Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau - Awst 2017

Page 1

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Awst 2017

Iechyd Mudwyr a Ffoaduriaid Mwy ar dudalen 4


Croeso Croeso i rifyn mis Awst o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC. Bydd rhifyn y mis hwn yn darparu gwybodaeth am Iechyd Mudwyr a gweithgaredd yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, yn ogystal â chyfleoedd. Dilynwch yr IHCC ar Twitter am ddiweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar wefan IHCC.

Cynnws Mewn Ffocws - Y Tu Hwnt i Gymru

4

Mewn Ffocws - Yng Nghymru

8

Cyfleoedd 14


Mae gan yr IHCC Wefan Newydd!

Mae ein e-fwletin yn gwneud lle ar gyfer yr adnodd newydd hwn, y lle gorau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ystod o destunau yn ymwneud â gwaith yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, fel:

Newyddion

Cyllid

Adnoddau

Digwyddiadau

Gweithio’n Rhyngwladol Os hoffech ganfod mwy am sefydliadau Cymru, y DU, Ewropeaidd neu ryngwladol sy’n gysylltiedig â gwaith rhyngwladol neu’n ei gynorthwyo, ewch i’r adran.

A hoffech chi hyrwyddo eich gwaith rhyngwladol? Ewch i Cymerwch Ran i ganfod mwy ynghylch sut i gyflwyno prosiect, digwyddiad neu eitem newyddion ar wefan IHCC.

Darllenwch ymlaen i ganfod beth sydd ‘Dan Sylw yng Nghymru a Thu Hwnt’


Mewn Ffocws Y Tu Hwnt i Gymru

Iechyd Mudwyr a Ffoaduriaid yn Ewrop Mae nifer ddigyffelyb o ffoaduriaid wedi cyrraedd Ewrop dros y blynyddoedd diweddar, gan ddod â heriau a chyfleoedd yn eu sgil i systemau gofal iechyd Ewrop. Er yr ymddengys bod materion yn ymwneud ag iechyd mudwyr a ffoaduriaid yn debyg i rai grwpiau eraill o’r boblogaeth, mae mudwyr a ffoaduriaid yn wynebu mwy o gyswllt â pheryglon iechyd sy’n gysylltiedig â phoblogaeth yn symud. Dywedodd Dr Zsuzsanna Jakab, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd (WHO EURO): “Mae penderfynyddion cymdeithasol iechyd, fel addysg, cyflogaeth, nawdd cymdeithasol a thai, i gyd yn cael effaith sylweddol ar iechyd mudwyr.” Mae ymateb yn gyflym ac yn effeithlon i’w hanghenion iechyd yn hanfodol. I ddarllen y datganiad llawn ar boblogaeth yn symud gan Dr Jakab, ewch i wefan WHO EURO. Am wybodaeth am faterion allweddol yn ymwneud ag iechyd ffoaduriaid a mudwyr, ewch i wefan WHO EURO a’r Hyb Gwybodaeth am Iechyd Ffoaduriaid a Mudwyr. Geiriau Allweddoll: fudol, WHO European Region, byd-eang / rhyngwladol


Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Iechyd: Galwad i Weithredu Mae EuroHealthNet a’i bartneriaid, yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi cytuno’n unfrydol ar “alwad ac ymrwymiad” i weithredu ar ddatblygu iechyd a llesiant cynaliadwy a theg, er mwyn helpu i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig (CU) trwy ddulliau hybu iechyd modern. Mae’r alwad yn annog gwneuthurwyr polisïau, ymarferwyr ac ymchwilwyr i weithio mewn partneriaeth er mwyn mynd i’r afael â blaenoriaethau iechyd, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ac mae’n seiliedig ar Ddatganiad a Fframwaith REJUVENATE 2016 EuroHealthNet. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan EuroHealthNet. Geiriau Allweddoll: yr amgylchedd

datblygu

cynaliadwy,

byd-eang

/

rhyngwladol,


Diwrnod Amgylchedd y Byd 2017 Thema ganolog Diwrnod Amgylchedd y Byd ar 5 Mehefin 2017 oedd ‘Cysylltu Pobl â Natur’. Ei nod oedd codi ymwybyddiaeth bod amddiffyn y ddaear yn hanfodol a bod iechyd yn gysylltiedig yn gynhenid â’r amgylchedd. Roedd ei ffocws arbennig eleni ar lygredd aer a dŵr, cemegau peryglus, rheoli gwastraff a newid hinsawdd. Mae’r ffactorau hyn nid yn unig yn niweidio’r amgylchedd ond maent hefyd yn arwain at broblemau iechyd difrifol lle gall ymyriadau i amddiffyn a gwarchod yr amgylchedd wella iechyd yn uniongyrchol. Nod y dathliadau blynyddol yw codi ymwybyddiaeth o’r cyswllt rhwng yr amgylchedd ac iechyd y boblogaeth a chreu momentwm gwleidyddol i lywio newid cadarnhaol. Ar 13 -15 Mehefin 2017, daeth y Gweinidogion a chynrychiolwyr Rhanbarth WHO EURO sy’n gyfrifol am iechyd a’r amgylchedd ynghyd yn y Chweched Gynhadledd Weinidogaethol ar yr Amgylchedd ac Iechyd yn Ostrava, Gweriniaeth Tsiec i ffurfio gweithredoedd cyffredin y dyfodol i leihau baich clefydau a achosir gan ffactorau amgylcheddol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol ac i hyrwyddo synergeddau rhwng y ddau sector - sy’n allweddol i gyflawni amcanion iechyd a llesiant Agenda 2020 y CU ar gyfer Datblygu Cynaliadwy. Llofnodwyd Datganiad y chweched gynhadledd weinidogaethol ar yr amgylchedd ac iechyd ar 15 Mehefin 2017. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd (WHO EURO) a gwefan y Cenhedloedd Unedig. I ddarllen Datganiad llawn Ostrava WHO EURO, ewch i wefan WHO EURO. Geiriau Allweddoll: cynaliadwy, polisi

yr amgylchedd, byd-eang / rhyngwladol, datblygu


Adroddiad gan Gyn-gyfarwyddwr Cyffredinol* Mae Dr Margret Chan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad iechyd y Byd (WHO) 2007-2017, wedi cyhoeddi adroddiad o’r enw ‘10 years in Public Health 2007-2017’ yn croniclo esblygiad iechyd y cyhoedd byd-eang yn ystod degawd ei gwasanaeth fel Cyfarwyddwr Cyffredinol WHO. Gan edrych yn ôl ar ddatblygiadau iechyd y cyhoedd yn ystod y cyfnod hwnnw, mae adroddiad Dr Chan yn rhoi mewnwelediad ar rai cerrig milltir a heriau’r degawd diwethaf ac mae’n ceisio atgoffa cymdeithas i ddatblygu dyfodol iachach, gwell ar gyfer pobl y byd. Gan lansio ei hadroddiad, arsylwodd Dr Chan, “mewn byd sy’n wynebu cryn dipyn o ansicrwydd, bod datblygiad iechyd rhyngwladol yn rym sydd yn uno - ac yn dyrchafu - er lles dynoliaeth”. Am fwy o wybodaeth a’r adroddiad llawn, ewch i wefan WHO. I ganfod mwy am flaenoriaethau’r Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd, Dr Ghebreyesus, ewch i wefan WHO. Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, World Health Organization, datblygu cynaliadwy, anghydraddoldebau iechyd, polisi, ymchwil

*Saesneg yn unig


Mewn Ffocws Yng Nghymru

Mae’r adran hon yn amlygu enghreifftiau diweddar o weithgaredd Cymru y tu hwnt i’n ffiniau. Gallai hyn fod ar ffurf cydweithrediadau, digwyddiadau a gwaith arall yn ymwneud â gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru.

Iechyd Mudwyr a Ffoaduriaid yng Nghymru Nid yw union nifer y ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar yn hysbys ond amcangyfrifir ei fod rhwng 6,000 a 10,000 o bobl. Yn Ebrill 2017, cyhoeddodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru o’r enw “Roeddwn i’n arfer bod yn rhywun. Yn eu hadroddiad, gwnaeth y Pwyllgor 19 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, yn cynnwys mynediad i wasanaethau hanfodol o ansawdd uchel yn y sector preifat, cyhoeddus a’r Trydydd sector. Ardystiodd y Pwyllgor hefyd Saith Cam i Noddfa Cynghrair Ffoaduriaid Cymru, a mynegi’r gobaith y byddai cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, partneriaid y trydydd sector a chymunedau lleol ledled Cymru yn galluogi’r Saith Cam i gael eu cyflawni gan wneud Cymru yn Genedl Noddfa gyntaf y byd. I ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac i ganfod mwy am nod Cymru i fod yn Genedl Noddfa gyntaf y byd, ewch i wefan Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymateb i adroddiad y Pwyllgorau ac


wedi derbyn saith o’r argymhellion. I weld yr ymateb llawn, ewch i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Geiriau Allweddoll: Welsh gwasanaethau gofal iechyd

Government,

fudol,

ymateb

dyngarol,

Ysgol Haf WHO ar Iechyd Ffoaduriaid a Mudwyr Yn ddiweddar, cynhaliodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Ewrop yr Ysgol Haf 1af ar Iechyd Ffoaduriaid a Mudwyr, cwrs dwys, 5 diwrnod, gafodd ei gynnig o dan fantell Hyb Gwybodaeth Ewropeaidd WHO ar Iechyd a Mudo. Mynychodd Lauren Ellis, Is-adran Datblygu Rhyngwladol, yr Ysgol Haf, a drefnwyd gyda chymorth Gweinyddiaeth Iechyd yr Eidal ac awdurdodau iechyd rhanbarthol Sisili, mewn cydweithrediad â Sefydliad Rhyngwladol Mudo a Menter Iechyd yr Americas ym Mhrifysgol California, Berkeley, Unol Daleithiau America; y Comisiwn Ewropeaidd; a Chymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewrop. Cafwyd dros 300 o geisiadau ar gyfer yr ysgol, a mynychodd cyfanswm o 76 o gyfranogwyr o ystod o asiantaethau rhyngwladol. Cynhaliwyd yr Ysgol Haf yn Syracuse yn yr Eidal ar 10 –14 Gorffennaf 2017. Dewiswyd Syracuse fel lleoliad oherwydd lefel arbenigedd awdurdodau’r Eidal yn derbyn mudwyr. Amcan yr Ysgol Haf oedd codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth y cyfranogwyr o anghenion gofal iechyd mudwyr trwy ysgogi trafodaeth a meddwl yn feirniadol trwy weithdai, trafodaethau a chyflwyniadau Am fwy o wybodaeth am Ysgol Haf WHO, ewch i wefan WHO Europ. Geiriau Allweddoll: fudol, WHO European Region, ymchwil, polisi


Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pasio deddfwriaeth newydd, Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Mae’r ddeddf newydd yn gwneud darpariaeth, ymysg eraill, am strategaeth genedlaethol ar gyfer mynd i’r afael â gordewdra; am smygu mewn mannau cyhoeddus a chryfhau asesu effaith ar iechyd er mwyn cynyddu datblygiad polisïau, cynlluniau a rhaglenni allweddol. Yn sgil y Ddeddf, Cymru yw’r genedl gyntaf i wneud iechyd yn brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad cyhoeddus. Am fwy o wybodaeth ac i weld y Ddeddf yn llawn, ewch i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gwefan Llywodraeth Cymru. Geiriau Allweddoll: iechyd cyhoeddus, polisi , anghydraddoldebau iechyd, cymru

Cynhadledd Iechyd Cymru Affrica 2017 Cynhaliwyd Cynhadledd Iechyd Cymru Affrica ar 18 Gorffennaf 2017 yng Nghaerdydd, wedi ei threfnu ar y cyd gan Rwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica, Hub Cymru Africa a Chanolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) a denodd dros 130 o fynychwyr. Thema’r Gynhadledd oedd cryfhau systemau iechyd yn Affrica yn unol â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy a dysgu o brofiadau gweithwyr iechyd Prydain yng Ngorllewin Affrica wnaeth ymladd epidemig Ebola (o Ragfyr 2013 - Ebrill 2016). Roedd llefarwyr y Gynhadledd yn cynnwys: Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Vaughan Gething, wnaeth siarad yn frwdfrydig am Raglen Cymru Affrica Llywodraeth Cymru, a’r Athro Mark Bellis (Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru) a siaradodd am y Strategaeth Iechyd Rhyngwladol newydd a ddatblygwyd gan yr Ymddiriedolaeth a’i ddiddordebau ymchwil ym maes effaith trais ar iechyd.


Rhoddodd yr Athro Bellis hefyd drosolwg o brosiectau ymchwil a chydweithrediadau rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r prosiectau sy’n cael eu cynnal gan y Gyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol.

Mae rhaglen y Gynhadledd, bywgraffiadau’r llefarwyr ac adnoddau eraill ar gael ar wefan Hub Cyrmu Africa.

Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, iechyd cyhoeddus , Datblygu Cynaliadwy, gwasanaethau gofal iechyd

Cynhadledd Ryngwladol Iechyd Meddwl Ffurfiodd Gwella 1000 o Fywydau (Iechyd Cyhoeddus Cymru) bartneriaeth gyda Rhwydwaith Rhyngwladol Cydweithredu ar Iechyd Meddwl (IMHCN) ar 18 a 19 Gorffennaf 2017 ar gyfer Cyngres Ryngwladol Iechyd Meddwl, gan ddylunio agenda oedd yn archwilio’r ymagwedd ‘person cyfan, bywyd cyfan, systemau cyfan’ tuag at iechyd meddwl. Daeth y digwyddiad hwn ag arbenigwyr yr ymagwedd Systemau Bywyd Cyfan ynghyd o Gymru, Lloegr a’r gymuned ryngwladol. Ymunodd cynrychiolwyr o Awstralia, Gwlad Pwyl, yr Eidal, Iwerddon, Malaysia ac UDA. Am fwy o wybodaeth am y gynhadledd, ewch i wefan IHMCN. Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, iechyd cyhoeddus cymru, iechyd meddwl


Cyfarfod Haf MRPH EuroNet 2017 Ar ddechrau Gorffennaf, mynychodd Joanne McCarthy (Cofrestrydd Arbenigedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru) gyfarfod haf Rhwydwaith Ewropeaidd Preswylwyr Meddygol Iechyd y Cyhoedd (MRPH EuroNet) ym Motovun, Croatia. Mae MRPH EuroNet yn rhwydwaith o gymdeithasau Cenedlaethol Ewropeaidd o raglenni hyfforddiant Iechyd y Cyhoedd. Mae’n gymdeithas ryngwladol, annibynnol ac anllywodraethol ddielw. Nod MRPH EuroNet yw creu rhwydwaith proffesiynol er mwyn rhannu gwybodaeth am raglenni addysgol, er mwyn hwyluso cyfnewid a datblygu corff o ymchwil wyddonol. Ar hyn o bryd, ceir un ar ddeg o aelod-wladwriaethau, gyda Bosnia ar fin ymuno. Yn ystod cyfarfod yr haf eleni, cynhaliwyd sesiynau gan dîm Cydweithredu Cochrane a rhoddwyd darlithoedd ar arweinyddiaeth ym maes Iechyd y Cyhoedd. Roedd yr wythnos hefyd yn cynnwys gweithio ar gynigion ymchwil am fodlonrwydd astudio hyfforddeion iechyd y cyhoedd ac adolygu profiadau cyflogeion LGBT+ mewn systemau iechyd ledled Ewrop. Dywedodd Jo McCarthy: “Roedd gennym hefyd lawer o amser i rwydweithio, ac roedd gan aelodau eraill EuroNet ddiddordeb gwirioneddol yn clywed am y gwaith yr oedd Cymru’n ei wneud gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a hefyd wedi eu plesio’n fawr gan Strategaeth Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru. “ Am fwy o wybodaeth am EuroNet a chyfarfod yr haf, ewch i wefan MRPH EuroNet. Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, iechyd cyhoeddus, ymchwil, datblygiad proffesiynol


Strategaeth Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru – 2017-2027 Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mabwysiadu Strategaeth Iechyd Rhyngwladol, y cyntaf o’i bath ar gyfer y sefydliad. Bydd y strategaeth, sydd yn ategu Cynllun Tymor Canolig Integredig Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cefnogi gweithredu ein blaenoriaethau strategol trwy alluogi’r sefydliad i gael effaith, cysylltiadau a rôl ryngwladol gryfach mewn iechyd byd-eang; ymgysylltu effeithiol ar draws sefydliadau ac ar draws y GIG; ac arbenigedd blaenllaw yn buddsoddi mewn iechyd, lles a datblygu cynaliadwy yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn unol â’r strategaeth, mae gweithgaredd rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cael ei fapio, gan nodi prosiectau a phartneriaethau rhyngwladol. Mae gwybodaeth am y prosiectau hyn ar gael ar Gronfa Ddata Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol Cymru IHCC, cronfa ddata ddeinamig yn dangos gwaith iechyd rhyngwladol sydd yn digwydd ledled Cymru. Am fwy o wybodaeth ac i weld y strategaeth yn llawn, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. I chwilio Cronfa Ddata Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol Cymru, ewch i wefan IHCC. Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, strategaeth, iechyd cyhoeddus cymru

iechyd

cyhoeddus,


Cyfleoedd Am wybodaeth gyffredinol am gyllid Ewropeaidd, darllenwch Gatalog Cyllid Ewropeaidd IHCC Rhan 1 ar Horizon 2020 a’r Trydydd Rhaglen Iechyd, a Rhan 2 ar Gyllid Rhanbarthol neu ewch i wefan IHCC am fwy o wybodaeth am gyfleoedd am gyllid.

Cyllid Galwad am Hyder mewn Ymchwil Iechyd a Maeth Byd-eang Cronfa Ymchwil Heriau Byd-eang Geiriau Allweddoll: ymchwil, maethiad, byd-eang / rhyngwladol Dyddiad Cau: 14 Medi 2017 Gallwch ganfod mwy ar wefan Cronfa Ymchwil Heriau Byd-eang.

Galwad am Gynllun Treialon Iechyd Byd-eang Adran Datblygu Rhyngwladol y DU (DFID), Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR), Cyngor Ymchwil Feddygol y DU (MRC), ac Ymddiriedolaeth Wellcome Geiriau Allweddoll: iechyd rhyngwladol, clefydau anhrosglwyddadwy, ymchwil Dyddiad Cau: 14 Medi 2017 Mae mwy o wybodaeth ar wefan FRC.

grwpiau

agored

i

niwed,


UK Aid Connect Adran Datblygu Rhyngwladol y DU (DfID) Geiriau Allweddoll: ymateb dyngarol, anghydraddoldebau iechyd, datblygiad rhyngwladol, byd-eang / rhyngwladol Dyddiad Cau: 15 Medi 2017 Ewch i wefan DfID am fwy o wybodaeth.

Grantiau Hub Cymru Africa Hub Cymru Africa Dyddiad Cau: 18 Medi 2017 Geiriau Allweddoll: iechyd rhyngwladol, Cymru, cyllid, datblygu cynaliadwy, yr amgylchedd, datblygiad proffesiynol, WHO African Region Gallwch ganfod mwy am y broses ymgeisio, lefelau cyllid a themâu ar wefan Hub Cymru Africa.

Galwad am Ymchwil Iechyd Byd-eang Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) Dyddiad Cau: 20 Hydref 2017 Geiriau Allweddoll: iechyd rhyngwladol, cymru, cyllid, datblygu cynaliadwy, environment, datblygiad proffesiynol Am fwy o wybodaeth ac i weld y canllawiau ymgeisio, ewch i wefan NIHR.


Cynadleddau a Digwyddiadau i Ddod Adborth Cyhoeddus Arolwg yr UE ar yr Agenda Drefol – Cynnwys Mudwyr a Ffoaduriaid Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddoll: fudol, polisi, datblygiad rhyngwladol

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 22 Awst 2017 Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan EUSurvey.

Galwad am Enwebiadau Gwobr Iechyd Byd-eang John Dirks Canada Gairdner Sefydliad Gairdner Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, ymchwil, datblygiad

rhyngwladol

Dyddiadau cau ar gyfer Enwebiadau: 1 Hydref 2017 Ewch i wefan Sefydliad Gairdner am fwy o wybodaeth.


Galwad am Grynodebau Cyngres 1af ar Fudo, Ethnigrwydd, Hil ac Iechyd Cymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewrop (EUPHA), Sefydliad Usher, a Phrifysgol Caeredin fudol, grŵpiau ethnig, ymateb dyngarol, gwasanaethau gofal iechyd

Geiriau Allweddoll:

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 6 Hydref 2017 Ewch i wefan y Gyngres Mudo, Ethnigrwydd, Hil ac Iechyd am fwy o wybodaeth.

Gwobr Gwobr Ymgyrch Eiriolaeth – 2018 BOND Geiriau Allweddoll: rhyngwladol

datblygiad

rhyngwladol,

byd-eang

/

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 13 Hydref 2017 Am fwy o wybodaeth a gwybodaeth ynghylch sut i gofrestru, ewch i wefan BOND.


Cysylltu â Ni E-bost Iechyd.rhyngwladol@wales.nhs.uk Ffôn 02920 104 459 Swydd Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd c/o Iechyd Choeddus Cymru Chwarter Cyfalaf, Rhif 2 Stryd Tyndall Caerdydd CF10 4BZ Gwefan www.internationalhealth.nhs.uk _

Twitter @IHCCWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.