Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau - Hydref 2018

Page 1

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Hydref 2018

Lwcsembwrg: Cynhadledd Gweithredu ar y Cyd ar Anghydraddoldebau Mwy ar Dudalen 4


Croeso

Croeso i rifyn mis Hydref o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC. Bydd rhifyn y mis hwn yn darparu gwybodaeth am Lwcsembwrg: Cynhadledd Gweithredu ar y Cyd ar Anghydraddoldebau a gweithgaredd yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, yn ogystal â chyfleoedd. Dilynwch yr IHCC ar Twitter am ddiweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar wefan IHCC.

Cynnws Mewn Ffocws - Y Tu Hwnt i Gymru

4

Mewn Ffocws - Yng Nghymru

7

Cyfleoedd 9


Mae gan yr IHCC Wefan Newydd!

Mae ein e-fwletin yn gwneud lle ar gyfer yr adnodd newydd hwn, y lle gorau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ystod o destunau yn ymwneud â gwaith yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, fel:

Newyddion

Cyllid

Adnoddau

Digwyddiadau

Gweithio’n Rhyngwladol Os hoffech ganfod mwy am sefydliadau Cymru, y DU, Ewropeaidd neu ryngwladol sy’n gysylltiedig â gwaith rhyngwladol neu’n ei gynorthwyo, ewch i’r adran.

A hoffech chi hyrwyddo eich gwaith rhyngwladol? Ewch i Cymerwch Ran i ganfod mwy ynghylch sut i gyflwyno prosiect, digwyddiad neu eitem newyddion ar wefan IHCC.

Darllenwch ymlaen i ganfod beth sydd ‘Dan Sylw yng Nghymru a Thu Hwnt’


Mewn Ffocws Y Tu Hwnt i Gymru

Lwcsembwrg: Cynhadledd Gweithredu ar y Cyd ar Anghydraddoldebau Ar 21-22 Mehefin, lansiodd Comisiynydd Iechyd a Diogelwch Bwyd Ewrop, Vytenis Andriukaitis, gyfarfod cyntaf Gweithredu ar y Cyd ar Anghydraddoldebau Iechyd ‘’Tegwch Iechyd yn Ewrop’’ yn Lwcsembwrg. Siaradodd y Comisiynydd i rychwant eang ac uchelgeisiol y Gweithredu ar y Cyd hwn, gan ddisgrifio’r Gweithredu ar y Cyd fel fforwm allweddol i hybu mwy o degwch mewn canlyniadau iechyd a lleihau gwahaniaethau rhwng gwledydd a chyfranogiad pob Aelod-wladwriaeth bron. Gyda’i ffocws ar benderfynyddion economaidd-gymdeithasol iechyd ac anghydraddoldebau iechyd yn ymwneud â ffordd o fyw, yn cynnwys ffocws penodol ar fudwyr a grwpiau agored i niwed, mae gan y Gweithredu ar y Cyd 4 amcan penodol: • Cyfrannu at gynllunio a datblygu polisïau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar lefel Ewropeaidd, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. • Rhoi camau ar waith sy’n rhoi’r cyfle gorau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd mewn Aelod-wladwriaethau sy’n cymryd rhan. • Cryfhau ymagwedd gydweithredu yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a hwyluso cyfnewid a dysgu ymysg Aelod-wladwriaethau. • Hwyluso trosglwyddo arferion da. Mynychodd Dr Gill Richardson a Cathy Weatherup gyfarfod JAHEE fel cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Cymru wedi ymrwymo i gymryd rhan yn Rhaglen Gweithredu ar y Cyd ar Degwch Iechyd Ewrop (JAHEE) mewn cyfarfod yn Lwcsembwrg.


Mae JAHEE, rhaglen 3 blynedd gyda chyllideb o €3.125 miliwn, wedi ei chydlynu gan yr Instituto Superiore di Sanità yn Rhufain (yr Eidal), yn gyfle i wledydd sy’n cymryd rhan fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a phenderfynyddion cymdeithasol sylfaenol iechyd ar draws Ewrop ar y cyd. Mynychwyd yr achlysur lansio gan 49 o arbenigwyr iechyd y cyhoedd o 25 o wledydd yr UE (Undeb Ewropeaidd) ynghyd ag arbenigwyr oedd wedi cael gwahoddiad o Norwy, Serbia a Bosnia Herzegovina. Amcan sylfaenol y prosiect yw gwella iechyd a lles dinasyddion Ewropeaidd a chael mwy o degwch mewn canlyniadau iechyd ar draws yr holl wledydd a grwpiau ar draws cymdeithas trwy archwilio penderfynyddion economaidd-gymdeithasol iechyd ac anghydraddoldebau iechyd sy’n ymwneud â ffordd o fyw. Bydd y prosiect hefyd yn canolbwyntio ei ymdrechion ar fudwyr gan fod iechyd gwael a diffyg mynediad i wasanaethau iechyd yn aml yn rhwystr i fwy o integreiddio. Cynrychiolwyd Cymru, yr unig wlad yn y DU (y Deyrnas Unedig) i gymryd rhan, gan dîm ar y cyd o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef Cathy Weatherup a Gill Richardson o’r Is-adran Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol a Rhodri Wyn Jones o Lywodraeth Cymru. Fel gynrychiolwyr y DU, bydd y tîm yn lledaenu unrhyw negeseuon a chynnyrch o’r Gweithredu ar y Cyd i wledydd eraill y DU gan ddefnyddio rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli. Bydd y cydweithwyr yn cefnogi’r rhaglen gyffredinol a’r asesiadau gwlad, a bydd Gill yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Ewrop, o dan arweiniad Norwy, i archwilio ffyrdd o leihau anghydraddoldebau yn iechyd mudwyr rhyngwladol. Yn y cyfamser, bydd Cathy’n gweithio gyda grŵp, o dan arweiniad cydweithwyr o’r Ffindir, i ganolbwyntio ar lywodraethu a systemau’n ymwneud â pholisi iechyd er mwyn sicrhau bod iechyd a thegwch yn cael eu hystyried ym mhob polisi ar draws lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol ac Ewropeaidd. Mae Cymru’n arwain y ffordd yn y maes hwn trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, disgwylir y byddwn yn llunio ac yn dylanwadu ar waith sy’n dod i’r amlwg gan ddefnyddio ein profiad presennol fel canllaw. Mae’r Gweithredu ar y Cyd yn cysylltu â gwaith Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Ewrop sydd yn monitro ac yn olrhain anghydraddoldebau iechyd ar draws y rhanbarth. Bydd y Gweithredu’n defnyddio amrywiaeth o ffynonellau data i nodi a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar draws Ewrop yn cynnwys Adroddiad Iechyd Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a gyhoeddwyd ar 12 Medi 2018. Mae mwy o wybodaeth am y Gweithredu ar y Cyd newydd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn Ewrop ar gael trwy wefan y Comisiwn Ewropeaidd. Keywords: WHO European Region, Anghydraddoldebau Iechyd, Polisi, Fudol


Cynhadledd Flynyddol THET 2018 Dau ddiwrnod, 360 o gynadleddwyr a 89 o siaradwyr yn trafod heriau iechyd byd-eang, a’r ffyrdd arloesol ac ysbrydoledig y mae partneriaethau iechyd yn gweithio i fynd i’r afael â’r rhain.Daeth digwyddiad partneriaeth iechyd mwyaf y Deyrnas Unedig (DU) â gweinidogion, ymarferwyr blaenllaw ac arbenigwyr ar draws y byd ynghyd. Roedd y siaradwyr amlwg yn cynnwys Prif Swyddog Meddygol yr Alban, Dr Catherine Calderwood.Cyfarwyddwr y Sefydliad Arloesedd Iechyd Byd-eang yng Ngholeg Imperial, yr Athro yr Arglwydd Darzi, a neges fideo o Gyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus.

Roedd arfer gorau, arloesedd a moeseg gwirfoddoli o dan sylw, wrth i Brosiect Partneriaethau’r Gymanwlad ar gyfer Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd gael ei gyhoeddi, ymrwymiad gan lywodraeth y DU fel rhan o waith ehangach Cronfa Fleming.

Roedd lansio Pecyn Cymorth Myfyrwyr mewn Partneriaethau Iechyd yn uchafbwynt gwych arall. (Saesneg Yn Unig)


Canolbwyntiodd y panel ‘Sut mae cenhedloedd y DU yn cefnogi partneriaethau iechyd?’ ar ymagweddau gwahanol Cymru, Lloegr a’r Alban tuag at alluogi staff y GIG i ymgysylltu mewn gweithgaredd iechyd byd-eang, yn cynnwys partneriaethau iechyd.

Cyfoethogodd Gweriniaeth Iwerddon y drafodaeth hefyd. Amlygodd Dr Mariana Dyakova, Arweinydd Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, y cyd-destun deddfwriaethol, strategol a pholisi arloesol sydd yn galluogi yng Nghymru. Pwysleisiodd rôl allweddol y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) yn cefnogi gwaith iechyd byd-eang ar draws y GIG yng Nghymru a’i hymrwymiad unigryw i’r Siarter Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol. Daethpwyd â’r Gynhadledd i ben gan yr Athro Syr Eldryd Parry, sylfaenydd THET a’r Arglwydd Nigel Crisp, Cyd-gadeirydd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar gyfer Iechyd Byd-eang, yn trafod y rhwystrau a’r datblygiadau sylweddol y maent wedi eu profi tra’n gweithio i greu gwasanaethau iechyd teg ar draws y byd.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan THET. Keywords: Polisi, Byd-Eang, Iechyd Byd-Eang, Byd-Eang / Rhyngwladol


Mewn Ffocws Yng Nghymru

Mae’r adran hon yn amlygu enghreifftiau diweddar o weithgaredd Cymru y tu hwnt i’n ffiniau. Gallai hyn fod ar ffurf cydweithrediadau, digwyddiadau a gwaith arall yn ymwneud â gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru.

Iechyd Cyhoeddus Cymru’n lansio HYB Brexit Mae Tîm Polisi Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio adnodd Hyb Iechyd Brexit fel canllaw i drafodaethau ac ystyriaethau presennol goblygiadau polisi posibl gadael yr UE (Undeb Ewropeaidd). Yn dilyn y refferendwm ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd ym Mehefin 2016, mae’r Tîm Polisi wedi cynnal ‘rhestr ddarllen’ wythnosol o ganllawiau ac adroddiadau Seneddol yn gysylltiedig â Brexit, iechyd a phenderfynyddion ehangach iechyd. Yn cynnwys dros 1000 o bwyntiau cyfeirio ac yn cynyddu’n wythnosol, mae’r Tîm Polisi wedi datblygu tudalennau gwe thematig i hysbysu gweithwyr iechyd y cyhoedd proffesiynol am faterion allweddol yn gysylltiedig ag iechyd y boblogaeth a pherthynas y DU gydag Ewrop, a’r byd yn y dyfodol. Mae’r tudalennau dwyieithog yn cynnwys ystod o destunau yn cynnwys gwasanaethau gofal iechyd, ymchwil, yr amgylchedd, cymunedau, amaethyddiaeth a thrafnidiaeth. Gan roi sylwadau ar y tudalennau gwe, dywedodd Dr. Sumina Azam, Ymgynghorydd Is-adran Bolisi, Iechyd y Cyhoedd: “Er bod trafodaethau Brexit yn dal ar y gweill, mae goblygiadau posibl y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn sylweddol, yn arbennig wrth edrych arnynt trwy lens penderfynyddion ehangach. Trwy ddatblygu Hyb Iechyd Brexit, ein gobaith yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i weithwyr proffesiynol am y dystiolaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr effeithiau posibl hyn ar eu meysydd ymarfer.” Mae Rhestr Ddarllen Brexit Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cael ei rhannu’n wythnosol gyda chydweithwyr yn y sefydliad, a hefyd ymysg gweithwyr proffesiynol yn y DU ac Iwerddon trwy Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus y DU. Cynhelir Hyb Iechyd Brexit ar wefan Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, rhwydwaith gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar faterion iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Keywords: Polisi, Gweithwyr Iechyd Proffesiynol



Cyfleoedd Am wybodaeth gyffredinol ar gyllid Ewropeaidd, darllenwch Gatalog Cyllid Ewropeaidd IHCC Rhan 1 ar Horizon 2020 a’r Drydedd Raglen Iechyd, a Rhan 2 ar Gyllid Rhanbarthol.

Cyllid Grant brechlynnau ar gyfer clefydau dolur rhydd neu heintiau’r llwybr Partneriaeth Treialon Clinigol Gwledydd Ewropeaidd a Datblygol (EDCTP) Keywords: Cyllid, Imiwneiddio Dyddiad cau: 30 Hydref 2018 Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan EDCTP. Rhaglen Cymorth Uniongyrchol Cymorth Awstralia - Sri Lanka a’r Maldives 2018 Uchel Gomisiwn Awstralia, Gweriniaeth Ddemocrataidd Sosialaidd Sri Lanka Keywords: Cyllid, Cymunedau Deadline: 31 Hydref 2018 Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Uwch Gomisiwn Awstralia.


Cronfa Cydrywedd Llysgenhadaeth Iwerddon, Sefydliad Ford a Sefydliad RAITH Keywords: Rhyw, Cyllid Dyddiad cau: 26 Hydref 2018 Ewch i wefan Sefydliad Hilanganisa ar gyfer Datblygiad yn Affrica Ddeheuol am fwy o wybodaeth.

Hyfforddiant Economeg Iechyd ar gyfer Ymarfer ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Cwrs deuddydd yn Lleoliad: Prifysgol Bangor, Cymru Dyddiad: 8–10 Ebrill 2019 Keywords: Iechyd Cyhoeddus, Datblygiad Proffesiynol Am fwy o wybodaeth a gwybodaeth ynghylch cofrestru, ewch i wefan Prifysgol Bangor.


Cysylltu â Ni E-bost Iechyd.rhyngwladol@wales.nhs.uk Ffôn 02920 104 459 Swydd Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd c/o Iechyd Choeddus Cymru Chwarter Cyfalaf, Rhif 2 Stryd Tyndall Caerdydd CF10 4BZ Gwefan www.internationalhealth.nhs.uk Twitter @IHCCWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.