Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau - Chwefror 2018

Page 1

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Chwefror 2018

Cytundeb i fynd i’r afael â pheryglon iechyd ac amgylcheddol byd-eang Mwy ar dudalen 4


Croeso Croeso i rifyn mis Hydref o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC. Bydd rhifyn y mis hwn yn darparu gwybodaeth am Cytundeb i fynd i’r afael â pheryglon iechyd ac amgylcheddol byd-eang a gweithgaredd yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, yn ogystal â chyfleoedd. Dilynwch yr IHCC ar Twitter am ddiweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar wefan IHCC.

Cynnws Mewn Ffocws - Y Tu Hwnt i Gymru

4

Mewn Ffocws - Yng Nghymru 6 Cyfleoedd 8


Mae gan yr IHCC Wefan Newydd!

Mae ein e-fwletin yn gwneud lle ar gyfer yr adnodd newydd hwn, y lle gorau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ystod o destunau yn ymwneud â gwaith yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, fel:

Newyddion

Cyllid

Adnoddau

Digwyddiadau

Gweithio’n Rhyngwladol Os hoffech ganfod mwy am sefydliadau Cymru, y DU, Ewropeaidd neu ryngwladol sy’n gysylltiedig â gwaith rhyngwladol neu’n ei gynorthwyo, ewch i’r adran.

A hoffech chi hyrwyddo eich gwaith rhyngwladol? Ewch i Cymerwch Ran i ganfod mwy ynghylch sut i gyflwyno prosiect, digwyddiad neu eitem newyddion ar wefan IHCC.

Darllenwch ymlaen i ganfod beth sydd ‘Dan Sylw yng Nghymru a Thu Hwnt’


Mewn Ffocws Y Tu Hwnt i Gymru

Cytundeb i fynd i’r afael â pheryglon iechyd ac amgylcheddol byd-eang Ar 10 Ionawr 2018, llofnododd Mr Erik Solheim, Cyfarwyddwr Gweithredol Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig, a Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus, Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), gytundeb ar gyfer gweithredu ar y cyd i gryfhau cydweithredu er mwyn mynd i’r afael ag achosion amgylcheddol sylfaenol salwch. Cytunwyd ar fframwaith cydweithredu byd-eang newydd sydd yn datblygu cydweithredu rhanbarthol cryf Rhanbarth Ewropeaidd WHO trwy’r Broses Iechyd ac Amgylchedd Ewropeaidd, yn ogystal ag ategu meysydd allweddol Datganiad Chweched Cynhadledd Gweinidogaethol yr Amgylchedd ac Iechyd yn 2017. Geiriau Allweddoll: datblygiad rhyngwladol, cydraddoldeb, byd-eang / rhyngwladol Am fwy o wybodaeth am y cytundeb newydd a Chweched Cynhadledd Gweinidogaethol yr Amgylchedd ac Iechyd, ewch i wefan Swyddfa Ranbarthol Ewrop WHO.

Cerrig milltir allweddol a digwyddiadau ar gyfer Rhanbarth Ewropeaidd WHO yn 2018 Mae Swyddfa Ranbarthol Ewrop WHO wedi cyhoeddi ei gerrig milltir allweddol a’i digwyddiadau ar gyfer y flwyddyn newydd. Bydd yn parhau i ganolbwyntio ar weithredu fframwaith polisi Iechyd 2020 a’r Nodau Datblygu Cynaliadwy ar draws y rhanbarth. Eleni fydd 70ain mlwyddiant sefydlu WHO ym 1948 yng Ngenefa, y Swistir. Bydd Rhwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd WHO yn 30 oed; ers ei sefydlu, mae’r mudiad byd-eang wedi cysylltu dinasoedd sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd a datblygu cynaliadwy trwy hybu iechyd ym mhob polisi a gwella llywodraethu ar gyfer iechyd.


Bydd sawl cyfarfod yn bwysig iawn eleni, fel cyfarfod y Fenter Gwledydd Bach i aelod-wladwriaethau rannu eu gwybodaeth am weithredu Iechyd 2020, y cyfarfod rhanbarthol lefel uchel ar ymateb systemau iechyd i glefydau anhrosglwyddadwy, a 68ain sesiwn Pwyllgor Rhanbarthol Ewrop WHO. Geiriau Allweddoll: byd-eang WHO European Region

/

rhyngwladol,

datblygu

cynaliadwy,

lles,

I ddarllen yr holl gerrig milltir allweddol a’r digwyddiadau ar gyfer 2018 ar gyfer Rhanbarth Ewropeaidd WHO, ewch i wefan WHO Euro.

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018 Ar 8 Mawrth bob blwyddyn, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei ddathlu’n fyd-eang. Eleni, bydd thema’r ymgyrch, ‘Pwyso am Gynnydd’, yn canolbwyntio ar gydraddoldeb menywod, gan ddefnyddio cyd-destun grymuso economaidd menywod yn unol â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy – yn arbennig nodau 5 (cyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau a grymuso pob menyw a merch) a 4 (sicrhau addysg gynhwysol o ansawdd i bawb a hybu dysgu gydol oes). Geiriau Allweddoll: gender, byd-eang / rhyngwladol, menywod Am fwy o wybodaeth am ddathliad blynyddol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ewch i wefan y Cenhedloedd Unedig a gwefan ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Eleni.


Mewn Ffocws Yng Nghymru

Mae’r adran hon yn amlygu enghreifftiau diweddar o weithgaredd Cymru y tu hwnt i’n ffiniau. Gallai hyn fod ar ffurf cydweithrediadau, digwyddiadau a gwaith arall yn ymwneud â gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru.

Ystadegau goroesi canser Cymru bellach yn gallu cael eu cymharu â data OECD Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), sydd yn hyrwyddo polisïau sydd yn canolbwyntio ar lesiant economaidd a chymdeithasol pobl yn fyd-eang, newydd gyhoeddi adroddiad newydd o’r enw ‘Health at Glance 2017’. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r data mwyaf diweddar y gellir ei gymharu ar statws iechyd poblogaethau a pherfformiad systemau iechyd yng ngwledydd OECD. Am y tro cyntaf, gellir cymharu ystadegau cyfraddau goroesi canser Cymru gyda’r ffigurau ar gyfer y Deyrnas Unedig yn gyffredinol ac ar gyfer gwledydd eraill OECD. Mae hyn yn dilyn mabwysiadu pwysoliadau Safonol Goroesi Canser Rhyngwladol mewn dadansoddiadau goroesi canser. Hefyd, ar lefel yr Undeb Ewropeaidd (UE), gellir cymharu gwybodaeth iechyd trwy Ddangosyddion Iechyd Craidd Ewrop (ECHI). Mae’r dangosyddion hyn o ganlyniad i gydweithredu hirdymor rhwng Aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd a’r Comisiwn Ewropeaidd yn creu system wybodaeth i fonitro ac arsylwi statws iechyd. Gellir gweld yr adroddiad Health at a Glance llawn ar wefan OECD. Am fwy o wybodaeth am yr ystadegau goroesi canser ar gyfer Cymru, ewch i wefan Uned Gwybodaeth ac Arolygiaeth Canser Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru. Am fwy o wybodaeth am Ddangosyddion Iechyd Craidd Ewrop, ewch i wefan y Comisiwn Ewropeaidd. Geiriau Allweddoll: canser, tystiolaeth, byd-eang / rhyngwladol, ymchwil, cymru


Cronfa Ddata ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol (Gwefan IHCC) Mae mapio gweithgaredd rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cael ei wneud a’r wybodaeth wedi cael ei defnyddio i ddechrau ffurfio cronfa ddata ddeinamig Mae Cronfa Ddata Cymru ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yn amlinellu cydweithredu a chyfranogiad mewn rhwydweithiau iechyd rhyngwladol a byd-eang, yn ogystal â phartneriaethau, prosiectau, ac astudiaethau achos a gweithgareddau allweddol perthnasol. Hoffem roi cyfle i holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Cymru amlygu eu hymgysylltu rhyngwladol. Os hoffech gyflwyno gwybodaeth am eich gweithgaredd rhyngwladol, ewch i wefan IHCC neu anfonwch ebost yn uniongyrchol at yr Is-adran Iechyd Rhyngwladol yn iechyd.rhyngwladol@wales.nhs.uk. I weld Cronfa Ddata Cymru ar gyfer Partneriaethau Rhyngwladol, ewch i wefan IHCC. Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol,iechyd rhyngwladol, cynllun arfer


Cyfleoedd Am wybodaeth gyffredinol ar gyllid Ewropeaidd, darllenwch Gatalog Cyllid Ewropeaidd IHCC Rhan 1 ar Horizon 2020 a’r Drydedd Raglen Iechyd, a Rhan 2 ar Gyllid Rhanbarthol.

Cyllid Cynllun Arwain Ymchwil Affricanaidd Cyngor Ymchwil Feddygol Geiriau Allweddoll: WHO African Region

byd-eang

/

rhyngwladol,iechyd

rhyngwladol,

ymchwil,

Dyddiad Cau: 27 Chwefror 2018 Gallwch ganfod mwy ar wefan y Cyngor Ymchwil Feddygol.

Datblygu ymdrechion rhyngwladol ar boblogaeth a carfanau cleifion Horizon 2020, Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddoll: tystiolaeth, cyllid, ymchwil, byd-eang / rhyngwladol Dyddiad Cau: 18 Ebrill 2018 Gallwch ganfod mwy ar borth cyfranogwyr Horizon 2020.

Cydweithredu ym maes ymchwil iechyd ac arloesi gyda Tsieina Horizon 2020, Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddoll: tystiolaeth, WHO South-Asian Region

cyllid,

ymchwil,

Dyddiad Cau: 18 Ebrill 2018 Gallwch ganfod mwy ar borth cyfranogwyr Horizon 2020.

WHO

European

Region,


Meithrin cydweithredu gyda Ffederasiwn Rwsia ar HIV, twbercwlosis a hepatitis C Horizon 2020, Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddoll: tystiolaeth,cyllid, gwasanaethau iechyd, HIV/AIDS

ymchwil,

WHO

European

Region,

Dyddiad Cau: 18 Ebrill 2018 Gallwch ganfod mwy ar borth cyfranogwyr Horizon 2020.

Ymchwil canser cydweithredol gydag America Ladin Horizon 2020, Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddoll: tystiolaeth, cyllid, ymchwil, WHO American Region, WHO European Region, gwasanaethau iechyd, clefydau anhrosglwyddadwy, canser Dyddiad Cau: 18 Ebrill 2018 Gallwch ganfod mwy ar borth cyfranogwyr Horizon 2020.

Cydweithredu rhyngwladol blaenllaw gyda Chanada – data dynol a meddyginiaeth wedi ei phersonoli Horizon 2020, Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddoll: tystiolaeth, cyllid, WHO European Region, gwasanaethau iechyd

ymchwil,

WHO

American

Region,

WHO

European

Region,

Dyddiad cau: 18 Ebrill 2018 Gallwch ganfod mwy ar borth cyfranogwyr Horizon 2020.

Cyfnewidfa Cofnodion Iechyd Electronig Ewrop Horizon 2020, Comisiwn Ewropeaidd Geiriau Allweddoll: gwasanaethau iechyd

tystiolaeth,

cyllid,

ymchwil,

Dyddiad Cau: 24 Ebrill 2018 Gallwch ganfod mwy ar borth cyfranogwyr Horizon 2020.


Cysylltu â Ni E-bost Iechyd.rhyngwladol@wales.nhs.uk Ffôn 02920 104 459 Swydd Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd c/o Iechyd Choeddus Cymru Chwarter Cyfalaf, Rhif 2 Stryd Tyndall Caerdydd CF10 4BZ Gwefan ihcc.publichealthnetwork.cymru/cy/ Twitter @IHCCWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.