Public Health Network Cymru Food Safety E-bulletin (welsh)

Page 1

Mai 2017


Croeso i’r e-fwletin Croeso i rifyn mis Mai o e-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Y testun dan sylw’r mis yma yw Diogelwch Bwyd. Mae’r Rhwydwaith wedi cynnal dau ddigwyddiad yn ddiweddar. Roedd y cyntaf, a gynhaliwyd ar 15 Mawrth yng Nghaerdydd, yn gynhadledd am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ac roedd y diweddaraf yn seminar oedd yn canolbwyntio ar Newid Mewn Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor ar 4 Mai. Roedd presenoldeb da yn y ddau ddigwyddiad a chawsant adborth cadarnhaol gan y rheiny wnaeth fynychu. Mae cyflwyniadau a fideo byr o’r ddau ddiwrnod ar gael yn yr adran ‘digwyddiadau blaenorol’ o’r wefan. Ar adeg ysgrifennu’r e-fwletin y mis yma, roeddem yng nghanol ein sioe deithiol flynyddol o’r enw ‘Ymarfer Addawol’. Rydym yn ymweld â phedwar lleoliad ledled Cymru (Conwy, Rhaeadr, Caerfyrddin a Chaerdydd) ac mae’r digwyddiadau wedi bod yn gyfle i ni ddiweddaru datblygiadau presennol a newydd yn y rhwydwaith. Mae rhan fawr o’r diwrnod yn canolbwyntio ar roi cyfle i brosiectau lleol arddangos eu gwaith naill ai mewn cyflwyniad a/neu stondin. Rhoddodd hyn y cyfle i ni hyrwyddo’r Cyfeiriadur Ymarfer a Rennir ac rydym yn falch o ddweud ein bod wedi cael nifer o gyflwyniadau newydd yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Ar gyfer ein hadran ‘Dan Sylw’ y mis yma, rydym yn sgwrsio â Maureen Hillier a enwyd yn 1000fed aelod y Rhwydwaith yn ddiweddar. Roeddem yn meddwl y byddai’n gyfle da i ofyn rhai cwestiynau i Maureen am ei rôl a pham y daeth yn aelod o’r Rhwydwaith. Os oes gennych unrhyw newyddion neu eitemau yr hoffech i ni eu cynnwys yn rhifyn mis nesaf, anfonwch e-bost publichealth.network@wales.nhs.uk


@PHNetworkcymru

/publichealthnetworkcymru

www.publichealthnetwork.cymru



Blas ar Fwyd

Diogelwch Bwyd Dan Sylw Mae diogelwch bwyd nid yn unig yn golygu atal salwch gastro-berfeddol a achosir gan facteria a feirysau, ond hefyd osgoi niwed yn sgil halogi cemegol a bwyta difwynwyr ffisegol fel gwydr neu fetel. Gall gwenwyn bwyd achosi salwch difrifol, a gall rhai mathau arwain at anabledd parhaol neu farwolaeth hyd yn oed. (CIEH, 2017) Mae diogelwch bwyd yn bwysig nid yn unig i fusnesau bwyd ond yn y cartref, yn arbennig wrth i ni nesáu at ‘dymor barbeciw’. Nod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yw cael eu hadnabod fel ffynhonnell cymorth a gwybodaeth fwyaf dibynadwy Cymru am fwyd. Mae maes eu dylanwad ‘o’r fferm i’r fforc’ - mewn geiriau eraill, o’r man lle caiff y bwyd ei dyfu neu ei gynhyrchu nes ei fod yn cyrraedd eich plât. (ASB Cymru, 2017)


Diogelwch Bwyd yn y Cartref Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn darparu cyfoeth o wybodaeth ar gyfer y cyhoedd yn ogystal â busnesau am Ddiogelwch Bwyd. Mae’r wefan yn rhoi awgrymiadau ynghylch sut i arbed arian ac amser a lleihau gwastraff trwy fwyta, oeri neu rewi bwyd erbyn y dyddiad defnyddio: 1. Cynllunio eich prydau bwyd ymlaen llaw 2. Peidio ymddiried yn eich trwyn! 3. Coginio mewn sypiau a rhewi eitemau lluosog 4. Rhewi bwyd hyd at y dyddiad defnyddio 5. Gorchuddio 6. Rhewi cigoedd amrwd ac wedi eu coginio 7. Bwyta bwyd wedi ei rewi o fewn 3 i 6 mis 8. Dadmer dros nos yn yr oergell Mae mwy o fanylion am yr ‘awgrymiadau cyflym’ yn ogystal â’r Dyddiadau Defnyddio ac Ar ei Orau Cyn ar gael ar Wefan yr ASB.

Pecyn Cymorth Bwyta Yr Haf Yn Ddiogel Dros yr haf, bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyfathrebu â’r cyhoedd ynghylch y thema Bwyta’n Ddiogel dros yr Haf. Bydd y gweithgarwch hwn yn dechrau gydag Wythnos Diogelwch Bwyd ar ddydd Llun 19 Mehefin 2017. Byddwn yn hyrwyddo arferion hylendid bwyd da yn y cartref, gan ganolbwyntio ar oeri a choginio. Thema Wythnos Diogelwch Bwyd eleni fydd coginio bwyd barbeciw yn ddiogel, gan gynnwys coginio byrgyrs yn drylwyr.

Wythnos Hylendid Bwyd (10 Mehefin – 16 Mehefin) Mae’r Wythnos Diogelwch Bwyd yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir i hyrwyddo pwysigrwydd hylendid bwyd da yn y cartref. Mae nifer o adnoddau ar y Wefan Asiantaeth Safonau Bwyd y gellir eu defnyddio yn nigwyddiadau lleol yr Wythnos Diogelwch Bwyd. Mae’r deunyddiau yn cynnwys taflenni, posteri, llyfryn ysgol, balwnau a sticeri. Mae adnoddau ar gael trwy gydol y flwyddyn, nid yn unig ar gyfer yr Wythnos Diogelwch Bwyd yn unig, felly os ydych yn bwriadu trefnu digwyddiad i hyrwyddo hylendid bwyd da, gallwch archebu posteri, taflenni a deunyddiau eraill o hyd. Mae adnoddau hefyd ar gael ar Wefan Twinkl sydd yn addas i’w defnyddio mewn ysgolion.


Cynllun Graddio Hylendid Bwyd Mae’r raddfa hylendid bwyd neu’r canlyniad archwilio a roddir i fusnes yn adlewyrchu’r safonau hylendid bwyd ar ddyddiad yr archwiliad neu’r ymweliad gan yr awdurdod lleol. Nid yw’r radd hylendid bwyd yn ganllaw i ansawdd y bwyd. Caiff y cynllun ei redeg gan awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac mae’n berthnasol i fwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai, archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill. Mae gwybodaeth am y Cynllun Graddio Hylendid Bwyd ar gael ar wefan ASB lle gallwch hefyd chwilio yn ôl enw busnes neu o fewn ardal Awdurdod Lleol.


Diogelwch Bwyd a Deiet Cynaliadwy Gan Pamela Mason: Maethegydd Cofrestredig Iechyd y Cyhoedd Sut gellir bwydo pobl yn gynaliadwy ac yn ddiogel? I weithwyr iechyd y cyhoedd proffesiynol, y peth cyntaf allai ddod i’r meddwl am fwyta’n gynaliadwy yw deiet ag ôl troed carbon isel a sut y gellir cyflawni hynny ynghyd â phwysigrwydd bwyta am iechyd. Mae’r dystiolaeth o effaith deiet ar iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd wedi cynyddu dros y degawdau diwethaf. Yn ôl Arolwg Iechyd Cymru 2015, mae bron 60 y cant o oedolion naill ai’n ordew neu dros bwysau ac mae gan Gymru’r cyfraddau uchaf o ddiabetes math 2 yn y DU, gyda 7.1% o bobl 17 oed ac yn hŷn yn byw gyda’r cyflwr. Mae effeithiau newid hinsawdd, yn arbennig y perygl uwch o lifogydd, yn cael mwy o effaith ar gynhyrchiant bwyd, ac mae angen i fwyd a ffermio chwarae rôl ganolog yn uchelgais Cymru i leihau allyriadau carbon o 85% erbyn 2050. Y newyddion da yw y gallai bwyta’n fwy cynaliadwy gyfrannu at fynd i’r afael â’r materion hyn. Mewn llyfr newydd ar Ddeiet Cynaliadwy rwyf wedi ei ysgrifennu gyda’r Athro Tim Lang (athro polisi bwyd, Prifysgol Dinas Llundain) rydym yn archwilio’r achos dros ddeiet cynaliadwy gan ddefnyddio ymagwedd o feini prawf lluosog. Mae’r ymagwedd hon yn defnyddio diffiniad y Sefydliad Bwyd ac Amaeth o ddeiet cynaliadwy fel “y deietau hynny ag effaith isel ar yr amgylchedd, sy’n cyfrannu at ddiogelwch bwyd a maeth ac at fywyd iach ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae deiet cynaliadwy yn amddiffyn ac yn parchu bioamrywiaeth ac ecosystemau, maent yn dderbyniol yn ddiwylliannol, yn hygyrch, yn deg yn economaidd ac yn fforddiadwy; yn ddigonol yn faethegol, yn ddiogel ac yn iach, tra’n cynyddu adnoddau naturiol a dynol.” Mae’r diffiniad hwn a’r gwaith a wnaed gan yr Athro Tim Lang tra’i fod yn aelod o Gomisiwn Datblygu Cynaliadwy llywodraeth y DU yn atal deiet cynaliadwy rhag cael ei ystyried trwy lens gul. Eir i’r afael â phob mater - maeth yn gymaint â diogelwch bwyd, defnydd o dir yn gymaint â mynediad i ddeiet iach i bawb, bioamrywiaeth yn gymaint â gwastraff bwyd, lles anifeiliaid yn gymaint ag enillion teg i’r rheiny sy’n gweithio yn y system fwyd. Caiff system fwyd dda ei hystyried fel un sydd yn creu’r amodau i fodloni’r holl nodau hyn ac yn un nad yw’n blaenoriaethu enillion tymor byr dros golledion hirdymor. Mae diogelwch bwyd yn fater allweddol i ddeiet cynaliadwy ac mae’n cwmpasu llawer o faterion o’r fferm i’r plât, yn cynnwys halogi microbaidd a chemegol a hylendid bwyd. Mae gan ddefnyddwyr, gwneuthurwyr polisïau a diwydiant i gyd gyfrifoldeb dros ddiogelwch bwyd. Yng nghyd-destun diogelwch bwyd, mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn dod yn fater cynyddol i iechyd dynol am ei fod yn bygwth triniaeth effeithiol ystod gynyddol o heintiau. Mae’n broblem fyd-eang, y rhagwelir y bydd yn achosi 10 miliwn o farwolaethau yn flynyddol erbyn 2050. Mae’r rôl y mae bwyd yn ei chwarae yn y broblem o ymwrthedd gwrthficrobaidd yn peri pryder am fod bwyd yn gallu cario genynnau ag ymwrthedd gwrthficrobaidd pan gânt eu lledaenu i facteria arall yn y perfedd dynol. Gall ystod eang o arferion fel hwsmonaeth anifeiliaid, defnydd amhriodol o wrthfiotigau mewn anifeiliaid (yn cynnwys anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd) a bodau dynol, ymdrin â bwyd a’r ffordd yr ydym yn dyfrio ein cnydau effeithio ar ledaenu ymwrthedd gwrthficrobaidd i’n bwyd ac i ni yn y pen draw. Mae Deiet Cynaliadwy yn rhan allweddol o’r sgwrs am ymwrthedd gwrthficrobaidd a diogelwch bwyd, gan fod deiet o’r fath yn canolbwyntio ar lai o gig ond cig o ansawdd gwell, er enghraifft. Mae gan lai o gig ond cig o ansawdd gwell sydd yn deillio o fwyd a systemau ffermio cynaliadwy gyda phwyslais ar laswellt yn hytrach na grawn ar gyfer bwydo gwartheg a defaid y gallu i wella iechyd y cyhoedd, rheoli’r amgylchedd a lles anifeiliaid gyda llai o ddefnydd o wrthfiotigau a allai gyfrannu at leihau ymwrthedd gwrthficrobaidd.


Mae deiet cynaliadwy yn un sy’n seiliedig ar rawn cyflawn, codlys, llysiau a ffrwythau. Dylid bwyta Cig (os ydych yn ei hoffi), cynnyrch llaeth a physgod o ffynonellau ardystiedig, yn gymedrol gan fwyta ychydig iawn o fwydydd uchel mewn braster, siwgr a halen ac yn isel mewn microfaethynnau (ee melysion, creision, diodydd melys) Yn ein llyfr, mae’r Athro Lang a minnau wedi dadlau dros yr angen i osod Canllawiau Deietegol Cynaliadwy nid yn unig i helpu defnyddwyr i ddeall yr hyn a olygir gan ddeiet cynaliadwy ond i roi neges glir i’r system fwyd gyfan. Mae Public Health England wedi cymryd cam cyntaf pwysig iawn yn cynnwys negeseuon cynaliadwyedd wrth ddiweddaru’r Canllaw Bwyta’n Dda, ond mae mwy o waith i’w wneud o hyd i sefydlu hyn yn wirioneddol o fewn canllawiau deietegol, a chael effaith wirioneddol ar y bwyd sy’n cael ei fwyta. Gallai Cymru ystyried sefydlu canllawiau deietegol cynaliadwy gyda negeseuon mwy amlwg. Byddai hyn yn gam pwysig i newid patrymau i’r rheiny sydd yn fwy cynaliadwy. Mae hefyd yn bwysig bod canllawiau deietegol cynaliadwy yn cyd-fynd yn dda gyda nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn cynnwys Cymru iachach, Cymru gadarn, Cymru fwy cyfartal a Chymru sy’n fwy cyfrifol yn fyd-eang. Mason P, Lang T. Sustainable Diets. How Ecological Nutrition Can Transform Consumption and the Food System. Routledge. Mawrth 31, 2017.


Coginio gyda SGILIAU MAETH AM OES Gan Laura Low: Arweinydd Deieteg Dechrau’n Deg Caerdydd

Mae SGILIAU MAETH AM OES™ yn rhaglen o hyfforddiant sgiliau maeth y mae ei ansawdd wedi ei sicrhau a mentrau wedi eu datblygu a’u cydlynu gan ddeietegwyr sy’n gweithio yn y GIG yng Nghymru. Nod y rhaglen yw cefnogi ystod eang o weithwyr cymunedol, yn cynnwys y rheiny o sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol a sefydliadau’r trydydd sector er mwyn hybu bwyta’n iach ac ymgorffori sgiliau bwyd a maeth i’w gwaith. Mae Coginio yn gwrs sgiliau coginio 8 wythnos wedi ei achredu gan Agored Cymru ar gyfer aelodau o’r gymuned sy’n cael ei gyflwyno fel rhan o SGILIAU MAETH AM OES™. Yn Dechrau’n Deg Caerdydd, mae Gweithiwr Cymorth Deieteg a Nyrsys Meithrin Cymunedol (CNN) yn cyflwyno cyrsiau Coginio i deuluoedd â phlant ifanc. Mae CNN Dechrau’n Deg wedi gwneud hyfforddiant sgiliau bwyd a maeth lefel 2 Agored Cymru a gweithdy hwylusydd Coginio ychwanegol. Mae’r tîm yma o hyfforddwyr yn cael cymorth ac addysg deieteg ac adnoddau dysgu i sicrhau dull cyson o gyflwyno ac asesu.


Mae gan bob tiwtor Ddyfarniad lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd ac Arlwyo ac mae angen iddynt ddilyn system wedi ei dogfennu ar gyfer ymdrin â bwyd yn ddiogel. Mae negeseuon diogelwch bwyd yn rhan annatod o’r sesiynau coginio sy’n cael eu cyfleu trwy dasgau a gweithgareddau ymarferol. Yn ystod y cwrs, mae ystod o brydau blasus yn cael eu paratoi gan ddefnyddio cynhwysion tymhorol a chost-effeithiol yn cynnwys prydau ysgafn, prif brydau a phwdinau iachach. I gael yr achrediad, mae’n rhaid paratoi pob pryd yn unol â’r canllawiau diogelwch bwyd. Er mwyn bodloni’r meini prawf asesu ar gyfer yr uned, mae’r rhieni’n cael eu harsylwi: Yn dangos hylendid personol da e.e. golchi dwylo’n effeithiol, defnyddio offer gwahanol ar gyfer bwydydd amrwd a bwydydd sydd yn barod i’w bwyta, storio bwyd yn ddiogel, glanhau’r orsaf fwyd, dilyn amserau coginio a argymhellir a gwneud gwiriadau gweledol er mwyn sicrhau bod bwyd wedi ei goginio’n drwyadl. “Dysgais ryseitiau newydd a sut i goginio’n ddiogel yn y gegin gan ddefnyddio’r ffordd ‘pont’ a ‘chrafanc’ o dorri. Rwyf wedi dod yn well yn defnyddio’r amser coginio cywir!” cyfranogwr, Cwrs Coginio Pafiliwn Butetown, 2016. Wrth gwblhau Coginio, caiff teuluoedd eu cyfeirio at gyrsiau pellach yn cynnwys hyfforddiant diogelwch bwyd sydd ar gael mewn Hybiau cymunedol lleol trwy’r Gwasanaeth i Waith. Am fwy o wybodaeth am SGILIAU MAETH AM OESTM cysylltwch â Lisa Williams yn Lisa.Willams16@wales.nhs.uk

Gall dwylo glân helpu i frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthfiotig Ar 5 Mai bob blwyddyn, mae WHO yn annog gweithwyr iechyd proffesiynol yn fyd-eang i gofio bod hylendid dwylo ac atal a rheoli heintiau yn fwy cyffredinol yn ffyrdd pwysig o frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthfiotig. Nid yw tua 70% o weithwyr gofal iechyd yn fyd-eang yn gweithredu hylendid dwylo fel mater o drefn, ac mae cyn lleied â 50% o dimau llawfeddygol yn cydymffurfio ag arfer gorau hylendid dwylo yn ystod arhosiad claf llawfeddygol yn yr ysbyty. Gall y canlyniadau arwain at heintiau ag ymwrthedd gwrthfiotig a all achosi salwch difrifol a marwolaeth. Ond y newyddion da yw, gellir eu hosgoi! Cyhoeddi Adroddiad yr Arolwg Bwyd a Chi diweddaraf Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canfyddiadau Cylch 4 Arolwg ‘Bwyd a Chi’, sy’n cynnwys data o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Defnyddir arolwg Bwyd a Chi i gasglu gwybodaeth am ymddygiadau, agweddau a gwybodaeth y cyhoedd mewn perthynas â materion bwyd. Mae’n darparu data, a adroddir gan y cyhoedd, ar arferion prynu, storio, paratoi, bwyta a ffactorau eraill a all effeithio ar y pethau hyn.


Cael Ei Holi Yn Dad Sylw fis yma mae gennym Maureen Hillier a ddaeth yn 1000fed aelod o Rwydwaith Iechyd Cyhoedus Cymru yn ddiweddar. Roeddem yn credu y byddai’n syniad da gofyn rhai cwestiynau i Maureen am ei swyddi a’i diddordeb yn y Rhwydwaith.

Beth yw eich swydd a beth mae’n ei gynnwys?

Rwy’n gweithio fel Podiatrydd gyda’r tîm Risg Uchel. Yn bennaf, rwy’n ymweld â chleifion sydd yn gaeth i’w cartrefi, yn cynnwys cartrefi Nyrsio. Mae hyn yn cynnwys addysg i gleifion sydd mewn perygl o drychiadau yn sgil clefydau cronig sy’n effeithio ar gylchrediad y gwaed a theimlad. Cychwynnir a dilynir cynllun triniaeth ar gyfer gofal ac ailrwymo clwyfau sy’n cael ei holrhain gan bodiatryddion risg uchel a nyrsys ardal eraill.

Pam wnaethoch chi ymuno fel aelod o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru?

Ymunais â PHNC er mwyn deall pa brosiectau sydd yn rhedeg ar gyfer gwelliannau i ofal iechyd, hefyd i allu derbyn erthyglau ar gyfer datblygu ymarfer ymhellach. Mae gan ein cleifion anghenion cymhleth ac yn ystod ymgynghoriadau rydym yn cyfeirio i wasanaethau eraill. O ganlyniad, mae angen i mi wybod beth sydd ar gael a beth yw’r darlun mawr ar gyfer Gofal Holistaidd y claf. Mae PHNC yn rhoi tystiolaeth i mi ei defnyddio mewn ymgynghoriadau i hysbysu cleifion a theuluoedd/gofalwyr. Mae’n bwysig i mi bod ansawdd y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig fel clinigwyr yn gwella. Mae rhai o’r prosiectau a gychwynnwyd gan PHNC, fel ymyriadau byr ar gyfer rhoi’r gorau i smygu a MECC yn cael eu defnyddio’n ddyddiol ers i hyfforddiant gael ei roi fel gwelliant adrannol.

Pe byddech yn cael 3 dymuniad, beth fyddent?

• Bod cleifion yn deall eu bod yn gyfranogwyr pwysig yn eu gofal iechyd eu hunain. • Nad oes unrhyw friwiau pwysedd yn datblygu mewn ysbytai • Gofal iechyd a chymdeithasol cwbl gysylltiedig i alluogi cleifion i gael eu rhyddhau’n ddiogel ac yn gyflym.

Beth yw eich diddordebau personol? • Canu mewn côr cymunedol • Saethu targed • Fy wyrion hyfryd



Pyncia Llosg Mae rhan hwn i’r e-fwletin wedi’i neilltuo i newyddion gan aelodau’r rhwydwaith. Cewch gyflwyno newyddion ynglyn a gwaith sy’n cael ei wneud yn eich ardal chi, ysgifennwch erthygl ar ein cyfer, hyrwyddwch ddigwyddiad sydd i ddod neu broliwch am eich cyraeddiaddau! Os ydych chi’n dynuno cyflwyno erthygl ar gyfer yr adran Clecs anfonwch neges e-bost at publichealth.network@wales.nhs.uk Ni ddylai’r erthygl gynnwys mwy na 500 o eiriau ac rydym yn croesawu lluniau bob amser!!

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) yn ddigwyddiadau trawmatig sy’n effeithio plant wrth dyfu i fyny, fel dioddef camdriniaeth yn blant neu fyw ar aelwyd wedi ei heffeithio gan gam-drin domestig, camddefnyddio sylweddau neu salwch meddwl. Mae ffilm fer wedi ei hanimeiddio wedi cael ei datblygu i godi ymwybyddiaeth o ACE, eu potensial i niweidio iechyd ar draws cwrs bywyd, a’r rôl y gall asiantaethau gwahanol ei chwarae yn atal ACE a chefnogi’r rheiny sydd wedi eu heffeithio ganddynt www.aces.me.uk. Cynhyrchwyd y ffilm i Iechyd Cyhoeddus Cymru a Blackburn gydag Awdurdod Lleol Darwen. Nododd gwerthusiad o’r ffilm gyda 160 o unigolion fod 95% yn falch eu bod wedi gwylio’r ffilm ac roedd 96% yn credu y byddai’r ffilm o fudd i weithwyr proffesiynol sydd yn gweithio gyda’r rheiny sydd wedi eu heffeithio gan ACE. Mae mwy o wybodaeth y gellir ei llwytho i lawr, yn cynnwys cyfres o adroddiadau ar ACE a’u heffaith ar iechyd a lles yng Nghymru ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn www.publichealthwales.org/ACES a gellir gweld cyflwyniadau, adroddiadau cynadleddau a fideos o gynhadledd ddiweddar ACE Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn http://www.publichealthnetwork.cymru/en/get-involved/past-event/adverse-childhood-experiences/. Mae cyhoeddi a dosbarthu’r ffilm wedi ei hanimeiddio yn cael ei gefnogi gan Hyb Cymorth ACE. Sefydlwyd yr hyb i helpu sefydliadau a chymunedau ledled Cymru i ddeall mwy am ACE a’u heffeithiau yn ogystal â pha gamau y gallant eu cymryd i fod yn fwy gwybodus am ACE. Os hoffech wybod mwy neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â Hyb Cymorth ACE yn ACE@wales.nhs.uk


Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, yn cyhoeddi treial glinigol PrEP i Gymru Gyfan Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, wedi cyhoeddi astudiaeth Cymru Gyfan i ddarparu’r cyffur Truvada® i bob un a fyddai’n cael budd o’r driniaeth ataliol. Daw’r cyhoeddiad yn dilyn penderfyniad Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan ynglŷn â Truvada®. Bydd yr astudiaeth yn rhedeg am dair blynedd o leiaf a bydd yn dechrau yn yr haf.

Ymarfer a Rennir Shared Practice Prosiect y mis yw Codi Calon.

Nod y prosiect yw gwella iechyd corfforol pobl â phroblemau iechyd meddwl parhaus trwy raglen o hyfforddiant a chymorth i sefydliadau. Mae’n canolbwyntio ar ffordd o fyw iach, ond ei nod hefyd yw gwella iechyd mewn ffyrdd eraill (e.e. galluogi mynediad i ofal iechyd a gweithgareddau iach). Rydym yn gweithio gyda sefydliadau mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn y sector statudol a’r trydydd sector. Ein nod yw gwella sgiliau a gwybodaeth am staff a gwirfoddolwyr er mwyn iddynt allu gweithio gyda grwpiau neu unigolion i wella eu hiechyd. Rydym yn darparu hyfforddiant ar sgiliau ymyriadau byr a negeseuon allweddol am fyw’n iach a dilyniant er mwyn sefydlu’r sgiliau a ddysgwyd. Mae gwybodaeth briodol sy’n cael ei chreu gan y prosiect a grantiau bach yn cynorthwyo’r nod hwn. Lle mae rhwystrau yn cael eu nodi, mae Mind Your Heart yn gweithio ar lefel strategol i ddileu’r rhain a sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau iach yn cael eu darparu. Mae’r prosiect wedi gweithio’n agos dros y ddwy flynedd ddiwethaf gyda Thîm Lleol Iechyd y Cyhoedd i ddyfeisio hyfforddiant ymyriadau byr sydd yn cyd-fynd â model Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif.

Os hoffech ychwanegu eich prosiect eich hun i’r Cyfeiriadur Ymarfer a Rennir mae ffurflen ar-lein hawdd (sydd ond ar gael i aelodau) ac unwaith y caiff ei chymeradwyo gan un o’r cydlynwyr, bydd eich prosiect wedyn yn ymddangos ar y cyfeiriadur. Mae Pecyn Cymorth Hunanasesu hefyd y gellir ei argraffu neu ei lenwi ar-lein ac mae’n galluogi cydlynwyr i sicrhau ansawdd y datblygiad a darpariaeth prosiectau newydd a phresennol. Os oes angen cymorth arnoch yn cwblhau’r pecyn cymorth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag un o’r cydlynwyr yn publiche-


Crynodeb o’r Newyddion Croeso i’r Crynodeb o’r Newyddion Cliciwch ar benawdau’r eitemau newyddion i fynd at y stori newyddion Iawn ar Wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Iechyd y Geg Rhaglen Cynllun Gwên yn targedu plant dan bump oed Bydd Cynllun Gwên, rhaglen ataliaeth iechyd y geg a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phydredd dannedd ymysg plant pump oed, bellach yn targedu plant o dan bump oed.

Clefydau Anhrosglwyddadwy Cymudwyr sy’n beicio â chyfraddau llawer is o glefyd y galon a chanser Mae astudiaeth wedi canfod bod gan gymudwyr yn y DU sydd yn beicio i’r gwaith gyfraddau llawer is o ganser a chlefyd y galon, o’i gymharu â mathau eraill o gymudwyr.

Plant a Phobl Ifanc Datganiad Blynyddol y Rhaglen Mesur Plant Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau Rhaglen Mesur Plant Cymru 2015/16.


Iechyd Meddwl Grymoedd dros Newid Mae GRYMOEDD dros NEWID yn ymgyrch ar draws Cymru gyfan yn 2017 a fydd yn arwain at gyn-aelodau o’r lluoedd arfog a’r gwasanaethau brys yn ceisio cyrraedd a chysylltu gyda’u cyfoedion sydd wedi ymddeol ac yn profi problemau iechyd meddwl.

Gweithgaredd Corfforol Menywod ar Olwynion Mae Chwaraeon Caerdydd a Beicio Cymru wedi ymuno i lansio cymuned feicio newydd sbon i fenywod ym mhrifyddinas Cymru.

Cliciwch yma am mwy o ddigwyddiadau ar y wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Mehefin 06 06 07

Gwella Bywydau Pobl ag Analeddau Dysgu: Lleihau’r Bylchau mewn Iechyd, Cyflogaeth ac Addysg Llundain

Archwilio cydgynhyrchu / y model pwer a rennir - lefel uwch o ymgysylltu Caerfyrddin Uwchgynhadledd Straen yn y Gweithle Llundain

07

Plant yn eu harddegau a phrofedigaeth Buckinghamshire

C ar w


1 2 14 15 21 21 21 26 28 29

Datblygu Ymyriadau Iechyd y Cyhoedd Cymhleth Caerdydd Gwerthuso Ymyriadau Iechyd y Cyhoedd Cymhleth Caerdydd

Fforwm Gweithwyr Chwarae 2017 Aberhonddu

O Dlodi i Ffyniant Cynhadledd Genedlaethol ar Dlodi Plant Nantgarw

Pa mor ddiogel yw ein plant? Llundain

3edd Gynhadledd Genedlaethol Cymru ar Gamblo Eithafol Bae Caerdydd

Ymyriadau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc Caerdydd

Lleihau Smygu a Dibyniaeth ar Nicotin: Datblygu Ymagwedd Partneriaeth i Wella Iechyd y Cyhoedd Llundain Ataliaeth ac Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Plant 0-5 oed: Ystyried y Camau Nesaf i Wella Darpariaeth Iechyd y Cydoedd y Blynddoedd Cynnar Llundain

Cliciwch yma am mwy o ddigwyddiadau wefan Cyswllt Iechyd y Cyhoedd Cymru


Cysylltu a ni Publichealth.network@wales.nhs.uk Rhif 2 Capitol Quarter Llawr 5 Tyndall Stryd Caerdydd CF10 4BZ www.publichealthnetwork.cymru Os oes gennych unrhyw newyddion neu ddigwyddiadau i’w cyfrannu i’r rhifyn nesaf afonwch nhw at publichealth.network@wales.nhs.uk Dyddiad olaf ar gyfer eu cyflwyno yw’r trydydd dydd Gwener o bob mis.


Rhifyn nesaf: Gordewdra yn ystod Plentyndod


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.