Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau - Mehefin 2018

Page 1

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Mehefin 2018

Diwrnod Iechyd y Byd 2017 Mwy ar Dudalen 4


Croeso

Croeso i rifyn mis Hydref o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC. Bydd rhifyn y mis hwn yn darparu gwybodaeth am lansiad Canolfan Gydweithredol newydd Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant a gweithgaredd yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, yn ogystal â chyfleoedd. Dilynwch yr IHCC ar Twitter am ddiweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar wefan IHCC.

Cynnws Mewn Ffocws - Y Tu Hwnt i Gymru

4

Mewn Ffocws - Yng Nghymru

7

Cyfleoedd 12


Mae gan yr IHCC Wefan Newydd!

Mae ein e-fwletin yn gwneud lle ar gyfer yr adnodd newydd hwn, y lle gorau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ystod o destunau yn ymwneud â gwaith yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, fel:

Newyddion

Cyllid

Adnoddau

Digwyddiadau

Gweithio’n Rhyngwladol Os hoffech ganfod mwy am sefydliadau Cymru, y DU, Ewropeaidd neu ryngwladol sy’n gysylltiedig â gwaith rhyngwladol neu’n ei gynorthwyo, ewch i’r adran.

A hoffech chi hyrwyddo eich gwaith rhyngwladol? Ewch i Cymerwch Ran i ganfod mwy ynghylch sut i gyflwyno prosiect, digwyddiad neu eitem newyddion ar wefan IHCC.

Darllenwch ymlaen i ganfod beth sydd ‘Dan Sylw yng Nghymru a Thu Hwnt’


Mewn Ffocws Y Tu Hwnt i Gymru

Cyfarfod Gweinidogion Iechyd y Gymanwlad 2018 Ar Fai 20 2018, cynhaliwyd Cyfarfod Gweinidogion Iechyd y Gymanwlad yn Genefa, Y Swistir. Y cadeirydd oedd Kwaku Agyeman-Manu, Gweinidog Iechyd Ghana. Y thema eleni oedd “Hyrwyddo’r frwydr fyd-eang yn erbyn clefydau anhrosglwyddadwy: codi ymwybyddiaeth, paratoi adnoddau a sicrhau hygyrchedd i wasanaeth iechyd cyffredinol”. Mae clefydau anhrosglwyddadwy, fel canser, clefydau cardiofasgwlaidd, diabetes, clefyd anadlol ac iechyd meddwl, ar gynnydd yn fyd-eang. Ar draws y 53 o wledydd sy’n aelodau o’r Gymanwlad, maent yn gyfrifol am oddeutu 10 miliwn o farwolaethau, ac achosir saith miliwn ohonynt gan gyflyrau megis clefydau cardiofasgwlaidd, canser, clefyd anadlol a diabetes. Yn ystod y cyfarfod, trafododd y gweinidogion iechyd nifer o fesurau polisi allweddol i fynd i’r afael â chlefydau anhrosglwyddadwy, er enghraifft drwy wella ariannu technolegau brechlynnau ac iechyd. Fe wnaethant hefyd ymrwymo i ddarparu arweiniad gwleidyddol cryf ac i gyflymu’r gwaith o gyrraedd targedau clefydau anhrosglwyddadwy yn fyd-eang. Roedd y meysydd lle y cafwyd cydsyniad a chydweithrediad yn cynnwys codi trethi ar ddiodydd wedi’u melysu â siwgr, mannau cwbl ddi-fwg a chanolfannau argyfwng un-stop i ddioddefwyr trais ar sail rhywedd. Yn ogystal, canolbwyntiodd y trafodaethau ar baratoi adnoddau a chyllido effeithiol ar gyfer gofal iechyd cyffredinol, sydd hefyd yn gallu cynorthwyo’r frwydr yn erbyn clefydau anhrosglwyddadwy. Cytunwyd mai thema 2018 fyddai “Gofal Iechyd Cyffredinol: Cyrraedd yr anghyraeddadwy, gan adael neb ar ôl”. Bydd hyn yn gydnaws â’r Cyfarfod Lefel Uchel ar Ofal Iechyd Cyffredinol yn yr un flwyddyn. Am fwy o wybodaeth, ewch i the Commonwealth website. Geiriau Allweddoll: clefydau anhrosglwyddadwy, polisi, datblygu cynaliadwy


Diwrnod Aer Glân 2018 Cynhaliwyd Diwrnod Aer Glân 2018 ar 21 Mehefin. Arweinir yr ymgyrch gan y Global Action Plan, sef elusen amgylcheddol. Ar hyn o bryd, mae’r ymgyrch yn cynnwys trefi a dinasoedd ar draws y DU, gyda’r nod i’w hehangu y tu hwnt i’r DU yn y dyfodol. Mae llygredd aer yn niweidiol i iechyd a’r amgylchedd, ac mae ganddo gysylltiad â thua 40,000 o farwolaethau cyn pryd yn y DU bob blwyddyn. Eleni, mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar deithio fel un o brif achosion llygredd aer. Er mwyn gwella ansawdd yr aer, mae gofyn i bobl newid eu dulliau o deithio. Mae hyn yn gynnwys teithiau byr, er enghraifft teithiau i’r gwaith. Mae nifer o ffyrdd y gall pawb gyfrannu at well ansawdd aer yn y dyfodol, er enghraifft newid i geir trydan, cerdded neu feicio i’r gwaith neu’r ysgol, neu drefnu rhith-gyfarfodydd yn lle rhai wyneb yn wyneb, os yn bosibl. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr ymgyrch Diwrnod Aer Glân a cheir gwybodaeth bellach @cleanairdayUK ar Twitter. Geiriau Allweddoll: iechyd yr amgylchedd, trafnidiaeth, cynllunio ar gyfer iechyd a lles


Cynulliad Iechyd y Byd 2018 Cynhaliwyd yr 71ain Cynulliad Iechyd y Byd blynyddol o Fai 21 i 26, 2018, yn Genefa, Y Swistir. Daeth y Cynulliad â chynrychiolwyr o bob aelod wladwriaeth ynghyd i drafod agenda’r polisi, cynllunio cyllidol a materion iechyd brys. Canolbwyntiodd Cynulliad Iechyd y Byd ar Ofal Iechyd Cyffredinol, yn ogystal â dathlu pen-blwydd y sefydliad yn 70 oed a phen-blwydd y datganiad Alma-Ata yn 40 oed. Thema’r Cynulliad eleni oedd iechyd drwy gydol oes, gan gynnwys pynciau megis iechyd rhywiol ac atgenhedlol, trais rhyngbersonol, maeth i famau, babanod a phlant ifanc a’r Cynllun Gweithredu Brechlyn Byd-Eang. Yn ystod y Cynulliad, derbyniodd y cynrychiolwyr gynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’r 13eg Rhaglen Waith Gyffredinol yn anelu at gyflawni’r ‘Nodau Biliwn Triphlyg’ erbyn 2030: 1 biliwn yn fwy o bobl yn elwa o ofal iechyd cyffredinol, 1 biliwn yn fwy o bobl yn cael gwell amddiffyniad rhag argyfyngau iechyd, ac 1 biliwn yn fwy o bobl yn mwynhau gwell iechyd a llesiant. Yn ystod ei araith i gloi’r gynhadledd, pwysleisiodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd, Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus bwysigrwydd yr ymrwymiad a wnaed gan ddirprwyaethau’r aelod-wladwriaethau i gryfhau eu systemau iechyd ac i anelu tuag at gwmpas iechyd cyffredinol a chyrraedd y nodau datblygu cynaliadwy. Dywedodd Dr Ghebreysus: “Mae’r ymrwymiad a welais yr wythnos hon yn fy llenwi â gobaith a hyder y gallwn, gyda’n gilydd, hybu iechyd, cadw’r byd yn ddiogel, a gofalu am bobl ddiamddiffyn.” Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd. Geiriau Allweddoll: World Health Organization, polisi, datblygu cynaliadwy

Saesneg yn unig


Mewn Ffocws Yng Nghymru

Mae’r adran hon yn amlygu enghreifftiau diweddar o weithgaredd Cymru y tu hwnt i’n ffiniau. Gallai hyn fod ar ffurf cydweithrediadau, digwyddiadau a gwaith arall yn ymwneud â gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru.

Lansio Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Lansiwyd Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Fehefin 14. Y Ganolfan Gydweithredol yw’r gyntaf yn y maes arbenigedd hwn a bydd yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth newydd am fuddsoddi mewn iechyd, lleihau anghydraddoldebau ac adeiladu cymunedau cryfach yng Nghymru, Ewrop ac yn fyd-eang. Yn nigwyddiad lansio swyddogol y Ganolfan Gydweithredol yng Nghastell Caerdydd, a agorwyd gan Gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Jan Williams a Tracey Cooper, y Prif Weithredwr, llongyfarchodd Ysgrifennydd y Cabinet y sefydliad ar gyflawniad yr oedd yn ei ystyried yn “destun balchder i Gymru.” Dywedodd: “Mae’n rhoi Cymru mewn sefyllfa gyffrous i wneud gwelliannau parhaol a pharhaus i iechyd a llesiant pobl.” Roedd Chris Brown, cynrychiolydd Sefydliad Iechyd y Byd hefyd yn bresennol yn y lansiad yng Nghaerdydd. Yn ei hanerchiad i’r mynychwyr, pwysleisiodd y bartneriaeth gref a hirsefydlog sy’n bodoli rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd, yn ogystal â’u cydweledigaethau a blaenoriaethau ar gyfer iechyd. Rhannodd Yr Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr y Ganolfan Gydweithredol newydd, drosolwg o raglen 4 blynedd y Ganolfan Gydweithredol. Bydd y rhaglen yn manteisio ar yr arbenigedd ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn annog dull gweithredu aml-sectoraidd ac amlddisgyblaethol mewn perthynas ag iechyd yn y tymor byr a’r hirdymor. Geiriau Allweddoll: WHO European Region, byd-eang / rhyngwladol,iechyd rhyngwladol


Cyhoeddi adroddiad cynnydd newydd yr IHCC (2015-2017) Mae’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) wedi cyhoeddi adroddiad newydd yn amlygu ei chyflawniadau yn cefnogi gweithredu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru. Mae Adroddiad Cynnydd diweddaraf yr IHCC yn amlinellu gwaith, cynnydd a chyflawniadau o 2015 i 2017 a wnaed gan yr IHCC a Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Cymru yn y maes hwn. Mae hefyd yn dangos sut mae’r IHCC wedi esblygu mewn perthynas â datblygiadau byd-eang,y DU, cenedlaethol a lleol. Mae rhai o’r prif gyflawniadau o’r ddwy flynedd diwethaf yn cynnwys: • Meincnodi gweithredu’r Siarter Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru,gan fesur cynnydd a nodi strategaethau llwyddiannus ar gyfer gweithredu’n ehangach • Cryfhau rôl Grŵp Gweithredu’r Siarter i arwain ar ddatblygu a lledaenu arfer gorau tra’n cyd-fynd â pholisi a deddfwriaeth genedlaethol • Datblygu a chryfhau partneriaethau gyda sefydliadau iechyd ar draws y byd, gan hwyluso cydweithredu rhyngwladol a chreu incwm ar draws y GIG Dywedodd Dr Gill Richardson, Cadeirydd Grŵp Gweithredu’r Siarter a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil Polisi a Datblygu Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Daw cymorth ar gyfer cyfranogiad iechyd byd-eang o’r lefel uchaf posibl yng Nghymru, ac mae wedi ei ardystio gan Brif Weinidog Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. “Mae’r gweithgaredd y mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn gysylltiedig ag ef yn ysbrydoli, o’r rheiny sydd yn ymweld, y rheiny sy’n cefnogi o Gymru, a’r rheiny sydd yn derbyn ymwelwyr rhyngwladol. Edrychwn ymlaen at gynnal y momentwm hwn wrth i ni gydweithio i gyflawni nodau’r Siarter yn y blynyddoedd i ddod.” Mae’r IHCC yn cefnogi agweddau Cyfrifol yn Fyd-eang o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ac yn cynorthwyo Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru i gymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu a chyfnewid rhyngwladol, gwaith partneriaeth ar y ddwy ochr ac arfer da. Amlygodd Adroddiad Cynnydd cyntaf IHCC gyflawniadau sylweddol yn ystod ei ddwy flynedd cyntaf o waith (2013-15). Esboniodd Dr Richardson: “Mae’r IHCC wedi gwneud cynnydd sylweddol yn datblygu dysgu rhyngwladol ac arfer da yng Nghymru, i gyd wedi ei gyflawni heb lawer o adnoddau. “Gan weithio mewn cydweithrediad agos â phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol, mae’r IHCC wedi canolbwyntio ei waith ar y pedwar blaenoriaeth a nodwyd gan y Siarter: cyfrifoldebau sefydliadol; gwaith partneriaeth ar y ddwy ochr; arfer da; a llywodraethu cadarn.”


Wedi ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r IHCC yn dod â holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru, Conffederasiwn y GIG a phartneriaid allweddol ynghyd yn cynnwys Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru o Blaid Affrica i ffurfio llwyfan unigryw ar gyfer rhannu gwybodaeth, cyfnewid gwybodaeth, cydweithredu a rhwydweithio. Mae’r cyfrifoldebau a roddir ar Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn unol â Nod Cyfrifoldeb Byd-eang Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn dwyn gwaith yr IHCC ymlaen. Aeth Dr Richardson ymlaen: “Wrth i weithredu’r Siarter fynd yn ei flaen, bydd yn hanfodol i’r IHCC a’n partneriaid cydweithredol gynnal momentwm i gyflawni nodau’r Siarter. “Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, bydd yr IHCC yn cydgrynhoi ei gyflawniadau yn gweithredu’r Siarter. Byddwn hefyd yn chwilio ac yn creu cyfleoedd newydd i gynyddu amlygrwydd a dylanwad Cymru o fewn a thu hwnt i’n ffiniau, yn cynnwys cysylltu â GIG yr Alban yn ymwneud â’i hagenda Dinasyddiaeth Fyd-eang gyffrous“, dywedodd. Mae’r IHCC, a sefydlwyd yn 2013, wedi datblygu rhwydwaith cenedlaethol cryf o randdeiliaid, wedi meithrin cysylltiadau â phartneriaid a rhwydweithiau rhyngwladol, ac mae’n ysgogi gwelliannau i iechyd yng Nghymru a thramor. Yng Nghymru, addawodd Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i weithredu’r Siarter Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yn 2014. Mae Grŵp Gweithredu’r Siarter yn goruchwylio cynnydd ac yn cynnwys cynrychiolwyr o bob corff. Mae hyn yn sicrhau arweinyddiaeth gref a chydweithredu trwy gyfnewid gwybodaeth a phrofiad, datblygiad cynnyrch ar y cyd a datblygu a chryfhau partneriaethau iechyd a chyfnewidfeydd dysgu rhyngwladol. I ddarllen neu lawrlwytho adroddiad cynnydd yr IHCC 2015-2017

Geiriau Allweddoll: siarter yr IHCC, byd-eang / rhyngwladol, gweithwyr iechyd proffesiynol, gwasanaethau iechyd, iechyd rhyngwladol, datblygu cynaliadwy , DU,Cymru, WFGA


Rhwydwaith Rhanbarthau er Iechyd Cynhaliwyd 24ain cyfarfod blynyddol y Rhwydwaith Rhanbarthau er Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd yn Gothenburg, Sweden ar Fehefin 11-12. Thema’r cyfarfod oedd gweithrediad y nodau datblygu cynaliadwy erbyn 2030 ar lefel is-genedlaethol. Mae’r cyfarfod yn darparu llwyfan i holl aelodau’r rhanbarthau i rannu syniadau a phrofiadau. Cynhaliwyd sesiynau ar bynciau penodol, er enghraifft yr amgylchedd ac iechyd, iechyd menywod a dynion, a diplomyddiaeth iechyd. Cyflwynodd Dr Mariana Dyakova (Arweinydd Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru) y Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd newydd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant mewn sesiwn yn dwyn y teitl ‘Buddsoddi mewn Iechyd – Ysgogi Ffyniant i bawb.’ Roedd yn canolbwyntio ar sut y bydd Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn cefnogi rhanbarthau ac aelod wladwriaethau i ysgogi a phrif ffrydio’r buddsoddi ar sail tystiolaeth i iechyd a llesiant, cryfhau’r buddsoddiad mewn iechyd a thegwch drwy iechyd ym mhob polisi a rhannu tystiolaeth a gwybodaeth yn effeithlon. Cadeiriodd Yr Athro Mark Bellis (Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant) sesiwn ar leihau methiannau mewn ysgolion Geiriau Allweddoll: datblygu cynaliadwy , tystiolaeth, cynllun arfer


Cynhadledd Mudwyr, Ethnigrwydd, Iechyd a Hil 2018 Canolbwyntiodd y Gynhadledd Mudwyr, Ethnigrwydd, Iechyd a Hil gyntaf ar wella ymchwil, iechyd y boblogaeth a gofal iechyd i fudwyr a phoblogaethau y gwahaniaethir yn eu herbyn, gan ddod a 70 o randdeiliaid o amrywiol sectorau ar draws y byd at ei gilydd i rannu a throsglwyddo dysg. Roedd y gynhadledd yn gyfle i arddangos ymrwymiad Iechyd Cyhoeddus Cymru i agenda’r ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Cyflwynodd Anna Stielke (Swyddog Cynorthwyo’r Rhaglen, Adran Iechyd Rhyngwladol) waith ar brofiadau poblogaethau ceiswyr lloches a ffoaduriaid o’r gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Ffurfiodd hyn ran o astudiaeth ymchwil ehangach, a arweinir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe, i bennu sut mae profiadau’r oedolion sy’n geiswyr lloches a ffoaduriaid o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y gynhadledd MERH. Geiriau Allweddoll: iechyd rhyngwladol

fudol,

anghydraddoldebau

iechyd,datblygu

cynaliadwy,


Cyfleoedd Am wybodaeth gyffredinol ar gyllid Ewropeaidd, darllenwch Gatalog Cyllid Ewropeaidd IHCC Rhan 1 ar Horizon 2020 a’r Drydedd Raglen Iechyd, a Rhan 2 ar Gyllid Rhanbarthol.

Cyllid Cynllun Grant Cymru o blaid Affrica gan Lywodraeth Cymru Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Geiriau Allweddoll: cyllid, datblygu cynaliadwy,cymunedau

iechyd

rhyngwladol,

prosiect,

Deadline: 29 June 2018 I gale rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Cyflwyniad Haniaethol Yr alwad am bapurau ar glefydau anhrosglwyddadwy Sefydliad Iechyd y Byd – e-fwletin Geiriau Allweddoll: ymchwil,tystiolaeth, iechyd byd-eang, polisi Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: 15 Gorffennaf 2018 I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sefydliad Iechyd y Byd.


Hyfforddiant Cwrs Datblygu Rhyngwladol Bond Geiriau Allweddoll: hyfforddiant, datblygu cynaliadwy, iechyd rhyngwladol Dyddiadau: 9 – 10 Gorffennaf 2018 a’r 15 - 16 Ionawr 2019 I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Bond. Paratoi cynigion Bond Geiriau Allweddoll: hyfforddiant a sgiliau , cyllid, datblygiad rhyngwladol Dyddiadau: 13 – 14 Tachwedd 2018 Ewch i wefan Bond i gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gofrestru.


Cysylltu â Ni E-bost Iechyd.rhyngwladol@wales.nhs.uk Ffôn 02920 104 459 Swydd Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd c/o Iechyd Choeddus Cymru Chwarter Cyfalaf, Rhif 2 Stryd Tyndall Caerdydd CF10 4BZ Gwefan ihcc.publichealthnetwork.cymru/cy/ Twitter @IHCCWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.