Iechyd Yng Nghymru A thu Hwnt I'w Ffiniau - Ebril 2017 - Diwgiwyd

Page 1

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Ebril 2017

Diwrnod Iechyd y Byd 2017 Mwy ar dudalen 3


Croeso Croeso i rifyn mis Ebril o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC. Bydd rhifyn y mis hwn yn darparu gwybodaeth am Ddiwrnod Iechyd y Byd 2017, a gweithgareddau yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, yn ogystal â chyhoeddiadau a chyfleoedd newydd. Dilynwch yr IHCC ar Twitter am ddiweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar wefan IHCC.

Cynnws Mewn Ffocws - Y Tu Hwnt i Gymru

3

Mewn Ffocws - Yng Nghymru

5

Cyfleoedd 9 Cylchlythyrau a Sefydliadau Rhyngwladol

20


Mewn Ffocws Y Tu Hwnt i Gymru

Diwrnod Iechyd y Byd 2017 Dathlodd Sefydliad Iechyd y Byd ei ben-blwydd ar 7fed Ebrill 2017 gan drefnu ‘Diwrnod Iechyd y Byd’, gyda ffocws ar y thema Iselder (“Depression - Let’s Talk”). Mae anhwylderau iechyd meddwl yn her fawr o fewn Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, gan effeithio ar bobl o bob oedran a chefndir. Mae Diwrnod Iechyd y Byd yn creu llwyfan i drafod y pwnc yn agored a lleihau’r stigma sydd ynghlwm wrtho er mwyn datblygu dulliau o atal a thrin y salwch ac annog mwy o bobl i geisio a derbyn help. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Sefydliad Iechyd y Byd. Geiriau Allweddol: Sefydliad Iechyd y Byd, Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, byd-eang/rhyngwladol, iechyd meddwl, iselder, eirioli


Chweched Cynhadledd Weinidogol ar yr Amgylchedd ac Iechyd Bydd cynhadledd weinidogol Sefydliad Iechyd y Byd ar iechyd a’r amgylchedd yn Ostrava, Y Weriniaeth Tsiec, ar 13eg – 15fed Mehefin 2017 yn cynnig cyfle i lunio camau gweithredu,gweithgareddau, a pholisïau a dod ag amrywiaeth o randdeiliaid o wahanol sectorau ynghyd er mwyn gwella iechyd yn Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd. Bydd y gynhadledd yn amlinellu’r berthynas gymhleth ac amlochrog rhwng ffactorau amgylcheddol, biolegol, demograffig, economaidd, cymdeithasol a ffactorau eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd er mwyn creu amgyl cheddau cefnogol. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan EWROPEAIDD Sefydliad Iechyd y Byd. Geiriau Allweddol: Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, iechyd amgylcheddol

Rhwydwaith Dinasoedd Iach Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd yn mabwysiadu Datganiad Pécs Daeth arbenigwyr a chynrychiolwyr, gan gynnwys pobl bwysig ac arweinwyr gwleidyddol, ynghyd yng Nghynhadledd Flynyddol Rhwydwaith Dinasoedd Iach Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd a gynhaliwyd yn Pécs, Hwngari, ar 3ydd Mawrth 2017, gyda’r nod o ail-gadarnhau’r gwaith o greu amgylcheddau trefol iach, diogel, cryf a chynaliadwy. Er mwyn cydnabod rôl bwysig Dinasoedd Iach, llofnodwyd ‘Datganiad Pécs ar gyfer Dinasoedd Iach 2017’ gan bwysleisio cyfranogiad ac arweinyddiaeth y Rhwydwaith Dinasoedd Iach Ewrop. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan EWROPEAIDD Sefydliad Iechyd y Byd. Geiriau Allweddol: Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, Rhwydwaith Dinasoedd Iach, iechyd amgylcheddol


Mewn Ffocws Yng Nghymru

Mae’r adran hon yn amlygu enghreifftiau diweddar o weithgaredd Cymru y tu hwnt i’n ffiniau. Gallai hyn fod ar ffurf cydweithrediadau, digwyddiadau a gwaith arall yn ymwneud â gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru. Os ydych yn weithiwr iechyd proffesiynol yng Nghymru neu’n weithiwr proffesiynol arall sydd yn gysylltiedig â gwaith rhyngwladol ac yn dymuno rhannu eich gwaith, anfonwch e-bost at international.health@wales. nhs.uk

Rhwydweithiau a Phartneriaethau: Cymru’n Cydweithredu dros Iechyd Byd-eang, Cynhadledd Flynyddol i Ddathlu’r Siarter Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) gynhadledd o’r enw: “Rhwydweithiau a Phartneriaethau: Cymru’n Cydweithredu dros Iechyd Byd-eang” ar 27ain Mawrth 2017 yng Ngwesty’r Future Inn, Bae Caerdydd, Cymru. Cafodd y Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru (y Siarter) ei dathlu yn y gynhadledd flynyddol ac amlygwyd pwysigrwydd cryfhau, cydweithio ac ymgysylltu â phartneriaethau a chydweithrediadau cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer iechyd.


Cadeiriwyd sesiwn y bore gan Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a sesiwn y prynhawn gan Kate Eden, Cyfarwyddwr Anweithredol, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ymhlith y siaradwyr allweddol oedd Dr Christoph Hamelmann, Pennaeth, Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd dros Fuddsoddi mewn Iechyd a Datblygu, Rebecca Evans AC, Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru. Cyflwynwyd trafodaethau ac areithiau panel gan gynrychiolwyr o: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Rhaglen Gydweithredu Ranbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH), Ysgrifenyddiaeth y Gymanwlad, Rhwydwaith Menter Ewrop, EuroHealthNet, Flemish Health Agency, Global Health Exchange, Healthy City, Hub Cymru Affrica, Public Health England ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol (THET), Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ar gyfer Affrica, Llywodraeth Cymru. Mynychwyd y digwyddiad gan dros chwe deg o gynrychiolwyr a dilynodd 170 o bobl y gynhadledd yn fyw ar twitter. Bydd gwybodaeth bellach am y gynhadledd, gan gynnwys y rhaglen lawn, adroddiad y gynhadledd a fideos gyda chyfweliadau ac uchafbwyntiau’r dydd, yn dilyn yn fuan, ewch i Wefan IHCC. Geiriau Allweddol: byd-eang/rhyngwladol, Siarter IHCC, Cymru


MasterMind: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cydweithio ar gyfer iechyd meddwl gwell yn Ewrop Prosiect Ewropeaidd yw MasterMind sydd â’r nod o sicrhau bod triniaeth o ansawdd uchel ar gyfer iselder ar gael yn ehangach ar draws Ewrop trwy ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh). O’r 26 o bartneriaid, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yw’r unig gyfranogwr yng Nghymru. Profodd MasterMind y defnydd o TGC hi wella iechyd meddwl mwy na 5,000 o gleifion ar draws Ewrop gan gynnwys dros 500 yng Nghymru. Dangosodd y treial yng Nghymru fanteision mewn perthynas â mynediad i driniaeth mewn cymunedau gwledig, grymuso cleifion, a chanfod bwriad o hunanladdiad a throseddu yn gynnar, cefnogi cleifion a rheoli triniaeth. Canfu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys taw’r manteision allweddol sydd ynghlwm wrth weithio gyda phartneriaid Ewropeaidd gwahanol yw; rhannu dysgu, gallu cydweithio, rhannu syniadau arloesol a gwersi a ddysgwyd a’r gallu i gydweithio â phartneriaid rhyngwladol. I gael mwy o wybodaeth, darllenwch y stori lawn ar wefan IHCC neu wech i wefan prosiect MasterMind. Geiriau Allweddol: Cymru, Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, iechyd meddwl


Mae IHCC yn falch o gyhoeddi lansiad ei gwefan newydd. Amdanom Ni

Newyddion

Cyllid

Gweithlo’n Rhyngwladol

Adnoddau

Digwyddiadau

Gwasanaethau

Cymryd Rhan

Geiriau Allweddol: Iechyd Cyhoeddus Cymru, datblygiad rhyngwladol, byd-eang/rhyngwladol, Cymru


Cyfleoedd

Am wybodaeth gyffredinol am gyllid Ewropeaidd, darllenwch Gatalog Cyllid Ewropeaidd IHCC Rhan 1 ar Horizon 2020 a’r Trydydd Rhaglen Iechyd, a Rhan 2 ar Gyllid Rhanbarthol .

Cyllid Iechyd Cyhoeddus Byd-eang: Gwobrau Partneriaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) Geiriau Allweddol: iechyd y cyhoedd,byd-eang/rhyngwladol, ymchwil, DU Dyddiad cau: 8fed Mehefin 2017 Gallwch ganfod mwy ar wefan y Cyngor Ymchwil Feddygol.


Galw am Brosiectau, Trydedd Raglen Iechyd yr UE Y Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddol: clefydau anhrosglwyddadwy, addysg,gwasanaethau iechyd, iechyd y cyhoedd, Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd Dyddiad cau: 15fed Mehefin 2017 Gallwch ganfod mwy ar borth Cyfranogwyr y Comisiwn Ewropeaidd.

Galwadau Agored Cyllid yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol ar gyfer Technoleg Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID): Ffrydio Byw ar gyfer Technoleg Ffiniau Geiriau Allweddol: datblygu rhyngwladol, cyllid Ewch i wefan DFID i gael rhagor o wybodaeth.

ECHO Funds Adran Cymorth Dyngarol a Diogelwch Sifil y Comisiwn Ewropeaidd (ECHO) Geiriau Allweddol: grantiau, caffael cyhoeddus, cymorth dyngarol, gwirfoddoli dramor, trydydd sector, Ewrop Ewch i wefan ECHO i gael rhagor o wybodaeth.


Cyhoeddiadau Beth mae Ewrop Erioed wedi’i Wneud ar gyfer Iechyd? The Lancet Geiriau Allweddol: polisi, iechyd y cyhoedd, Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd Gallwch ganfod mwy ar wefan The Lancet.

Hybu, Cydweithio, Gweithredu Effeithiol ym maes Iechyd Cyfnodolyn Cynllunio Rhaglenni a Gwerthuso Geiriau Allweddol: hybu iechyd, cydweithio, dulliau o fesur, gwerthuso Gallwch ganfod mwy ar wefan ScienceDirect.

Horizon 2020 yng Nghymru Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) Geiriau Allweddol: cyllid, Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, ymchwil, Cymru Gallwch ganfod mwy ar wefan WEFO.

Elw ar Fuddsoddi mewn Ymyriadau Iechyd Cyhoeddus Cyfnodolyn Meddygol Prydain (BMJ), Cyfnodolyn Epidemioleg ac Iechyd Cymunedol Geiriau Allweddol: byd-eang/rhyngwladol, ymchwil Gallwch ganfod mwy ar wefan BMJ.


Offer ac Adnoddau Hanfodion Ymgyrch Diwrnod Iechyd y Byd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Geiriau Allweddol: byd-eang/rhyngwladol, Sefydliad Iechyd y Byd, iechyd meddwl, eirioli Gallwch ganfod mwy ar wefan WHO.

Addysg i Ferched yn Ne Sudan (GESS) Ffilmiau Cymorth Meddygol Geiriau Allweddol: rhaglen addysg, poblogaeth o fenywod agored i niwed Gwyliwch y ffilm ar wefan MedicalAidFilms.


Cynadleddau a Digwyddiadau i Ddod

Symposiwm Iechyd Byd-eang Prifysgol Queen’s, Belfast Belfast, 27ain Ebrill 2017 Geiriau Allweddol: gwella iechyd, cyflawni tegwch, rhannu ymchwil ac ymarfer Gallwch ganfod mwy ar wefan Symposiwm Iechyd Byd-eang.


Uwchgynhadledd Cynnal Cymru 2017 Cynnal Cymru Caerdydd, 27ain Ebrill 2017 Geiriau Allweddol: iechyd trefol, dyfodol carbon isel, dinasoedd cynaliadwy Gallwch ganfod mwy ar wefan Cynnal Cymru.

Lansiad: Gweithio’n Rhyngwladol: Canllaw i Nyrsys a Bydwragedd (RCM) Coleg Brenhinol y Bydwragedd, (RCN) Coleg Nyrsio Brenhinol, (MSF) Médecins Sans Frontières a VSO Llundain, 8fed Mai 2017 Geiriau Allweddol: nyrsys/ bydwragedd, gwaith dramor/ dyngarol I ddysgu mwy a chofrestru, ewch i Eventbrite.

Cyngres 1af y Byd ar Fudo, Ethnigrwydd, Hil ac Iechyd: Amrywiaeth ac Iechyd Cymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewrop, Sefydliad Usher, Prifysgol Caeredin Caeredin, 17eg – 19eg Mai 2017 Geiriau Allweddol: byd-eang/rhyngwladol, mudwyr, polisi, gwasanaethau iechyd Gallwch ganfod mwy ar wefan Cyngres y Byd.


Diwrnodau Gwyddonol MSF Médecins Sans Frontières (MSF) Llundain, 19eg – 20fed Mai 2017 Geiriau Allweddol: ymchwil, byd-eang/rhyngwladol, ymateb Dyngarol Gallwch ganfod mwy ar wefan MSF yn y DU.

Ysgol Haf Arsyllfa Ewrop, Fenis Arsyllfa Ewrop ar Systemau a Pholisïau Iechyd Fenis, Yr Eidal, 23ain – 29ain Gorffennaf 2017 Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 31ain Mai 2017 Geiriau Allweddol: Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau iechyd, polisi Gallwch ganfod mwy ar wefan Arsyllfa Ewrop.

Mudo ac Iechyd Sefydliad Hylendid a Meddygaeth Drofannol Universidade Nova de Lisboa, NOVA Health, Calouste Gulbenkian Foundation a Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Norwy (FHI) Lisbon, Portiwgal, 8fed Mehefin 2017 Geiriau Allweddol: mudwyr, polisi, iechyd y cyhoedd, gwasanaethau iechyd, Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd Gallwch ganfod mwy ar wefan FHI.


Cynhadledd Flynyddol Cyfadran Iechyd y Cyhoedd 2017 Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y DU (FPH) Telford, 20fed – 21ain Mehefin 2017 Geiriau Allweddol: DU, byd-eang/rhyngwladol, ymchwil, polisi I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan FPH.

Diwrnod Gwybodaeth am Raglen Gogledd Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru Caerdydd, 27ain Mehefin 2017 Geiriau Allweddol: cyllid, arloesedd, amgylchedd, Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd Os hoffech gofrestru, cysylltwch â WEFO.

Bioamrywiaeth ac Iechyd yn Wyneb Newid yn yr Hinsawdd Change Asiantaeth Ffederal yr Almaen ar gyfer Cadwraeth Natur (BfN) a Rhwydwaith Ewropeaidd Penaethiaid yr Asiantaethau Cadwraeth Natur (ENCA) Bonn, Yr Almaen, 27ain-29ain Mehefin 2017 Geiriau Allweddol: byd-eang/rhyngwladol, Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, newid yn yr hinsawdd, polisi, ymchwil Gallwch ganfod mwy ar wefan y gynhadledd.


Cyfleoedd Eraill Gwobr Gwobr Iechyd Ewrop Fforwm Iechyd Ewrop, Gastein (EHFG) Geiriau Allweddol: iechyd y cyhoedd, gwasanaethau gofal iechyd, Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 26ain Mai 2017 Ewch i wefan EHFG i gael rhagor o wybodaeth.

Cyflwyniad Cryno Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Ewrop Cymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewrop (EUPHA); Cymdeithas Sweden ar gyfer Meddygaeth Gymdeithasol Geiriau Allweddol: ymchwil, polisi, addysg, iechyd y cyhoedd, Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, datblygu cynaliadwy Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 1af Mai 2017 Ewch i wefan Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Ewrop i gael rhagor o wybodaeth.


Cyflwyno Llawysgrif Cyfnodolyn Byd-eang ar gyfer Meddygaeth ac Iechyd y Cyhoedd Cyfnodolyn Byd-eang ar gyfer Meddygaeth ac Iechyd y Cyhoedd (GJMPH) Geiriau Allweddol: datblygu rhyngwladol, byd-eang/ rhyngwladol, gwasanaethau iechyd, Ewch i wefan GJMPH i gael rhagor o wybodaeth.

Hyfforddiant Cwrs Ymateb i Drychineb Humanity First Medical Geiriau Allweddol: ymateb dyngarol, byd-eang/ rhyngwladol, gweithwyr iechyd proffesiynol, DU Caerlŷr, 12fed-14eg Mai 2017 Ewch i wefan Humanity First Medical i gael rhagor o wybodaeth.

Ysgol Haf Polisi Byd-eang 2017: Anghydraddoldeb a Datblygu Byd-eang Prifysgol Durham Geiriau Allweddol: byd-eang/rhyngwladol, polisi, datblygu rhyngwladol Durham, 17eg – 21ain Gorffennaf 2017 Ewch i wefan Prifysgol Durham i gael rhagor o wybodaeth.


Ymgynghoriad Diben ac Effaith y Rhaglen Erasmus+ Erasmus+ Geiriau Allweddol: Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, cyllid Dyddiad cau ar gyfer cyfrannu: 31ain Mai 2017 Ewch i wefan Erasmus+ i gael mwy o wybodaeth.

Arolwg Cymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewrop (EUPHA) ar Genomeg Iechyd y Cyhoedd Cymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewrop (EUPHA) Geiriau Allweddol: iechyd y cyhoedd, ymchwil Ewch i wefan EUPHA i gael mwy o wybodaeth.


Cylchlythyrau a Sefydliadau Rhyngwladol Connect Cymru Gallwch ganfod mwy am gyfleoedd Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol ar wefan newydd Connect Cymru.

Cynnal Cymru/Sustain Wales Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, hyfforddiant ac ymgynghori gan Gynnal Cymru trwy ddarllen eu cylchlythyr.

EuroHealthNet Trwy gyhoeddi ei gylchgrawn, nod EuroHealthNet yw esbonio’i brosiectau, ei amanion a’i ffyrdd o weithio. Ewch i wefan cylchgrawn EuroHealthNet i ganfod mwy.

Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewrop (EUREGHA) Mae EUREGHA yn rhwydwaith o 14 o Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewrop sydd yn canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd a gofal iechyd. Darllenwch y newyddion diweddaraf ar wefan EUREGHA.

Comisiwn Ewropeaidd: SANTE Health-EU Gallwch weld cylchlythyr SANTE Health EU ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd am wybodaeth am, Newyddion o’r UE, Datganiadau i’r Wasg yr UE, Gwobr Iechyd yr UE ar gyfer Cyrff Anllywodraethol, digwyddiadau i ddod.


Partneriaeth Arloesi Ewropeaidd ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach Darllenwch y cylchlythyr diweddaraf ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Arsyllfa Ewrop I danysgrifio i gylchlythyr Arsyllfa Ewrop ar Systemau a Pholisïau Iechyd,

Cylchlythyr PHAME Ewrop WHO Mae’r cylchlythyr yn rhoi diweddariad chwarterol am agweddau iechyd cyhoeddus ar fudo yn Ewrop ac mae’n bartneriaeth rhwng WHO Ewrop a Phrifysgol Pécs, Hwngari. Cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr sy’n cynnwys y nedyddion y diweddaraf.

Cynghrair Iechyd y Cyhoedd Ewrop (EPHA) Sicrhewch fod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd yn Ewrop a thanysgrifiwch i gylchlythyr EPHA.

Cymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewrop (EUPHA) Mae’r rhifyn diweddaraf o gylchlythyr EUPHA, ar gael ar eu gwefan, yn rhoi’r diweddaraf am Iechyd y Cyhoedd, yn cynnwys digwyddiadau i ddod, cyfleoedd a newyddion gan ei Aelodau.

E-fwletin IHCC I danysgrifio i e-fwletin IHCC, ewch i wefan IHCC i gael y newyddion bob deufis.


Cylchlythyr y Bartneriaeth Iechyd Ryngwladol (IHP+) I gael y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf am waith y Bartneriaeth Iechyd Ryngwladol, cofrestrwch i dderbyn ei chylchlythyr drwy ei gwefan.

Conffederasiwn y GIG Mae conffederasiwn y GIG yn cynnig amrywiaeth o gylchlythyrau y gellir tanysgrifio iddynt trwy gofrestru ar eu gwefan.

Conffederasiwn GIG Ewrop Mae e-fwletin Swyddfa Ewropeaidd Conffederasiwn y GIG yn eich hysbysu am bolisi, cyllid a rhannu gwybodaeth.

Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Trofannol (THET) Yn creu partneriaethau gydag arbenigwyr gofal iechyd er mwyn darparu rhaglenni hyfforddi wedi’u targedau mewn gwledydd incwm isel a chanolig. I gael gwybod mwy am waith THET ac i danysgrifio i’r e-fwletin, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Trofannol.

Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Nod y Rhwydwaith Cysylltiadau Cymru o Blaid Affrica (WAHLN) yw hwyluso a chydlynu dull effeithiol o hybu a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cysylltiadau iechyd rhwng Cymru ac Affrica Is-Sahara. I danysgrifio i gylchlythyr WAHLN a darllen am newyddion diweddaraf y Rhwydwaith, ewch i wefan WAHLN.


Horizon 2020 WEFO Wedi ei lunio ar eich cyfer chi gan Uned Horizon 2020 Llywodraeth Cymru, mae e-Newyddion Horizon 2020 yn grynodeb rheolaidd o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cymuned Horizon 2020 yng Nghymru. I danysgrifio, anfonwch ebost i flwch postio Horizon 2020. Neu am fwy o wybodaeth ewch i wefan Horizon 2020 WEFO.

Cylchlythyr Iechyd Byd-eang Wessex I gadw mewn cysylltiad â Rhwydwaith Iechyd Byd-eang Wessex ac i dderbyn diweddariadau rheolaidd, darllenwch eu diweddariad wythnosol neu i gytuno i dderbyn eu cylchlythyr ar eu gwefan.

WHO Ewrop Gallwch gael y newyddion diweddaraf am iechyd y cyhoedd ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO trwy danysgrifio i e-fwletin WHO Ewrop.

Panorama WHO Mae Panorama Iechyd y Cyhoedd yn darparu llwyfan ar gyfer gwyddonwyr ac ymarferwyr iechyd y cyhoedd i gyhoeddi’r gwersi a ddysgwyd o’r maes, yn ogystal â gwaith ymchwil gwreiddiol, i hwyluso’r defnydd o dystiolaeth ac arfer da ar gyfer gweithredu ym maes iechyd y cyhoedd.

Rhwydwaith Rhanbarthau Iechyd WHO Mae’r bwletin hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a ddatblygwyd gan rwydwaith RHN WHO. Darllenwch y rhifyn diweddaraf ar wefan RHN.


Cysylltu â Ni E-bost International.health@wales.nhs.uk Ffôn 02920 104 459 Swydd Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd c/o Iechyd Choeddus Cymru Chwarter Cyfalaf, Rhif 2 Stryd Tyndall Caerdydd CF10 4BZ Gwefan www.internationalhealth.nhs.uk _

Twitter @IHCCWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.