Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Awst 2018
Uwchgynhadledd Anabledd Byd-eang 2018 Mwy ar Dudalen 4
Croeso
Croeso i rifyn mis Awst o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC. Bydd rhifyn y mis hwn yn darparu gwybodaeth am Uwchgynhadledd Anabledd Byd-eang 2018 ar gyfer Iechyd a Llesiant a gweithgaredd yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, yn ogystal â chyfleoedd. Dilynwch yr IHCC ar Twitter am ddiweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar wefan IHCC.
Cynnws Mewn Ffocws - Y Tu Hwnt i Gymru
4
Mewn Ffocws - Yng Nghymru
7
Cyfleoedd 9
Mae gan yr IHCC Wefan Newydd!
Mae ein e-fwletin yn gwneud lle ar gyfer yr adnodd newydd hwn, y lle gorau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ystod o destunau yn ymwneud â gwaith yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, fel:
Newyddion
Cyllid
Adnoddau
Digwyddiadau
Gweithio’n Rhyngwladol Os hoffech ganfod mwy am sefydliadau Cymru, y DU, Ewropeaidd neu ryngwladol sy’n gysylltiedig â gwaith rhyngwladol neu’n ei gynorthwyo, ewch i’r adran.
A hoffech chi hyrwyddo eich gwaith rhyngwladol? Ewch i Cymerwch Ran i ganfod mwy ynghylch sut i gyflwyno prosiect, digwyddiad neu eitem newyddion ar wefan IHCC.
Darllenwch ymlaen i ganfod beth sydd ‘Dan Sylw yng Nghymru a Thu Hwnt’
Mewn Ffocws Y Tu Hwnt i Gymru
Uwchgynhadledd Anabledd Byd-eang 2018 Ar 24 Gorffennaf 2018, cydgynhaliodd llywodraeth y DU ei Huwchgynhadledd Anabledd Byd-eang gyntaf erioed gyda’r Cynghrair Anabledd Rhyngwladol a Llywodraeth Kenya. Cynhaliwyd yr uwchgynhadledd ym Mharc Olympaidd y Frenhines Elizabeth yn Llundain a daeth â mwy na 700 o gynadleddwyr ynghyd o lywodraethau, cyfranwyr, sefydliadau’r sector preifat, elusennau a sefydliadau pobl ag anableddau. Prif amcan yr Uwchgynhadledd Anabledd Byd-eang oedd cyflwyno ymrwymiadau newydd ar lefel fyd-eang a chenedlaethol ar gynnwys anabledd. Gwnaeth llywodraethau cenedlaethol a sefydliadau eraill 170 set o ymrwymiadau ynghylch pedair thema’r Uwchgynhadledd: • • • •
Sicrhau urddas a pharch i bawb Addysg gynhwysol Llwybrau at rymuso economaidd Defnyddio technoleg ac arloesi
Cafodd dwy thema drawsbynciol yn canolbwyntio ar Fenywod a merched ag anabledd a gwrthdaro a chyd-destunau dyngarol, a datgrynhoi data eu hamlygu hefyd. Am fwy o wybodaeth am yr Uwchgynhadledd Anabledd Byd-eang, ewch i wefan Gov.UK. Mae crynodeb o’r ymrwymiadau hefyd ar gael ar wefan Gov.UK. Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, polisi, addysg
Cyflwyno ymchwil pwysau isel ar enedigaeth yng nghynhadledd EuroHealthNet Mae cynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhannu canlyniadau eu hymchwil ar leihau pwysau isel ar enedigaeth ar Ymweliad Cyfnewid Gwlad EuroHealthNet. Mynychodd Angela Jones, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd i Dîm Lleol Iechyd y Cyhoedd Cwm Taf,a Kathryn Ashton, Ymchwilydd Iechyd y Cyhoedd, gynhadledd EuroHealthNet ym
Mharis
ar
12-13
Mehefin
2018.
Cyflwynodd Angela Jones y canfyddiadau o ystod o ymyriadau yn seiliedig ar dystiolaeth a gynhaliwyd yng Nghwm Taf oedd yn ceisio lleihau nifer y babanod sy’n cael eu geni â phwysau isel. Roedd y rhain yn targedu tri phrif factor risg ar gyfer pwysau isel ar enedigaeth yng Nghwm Taf: beichiogi yn yr arddegau, smygu a gordewdra. Ar ôl cyflwyno’r ymyriadau hyn, cafwyd gostyngiad yn nifer y babanod sy’n cael eu geni â phwysau isel ar enedigaeth yng Nghwm Taf o 55 y flwyddyn o 2012-2016. Dywedodd Angela Jones: “Mae pwysau isel ar enedigaeth yn bwysig am ei fod yn agos gysylltiedig â marwolaethau babanod, problemau datblygiadol a chyflyrau sy’n cyfyngu bywyd. Dengys yr ymchwil yma bod gan dargedu ffactorau risg ymysg mamau y potensial i effeithio ar nifer o fabanod sy’n cael eu geni â phwysau isel. “Roedd yn gyffrous gallu rhannu canlyniadau’r ymyriadau hyn mewn digwyddiad rhyngwladol ac arddangos yr ymchwil iechyd y cyhoedd newydd sy’n cael ei gwneud yng Nghymru.” Yr ymyriadau a gyflwynwyd yng nghynhadledd EuroHealthNet oedd: • Ymagwedd aml-asiantaeth i leihau beichiogi yn yr arddegau oedd yn cynnwys addysg iechyd rhyw gwell a mynediad i ddulliau atal cenhedlu mewn ardaloedd â’r cyfraddau beichiogi yn yr arddegau uchaf. • Y Modelau ar gyfer Mynediad i Wasanaethau Rhoi’r Gorau i Smygu (MAMMS) sy’n defnyddio ymagwedd hyblyg o dan arweiniad bydwragedd tuag at roi’r gorau i smygu. • Rhaglen rheoli pwysau Ffordd o Fyw Iach “Bump Start” o dan arweiniad bydwragedd a deietegwyr. Am fwy o wybodaeth wefan EuroHealthNet.
am
gynhadledd
EuroHealthNet
Geiriau Allweddoll: plant a phobl ifanc, ymchwil, gwaith
ym
Mharis,
ewch
i
Cyhoeddi astudiaeth achos o brosiect ymyrraeth gynnar Iechyd Cyhoeddus Cymru yng nghyhoeddiad WHO EURO Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Ewrop wedi cyhoeddi compendiwm o enghreifftiau o ddatblygu cadernid ar lefel unigol, cymunedol a system. Mae’n disgrifio’r camau arloesol, ar y ddaear a gymerir gan 13 o wledydd i gryfhau cadernid a’r cysylltiadau â chanlyniadau iechyd a lles. Mae astudiaeth achos o Brosiect Ymyrraeth Gynnar Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cael ei gynnwys, yn mynd i’r afael â phrofiadau plentyndod, negyddol a chadarnhaol, a’u heffaith ar iechyd a lles. Mae’r astudiaeth achos yn amlygu ymdrechion presennol Cymru i gryfhau ymagwedd holistig a rhyng-adrannol tuag at greu amgylcheddau cefnogol ar gyfer iechyd a lles. I ddarllen y cyhoeddiad llawn, ewch i wefan WHO EURO. Geiriau Allweddoll: atal cenhedlu, y blynyddoedd cynnar, tystiolaeth
Cyfarwyddwr Cyffredinol WHO i ymweld ag Azerbaijan gan ganolbwyntio ar Nodau Datblygu Cynaliadwy Gwnaeth Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus, ei ymweliad swyddogol cyntaf â Baku, Azerbaijan, ar 4-6 Gorffennaf 2018. Cymerodd ran yn y Gynhadledd Genedlaethol ar Ddiwygiadau Iechyd yng nghyd-destun gweithredu’r Nod Datblygu Cynaliadwy (SDG). Mapiodd y Gynhadledd y gwaith tuag at gyflawni’r SDG ar y lefel genedlaethol. Roedd hefyd wedi ei anelu at gydamseru’r targedau a’r dangosyddion SDG gyda blaenoriaethau cenedlaethol ac agenda ddatblygu’r wlad Ewch i wefan WHO EURO am fwy o wybodaeth am ymweliad y Cyfarwyddwr Cyffredinol ag Azerbaijan. Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, datblygu cynaliadwy,World Health Organization
Mewn Ffocws Yng Nghymru
Mae’r adran hon yn amlygu enghreifftiau diweddar o weithgaredd Cymru y tu hwnt i’n ffiniau. Gallai hyn fod ar ffurf cydweithrediadau, digwyddiadau a gwaith arall yn ymwneud â gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru.
Digwyddiad Cyswllt Hossana Ethiopia yn Betsi Cynhaliwyd digwyddiad iechyd rhyngwladol Rownd Fawr yn canolbwyntio ar Gyswllt Ethiopia Ysbyty Hossana ar 25 Mehefin 2018 yn Ysbyty Glan Clwyd. Roedd y digwyddiad, a fynychwyd gan feddygon, nyrsys, technegwyr ac eraill â diddordeb mewn partneriaethau iechyd rhyngwladol, yn gyfle i glywed am y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan gydweithwyr Cyswllt Ethiopia yn Ysbyty Hossana, yn cynnwys rhoi cymorth ymarferol fel trwsio’u lifft, addasu ac atgyweirio dyfeisiadau meddygol, cyfrannu offer a chyflwyno hyfforddiant ar oedolion a babanod sy’n ddifrifol wael. Roedd yn glir o’r cyflwyniadau bod cynnyrch y gwaith Cyswllt o fudd i’r ddwy ochr, gan fod staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) wedi dysgu cryn dipyn am feddygaeth drofannol a thestunau cysylltiedig o’r berthynas waith gynhyrchiol a’r cyfeillgarwch a ffurfiwyd. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i ddiolch i Dr Kit Chalmers am ei harweinyddiaeth ysbrydoledig o Gyswllt Ethiopia y mae bellach yn ei throsglwyddo i Dr Tom O’Driscoll. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cyswllt Glan Clwyd-Hossana. Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, gogledd cymru, digwyddiadau blaenorol
Croeso i’r Tîm Mae Kathryn Ashton yn ymchwilydd profiadol sy’n gweithio yng Nghyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae wedi gweithio fel Ymchwilydd Iechyd y Cyhoedd i Iechyd Cyhoeddus Cymru er 2012. Mae ei chefndir fel ymchwilydd yn y gwyddorau cymdeithasol, polisi cymdeithasol, troseddeg ac ystadegau, wedi gweithio’n flaenorol fel Uwch Swyddog Ymchwil i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fel Dadansoddwr Ystadegol i Statistics New Zealand. Mae gan Kathryn MSc mewn Dulliau Ymchwil Cymdeithasol a BSc Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Polisi Cymdeithasol a Throseddeg, y ddau o Brifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae Kathryn yn cefnogi gweithgareddau ymchwil a gwerthuso’r Tîm Rhyngwladol. Gan ddefnyddio offer ymchwil priodol, mae Kathryn yn crynhoi gwybodaeth iechyd y cyhoedd ac yn cynnal adolygiadau llenyddiaeth i ddarparu gwybodaeth ddiweddar i gefnogi gwaith y tîm. Mae gwaith blaenorol Kathryn wedi canolbwyntio ar Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACE), Economi’r Nos a gwerthuso ymyriadau iechyd y cyhoedd, ynghyd â gweithio i ddatblygu ymchwil yn y sefydliad. Mae gan Kathryn brofiad mewn dulliau ymchwil ansoddol a meintiol, adolygu tystiolaeth ac mae ganddi arbenigedd yn rheoli prosiectau ymchwil, llywodraethu a moeseg ymchwil, methodoleg arolygon, cyfweld ansoddol a dadansoddi.
Ymunodd Michael â thîm IHD yn 2018 fel Swyddog Polisi Iechyd Rhyngwladol, gan barhau hanes hir o weithio yn y GIG yng Nghymru. Gan ddechrau ei yrfa ym maes gweithrediadau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, symudodd Michael i Raglen Sylfaen y DU fel rheolwr prosiect, gan arwain y ffrwd waith recriwtio Cymhwysedd, sy’n gyfrifol am recriwtio myfyrwyr rhyngwladol i system addysg feddygol y DU a datblygiad systemau llywodraethu i gefnogi’r ffrwd waith honno gyda rhanddeiliaid aml-asiantaeth. Ar ôl hynny, symudodd Michael i Iechyd Cyhoeddus Cymru gan ymuno â’r Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd, sy’n gyfrifol am ymgysylltu a gweithredu egwyddorion Datblygu Cynaliadwy a Deddf flaenllaw Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ar draws y sefydliad.
Cyfleoedd Am wybodaeth gyffredinol ar gyllid Ewropeaidd, darllenwch Gatalog Cyllid Ewropeaidd IHCC Rhan 1 ar Horizon 2020 a’r Drydedd Raglen Iechyd, a Rhan 2 ar Gyllid Rhanbarthol.
Cyllid Iechyd Meddwl Byd-eang – galw am gynigion Cyngor Ymchwil Feddygol Geiriau Allweddoll: byd-eang lles meddyliol, tystiolaeth
/
rhyngwladol,
iechyd
meddwl,
Dyddiad cau: 6 Tachwedd 2018 Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor Ymchwil Feddygol. Cronfa Her Elusennau Bach (SCCF) UK Aid Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, datblygu cynaliadwy, grwpiau agored i niwed Dyddiad cau: 27 Medi 2018 Mae mwy o wybodaeth ar wefan UK Aid.
Gwobr Gwobr Ein Harwyr Iechyd 2018 Sgiliau Iechyd Geiriau Allweddoll: gweithwyr iechyd proffesiynol , hyfforddiant a sgiliau, lles, gwaith, oedolion o oedran gweithio I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau newydd y wobr hon, ewch i wefan Sgiliau Iechyd.
Cysylltu â Ni E-bost Iechyd.rhyngwladol@wales.nhs.uk Ffôn 02920 104 459 Swydd Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd c/o Iechyd Choeddus Cymru Chwarter Cyfalaf, Rhif 2 Stryd Tyndall Caerdydd CF10 4BZ Gwefan ihcc.publichealthnetwork.cymru/cy/ Twitter @IHCCWales