Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau - Ebril 2018

Page 1

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Ebril 2018

Cymru – yn arwain y byd ar fuddsoddiad mewn iechyd a lles Mwy ar Dudalen 4


Croeso

Croeso i rifyn mis Hydref o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC. Bydd rhifyn y mis hwn yn darparu gwybodaeth am Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygiad Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Canolfan Gydweithredol WHO a gweithgaredd yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, yn ogystal â chyfleoedd. Dilynwch yr IHCC ar Twitter am ddiweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar wefan IHCC.

Cynnws Mewn Ffocws - Y Tu Hwnt i Gymru

4

Mewn Ffocws - Yng Nghymru

8

Cyfleoedd 13


Mae gan yr IHCC Wefan Newydd!

Mae ein e-fwletin yn gwneud lle ar gyfer yr adnodd newydd hwn, y lle gorau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ystod o destunau yn ymwneud â gwaith yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, fel:

Newyddion

Cyllid

Adnoddau

Digwyddiadau

Gweithio’n Rhyngwladol Os hoffech ganfod mwy am sefydliadau Cymru, y DU, Ewropeaidd neu ryngwladol sy’n gysylltiedig â gwaith rhyngwladol neu’n ei gynorthwyo, ewch i’r adran.

A hoffech chi hyrwyddo eich gwaith rhyngwladol? Ewch i Cymerwch Ran i ganfod mwy ynghylch sut i gyflwyno prosiect, digwyddiad neu eitem newyddion ar wefan IHCC.

Darllenwch ymlaen i ganfod beth sydd ‘Dan Sylw yng Nghymru a Thu Hwnt’


Mewn Ffocws Y Tu Hwnt i Gymru

Nursing Now! Mae nyrsys yn hollbwysig er mwyn gwella iechyd yng Nghymru ac o amgylch y byd, a hwy sy’n ysgogi’r gwaith o wella cydraddoldeb rhywiol a chryfhau economïau. Mae newidiadau mewn patrymau clefydau, gyda chynnydd yn nifer y clefydau anhrosglwyddadwy a salwch hirdymor, hefyd yn galw am ofal mwy cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn y dyfodol, sy’n golygu y bydd yn debygol y bydd gan nyrsys rôl amlycach yn y dyfodol. Ymgyrch ryngwladol tair blynedd yw Nursing Now sy’n cael ei chynnal mewn cydweithrediad â’r Cyngor Nyrsio Rhyngwladol a Sefydliad Iechyd y Byd. Y weledigaeth yw gwella iechyd ar draws y byd drwy godi proffil a statws nyrsys yn fyd-eang ac mae hyn golygu dylanwadu ar lunwyr polisïau a chefnogi nyrsys i arwain, dysgu a chreu mudiad mawr ar gyfer newid. Pum prif raglen yr ymgyrch yw: • Gofal Iechyd Cyffredinol – sicrhau gofal iechyd i bawb • Tystiolaeth o effaith – casglu tystiolaeth o gyfraniad y proffesiwn nyrsio • Arweinyddiaeth a datblygiad – cefnogi nyrsys fel arweinwyr polisi ac arfer • Nodau Datblygu Cynaliadwy – sicrhau iechyd, cydraddoldeb rhywiol a thwf economaidd • Rhannu arfer effeithiol – dosbarthu a gwella mynediad i gasgliadau o arfer effeithiol Bydd Nyrsio Nawr hefyd yn cynnal digwyddiadau wedi’u harwain gan gefnogwyr, astudiaethau achos, hyfforddiant, cyfleoedd cyllido a llawer mwy.


Gallwch rannu eich cynlluniau i hyrwyddo nyrsio yng Nghymru a thu hwnt, a byddant yn cael eu hychwanegu at fap gweithgarwch rhyngwladol yr ymgyrch.

I gael gwybodaeth bellach ac i ymrwymo eich cefnogaeth, ewch i wefan Nursing Now. Gallwch ledaenu’r neges ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd, gan wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio’r hashnod #NursingNow. Geiriau Allweddoll: rhyw, gwasanaethau iechyd, byd-eang / rhyngwladol, hyfforddiant a sgiliau

Diwrnod Iechyd y Byd 2018 Ar 7 Ebrill 2018, mae Diwrnod Iechyd y Byd yn dathlu ei 70 mlwyddiant. Y thema eleni yw “Iechyd i Bawb”, gan ganolbwyntio ar ofal iechyd cyffredinol. Nod Gofal Iechyd Cyffredinol yw sicrhau bod gan bobl fynediad at y gofal iechyd sydd ei angen arnynt, heb ddioddef caledi ariannol. Mae hyn yn hollbwysig oherwydd nid oes gan o leiaf hanner poblogaeth y byd fynediad i wasanaethau iechyd hanfodol ac mae bron i 100 miliwn o bobl yn byw mewn tlodi eithriadol oherwydd gwariant allan o boced ar ofal iechyd. Er mwyn cydnabod hyn, pennwyd Gofal Iechyd Cyffredinol yn un o dargedau Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Mae’r rhain wedi’u mabwysiadu gan bob gwlad, gyda’r nod o “drechu tlodi o bob math” erbyn 2030. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sefydliad Iechyd y Byd a’n helpu i ledaenu’r neges am #DiwrnodIechydyByd/#WorldHealthDay ac #IechydiBawb/#HealthForAll Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, gwasanaethau iechyd, tlodi, datblygu cynaliadwy, world health organization


Iechyd pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol ac Rhyngrywiol ar yr agenda ym Mrwsel Mynychodd Adam Jones, Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus - Polisi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cadeirydd Rhwydwaith Staff LGBT ‘Enfys’, y sefydliad, fynychu cynhadledd olaf EuroHealthNet ac ILGA-Europe prosiect peilot Health4LGBTI. Cafodd y prosiect ei lansio yn 2016 i gynyddu dealltwriaeth o’r dulliau gorau o leihau’r anghydraddoldeb iechyd y mae pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a rhyngrywiol (LGBTI) yn ei brofi, yn arbennig y rhai mewn sefyllfaoedd sy’n golygu eu bod yn agored i niwed. Roedd y gynhadledd, a gynhaliwyd dros ddau hanner diwrnod, yn dwyn ynghyd ganfyddiadau, trafodaethau a chanlyniadau’r prosiect, gan gynnwys datblygu cwrs hyfforddi ar gyfer gweithwyr iechyd ar sut i leihau anghydraddoldebau iechyd. Roedd hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrio ar y materion a nodi ffyrdd ymlaen ar lefel yr UE ac yn genedlaethol. Roedd y trafodaethau wedi’u strwythuro ar sail y themâu canlynol: • Rhoi prosiect peilot Health4LGBTI yn ei gyd-destun. Beth mae’r ymchwil ar lefel yr UE yn ei ddangos ynglŷn â’r anghydraddoldeb iechyd cyffredin y mae pobl LGBTI yn eu hwynebu? Beth yw’r heriau y mae pobl a gweithwyr iechyd proffesiynol LGBTI yn eu hwynebu? Pa gamau sydd eu hangen er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn? A oes unrhyw enghreifftiau o arfer da ar lefel genedlaethol • Ymgysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol a rhanddeiliaid er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd i bobl LGBTI yn Ewrop: Sut y datblygwyd y pecyn hyfforddiant a sut y gall helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i oresgyn rhwystrau? Beth yw’r gwersi a ddysgwyd o’r cynllun peilot? • Y camau nesaf ar gyfer newid polisi: Beth yw’r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i’r afael ag anghenion iechyd pobl LGBTI ac i gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol? Sut y gall llunwyr polisi helpu? A oes unrhyw fentrau a allai wasanaethu fel enghreifftiau? Mae dau gynnyrch State-of-the-Art Synthesis Report (SSR) ac adroddiad trosolwg ar ganlyniadau’r grwpiau ffocws,wedi’u rhyddhau, gyda phecyn hyfforddi gan weithwyr proffesiynol, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn y misoedd nesaf. I gael rhagor o wybodaeth am wefan Comisiwn Ewropeaidd y prosiect.

y

prosiect

Health4LGBTI,

ewch

i

Geiriau Allweddoll: lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD), byd-eang / rhyngwladol, ymchwil


British Journal of Nursing: ymgyrch ffliw Seland Newydd Mae Nicola Meredith wedi cyhoeddi papur yn y British Journal of Nursing ar ei phrofiadau a’i harsylwadau o’r ymgyrch ffliw yn Seland Newydd. Derbyniodd Nicola, sy’n Nyrs Arweiniol (ffliw) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru Gymrodoriaeth Teithio Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill i deithio i Seland Newydd a dysgu am y rhaglen frechu i staff gofal iechyd,oherwydd bod nifer y bobl a oedd yn cael y brechlyn ffliw yn sylweddol uwch nag yng Nghymru. Mae’r papur yn cofnodi profiadau ac argymhellion Nicola. Yn ystod y pedair wythnos a dreuliodd yn Seland Newydd yn 2016, cyfarfu Nicola â chlinigwyr, rheolwyr a chyfarwyddwyr nyrsio ac iechyd y cyhoedd. Gwelodd enghreifftiau o arfer arloesol ac arweinyddiaeth gadarn yn ogystal â pholisïau brechu dadleuol. I ddarllen y papur llawn, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Geiriau Allweddoll: imiwneiddio, byd-eang / rhyngwladol, datblygiad proffesiynol, gwaith


Mewn Ffocws Yng Nghymru

Mae’r adran hon yn amlygu enghreifftiau diweddar o weithgaredd Cymru y tu hwnt i’n ffiniau. Gallai hyn fod ar ffurf cydweithrediadau, digwyddiadau a gwaith arall yn ymwneud â gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru.

Cymru – yn arwain y byd ar fuddsoddi mewn iechyd a lles Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi dynodi Cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygiad Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Canolfan Gydweithredol Who ar ‘Fuddsoddi mewn Iechyd a Lles’. Mae’r dynodiad yn cydnabod Iechyd Cyhoeddus Cymru fel awdurdod rhyngwladol ar gefnogi buddsoddi mewn iechyd a lles pobl, cymell datblygiad cynaliadwy a hybu ffyniant i bawb. Y ganolfan hon yw Canolfan Gydweithredol gyntaf WHO yn y maes arbenigedd hwn yn y byd. Bydd y Ganolfan Gydweithredol newydd yn datblygu, yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth newydd am y ffordd orau o fuddsoddi mewn iechyd gwell, lleihau anghydraddoldeb a chreu cymunedau cryfach yng Nghymru, Ewrop ac yn fyd-eang. Fel rhan o’r datblygiad ar y cyd hwn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a WHO wedi cytuno ar raglen waith pedair blynedd. Bydd hyn yn hysbysu ac yn hybu polisïau mwy cynaliadwy, yn cefnogi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb ac ymyriadau ar sail tystiolaeth ac yn helpu i fynd i’r afael ag anghenion iechyd a lles cenedlaethau heddiw ac yn y dyfodol Dywedodd Vaughan Gething, AC. Ysgrifennydd Cabinet Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae hon yn garreg filltir ac yn gydnabyddiaeth enfawr i Gymru gyfan. Er ein bod yn wlad fach, rydym yn edrych tuag allan ac yn dangos cyfrifoldeb


Mae’n dangos yn glir ein hymrwymiad llwyr i Gymru iach a chynaliadwy drwy ein deddf sy’n unigryw yn rhyngwladol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. “Fel un o aelodau sylfaenol Rhwydwaith Rhanbarthau er Iechyd (WHO), rydym yn falch iawn o allu rhannu ein profiad a’n harbenigedd gyda gwledydd eraill a gweithio tuag at fyd mwy cyfartal, iach a chynaliadwy. “Rydym yn gobeithio y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’i Chanolfan Gydweithredol gyntaf gyda WHO yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu ein strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb. “Gyda’n gilydd gallwn ddangos sut mae buddsoddi yn iechyd y cyhoedd yn helpu i greu economi decach. Mae hyn hefyd yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn y dyfodol, lle bydd gan bobl eu hunain fwy o lais yn eu gofal iechyd eu hunain, a’n bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth o ansawsdd uchel ym mhob cymuned.” Bydd Canolfan Gydweithredol WHO ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Lles yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymuno â rhwydwaith o fwy na 700 o ganolfannau cydweithredol, sy’n cwmpasu pynciau iechyd amrywiol ac sydd wedi’u lleoli mewn 80 o wledydd o amgylch y byd. Bydd yn cynorthwyo Cymru i weithredu Agenda’r Cenhedloedd Unedig ar Ddatblygu Cynaliadwy 2030 a’i agenda genedlaethol cyfatebol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Disgwylir y bydd y ganolfan gydweithredol newydd yn cael ei lansio’n ffurfiol ym mis Mehefin. Dywedodd Dr Christoph Hamelmann, Pennaeth Swyddfa Ewropeaidd Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygiad WHO a Swyddog Cyfrifol WHO ar gyfer Canolfan Gydweithredol newydd WHO: “Mae’n bleser gennym groesawu cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygiad Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Canolfan Gydweithredol gyntaf WHO yn y maes hwn. “Mae arbenigedd a gwaith safonol ein cydweithwyr yng Nghymru wedi bod yn ased amhrisiadwy i WHO yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae ein gwaith cydweithredol diweddar ar gasglu gwybodaeth fyd-eang ar ‘Fuddsoddi mewn Iechyd a Lles’ yn enghraifft dda o’n cydweithio defnyddiol. “Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio, a chefnogi gwledydd ar draws y Rhanbarth Ewropeaidd a’r byd i ysgogi buddsoddi mewn iechyd, lles a chydraddoldeb a chyflawni economïau, cymdeithasau ac iechyd rhyngwladol cynaliadwy.” Sicrhawyd statws Canolfan Gydweithredol WHO o ganlyniad i bartneriaeth hirsefydlog rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a WHO, sydd wedi creu rôl arweiniol yn yr agenda iechyd byd-eang a datblygu cynaliadwy.


Dywedodd yr Athro Mark A Bellis, Cyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol newydd WHO yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Bydd gweithredu fel Canolfan Gydweithredol WHO yn ein galluogi i adeiladu ar y blynyddoedd o waith llwyddiannus yr ydym eisoes wedi’i wneud gyda Sefydliad Iechyd y Byd. “Mae nifer o wledydd y byd yn wynebu problemau tebyg o ran sicrhau y gall cenedlaethau olynol ddisgwyl byw bywydau iach, teg a ffyniannus. “Bydd gweithio gydag arbenigwyr rhyngwladol yn WHO, a thrwy eu rhwydweithiau rhyngwladol, yn ein helpu i ddeall pa bolisïau ac ymyriadau iechyd cyhoeddus fydd yn gweithio orau i bobl Cymru a’r rhai mewn gwledydd eraill o amgylch y byd. “Mae Cymru eisoes yn un o arweinwyr y byd mewn polisi iechyd y cyhoedd. Rydym yn gobeithio rhannu’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu gan eraill ynglŷn â sut i wneud Cymru’n lle hyd yn oed gwell i fyw, gweithio a magu teulu ynddo.” Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â’r rhwydwaith arbenigedd rhyngwladol hwn. Mae’r gyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r maes datblygu cynaliadwy a buddsoddi yn iechyd y cyhoedd yn y blynyddoedd diweddar, felly mae’n wych gweld bod y gwaith caled hwn yn derbyn cydnabyddiaeth. “Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chydweithwyr ac arbenigwyr ar draws y byd, er mwyn sicrhau’r buddiannau mwyaf o ddysgu ac arloesedd rhyngwladol i bobl Cymru, yn ogystal â gwella ein rôl a’n heffaith ar yr agenda iechyd fyd-eang.” Mae canolfannau cydweithredol WHO yn cael eu cydnabod fel canolfannau rhagoriaeth sy’n rhagori yn eu maes yn fyd-eang. Ychwanegodd Jan Williams, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae aelodau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymuno â mi i longyfarch Mark Bellis a’i dîm ar gyflawniad aruthrol. “Mae’n gydnabyddiaeth gwbl haeddiannol am eu gwaith arloesol ar draws yr agenda polisi iechyd cyhoeddus, ac mae’n lleoli Cymru fel canolbwynt y symudiad iechyd cyhoeddus byd-eang. “Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru berthynas hirsefydlog gyda’r WHO ac mae’r wobr hon yn ein helpu i adeiladu ar hynny, er budd gwella iechyd a lles pobl Cymru. “Mae aelodau ein Bwrdd yn edrych ymlaen at gael parhau i weithio’n agos gyda’u cydweithwyr yn WHO a gwneud y defnydd gorau o’r wobr hon i Gymru.”


CYSWLLT: Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau, cysylltwch â Victoria Lewis yn nhîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru 02920 348755 (24 awr) Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Gwybodaeth gyffredinol Canolfannau Cydweithredu WHO Iechyd Cyhoeddus Cymru WHO CC on Investment for Health and Well-being WHO – Cyhoeddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ‘Investment for Health and Well-being’ (2017) Adroddiad Cymru ‘Making a Difference: Investing in Sustainable Health and Well-being for the People of Wales’ (2016) United Nations 2030 Agenda on Sustainable Development Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Strategaeth Llywodraeth Cymru Ffyniant i Bawb Geiriau Allweddoll: tystiolaeth, byd-eang / rhyngwladol, cynllun arfer, world health organization, WHO european region


Saesneg Yn Unig


Cyfleoedd Am wybodaeth gyffredinol ar gyllid Ewropeaidd, darllenwch Gatalog Cyllid Ewropeaidd IHCC Rhan 1 ar Horizon 2020 a’r Drydedd Raglen Iechyd, a Rhan 2 ar Gyllid Rhanbarthol.

Cyllid Ail Gynnig Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Undeb Ewropeaidd Geiriau Allweddoll: datblygu cynaliadwy, lles,polisi,amgylchedd naturiol Ar agor: 15 Mawrth 2018 Dyddiad cau: 1 Mehefin 2018 I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Interreg Atlantic Area website.

Cynnig Agored am Grantiau Ymchwil Cyngor Economaidd ac Ymchwil Cymdeithasol Geiriau Allweddoll: tystiolaeth, cynllun arfer, datblygiad rhyngwladol,ymchwil Dyddiad cau: dim dyddiad cau, cais yn bosibl unrhyw amser I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor Economaidd ac Ymchwil Cymdeithasol.

Grantiau Rhwydwaith Coffa Jo Cox Rhwydwaith Coffa Jo Cox Geiriau Allweddoll: tystiolaeth, cynllun arfer, datblygiad rhyngwladol,ymchwil Dyddiad cau: 13 Mehefin 2018 I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan cymorth y DU.

Cynnig ar ynni adnewyddadwy Undeb Ewropeaidd Geiriau Allweddoll: tystiolaeth, cynllun arfer, ynni,ymchwil Dyddiad cau: 31 Gorffennaf 2018 I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Gogledd-orllewin Ewrop Interreg.


Cysylltu â Ni E-bost Iechyd.rhyngwladol@wales.nhs.uk Ffôn 02920 104 459 Swydd Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd c/o Iechyd Choeddus Cymru Chwarter Cyfalaf, Rhif 2 Stryd Tyndall Caerdydd CF10 4BZ Gwefan ihcc.publichealthnetwork.cymru/cy/ Twitter @IHCCWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.