Celfyddydau mewn Iechyd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Sioe Deithiol 2019 Adroddiad Gwerthuso Cryno Catherine Evans Cydgysylltydd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru Gorffennaf 2019
Cefndir Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llwyfan ar gyfer ymarferwyr, ymchwilwyr a gwneuthurwyr polisïau o bob sector a lleoliad yng Nghymru. Mae hefyd yn lle ar gyfer dysgu, rhannu ac ymgysylltu mewn testunau a materion allweddol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Cafodd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru ei lansio ym Mai 2015 mewn digwyddiadau ar draws Cymru. Cafodd ei ddatblygu fel y cam nesaf yn esblygiad rhwydweithiau iechyd y cyhoedd, gan uno’r pedwar Rhwydwaith presennol yn seiliedig ar destunau yn un gwasanaeth hollgynhwysol, yn cynnig ‘siop un stop’ i ymarferwyr sy’n gweithio ar destunau iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Sioe Deithiol y Celfyddydau mewn Iechyd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru 2019 Canolbwyntiodd Sioe Deithiol 2019 ar y Celfyddydau mewn Iechyd a’r bartneriaeth gyda’r Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd (Iechyd Cyhoeddus Cymru) a Chyngor Celfyddydau Cymru. Cynhaliwyd pum digwyddiad ar draws Cymru. Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle i’r Rhwydwaith ymgysylltu ag aelodau a’u hysbysu ynghylch datblygiadau’r Rhwydwaith i’r dyfodol ac mae hefyd yn gyfle i gynyddu’r aelodaeth ymhellach. Mae’r digwyddiadau hefyd yn gyfle i brosiectau lleol ddangos eu gwaith a rhwydweithio gydag unigolion eraill sydd â diddordeb yn y Celfyddydau ac Iechyd. Eleni, cynhaliwyd y digwyddiadau yn Aberhonddu, Aberystwyth, Wrecsam, Caerfyrddin a’r Barri a, lle y bo’n bosibl, dewiswyd y lleoliadau oherwydd eu cysylltiad â sector y celfyddydau.
Trosolwg o’r diwrnod Ar ôl y cyflwyniadau cychwynnol a throsolwg o’r diwrnod, gwahoddwyd y cynadleddwyr i gymryd rhan mewn sesiwn torri’r garw ar thema y celfyddydau ac iechyd. Yna, rhoddodd Malcolm Ward, Rheolwr y Rhwydwaith, drosolwg byr o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd yn cynnwys fideo byr yn esbonio’r Rhwydwaith yn fanylach. Gellir gweld y fideo yma. Rhoddodd Cyngor Celfyddydau Cymru gyflwyniad yn esbonio rôl y sefydliad a sut mae wedi datblygu partneriaethau gydag iechyd i gyflwyno nifer o brosiectau’n ymwneud â’r celfyddydau. Roedd y cyflwyniad nesaf gan yr Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd oedd yn esbonio eu rôl yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r ffordd maent yn cysylltu â’r celfyddydau mewn iechyd. Rhoddodd dau brosiect cenedlaethol pellach gyflwyniadau yn y digwyddiadau. Y rhain oedd Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal a Rhwydwaith Llesiant y Celfyddydau ac Iechyd Cymru. Rhoddodd gweddill y rhaglen gyfle i brosiectau a sefydliadau lleol arddangos eu gwaith ar y celfyddydau mewn iechyd. Cyflwynodd y rhan fwyaf o’r prosiectau eu gwaith mewn cyflwyniad 15 munud, ond cyflwynodd rai arddangosfa/gweithdy ac roedd gan eraill stondin arddangos. Gellir gweld y prosiectau hyn yn y tabl isod, ac mae’r holl gyflwyniadau ar gael i’w gweld ar dudalen digwyddiadau blaenorol y wefan. Aberhonddu • Caban Scriblio • Cerddoriaeth a’r Awen – Gweithdai ar gyfer Llesiant
Aberystwyth • Poen ysgrifennu Cymru • Celf-Able
Wrecsam • Cyd-gymunedau Crefftwyr • Rhaglen y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant BCUHB • Prosiect Gwella Gwasanaeth: Gwasanaeth y Glasoed Gogledd Cymru • Y Celfyddydau mewn Gofal Dementia
Caerfyrddin • People Speak Up • write4word - Bright Flowers • Y Celfyddydau a Threftadaeth ar gyfer Iechyd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe • Academi Henry Hedgepodge • Gofal Celf
Y Barri • Dawnsio ar gyfer Clefyd Parkinson • Four in Four • ValePlus • Motion Control Dance
Prosiectau cenedlaethol • Cyngor Celfyddydau Cymru • Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd • Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal • Rhwydwaith y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru ac Engage Cymru • Côr Gofal Canser Tenovus • Cynrychioli Cymunedau: Datblygu Grym Cre adigol Pobl i Wella Iechyd a Llesiant • Age Cymru
Niferoedd Presenoldeb a Sefydliadau / Sectorau Estynnwyd gwahoddiad i’r digwyddiadau i aelodau’r Rhwydwaith yn ogystal â chael ei anfon ymlaen gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd i’n cysylltiadau yn y celfyddydau ac iechyd. Eleni, penderfynwyd defnyddio lleoliadau oedd yn gysylltiedig â sector y celfyddydau felly roedd hyn, i raddau, yn pennu ble yng Nghymru y cynhaliwyd y digwyddiadau. Lleoliad Aberhonddu Aberyswyth Wrecsam Caerfyrddin Y Barri Total
Nifer yn mynychu 25 29 26 47 44 171
Cynyddodd y niferoedd ychydig (171) o’u cymharu â 2018 (168). Yn ôl y disgwyl, denodd y digwyddiadau yn y Barri a Chaerfyrddin y rhan fwyaf o bobl ond roedd yn galonogol gweld bod y digwyddiadau a gynhaliwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru wedi gweld cynnydd yn y niferoedd o’u cymharu â blynyddoedd blaenorol. Cynrychiolwyd nifer o sectorau yn y digwyddiadau oedd yn cynnwys y Trydydd Sector a Sefydliadau Gwirfoddol, Awdurdodau Lleol, Academia ac i raddau llai, Byrddau Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ffurflen Werthuso: Canlyniadau Meintiol Gofynnwyd i’r cyfranogwyr lenwi ffurflenni adborth gwerthuso ar ddiwedd pob digwyddiad. Llenwyd 81 allan o’r 171 o gynadleddwyr. Mae’r cwestiwn cyntaf yn gofyn i’r cynadleddwyr a ydynt yn aelodau o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n ddiddorol nodi bod mwy o gynadleddwyr (57) nad ydynt yn aelodau o’u cymharu â’r rheiny sydd yn aelodau (23), yn arbennig gan fod y digwyddiadau yn cael eu hysbysebu’n bennaf ymysg aelodau’r Rhwydwaith. Fodd bynnag, mae hyn yn dangos bod y wybodaeth a anfonir at aelodau’n cael ei hanfon ymlaen at gydweithwyr a sefydliadau eraill.
Ydych chi yn aelod o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru?
Ydw 29%
Nac ydw 70%
Dim Ateb 1%
Cofrestrodd y Rhwydwaith 43 o aelodau newydd yn yr wythnosau yn ystod ac yn dilyn y sioeau teithiol. Mae digwyddiadau Sioe Deithiol y Rhwydwaith yn gyfle i hyrwyddo’r Rhwydwaith ar draws Cymru, ac mae’r cynnydd yn yr aelodau wedi dangos bod hyn wedi bod yn llwyddiant. Gofynnodd cwestiwn arall i’r cynadleddwyr raddio o un i bump, (lle nad yw un yn ddefnyddiol o gwbl a phump yn ddefnyddiol iawn) pa mor ddefnyddiol oedd y seminar yn eich barn chi.
60
Pa mor ddefnyddiol oedd y digwyddiad yn eich barn chi?
50
40
30
20
10
0 Dim Ateb
1 – Ddim yn ddefnyddiol o gwbl
2
3
4
5 - Defnyddiol Iawn
Fel y gwelir, rhoddodd y rhan fwyaf o bobl 4 neu 5 (73) ar gyfer y cwestiwn hwn gyda 6 pherson yn rhoi 3 fel ateb.
Ffurflen Werthuso: Canlyniadau Ansoddol Chwiliodd cwestiynau pellach ar y ffurflen werthuso am ymateb ansoddol a chânt eu nodi isod. Mae detholiad o sylwadau o ffurflenni gwerthuso unigol wedi cael eu cynnwys o dan bob pennawd. Beth oedd y prif beth wnaeth eich ysgogi i fynychu’r digwyddiad hwn? Y prif reswm a roddwyd o dan y pennawd hwn oedd rhwydweithio a chysylltu â phobl yn sector y celfyddydau. Roedd un sylw yn pwysleisio’r ffaith nad oedd y digwyddiadau yn denu pobl o’r sector iechyd sydd yn agwedd bwysig er mwyn i fwy o brosiectau celf gysylltu â gwasanaethau iechyd. “Cyswllt â’r Celfyddydau. Mae partneriaeth gydag Iechyd yn allweddol i ni. Diolch o galon am sefydlu a chynnal digwyddiad mor ysbrydoledig!” “Rhwydweithio a chysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill yn ymwneud ag Iechyd, y Celfyddydau a llesiant” “Fel rhan o CCBC mae gennym gylch gorchwyl i fodloni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan ddefnyddio’r celfyddydau creadigol. Eisiau clywed yr hyn y mae sefydliadau eraill yn ei wneud a hefyd cael cyfleoedd rhwydweithio” “Cysylltu â sector ehangach y Celfyddydau ac Iechyd” “Mae’n bwysig bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn dod i’r digwyddiadau hyn, neu mae’n ddigwyddiad arall lle mae artistiaid yn siarad â’i gilydd am y gwaith gwych y maent yn ei wneud” A oedd unrhyw beth o ddiddordeb penodol? Soniwyd am gyflwyniadau Cyngor Celfyddydau Cymru a Cherddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal sawl gwaith o dan y pennawd hwn yn yr un modd â’r ymchwil a gyflwynwyd gan Ofal Canser Tenovus. Nodwyd y wybodaeth a ddarperir gan Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru sawl gwaith hefyd.
“Roedd popeth yn ysbrydoli. Roedd yr ymchwil o’r dystiolaeth o’r ffordd y mae’r celfyddydau yn gwella iechyd yn ddiddorol iawn, er fy mod yn gwybod bod hynny’n wir!” “Hygrededd a dyfnder yr ymchwil i gôr Tenovus” “Popeth – amrywiaeth hyfryd o lefarwyr” “Canfod am Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, offer ac adnoddau ar-lein. Prosiect Poen Ysgrifennu, Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal” “Pwerus iawn, yn arbennig rôl canu mewn gorbryder ac iselder” “Effeithiau cerddoriaeth ar ddioddefwyr dementia yn ysgogi symudiad a’r cof. Effaith cerddoriaeth fyw ar iechyd meddwl mewn ysbytai” “Rhaglen gytbwys dda” “Rhoddodd pob cyflwyniad bron enghreifftiau o’r ffordd y gellid defnyddio’r celfyddydau i wella llesiant” Sut ydych chi’n bwriadu defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn y digwyddiad hwn? Soniodd sawl person am gofrestru fel aelod o’r Rhwydwaith a chyfrannu at y wefan a’r e-fwletinau. Roedd y cynadleddwyr hefyd yn awyddus i rannu’r hyn yr oeddent wedi ei ddysgu gyda chydweithwyr eraill a mynd ar drywydd y cysylltiadau a wnaed yn y digwyddiadau. “Potensial i gryfhau ein cysylltiadau (i) gyda PHW a (ii) mwy o bartneriaid rhanbarthol trwy’r sioe deithiol” “Llywio gwaith yn y dyfodol a rhannu’r hyn a ddysgwyd gyda chydweithwyr” “Rwy’n gobeithio cysylltu â phrosiectau lleol a defnyddio bwletin PHW i hyrwyddo cynllun ‘Atgof Byw’ y Llyfrgell Genedlaethol” “Ystyried prosiectau a thrafodaethau ar gyfer cynllunio i’r dyfodol” “Rhwydweithio a cheisio cyflwyno rhai o’r prosiectau i’r ardal” “Rhannu gyda chydweithwyr/mynd ar drywydd y cysylltiadau a wnaed. Ymuno â’r Rhwydwaith” Pa destunau seminar /cynhadledd yr hoffech eu gweld yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol? Codwyd y mater o bresenoldeb o’r sector iechyd, yn arbennig yn y digwyddiadau yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru eto o dan y pennawd hwn. Yn dibynnu ar y maes testun, gallai fod angen mwy o dargedi ar ddigwyddiadau yn y dyfodol o ran cynrychiolaeth o’r sector iechyd. Amlygwyd ymchwil a thystiolaeth sawl gwaith hefyd. “Y Sector iechyd yn trafod yr hyn yr hoffent gennym ni. Ymddengys, oherwydd eu diffyg presenoldeb, nad ydynt yn ystyried perthnasedd y celfyddydau i iechyd a llesiant – neu oni fyddent yn mynychu?” “Tystiolaeth glinigol ar gyfer ymyriadau’r Celfyddydau mewn Iechyd - Beth sydd ar gael? Sut gallwn ni ddatblygu partneriaethau i fesur prosiectau” “Unrhyw beth sydd yn helpu i wella ffordd o fyw, iechyd a llesiant” “Rhywbeth tebyg ond gyda ffocws ar bobl ifanc” “Ymchwil a thystiolaeth” “Y celfyddydau ar bresgripsiwn” “Mwy o’r un peth, mwy o ganlyniadau ymchwil o ran pam mae’r hyn yr ydym yn ei wneud yn bwysig” Sylwadau Eraill Roedd yn galonogol gweld bod y digwyddiadau yng Nghanolbarth Cymru wedi cael eu croesawu gan sawl person, yn arbennig gan fod niferoedd y blynyddoedd blaenorol wedi bod yn eithaf isel. Cafwyd nifer o geisiadau am restr cynadleddwyr sydd yn rhywbeth i’w ystyried ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Codwyd cynaliadwyedd sawl gwaith o ran arlwyo a defnyddio cwpanau a phlatiau papur. Fodd bynnag daeth y sylwadau hyn oddi wrth gynadleddwyr mewn lleoliadau lle’r oedd yr arlwyo wedi cael ei ddarparu’n allanol. Lleoliadau cymunedol a theatrau yn bennaf oedd y lleoliadau a ddefnyddiwyd ar gyfer y digwyddiadau. Nid oedd gan ddau o’r pump arlwyo mewnol a dyma pam y defnyddiwyd arlwyo allanol ar gyfer y lleoliadau hyn. “Diwrnod diddorol, llawn gwybodaeth yn dysgu am sefydliadau ac ymagweddau pobl eraill” “Mwy o sioeau teithiol o’r math yma yng Nghanolbarth Cymru os gwelwch yn dda!!” “Digwyddiad gwych!” “Byddai’n wych cael mwy o amser i siarad – datblygu syniadau” “Diolch am eich holl waith caled yn trefnu diwrnod rhagorol!”
“Diwrnod gwirioneddol ragorol ac ysbrydoledig. Diolch!” “Erioed wedi sylweddoli grym a defnyddioldeb y celfyddydau yn fy ngwaith fy hun” “Diolch am ddiwrnod gwych, llawn gwybodaeth ac o rannu” “Digwyddiad rhagorol, wedi ei drefnu’n dda ac yn amrywiol iawn. Da iawn” “Digwyddiad wedi ei gynnal yn dda wnaeth ddysgu llawer i mi am yr hyn y mae pobl yn ei wneud’” Un Gair Gofynnwyd i’r cyfranogwyr roi un gair i grynhoi eu teimladau am y digwyddiad / cwrs. Mae’r geiriau hyn wedi cael eu rhoi mewn Wordle (www.wordle.net)(Saesneg yn unig). Mae Wordle yn creu diagramau geiriau sydd yn rhoi mwy o amlygrwydd i eiriau sy’n ymddangos yn amlach yn y testun. O hyn, gallwch weld yn glir mai ‘informative’ ac ‘inspiring’ a nodwyd amlaf.
Mentimeter Mae Mentimeter yn offeryn cyflwyno ar y we sydd yn hawdd ei ddefnyddio. Mae’n llwyfan diogel y gellir ei ddefnyddio gyda chynulleidfaoedd o feintiau gwahanol i wneud cyflwyniadau’n fwy rhyngweithiol. Achubwyd ar y cyfle i ddefnyddio Mentimeter i ryngweithio gyda chynadleddwyr i gael eu safbwyntiau ar y sefyllfa bresennol. Cymerodd cyfanswm o 71 o gynadleddwyr ran yn yr holl ddigwyddiadau. Mae rhai o’r canlyniadau isod (Saesneg yn unig):
Mwy o wybodaeth Mae mwy o wybodaeth a fideo byr o’r diwrnod ar gael ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru neu trwy gysylltu â publichealth.network@wales.nhs.uk