Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I'w Ffiniau

Page 1

Iechyd Yng Nghymru A Thu Hwnt I’w Ffiniau Hydref 2017

Pwyllgor Rhanbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd Mwy ar dudalen 4


Croeso Croeso i rifyn mis Hydref o e-fwletin Ewropeaidd a rhyngwladol IHCC. Bydd rhifyn y mis hwn yn darparu gwybodaeth am Pwyllgor Rhanbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd a gweithgaredd yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, yn ogystal â chyfleoedd. Dilynwch yr IHCC ar Twitter am ddiweddariadau rheolaidd #IHCCWales ac ar werfan IHCC.

Cynnws Mewn Ffocws - Y Tu Hwnt i Gymru

4

Mewn Ffocws - Yng Nghymru 9 Cyfleoedd 12


Mae gan yr IHCC Wefan Newydd!

Mae ein e-fwletin yn gwneud lle ar gyfer yr adnodd newydd hwn, y lle gorau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ystod o destunau yn ymwneud â gwaith yng Nghymru a thu hwnt i’w ffiniau, fel:

Newyddion

Cyllid

Adnoddau

Digwyddiadau

Gweithio’n Rhyngwladol Os hoffech ganfod mwy am sefydliadau Cymru, y DU, Ewropeaidd neu ryngwladol sy’n gysylltiedig â gwaith rhyngwladol neu’n ei gynorthwyo, ewch i’r adran.

A hoffech chi hyrwyddo eich gwaith rhyngwladol? Ewch i Cymerwch Ran i ganfod mwy ynghylch sut i gyflwyno prosiect, digwyddiad neu eitem newyddion ar wefan IHCC.

Darllenwch ymlaen i ganfod beth sydd ‘Dan Sylw yng Nghymru a Thu Hwnt’


Mewn Ffocws Y Tu Hwnt i Gymru

Pwyllgor Rhanbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd Cafodd sesiwn flynyddol rhif 67 o Bwyllgor Rhanbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ei chynnal yn Budapest, Hwngari rhwng 11 a 14 Medi 2017. Roedd cynrychiolwyr o 53 o Aelod-wladwriaethau Rhanbarthol Ewropeaidd y WHO, gan gynnwys gweinidogion iechyd, swyddogion llywodraeth a sefydliad anllywodraethol, yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Rhanbarthol eleni. Y Pwyllgor hwn yw corff y WHO sy’n gwneud penderfyniadau yn Rhanbarth Ewrop. Roedd y pynciau a drafodwyd yn ystod sesiwn 67 yn canolbwyntio ar: • Datblygu cynaliadwy ym maes iechyd y cyhoedd yn yr 21ain ganrif • Gweithredu’r Nodau Datblygu Cynaliadwy a fframwaith polisi Iechyd 2020 • Gwella amgylchedd ac iechyd yng nghyd-destun Iechyd 2020 ac Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy. Trafododd y Pwyllgor y chweched Gynhadledd Weinidogol ar yr Amgylchedd ac Iechyd hefyd ar 13-15 Mehefin 2017, gan ganolbwyntio ar lunio camau cyffredin yn y dyfodol i leihau baich afiechydon a gaiff eu hachosi gan ffactorau amgylcheddol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol; gweithio tuag at weithlu iechyd cynaliadwy yn Rhanbarth Ewropeaidd y WHO drwy fframwaith ar gyfer gweithredu; cryfhau cydweithredu rhwng Aelod-wlad wriaethau ar wella mynediad i feddyginiaethau yn Rhanbarth


Ewropeaidd WHO, ac adeiladu partneriaethau rhanbarthol ar gyfer iechyd. Yn ei araith i’r cynadleddwyr, pwysleisiodd Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus, Cyfarwyddwr Cyffredinol WHO, yr angen am drawsnewidiad o fewn WHO er mwyn ei alluogi i wynebu heriau byd-eang iechyd y cyhoedd yn well yn y dyfodol. O ran y blaenoriaethau brys sydd angen eu targedu, dywedodd Dr Ghebreyesus mai cryfhau dulliau cyfathrebu WHO i ennill cefnogaeth wleidyddol i’n hagenda iechyd byd-eang oedd un fenter a oedd wedi cael ei blaenoriaethu ers ei benodi eleni.

WHO ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llunio adroddiad ar y cyd Defnyddiodd Rhwydwaith Tystiolaeth Iechyd WHO a’r Swyddfa Ewropeaidd dros Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygu y cyfle hwn hefyd i gyflwyno eu hadroddiad ar y cyd ‘Invetment for health and wellbeing’. Cafodd yr adroddiad ei lunio mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’i gyflwyno i Bwyllgor Rhif 67 ac Aelod-wladwriaethau’r WHO mewn sesiwn ‘Strategaethau ac enghreifftiau ymarferol o Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Lles’. Gan ddefnyddio ymagwedd elw cymdeithasol ar fuddsoddiad (SROI), mae’r dystiolaeth a gasglwyd wedi arwain at dri chanfyddiad allweddol:


• Nad yw ‘busnes fel arfer’ yn gynaliadwy • Mae buddsoddi mewn polisïau iechyd y cyhoedd yn rhoi atebion effeithiol, effeithlon, cynhwysol ac arloesol ac yn ysgogi cynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol • Mae buddsoddi ar gyfer iechyd a llesiant yn ysgogwr ac yn galluogi datblygu cynaliadwy ac i’r gwrthwyneb. Mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) i lywio Map ffordd 4 er mwyn gweithredu Agenda 2030 y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy,5 ac mae’n datblygu strategaeth iechyd a fframwaith polisi Ewropeaidd WHO, Iechyd 2020 6 - Saesneg Yn Unig.


Dywedodd Dr Dyakova, Ymgynghorydd Meddygol ym maes Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Roedd Pwyllgor Rhanbarthol 67 y WHO ar gyfer Ewrop yn gyfle ardderchog i rannu’r gwaith a wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda Swyddfa Ewropeaidd WHO i ddangos y llwybrau tuag at gyflawni amcanion datblygu cynaliadwy drwy fuddsoddi ar sail tystiolaeth ar gyfer iechyd a llest, gan sicrhau iechyd o’r safon uchaf posibl i bawb o bob oed.”

I gael mwy o wybodaeth am sesiwn 67 blynyddol Pwyllgor Rhanbarthol y WHO ar gyfer Ewrop, ewch i werfan WHO EURO. I ddarllen anerchiad llawn Dr Ghebreyesus, ewch i Gellir gweld yr adroddiad llawn, y ategol ar SROI ar werfan WHO

daflen EURO

werfan WHO EURO.

gysylltiedig a’r papur trwy’r dolenni isod:

Investment for health and well-being evidence synthesis report Investment for health and well-being highlights leaflet Social Return on Investment: Accounting for value in the context of implementing Health 2020 and the 2030 Agenda for Sustainable Development Am ragor o wybodaeth ewch i werfan World Health Organization’s Health Evidence Network (WHO HEN) website a werfan European Office for Investment for Health and Development. Geiriau Allweddoll : datblygu cynaliadwy, byd-eang / rhyngwladol, polisi, WHO EURO

Asesu’r Effaith ar Iechyd Mae gan Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) gylch gwaith ar gyfer Cymru gyfan ac mae’n rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r Uned yn darparu cyngor, annibynnol drwy ddarparu cyflwyniadau cyrsiau hyfforddi, mentora uniongyrchol chefnogi ar gyfer Asesiadau Effaith ar Iechyd darparu cymorth a chyngor hefyd i adeiladu

arweiniad a chymorth i godi ymwybyddiaeth, a gwasanaeth hwyluso a sy’n parhau. Mae’r Uned yn capasiti o fewn sefydliadau.


Ym mis Gorffennaf eleni, cyhoeddodd yr Uned ei Fframwaith Adolygu Sicrwydd Ansawdd ar gyfer Asesu’r Effaith ar Iechyd. Y nod yw: • Darparu fframwaith cyffredin a dealltwriaeth o beth yw Asesiad o ansawdd uchel • Codi safon Asesiadau yng Nghymru • Sicrhau bod tystiolaeth a ddefnyddir i lywio penderfyniadau sy’n effeithio ar iechyd a lles yn gadarn ac yn gynhwysol • Cynorthwyo comisiynwyr, ymarferwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ffurfio barn ar unrhyw Asesiad a’i gynnyrch Fframwaith Adolygu Sicrwydd Ansawdd yr Uned yw’r offeryn arfarnu eang cyntaf ar gyfer Asesiadau yn fyd-eang a rhagwelir y bydd yn gwneud cyfraniad mawr at arferion Asesiadau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol drwy sicrhau bod Asesiadau o ansawdd uchel yn cael eu cynnal yng Nghymru, sy’n cynnwys ystyried anghydraddoldeb a ffactorau ehangach sy’n dylanwadu ar iechyd a lles. I gael rhagor o wybodaeth am Asesiadau, mae’r cylchgrawn Journal on Global Health Promotion wedi cynhyrchu argraffiad arbennig sy’n cynnwys pynciau fel Asesu’r Effaith ar Iechyd ym maes polisi, hybu iechyd, addysg a dysgu. I gael gwybod mwy am yr Uned a’r Fframwaith, ewch i werfan WHIASU.I weld erthyglau ar Asesu’r Effaith ar Iechyd, ewch i werfan Journal on Global Health Promotion. Geiriau Allweddoll: asesu’r effaith ar iechyd, cynllun arfer, lles


Mewn Ffocws Yng Nghymru

Mae’r adran hon yn amlygu enghreifftiau diweddar o weithgaredd Cymru y tu hwnt i’n ffiniau. Gallai hyn fod ar ffurf cydweithrediadau, digwyddiadau a gwaith arall yn ymwneud â gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru.

Cyhoeddi adroddiad newydd ar hyfforddiant Dinasyddiaeth Fyd-eang i Weithwyr Iechyd Proffesiynol yng Nghymru Y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) ynghyd â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cyhoeddi ei hadroddiad gwerthuso ar beilot o’r rhaglen hyfforddi Dinasyddiaeth Fyd-eang ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru. Mae’r hyfforddiant yn rhan o ymrwymiad GIG Cymru i hybu iechyd byd-eang drwy’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 - darn unigryw o ddeddfwriaeth Gymreig sy’n ymgorffori Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Crynhodd yr IHCC ganfyddiad staff GIG Cymru o Ddinasyddiaeth Fyd-eang mewn adroddiad cwmpasu a gyhoeddwyd yn 2015. Nododd yr adroddiad hwn ddiddordeb amlwg ymhlith staff mewn hyfforddiant ar Ddinasyddiaeth Fyd-eang. Yn dilyn y gwaith cwmpasu hwn, gweithiodd yr IHCC ar y cyd â WCIA i ddatblygu a threialu dau gwrs hyfforddi ar Ddinasyddiaeth Fyd-eang i weithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru. Cyflwynwyd y cyrsiau mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf fel rhan o’u gwaith ymgysylltu rhyngwladol wrth weithredu’r Siarter a’u cydnabyddiaeth o ymgysylltiad rhyngwladol fel Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). I weld yr Adroddiad Cwmpasu a’r Adroddiad Gwerthuso Hyfforddiant,dilynwch y dolenni isod (Saesneg Yn Unig): NHS Wales Staff Perception of Global Citizenship: Scoping Report Global Citizenship for Welsh Health Professionals: Training Evaluation Report Keywords: datblygiad rhyngwladol, datblygiad proffesiynol, dinasyddiaeth fyd-eang

byd-eang

/

rhyngwladol,


Llwyddiant Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda Chymrodoriaeth Cafodd Claire Beynon, Cofrestrydd Arbenigol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd ar secondiad ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru, gymrodoriaeth teithio Cymdeithas Ffisigwyr Cymunedol Prydain gan y Gyfadran Iechyd Cyhoeddus. Mae gan Claire ddiddordeb arbennig mewn lleihau gordewdra ymysg plant yng Nghymru a theithiodd i Japan i ddeall pam mae lefelau gordewdra ymysg plant yn is yn Japan nag yng Nghymru. Manteisiodd Claire ar y cyfle hwn i gyflwyno ei gwaith o ym maes iechyd cyhoeddus a dysgu mwy am ddiwylliant Japan. Pan ddychwelodd i Gymru, dywedodd Claire: “Mae’r profiadau newydd a’r diwylliant y dysgais amdano ar y addysgiadol hon yn fy ngwneud yn fwy penderfynol nag erioed o fynd i’r afael â gordewdra ymysg plant yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y gwaith o ddrafftio strategaeth gordewdra i Gymru fel rhan o fy lleoliad gyda Llywodraeth Cymru a byddaf yn rhannu fy mhrofiadau gyda chofrestrwyr a chydweithwyr eraill ar bob cyfle posibl.” I ddarllen am brofiadau Claire yn ystod ei chyfnod yn Japan, ewch i’r blog FPH Better Health for All. Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, gordewdra, datblygiad plant


Gwasanaeth Ambiwlans Beic Modur yn Uganda Mae staff Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) wedi bod yn gweithio yn Mbale, Uganda gydag elusen PONT ers 2008, lle maent wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid lleol ac wedi llwyddo i sefydlu gwasanaeth ambiwlans beic modur a gaiff ei gefnogi gan gludwelyau beics a chludwelyau achub ar y mynydd. Fel rhan o’i ymrwymiad parhaus i’r prosiect, llofnododd WAST Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ddiweddar gyda phartneriaid prosiect i alluogi staff cymwys i gael absenoldeb o’r gwaith ar gyfer cyfnod astudio er mwyn teithio i Uganda i weithio ar y prosiect.

Mae’r staff sy’n dychwelyd o Uganda yn dweud iddynt elwa llawer o gymryd rhan yn y prosiect. Ymysg y sgiliau allweddol y cawsant gyfle i’w meithrin yn ystod eu hamser yn Mbale, maent yn cyfeirio at: meithrin sgiliau hyfforddi a threfnu a dysgu i addasu eu sgiliau meddygol i’w galluogi i fod yn fwy effeithiol mewn gwlad sy’n datblygu. Maent hefyd yn cyfeirio at effeith gadarnhaol eu sgiliau newydd ar eu swyddi o fewn WAST ar ôl dychwelyd i’r gwaith. Ewch i werfan WAST a werfan PONT i gael rhagor o wybodaeth. Geiriau Allweddoll: WHO african region

byd-eang

/

rhyngwladol,

datblygiad

proffesiynol,


Cyfleoedd For general information on European funding, read the IHCC European Funding Catalogue Part 1 on Horizon 2020 and the Third Health Programme, and Part 2 or visit the IHCC Website for more information on funding opportunities.

Cyllid Amplify: Cronfa Agored Her Cydweithio Adran y Deyrnas Unedig ar gyfer Datblygu Rhyngwaldol (DFID) Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, datblygiad rhyngwladol, tlodi, anghydraddoldebau iechyd, addysg, newid hinsawdd, menywod Dyddiad cau: yn dibynnu ar bob her Cewch wybod mwy ar werfan DFID.

Iechyd Cyhoeddus Byd-eang: Gwobrau Partneriaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a Chyngor Ymchwil Meddygol (MRC) Geiriau Allweddoll: byd-eang / rhyngwladol, ymchwil, datblygu cynaliadwy, DU Dyddiad cau: 26 Hydref 2017 Cewch wybod mwy ar werfan MRC.

Grantiau’r Sefydliad Cadwraeth, Bwyd ac Iechyd Y sefydliad Cadwraeth, Bwyd ac Iechyd Geiriau Allweddoll: cynhyrchu bwyd, byd-eang / rhyngwladol, ymchwil

datblygiad proffesiynol,

yr amgylchedd,

Dyddiad cau: 1 Ionawr 2018 ar gyfer rownd 1; 1 Gorffennaf 2018 ar gyfer rownd 2 Mae rhagor o wybodaeth ar werfan Conversations, Food and Health Foundation.


Cynadleddau a Digwyddiadau i Ddod Hyfforddiant Codi Arian gan Sefydliadau: Paratoi’r Cynigion Gorau BOND Geiriau Allweddoll: datblygiad proffesiynol, cyllid Llundain, 16 – 17 Hydref 2017 Ewch i werfan BOND i gael rhagor o wybodaeth.

Galw am Gynigion ar Mentrau Cydweithredu Rhyngwladol Undeb Ewropeaidd Interreg Gogledd-Orllewin Ewrop Geiriau Allweddoll: yr amgylchedd, datblygu cynaliadwy, ymchwil, tystiolaeth Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 16 Hydref – 17 Tachwedd Cewch wybod mwy ar werfan Interreg North-West Europe.

Rhaglen Gyfnewid Profiad Hyfforddi ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Sefydliad Ysbyty a Gofal Iechyd Ewropeaidd (HOPE) Geiriau Allweddoll: datblygiad proffesiynol, gweithwyr iechyd proffesiynol, gwasanaethau iechyd Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 31 Hydref 2017 Ewch i werfan NHS European Office i gael rhagor o wybodaeth.


Galw am Gyfraniadau Pumed Symposiwm Byd-eang ar Ymchwil Systemau Iechyd Health Systems Global Geiriau Allweddoll: ymchwil, polisi, byd-eang / rhyngwladol, datblygu cynaliadwy, anghydraddoldebau iechyd Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5 Mawrth 2018 I gael rhagor o wybodaeth, ewch i werfan Global Symposium on the Health Systems Research.


Cysylltu â Ni E-bost Iechyd.rhyngwladol@wales.nhs.uk Ffôn 02920 104 459 Swydd Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd c/o Iechyd Choeddus Cymru Chwarter Cyfalaf, Rhif 2 Stryd Tyndall Caerdydd CF10 4BZ Gwefan www.internationalhealth.nhs.uk _

Twitter @IHCCWales


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.