Iechyd Yng Nghrymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau - Hydref 2016

Page 1

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Rhagfyr 2016

Dathlu 30 Mlynedd o Siarter Ottawa Mwy ar dudalen 3


Croeso Croeso i rifyn mis Rhagfyr o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC. Bydd rhifyn y mis yma’n rhoi gwybodaeth i chi am ben-blwydd Siarter Ottawa yn 30 oed, Diwrnod AIDS y Byd 2016 a gweithgareddau yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, yn ogystal â chyhoeddiadau a chyfleoedd. Dilynwch yr IHCC ar Twitter am ddiweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar wefan IHCC.

Cynnws Mewn Ffocws - Y Tu Hwnt i Gymru

3

Mewn Ffocws - Yng Nghymru 5 Cyfleoedd 9 Cylchlythyrau a Sefydliadau Rhyngwladol

17


Mewn Ffocws Y Tu Hwnt i Gymru

Dathlu 30 Mlynedd o Siarter Ottawa Cafodd Siarter Ottawa ei lansio ym 1986, gan greu cyfres o weithredoedd ar gyfer sefydliadau iechyd rhyngwladol, llywodraethau cenedlaethol a chymunedau lleol i gyflawni’r nod o ‘Iechyd i Bawb’ erbyn y flwyddyn 2000. Ei nod oedd gwneud hyn trwy hybu iechyd yn well mewn pum maes allweddol: datblygu polisi iechyd y cyhoedd, creu amgylcheddau cefnogol, cryfhau gweithredoedd cymunedau, datblygu sgiliau personol ac ailgyfeirio gwasanaethau iechyd. Ar y pen-blwydd, ategodd gweinidogion iechyd, gwneuthurwyr polisïau a gweithwyr iechyd proffesiynol eu cefnogaeth o egwyddorion a nodau’r Siarter ar sawl achlysur. Galwodd cyfranogwyr yn y Gynhadledd Iechyd y Cyhoedd Ewropeaidd (EPH), yn Fienna, ar gymuned iechyd y cyhoedd, yn Ewrop a thu hwnt, i gydnabod penderfynyddion aml-haen iechyd a chyfleoedd ar gyfer gweithredu yn Natganiad Fienna. Yn Shanghai, trafododd arweinwyr y byd oedd yn mynychu 9fed Cynhadledd Fyd-eang Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) sut mae iechyd yn ganolog i gyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy a rhoi arweiniad ar y ffordd y gellid integreiddio hybu iechyd a datblygiad poblogaethau, cymunedau ac amgylcheddau iach i ymatebion cenedlaethol a rhyngwladol i’r nodau rhyngwladol. Cyflwynir casgliadau’r gynhadledd yn Natganiad Shanghai ar hybu iechyd yn Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030, sydd yn amlygu rôl polisi, llywodraethu a llythrennedd iechyd yn galluogi pobl i reoli eu hiechyd eu hunain. I ganfod mwy am 30 mlynedd Siarter Ottawa yng nghyd-destun Agenda 2030, darllenwch am sesiwn lawn EUPHA/EuroHealthNet “O Ottawa i Fienna: 30 mlynedd o Siarter Ottawa” yn Fienna neu darllenwch adroddiad EuroHealthNet “Dwyn Siarter Ottawa ymlaen yng nghyd-destun Agenda Datblygu Cynaliadwy y CU 2030”.


Cydweithio dros Iechyd a Lles Gwell Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ymagwedd Cymru tuag at iechyd a lles yn y gynhadledd “Hybu gweithredu rhyngsectoraidd a rhyngasiantaeth ar gyfer iechyd a lles yn Rhanbarth Ewropeaidd WHO” a drefnwyd gan Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd (WHO-EURO) ym Mharis ar 7-8 Rhagfyr 2016. Yn ystod y ddau ddwirnod yma, trafoddodd gwneuthurwyr polisïau Ewropeaidd sut i gryfhau cydweithredu rhyngsectoraidd rhwng y sectorau iechyd, addysg a chymdeithasol yn Rhanbarth Ewrop, er mwyn cael canlyniadau iechyd a chymdeithasol gwell, mwy cyfartal ar gyfer plant a’r glasoed a’u teuluoedd. Ewch i wefan WHO-EURO am fwy o wybodaeth am y gynhadledd.

Diwrnod AIDS y Byd 2016 Dathlodd y byd Ddiwrnod AIDS y Byd ar 1 Rhagfyr 2016. Lansiodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ganllawiau newydd ar hunan-brofi am HIV i annog gwledydd i hybu hunan-brofi ac i fwy o bobl i gael prawf. Mae bron 37 miliwn o bobl yn byw gyda HIV ar draws y byd, gyda chyfanswm yr achosion o HIV yn Rhanbarth Ewropeaidd WHO dros 2 filiwn am y tro cyntaf yn 2015, y nifer uchaf erioed o achosion newydd. Ond eto, mae 40% yn anwybyddu eu statws HIV, a dim ond 40% sydd yn cael therapi gwrth-retrofeirysol yn ôl WHO. Er mwyn mynd i’r afael â’r epidemig, mae Sefydliad Rhanbarthol Ewrop WHO (WHO EURO) wedi mabwysiadu Cynllun gweithredu ar gyfer ymateb y sector iechyd i HIV, sydd yn amlygu tri tharged uchelgeisiol ar gyfer 2020: i 90% o bobl sydd yn byw gyda HIV i wybod eu statws HIV, i 90% o bobl sydd wedi cael diagnosis sy’n byw gyda HIV i gael triniaeth ac i 90% o bobl sy’n cael triniaeth i gyflawni ataliad feirysol. Ewch i wefan WHO i ganfod mwy am hunan-brofi neu ewch i wefan Cymru Chwareus i ddysgu mwy am brofi am HIV yng Nghymru.


Mewn Ffocws Yng Nghymru

Mae’r adran hon yn amlygu enghreifftiau diweddar o weithgaredd Cymru y tu hwnt i’n ffiniau. Gallai hyn fod ar ffurf cydweithrediadau, digwyddiadau a gwaith arall yn ymwneud â gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru. Os ydych yn weithiwr iechyd proffesiynol yng Nghymru neu’n weithiwr proffesiynol arall sydd yn gysylltiedig â gwaith rhyngwladol ac yn dymuno rhannu eich gwaith, anfonwch e-bost at international.health@wales.nhs.uk.

Croeso i’r tîm!

Mae’r tîm rhyngwladol yn croesawu Andrea Hennessey, Swyddog Cymorth Prosiect, ac Anna Stielke, Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, sydd wedi ymuno’n ddiweddar. Mae Andrea’n ymuno â’r tîm sy’n datblygu Strategaeth Fyd-eang/ Ryngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Caiff y prosiect hwn ei reoli bellach gan yr Uwch Reolwr Prosiect Lauren Ellis a’i arwain gan yr Ymgynghorydd Arwain Mariana Dyakova, o’r tîm rhyngwladol. Mae hefyd yn cael cymorth gan y Prif Arbenigwr Hybu Iechyd Malcolm Ward o’r tîm rhyngwladol yn ogystal â’r Rheolwr Ymchwil a Datblygu Mark Griffiths, a’r Uwch Gynorthwy-ydd Ymchwil Charlotte Grey o Is-adran Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Anna yn ymuno â thîm IHCC ac yn cefnogi prosiectau amrywiol yn ymwneud â’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol.


“Helo—fy enw i yw Andrea, fy nhref enedigol yw’r Fenni yn Sir Fynwy, De Ddwyrain Cymru. Rwy’n falch iawn o fod yn aelod newydd o’r tîm sy’n gweithio ar gyfnod cychwynnol Strategaeth Iechyd Fyd-eang/Ryngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n brosiect cyffrous! Mae gweithio a gwirfoddoli gyda phrosiectau cymdeithasol a gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau a byw a gweithio yn Japan wedi bod o gymorth i mi werthfawrogi hawliau, cyfrifoldebau a buddion dinasyddiaeth fyd-eang. Mae’n fraint fawr, felly, i fod yn cefnogi IHD yn galluogi ymgysylltu a chydweithrediaeth iechyd fyd-eang/ryngwladol Cymru. Fel Swyddog Cymorth Prosiect, rwy’n edrych ymlaen at helpu’r tîm i ddatblygu nodau Iechyd Cyhoeddus Cymru ymhellach i greu strategaeth sy’n cyflawni newid gwirioneddol yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau.”

Andrea Hennessey, Swyddog Cymorth Prosiect, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Rwy’n llawn cyffro ac wrth fy modd i fod yn gweithio gyda’r IHCC ac yn cyfrannu at gynnal ei waith yng Nghymru a thramor. Gadewais fy ngwlad enedigol, yr Almaen, i ddechrau gweithio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru fel meddyg preswyl yn ystod fy nghyfnod yn gwneud bagloriaeth. Rwyf newydd wneud ôl-radd ym Mhrifysgol Maastricht ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn y DU unwaith eto. Rwyf wedi bod yn ôl ac ymlaen yn ystod fy astudiaethau rhwng yr Iseldiroedd a’r DU ac wedi mwynhau gweithio mewn cyd-destun rhyngwladol.”

Anna Stielke, Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd


Datblygu Cydnabyddiaeth Ryngwladol i Iechyd Cyhoeddus Cymru Croesawodd Dr Quentin Sandifer, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd a Chyfarwyddwr Meddygol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ddirprwyaeth o Sefydliad Cenedlaethol Iechyd y Cyhoedd a’r Amgylchedd (RIVM) yr Iseldiroedd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn ystod yr ymweliad deuddydd, dysgodd y cynrychiolwyr o RIVM am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (WBFGA) yn ogystal â chydweithrediadau rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru a darnau o waith fel ymchwil Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE), adroddiad Gwneud Gwahaniaeth, yn ogystal â datblygiad strategaeth iechyd Fyd-eang/Ryngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cynhaliwyd yr ymweliad ychydig wythnosau ar ôl i Iechyd Cyhoeddus Cymru gael aelodaeth lawn a dod yn ail aelod cenedlaethol o Gymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd y Cyhoedd Cenedlaethol (IANPHI) ar gyfer y DU.


Uchafbwyntiau Rhyngwladol o Gynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru Cafodd Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru 2016 fudd o bresenoldeb rhyngwladol cynyddol gyda chyfranogwyr ledled Ewrop a’r DU yn cryfhau cyfraniad Cymru tuag at iechyd byd-eang/rhyngwladol. Ar y diwrnod cyntaf, cydnabu Dr Piroska Östlin, Cyfarwyddwr yr Is-adran Polisi a Llywodraethu ar gyfer Iechyd a Lles yn Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), waith unigryw a datblygedig Cymru ar ddatblygu cynaliadwy ac iechyd trwy fabwysiadu WBFGA. Ychydig ddiwrnodau ar ôl diwedd Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru, cyflwynwyd ymagwedd Cymru tuag at ddatblygu cynaliadwy ac iechyd yng Nghynhadledd Ewropeaidd Iechyd y Cyhoedd yn Fienna yn ystod bwrdd crwn a drefnwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Rhwydwaith Rhanbarthau Iechyd WHO.

IHCC yn Cefnogi Meithrin Gallu ar gyfer Rhaglen ARCH Mae ARCH (Cydweithrediaeth Ranbarthol ar gyfer Iechyd) yn brosiect cydweithredol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe. Mae’n rhychwantu chwe ardal awdurdod lleol Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell Nedd Port Talbot ac Abertawe. Nod rhaglen ARCH yw gwella iechyd a gofal iechyd yn Ne Orllewin Cymru, hybu buddsoddi a hybu’r economi leol trwy arloesi a chydweithredu. Er mwyn cefnogi’r amcanion hyn, cynhaliodd rhaglen ARCH, Llywodraeth Cymru a’r IHCC weithdy i archwilio cyfleoedd cyllid a chydweithredu ar gyfer iechyd ac arloesi yng Nghymru. Dilynodd y gweithdy hwn ymlaen o ddigwyddiad ‘Cyllid a Chydweithredu ar gyfer Iechyd a Lles yng Nghymru’ a gynhaliwyd yn Chwefror 2016 a cheisiodd roi mwy o ffocws lleol ar gyfleoedd cyllid a chydweithredu i Fyrddau/Ymddiriedolaethau neu raglenni unigol. Ewch i wefan ARCH i ddysgu mwy am y rhaglen.


Cyfleoedd

Am wybodaeth gyffredinol am gyllid Ewropeaidd, darllenwch Gatalog Cyllid Ewropeaidd IHCC Rhan 1 ar Horizon 2020 a’r Trydydd Rhaglen Iechyd, a Rhan 2 ar Gyllid Rhanbarthol

Cyllid Cynllun Datblygu Ymyrraeth Iechyd y Cyhoedd/Byd-eang Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) Geiriau allweddol: ymchwil cyfnod cynnar, iechyd y cyhoedd, iechyd byd-eang Dyddiad cau: 12 Ionawr 2017 Ewch i wefan MRC am fwy o wybodaeth.


Unedau a Grwpiau Ymchwil Iechyd Byd-eang Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) Geiriau Allweddol: ymchwil, iechyd byd-eang, metrigau, gwledydd incwm isel a chanolig, gwyddorau cymdeithasol, economeg Dyddiad cau: 26 Ionawr 2017 Gallwch ganfod mwy ar wefan NIHR.

Aid Match y DU Adran Datblygu Rhyngwladol (DFID) Geiriau allweddol: datblygu rhyngwladol, sefydliadau cymdeithas sifil, cyllid Dyddiad cau: 31 Ionawr 2017 Ewch i wefan DFID am fwy o wybodaeth.

Galwadau Agored Technoleg Ffiniau Ffrydio Byw Adran Datblygu Rhyngwladol (DFID) Geiriau allweddol: datblygu rhyngwladol, technoleg, cyllid, arbenigedd Ewch i wefan DFID am fwy o wybodaeth.

Cronfeydd ECHO Adran Cymorth Dyngarol ac Amddiffyn Sifil y Comisiwn Ewropeaidd (ECHO) Geiriau allweddol: grantiau, caffaeliad cyhoeddus, cymorth dyngarol, gwirfoddoli tramor, trydydd sector, Ewrop Ewch i wefan ECHO am fwy o wybodaeth.


Cyhoeddiadau Catalog Cyllid Ewropeaidd – Cyllid Rhanbarthol IHCC Geiriau allweddol: cyllid, Ewrop, rhanbarthau, arloesi Ewch i wefan IHCC am fwy o wybodaeth.

Uwchraddio Prosiectau a Mentrau ar gyfer Iechyd Gwell: o Gysyniadau i Ymarfer Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd (WHO-EURO) Geiriau allweddol: iechyd y cyhoedd, rhanbarthau, atal clefydau, hybu iechyd

arloesi,

Ewrop,

Gallwch ganfod mwy ar wefan WHO-EURO.

Tuag at Systemau Iechyd Cynaliadwy yn Amgylcheddol yn Ewrop Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd (WHO-EURO) Geiriau allweddol: datblygu cynaliadwy, systemau iechyd, Ewrop, tystiolaeth Gallwch ganfod mwy ar wefan WHO-EURO.

Adroddiad Byd-eang ar Iechyd Trefol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO); Rhaglen Anheddau Dynol y Cenhedloedd Unedig (UN-Habitat) Geiriau allweddol: iechyd trefol, rhyngwladol, datblygu cynaliadwy Gallwch ganfod mwy ar wefan WHO.


Adroddiad Dinasoedd y Byd 2016 Rhaglen Anheddau Dynol y Cenhedloedd Unedig (UN-Habitat) Geiriau allweddol: iechyd trefol, llywodraethu, rhyngwladol Ewch i wefan UN-Habitat i ganfod mwy.

Datblygu Cynaliadwy: yr UE yn nodi ei Flaenoriaethau Comisiwn Ewropeaidd (CE) Geiriau allweddol: Ewrop, polisi, datblygu cynaliadwy Gallwch ganfod mwy ar wefan y CE.

Cipolwg ar Iechyd: Ewrop 2016 Sefydliad Cydweithredu a Datblygu Economaidd (OECD), Comisiwn Ewropeaidd (CE) Geiriau allweddol: ystadegau iechyd, Ewrop, y farchnad lafur, ffactorau risg, clefydau cronig, gofal sylfaenol Ewch i wefan y CE am fwy o wybodaeth.


Offer ac Adnoddau Brexit a’r GIG Swyddfa Ewropeaidd y GIG Geiriau allweddol: Ewrop, Brexit, system iechyd, DU Ewch i wefan Swyddfa Ewropeaidd y GIG i ganfod mwy.

Arolwg Cyfweliad Iechyd Ewrop: Cyhoeddi Data Newydd Eurostat Geiriau allweddol: gordewdra, Ewrop, ystadegau, DU Gallwch ganfod mwy ar wefan Eurostat.


Cynadleddau a Digwyddiadau i Ddod Cynhadledd Polisi Iechyd Rhyngwladol Ysgol y Gwyddorau Economeg a Gwleidyddol, Llundain (LSE) Llundain, 16-19 Chwefror 2017 Geiriau allweddol: polisi, iechyd rhyngwladol, systemau iechyd, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, technolegau iechyd, ymddygiad, astudiaethau poblogaeth Gallwch ganfod mwy ar wefan LSE.


Cyfleoedd eraill Lleoliad Gwella Iechyd Byd-eang trwy Ddatblygiad Arweinyddiaeth Academi Arweinyddiaeth Thames Valley a Wessex (TVWLA) Geiriau allweddol: gwirfoddolwr, rhyngwladol, staff GIG, cymrodoriaeth Dyddiad cau: 31 Mawrth 2017 Gallwch ganfod mwy ar wefan TVWLA.

Hyfforddiant Gwneud cais am Gronfeydd DFID a’u Rheoli BOND Llundain, 23 Ionawr 2017, 6 Mawrth 2017 Geiriau allweddol: cyllid, Adran Datblygu Rhyngwladol (DFID) Gallwch ganfod mwy ar wefan BOND.

Iechyd ym Mhob Polisi: Gwneud iddo Weithio yn Ymarferol Prifysgol Durham, Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Dinas Durham, 30 Ionawr – 1 Chwefror 2017 Geiriau allweddol: polisi, llywodraethu, penderfynyddion cymdeithasol, rhyngwladol, anghydraddoldebau iechyd Gallwch ganfod mwy ar wefan Prifysgol Durham.


Iechyd mewn Argyfyngau Dyngarol Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain Cwrs ar-lein, 6-26 Chwefror 2017 Geiriau allweddol: iechyd, rhyngwladol, dyngarol, argyfwng Gallch ganfod mwy ar wefan Future Learn.

Cyflwyniad i Ddatblygu Rhyngwladol BOND Llundain, 8-9 Chwefror 2017 Geiriau allweddol: datblygu rhyngwladol Gallwch ganfod mwy ar wefan BOND.


Cylchlythyrau a Sefydliadau Rhyngwladol Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Nod Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica (WAHLN) yw hwyluso ymagwedd gydlynus ac effeithiol i hybu a chefnogi datblygiad cysylltiadau iechyd rhwng Cymru ac Affrica Is-Sahara. I danysgrifio i gylchlythyr WAHLN ac i ddarllen am newyddion diweddaraf y Rhwydwaith, cysylltwch â Buddug Nelson yn Ysgrifenyddiaeth WAHLN.

Connect Cymru Gallwch ganfod mwy am gyfleoedd Gwaith Rhyngwladol ar wefan newydd Connect Cymru.

Ieuenctid

Cynnal Cymru Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, hyfforddiant ac ymgynghori gan Gynnal Cymru trwy ddarllen eu cylchlythyr.

Cylchlythyr Iechyd Byd-eang Wessex I gadw mewn cysylltiad â Rhwydwaith Iechyd Byd-eang Wessex ac i dderbyn diweddariadau rheolaidd, darllenwch eu diweddariad wythnosol neu i gytuno i dderbyn eu cylchlythyr ar eu gwefan.

WHO Ewrop Gallwch gael y newyddion diweddaraf am iechyd y cyhoedd ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO trwy danysgrifio i e-fwletin WHO Ewrop.


Rhwydwaith Rhanbarthau Iechyd WHO Mae’r bwletin hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a ddatblygwyd gan rwydwaith RHN WHO. Darllenwch y rhifyn diweddaraf ar wefan RHN.

Panorama WHO Mae Panorama Iechyd y Cyhoedd yn darparu llwyfan ar gyfer gwyddonwyr ac ymarferwyr iechyd y cyhoedd i gyhoeddi’r gwersi a ddysgwyd o’r maes, yn ogystal â gwaith ymchwil gwreiddiol, i hwyluso’r defnydd o dystiolaeth ac arfer da ar gyfer gweithredu ym maes iechyd y cyhoedd.

EuroHealthNet Trwy gyhoeddi ei gylchgrawn, nod EuroHealthNet yw esbonio’i brosiectau, ei amanion a’i ffyrdd o weithio. Ewch i wefan cylchgrawn EuroHealthNet i ganfod mwy.

Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewrop (EUREGHA) Mae EUREGHA yn rhwydwaith o 14 o Awdurdodau Iechyd Rhanbarthol a Lleol Ewrop sydd yn canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd a gofal iechyd. Darllenwch y newyddion diweddaraf ar wefan EUREGHA.

Comisiwn Ewropeaidd: SANTE Health-EU Gallwch weld cylchlythyr SANTE Health EU ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd am wybodaeth am, Newyddion o’r UE, Datganiadau i’r Wasg yr UE, Gwobr Iechyd yr UE ar gyfer Cyrff Anllywodraethol, digwyddiadau i ddod, cyhoeddiadau newydd ac Adrodd ar draws Ewrop.


Cymdeithas Iechyd y Cyhoedd Ewrop (EUPHA) Mae’r rhifyn diweddaraf o gylchlythyr EUPHA, ar gael ar eu gwefan, yn rhoi’r diweddaraf am Iechyd y Cyhoedd, yn cynnwys digwyddiadau i ddod, cyfleoedd a newyddion gan ei Aelodau.

Partneriaeth Arloesi Ewropeaidd ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach Darllenwch y cylchlythyr diweddaraf ar Heneiddio’n Egnïol ac yn Iach ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Conffederasiwn y GIG Mae conffederasiwn y GIG yn cynnig amrywiaeth o gylchlythyrau y gellir tanysgrifio iddynt trwy gofrestru ar eu gwefan.

Conffederasiwn GIG Ewrop Mae e-fwletin Swyddfa Ewropeaidd Conffederasiwn y GIG yn eich hysbysu am bolisi, cyllid a rhannu gwybodaeth.

Horizon 2020 WEFO Wedi ei lunio ar eich cyfer chi gan Uned Horizon 2020 Llywodraeth Cymru, mae e-Newyddion Horizon 2020 yn grynodeb rheolaidd o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cymuned Horizon 2020 yng Nghymru. I danysgrifio, anfonwch ebost i flwch postio Horizon 2020. Neu am fwy o wybodaeth ewch i wefan Horizon 2020 WEFO.


Cysylltu â Ni E-bost International.health@wales.nhs.uk Ffôn 02920 104 459 Swydd Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd c/o Iechyd Choeddus Cymru Chwarter Cyfalaf, Rhif 2 Stryd Tyndall Caerdydd CF10 4BZ Gwefan www.internationalhealth.nhs.uk Twitter @IHCCWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.