Gwerthusiad o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru (2017)

Page 1

Gwerthusiad o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru (2017) Dr Benjamin Gray, Cydlynydd Data Ymchwil Iechyd y Cyhoedd


Cysylltu â ni Gallwch gysylltu â Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn amrywiaeth o ffyrdd: Drwy anfon e-bost publichealth.network@wales.nhs.uk Drwy ffonio 02921 841943 Drwy’r post Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llawr 5, Rhif 2 Capital Quarter, Tyndall Stryd, Caerdydd, CF10 4BZ Drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol twitter: @PHNetworkCymru facebook: Publichealthnetworkcymru

2


Crynodeb Gweithredol Yr adroddiad hwn yw’r gwerthusiad cynhwysfawr cyntaf o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru (‘y Rhwydwaith’) ers uno’r pedwar rhwydwaith testun-benodol blaenorol (gweithgaredd corfforol; maeth; iechyd meddwl; iechyd rhywiol) ac mae’n rhoi trosolwg diweddar o waith y Rhwydwaith, gan ddatblygu gwerthusiadau blaenorol a gynhaliwyd yn 2008 a 2013. Bwriad y gwerthusiad oedd gofyn a chael atebion i nifer o gwestiynau allweddol mewn perthynas â phrif weithgareddau’r Rhwydwaith. Roedd y rhain fel a ganlyn: • • • •

Pa mor dda y mae’r Rhwydwaith yn perfformio yn erbyn ei nodau a’i amcanion? Beth yw safbwyntiau’r aelodau a’r rhanddeiliaid am y wefan a’r E-fwletin newydd? Beth sydd angen i’r Rhwydwaith ei wneud yn wahanol i gynyddu ymgysylltu? Pa mor dda y mae’r Rhwydwaith yn perfformio o’i gymharu â’r gwerthusiad blaenorol yn 2013?

Casglwyd y data oedd ei angen i lywio’r gwerthusiad hwn trwy dri dull sylfaenol; (i) holiadur aelodau wedi ei ddylunio i gasglu gwybodaeth am ddemograffeg a safbwyntiau aelodau ar rai o brif weithgareddau’r Rhwydwaith; (ii) cyfweliadau gyda rhanddeiliaid i sefydlu pa mor dda y mae’r Rhwydwaith yn bodloni themâu allweddol y nodau a’r amcanion; a (iii) defnydd o adborth o ddigwyddiadau gan gynadleddwyr. Ar y cyfan, mae gwaith y Rhwydwaith yn cael derbyniad cadarnhaol gan yr aelodau a’r rhanddeiliaid. Mae’n bwysig gwerthfawrogi bod gan y Rhwydwaith fwy na 1000 o aelodau a bod y niferoedd hyn yn cynyddu bob mis. Felly, yng Nghymru yn arbennig, ni ellir tanamcangyfrif potensial y Rhwydwaith. Yr E-fwletin a’r wefan yw’r ddwy brif ffynhonnell lle mae aelodau’n cael mynediad i wybodaeth i helpu i lywio ymarfer proffesiynol, tra ymddengys mai gwybodaeth am ddigwyddiadau i ddod sydd bwysicaf i aelodau. Mae ymgysylltu yn fater i’r Rhwydwaith a gellir gweld hyn yn glir yn y tanddefnydd o adnoddau’r fforwm ar y wefan newydd, er, yn addawol iawn, ymddengys bod awydd ymysg aelodau newydd i fod yn fwy ‘gweithredol’ a/neu gyfrannu at E-fwletinau yn y dyfodol. Mae cynnal y gwerthusiad hwn wedi arwain at ystyried saith argymhelliad. Mae’r argymhellion hyn yn ychwanegu at y pethau y mae’r Rhwydwaith eisoes yn eu gwneud yn dda, fel yr E-fwletin, datblygu dulliau i ehangu cyrhaeddiad a’r hyn sy’n cael ei ddysgu o ddigwyddiadau (e.e. podlediadau, ffrydio byw) a hefyd creu’r cyfle i aelodau fod yn fwy ‘gweithredol’. Mae’r gwerthusiad hwn a gweithredu argymhellion yn y dyfodol yn cyd-fynd â’r gweithredu perthnasol (2017/18) a’r garreg filltir a nodir ym Mlaenoriaeth Strategol 5A ‘Ein Cynllun Strategol’ 2017-2020 Iechyd Cyhoeddus Cymru a Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru (Blaenoriaeth Strategol: Datblygu a symud gallu, cymhwysedd a galluogrwydd i ysgogi iechyd a lles ar draws Cymru).

3


Cynnwys 1.0

Cyflwyniad

6

1.1

Trosolwg o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

6

1.2

Trosolwg o’r prif weithgareddau a’r newidiadau ers lansio’r Rhwydwaith

6

1.2.1

Y Wefan

6

1.2.2

Yr E-fwletin

7

1.2.3

Digwyddiadau

7

1.3

Diben y gwerthusiad hwn

7

2.0

Dulliau

8

2.1

Holiadur Aelodau

8

2.2

Safbwyntiau Rhanddeiliaid

8

2.3

Defnydd o Adborth Digwyddiadau Presennol

9

3.0

Canlyniadau

10

3.1

Demograffeg Ymatebwyr yr Holiadur

10

3.2

Safbwyntiau ac Ymddygiad Aelodau

10

3.3

Safbwyntiau ar y Wefan (Aelodau a Rhanddeiliaid)

13

3.4

Safbwyntiau ar yr E-fwletin (Aelodau a Rhanddeiliaid)

16

3.5

Digwyddiadau

18

3.6

Perfformiad Cyffredinol

19

4.0

Cwestiynau Allweddol (Trafodaeth)

20

4.1

Perfformiad yn erbyn Nodau ac Amcanion

20

4.1.1

Addysgu a hysbysu gweithlu ehangach iechyd y cyhoedd ynghylch datblygiadau’n ymwneud ag ymarfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru

20

4.1.2

Amlygu ac arddangos enghreifftiau o arfer da ym maes Iechyd y Cyhoedd a gyflwynir ar draws Cymru

21

4


Cynnwys 4.1.3 4.1.4 4.1.5 4.1.6 4.1.7 4.2

Annog rhyngweithio a chyfnewid gwybodaeth a syniadau ymysg gweithlu iechyd y cyhoedd yng Nghymru Hwyluso cyfleoedd ar gyfer trafodaeth am faterion iechyd y cyhoedd cyfoes ymysg rhanddeiliaid amrywiol yng Nghymru a thu hwnt Hybu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ymysg rhanddeiliaid ar faterion iechyd y cyhoedd newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg Hysbysu a hybu polisi, ymarfer a thystiolaeth iechyd y cyhoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol Cynyddu ymwybyddiaeth o waith Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r gweithlu ehangach Beth yw safbwyntiau aelodau ynghylch y wefan a’r E-fwletin newydd?

22 22 22 23 23 23

4.2.1

Gwefan newydd

23

4.2.2

E-fwletin

24

4.3

Beth sydd angen i’r Rhwydwaith ei wneud yn wahanol i gynyddu ymgysylltu?

25

4.4

Perfformiad o’i gymharu â’r gwerthusiad blaenorol (2013)

26

5.0

Casgliadau

27

5.1

Crynodeb o’r Prif ganfyddiadau

27

5.2

Cyfyngiadau

27

5.3

Argymhellion

28

Atodiadau

30

Atodiad A1. Dadansoddiad o Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru (Gorff-Hyd 2017) Atodiad A2. Enghraifft o Wordle (Newid Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus)

30

Atodiad A3. Enghraifft o Wordle (Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod: Beth mae’n ei olygu i chi)

31

5

31


1.0 Cyflwyniad 1.1 Trosolwg o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Lansiwyd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru (‘y Rhwydwaith’) ym Mai 2015 yn dilyn cyfuno a datblygu pedwar rhwydwaith iechyd y cyhoedd blaenorol yn canolbwyntio ar destunau ymhellach (gweithgaredd corfforol; maeth; hybu iechyd meddwl; iechyd rhywiol). Bellach yn cwmpasu ystod lawn o destunau iechyd y cyhoedd, nod y rhwydwaith yw bod y lle cyntaf y mae pobl yn ei ystyried wrth chwilio am newyddion diweddar, datblygiadau sy’n dod i’r amlwg neu gyngor gan gymheiriaid ar faterion iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Nod y Rhwydwaith yw bod yn lle y gall ymarferwyr o bob sector ddod o hyd i wybodaeth berthnasol, amserol, hawdd ei deall, offer a chanllawiau. Mae gan Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yr amcanion trosfwaol canlynol; Addysgu a hysbysu gweithlu ehangach iechyd y cyhoedd am ddatblygiadau’n ymwneud ag ymarfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru; Amlygu ac arddangos enghreifftiau o arfer da ym maes Iechyd y Cyhoedd wedi eu cyflwyno ar draws Cymru; Annog rhyngweithio a chyfnewid gwybodaeth a syniadau ymysg gweithlu iechyd y cyhoedd yng Nghymru; Hwyluso cyfleoedd ar gyfer trin a thrafod materion iechyd y cyhoedd cyfoes ymysg y rhanddeiliaid amrywiol yng Nghymru a thu hwnt; Hybu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ymysg rhanddeiliaid ar faterion iechyd y cyhoedd sy’n dod i’r amlwg a rhai newydd; Llywio a hybu polisi, ymarfer a thystiolaeth leol, genedlaethol a rhyngwladol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd; Cynyddu ymwybyddiaeth o waith Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r gweithlu ehangach. Ym mis Tachwedd 2017, roedd gan y Rhwydwaith 1085 o aelodau unigol oedd wedi ymrestru trwy’r wefan (https://www.publichealthnetwork.cymru) ac roedd gan y Rhwydwaith hefyd 1077 o ddilynwyr Twitter @PHNetworkCymru.

1.2 Trosolwg o’r prif weithgareddau a’r newidiadau ers lansio’r Rhwydwaith 1.2.1 Y Wefan Fel rhan o esblygiad y Rhwydwaith o’r ‘rhwydweithiau’ blaenorol, datblygwyd gwefan newydd (https://www.publichealthnetwork.cymru) yn cwmpasu’r holl destunau’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd yn hytrach na chanolbwyntio ar y pedwar testun blaenorol yn unig, felly’n disodli gwefannau’r rhwydwaith unigol oedd eisoes yn bodoli. Datblygwyd y wefan newydd hon dros gyfnod o 18-24 mis gydag adborth a gasglwyd gan aelodau a rhanddeiliaid. Mae gwefan newydd y Rhwydwaith hefyd yn cynnwys pump o wefannau cysylltiedig; (i) (ii) (iii) (iv) (v)

(Iechyd Cyhoeddus Cymru) Cymuned Ymchwil a Datblygu, Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC), Uned Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) a, Chanolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR).

6


1.2.2 Yr E-fwletin Arweiniodd creu’r Rhwydwaith at newid i’r cylchlythyrau misol hefyd. Yn lle anfon tri chylchlythyr at aelodau, bob mis mae aelodau newydd bellach yn cael e-bost yn cynnwys dolen i gopi o E-fwletin sy’n canolbwyntio ar thema neu destun gwahanol. Er enghraifft, mae rhifynnau blaenorol o’r Efwletin wedi canolbwyntio ar destunau’n amrywio o Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd i Ddigartrefedd ac ati. Yn yr wythnosau cyn cyhoeddi E-fwletin, mae’r aelodau’n cael e-bost yn eu gwahodd i gyfrannu at thema’r mis hwnnw neu i gyfrannu’n ehangach. Cyhoeddir yr E-fwletinau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn ogystal â fersiwn PDF ‘syml’, mae’r E-fwletinau hefyd ar gael ar fformat ‘ansawdd uchel’ a gyhoeddwyd gan ddefnyddio ISSUU sef llwyfan cyhoeddi digidol. Mae enghraifft o E-fwletin ‘ansawdd uchel’ ar gael yn https://issuu.com/ phwprid/docs/phnc_nov_bulletin_english_hq. 1.2.3 Digwyddiadau Mae digwyddiadau sydd yn cynnwys cynadleddau, seminarau a sioeau teithiol (sydd yn teithio ar draws lleoliadau yng Nghymru) yn gydran sylfaenol o waith y Rhwydwaith. Ers creu’r Rhwydwaith, mae nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru ac mae’r rhain wedi amrywio o lawer o destunau a meysydd. Mae’r testunau ar gyfer y digwyddiadau naill ai’n cael eu dewis trwy bleidlais gan aelodau’r Rhwydwaith neu cânt eu hystyried yn destun iechyd y cyhoedd sy’n dod i’r amlwg neu wedi dod i mewn gan un o dîm y Rhwydwaith. Ceir enghreifftiau o rai o’r digwyddiadau hyn isod; • • • • • •

#TechniHealth – Hybu Iechyd yn yr Oes Ddigidol Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod: Beth mae’n ei Olygu i Chi Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Creu Cysylltiadau Newid Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus Lles Cenedlaethau’r Dyfodol: Cyfleoedd Iechyd y Cyhoedd Gwella Iechyd yn y Gymuned LGBT

Mae’r Rhwydwaith hefyd wedi helpu i drefnu a chefnogi’r tair cynhadledd ‘Ymchwil yng Nghymru’ ar y cyd â thîm Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’r Rhwydwaith yn dal i hwyluso darlith flynyddol Julian Tudor Hart ar y cyd, sydd wedi cynnwys llefarwyr fel yr Athro Syr Michael Marmot yn ystod y blynyddoedd diweddar. 1.3 Diben y gwerthusiad hwn Roedd y rhwydweithiau blaenorol yn destun gwerthusiad cychwynnol yn 2008 a gwerthusiad dilynol yn 2013, fodd bynnag ers creu Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru nid oes unrhyw werthusiad ffurfiol wedi cael ei gynnal. Bydd y ddogfen hon yn datblygu gwerthusiadau blaenorol a dyma’r gwerthusiad cyntaf o’r Rhwydwaith ar ei wedd bresennol a bydd yn rhoi mewnwelediad ar berfformiad y Rhwydwaith hyd yn hyn. Nod y gwerthusiad hwn yw gofyn nifer o gwestiynau allweddol mewn perthynas â phrif weithgareddau’r Rhwydwaith. Y rhain yw; • • • •

Pa mor dda y mae’r Rhwydwaith yn perfformio yn erbyn ei nodau a’i amcanion? Beth yw safbwyntiau aelodau a rhanddeiliaid y wefan newydd a’r Efwletin? Beth sydd angen i’r Rhwydwaith ei wneud yn wahanol i gynyddu ymgysylltu? Pa mor dda mae’r Rhwydwaith yn perfformio o’i gymharu â’r gwerthusiad blaenorol yn 2013?

7


2.0 Dulliau Cafodd y data oedd yn ofynnol i lywio’r gwerthusiad hwn ei gasglu trwy dair ymagwedd sylfaenol; 2.1 Holiadur Aelodau Dyluniwyd a datblygwyd holiadur ar SurveyMonkey gyda mewnbwn gan dîm y Rhwydwaith ac Ymchwil a Datblygu yng Nghyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol (PRIDD) Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd yr holiadur hwn ei ddosbarthu i’r cyfeiriadau ebost a roddwyd gan bob aelod yn eu gwahodd i roi eu safbwyntiau ar y Rhwydwaith. Dyluniwyd yr Holiadur Aelodau i gasglu gwybodaeth am ddemograffeg aelodau ac hefyd i gael eu safbwyntiau ar weithgareddau fel; • • • •

Gwefan y Rhwydwaith Yr E-fwletin misol Digwyddiadau yn cynnwys cynadleddau, seminarau a sioeau teithiol Sianeli’r Cyfryngau Cymdeithasol

Cafodd yr holiadur oedd yn cynnwys 52 o gwestiynau (cymysgedd o rai aml-ddewis ac agored) ei lansio ar 1 Awst 2017 ac roedd yn fyw am gyfnod o wyth wythnos (yn cau ar 1 Hydref 2017). Rhwng y dyddiadau hyn, dosbarthwyd o leiaf tair neges ebost yn annog cyfranogiad. Cafodd yr aelodau gynnig cymhelliant o raffl i ennill dwy daleb Amazon gwerth £25 am lenwi’r holiadur. 2.2 Safbwyntiau Rhanddeiliaid Fel rhan o oruchwyliaeth strategol y Rhwydwaith, ceir Grŵp Cynghori’r Rhwydwaith sydd yn cynrychioli aelodau’r Rhwydwaith. Mae gan y Grŵp Cynghori gylch gorchwyl cyffredinol i gynghori a chefnogi’r Rhwydwaith i gyflawni ei nodau a’i amcanion ac i gefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i bartneriaid a’i randdeiliaid i gyflwyno ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015’ a pholisïau a chynlluniau perthnasol eraill yn effeithiol. Cafodd ail set o gwestiynau â mwy o ffocws eu datblygu i gasglu safbwyntiau rhanddeiliaid (oedd yn cynnwys aelodau o’r grŵp cynghori). Roedd y cwestiynau hyn yn canolbwyntio ar safbwyntiau’r unigolion ynghylch pa mor dda y mae’r rhwydwaith yn bodloni themâu allweddol y nodau a’r amcanion. Ceisiwyd safbwyntiau rhanddeiliaid (cynrychiolwyr sefydliadau sydd wedi gweithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gyda’r rhwydwaith) a’u cydgrynhoi trwy dri dull; i) Gofynnwyd i’r rheiny a fynychodd gyfarfod grŵp cynghori Awst 2017 roi eu hadborth yn ymwneud â themâu allweddol y nodau a’r amcanion gan ddefnyddio fformat ar arddull caffi’r byd. ii) Cafodd unrhyw un o’r grŵp cynghori nad oedd yn bresennol yng nghyfarfod mis Awst ebost yn cynnwys copïau o’r cwestiynau i’w cwblhau a’u dychwelyd. iii) Cafodd rhestr o randdeiliaid o bob sector nad ydynt yn cael eu cynrychioli ar hyn o bryd ei llunio gan dîm y Rhwydwaith a chafodd y rhanddeiliaid hyn neges ebost a threfnwyd cyfweliadau dros y ffôn mewn arddull lled-strwythuredig ar gyfer dyddiad ac amser cyfleus. Rhoddodd 14 o randdeiliaid i gyd eu safbwyntiau yn ystod y broses werthuso hon a cheir manylion o’r sefydliadau a/neu’r sectorau perthnasol a gynrychiolwyd yn Nhabl 1.

8


Tabl 1. Manylion y sefydliadau/sectorau a gynrychiolwyd gan randdeiliaid a gymerodd ran yng nghaffi’r byd neu mewn cyfweliadau Sefydliadau/Sectorau a Gynrychiolwyd gan Randdeiliaid Cyfoeth Naturiol Cymru Tîm Lleol Iechyd y Cyhoedd (Powys) Mind Cymru Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi Canolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru Gwefan Gymunedol Ymchwil a Datblygu Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Prifysgol Abertawe (Academia) Cynllunydd Lles Chwaraeon Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru (Gwella Iechyd) Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru/Awdurdodau Lleol 2.3 Defnyddio Adborth Digwyddiadau Presennol Mae’r Rhwydwaith yn casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth fel mater o drefn ar ymatebion cynadleddwyr ym mhob un o’u digwyddiadau. Yn sesiwn derfynol y digwyddiadau, mae pob un sy’n mynychu’n cael ffurflen werthuso y gofynnir iddynt ei llenwi. Cyfraddau cwblhau gwerthusiadau gwrthuso digwyddiadau gan fynychwyr yw tua hanner (50%) fel arfer. Mae’r ffurflenni’n gofyn nifer o gwestiynau amrywiol ar nifer o destunau yn cynnwys; Trefn y diwrnod Ansawdd y llefarwyr Pa mor ddefnyddiol oedd y digwyddiad i’r aelodau Unrhyw beth penodol y maent wedi ei ddysgu ac y byddant yn ei ddefnyddio mewn ymarfer Awgrymiadau ar gyfer testunau digwyddiadau yn y dyfodol Mae holl werthusiadau digwyddiadau penodol ar gael yn adran adnoddau gwefan y Rhwydwaith, ond bydd trosolwg o’r canfyddiadau hyn yn cael ei gynnwys i ategu safbwyntiau holiaduron aelodau ar ddigwyddiadau.

9


3.0 Canlyniadau 3.1 Demograffeg Ymatebwyr Holiadur Cwblhaodd 125 o aelodau o leiaf rhan o’r holiadur, sydd yn gyfradd ymateb o ychydig dros 10% o’r holl aelodau a gafodd wahoddiad. Ceir manylion prif nodweddion yr aelodau a lenwodd yr holiadur yn Nhabl 2. Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yr holiadur wedi bod yn aelod o’r Rhwydwaith am 6 mis o leiaf (n=114, 91.2%) ac roedd ychydig dros draean yn cael eu cyflogi mewn swydd yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd ar hyn o bryd. Un sylw i’w nodi yw bod dros hanner (n=64, 52.0%) yr ymatebwyr oedd yn aelodau wedi nodi nad oeddent yn aelod o un o’r rhwydweithiau blaenorol. Tabl 2. Nodweddion ymatebwyr sy’n aelodau i’r holiadur Hyd Aelodaeth o’r Rhwydwaith

(n=125, %)

Dros 12 mis

74 (59.2)

6-12 mis

40 (32.0)

Llai na 6 mis

11 (8.8)

Aelod o Rwydwaith Blaenorol

(n=123, %)*

Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru

33 (26.8)

Cyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan

26 (21.1)

Rhwydwaith Hybu Iechyd Cymru Gyfan

14 (11.4)

Ddim yn aelod o rwydwaith blaenorol

64 (52.0)

Galwedigaeth Bresennol (Maes)

(n=121, %)

Iechyd y Cyhoedd

42 (34.7)

Arall

31 (25.6)

Proffesiynau Perthynol i Iechyd

14 (11.6)

Ymchwil

8 (6.6)

Llywodraeth Leol

6 (5.0)

Addysg

6 (5.0)

Gweithiwr ieuenctid

5 (4.1)

Gweithiwr cymunedol

4 (3.3)

Gwneuthurwr polisïau

3 (2.5)

Meddygaeth

2 (1.6)

* Roedd rhai aelodau’n perthyn i fwy nag un rhwydwaith. 3.2 Safbwyntiau ac Ymddygiad Aelodau The member’s opinions and behaviours in this section are all collected from the Member questionnaire. One of the first questions of interest was with regards to where members first heard about the Network. Of the respondents, 37 (30.6%) first heard about the Network at an event, whilst a further 35 (28.9%) were made aware of the Network by a colleague. Accessing the website was the first time 22 respondents (18.2%) were made aware of the Network and 18 (14.9%) were introduced to the Network through promotional literature. When questioned as to the reasons individuals enrolled as a member of the Network revealed similar responses to the previous evaluation undertaken in 2013 (Figure 1). The most popular reason for being a Network member amongst respondents was ‘To get regular information’ (n=109, 90.1%), a substantial proportion indicated that they were members for collaboration purposes (n=58, 47.9%) or because of the ease of joining the Network (n=46, 38.0%). Over one in six respondents stated they were members of the Network as they felt it was beneficial for their career prospects (n=18, 14.9%).

10


100 90 80

2013

70

2017

60 50 40 30 20 10 0

To get regular information

To make links with other people in my

Easy to join and no big commitment

Good for career

Ffigur 1. Rhesymau dros fod yn aelod o’r Rhwydwaith Yr ymateb mwyaf poblogaidd dros fod yn aelod oedd cael gwybodaeth reolaidd, ac wrth gael eu holi, pa wasanaethau a ddarperir gan y Rhwydwaith a ddefnyddiwyd gan aelodau at y diben hwn; dywedodd dros dri chwarter yr ymatebwyr fod y wybodaeth yn yr E-fwletin(au) (s) (n=85, 78.7%) ac ar y Wefan (n=84, 77.8%) wedi helpu i lywio eu hymarfer proffesiynol (Ffigur 2). Roedd y wybodaeth mewn cyflwyniadau mewn cynadleddau (n=49, 45.4%) a/neu seminarau (n=44, 40.7%) wedi llywio ymarfer proffesiynol dros ddwy ran o bump o’r ymatebwyr, tra bod un mewn pump o’r ymatebwyr (n=23, 21.3%) wedi nodi bod yr hyn a ddysgwyd o sioeau teithiol wedi llywio eu hymarfer proffesiynol*. *Fodd bynnag, fel y trafodwyd mewn adran ddiweddarach o’r gwerthusiad hwn (Adran 3.5), nid oedd holl ymatebwyr yr holiadur wedi mynychu cynhadledd, seminar neu ddigwyddiad sioe deithiol.

Ebulletin

78.7

Website

77.8 45.4

Conferences

40.7

Seminars Road Shows

21.3 Cyfran yr ymatebwyr (n=108, %)

Ffigur 2. Gwasanaethau rhwydwaith a ddefnyddiwyd gan aelodau i lywio ymarfer proffesiynol Ystyriaeth bwysig arall yn ymwneud â’r wybodaeth a ddarperir gan y Rhwydwaith yw rhannu’r wybodaeth hon yn ehangach a chyfrannu ati. Gofynnwyd i’r aelodau ddisgrifio sut maent yn nodi eu hunain fel aelod o’r Rhwydwaith a sut yr hoffent nodi eu hunain fel aelod o’r rhwydwaith o un o dri opsiwn (Ffigur 3).

11


Y tri opsiwn oedd; 1) Derbynnydd Goddefol (Cymryd a gwneud defnydd o’r wybodaeth fy hun) 2) Derbynnydd Gweithredol (Chwilio am, defnyddio a rhannu gwybodaeth y Rhwydwaith) 3) Cyfrannwr Gweithredol (Rhoi gwybodaeth i’r Rhwydwaith e.e. eitemau newyddion, erthyglau, enghreifftiau ymarfer). Ar hyn o bryd, dim ond un mewn deg o ymatebwyr (n=12, 9.9%) sydd yn nodi eu bod yn ‘gyfrannwr gweithredol’ ac mae gweddill yr ymatebwyr yn nodi eu bod naill ai’n ‘dderbynnydd goddefol’ neu’n ‘dderbynnydd gweithredol’. Yn galonogol, byddai cyfran sylweddol o’r ymatebwyr (n=17, 30.9%) yn hoffi (neu’n dymuno) symud oddi wrth y categori ‘derbynnydd goddefol’ i un o’r categorïau ‘gweithredol’.

}

*

Portion of Respondents (n=121, %)

100 90 80

70

Current role

60

Desired role

50 40 30 20 10 0

Passive Recipient

Active Recipient

Active Contributor

Ffigur 3 Statws presennol aelodau’r Rhwydwaith a nodwyd ac a ddymunir wedi eu pennu eu hunain Er mwyn darparu llwyfan i alluogi aelodau i fod yn fwy ‘gweithredol’ yn y Rhwydwaith, roedd cwestiwn yn gofyn sut byddai’r aelodau yn trefnu pedwar llwyfan ar-lein yn nhrefn y dull dewisol o ymgysylltu â’u cyfoedion (Ffigur 4). Y pedwar dewis oedd; (i) Twitter, (ii) Facebook, (iii) LinkedIn neu (iv) Fforymau. Y dull dewisol o ymgysylltu oedd naill ai’r fforymau ar wefan y Rhwydwaith neu trwy dudalen Facebook y Rhwydwaith. Rhoddodd yr ymatebwyr LinkedIn isaf o ran y dewis ‘mwyaf dewisol’ a’r opsiwn ‘lleiaf dewisol’, gan ddangos yn glir amharodrwydd i ymgysylltu trwy’r dull hwn.

12


90 80 70 60 50 40

Most Preferred

30

Least Preferred

20 10 0

Forums

Facebook

Twitter

LinkedIn

Ffigur 4. Yr opsiynau mwyaf a lleiaf dewisol o ymgysylltu â chymheiriaid yn y Rhwydwaith 3.3 Safbwyntiau ar y Wefan (Aelodau a Rhanddeilliaid) Y cwestiwn cyntaf o ddiddordeb i aelodau oedd canfod pa mor aml y maent yn cael mynediad i wefan y Rhwydwaith ac yn ei defnyddio. Mae dros draean yr ymatebwyr (n=41, 38.0%) yn cael mynediad i’r rhwydwaith o leiaf unwaith y mis, tra bod traean arall o’r ymatebwyr wedi nodi eu bod yn cael mynediad i’r wefan bob ychydig fisoedd (n=35, 32.4%) ac mae chwarter yr holl ymatebwyr yn cael mynediad i’r wefan unwaith neu ddwywaith y flwyddyn yn unig (n=26, 24.1%). Er, dywedodd un mewn ugain o’r ymatebwyr (n=6, 5.6%) eu bod erioed wedi cael mynediad i’r wefan. Gofynnwyd cyfres o gwestiynau tebyg i’r rheiny a gyflwynwyd yn 2013 eto yn y gwerthusiad hwn (2017) er mwyn mesur safbwyntiau aelodau ynghylch gwefan newydd y Rhwydwaith (Tabl 2). Roedd y cwestiynau’n canolbwyntio ar y graddau yr oedd y wefan yn gyfeillgar i ddefnyddwyr a hefyd am y wybodaeth a geir ar dudalennau amrywiol y wefan. O’i gymharu â 2013, roedd yr aelodau yn llai tebygol o ddisgrifio’r cynnwys yn berthnasol ‘bob amser’, ac er bod yr ymatebion dros ddibynadwyedd yn gadarnhaol ar y cyfan, cyfeiriodd fwy o aelodau yn 2013 at gynnwys ‘dibynadwy iawn’. Rhai o feysydd y wefan y gellid o bosibl eu gwella [ym marn yr aelodau] oedd apêl weledol, llywio a pha mor ‘gyfredol’ yw’r cynnwys, disgrifiodd un mewn tri o’r ymatebwyr y rhain i fod yn ‘weddol’ apelgar, yn hawdd (eu llywio) ac yn gyfredol, yn y drefn honno. Roedd rhai awgrymiadau gan aelodau i wella’r meysydd hyn yn cynnwys hafan “llai prysur” neu “anhrefnus”, dywedodd sawl aelod fod y sgrolio/carwsél yn symud yn rhy gyflym, tra bod aelodau eraill wedi nodi bod testun dros ddelweddau’n anodd ei ddarllen ar adegau. Gofynnodd rhai aelodau hefyd i “newyddion” fod yn nodwedd fwy amlwg ar yr hafan. Er mwyn helpu i wella’r llywio, roedd yr awgrymiadau’n cynnwys swyddogaeth chwilio haws neu ychwanegu rhestr A-Z o destunau.

13


Tabl 3. Safbwyntiau aelodau am ddefnyddioldeb a chynnwys y wefan Cynnwys y Wefan

(Apelgar) Eithriadol Iawn Cymedrol Ychydig Ddim o gwbl

Apêl Weledol 2013 2017 n=114 n=101 6 (5.3) 7 (6.9) 43 (37.7) 42 (41.6) 55 (48.2) 43 (42.6) 8 (7.0) 7 (6.9) 2 (1.8) 2 (2.0)

Perthnasedd 2013 2017 (Perthnasol) n=111 n=100 Bob Amser 41 (36.9) 19 (19.0) Yn aml 42 (37.9) 51 (51.0) Weithiau 26 (23.4) 27 (27.0) Ddim bob amser 1 (0.9) 3 (3.0) Byth 0 (0.0) 0 (0.0)

((Clir) Eithriadol Iawn Cymedrol Ychydig Ddim o gwbl

Eglurder 2013 2017 n=108 n=100 19 (17.6) 16 (16.0) 60 (55.6) 56 (56.0) 28 (25.9) 25 (25.0) 1 (0.9) 3 (3.0) 0 (0.0) 0 (0.0)

(Hawdd) Eithriadol Iawn Cymedrol Ychydig Ddim o gwbl

Llywio 2013 2017 n=111 n=101 15 (13.5) 11 (10.9) 56 (50.5) 48 (47.5) 36 (32.4) 35 (34.7) 2 (1.8) 4 (3.9) 2 (1.8) 3 (3.0)

Eithriadol Iawn Cymedrol Ychydig Ddim o gwbl

Diweddar 2013 2017 n=110 n=101 15 (13.7) 9 (8.9) 70 (63.6) 54 (53.4) 24 (21.8) 34 (33.7) 2 (1.8) 3 (3.0) 0 (0.0) 1 (1.0)

Dibynadwy iawn Dibynadwy Ddim yn ddibynadwy

Dibynadwyedd 2013 2017 n=109 n=99 56 (51.4) 34 (34.3) 53 (48.6) 64 (64.7) 0 (0.0) 1 (1.0)

% Newid +1.6 +3.9 -5.6 -0.1 +0.2

% Newid -17.9* +13.1 +3.6 +2.1 --

% Newid -1.6 +0.4 -0.9 +2.1 --

% Newid -2.6 -3.0 +2.3 +2.1 +1.2

% Newid -4.8 -10.2 +11.9 +1.2 +1.0

% Newid -17.1* +16.1* +1.0

Data a gynrychiolir fel nifer yr ymatebwyr a chanran yr ymatebwyr mewn parentheses, * dynodi gwahaniaeth arwyddocaol rhwng ymatebion 2013 a 2017. Fodd bynnag, dylid nodi, nad oedd hanner ymatebwyr holiadur 2017 yn aelodau yn 2013 pan gynhaliwyd y gwerthusiad blaenorol a dylid dehongli cymariaethau uniongyrchol rhwng y gwefannau yn ofalus. Roedd y grŵp cynghori a chyfweliadau’r rhanddeiliaid yn cynnwys cwestiwn yn ymwneud â’r gwefannau gwahanol blaenorol. Roedd pump o’r rhanddeiliaid yn aelodau o rwydwaith blaenorol ac felly’n gallu cymharu’r dyluniad newydd â’r hen ddyluniad. Roedd safbwyntiau’r rhanddeiliaid yn gadarnhaol iawn ac yn canmol pa mor fodern a chyfeillgar i ddefnyddwyr oedd y wefan newydd o’i chymharu â gwefannau blaenorol. Yn ogystal â gwybodaeth am destunau penodol, mae gwefan y Rhwydwaith hefyd yn cynnwys nifer o nodweddion gwahanol (Ffigur 5). Datgelodd yr holiadur mai’r nodwedd fwyaf poblogaidd [fel y’i defnyddir gan aelodau] oedd y dudalen ‘Digwyddiadau’, lle’r oedd wyth allan o ddeg o’r ymatebwyr (n=57, 80.3%) wedi datgan eu bod wedi defnyddio’r nodwedd hon. Roedd tua thri mewn deg o’r ymatebwyr wedi defnyddio’r nodweddion ‘Digwyddiadau blaenorol’ (n=22, 31.0%) neu’r ‘Gronfa ddata ymarfer a rennir’ (n=21, 29.6%).

14


Er gwaetha’r ffaith mai fforymau oedd y dull dewisol o ymgysylltu â chymheiriaid (Ffigur 4), roedd llai nag un mewn pedwar o’r ymatebwyr (n=17, 23.9%) wedi ymweld â’r tudalennau ar y wefan. Mae data dadansoddiadau gwefan hefyd yn cadarnhau, am y cyfnod rhwng. Gorffennaf a Hydref 2017, bod ymatebion yr aelodau hyn, yn arbennig ar gyfer cael mynediad i wybodaeth am ‘Ddigwyddiadau’ yn cynrychioli holl ddefnydd yr aelodau o’r wefan (Atodiad A1).

80.28

Events

30.99

Past Events

29.58

Shared practice database

26.76

Consultations

23.94

Forums Podcasts

7.04 Proportion of respondents (n=71, %)

Ffigur 5. Nodweddion y wefan a ddefnyddir gan aelodau Mae gwefan y Rhwydwaith bellach hefyd yn cynnwys nodweddion newydd fel ‘Eich Ardal’ a ddyluniwyd i roi profiad wedi ei deilwra’n well o wefan y Rhwydwaith i aelodau. O’r ymatebwyr, roedd ychydig dros draean (n=34, 36.6%) wedi defnyddio’r nodwedd ‘Eich Ardal’, ond cafwyd rhwyfaint o adborth defnyddiol i wella nodwedd ‘Eich Ardal. Roedd prif thema’r adborth yn canolbwyntio ar wella’r cyd-destun lleol o safbwyntiau tîm lleol iechyd y cyhoedd a’r gwasanaethau sydd ar gael. Mae’r wefan hefyd yn rhoi cyfleuster i aelodau gynnwys a rhannu gwybodaeth er mwyn ei lledaenu’n ehangach. Dim ond chwarter yr ymatebwyr oedd wedi defnyddio’r nodwedd hon. Gallai’r nodwedd hon helpu mwy o aelodau i fod yn ‘gyfranwyr gweithredol’ ond mae angen hyrwyddo’r cyfleuster yn well am nad oedd 18 o’r ymatebwyr yn ymwybodol bod hyn yn bosibl. Ystyriaeth bwysig arall mewn perthynas â’r wybodaeth a geir ar wefan y Rhwydwaith yw effaith y wybodaeth hon ar swyddi aelodau o ddydd i ddydd (Ffigur 6). Cynyddodd y wybodaeth ar y wefan wybodaeth yn bennaf, naill ai’r aelodau eu hunain (n=84, 83.2%) neu gynyddu gwybodaeth cydweithwyr/cymheiriaid trwy rannu gwybodaeth (n=69, 68.3%). Mae gwefan y Rhwydwaith hefyd wedi galluogi aelodau i greu cysylltiadau gydag ymarferwyr eraill (n=35, 34.7%), er nad yw’r cyswllt hwn o reidrwydd wedi arwain at fwy o gydweithredu (n=19, 18.8%). Yn gyffredinol, mae effaith gwefan y Rhwydwaith ar swydd aelodau o ddydd i ddydd yn 2017 yn gymaradwy â 2013, ond mae tuedd i lai o aelodau ddatgan eu bod yn teimlo bod y wybodaeth wedi ‘gwella’r ffordd yr ydych yn cyflwyno gwasanaethau’ yn 2017 (n=24, 23.8%) o’i gymharu â 2013 (n=38, 35.2%).

15


Proportion of respondents (n=101, %)

100 90 80

2013

70

2017

60 50 40 30 20 10 0

Increased own knowledge

Enabled sharing of useful information

Enabled links with other practitioners

Changed the way interpret and apply health policy

Improved delivery of services

Led to further collaborations

Figure 6. Impact of the Network website information on member day-to-day roles 3.4 Safbwyntiau ar yr E-fwletin (Aelodau a Rhanddeiliaid) Roedd y mwyafrif helaeth o’r ymatebwyr (n=92, 97.9%) yn cofio iddynt dderbyn yr E-fwletin misol ac o’r rhain, nododd dros wyth mewn deg (n=76, 80.8%) eu bod wedi darllen yr E-fwletin y rhan fwyaf o’r amser. Dim ond cyfran fach (n=4, 4.3%) o’r ymatebwyr a nododd eu bod ‘braidd byth’ yn darllen yr E-fwletin. Mae hanner yr ymatebwyr (n=47, 51.1%) yn anfon yr E-fwletin ymlaen at eu cydweithwyr er gwybodaeth ac i fwy o bobl ei ddarllen, tra bod cyfran fach iawn o’r aelodau (n=3, 3.3%) yn argraffu’r E-fwletin er mwyn ei arddangos yn y gweithle. Mae’r E-fwletin fel arfer yn cynnwys pum adran; 1) Dan Sylw (Nodwedd ar thema fisol) 2) Straeon (Newyddion am weithgareddau’r aelodau) 3) Cael ei Holi (Ffocws ar aelod o’r Rhwydwaith) 4) Crynodeb o’r newyddion (Yn ôl testunau) 5) Beth sy’n mynd ymlaen? (Rhestr ddigwyddiadau ar gyfer y mis) Gofynnwyd i’r aelodau pa rai o’r pum adran o’r E-fwletin oedd fwyaf defnyddiol a/neu ddiddorol (Ffigur 7). Yn debyg i’r ymatebion i’r cwestiwn am y Wefan (Ffigur 5), roedd yr adran fwyaf defnyddiol eto’n gysylltiedig â digwyddiadau gyda thri mewn pedwar o’r aelodau (n=67, 75.3%) yn nodi mai dyma’r adran o’r E-fwletin oedd yr un oedd fwyaf defnyddiol. Adrannau eraill o’r E-fwletin oedd yn ddefnyddiol a/neu’n llawn gwybodaeth i’r aelodau oedd Dan Sylw a’r Crynodeb Newyddion a ddewiswyd gan chwech (n=54, 60.7%) a saith (n=63, 70.8%) mewn deg o’r ymatebwyr, yn y drefn honno. Pan ofynnwyd iddynt a oedd unrhyw beth yr hoffai’r aelodau ei weld yn yr E-fwletinau, roedd y rhan fwyaf o’r aelodau yn hapus gyda’r cynnwys presennol. Cafwyd rhai awgrymiadau, ar gyfer cynnwys ychwanegol, y gallent fod ar thema, naill ai ymchwil (gwybodaeth am grantiau, a’r ymchwil a’r dystiolaeth ddiweddaraf) neu gyfranogiad y cyhoedd (h.y gwybodaeth am bobl ifanc gan bob ifanc neu safbwyntiau’r cyhoedd am faterion iechyd y cyhoedd cyfredol).

16


75.28

Whats going on in

70.79

News Round-up Spotlight

60.67 37.08

The Grapevine

25.84

On the Spot

Proportion of respondents (n=89, %) Ffigur 7. Adrannau o’r E-fwletin oedd fwyaf defnyddiol a/neu ddiddorol ymysg aelodau Bob mis cyn cyhoeddi E-fwletin penodol, anfonir e-bost at aelodau a’u hannog i gyfrannu at y rhifyn i ddod os ydynt yn dymuno gwneud hynny. O’r ymatebwyr, roedd 16.3% (n=15) wedi rhoi cyflwyniadau i’r E-fwletin o’r blaen; tra bod cyfran sylweddol heb gyfrannu o’r blaen, nododd dros hanner yr ymatebwyr (n=48, 52.2%) y byddai ganddynt ddiddordeb yn cyflwyno cynnwys ar gyfer rhifyn yn y dyfodol. Tabl 4. Safbwyntiau aelodau ar gyflwyniad a chynnwys yr E-fwletinau misol Cynnwys yr E-fwletin Cynllun

Rhagorol Da Gwael Gwael Iawn

2013 n=99 27 (27.3) 69 (69.7) 3 (3.0) 0 (0.0)

2017 n=93 27 (29.0) 59 (63.5) 7 (7.5) 0 (0.0)

Rhagorol Da Gwael Gwael Iawn

Perthnasedd 2013 2017 n=96 n=92 29 (30.2) 10 (10.9) 63 (65.6) 67 (72.8) 3 (3.1) 14 (15.2) 1 (1.1) 1 (1.1)

Defnyddioldeb 2013 2017 n=98 n=93 Rhagorol 36 (36.7) 22 (23.7) Da 60 (61.2) 68 (73.1) Gwael 2 (2.1) 2 (2.1) Gwael Iawn 0 (0.0) 1 (1.1)

% Newid +1.7 -6.2 +4.5 --

Eglurder 2013 2017 n=98 n=92 Rhagorol 42 (42.8) 19 (20.6) Da 53 (54.1) 69 (75.0) Gwael 3 (3.1) 4 (4.4) Gwael Iawn 0 (0.0) 0 (0.0)

% Newid -19.3* +7.2 +12.1* --

% Newid -13.0* +11.9 -+1.1

% Newid -22.2* +20.9* +1.3 --

Mae’r data wedi ei gynrychioli fel nifer yr ymatebwyr a chanran yr ymatebwyr mewn cromfachau, * nodi gwahaniaeth arwyddocaol rhwng ymatebion 2013 a 2017.

17


Mae’r aelodau eisoes wedi datgan, ynghyd â’r Wefan, fod y wybodaeth a geir yn yr E-fwletin yn helpu i lywio ymarfer proffesiynol. Mae’n hanfodol felly fod y cynnwys yn yr E-fwletin yn ddefnyddiol, yn berthnasol, yn glir ac wedi ei arddangos mewn fformat sydd yn hawdd i’w ddarllen a’i ddeall. Holwyd yr aelodau am y pedair elfen hyn a pha mor dda y mae’r E-fwletin yn bodloni’r ffactorau hyn a hefyd yn cymharu’r canfyddiadau hyn â’r gwerthusiad blaenorol (Tabl 3). Ar y cyfan, ceir derbyniad cadarnhaol [gan aelodau] am yr E-fwletin ond yn yr un modd â’r Wefan, ceir arsylwadau tebyg yn ymwneud â pherthnasedd y cynnwys. Mae aelodau bellach yn llai tebygol o ddisgrifio perthnasedd cynnwys yr E-fwletin yn ‘Rhagorol’ ac yn fwy tebygol o ddatgan bod y perthnasedd yn ‘Wael’, er mai niferoedd bach yw hyn. Er bod Defnyddioldeb ac Eglurder yr E-fwletinau misol yn cael derbyniad da, mae’r aelodau yn fwy tebygol o ddisgrifio’r ffactorau hyn fel rhai ‘Da’ yn hytrach na ‘Rhagorol’ o’u cymharu â’r cylchlythyrau a ddosbarthwyd trwy’r tri rhwydwaith blaenorol. 3.5 Digwyddiadau O ymatebwyr yr holiadur, nododd 62 o unigolion eu bod wedi mynychu digwyddiad Rhwydwaith yn y tair blynedd diwethaf. O’r rhain, gwnaed hanner yn ymwybodol o’r digwyddiad a fynychwyd trwy ebost (n=31, 50.0%) a chofiodd dros bedwar mewn deg (n=26, 41.9%) glywed am y digwyddiad mewn E-fwletin. Gwnaed tua thri mewn deg yn ymwybodol o’r digwyddiad trwy gydweithiwr (n=20, 32.3%) neu wefan y Rhwydwaith (n=19, 30.7%). Ar y cyfan, ymddengys bod y digwyddiadau wedi cael derbyniad da gan aelodau a disgrifiodd cyfrannau sylweddol o’r ymatebwyr y digwyddiadau fel rhai llawn gwybodaeth (n=43, 69.4%), defnyddiol (n=38, 61.3%) a/neu ymgysylltiol (n=34, 54.8%). O’r ffurflenni gwerthuso a’r ‘Wordles ’ cysylltiedig sy’n cael eu creu, canfu’r mynychwyr y digwyddiadau yn brofiad cadarnhaol gyda ‘diddorol’, ‘llawn gwybodaeth’ a ‘gwerth chweil’ yn elfennau poblogaidd o’r ‘Wordles’ a gafodd eu creu (gweler Atodiadau A2 ac A3 am enghreifftiau). Yn ogystal, un sylw parhaus o’r ffurflenni gwerthuso a lenwyd yn y digwyddiadau oedd bod mwyafrif y mynychwyr wedi nodi nad oeddent yn aelod presennol o’r Rhwydwaith. Yn yr wythnosau yn dilyn digwyddiad, cafwyd sawl achlysur lle mae’r rhwydwaith yn profi cynnydd mewn aelodau newydd; fodd bynnag, ymddengys bod y digwyddiadau yn gyfle a gollir i ymrestru unigolion fel aelodau newydd. Ystyriaeth bwysig o ran digwyddiadau yw’r rhesymau pam nad yw aelodau yn gallu mynychu. Gofynnwyd i aelodau oedd heb fynychu digwyddiad yn y tair blynedd diwethaf i roi’r rhesymau wnaeth eu hatal rhag mynychu (Ffigur 8). Y rhwystr mwyaf amlwg oedd yn atal aelodau rhag mynychu digwyddiadau oedd eu bod yn rhy brysur (n=24, 37.5%), a nododd chwarter yr ymatebwyr (n=16, 25.0%) nad oeddent yn ymwybodol o’r digwyddiadau. Roedd rhesymau eraill (n=17, 26.6%) a nodwyd gan aelodau fel rhesymau dros beidio mynychu digwyddiad yn cynnwys nad oedd y digwyddiadau yn uniongyrchol berthnasol i’r rôl bresennol, a bod yn aelod cymharol newydd heb gael y cyfle i fynychu eto. Mae lleoliad a dyddiadau’n gwrthdaro hefyd wedi gweithredu fel rhwystrau sydd yn atal aelodau rhag mynychu. Yn ddiweddar, mae’r Rhwydwaith wedi cyflwyno ffrydio byw mewn digwyddiadau ac er nad yw llawer o’r ymatebwyr wedi defnyddio’r cyfleuster hwn o’r blaen, byddai gan bron dwy ran o dair (n=35, 62.5%) ddiddordeb mewn ‘ymuno’ â digwyddiad trwy ffrydio byw yn y dyfodol.

1. Gofynnir i fynychwyr y digwyddiadau roi un gair i grynhoi’r ffordd y maent yn teimlo am y digwyddiad. Rhoddir y geiriau hyn wedyn mewn Wordle (www.wordle.net) sydd yn creu diagramau geiriau sydd yn rhoi mwy o amlygrwydd i eiriau sy’n ymddangos amlaf yn y testun.

18


Too busy

37.5

Other

26.6

Not Aware

25

Not Allowed

9.4

Travel Costs

7.8

Not Interested

4.7 Proportion of respondents (n=64, %)

Ffigur 8. Rhwystrau a rhesymau pam nad yw aelodau yn mynychu digwyddiad Er mwyn mynd i’r afael â lleoliad fel rhwystrau i fynychu digwyddiadau, mae’r Rhwydwaith yn cynnal cyfres flynyddol o ‘sioeau teithiol’ sydd yn teithio i nifer o leoliadau ar draws Cymru. O’r 61 o ymatebwyr a nododd eu bod wedi mynychu digwyddiad yn y tair blynedd diwethaf, roedd llai na hanner (n=26, 42.6%) wedi mynychu ‘sioe deithiol’. Pan ofynnwyd i’r aelodau beth fyddent yn hoffi i’r ‘sioeau teithiol’ ei gynnwys, yr ymateb mwyaf poblogaidd oedd rhoi gwybodaeth [iddynt] am fentrau lleol. Roedd yr aelodau’n teimlo y gallai gwybodaeth leol hefyd ddarparu llwyfan ar gyfer cydgynhyrchu gwell yn yr ardal. Roedd gwybodaeth am fentrau cenedlaethol a chyfleoedd hyfforddiant hefyd yn opsiynau poblogaidd gyda’r aelodau (Ffigur 9).

Local Initiatives

80.8

National Initiatives

69.2

Training/Formal CPD

65.4

Information about the network Other

50 11.5 Proportion of respondents (n=26, %)

Ffigur 9. Dewisiadau’r aelodau i’w cynnwys mewn cyfresi ‘sioeau teithiol’ yn y dyfodol 3.6 Perfformiad Cyffredinol Y cwestiwn olaf o ddiddordeb ar ddylanwadau ehangach y Rhwydwaith oedd mesur safbwyntiau aelodau am effaith nifer o weithgareddau allweddol (Tabl 5). Gofynnwyd i’r aelodau ystyried lefel eu cytundeb tuag at nifer o ddatganiadau oedd yn seiliedig ar nodau ac amcanion y Rhwydwaith. Casglwyd safbwyntiau tebyg hefyd yng ngwerthusiad blaenorol y Rhwydwaith (2013). Ar y cyfan, roedd yr ymatebion tuag at effaith gweithgareddau’r Rhwydwaith yn gadarnhaol, fodd bynnag o’u cymharu â’r gwerthusiad blaenorol, roedd tuedd i’r ymatebwyr ‘gytuno’ â datganiadau yn hytrach na ‘chytuno’n gryf’ gyda’r datganiadau. Roedd dau ddatganiad oedd ychydig yn wahanol i’r ymatebion yn 2013 yn ymwneud â pha mor ddiweddar oedd yr aelodau yn teimlo oedd eu gwybodaeth am eu maes testun a’r cyfle i gydweithredu. Roedd yr aelodau yn fwy tebygol o ‘anghytuno’ bod y Rhwydwaith yn rhoi’r ‘wybodaeth ddiweddaraf’ iddynt ac felly’n llawer llai tebygol o ‘gytuno’n gryf’ gyda’r datganiad hwn. O ran cyfleoedd cydweithredu, roedd yr aelodau’n llai tebygol o ‘gytuno’n gryf’ neu ‘gytuno’ ac yn llawer mwy tebygol o ‘anghytuno’ gyda’r datganiad hwn.

19


Yn ogystal, gofynnodd y gwerthusiad presennol i’r aelodau ystyried y datganiad canlynol ‘Mae’r Rhwydwaith yn fy helpu i ddeall y dystiolaeth sydd yn llywio fy ymarfer’. Roedd gan y rhan fwyaf o’r ymatebwyr adlewyrchiad cadarnhaol ar y datganiad hwn, gyda 58.7% (n=64) o’r ymatebwyr yn cytuno ac 11% (n=12) yn cytuno’n gryf. Roedd cyfran fach (2.8%, n=3) yn ‘anghytuno’n gryf’ gyda’r datganiad ac roedd yr ymatebwyr oedd yn weddill (27.5%, n=30) yn ‘anghytuno’ gyda’r datganiad. Tabl 5. Barn a safbwyntiau’r aelodau ar rai o brif weithgareddau’r Rhwydwaith Amgyffrediad Aelodau o Weithgareddau’r Rhwydwaith Cytuno’n Gryf

Mae’r Rhwydwaith yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi ar ddatblygiadau o fewn fy maes testun Mae gwaith y Rhwydwaith yn fy helpu i helpu’r cyhoedd neu fy nghleientiaid Mae’r Rhwydwaith yn fy helpu i godi ymwybyddiaeth am faterion a thueddiadau cyfredol Mae gwaith y Rhwydwaith wedi fy helpu i gydweithredu â phobl eraill Mae’r Rhwydwaith yn rhoi llwyfan da ar gyfer rhannu ymarfer a hybu iechyd

Cytuno

2013

2017

% Newid

2013

2017

% Newid

2013

2017

32 (30.2)

15 (13.8)

-16.4*

69 (65.1)

73 (67.0)

+1.9

5 (4.7)

20 (18.3)

19 (18.1)

9 (8.3)

-9.8*

74 (70.5)

78 (71.6)

+1.1

12 (11.4)

20 (18.3)

35 (33.3)

26 (23.9)

-9.4

65 (61.9)

77 (70.6)

+8.7

4 (3.8)

5 (4.6)

16 (15.4)

10 (9.2)

-6.2

65 (62.5)

53 (48.6)

-13.9*

20 (19.2)

43 (39.4)

24 (23.5)

25 (23.0)

-0.5

62 (60.8)

75 (68.8)

15 (14.7)

7 (6.4)

-5.4

61 (59.2)

55 (50.4)

-8.8

25 (24.3)

39 (35.8)

-1.2

18 (17.1)

31 (28.4)

+11.3

55 (52.4)

51 (46.8)

Mae gwaith y Rhwydwaith yn fy helpu i gymhwyso polisi yn fy ngwaith o ddydd i ddydd

16 (15.5)

Nid yw gwaith y Rhwydwaith yn cael unrhyw effaith ar y ffordd yr wyf yn gwneud fy

7 (6.7)

11 (10.1)

6 (5.5)

Anghytuno’n Gryf

Anghytuno

+8.0

% Newid

2013

2017

% Newid

0 (0.0)

1 (0.9)

+0.9

+6.9

0 (0.0)

2 (1.8)

+1.8

+0.8

1 (1.0)

1 (0.9)

-0.1

+20.2*

3 (2.9)

3 (2.8)

-0.1

-8.3*

1 (1.0)

2 (1.8)

+0.8

+11.5

1 (1.0)

4 (3.7)

+2.7

-5.6

23 (23.8)

21 (19.3)

-4.5

+13.6*

Mae’r data yn cynrychioli nifer yr ymatebwyr a chanran yr ymatebwyr mewn cromfachau, * nodi gwahaniaeth arwyddocaol rhwng ymatebion 2013 a 2017.

20


4.0 Cwestiynau Allweddol (Trafodaeth) 4.1 Perfformiad yn erbyn Nodau ac Amcanion Wrth goladu safbwyntiau’r rhanddeiliaid (yn cynnwys aelodau o’r grŵp cynghori) a gafodd gyfweliad, ynghyd ag ymatebion i’r holiadur aelodau, mae’n bwysig ystyried pa mor dda y mae’r Rhwydwaith yn perfformio ar hyn o bryd yn erbyn eu nodau a’u hamcanion eu hunain. 4.1.1 Addysgu a llywio’r gweithlu iechyd y cyhoedd ehangach ar ddatblygiadau’n ymwneud ag ymarfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru; Roedd safbwyntiau’r rhanddeiliaid yn gadarnhaol ar y cyfan a chytunodd y rhan fwyaf, os nad y cyfan, bod y Rhwydwaith ar hyn o bryd yn bodloni’r amcan hon. Yn arbennig, helpodd adran newyddion y wefan a’r E-fwletinau ar thema i ddarparu gwybodaeth i hysbysu’r gweithlu iechyd y cyhoedd ehangach. Ategir safbwyntiau’r rhanddeiliaid gan safbwyntiau’r aelodau (Ffigur 2) sydd yn nodi bod gwybodaeth i lywio ymarfer proffesiynol yn cael ei gasglu’n bennaf o’r E-fwletin a’r wefan. Fodd bynnag, mae amheuaeth a yw’r wybodaeth hon yn troi’n effaith ar ymarfer proffesiynol, o ystyried bod 33 o ymatebwyr wedi anghytuno eu bod wedi deall sut mae’r dystiolaeth hon yn llywio eu hymarfer eu hunain (tudalen 17). Er na chafodd ei drafod yn fanwl iawn yn y gwerthusiad hwn (un cwestiwn ar y nodweddion a ddefnyddir gan aelodau ar y Wefan, Ffigur 5), mae’r Rhwydwaith yn ddiweddar wedi lansio cyfres o bodlediadau fel dull newydd o ledaenu a hysbysu aelodau ynghylch datblygiadau newydd. Mae rhai rhanddeiliaid wedi sylwi ar hyn ac yn fodlon iawn gyda’r ymagwedd newydd hon. Cododd y rhanddeiliaid hefyd y cwestiwn ynghylch a oedd angen i’r Rhwydwaith fod yn ehangach nag ymarfer iechyd y cyhoedd. Er enghraifft, a ddylid hysbysu aelodau ynghylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r pum ffordd o weithio? I ateb y cwestiwn hwn yn gyflym, mae’r Rhwydwaith wedi cyflwyno digwyddiad ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o’r blaen ac yn y misoedd i ddod, bydd y Rhwydwaith yn dechrau paratoi ar gyfer sioe deithiol mewn partneriaeth â Hybu Iechyd a Chynaliadwyedd (Iechyd Cyhoeddus Cymru). Ceir bellach ardal ‘Cymuned Ymarfer’ neilltuol o’r wefan ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n cael ei nodi ar y dudalen flaen. 4.1.2 Amlygu a dangos enghreifftiau o arfer da ym maes Iechyd y Cyhoedd sy’n cael eu cyflwyno ar hyd a lled Cymru; Roedd safbwyntiau’r rhanddeiliaid tuag at y nod hon yn gymysg. Roedd cyfran dda o’r rhanddeiliaid yn teimlo bod y Rhwydwaith yn cyflawni’r nod hon ond roedd nifer sylweddol hefyd yn teimlo bod hwn yn faes lle gallai’r Rhwydwaith wella. Cyfeiriodd y rhanddeiliaid yn gyffredinol at y gronfa ddata ymarfer a rennir sydd ar y wefan ac roeddent o’r farn y gellid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o’r adnodd hwn. Mae’r awgrym hwn yn cael ei gyfiawnhau hefyd gan yr holiadur aelodau lle’r oedd llai na thraean o’r ymatebwyr wedi defnyddio’r gronfa ddata ymarfer a rennir (Ffigur 2). Nododd y rhanddeiliaid hefyd bod arfer da yn cael ei wobrwyo’n flaenorol ac y gallai ailgyflwyno hyn fod yn beth da, i annog cyflwyniadau a hefyd ar gyfer cydnabyddiaeth broffesiynol a allai arwain at gyllid yn y dyfodol.

21


4.1.3 Annog rhyngweithio a chyfnewid gwybodaeth a syniadau ymysg gweithlu iechyd y cyhoedd yng Nghymru; Yn bennaf, mae rhyngweithio a chyfnewid gwybodaeth a syniadau’n digwydd yn ystod digwyddiadau, ond er bod y Rhwydwaith yn darparu’r llwyfan mewn digwyddiadau, mae’n dibynnu ar ymgysylltiad aelodau i gyfnewid y syniadau hyn. Awgrymodd rhanddeiliaid bod y fforymau yn opsiwn da i gyfnewid gwybodaeth a syniadau y tu hwnt i ddigwyddiadau. Tra’n cydnabod nad oedd y fforymau’n cael eu defnyddio ddigon ar hyn o bryd, awgrymodd y rhanddeiliaid ddefnyddio mwy o ymgysylltu gyda’r cyfryngau cymdeithasol i annog cyfnewid gwybodaeth a syniadau. Gallai tactegau bwriadol gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gofyn am gyfranogiad fod yn strategaeth amgen i’w defnyddio yn y dyfodol. Ceir dymuniad gan aelodau i fod yn fwy ‘gweithredol’ a chaiff hyn ei drafod yn fanylach yn Adran 4.3 4.1.4 Hwyluso cyfleoedd ar gyfer trafodaeth am faterion iechyd y cyhoedd cyfoes ymysg y rhanddeiliaid amrywiol yng Nghymru a thu hwnt; Mwy na thebyg, y nod a’r amcan hon yw’r un maes lle mae gan y Rhwydwaith y lle mwyaf i wella, ond, mae hefyd yn galonogol mai dyma’r maes lle mae gan y rhanddeiliaid ac i ryw raddau yr aelodau yr awgrymiadau mwyaf defnyddiol ar gyfer gwella. Mae dau gyfle clir ac amlwg ar gyfer trafodaeth sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd gan y Rhwydwaith a’r rhain yw’r digwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan y Rhwydwaith ar destunau cyfoes a hefyd y fforwm ar wefan y Rhwydwaith. Trafodaethau mewn digwyddiadau fel cynadleddau a seminarau i roi llwyfan ar gyfer trafodaethau trwy sesiynau holi ac ateb wedi eu hwyluso, ond nid yw’n glir a yw’r trafodaethau hyn yn parhau ar ôl y digwyddiad. Mae’r fforwm ar y wefan hefyd yn gyfle ar gyfer trafodaeth ond ar hyn o bryd, nid yw’r adnodd hwn yn cael ei ddefnyddio ddigon ac mae angen ailedrych arno. Gallai ymagwedd newydd hefyd hybu trafodaethau ac awgrymodd y rhanddeiliaid nifer o syniadau ar gyfer gwneud hyn, gan gydnabod hefyd y gofyniad i aelodau ymgysylltu, sydd yn rhywbeth nad yw wedi cael ei wneud yn fanwl iawn hyd yma. Yr awgrymiadau ar gyfer ‘diwygio’r’ cyfleoedd ar gyfer trafodaeth oedd; (i) webinarau, (ii) arolygon snap a (iii) hybu fforymau trwy sianeli amrywiol Rhwydwaith y Cyfryngau Cymdeithasol. 4.1.5 Hybu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ymysg rhanddeiliaid ar faterion iechyd y cyhoedd newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg; Y sylw cyffredinol gan randdeiliaid yw bod y cyfle ar gyfer cydweithredu yn bennaf mewn digwyddiadau fel cynadleddau, seminarau a sioeau teithiol. Fodd bynnag, dywedodd y rhanddeiliaid nad oes presenoldeb da yn rhai o’r digwyddiadau hyn a allai olygu bod y cyfle ar gyfer cydweithredu yn gyfyngedig. O ymatebion yr holiadur, mae cydweithredu hefyd yn isel ar y rhestr o effeithiau ar rolau o ddydd i ddydd, er bod galluogi cysylltiadau gydag ymarferwyr eraill ychydig yn uwch ar y rhestr (Ffigur 6). Mae cydweithredu yn gofyn am ymdrech gan unigolion i fod yn llwyddiant ac er gwaetha’r ffaith fod y Rhwydwaith yn rhoi cyfle i gydweithredu mewn digwyddiadau, mae angen archwilio dull amgen o gynnal a datblygu’r cysylltiadau hyn. Y dewis amlwg yw defnyddio’r fforwm ar y wefan, fel y trafodwyd yn flaenorol, nid yw hwn yn cael ei ddefnyddio ddigon ond mae’n dal yn adnodd poblogaidd gydag aelodau.

22


4.1.6 Llywio a hybu polisi, ymarfer a thystiolaeth leol, genedlaethol a rhyngwladol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd; Ar y cyfan, cytunodd y rhanddeiliaid fod y Rhwydwaith yn bodloni’r nodau a’r amcanion hyn, unwaith eto yn bennaf trwy’r wybodaeth a geir yn y wefan hon, sy’n cael ei dosbarthu trwy E-fwletin misol a/ neu’n cael ei chyflwyno mewn digwyddiadau amrywiol. Fel y rhan fwyaf o’r nodau a’r amcanion hyn, mae awgrymiadau ar gyfer gwelliant wedi cael eu cynnig. O ran polisïau cenedlaethol, gallai fod adran glir ac amlwg ar y wefan at y diben hwn a allai gynnwys polisïau diweddaraf y llywodraeth er enghraifft. Mae rhai polisïau ac ymarfer felly’n unigryw i Gymru a chwestiynwyd hefyd a fyddai ymarfer a thystiolaeth ehangach yn y DU ac yn rhyngwladol yn berthnasol i Gymru. Yn olaf, fel y trafodwyd yn flaenorol, awgrymodd ymatebwyr i’r holiadur bod aelodau’n darparu gwybodaeth am fentrau lleol yn y digwyddiadau sioe deithiol. 4.1.7 Cynyddu ymwybyddiaeth o waith Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r gweithlu ehangach. I ryw raddau, roedd y rhanddeiliaid yn teimlo bod y Rhwydwaith yn bodloni’r nod hon, trwy ddulliau effeithiol y wefan, yr E-fwletin a’r digwyddiadau a nodwyd yn flaenorol. Mae’r wefan a’r cyfryngau cymdeithasol yn hygyrch yn fyd-eang a cheir tystiolaeth bod yr adnoddau hyn wedi cael eu defnyddio gan unigolion mewn gwledydd ar draws y byd. Fodd bynnag, unwaith eto, roedd y nod hon yn faes lle credwyd y gallai’r Rhwydwaith ‘wneud yn well’ a darparwyd rhai awgrymiadau ar gyfer gwelliannau, oedd yn ddefnyddiol iawn. Er enghraifft, roedd gwelliannau ar gyfer y wefan yn cynnwys cysylltiad cliriach gyda brandio a gwasanaethau cysylltiedig Iechyd Cyhoeddus Cymru, er enghraifft, offeryn Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (PHOF) o Wybodaeth Iechyd, fyddai’n adnodd rhagorol ar gyfer aelodau’r Rhwydwaith. Un awgrym pellach oedd dibynnu llai ar aelodau i rannu’r wybodaeth hon ond i ymgysylltu â gwneuthurwyr polisïau. Byddai gwneuthurwyr polisïau sydd yn ymgysylltu ac yn rhannu gwaith y Rhwydwaith gyda’u partneriaid cysylltiedig hefyd yn galluogi partneriaid ‘anhraddodiadol’ i ymgysylltu ac felly gallai arwain at gydweithredu mwy llwyddiannus yn y dyfodol. 4.2 Beth yw safbwyntiau aelodau am y wefan a’r E-fwletin newydd? Nodwyd dro ar ôl tro gan yr aelodau mai’r wefan a’r E-fwletin oedd prif ffynhonnell mynediad i wybodaeth reolaidd. Er bod y safbwyntiau hyn gan yr aelodau wedi cael eu nodi mewn adrannau blaenorol (Adrannau 3.3 a 3.4), mae’n bwysig ailbwysleisio ac ehangu ar rai o’r prif ganfyddiadau i helpu i ddatblygu’r adnoddau hyn sydd yn werthfawr i’r aelodau. 4.2.1 Gwefan newydd Y wefan yw un o’r cysylltiadau cyntaf fyddai darpar aelodau’n ei gael. Mae’r broses o ymrestru’n digwydd trwy’r wefan. Mae’n hanfodol bod yr argraff gyntaf ar aelod ‘newydd’ yn un gadarnhaol. Nododd y rhanddeiliaid a gafodd gyfweliad, o’i chymharu â’r hen wefan, fod y wefan newydd yn welliant mawr a chanmolwyd y dyluniad ‘modern’ newydd.

23


Y nodwedd o’r wefan a ddefnyddir fwyaf yw’r adran sydd yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â digwyddiadau (Ffigur 5), gyda digwyddiadau’r gorffennol a’r gronfa ddata ymarfer a rennir hefyd yn adrannau a ddefnyddir yn gyson gan aelodau. Un sylw diddorol gan ddadansoddiadau’r wefan (Atodiad A1) yw bod y testunau a ddefnyddiwyd fwyaf yn ymwneud â ‘maeth’, ‘iechyd meddwl’, ‘iechyd rhywiol’ neu ‘weithgaredd corfforol’, sydd i gyd yn destunau cyfredol i’r rhwydweithiau blaenorol. Mae hyn yn awgrymu mai’r testunau o ddiddordeb ar y wefan yw’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r Rhwydwaith yn hanesyddol. Wrth ystyried y nodweddion a ddefnyddir ar y wefan, mae’n amhosibl peidio trafod hygyrchedd a defnydd o fforymau. Dewiswyd fforymau fel dull ‘dewisol’ o ymgysylltu â chymheiriaid (Ffigur 4), ac er gwaetha’r sylw hwn, roedd llai nag un mewn pedwar o ymatebwyr (n=17, 23.9%) wedi ymweld â’r tudalennau ar y wefan mewn gwirionedd (Ffigur 5). Er y gellid ystyried hyn yn fater ymgysylltu, mae’r fforymau’n dod o fewn y wefan ac felly mae goblygiadau ar gyfer y wefan ac ymgysylltu. Nododd pedwar deg un o ymatebwyr y byddent yn barod i ymuno neu greu fforwm/cymuned o ddiddordeb ac roedd yr awgrymiadau ar gyfer testunau o’r fath yn cynnwys iechyd a lles oed gweithio (cyflogai), gordewdra plentyndod, tai ac iechyd, polisi iechyd, a chamddefnyddio sylweddau. Mae’r canfyddiadau hyn eto’n awgrymu bod yr aelodau’n barod i ymgysylltu ac mae trafodaethau defnyddwyr yn gam cyntaf pwysig i hwyluso dymuniad yr aelodau. Wedi ei gynnwys o fewn ymatebion yr aelodau oedd nifer o gwynion ynghylch hafan bresennol y Rhwydwaith. Mae’r cwynion hyn wedi cael eu trafod o’r blaen ond dylid ystyried y ‘newidiadau’ canlynol; (i) Gwneud i’r hafan ymddangos yn llai prysur, gallai diwygio’r hafan hefyd dynnu sylw aelodau os byddant yn sylweddoli bod rhywbeth wedi newid; (ii) Arafu’r carwsél er mwyn i ymwelwyr â’r wefan allu prosesu’r wybodaeth; a (iii) Gwneud y nodweddion newyddion ac ymarfer a rennir ar y wefan yn fwy amlwg er mwyn gwella llywio. 4.2.2 E-fwletin Yr E-fwletin oedd y ffynhonnell wybodaeth a ddefnyddiwyd amlaf gan yr aelodau a ymatebodd i’r holiadur (Ffigur 2). Yn ogystal, roedd y mwyafrif helaeth o’r ymatebwyr i’r cwestiwn penodol hefyd yn cofio derbyn copi o’r E-fwletin bob mis (n=92, 97.9%). Felly, gellid ystyried, ar hyn o bryd, mai’r E-fwletin yw’r nodwedd o’r Rhwydwaith sydd â’r cyrhaeddiad posibl mwyaf. Cafwyd diddordeb mawr gan ymatebwyr yr holiadur oedd heb gyfrannu at E-fwletin eto i gyflwyno cynnwys i rifyn o’r E-fwletin yn y dyfodol (n=48, 52.2%). Gallai testun dewisol yr E-fwletin hefyd ddylanwadu ar benderfyniad aelod i gyflwyno cynnwys i E-fwletin neu beidio, ar y sail y byddai eu cyfraniad yn cyd-fynd â chylch gorchwyl rhifyn i ddod. Un opsiwn i annog cyflwyno a hwyluso cyfraniadau fyddai ‘Rhifynnau Arbennig Aelodau’. Byddai hyn yn gyfle i’r aelodau hynny sydd eisiau cyflwyno rhywbeth i wneud hynny a gallai hefyd annog cydweithredu newydd, yn arbennig o ystyried cyrhaeddiad posibl a’r rheiny sy’n darllen yr E-fwletin. Fel y wefan, yr adran o’r E-fwletin a wnaeth ennyn y diddordeb mwyaf oedd ‘Beth sy’n mynd ymlaen?’ sydd yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau i ddod. Mae’r sylwadau hyn yn dangos mai’r cynnwys sy’n cael ei werthfawrogi fwyaf gan yr aelodau yw’r wybodaeth sydd yn rhoi manylion am ddigwyddiadau i ddod.

24


Mae’r E-fwletin yn dal yn cael ei werthfawrogi gan aelodau, fodd bynnag, o’i gymharu â 2013, mae eglurder yr E-fwletin wedi llithro o safon ‘Ragorol’ i safon ‘Dda’. Gall hyn ymddangos yn ddibwys, ond mae hefyd yn dangos y safonau uchel a ddisgwylir o gynnyrch yr E-fwletin a’r Rhwydwaith. Gall fod nifer o resymau pam y mae safbwyntiau aelodau wedi newid tuag at eglurder yr E-fwletin ac ni chafodd y rhain eu cyfleu yn yr holiadur. Gall darn ategol o waith o’r gwerthusiad hwn fod i archwilio’r pryder hwn ymhellach a helpu i ddatblygu’r E-fwletin. Un sylw cyson a ymddangosodd trwy’r elfen ‘testun rhydd’ o’r holiadur ac a amlygwyd hefyd gan Randdeiliaid oedd yn ymwneud ag ISSUU a’r mynediad cysylltiedig (mae ISSUU wedi ei rwystro ar rai gweinyddwyr y GIG) a darllenadwyedd yr E-fwletin. Wrth ddosbarthu’r E-fwletin, ceir mynediad i’r fersiwn ‘ansawdd uchel’ trwy ISSUU, ac mae’r fersiwn ‘ansawdd isel’ yn fersiwn PDF o’r E-fwletin a all fod yn cael ei groesawu gan rai aelodau (e.e. er mwyn ei argraffu a’i ddarllen). Ar hyn o bryd, nid oes cyfeiriad penodol bod y fersiwn ‘ansawdd isel’ o’r E-fwletin yn PDF. Byddai brawddeg syml wrth ddosbarthu’r E-fwletin misol yn amlygu hyn i aelodau’r Rhwydwaith ac efallai’n cynyddu’r niferoedd sy’n ei ddarllen ymhellach. 4.3 Beth mae angen i’r Rhwydwaith ei wneud yn wahanol i gynyddu ymgysylltu? Y mater o ymgysylltu aelodau yn sicr yw’r maes mwyaf amlwg y mae angen mynd i’r afael ag ef o’r gwerthusiad hwn. Yn addawol, o’r ymatebwyr sy’n aelodau, ymddengys bod awydd ymgysylltu’n fwy gyda’r Rhwydwaith. Mae hyn yn amlwg yn y niferoedd sydd wedi mynegi eu bod eisiau newid o fod yn aelod ‘goddefol’ i aelod mwy ‘gweithredol’ (Ffigur 3). Mae rhai enghreifftiau o’r ffordd i hwyluso hyn eisoes wedi cael eu trafod yn flaenorol mewn perthynas â chyfleoedd gyda’r fforwm (gwefan) a’r E-fwletin. Mae digwyddiadau, yn arbennig cynadleddau a seminarau, hefyd yn brif ffynonellau gwybodaeth i aelodau (Ffigur 2), ac maent hefyd yn hwylusydd allweddol i gydweithrediad aelodau fel sydd yn amlwg o gyfweliadau Rhanddeiliaid. Un o’r canfyddiadau mwyaf diddorol o’r broses werthuso hon oedd, yn ôl yr adborth o ddigwyddiad blaenorol, nad oedd o leiaf hanner y cynadleddwyr a fynychodd (a chwblhau’r ffurflenni adborth) yn aelod presennol o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae rhifau aelodau yn cynyddu yn yr wythnosau yn dilyn digwyddiad, ond nid yw’n glir a yw hynny’ncynnwys yr holl aelodau ‘newydd’ posibl. Felly, ymddengys bod y digwyddiadau yn gyfle sy’n cael ei golli i ymrestru unigolion fel aelodau newydd a thyfu ac ymestyn cyrhaeddiad y Rhwydwaith ymhellach. Roedd nifer o rwystrau yn atal aelodau rhag mynychu digwyddiad o unrhyw fath yn y tair blynedd diwethaf (Ffigur 8). Y prif rwystr oedd bod yr aelodau wedi nodi eu bod yn ‘rhy brysur’ gyda rhai Rhanddeiliaid yn nodi yn eu cyfweliadau y gall eu hargaeledd gael ei lenwi wythnosau ac weithiau misoedd ymlaen llaw. Un opsiwn synhwyrol i leihau’r gwrthdaro hyn o ran dyddiadau byddai dosbarthu taflenni ‘Cadw’r Dyddiad’ ychydig fisoedd ymlaen llaw gyda’r sicrwydd o fwy o fanylion i ddilyn maes o law. Gallai’r dull hwn o bosibl ganiatáu mwy o amrywiaeth o aelodau i fynychu’r digwyddiadau hyn a fydd, yn ei dro, yn caniatáu cyflenwi syniadau yn well. Un o’r rhwystrau allweddol ‘eraill’ sydd yn atal aelodau rhag mynychu digwyddiadau ar y cyd ag aelodau yn ‘rhy brysur’ oedd cyfyngiadau cost/cyllideb. Gallai’r posibilrwydd o ddigwyddiadau’r Rhwydwaith yn cael achrediad DDP ffurfiol annog mwy o aelodau i fynychu a hefyd dwyn perswâd ar gyflogwyr (rheolwyr llinell ac ati) i ryddhau eu staff sydd yn aelodau i fynychu.

25


Mae gan y Rhwydwaith bellach y gallu i ffrydio digwyddiadau yn fyw (ar Twitter fel arfer) fel bod aelodau sydd yn methu mynychu yn bersonol yn gallu gwylio’r cyflwyniadau a hefyd cyfrannu at y sgyrsiau/sesiynau holi ac ateb. Nododd llawer o ymatebwyr yr holiadur nad oeddent wedi defnyddio’r cyfleuster ‘ffrydio’n fyw’ hyn o’r blaen, ond dywedodd y rhan fwyaf y byddai ganddynt ddiddordeb yn ‘ymuno’ â digwyddiad trwy ffrydio’n fyw yn y dyfodol. Nodwedd arall sydd wedi ei chyflwyno’n ddiweddar yw podlediadau fyddai o gymorth i roi cipolwg ar ddigwyddiadau a chynnwys cyfweliadau gyda rhai o’r prif lefarwyr. O ddadansoddiadau defnydd y wefan (Atodiad A1), y dudalen podlediadau yw un o’r rhai mwyaf poblogaidd gan yr aelodau sydd yn awgrymu bod ei chynnwys yn cael ei groesawu i’r ystod o wasanaethau y mae’r Rhwydwaith yn ei chynnig. Mae ffrydio ar-lein a podlediadau yn helpu i gyfrannu at gynnydd ym mhresenoldeb y Rhwydwaith ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhywbeth sydd yn datblygu’n barhaus ac mae’n hanfodol bod presenoldeb y Rhwydwaith ar y Cyfryngau Cymdeithasol yn dal i esblygu hefyd er mwyn bodloni’r maes hwn sy’n datblygu. Bydd mwy o bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn helpu i “hwyluso cyfleoedd ar gyfer trafodaeth am faterion iechyd y cyhoedd cyfoes ymysg y rhanddeiliaid amrywiol yng Nghymru a thu hwnt” (Adran 4.1.4). 4.4 Perfformiad o’i gymharu â gwerthusiad blaenorol (2013) O ystyried y newidiadau i’r Rhwydwaith a hefyd nodweddion yr ymatebwyr i’r holiadur hwn sydd yn aelodau (dros hanner ohonynt yn nodi nad oeddent yn aelod o rwydwaith blaenorol), mae cymharu elfennau tebyg rhwng y gwerthusiad hwn a’r un yn 2013 yn anodd a dylid dehongli unrhyw ganfyddiadau yn ofalus. Fodd bynnag, mae’n bwysig ystyried trosolwg o ymatebion o’r gwerthusiad hwn a’r un blaenorol yn 2013. Mae’r rhan fwyaf o’r ymatebion gan aelodau yn y gwerthusiad hwn yn gymaradwy o ran ymddygiad aelodau (e.e. Ffigur 1), a delwedd gyffredinol (e.e. Ffigur 6), a dylid cymeradwyo’r Rhwydwaith am hyn. Er bod tuedd bod perfformiad y Rhwydwaith i gynnwys penodol ac amseroldeb y cynnwys wedi llithro ychydig o’i gymharu â 2013 (e.e. Tabl 3, a Thabl 5). Gellid esbonio amseroldeb a pherthnasedd (cynnwys) gan gynnydd mewn testunau sydd bellach yn cael eu cynnwys gan Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae sicrhau bod popeth sy’n cael ei bostio ar y wefan, yn cael ei gynnwys mewn E-fwletinau neu’n cael ei gyflwyno mewn digwyddiadau, yn berthnasol i bob aelod yn dasg sydd bron yn amhosibl. Fodd bynnag, gellir gwella rhywfaint o’r materion penodol sydd eisoes wedi eu trafod o ran eglurder a dibynadwyedd mewn perthynas â’r wefan a’r E-fwletin (Adrannau 4.2.1 a 4.2.2), a chydweithredu/ymgysylltu (Adran 4.3).

26


5.0 Casgliadau 5.1 Crynodeb o’r Prif Ganfyddiadau Ar y cyfan, mae gwaith y Rhwydwaith yn cael ymateb cadarnhaol gan yr aelodau a’r rhanddeiliaid. Mae’n bwysig gwerthfawrogi bod gan y Rhwydwaith fwy na 1000 o aelodau ac mae’r niferoedd hyn yn cynyddu bob mis. Felly, yng Nghymru yn arbennig, ni ellir tanamcangyfrif potensial y Rhwydwaith. Mae’r rhan fwyaf o nodau ac amcanion y Rhwydwaith yn cael eu bodloni i ryw raddau wrth gydgrynhoi ymatebion yr holiadur gan aelodau a hefyd cyfweliadau rhanddeiliaid. Fodd bynnag, mae’n glir iawn y gellir gwneud gwelliannau mewn rhai meysydd fel hwyluso trafodaethau y mae’r aelodau’n ymgysylltu â nhw, helpu i ddarparu cydweithredu yn y dyfodol ac os yn bosibl, codi ymwybyddiaeth o waith Iechyd Cyhoeddus Cymru i bartneriaid ‘anhraddodiadol’. Mae ymgysylltu yn broblem yn y rhwydwaith ac mae hyn yn amlwg o’r tanddefnydd presennol o adnoddau’r fforwm y gofynnwyd amdanynt gan aelodau cyn creu’r wefan newydd. Mae ymgysylltu, neu ddiffyg ymgysylltu, hefyd yn amlwg o ymatebion yr aelodau i’r holiadur gwerthuso a hefyd o werthusiadau digwyddiadau. Yn addawol, ymddengys bod awydd i ymgysylltu mwy trwy aelodau’n dod yn fwy ‘gweithredol’ (derbyn/cyfrannu) neu trwy gyflwyno erthyglau ar gyfer E-fwletinau yn y dyfodol. Dylai datblygu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ymhellach trwy ddigwyddiadau ffrydio byw a dosbarthu podlediadau hefyd helpu i hyrwyddo ymgysylltu ymysg aelodau. Yr E-fwletin a’r wefan yw’r ddwy brif ffynhonnell lle mae aelodau’n cael gwybodaeth i lywio eu hymarfer proffesiynol. Mae’r rhanddeiliaid wedi sylwi ar y cyfraniadau i’r E-fwletin ac maent wedi dweud pa mor dda y mae’r adnoddau hyn yn helpu i rannu gwybodaeth am ddatblygiadau ac arfer gorau lleol a chenedlaethol. Ymddengys mai gwybodaeth am ddigwyddiadau i ddod sydd fwyaf o ddiddordeb i aelodau, a’r adrannau hyn o’r E-fwletin a’r wefan sy’n cael eu defnyddio fwyaf gan aelodau. Mae digwyddiadau hefyd yn ganolbwynt i annog cydweithredu ac ymgysylltu rhwng aelodau’r Rhwydwaith. Y prif rwystr rhag mynychu digwyddiadau’r Rhwydwaith oedd bod aelodau yn ‘Rhy Brysur’ i fynychu. Un opsiwn i helpu i leddfu’r rhwystr hwn allai fod i ddosbarthu negeseuon e-bost ‘Cadw’r Dyddiad’ i aelodau gyda dyddiad a lleoliad a mwy o fanylion i ddod. Yn olaf, ymddengys y gallai newid o rwydwaith sy’n benodol i destun i un rhwydwaith cyffredinol sy’n cwmpasu’r holl wybodaeth yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd roi cyfrif am rai o ymatebion gwahanol yr aelodau o 2013. Gellir esbonio’r gostyngiad yn y cyfrannau a nododd ‘rhagorol’ o ran amseroldeb, perthnasedd a defnyddioldeb yn ôl y ffaith nad yw’r Rhwydwaith mor benodol i’w diddordebau blaenorol. Mae mwy o destunau hefyd yn gofyn am faich gwaith ychwanegol i lanlwytho adnoddau a diweddaru’r wefan yn barhaus. 5.2 Cyfyngiadau Mae’r gwerthusiad hwn wedi ceisio bod mor gynhwysfawr â phosibl a rhoi cipolwg diweddar ar waith a derbyniad y Rhwydwaith, ond dylid cydnabod nifer o gyfyngiadau hefyd. Y cyfyngiad cyntaf yw’r nifer (fach) o ymatebwyr sy’n aelodau. Er gwaetha’r ffaith fod yr holiadur yn ‘fyw’ am ddau fis, dim ond canran fach (~10%) o’r aelodau a ymatebodd ac nid yw’n sicr a yw’r ymatebion hyn i’r holiadur yn adlewyrchu safbwyntiau holl aelodau’r Rhwydwaith.

27


Nid oedd dros hanner yr ymatebwyr i’r holiadur yn aelod blaenorol o rwydwaith felly dylid trin cymariaethau rhwng y gwerthusiad hwn a 2013 yn ofalus. Er bod yr holl randdeiliaid wedi cael gwahoddiad (ar sawl achlysur) i gymryd rhan mewn holiadur byr, nid yw’r holl randdeiliaid wedi derbyn nac ymateb i’r gwahoddiad am gyfweliad. Yr un mwyaf amlwg absennol o’r rhestr rhanddeiliaid yw cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru. 5.3 Argymhellion Mae gwaith y Rhwydwaith yn cael ei groesawu ar hyn o bryd gan aelodau a rhanddeiliaid, er bod rhai awgrymiadau ar gyfer gwelliant. Felly, yn sgil cynnal y gwerthusiad hwn, mae nifer o argymhellion i gael eu hystyried i helpu i wella’r gwaith pellach sy’n cael ei wneud gan y Rhwydwaith a helpu’r Rhwydwaith i gyflawni eu nodau a’u hamcanion yn well. 1) Dylai’r Rhwydwaith barhau i dyfu a chynyddu cyfleoedd i ‘recriwtio’ aelodau newydd, mewn digwyddiadau er enghraifft. Mae cynyddu niferoedd yn bwysig ond mae hefyd yn bwysig ystyried a oes angen recriwtio Rhanddeiliaid newydd sydd yn flaenllaw yn wleidyddol ar hyn o bryd. Dylid ystyried ceisio ailsefydlu cyswllt gyda chynrychiolydd o Lywodraeth Cymru a chysylltiadau gyda chynrychiolydd sydd yn arwain ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ac yn Cymru Well Wales. 2) Mae dymuniad amlwg i aelodau eu hunain fod yn fwy ‘gweithgar’ ac mae hyn yn rhywbeth y dylai’r Rhwydwaith fanteisio arno. Mae angen mynd i’r afael â’r fforwm (nid yw unigolion yn ymgysylltu ond yn rhestru’r defnydd o fforwm yn uchel o ran cael gwybodaeth a chydweithredu o ansawdd da). Gallai ymgynghori ag aelodau a gofyn pam na ddefnyddiwyd (fforymau) fod yn bosibilrwydd; ac yn ail, gofyn i’r aelodau sut yr hoffent allu cychwyn trafodaethau. Mae rhanddeiliaid eisoes wedi awgrymu dulliau amgen ar gyfer ymgysylltu ac mae’n bwysig mesur a yw’r aelodau yn derbyn yr opsiynau hyn, yn enwedig gan fod llawer o nodau ac amcanion y Rhwydwaith yn dibynnu ar ymgysylltu aelodau. 3) Mae’r wefan a’r E-fwletin yn wasanaethau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan aelodau a nhw hefyd sydd â’r cyrhaeddiad mwyaf o ran aelodau ar hyn o bryd. Dylai’r gwasanaethau hyn barhau i gael eu creu a’u datblygu lle y bo’n bosibl. Dylid hefyd cydnabod mai’r wybodaeth am ddigwyddiadau sy’n cael ei hystyried fwyaf gwerthfawr i aelodau, a dylai’r wybodaeth yma fod yn hawdd cael gafael arni. 4) Y digwyddiadau sy’n cael eu hybu neu eu cyflwyno gan y Rhwydwaith sy’n ennyn y diddordeb mwyaf gan aelodau. Dylai cyflwyno digwyddiadau barhau gyda chynadleddau a seminarau yn hybu rhaglenni cenedlaethol ac os yn bosibl, dylai’r gyfres sioeau teithiol arddangos enghreifftiau o fentrau lleol. Byddai hyn yn hybu gwaith lleol a byddai hefyd o gymorth i ysgogi cydweithredu lleol a helpu i annog ymgysylltu aelodau a chyfnewid syniadau. 5) Mae ffrydio byw a phodlediadau hefyd yn wasanaethau pwysig i barhau i’w datblygu. Mae’r ddau yn helpu i ymestyn cyrhaeddiad a gwybod am ddigwyddiadau ymysg yr aelodau hynny oedd yn methu mynychu ar y diwrnod. Wrth i opsiynau newydd ar gyfer rhyngweithio ac ymestyn cyrhaeddiad gael eu cyflwyno, dylid cynnig opsiynau newydd i aelodau a dylid rhoi’r opsiynau newydd hyn ar brawf a’u gwerthuso.

28


6) Dylid archwilio’r posibilrwydd o ddigwyddiadau’r Rhwydwaith yn cael rhyw fath o achrediad DPP ffurfiol. Mae digwyddiadau tebyg yn cynnig achrediad DPP yn barod, sydd yn orfodol ar gyfer rhai swyddi, yn ogystal â bod o fudd i aelodau. Gallai achrediad DPP annog presenoldeb hefyd. 7) Argymhelliad olaf y gwerthusiad hwn yw ystyried atal gweithgareddau/nodweddion/adrannau nad ydynt yn ymddangos fel rhai sy’n cael eu gwerthfawrogi rhyw lawer. Er enghraifft, canfuwyd mai’r adran ‘Cael Ei Holi’ o’r E-fwletin oedd y lleiaf defnyddiol i aelodau (Ffigur 7). Byddai rhoi’r gorau i’r adran hon o’r E-fwletin wedyn yn rhoi mwy o ffocws ar y gweithgareddau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan aelodau ac yn ei dro, cynyddu effaith y Rhwydwaith.

29


Atodiadau Atodiad A1. Dadansoddiadau Gwefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru (Gorff-Hyd 2017)

30


Atodiad A2. Enghraifft o Wordle (Newid mewn Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus)

Atodiad A3. Enghraifft o Wordle (Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod: Yr hyn mae’n ei olygu i chi)

31


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.