Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau - Rhagfyr 2017

Page 1

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Rhagfyr 2017

Diwrnod Hawliau Dynol Mwy ar dudalen 4


Croeso Croeso i rifyn mis Hydref o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC. Bydd rhifyn y mis hwn yn darparu gwybodaeth am Diwrnod Hawliau Dynol 2017 a gweithgaredd yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, yn ogystal â chyfleoedd. Dilynwch yr IHCC ar Twitter am ddiweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar wefan IHCC.

Cynnws Mewn Ffocws - Y Tu Hwnt i Gymru

4

Mewn Ffocws - Yng Nghymru 7 Cyfleoedd 12


Mae gan yr IHCC Wefan Newydd!

Mae ein e-fwletin yn gwneud lle ar gyfer yr adnodd newydd hwn, y lle gorau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ystod o destunau yn ymwneud â gwaith yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, fel:

Newyddion

Cyllid

Adnoddau

Digwyddiadau

Gweithio’n Rhyngwladol Os hoffech ganfod mwy am sefydliadau Cymru, y DU, Ewropeaidd neu ryngwladol sy’n gysylltiedig â gwaith rhyngwladol neu’n ei gynorthwyo, ewch i’r adran.

A hoffech chi hyrwyddo eich gwaith rhyngwladol? Ewch i Cymerwch Ran i ganfod mwy ynghylch sut i gyflwyno prosiect, digwyddiad neu eitem newyddion ar wefan IHCC.

Darllenwch ymlaen i ganfod beth sydd ‘Dan Sylw yng Nghymru a Thu Hwnt’


Mewn Ffocws Y Tu Hwnt i Gymru

Diwrnod Hawliau Dynol 2017 Mae’r dathliad blynyddol o Hawliau Dynol ar 10 Rhagfyr yn cofio’r diwrnod, ym 1948, y mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (CU) Ddatganiad Cyffredinol Hawliau Dynol (UDHR). Roedd y Datganiad mewn ymateb i erchyllterau’r Ail Ryfel Byd ac maent yn nodi’r hawliau diymwad sydd yn hanfodol i bawb. Mae’r gwerthoedd cyffredinol yn seiliedig ar gydraddoldeb, cyfiawnder a rhyddid. Hyd yn hyn, mae 48 o wledydd wedi llofnodi’r Datganiad. Yng Nghymru, diogelir hawliau dynol trwy weithgareddau sefydliadau fel y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHCR). Sefydlwyd yr EHCR trwy Ddeddf Cydraddoldeb 2006 ac mae ganddo fandad i helpu i greu Prydain decach trwy ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol pawb ym Mhrydain trwy orfodi deddfwriaeth cydraddoldeb yn ymwneud ag oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. I ganfod mwy am Ddiwrnod Hawliau Dynol eleni ac i ddarllen Datganiad llawn Hawliau Dynol, ewch i wefan y CU. Mae gwybodaeth ychwanegol am y Comisiwn a’i brosiectau diweddaraf ar gael ar wefan Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru. Geiriau Allweddoll: datblygiad rhyngwladol, cydraddoldeb, byd-eang / rhyngwladol


Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Ewrop Cynhaliwyd 10fed Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Ewrop yn Stockholm, Sweden rhwng 1 a 4 Tachwedd 2017. Eleni, roedd y gynhadledd yn canolbwyntio ar ‘Gynnal cymunedau cadarn ac iach’ a daeth ag ymchwilwyr, gwneuthurwyr penderfyniadau ac ymarferwyr ynghyd ar draws Ewrop i rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd ac archwilio ffyrdd y gellid gwella iechyd y cyhoedd yn Ewrop. Nod yr EPHC yw cyfrannu at wella iechyd y cyhoedd yn Ewrop trwy gynnig ffordd o gyfnewid gwybodaeth a rhoi llwyfan ar gyfer trafodaeth i ymchwilwyr, gwneuthurwyr polisïau, ac ymarferwyr ym maes iechyd y cyhoedd ac ymchwil gwasanaethau iechyd yn ogystal â hyfforddiant ac addysg iechyd y cyhoedd yn Ewrop. Mynychodd cydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru y gynhadledd a rhoi cyflwyniadau ar nifer o faterion a meysydd iechyd y cyhoedd allweddol oedd yn dod i’r amlwg. Cyflwynodd Liz Green, Prif Swyddog Datblygu Asesu Effaith ar Iechyd (HIA) Iechyd Cyhoeddus Cymru, ‘Integreiddio iechyd mewn sectorau cynllunio yng Nghymru. Datblygu adnodd ar gyfer ymarferwyr’ yn ystod y sesiwn ar ‘Integreiddio arfarniad iechyd o fewn cynllunio trefol ac asesu effaith amgylcheddol’ ac ‘Asesu’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru: O’r gwirfoddol i’r statudol’ yn ystod y sesiwn ar ‘Fapio gofyniad cyfreithiol ar gyfer sefydliadoli HIA ar draws Ewrop’. Am fwy o wybodaeth am Gynhadledd Iechyd y Cyhoedd Ewrop yn Stockholm, ewch i wefan Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Ewrop. Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, iechyd yr amgylchedd, ymchwil, tystiolaeth, anghydraddoldebau iechyd, datblygiad rhyngwladol

20fed Fforwm Iechyd Ewropeaidd Gastein – Llunio Dyfodol Gwell ar gyfer Ewrop Daeth 20ain mlwyddiant Fforwm Iechyd Ewropeaidd Gastein (EHFG) â gwleidyddion, gwneuthurwyr penderfyniadau, sefydliadau’r trydydd sector, y sector preifat, ac arbenigwyr ym maes iechyd y cyhoedd a gofal iechyd ynghyd yn ymwneud â thema “Iechyd ym Mhob Gwleidyddiaeth – dyfodol gwell yn Ewrop”, Yn ystod y gynhadledd 3 diwrnod hon, trafododd dros 500 o gyfranogwyr yr heriau iechyd mwyaf yn Ewrop mewn sesiynau a drefnwyd o amgylch pedair thema allweddol: Iechyd ym Mhob Polisi; Systemau Iechyd Ewropeaidd;Mynediad i Feddyginiaethau; Arloesi, Data Ceisiadau a Thechnolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu (ICT), gyda sut i leihau anghydraddoldebau iechyd a hybu cydraddoldeb yn ganolog iddynt. Roedd ffocws byd-eang cryf i’r gynhadledd eleni hefyd gyda chynadleddwyr yn cael budd o’r profiadau a’r arbenigedd sylweddol a gynigiwyd yn ystod y sesiynau a sesiwn lawn derfynol wedi ei neilltuo i “Safbwyntiau byd-eang ar iechyd ym Mhob Gwleidyddiaeth”.Roedd y gynhadledd hon hefyd yn gyfle i dîm rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru gyflwyno eu gwaith a datblygu cydberthynas gydweithredol newydd. Cyflwynodd Dr Mariana Dyakova, arweinydd Rhyngwladol yn y Gyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol (PRID), yr adroddiad Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant,


cyhoeddiad ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn y sesiwn gan ganolbwyntio ar Ymagweddau trawsnewid ar gyfer tegwch a chadernid – Defnyddio Agenda 2030 ar gyfer iechyd a llesiant. Amlygwyd canfyddiadau allweddol o’r adroddiad Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant hefyd mewn poster a arddangoswyd gan Elodie Besnier, swyddog polisi iechyd PRID, yn arddangosfa bosteri Fforwm Gastein Ifanc (YFG).

Mae YFG yn fenter sydd yn noddi cyfranogiad gweithwyr iechyd proffesiynol ifanc yng nghynadleddau blynyddol EHFG, gan eu galluogi i ymuno â rhwydwaith o fwy na 400 o aelodau YFG ar draws y byd. Mae YFG hefyd yn rhoi cyfleoedd i weithwyr iechyd proffesiynol ifanc gymryd rhan mewn gweithdai, ysgolion haf a chynadleddau ar adegau eraill o’r flwyddyn. Dywedodd Vytenis Andriukaitis, Comisiynydd Iechyd a Diogelwch Bwyd Ewrop: “Mae’n rhaid i’n nod fod i gael pob polisi, pob Gweinidog, pob rhanddeiliad, ar bob lefel, i gyfrannu at gadw pobl mewn iechyd da.” Aeth ymlaen trwy ddweud: “Mae iechyd Byd-eang yn fater arall ar agenda Gastein eleni. Gobeithio y gallaf ddefnyddio’r Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) i godi proffil iechyd byd-eang.” Mae adroddiadau, lluniau, recordiadau a chrynodebau o’r sesiynau ar gael ar EHFG a blog YFG. Am fwy o wybodaeth am fenter YFG, ewch i wefan EHFG. Geiriau Allweddoll: datblygu WHO European Region

cynaliadwy,

byd-eang

/

rhyngwladol,

polisi,


Mewn Ffocws Yng Nghymru

Mae’r adran hon yn amlygu enghreifftiau diweddar o weithgaredd Cymru y tu hwnt i’n ffiniau. Gallai hyn fod ar ffurf cydweithrediadau, digwyddiadau a gwaith arall yn ymwneud â gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru.

Croeso i’r Tîm Iechyd Rhyngwladol! Helo – fy enw i yw Lucy a fi yw aelod mwyaf newydd yr Is-adran Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn fy swydd fel Prif Arbenigwr Iechyd y Cyhoedd, fy ngwaith fydd sefydlu iechyd a llesiant o fewn cyd-destun datblygu cynaliadwy. Byddaf hefyd yn defnyddio tystiolaeth ryngwladol i wella iechyd cymunedau yma yng Nghymru. Byddaf yn dod ag ystod eang o brofiadau iechyd y cyhoedd gweithlu’r GIG, i weithio ar brosiectau cryfhau systemau iechyd yn Zambia a Cambodia. Rwyf yn arbennig o angerddol am geisio gwella anghydraddoldebau iechyd trwy roi blaenoriaeth i degwch, cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol. Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan ymagwedd Cymru tuag at iechyd y cyhoedd, gartref ac yn rhyngwladol, ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r agenda hon yn y dyfodol.


Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Cymru Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017 yng Nghasnewydd rhwng 26 a 27 Tachwedd 2017. Agorwyd y gynhadledd, o’r enw ‘Datblygu ein cryfderau er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy, iach’, gan Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda phrif areithiau gan Dr Christoph Hamelmann, Pennaeth Swyddfa Ewropeaidd Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygiad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru a Rebecca Evans AC, y Gweinidog dros Dai ac Adfywio (y Gweinidog Gofal Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd blaenorol). Mabwysiadodd y gynhadledd ddeuddydd, a drefnwyd ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, ymagwedd greadigol i fynd i’r afael â phrif heriau iechyd y cyhoedd yn ymwneud ag iechyd a llesiant. Mynychwyd y gynhadledd gan gynadleddwyr ar draws ystod eang o sefydliadau’r sector preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector e.e. sefydliadau’r GIG, y gwasanaethau brys, y sector addysg, awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector, gyda sesiynau yn mynd i’r afael â materion fel heriau iechyd byd-eang, Brexit, buddsoddi ar gyfer iechyd, gwyliadwriaeth ddigidol, a deall a dylanwadu ar newid mewn ymddygiad.

Trefnwyd taith gerdded bosteri a alluogodd y cynadleddwyr i gael cipolwg ar y prosiectau a’r partneriaethau rhyngwladol, cydweithredol amrywiol y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i bartneriaeth academaidd ac anacademaidd rhyngwladol yn gysylltiedig â nhw. Hwyluswyd sesiwn derfynol y gynhadledd, sydd wedi ei neilltuo i archwilio ffyrdd o ddatblygu cadernid mewn cymunedau sy’n wynebu ansicrwydd, gan Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’r actor o Gymru, Michael Sheen. Mae mwy o wybodaeth am y gynhadledd ar gael ar wefan Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae fideo uchafbwyntiau ar gael ar wefan GIG Cymru. Geiriau Allweddoll: datblygu cynaliadwy, DU, lles, tystiolaeth


Dr Christoph Hamelmann (WHO EURO) yng Nghymru Achubodd Dr Christoph Hamelmann, Pennaeth, Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) dros Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygiad (Fenis, yr Eidal) ar y cyfle i ymweld ag Iechyd Cyhoeddus Cymru pan agorodd Gynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Hydref. Yn ystod ymweliad Dr Hamelmann ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, cyfarfu tîm iechyd rhyngwladol y Gyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol â Dr Hamelmann i gael cipolwg ar y cyfleoedd a’r heriau yn ymwneud â buddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant. Mae ffocws y podlediad ar gydweithrediad Iechyd Cyhoeddus Cymru â Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd (WHO EURO) a’r gwaith yn ymwneud â buddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant - beth ydyw, pam y mae’n bwysig a pham y mae’n berthnasol i boblogaeth Cymru a thu hwnt. Siaradodd Dr Hamelmann am bolisïau ac arferion buddsoddi presennol, yr ystyrir yn anghynaladwy os yw’r safon iechyd uchaf posibl yn cael ei chyrraedd ar gyfer pob person o bob oed. Achubodd y tîm ar y cyfle hwn i archwilio’r prif opsiynau polisi ar gyfer iechyd a chofnodi podlediad yn cynnwys Dr Hamelmann. Mae mwy o wybodaeth am Swyddfa Ewropeaidd WHO ar gyfer Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygiad ar gael ar wefan WHO EURO. Gellir cael mynediad i bodlediad wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

cyfweliad

Dr

Hamelmann

trwy

Geiriau Allweddoll: datblygu cynaliadwy, byd-eang / rhyngwladol, polisi, WHO European Region


Adroddiad Blaenoriaethau Rheoli Clefydau Gweithiodd yr Athro Mark Bellis fel rhan o dîm rhyngwladol bach yn cynnwys arweinwyr trais ar gyfer Sefydliad Iechyd y Byd, Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau (CDC, UDA) a’r Tasglu Iechyd Byd-eang i adolygu effaith fyd-eang trais rhyngbersonol ar iechyd a llesiant a’r dulliau mwyaf effeithiol o atal trais; yn arbennig mewn gwledydd incwm isel a chanolig. Mae’r gwaith yn rhan o’r Blaenoriaethau Rheoli Clefydau (Trydydd Rhifyn) a gyhoeddwyd gan Fanc y Byd. Am fwy o wybodaeth ac i wefan Blaenoriaethau Rheoli Clefydau.

weld

yr

adroddiad

llawn,

cynaliadwy,

byd-eang

/

ewch

i

Am fwy o wybodaeth am CDC, ewch i wefan CDC. Geiriau Allweddoll: datblygu clefydau anhrosglwyddadwy

Saesneg Yn unig

rhyngwladol,


Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ennill Gwobr Cylchlythyr Economi Derbyniodd Amanda Davies a Sally Attwood (Is-adran Rhaglenni a Chyfleusterau, Iechyd Cyhoeddus Cymru) Wobr Ryngwladol Procura+ ICLEI (Llywodraethau Lleol dros Gynaliadwyedd) Procura+ am Weithdrefn Dendr Orau’r Flwyddyn 2017 yn Tallinn, Estonia. Rhoddwyd y wobr i gydnabod ailgynhyrchu cynaliadwy dodrefn swyddfa yn Capital Quarter 2 gan ddefnyddio offer swyddfa, dodrefn a lloriau presennol ac am ganfod a chaffael nwyddau wedi eu hailgynhyrchu o’r tu allan i’r sefydliad. Mae Procura+ yn rhwydwaith o awdurdodau cyhoeddus Ewropeaidd sy’n cysylltu, cyfnewid ac yn gweithredu ar gaffaeliad cynaliadwy ac arloesedd. Mynychodd Amanda a Sally Gyngres yr UE a rhoddodd Sally gyflwyniad ar ‘Gylcholdeb’, y gair newydd am yr Economi Gylchol.Nododd Amanda Davies fod: “llawer o’r cyflwynwyr yn ystod eu cyflwyniadau wedi cyfeirio at Iechyd Cyhoeddus Cymru fel enghraifft ragorol o arfer gorau a’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwch yn meddwl y tu allan i’r bocs”. Mae prosiect ‘Ailgynhyrchu dodrefn Iechyd Cyhoeddus Cymru yng Nghymru’ wedi cael ei gynnwys fel astudiaeth achos yn y ddogfen ganllaw sydd newydd ei chyhoeddi gan y Comisiwn Ewropeaidd ar ‘Gaffael Cyhoeddus ar gyfer Economi Gylchol’ a gynhyrchwyd yn unol â’r fenter Caffael Cyhoeddus Gwyrdd. I ddarllen mwy am Procura+ a Gwobr Ryngwladol Procura+, ewch i wefan Procura+. Mae dogfen ganllaw y Comisiwn Ewropeaidd i’w gweld ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd. Geiriau Allweddoll: iechyd yr amgylchedd

datblygu

cynaliadwy,

byd-eang

/

rhyngwladol,


Cyfleoedd

Am wybodaeth gyffredinol ar gyllid Ewropeaidd, darllenwch Gatalog Cyllid Ewropeaidd IHCC Rhan 1 ar Horizon 2020 a’r Drydedd Raglen Iechyd, a Rhan 2 ar Gyllid Rhanbarthol.

Cyllid Rhaglen Grantiau i Gryfhau Llais Dinesig Sefydliad y Gymanwlad Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, datblygiad llywodraethu,cydraddoldeb

datblygiad

rhyngwladol,

polisi,

Dyddiad cau: 3 Ionawr 2018 Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Sefydliad y Gymanwlad.

Menter Ymchwil Systemau Iechyd Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) Geiriau Allweddoll: tystiolaeth

byd-eang / rhyngwladol, datblygiad proffesiynol, ymchwil,

Dyddiad Cau: 30 Ionawr 2018 Gallwch ganfod mwy ar wefan MRC.


Erasmus+ (Symudedd Dysgu Unigolion) Yr Undeb Ewropeaidd (UE) Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, datblygiad proffesiynol, ymchwil, tystiolaeth Dyddiad cau: 1 Chwefror 2018 Gallwch ganfod mwy ar wefan yr UE.

Erasmus+ (Partneriaethau Strategol) Yr Undeb Ewropeaidd (UE) Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, datblygiad llywodraethu, polisi, cydraddoldeb

datblygiad

rhyngwladol,

Dyddiad cau: 1 Chwefror 2018 Gallwch ganfod mwy ar wefan yr UE.

Atal a/neu drin clefydau heintus sy’n cael eu hesgeuluso (NID) Horizon 2020, Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddoll: gwasanaethau iechyd

tystiolaeth,

cyllid,

ymchwil,

byd-eang

/

rhyngwladol,

byd-eang

/

rhyngwladol,

Dyddiad cau: 6 Chwefror 2018 Gallwch ganfod mwy ar Borth cyfranogwyr Horizon 2020.

Ebola +: ataliaeth, diagnosis a thrin heintiau ffilofeirysol Horizon 2020, Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddoll: gwasanaethau iechyd

tystiolaeth,

cyllid,

ymchwil,

Dyddiad cau: 16 Mawrth 2018 Gallwch ganfod mwy ar borth cyfranogwyr Horizon 2020.


Atal a rheoli pwysedd gwaed uchel a/neu ddiabetes yn fyd-eang Horizon 2020, Comisiwn Ewropeaidd; Cynghrair Byd-eang Clefydau Cronig Geiriau Allweddoll: tystiolaeth, clefydau anhrosglwyddadwy

cyllid,

ymchwil,

byd-eang

/

rhyngwladol,

byd-eang

/

rhyngwladol,

Dyddiad cau: 18 Ebrill 2018 Gallwch ganfod mwy ar borth cyfranogwyr Horizon 2020.

Rhwydwaith Rhyngwladol o Ganolfannau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol ar fygythiadau heintus Horizon 2020, Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddoll: gwasanaethau iechyd

tystiolaeth,

cyllid,

ymchwil,

Dyddiad cau: 18 Ebrill 2018 Gallwch ganfod mwy ar borth cyfranogwyr Horizon 2020.


Cynadleddau a Digwyddiadau i Ddod Gwobr Galwad am Grynodebau ar Iechyd Planedol Cynghrair Iechyd Planedol Geiriau Allweddoll: tystiolaeth, iechyd yr amgylchedd, byd-eang / rhyngwladol, newid hinsawdd, amgylchedd naturiol Dyddiad cau: 5 Ionawr 2018 Am fwy o wybodaeth am y gynhadledd wefan y Cynghrair Iechyd Planedol.

a

chyflwyno

crynodebau,

ewch

i

Galwad am Astudiaethau Achos Iechyd Planedol Y Lancet Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, newid hinsawdd, amgylchedd naturiol Dyddiad cau: 10 Ionawr 2018 Ewch i wefan y Lancet am fwy o wybodaeth.

Galwad am Grynodebau ar Systemau Iechyd Symposiwm Byd-eang ar Ymchwil Systemau Iechyd Geiriau Allweddoll: datblygu cynaliadwy, gwasanaethau iechyd, tystiolaeth, ymchwil Dyddiad cau ar gyfer cynigion am sesiynau wedi eu trefnu: 15 Ionawr 2018 Dyddiad cau ar gyfer crynodebau unigol: 15 Ionawr 2018 Ewch i wefan ymchwil Symposiwm Byd-eang ar Systemau Iechyd am fwy o wybodaeth.

Hyfforddiant Galwad am Leisiau i Ddod i’r Amlwg dros Iechyd Byd-eang 2018 Emerging Voices for Global Health 2018 (EV4GH) Geiriau Allweddoll: datblygiad proffesiynol, datblygu cynaliadwy, byd-eang / rhyngwladol Dyddiad cau: 5 Mawrth 2018 Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan EV4GH.

ymchwil,

tystiolaeth,

polisi,


Cysylltu â Ni E-bost Iechyd.rhyngwladol@wales.nhs.uk Ffôn 02920 104 459 Swydd Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd c/o Iechyd Choeddus Cymru Chwarter Cyfalaf, Rhif 2 Stryd Tyndall Caerdydd CF10 4BZ Gwefan ihcc.publichealthnetwork.cymru/cy/ _

Twitter @IHCCWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.