o Gyfeillion Dementia erbyn 2020. Prif nodau’r rhaglen yw mynd i’r afael â’r stigma yn ymwneud â dementia sy’n golygu bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cau allan o’u cymunedau a gwella bywydau’r bobl hynny sy’n dioddef o’r cyflwr a’u teuluoedd.


Astudiaeth Ymchwil Book Of You Mae Canolfan Datblygu Gwasanaeth Dementia Cymru yn chwilio am bobl â dementia, a gofalwyr pobl â dementia, i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil am waith stori bywyd digidol. Bydd yr astudiaeth yn archwilio a all defnyddio llyfr stori bywyd digidol – casgliad o eiriau, cerddoriaeth, lluniau a thestun sydd yn adlewyrchu agweddau pwysig o fywyd person – helpu i wella lles pobl â dementia a’u gofalwyr. Helpu i gynnal neu gynyddu syniad o hunaniaeth bersonol Gweithredu fel gweithgaredd pleserus ac ystyrlon. Mae Book of You yn rhan o brosiect Dinasyddion Dementia, sydd yn ceisio helpu pobl sydd wedi eu heffeithio gan ddementia i gymryd rhan mewn ymchwil gan ddefnyddio aps ar ffonau deallus a llechi. I gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, dylai fod gan y cyfranogwyr: Ddiagnosis o ddementia (o unrhyw fath) neu’n gofalu am berson sydd wedi cael diagnosis o ddementia.Y gallu i ddeall eu bod yn cymryd rhan yn y prosiect ac yn cydsynio â hyn.Ddefnydd o iPod Touch, iPhone, iPad neu iPad mini a’r rhyngrwyd. Gallwch gymryd rhan yn yr ymchwil hwn ble bynnag y dymunwch, gan ddefnyddio ffôn deallus neu lechen Apple. Byddwch yn cael mynediad i’r ap Book of You er mwyn i chi allu creu a rhyngweithio gyda llyfr stori eich bywyd. Cynhelir yr astudiaeth dros 12 wythnos a byddwn yn gofyn i chi ei ddefnyddio o leiaf ddwywaith yr wythnos am ryw 30 munud yn ystod y cyfnod hwn. Ar ôl pob defnydd, gofynnir rhai cwestiynau byr i chi am eich profiad, fydd ond yn cymryd ychydig funudau i’w hateb. Cyn, hanner ffordd drwodd, ac ar ôl yr astudiaeth, gofynnir i chi ateb holiaduron manylach na ddylai gymryd fwy nag 20 munud i’w cwblhau. Caiff pob cwestiwn ei ateb yn ôl graddfa – ni ofynnir i chi ysgrifennu unrhyw ymatebion. Gallwch gytuno i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon neu gael mwy o wybodaeth yn dementiacitizens.Bydd ap peilot Book of You yn barod i’w ddefnyddio ar ddiwedd mis Awst. Pan fydd yn barod, anfonir ebost o’r cyfarwyddiadau ar gyfer gosod a defnyddio’r ap at bawb sydd wedi ymuno ar wefan Dinasyddion Dementia. Bydd mwy o gymorth hefyd ar gael i’ch tywys chi drwy’r broses. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â Laura ar 01248 383188 neu anfon ebost at l.o-philbin@bangor.ac.uk. If you have any questions you can get in touch with Laura on 01248 383188 or by e-mailing l.o-philbin@bangor.ac.uk.


Caring for Me and You: Pecyn cymorth ar gyfer gofalwyr pobl â dementia Amcangyfrifir bod 700,000 o bobl yn y DU yn gofalu am rywun â dementia. Mae llawer o gost gofal dementia’n cael ei dalu gan ofalwyr teuluol di-dâl, sydd yn arbed £11.6 biliwn i economi’r DU. Er y gall gofalu fod yn brofiad boddhaus, gall hefyd gael effeithiau negyddol ar y gofalwr wrth iddynt ymdopi â’r newidiadau y mae eu hanwyliaid yn eu profi a’r addasiadau i’w ffordd o fyw eu hunain. Oherwydd natur gynyddol ac ansicr y cyflwr, mae gofalwyr pobl â dementia yn aml yn nodi lefelau uchel o straen, gorbryder ac iselder. Gall therapïau fel therapy ymddygiad gwybyddol (CBT) neu wybodaeth wedi ei theilwra a phecynnau addysg helpu pobl i ymdopi gyda’r teimladau a’r emosiynau negyddol. Er bod rhai sesiynau therapi’n cael eu cynnal yn swyddfa’r meddyg neu’r therapydd, maent hefyd yn cael eu cyflenwi’n gynyddol ar-lein. Gall hyn helpu pobl i gael gafael ar gymorth pan fydd hi’n anodd cael amser neu’r gofal angenrheidiol i fynychu sesiwn wyneb yn wyneb. Nod y prosiect hwn o dan arweiniad Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Rhydychen ac wedi ei ariannu gan Gymdeithas Alzheimer, yw canfod a all pecynnau therapy ar-lein sydd wedi eu datblygu’n arbennig fod yn effeithiol yn helpu pobl sy’n gofalu am rywun sydd wedi ei effeithio gan ddementia i leihau straen a gwella eu lles. Mae ymchwilwyr yn cynnal hap-dreial wedi’i reoli fydd yn cyflwyno un o dri phecyn i’r cyfranogwyr trwy gyfrifiadur. Caiff y bobl fydd yn cymryd rhan un o’r tri phecyn ar hap: pecyn CBT ar-lein yn unig; y pecyn CBT ar-lein gyda chymorth ychwanegol dros y ffôn; neu wybodaeth ac addysg i ofalwyr am ddementia. Gall y bobl fydd yn cymryd rhan yn y treial fynd trwy’r cwrs ar eu cyflymder eu hunain a chael hyd at 26 wythnos i gwblhau 20 sesiwn ar-lein. Bydd pob sesiwn yn cymryd tua 20-30 munud. Ar ddiwedd yr astudiaeth, bydd yr ymchwilwyr yn dadansoddi’r canlyniadau ac yna’n pennu beth oedd fwyaf defnyddiol i ofalwyr o ran gwella eu lles. Os ydych yn preswylio yn y DU ac yn helpu i ofalu am berson sydd wedi ei effeithio gan ddementia ar hyn o bryd (er enghraifft ffrind agos, aelod o’r teulu neu gymydog) yn profi symptomau ysgafn straen, gorbryder neu iselder ac nad ydych eisoes yn cael cymorth iechyd meddwl proffesiynol, rydych yn gymwys i wneud cais i gymryd rhan yn y treial. Bydd angen bod gennych fynediad rheolaidd i gyfrifiadur neu liniadur sydd yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd. Yn anffodus, nid yw’r feddalwedd wedi ei chyflunio i weithio ar Apple Mac nad unrhyw lechen na dyfais symudol. Gallwch gael mwy o wybodaeth ac ymuno ar wefan yr astudiaeth.


Pyncia Llosg Mae’r rhan hwn o’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglŷn â gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgrifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraed diadau! Os ydych chi’n dymuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost at publichealth.network@wales.nhs.uk. Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!

Diweddariad ar Bwysedd Gwaed Uchel gan Jo Oliver, Arweinydd Ymgysylltu’r Gwasanaeth Iechyd ar gyfer Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon Mae’n hysbys bod pwysedd gwaed uchel yn factor risg sylweddol ar gyfer strôc, trawiad ar y galon, methiant y galon, clefyd cronig yr arennau a dementia. Mae hefyd yn gyd-forbidrwydd cyffredin ar gyfer cyflyrau eraill fel diabetes. Dyma’r cyflwr hirdymor mwyaf cyffredin a’r ail factor risg mwyaf (ar ôl smygu) ar gyfer marwolaeth cyn pryd ac anabledd yn y DU ac mae’n effeithio ar fwy nag un ym mhob pedwar oedolyn. Ond eto, gellir ei atal yn aml a gellir lleihau ei effeithiau trwy ganfod a rheoli gwell. Mae Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) yn aelod allweddol o Fwrdd Arweinyddiaeth System Pwysedd Gwaed a drefnwyd gan Public Health England ac oedd yn bartner yn natblygiad y cynllun gweithredu ar y cyd a gyhoeddwyd yn 2015 ‘Mynd i’r Afael â Phwysedd Gwaed Uchel: O Dystiolaeth i Weithredu’. Mae arwyddion calonogol iawn o grwpiau arweinyddiaeth system gyfan yn dod i’r amlwg ar draws Lloegr i fynd i’r afael â phwysedd gwaed uchel ac yng Nghymru a’r Alban yn yr un modd, fodd bynnag mae’n dod yn amlwg iawn, er bod rhai enghreifftiau o syniadau rhagorol yn dod i’r amlwg, gydag uchelgais glir i ddad-feddyginiaethu profion pwysedd gwaed ac ymestyn allan i gymunedau risg uchel, mae blaenoriaethau cyllid sy’n gwrthdaro yn atal hyn rhag digwydd. Un o’r prif flaenoriaethau o fewn strategaeth BHF yw sicrhau bod y rheiny y nodir bod ganddynt bwysedd gwaed uwch na’r disgwyl yn cael cynnig llwybr atgyfeirio priodol i reoli eu cyflwr er mwyn helpu i leihau’r peryglon hysbys o farwolaeth cyn pryd ac anabledd. Mae gennym amrywiaeth o adnoddau gwybodaeth ar gael ar bwysedd gwaed uchel i’r cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol ar ein gwefan bhf.


Cyflawniadau rhagorol gan Ymarferwyr Deieteg Cynorthwyol sy’n gweithio ar y rhaglen Sgiliau Maeth am OesTM Enillodd yr ymarferwyr deieteg cynorthwyol Sarah Powell-Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Lisa Brown, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro/Dechrau’n Deg Caerdydd, y Wobr Datblygu Gofal Iechyd cenedlaethol am gyflawniad rhagorol gan weithiwr proffesiynol perthynol i iechyd neu weithiwr cymorth neu dechnegydd gwyddorau gofal iechyd. Mae gweithwyr cymorth ac ymarferwyr cynorthwyol deieteg yn asedau gwerthfawr yn y gweithlu deieteg yng Nghymru. Yn y rhaglen genedlaethol Sgiliau Maeth am OesTM, ynghyd â deietegwyr iechyd y cyhoedd, mae ganddynt rôl hanfodol yn ymgysylltu â chymunedau a’u cefnogi i gael deiet cytbwys, iach, penderfynydd allweddol iechyd a lles Mae Dechrau’n Deg, rhaglen flaenllaw y blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru a’r rhaglen trechu tlodi, Cymunedau yn Gyntaf, yn rhoi cyfleoedd sylweddol i hyfforddi a chefnogi staff cymunedol i weithio gydag unigolion a chymunedau i’w grymuso i wneud dewisiadau iach o ran bwyd. Mae Sarah wedi bod yn flaenllaw yn datblygu ac yn gwerthuso’r rhaglen arloesol Dewch i Goginio ac mae Lisa wedi cael rôl flaenllaw yn sefydlu a chyflwyno’r rhaglen Dechrau Coginio i deuluoedd yng Nghaerdydd. Mae’r rhaglenni arloesol hyn, sydd wedi eu cynhyrchu ar y cyd â chymunedau lleol, yn cynorthwyo pobl i baratoi, bwyta a mwynhau deiet iach trwy wella sgiliau coginio ymarferol a’r hyder i baratoi prydau maethlon. Mae Sarah a Lisa yn gweithio gyda ac yn cefnogi staff eraill sydd wedi eu hyfforddi i gyflenwi’r mentrau. Maent yn ymgorffori gweithgareddau i gysylltu’r bwyd sy’n cael ei baratoi â negeseuon maeth sy’n hybu iechyd da a lles ac yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr gael credyd am ddysgu trwy’r sefydliad dyfarnu Cymreig, Agored Cymru. Gall hyn gefnogi’r cyfranogwyr i gael gwaith neu gyfleoedd addysg pellach. Mae’r adnoddau a ddatblygwyd wedi cael eu rhannu gyda thîm ehangach Sgiliau Maeth am OesTM sy’n ymestyn ar draws Cymru, ac yn galluogi dull cyson a dibynadwy o gael negeseuon bwyd a maeth i’n dinasyddion. Mae Sarah a Lisa yn gweithio gyda grwpiau amrywiol iawn fel gweithio gyda chyfieithwyr i helpu’r rheiny y mae Saesneg yn ail iaith iddynt i gwblhau’r cwrs; addasu’r cyrsiau mewn hosteli i’r digartref i gyd-fynd â’r offer cyfyngedig sydd ar gael a helpu dysgwyr sydd â gallu a phrofiad amrywiol o ddysgu i gael achrediad. Dywedodd y beirniaid “Mae angen pobl â sgiliau rhyngbersonol rhagorol i ddwyn perswâd ar deuluoedd a’u cadw ar y rhaglenni hyn ac mae Lisa a Sarah wedi dangos eu bod yn ddawnus iawn yn hyn o beth – heb sôn am fod â gallu i goginio. Ac mae’r canlyniadau yn wych – gwnaeth bron 9 allan o 10 newidiadau i’r hyn yr oeddent yn ei fwyta, gyda 99% yn dweud bod y cwrs yn dda neu’n rhagorol.” Mae gwaith Sarah a Lisa wedi arwain at y rhaglen yn cyrraedd rhai o’r grwpiau cymunedol mwyaf agored i niwed yng Nghymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella lles ac maent wrth eu bodd bod hyn wedi cael ei gydnabod a’i ddathlu gyda’r wobr genedlaethol flaenllaw hon. Llongyfarchiadau Sarah a Lisa!


Crynodeb o’r Newyddion Croeso i’r Crynodeb Newyddion! Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion er mwyn mynd i’r eitem newyddion lawn ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Atal Cwympiadau Sadiwch i ... Gadw’n SAFF Mae Heneiddio’n Dda yng Nghymru ynghyd â phartneriaid eraill gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Age Cymru, RNIB, Gofal a Thrwsio a Llywodraeth Cymru yn lansio Sadiwch i ... Gadw’n SAFF, eu hymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth am gwympiadau.

Chwarae Ymchwil – Buddiannau darpariaeth chwarae yn Wrecsam Dengys ymchwil newydd gan Wasanaeth Cefnogaeth Cymunedau’n Gyntaf ar ran Cymunedau’n Gyntaf Wrecsam ‘am bob £1 a fuddsoddir mewn gwaith chwarae ceir gwerth £4.60 mewn buddiannau cymdeithasol uniongyrchol a gohiriedig’.

Tlodi Ystadegau tanwydd, ynni a thlodi ynni gwledig Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi ystadegau (saesneg yn unig) ar nifer a chyfran yr aelwydydd sydd yn dioddef tlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig a threfol, a’r prif fathau o danwydd gwresogi a ddefnyddir.


Rhygwladol Canllawiau WHO ar reoli cymhlethdodau iechyd yn sgil FGM Mae WHO wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gysylltiedig â gofalu am ferched a menywod sydd wedi dioddef unrhyw fath o anffurfio organau cenhedlu menywod (FGM).

Maethiad Marchnata bwyd sothach yn y Gemau Olympaidd Mae ymgyrchwyr wedi ymosod ar farchnata bwyd sothach gan noddwyr y Gemau Olympaidd yn Rio, gan honni bod cwmnïau unwaith eto’n defnyddio’r digwyddiad chwaraeon i hyrwyddo cynnyrch afiach sydd yn uchel mewn braster a siwgr.

Cydraddoldeb Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant 2017-2020 Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’i Rhaglen Gyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant 2017-2020.

Cliciwch yma i gael rhagor o newyddion ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru


Medi

08 12 13 21 29

Hybu Newid mewn Ymddygiad Iechyd 08/09/2016

Loughborough University, Loughborough

Cynhadledd Adolygu Dynladdiad Domestig 2016 12/09/2016

The Vale Resort, Hensol, Vale of Glamorgan

Bodloni Anghenion Sipsiwn a Theithwyr 13/09/2016

Ysbyty’r Trallwng

Darlith Ymddiriedolaeth Caroline Walker 2016 21/09/2016 London

Cynnwys plant a phobl ifanc wrth ddylunio a gwneud ymchwil 29/09/2016

Glamorgan Building, Cardiff University

Cliciwch yma i weld rhagor o ddigwyddiadau ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus


Y Bwrlwn Iechyd Rhaglen Seminar Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017 Bwrwch eich pleidlais! Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru eisiau gwybod pa destunau yr hoffech chi eu gweld yn Rhaglen Seminar 2017. Mae’r Bleidlais yn Cau am 12pm, 14 Medi 2016. I bleidleisio ewch i @PHNetworkCymru

Apiau Y Rhyngrwyd Gofalu am rywun â dementia – GIG Dewisiadau

Mae’r fideos hyn yn cynnwys anwyliaid pobl â dementia. Maent yn rhannu eu profiadau o ofalu amdanynt ac yn rhoi awgrymiadau a chyngor ar ystod o faterion o ddweud wrth bobl eraill, i ofalu am eu lles eu hunain.

Gofal Dementia– Cyngor Gofal Cymru

Mae ap gofal Dementia wedi cael ei ddatblygu i gefnogi rheolwyr a staff gofal cymdeithasol i gynnig gofal sy’n canolbwyntio ar y person i bobl â dementia. Mae’n rhoi arweiniad i reolwyr a staff ynghylch sut i gyflwyno, gweithredu ac adolygu dull gofal sy’n gwneud unigolion yn ganolog i’r broses asesu a chynllunio gofal.


Cysylltu â Ni 02921 841943 Publichealth.network@wales.nhs.uk Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Llawr 5 Iechyd Cyhoeddus Cymru Rhif 2 Capital Quarter Stryd Tyndall Caerdydd CF10 4BQ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf anfonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk – y dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.


Rhifyn nesaf: Pwyslais ar Iechyd y Geg


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.